Neidio i'r cynnwys

Hynafiaethau Nant Nantlle/Hanes Presennol Pen. 4

Oddi ar Wicidestun
Hanes Presennol Pen. 3 Hynafiaethau Nant Nantlle

gan William Robert Ambrose


PENNOD IV.

Parhad Hanes Presennol.

Yn y bennod hon, gyda pha un y terfynir ein hymdrech, cawn fyned rhagom i grybwyll am ychydig o leoedd neillduol eto o fewn ein terfynau. Gan i ni grybwyll yr oll sydd genym i'w grybwyll am Drws y coed, yn nechreu y dosbarth hwn, cawn ddechreu ein taith yn awr yn

NANTLLE.

Mae y lle hwn ar lan y llyn, yn neillduol o gysgodol, isel, a ffrwythlawn, ac yn cynnwys nifer led luosog o dai trigiannol o adeiladwaith ddiweddar. Cafodd y lle ei enw oddiwrth Nantlle, palasdy Tudur Goch, yr hwn sydd eto yn gyfan; yn ymyl ei gefn y safai y gegin, yr hwn, fel y tybid yn gyffredin, ydoedd yn rhan, o leiaf, o'r hen lys tywysogol. Gresyn oedd difrodi yr hen balasdy hwnw, gan y buasai ar gyfrif ei oedran yn meddu ar fwy o ddyddordeb nag unrhyw adeilad arall yn y gymydogaeth. Uwchlaw y lle hwn ar fron y Cilgwyn, mewn lle a elwir Cae'r Cilgwyn, y mae olion cloddiau eang a llydain, y naill yn ymgodi uwchlaw y llall mewn pellder penodol oddiwrth eu gilydd. Nid oes genym unrhyw fantais i ffurfio barn am yr olion yma, ond dywed traddodiad yn y gymydogaeth fod llwyth lluosog o'n hynafiaid wedi ymsefydlu yma mewn amser tra boreuol, sef pan oeddynt yn ymsymud yn finteioedd crwydrol, ac yn adeiladu mathau o bebyll anghelfydd o hesg, a chlai, a gwiail, ar lanau y llynan a'r afonydd, gan ymborthi ar ffrwythydd, pysgod, a helwriaeth. Y prif adeiladau yn Nantlle ydyw y Baladeulyn, preswylfod John Lloyd Jones, ysw., mab hynaf y diweddar Barch. John Jones, Talysarn. Y mae Mr. Jones yn foneddwr anturiaethus a chyfoethog, haelfrydig, a chymwynasgar, ac yn flaenor yn nghyfundeb y Methodistiaid yn Nantlle, lle mae hefyd addoldy hardd & chostfawr a gyfodwyd trwy ei haelioni ef yn benaf. Mrs. Jones ydoedd unig ferch y diweddar W. Williams, ysw., Llanwyndaf, ac y mae iddynt amryw o blant. Capel newydd y Methodistiaid, fel yr awgrymwyd, sydd hefyd yn adeilad eang a harddwych, yr hwn a agorwyd yn y flwyddyn 1865, lle hefyd y mae eglwys flodeuog yn rhifo tua 80 neu ychwaneg. Mae yma amryw fasnachdai mewn nwyddau bwytadwy, y rhai penaf yw yr eiddo Mr. Thomas Roberts, a John Roberts, a Mrs. Evans, gweddw y diweddar Mr. Evan Evans, yr hwn a laddwyd trwy ffrwydriad pylor yn nghloddfa Penyrorsedd. Mae yma hefyd gangen o'r llythyrdy, ac amryw gyfleusderau ereill mwy cyffredin.

TALYSARN.

