Neidio i'r cynnwys

Hynafiaethau Nant Nantlle/Hanes Presennol Pen. 1

Oddi ar Wicidestun
Cofiannau Pen. 3 Hynafiaethau Nant Nantlle

gan William Robert Ambrose

Hanes Presennol Pen. 2


Dosbarth III.—Hanes Presennol.
PENNOD I

Mae yr haner canrif diweddaf wedi esgor ar gyfnewidiadau anhygoel gyda golwg ar gyfryngau masnach, addysg, a chrefydd, yn Nyffryn Nantlle. Haner can' mlynedd yn ol ni rifid o Drwsycoed i Benygroes nemawr gyda dwsin o dai annedd, a phe byddai yn bosibl i'r hen drigolion fu yn byw ac yn marw ynddynt gael golwg ar eu hen ddyffryn tawel hwn fel y mae, o'r braidd y gallent gredu eu llygaid eu hunain. Yn y lle yr oedd dolydd tawel, rhwng cysgodion llanerchau o goedydd preiff tewfrigog, yn y rhai y pynciau corau asgellog, y mae yn awr gloddfeydd safnrhwch yn ymddangos fel pe byddai calon y ddaear wedi ei thynu o honi: ac yn lle peroriaeth adar, a llancesau wrth weini gyda'r gwartheg a'r diadellau, clywir twrf pylor yn "palu mynyddau." Uwchben y tyllau arswydus gwelir ugeiniau o'r gweithwyr yn hongian wrth didau, ac yn ymddangos yn debycach i'r pryf copyn yn gweu ei rwyd uwchben y gwagle erchyll; ond y maent yn galonog ac anturiaethus, ac yn foddlawn dygymod a'u holl galedwaith os bydd golwg am setlio canolig, er fod yr hen greigiau yna wedi bod yn diaspedain yn fynych gan lefau marwol eu cydweithwyr, a'r lechfan las wedi cael ei rhudd-ystaenio â'u gwaed. Gan y bydd yn fwy cyfleus ini fwrw golwg ar ansawdd bresennol y nant wrth ei gymeryd o'i gwr, ni a ddechrenwn unwaith yn rhagor yn Drws-y-Coed.

Prif fantais y lle neillduedig hwn i fyw yndde yw y gwaith mwn sydd yma. Nid oes genym unrhyw wybodaeth sicr pa bryd y dechreuwyd codi copr yn ngodreu Careg Meredydd; bernir oddiwrth ryw hen agoriadau fod hen genedl ddewr ac anturiaethus y Rhufeiniaid wedi bod yn cloddio ynddi. Y mae yn ddirgelwch yn awr pa fodd yr oeddynt yn agor y graig, gan nad oes ol ebillion na phylor ar eu gwaith. Crybwylla awdwr yr 'Observations on the Snowdon Mountains,' fod y gwaith wedi cael ei gario yn mlaen yn flaenorol i'r flwyddyn 1862, er's deng mlynedd ar hugain; ond pan wnaed i fyny y cyfrifon ar derfyn yr amser hwnw, fod y cwmni yn cael ei hun yn golledwr o ddwy fil o bunnau. Ymaf- lwyd yn y gwaith drachefn gan berchencg y tir, sef T. A. Smith, Ysw., Faenol, ac yn y flwyddyn 1833 yr oedd yma tua 400 yn gweithio, symiau helaeth o gopr yn cael ei godi, a'r gwaith yn troi elw da i'r perchenog. Yn bresennol y mae y gwaith hwn wedi ei ddwyn i agwedd hynod o isel. Nid oes ar hyn o bryd lawn tri dwsin o weithwyr yn y ddau waith, sef Drws-y-Coed a Simdde Dylluan, nid yn gymaint oherwydd prinder yr adnoddau yn y ddaear, eithr am fod y galwad am gopr yn ychydig, a'i bris oherwydd hyny yn isel.

