Hynafiaethau Edeyrnion/Thomas Jones, Corwen
Gwedd
← Thomas Jones, Cyllidydd | Hynafiaethau Edeyrnion gan Hugh Williams (Hywel Cernyw) |
Edward Jones 2il → |
III. Thomas Jones, Corwen, bardd, llenor, a phregethwr da, yn blodeuo o 1800 hyd 1830. Ceir amryw ddarnau o'i waith yn y cyhoeddiadau perthynol i'r cyfnod uchod. Gwelir cywydd o'i eiddo, a chryn ragoriaeth yn perthyn iddo, yn y Gwyliedydd am 1826, ar y testun "Erthyliad cais y Pabyddion."