Wedi ymsymud rhagom yn nghyfeiriad Penygroes, ar hyd ffordd sydd yn cael ei chysgodi ar bob llaw gan y tomenydd uchel, a thros yr hon y mae amryw o bontydd peryglys yr olwg arnynt i ddyeithrddyn, yr ydym yn dyfod heibio i balasdy, a nifer luosog o annedd-dai a elwir Talysarn. Derbyniodd y lle hwn ei enw oddiwrth Sarn Wyth-ddwr, fel y gelwid y sarn a groesai yr afon gerllaw Tre-grwyn. Yma mae tri o addoldai eang a chyfleus, yn neillduol eiddo y Methodistiaid a'r Annibynwyr, amryw o fasnachdai, llythyrdy, &c. Yma y mae Bryn Llywelyn, tŷ hardd a adeiladwyd gan Thomas Lloyd Jones, ysw., ac a ddefnyddir yn bresennol fel gwesty dan yr enw Nantlle Vale Hotel, ac a gedwir gan Thomas Griffith. Y Coedmadog hefyd sydd yn un o'r anneddau mwyaf golygus a hyfryd, yr hwn a adeiladwyd gan y diweddar Hugh Jones, ysw., Goruchwyliwr Cloddfa Penybryn, a pherchenog ystad Coedmadog. Yma hefyd y preswylia ei weddw Mrs. Jones, a'i ferch M. Jones, yr hon sydd yn ieuanc. Wrth fyned rhagom deuwn heibio i Hyfrydle, addoldy newydd eto perthynol i'r Methodistiaid, ac wedi myned heibio Pant Du, palasdy henafol William Bodfil, a'r Llwynonn, annedd wych y Dr. John Williams, yr ydym yn cael ein hunain yn nghanol pentref eang a chynnyddol

PENYGROES.

Dyma ganolbwynt masnach a thrafnidiaeth y dyffryn, gan ei fod yn sefyll yn ganolog, ac yn meddu ar ei farchnadfa, ei railway station, a lluaws o fanteision neillduol ereill. Mae yn y lle hwn dri o addoldai gan y Methodistiaid, yr Annibynwyr, a'r Wesleyaid, amryw o fasnachdai llwyddiannus, yn neillduol yr eiddo Mr. O. Roberts, yr hwn sydd yn un o'r masnachdai mwyaf golygus yn y wlad. Mae yma hefyd amryw o westai, y rhai penaf ydynt y Stag's Head, y Goat, y Prince of Wales, a'r Victoria Vaults. Yma hefyd y ceir shop lyfrau, ac argraffdy, y rhai a gedwirgan Mr. Griffith Lewis. Gerllaw Penygroes y mae y Sea View, preswylfod Mr. Roberts, y meddyg adnabyddus. Prif ddiffyg presennol y lle yw ysgoldy, yr hwn, fel y dysgwylir, a gyflenwir ar fyrder gan y Bwrdd Ysgol. Cedwir ysgol yn bresennol yn neuadd y farchnad. Sonir yn awr am ffurfio gas company, er mwyn adeiladu nwy weithfa i gyflenwi yr ardaloedd hyn a'r cyfleustra anghydmarol hwnw, yr hyn a fyddai yn gaffaeliad gwerthfawr, yn neillduol mewn tai cyhoeddus masnachdai. Rhyw filldir i'r dehau o Benygroes deuwn i bentref hynafol

LLANLLYFNI.

Dygir ein sylw yn flaenaf oll yn y lle hwn gan eglwys barchus, henafol, lwydaidd, St. Rhedyw; a cherllaw iddi y persondy, lle preswylia y periglor, y Parch. William Hughes, M.A. Mae yma gapelydd newyddion gan y Methodistiaid a'r Annibynwyr, ac un arall ychydig o'r neilldu perthynol i'r Bedyddwyr. Mae yma amryw o fan dafarndai; ond nid un gwesty o nod. Gerllaw y fan y mae Tyddyn, a Ffynon Rhedyw, y rhai a elwir felly, oblegid rhyw gysylltiad fu rhyngddynt yn ddiamheu a nawddsant yr Eglwys. Llanllyfni yw yr hynaf, ond y mae ar ol Penygroes, ac hyd yn nod Talysarn am ddestlusrwydd ac amledd ei adeiladau a'i gyfleusderau. Ceir yma hefyd amryw o fasnachdai, y rhai penaf ydynt yr eiddo Mri. Hugh Jones a John Roberts. Mae yma Ysgol Frytanaidd eang, yr hon a gedwir yn bresennol gan Mr. Hywel Roberts, neu Hywel Tudur, y bardd adnabyddus. Rhaid i ni yn awr gyfeirio ein camrau i lawr i ganlyn cwrs y Llyfnwy, a thrwy gwr hen faenor bendefigaidd, tua phentref hynafol

CLYNNOG.