Crybwyllasom fod Drws-y-Coed yn gorwedd with droed y Mynyddfawr ar un llaw, a'r Garn ar y llaw arall, ac ni fuasai neb yn dewis lle mor anghysbell a diffygiol o bob cyfleusderau cyffredin fel lle i fyw ynddo, oni bai y gwaith. Am ychydig fisoedd yn yr haf y gall y trigolion o'u tai weled yr haul; ond y mae copaäu y mynyddoedd o'i amgylch bron yn wastad yn orchuddiedig gan darth a niwl. Nis gall y lle fod yn iach i fyw ynddo, ac y mae mwy o farwolaethau yn cymeryd lle ynddo nag unrhyw le o'i faint o fewn sir Gaerynarfon, a'r cwbl bron yn ddieithrad, meddir, o'r un afiechyd, sef math o nychdod neu ddarfodedigaeth, wedi ei gynnyrchu gan oerfel. Mae yma tua 30 o dai annedd, annhrefnus mewn cymhariaeth, un capel, ond heb yr un siop nag un ysgol ddyddiol sefydlog, nag un dafarn ychwaith; a rhydd y ffaith olaf gyfrif am gyflwr rhinweddol a moesol y mwyafrif o'r preswylwyr. Mae yma gyfleusdra i ymohebu â'r byd mawr oddiamgylch yn gyson, gan fod llythyr-gludydd rheolaidd rhyngddo a Phenygroes; a thebyg y bydd i'r byrddau ysgol drefnu yn fuan ryw ddarpariaeth ar gyfer y plant sydd yma. Rhaid ini adael y lle hwn ar hyn, onide byddwn yn hir cyn bwrw golwg dros holl faes ein testyn. Rhwng Drws-y-Coed a Nantlle agorwyd gwaith mwn yn ddiweddar mewn lle a elwir y Benallt; bernir fod yno blwm i'w gael, ond ni fedrwn ddweyd dim gyda golwg ar lwyddiant yr anturiaeth, gan nad ydyw hyd yn hyn wedi ei benderfynu.

Y LLECHGLODDFEYDD.

Gan mai y llechgloddfeydd yw asgwrn cefn masnach y rhan uwchaf a mwyaf poblogaidd o Nant Nantlle, fe oddefir ini ymhelaethu ychydig ar eu hanes. Y mae yn anmhosibl penderfynu i sicrwydd pa bryd, a chan bwy, nac yn mha le y dechreuwyd cloddio llechau, gyda'r bwriad o'u defnyddio i doi tai. Y math o dai a godid yn flaenorol a ddesgrifir gan un ysgrifenydd fel y canlyn:—"Yr oedd muriau a tho ty yn yr hen amser yn dra thewglyd. Gwneid y muriau yn drwchus, y rhai a lenwid â chlai neu gymrwd, a gorchuddid oddifewn â'r un defnydd, ac oddiallan mwsoglid hwy; ar hyn gosodid y coedwaith wedi ei gymhlethu a gwiail, ac ar hyn to o dyweirch gleision gwydnion o'r mynydd, ac yn uchaf te o lechi. Oddifewn, uwch ben, crogid math o gar neu gronglwyd o wiail eto, ac ar hono y cedwid bara ceinch, cig sych, &c., ac ystyrient eu hunain yn dra chlud o dan y gronglwyd hon; a dyma y math hynaf o dai a ddaethant i lawr i'n hamser ni, oddieithr y palasau."

Mewn hen gyfansoddiad barddonol, a dadogir ar Myrddin Wyllt, ceir y brophwydoliaeth ganlynol:

"Pan dorer y deri yn agos i'r Yri,
A'i nofiad yn efrydd o Gonwy i fro Gwerydd (Gwerddon),
A throi'r ceryg yn fara yn agos i'r Wyddfa."

Cyflawnwyd y rhan gyntaf o'r broffwydoliaeth hon yn ngwaith y Saeson yn cymynu y deri, a thori i lawr fforestydd y Wyddfa o flaen byddin Iorwerth y Cyntaf; ac os wrth droi y "ceryg yn fara" y meddylid y byddai dynion yn enill eu bara wrth wneyd y ceryg yn do, ymddengys fod amseriad y diweddaf yn gyffelyb i'r cyntaf, y rhai erbyn hyn, modd bynag, sydd wedi eu cyflawni yn llythyrenol yn amgylchoedd y Wyddfa. Y mae tair cymydogaeth yn sir Gaerynarfon yn honi y flaenoriaeth gyda golwg ar y cloddfeydd, sef Bethesda, Llanberis, a Nantlle. Dygir y ffaith ganlynol gan y lle blaenaf:—" Oddeutu tri chan' mlynedd yn ol cawn yr hen fardd, Sion Tudur, wedi gwneyd 'Cywydd i ofyn llwyth o yslatys o Chwarel y Cae Hir, gan Robert Thomas, Ll.D., Deon Bangor, oddeutu y flwyddyn 1570." O blaid Llanberis crybwylla Gutyn Peris fod yr haf-dy perthynol i Lys Dinorwig, a elwid y Fechwen, wedi ei doi â cheryg cyffelyb o ran eu hansawdd i'r rhai a gloddir yn bresennol yn Chwarel Dinorwig; ac yr oedd yr haf-dy o leiaf yn 600 mlwydd oed. O blaid Nantlle dywedir fod yr hen lys tywysogol yn y Baladeulyn wedi ei doi â cheryg cyffelyb i'r rhai a gloddid ar ol hyny yn Nghloddfa'r Clytiau, yn y Cilgwyn, ac am a allwn ni weled nad oes gan y Cilgwyn gystal hawl i honi y flaenoriaeth ar Elidir neu y Fronllwyd. Gallwn gasglu fod rhyw fath o geryg brigog, anghelfydd, ac anghymesur o ran ffurf a thrwch, yn cael eu defnyddio yn yr ardaloedd lle ceir hwynt er's canrifoedd bellach, er mae yn ddiweddar mewn cymhariaeth y daeth y fasnach lechau i'r fath bwysigrwydd ag ydyw yn bresenol.

Dywed un ysgrifenydd cyfarwydd â'r pwnc fel y canlyn am y dull y dechreuwyd gweithio y chwarelau:—"Pa fodd bynag nid oedd y fasnach lechi ond bychan a distadl iawn bedwar ugain mlynedd a mwy yn ol. Nid oedd y cloddfeydd llechau y pryd hwnw ddim ond cyffelyb i'r pyllau mawn. Yr oedd rhyddid i holl drigolion y fro i dori mawn ar y mynydd (common), mewn unrhyw fan; ond wedi i un ddechreu mewn unrhyw le ystyrid yn lladrad i neb arall gymeryd meddiant o bwll ei gymydog. Ac yr oedd yr un rhyddid i dreio am lechau yn y mynydd; ond wedi i ryw un ddechreu chwarel, lladrad fyddai i neb arall gloddio yn hono. A "Chwarel Morris William," a "Chwarel John Jones," &c., y gelwid hwy y pryd hyny. Ond fel y cynnyddai y cyfryw cydunai nifer o chwarelwyr y gymydogaeth yn gyfranogion (partners) a'u gilydd i weithio chwarel, a gwerthu y Lechau i ryw rai fyddai yn adeiladu tai. Yn nesaf gwelid llong fechan yn awr ac yn y man yn Nghaerynarfon, neu Felinheli, neu Bangor, a'r chwarelwyr bellach yn dechreu dangos mewn amryw ddulliau, heb fod yn ddoeth iawn, fod ganddynt ddigonedd o arian. Tynodd hyn sylw y tir-feddiannwyr ac ereill at y cloddfeydd llechau, a chymerasaut hwy feddiant o'r rhai penaf, a dechreuasant eu gweithio ar gynlluniau mwy eang ac effeithiol." Rhoddwn eto ddesgrifiad hen chwarelwr o'r dull anghelfydd o weithio. y llechau yn yr amser y cyfeiriwyd ato uchod. "Wedi llwyddo trwy offerynoliaeth ceibiau a throsolion i gael ychydig glytiau, cariai dyn hwy ar ei gefn o un i un i'r clwt agored, ac os byddai eisieu pileru clwt dodai gareg dan ei ben, yn union dan y lle yr amcanai iddo dori, a chyda clamp o ddulbren efe a gurai ar y fan hono nes pilerau; ond weithiau byddai y dulbren yn myned yn ddellt cyn gwneyd ei waith! Y gorchwyl nesaf gyda y clytiau oedd eu trwsio a'u hollti; ac yr oedd gan y noddwr gareg deirongl a elwid Maen Nadd, ac wrth ei thalcen swp o geryg, ar yr hwn yr oedd torch wellt lle yr eisteddai i naddu, nid at yr un hyd na lled pennodol, ond at ryw faint, cymaint ag a oddefai y gareg: ac'ar y torwr, druan, y disgynai y gwaith o orphen eu cymhwyso. Yr oedd amryw o'r llechi hyn yn dri chwarter modfedd, ac weithiau yn fodfedd o dew, ac y mae engreifftiau dyddan i'w cael ohonynt weithiau mewn hen furddynod. Nid oedd yr hen gyllell naddu nemawr fwy na thriwal; rhywbeth tua saith modfedd a haner o hyd wrth bedair o led, fel y dengys yr engraifft o un sydd yn llaw y ddelw o fynor o lechnaddwr sydd yn eglwys Llandegai."