Er pan agorwyd Rheilffordd Sir Gaerynarfon y mae pentref Clynnog wedi myned yn un o'r cilfachau mwyaf tawel a neillduedig o fewn y wlad. Byddai yma le digon annifyr i urdd o'r Mynachod Gwynion ddyfod yma eilwaith i breswylio, a gallai Pio Nono yma gael lle i ddiweddu ei einioes hir mewn "anffaeledigrwydd" tangnefeddus, a chael lle bedd gyda Beuno yn ei gapel. Yr ydym wedi cyfeirio mewn lle arall at hen eglwys ardderchog Clynnog Fawr, a Chapel Beuno a'i Gyff a'i Ffynnon a'i Fynwent. Y ty a'r wyneb tywyll yma, gyferbyn a chanol y fynwent, ac yn gwynebu yn union ar y clochdy uchel a chadarn, oedd preswylfod y bardd aur-dlysog y diweddar Eben Fardd; dyna lle bu yn cario yn mlaen ei fasnach, neu o leiaf ei briod yn gwneyd hyny, a'r llythyrdy; dyna lle y bu yn edrych ar ei blant glan deallgar yn tyfu i fyny fel planhigion olewydd o'i amgylch; ac yma drachefn yr edwinai eu gwedd o un i un nes cariwyd yr olaf ohonynt trwy y porth llydan yna i'r fynwent, lle gorphwysant yn dad, mam, brawd, a chwiorydd, yn ymyl eu gilydd, ond yn berffaith ddigymdeithas i'w gilydd hyd foreu mawr caniad yr udgorn diweddaf.

Yn nesaf at yr eglwys yr adeilad hynaf yn Nghlynnog yw y New Inn, hen adeilad o waith yr hen saer maen dihafal Gutto Gethin, am yr hwn y mae gan y trigolion dihareb am rywbeth anhawdd ei ryddhau, ei fod "mor sound a phin Gutto Gethin." Hen dy arall yn y Nant o'i waith yw Tre Grwyn, a adeiladwyd o gylch y flwyddyn 1662. Y prif westdy yw y Newborough Arms, a gedwir gan Mr. R. Edwards. O'r neilldu ychydig wele gapel y Methodistiaid, a'r Ysgoldy Brytanaidd newydd yn gysylltiedig âg ef. Yma y parotoir dynion ieuainc i'r athrofa yn y Bala. Cychwynwyd yr ysgol hon gan Eben Fardd, dilynwyd yntau gan Dewi Arfon, a golygir hi yn bresennol gan Mr. Williams. Adeiladwyd y Vicarage sydd yma yn amser y Parch. John Williams, yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 1821. Mae yma hefyd Ysgoldy Cenedlaethol, yr hon sydd dan arolygiaeth y ficer, y Parch. Mr. Price. Heblaw y pethau hyn nid ydym yn gwybod am unrhyw le o ddyddordeb neillduol yn mhentref Clynnog. Ond gwnai yr hen eglwys a'r capel fwy o lawer nag ad-dalu y drafferth o ymweled â'r lle tawel, neillduedig, ac enwog hwn.

Wedi gadael Clynnog, yn nghyfeiriad Pontlyfni, yr ydym yn gadael ar ein dehau, wrth afon Aberdusoch, fryncyn bychan a elwir Bryn y Cyrff, ac ar lan y mor ar ein haswy dyna Bryn y Beddau. Deugain mlynedd yn ol, sef yn ngwanwyn y flwyddyn 1831, darfu i foneddwr Gwyddelig dyeithr a ddaethai i letya y nos flaenorol i Fryn Cynan, daflu ei hun dros y clogwyn hwn nes disgyn dyfnder o tua 25 llath. Yr oll a ddywedodd pan. ddaethpwyd ato oedd, "Dead, dead, dead." Claddwyd ef yn Ynyscynhaiarn gerllaw Cricerth. Yn y Bontlyfni y mae capel bychan dymunol gan y Bedyddwyr, ac yn mlaen rhyngom a Chaerynarfon, wele yn ymddyrchafu glochdy neu dwr pigfain Eglwys St. Twrog, yr hon a adeiladwyd yn ddiweddar ar draul yr Anrhydeddus Arglwydd Newborough, yr hwn sydd yn un o'r adeiladau mwyaf addurniadol a phrydferth yn Nghymru. Cyn dyfod i'r fan hon gadawsom ar ein chwith y Tymawr, preswylfod Hu Gadarn, a'i wraig Gwenhonwy. Y mae Hu Gadarn yn enwog, nid yn unig ar gyfrif ei ychain bannog, eithr hefyd ar gyfrif ei chwaeth lenyddol; a medr ei wraig, Gwenhonwy, nid yn unig feirniadu gweithiau ein prif awduron yn Gymraeg a Saesonaeg, eithr hefyd ymostwng i ymdrechu am gamp o wneyd pâr o hosanau mewn Eisteddfod Genedlaethol, a gorchfygu, a thrwy hyny roddi esiampli'w chydryw o deuluyddiaeth dda. Anhawdd fyddai treulio nawnddydd difyrach nag yn ngwmni y pâr dedwydd a deallgar hyn. Yr ydym yn awr wedi cyrhaedd ar gyfer Dinas Dinlle, ein pwynt terfynol. Rhaid i ni gan hyny droi yn ol, i fyned drachefn tua chyfeiriad Penygroes a Nantlle, gan ddiweddu yn yr un fan ag y dechreuasom.