Gellir ffurfio meddylddrych am gynnydd y farchnad lechi yn Nyffryn Nantlle oddiwrth y gwelliantau olynol a wnaed yn y dull o'u trosglwyddo i borthladd Caerynarfon. Pan ddechreuwyd eu cloddio cludid hwy mewn cewyll ar gefnau mulod neu ferlynod dros y mynydd, ar hyd llwybrau anhygyrch; dull oedd o angenrheidrwydd yn drafferthus ac annyben. Ar ol hyny gwnaed ffordd trwy Benygroes, a elwir yn awr yr Hen Ffordd, ar hyd yr hon y cludid hwy mewn certwyni. Yr oedd hon, er ei bod yn welliant mawr, ar yr hen lwybr dros y mynydd, eto nid oedd ond ffordd anwastad a throfaog. Y gwelliant nesaf oedd gwneyd y dollffordd bresennol, yr hon sydd yn ffordd wastad, weddol dda, ac yn cael ef chadw mewn trefn lled ragorol. Tua'r flwyddyn 1829 agorwyd llinell o ffordd haiarn o'r Nant i Gaerynarfon, ar hyd yr hon y gallai un ceffyl lusgo amryw dunelli gyda rhwyddineb. Bu hon yn cael ei defnyddio am ysbaid fel cyfleustra i deithwyr, a'r rhai a ymwelent â'r marchnadoedd yn y dref. Darparwyd cerbydau pwrpasol arni, ond eu bod yn agored, ac oherwydd hyny yn ddigysgod iawn yn nyfnder y gauaf. Yn awr y mae cangen o linell ffordd haiarn sir Gaerynarfon yn cael ei gweithio yn brysur, a chyn pen ond ychydig o ddyddiau ar ol yr amser yr ydym yn ysgrifenu bydd y "march tan" wedi dysgu ei ffordd i'n dyffryn ninau, a chyfleusterau teithiol wedi eu perffeithio. Wrth edrych ar y gwelliantau olynol uchod teimlwn awydd aros i ofyn i'r darllenydd, Tybed a ydyw ar ben yn awr? A oes rhyw welliant i ddilyn ar ol hyn? A ydyw dyfais y meddwl dynol wedi cyrhaedd ei uchafnod yn mherffeithiad yr agerbeiriant a'r ffordd haiarn? Ond nid oes terfyn i ddarganfyddiadau meddwl dyn, ac efallai nad allwn yn awr freuddwydio am y gwelliantau sydd i'w datguddio mewn amser a ddaw.

Byddai nodi y gwelliantau bychain a graddol yn y dull o wneyd y llechau yn debyg o flino y darllenydd â gorfanylrwydd diangenrhaid. Ar y cyntaf yr amcan oedd ceisio eu gwneyd at yr un maintioli, ac yr oedd y rhai cyntaf yn fychain iawn. Gall y darllenydd weled gan Mr. John Jones, y Fodlas, esiamplau ddigon o'r hen ddull a'r maintioli gwreiddiol, ac o bosibl y math cyntaf a weithiwyd erioed yn Nantlle. Tua'r flwyddyn 1746, meddai awdwr "Hanes Sir Gaerynarfon " (Parch. Р. B. Williams), dechreuwyd gwneyd rhai cymaint arall a'r rhai cyntaf, a galwyd hwy yn "geryg dwbl," am eu bod yn ddwbl y maint a dwbl y pris. Yn fuan dechreuwyd gwneyd rhai cymaint arall drachefn, y rhai a alwyd yn "ddwbl mawr." Ond fel yr oedd eu maint a'u graddau yn ychwanegu yr oedd yn rhaid cael enwau newyddion i'w gwahaniaethu, a dywedir mai y Cad. Warburton, perchenog Cae Braich y Cafn y pryd hwnw, ar awgrymiad ei foneddiges, a ddechreuodd roddi yr enwau Countesses, Ladies, Duchesses, a Queens, wrth y rhai yr adnabyddir y gwahanol raddau o lechi yn holl chwarelau Arfon, os nad yn holl chwarelau Cymru hyd y dydd heddyw. Y prif gloddfeydd yn Nantlle, pan ysgrifenodd y Parch. P. B. Williams, oedd yr Hafodlas a'r Cilgwyn. Yr Hafodlas a elwir yn awr Cloddfa y Coed, yr hon sydd yn meddiant Hugh Roberts, Galltberan, gerllaw Pwllheli, ac a weithir i ryw raddau yn y dyddiau hyn. Y prif gloddfeydd yn awr ydynt y Dorothea, Cilgwyn, Penybryn, Talysarn, Penyrorsedd, a'r Coedmadog. Yn y gyntaf, yr hon a ddechreuwyd tua 40 mlynedd yn ol, y mae tua 525 yn gweithio. Y prif berchenog yw J. H. Williams, Ysw., Glanbeuno, a'r goruchwylwyr ydynt Mri. J. J. Evans a D. Pritchard, Yn Penybryn neu Gloddfa'r Lon y mae tua 250 yn gweithio. Y perchenogion ydynt Mri. Dew and Co., Llundain, a'r goruchwylwyr ydynt Mri. W. Davies a J. Roberts. Yn Talysarn y mae tua 300 yn gweithio, a'r goruchwylwyr ydynt Mri. Robinson, T. Jones, a J. C. Jones. Yn Penyrorsedd nid oes yn awr ond tua 40, a'r goruchwylwyr ydynt Mri. Darbishire a W. Roberts. Yr oedd yn y chwarel hon, tua phedair blynedd yn ol, tua 500 yn gweithio. Yn Coedmadog y mae tua 100 yn gweithio, a'r goruchwylwyr ydynt Mri. J. White ac O. Rogers. Yn y Cilgwyn y mae tua 280 yn gweithio, a'r goruchwyliwr yw Mr. Ellis Williams. Dyma y rhai pwysicaf o fewn Dyffryn Nantlle.

Y CHWARELWYR.