Nis gallwn osgoi y brofedigaeth o grybwyll gair am un cymeriad gwreiddiol oedd yn byw nifer o flynyddoedd yn ol, gyda'i wraig a'i ferch, heb fod gan' milldir o bentref Clynnog. Poenid y gŵr hwn un adeg o'i fywyd yn fawr gan amheuaeth a oedd y wraig a'r ferch yn ei garu, ac a fyddent yn debyg o ddangos arwyddion galar a cholled ar ei ol, pe dygwyddasai iddo farw. Nid ydym yn gwybod pa beth yn ymddygiadau y merched tuag at yr hen ŵr a achlysurai y fath amheuaeth; ond y ffaith yw, pa le bynag yr elai, a pha bryd bynag y dychwelai, yr oedd yr ysbryd poenydiol hwn yn ei ganlyn i bob man. Un prydnawn penderfynodd y mynai gael ymwared oddiwrth ei boenydiwr, trwy ffurfio cynllun i gael gwybod i sicrwydd pa fodd yr ymddygai ei briod a'i ferch pe byddai efe wedi ei ddwyn oddiwrthynt. Y prydnawn crybwylledig ymddangosai fel yn cael ei flino yn arw gan y pruddglwyf, rhodiai yn wyneb drist, siaradai, yr ychydig a siaradai, mewn ton leddf a galarus, a chyda'r hwyr ymneillduodd i'r beudy, diosgodd ei ddillad, llanwodd hwy â gwellt, a chrogydd y dyn gwellt o dan y swmer; yna ymguddiodd o'r neilldu i weled beth fyddai y canlyniad pan ddeuai y merched i odro y gwartheg. Daeth yr adeg gyda gwyll y nos fel arfer, dyna'r merched yn agor y drws, ac och! dyna y priod a'r tad yn hongiau yn grogedig! Cyfedwyd gwaedd wylofus; gwaeddai y wraig am ei phriod, datganai ei rinweddau ef, a'i cholled hithau, a'r ferch yr un modd. A phan oeddynt yn tori y corff i lawr daeth yr hen fachgen o'i ymguddfan wedi ei lwyrfoddloni eu bod yn eu garu, ac ni flinodd yr ysbryd amheus ef mwy. Na feier ni am gyflawni rhan hanesydd trwy gofnodi y ffaith ddigrif hon.

Ymddengys y byddai boneddigion gynt yn cadw yr hyn a elwid ffwl, neu ddyn a fedrai ddynwared ymddangosiad hurtyn er difyrwch ac adloniant i'r teulu. Yr oedd un o'r cymeriadau hyn yn Lleuar, yn amser y Wyniaid. Un diwrnod yr oedd ffermwr cyfagos yn petruso a allai efe groesi sarnau Lleuar, gan fod yr afon wedi llifo yn arw. Gwelai y ffwl ef yn petruso, a nesaodd at yr afon. "A ydych chwi yn meddwl y gallaf groesi y sarnau yn ddiogel ?" ebe y ffermwr. "O, pa'm nas gellwch," oedd. yr atebiad; "ychydig funudau yn ol croesodd boneddwr mor hardd ei ddillad a chwithau y sarnau yn ddiogel." "Wel, os gallai ef, pa'm nad allaf finnau," ebe'r ffermwr druan, a chymerodd y sarnau; ond nid cynt y dechreuodd eu sangu nag yr ysgubodd y llifeiriant ef ymaith, a buasai wedi boddi oni bai y ffwl ei achub. Y boneddwr oedd wedi croesi yn ddiogel o'i flaen oedd y ceiliogwydd! Mae y sarnau yn aros, ond y ffermwr a'r ffwl wedi myned!