Ni byddai yn briodol i ni ymhelaethu llawer ar y chwarelwyr, yn unig nodwn ychydig o bethau a ymddengys i ni yn fwyaf nodweddiadol ohonynt. Nid yw y chwarelwyr, a'u cymeryd at eu gilydd, yn ymddangos yn ddynion iach a chorfforol iawn. Dyoddefant yn aml oddiwrth y crydcymalau, a diferant yn fynych i'r mynwentydd trwy effeithiau nychlyd a gwenieithus y ddarfodedigaeth. Y mae amryw o bethau yn dal cysylltiad a'u gwaith ac a'u harferion sydd o angenrheidrwydd yn niweidiol i'w hiechyd. Sylwer ar yr adeiladau rhwyd-dyllog, anniddos, lle mae y rhai sydd yn hollti ac yn naddu yn eistedd ynddynt ar hyd y dydd. Nid yw y cytiau a elwir gwaliau ond pentyrau wedi eu bwrw ar eu gilydd yn y modd mwyaf diofal, ac wedi eu lled-doi uwch ben a chlytiau e'r maintioli mwyaf allant gael at y gwasanaeth. Trwy y gwaliau hyn y chwyrnella y gwynt a'r gwlaw bron yn ddirwystr, a chan eu bod bron bob amser yn cael eu hadeiladu ar uchelfanau y bonc, y maent yn sicr o fod yn hollol anghymwys i unrhyw ddynion eistedd ynddynt bron am ddeuddeng awr. Wedi gwlychu hyd at y croen y mae yn arferiad gan lawer o'r chwarelwyr ymgasglu at eu gilydd i Gwt y Boiler i'r gwres, a gadael i'w dillad gwlybion sychu felly am danynt. Y mae y corph, dan yr amgylchiadau hyn, yn sugno lleithder afiach i mewn i'r cyfansoddiad, a'r hyn yn amlach nag y meddylir, sydd yn diweddu mewn marwolaeth anamserol. Nid ydynt yn ofalus iawn ychwaith yn nghylch yr ymborth mwyaf priodol. Y boreu, yn eu brys, cymerant gwpanaid neu ddwy o de, ac i'w canlyn yn y can bach cymerant ffrwyth yr un ddeilen drachefn i giniaw. Ac yn aml iawn ni bydd ond te i groesawu eu dyfodiad adref. Ac yr ydym yn adnabod amryw o honynt mor hoff o ffrwyth y ddeilen fel na ofalant am ddim byd arall. Ond dylid cofio sylw Miss Nightingale:—" Y mae ychydig o de yn feddyginiaeth; ond y mae gormod o hono yn wenwyn." Nid oes dim mwy niweidiol er cynnyrchu gwendid gewynol, annkreuliad, a nychdod, nag arferiad anghymedrol o ffrwyth y ddeilen dramoraidd hon. Esgusodir ni am grybwyll y pethau hyn, nid am nad ydynt eisoes yn eu gwybod, eithr am y dymunem i'r cyfryw bethau ag sydd yn niweidiol iddynt gael eu symud ymaith.

Caniataer ini ddyfynu sylwadau un ysgrifenydd ar nodweddau cymharol y chwarelwyr:—"Os yn ein cyfarfod ar y ffordd y mae y chwarelwr cawn olwg lanwaith, deneu, lwyd, fywiog, hyf arno. Os yn ei ddillad goreu y bydd, ychwanega wychder at y pethau hyn. Mae ei waith yn un glan, a thebygol fod hyny yn ei wneyd yn hoff o lanweithdra yn mhob man, ac yn mhob peth arall. Diameu na cheir un adran fawr o'r dosbarth gweithiol mor lan eu dillad a'u tai. Nid oes le i ferched yn y llechgloddfeydd fel y maent mewn gweithydd mawrion ereill, a gall hyny fod mewn rhan yn achos o'r glendid, trwy eu bod hwy yn cael eu hamser gartref i lanhau. Mae lle gweithio y chwarelwr yn beryglus hefyd, a digon tebyg fod hyny yn meithrin yr hyfdra sydd mor amlwg yn y cymeriad. A gall fod diffyg cyfleusderau i gymdeithasu a dosbarth uwch na hwy eu hunain yn helpio i'w gwneyd yn hyf. Gan fod eu hamser gweithio yn fyrach nag eiddo llafurwyr, ceir segurdod yn un o frychau y cymeriad. Segurdod ydyw diffyg mawr y chwarelwyr ieuainc, ac y mae cysylltiad rhwng hyny a gwario arian, yr hyn a ddilynir gan res o ddrygau ereill. Haelioni, dylid dywedyd, sydd yn amlwg yn y cymeriad. Mae y chwarelwyr yn fwy darllengar nag ydynt o feddylgar. Dengys y traethodau erbyn y cyfarfodydd cystadleuol yn ardaloedd y chwarelau, fwy o ol darllen a llai o ol meddwl, nag a geir yn y cyfryw yn y cymydogaethau amaethyddol. Mae bod cymaint o'r chwarelwyr yn nghyd, a'u bod yn nghyd am gymaint o'u hamser, yn peri hefyd eu bod yn fwy chwedleugar."

Diffyg a deimlir i'r byw yn Nant Nantlle yw absennoldeb unrhyw fath o ysbytty lle gellid derbyn personau wedi eu clwyfo a'u hanafu. Er nad oes yma gymaint o nifer yn gweithio ag sydd yn Bethesda neu Lanberis, eto pan ystyriom ansawdd beryglus y cloddfeydd, a'r dull peryglus a gymerir i'w gweithio, yr ydym yn gwbl sicr fod y damweiniau yma yn cymeryd lle yn fwy mynych nag yn y lleoedd a enwyd; ond y mae ganddynt hwy bob un ei hospital i dderbyn y dioddefwyr, lle ceir ymgeledd uniongyrchol, a phob angenrheidiau wrth law er gweini yr ymgeledd oreu i'r trueiniaid. Ond yn Nant Nantlle nid yw yn beth anghyffredin cludo dynion ar ysgwyddau, neu mewn cerbydau, filltiroedd o ffordd, a'u gwaed yn ystaenio y llwybrau, er gwanychdod dirfawr trwy y fath ddyhysbyddiad o adnoddau bywyd. Gwir fod genym feddygon rhagorol, yn ddynion medrus a charedig, nodedig felly; ond y maent yn byw yn mhell oddiwrth y gweithydd, y mae gofal gwlad eang, a phlwyfydd mawrion ar eu hysgwyddau; a phan fyddo fwyaf angenrheidiol wrthynt, dichon na fydd un ohonynt i'w gael. Y mae y fath ystyriaethau, dybiwn ni, yn galw am welliant effeithiol yn hyn, ac ni cheir mo hono nes neillduo ysbytty, a chael gwasanaeth meddyg arosol, a phob angenrheidiau wrth law i weini yr ymgeledd fwyaf prydlawn. Nid oes amheuaeth, yn ein meddwl ni, nad oes aml i fywyd gwerthfawr wedi ei golli ag y gallesid ei arbed trwy ymgeledd brydlawn. Tybed fod perchenogion y cloddfeydd mor anheimladwy o gysur eu gweithwyr tlodion fel y gomeddant ymsymud yn y cyfeiriad hwn! neu a ydyw y gweithwyr mor ddiofal o'u cysur eu hunain fel y maent hwythau yn annheimladwy o'i bwysigrwydd? Os ydyw y cyntaf yn bod y maent yn annheilwng iawn o ddyngarwyr a boneddigion; ac os y diweddaf, rhaid eu bod yn ymfoddloni o dan fwy o anfantais na'u cyd-alwedigion mewn cymydogaethau ereill, y rhai sydd wedi eu bendithio â'r fath sefydliadau ag y cyfeiriwyd atynt, trwy y rhai y mae y rhai sydd yn cael y fantais oddiwrth feibion llafur wedi dangos gofal priodol a chanmoladwy am eu cysuron.