Ond nid oes terfyn i hanes dygwyddiadau fel hyn, gan hyny y mae yn rhaid i ni eu gadael. Y wyddor a efrydir yn fwyaf cyffredinol yn awr, a'r hon mewn canlyniad sydd wedi cyrhaedd y graddau uwchaf o berffeithrwydd, yw cerddoriaeth. Gwir nad ydym yn gallu ymffrostio mewn cerddorion enwog, er hyny y mae genym nifer o wŷr ieuainc sydd yn dringo rhagddynt yn gyflym, ac yn cipio yn aml flodeuyn arobryn yn ein heisteddfodau a'n cyfarfodydd llenyddol. Yn mysg y rhai hyn y gellir crybwyll yn arbenig am Mr. John Hughes (Alaw Llyfnwy), William Roberts, Penygroes (Ehedydd Llyfnwy), Hugh Owen (arweinydd y Glee Society). Y mae genym ddwy seindorf, un yn Llanllyfni, a'r llall yn Nantlle, gwasanaeth pa rai a geir yn hwylus a gwerthfawr mewn gorymdeithiau, cyngherddau, &c. Hefyd, amryw gorau a glee societies perthynol i'r amrywiol ardaloedd, yn mysg y rhai efallai mai y Talysarn Glee Society, dan arweiniad Mr. Hugh Owen, yw y fwyaf cyhoeddus, i'r hon y mae Mair Alaw yn addurn gogoneddus.

Mewn rhan o'r Nant y mae addysgiaeth y plant wedi ei drosglwyddo i ofal Bwrdd Addysg. Y mae Bwrdd plwyf Llanllyfni yn gynnwysedig o'r boneddigion canlynol:—Parchn. W. Hughes, M.A., periglor, a W. Hughes, Coedmadog; Dri. Williams a Roberts, Penygroes; a Mr. Hugh Jones, Gelli Bach. Darfu i blwyf Clynnog, trwy lais y mwyafrif, ymwrthed â derbyn y Bwrdd yn y plwyf hwnw; pa un o'r ddau a wnaeth y peth doethaf, efallai mai amser fydd yr esboniwr goreu.

Ddarllenydd hawddgar, y mae ein gorchwyl yn awr ar ben. Da fuasai genym iddo fod yn berffeithiach. Gan y bydd y cyfleusderau teithiol yn fuan wedi eu perffeithio yn nghwblhad y rheilffordd trwy rhan helaeth o'r dyffryn, ni a hyderwyn y bydd yr ymdrech yma yn rhywbeth er dwyn neillduolion y Nant yn fwy i sylw. Y mae hen ddyffrynoedd Arfon yn oludog o drysorau, a'u cudd-adnoddau braidd yn ddihysbydd, a phob dydd y mae y meddwl dynol yn enill rhyw oruchafiaeth newydd, ei gynlluniau yn ymeangu, a thrysorau newyddion yn cael eu dadguddio iddo.

O dan ddeddf bresennol addysg y mae lle i hyderu na fydd un cwr o'r wlad heb ddarpariaeth briodol tuagat gyfranu addysg i blant tlodion. Yn wir y mae y ddeddf ddiwygiedig wedi gwneyd hyn yn anhebgorol. Yn fuan fe symudir pob rhwystr ac esgusawd dros anwybodaeth, ac ni fydd cymaint ag un dyn anllythyrenog o fewn y Dywysogaeth a'r Deyrnas.

Ac yn nghanol ein gwelliantau, na fydded i ni anghofio ein cyfrifoldeb moesol, canys daw y dydd pan ddystewir swn y morthwylion ar y creigiau-y galwad, fe ddichon, wedi dihyspyddu yr adnoddau. Ie, daw y dydd y bydd yr elfenau gan wir wres yn toddi. Lleibir y llynau a'r Llyfnwy drystfawr gan fellt y farn. Y dydd hwnw caffer ni oll "ynddo ef," a chyda y seintiau y rhai sydd wedi ein rhagflaenu-llwch y rhai a orweddant dan ein traed yn y mynwentydd, ac ysbrydoedd pa rai a wyliant ein hysgogiadau o'r nefoedd.

Nodiadau

[golygu]