Cwynai un ysgrifenydd a fu yn ymweled â'r lle hwn tua 50 mlynedd yn ol, nad oedd gan y chwarelwyr y pryd hyny unrhyw ddarpariaeth ar gyfer damweiniau ac afiechyd. Ond pe gallasai yr awdwr parchedig fod yn bresennol yn Mhenygroes ar Ddydd Llun y Sulgwyn, gallasai weled cannoedd o bobl, tyn hen, canol oed, ac ieuenctyd, yn cadw gwyl flynyddol eu cymdeithasau, pawb o dan ei luman ei hun, ac yn cydwledda â'u gilydd yn un gymdeithas garedig a chyfeillgar. Yn y flwyddyn 1838 y sefydlwyd cymdeithas yn Llanllyfni, o dan yr enw Cymdeithas Gyfunol Brodorion Llyfnwy, yr hon erbyn hyn sydd yn rhifo tua 500 o aelodau, gydag ariansawdd o yn agos i 1000 o bunnan. Ysgrifenydd presennol y gymdeithas hon yw Mr. W. Williams, Victoria Vaults, Penygroes. Yn 1843 ffurfiwyd cymdeithas arall yn Mynydd y Cilgwyn, yr hon a ymgyferfydd yn Pisga, Capel yr Annibynwyr, ac sydd yn rhifo 380 o aelodau, gydag ariansawdd o dros 1000 o bunnau. Yr ysgrifenydd yw Mr. O. Rogers, Frondeg. Tua thair blynedd yn ol sefydlwyd cymdeithas arall yn Talysarn o dan yr enw Cymdeithas Gyfeillgar Dyffryn Nantlle, rhifa tua 200 o aelodau gydag ariansawdd o yn agos i 100 punt. Yr ysgrifenydd yw Mr. D. Pritchard, Ty Mawr.

Heblaw y cymdeithasau uchod, y rhai ydynt yn sefydliadau gwerthfawr ar gyfer afiechyd, y mae amryw o gymdeithasau adeiladu, trwy y rhai y mae lluaws o weithwyr yn dyfod i feddiant o dai iddynt eu hunain; a thrwy hyny yn meddu hawl i bleidleisio yn etholiad marchog dros y sir, &c. Y mae ganddynt hefyd gymdeithasau arian, yn y rhai y telir symiau penodol bob mis, a'r arian a roddir allan ar log gan y cyfarwyddwyr, ac ar derfyn yr 20fed mis rhenir yr ariansawdd i bob aelod gyda llog, neu gall unrhyw un trwy dalu y llog gofynol, a darparu meichiafon, gael yr arian unrhyw adeg yn nghorff yr ugain mis. Yn y cymdeithasau dirwestol hefyd y tanysgrifia pob aelod swm penodol yn fisol, y rhai a ddosberthir ar derfyn y 12fed mis gyda llog. Dilynir trefn y clwbiau gan wahanol fathau o fasnachwyr a chrefstwyr, ac ystyrir ef yn gynllun ysgafn a chyfleus i gael dodrefn, oriaduron, dilladau, &c.; a gresyn na byddai yn bosibl alltudio trefn, neu yn hytrach annhrefn, y coel o blith y chwarelwyr. Rheol y Dr. Franklin oedd, "Y gŵr a'r wraig, wedi derbyn y cyflog, yn cyd-lunio i brynu y cwbl fydd arnynt ei eisieu o bob peth hyd adeg derbyn cyflog drachefn, a gofalu bob tro am fod un geiniog yn weddill yn y llogell wedi talu i bawb." Y mae yn rhaid addef, er holl rinweddau y chwarelwyr, eu glendid, eu moesau, a'r cwbl, eu bod yn lled anghyfarwydd yn y rheol uchod o eiddo y Dr. enwog. Tra nad yw y chwarelwyr byth yn anwladgarol, nac yn hoffi terfysg, na sefyll allan, nac yn euog o gyflawni troseddau, eto y mae yn rhy gynefin o lawer â meinciau llysty mân-ddyledion, ac yn dangos ei wyneb yn rhy aml er ei les a'i gymeriad o flaen ei well, oherwydd ei arfer annhymig or redeg ar goll. Byddai yn hawdd i'r dosbarth yma sychu yr ystaen hon oddiar eu cymeriad trwy ychydig o ddarbodaeth brydlawn.

Dichon ein bod bellach wedi trafod y mater hwn yn ddigon pell. Cyfeirir y darllenydd at y daflen fechan ar ddiwedd y traethawd i gael golwg fwy cryno ar ansawdd bresennol y gwahanol chwarelau o fewn y Nant.

Nodiadau

[golygu]