Hynafiaethau Nant Nantlle/Sylwadau Rhagarweiniol
← Cynnwysiad | Hynafiaethau Nant Nantlle gan William Robert Ambrose |
Hynafiaethau Pen. 1 → |
HYNAFIAETHAU, COFIANNAU
A
HANES PRESENNOL
NANT NANTLLE
—————————————
SYLWADAU RHAGARWEINIOL
Nodwedd arbenig yn nghyfansoddiad meddwl dyn yw y duedd gref sydd ynddo i wybod hanes dechreuad a gwreiddyn pob peth, Pan edrychom. ar yr afon fawreddog, yr hon sydd yn cario y llongau mawrion ar eî mynwes, teimlwn awydd dilyn cwrs yr afon hono yn ol i'w ffynnonell ddechreuol, ac at y gudd-wythïen yn ystlys y mynydd, neu y dyferion cyntaf ohoni sydd yn disgyn yn ddagrau dros rudd y graig. Neu, pan sylwom ar deml neu balas henafol ac adfeiliedig, teimlwn awydd cryf i wybod hanes eu dechreuad, yr amgylchiadau a roisant fod iddynt, a pha beth roedd eu hanes yn nyddiau eu gogoniant. Y mae mor gydweddol, gan hyny, ag anianawd y meddwl dynol i edrych ychydig yn ol i hanes y gwrthddrychau a welir o'n hamgylch, fel y mae yn. hawdd genym gredu y bydd y darllenydd yn foddlawn ac awyddus i'n dilyn yn ein hymdrech eiddil i fwrw golwg ar hynafiaethau, cofiannau, yn gystal a hanes presennol eìn dyffryn tlws ac anwyl ni ein hunain. Yr ydym yn ddyledus iawn i bwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Penygroes am gyfeirio ein traed i'r lwybr dyddorol a phleserus hwn; a byddwn yn falch o ddeall ein bod wed llwyddo i wneyd â'n dyffryn bychan ni yr hyn a wnaed eisoes âg ardaloedd ereill, sef dwyn sylw ein cydwladwyr at yr hanes, a'r amrywiaethau dyddorol a berthynant iddo
Gorwedda dyffryn, neu nant Nantlle, yn benaf, rhwng dan drum o fynyddau, yn Nghwmwd Uwch-Gwyrfau, yn Nghantref Arfon; ac yn y pellder o tua saith milldir o dref henafol Caer Seiont. Mae y fynedfa iddo, yn y pen dwyreiniol, twy agorfa gul a rhamantus a elwir Drws-y- coed. Yn y lle hwn, ymddengys y ddau drum o fynyddau uchel, y rhai sydd yn ffurfio erchwynion y nant ar bob llaw, fel pe byddent ar fedr rhuthro i gyfarfod eu gilydd, a chau i fyny y fynedfa. Taenant eu hedyn adamanteidd duon dros y "Drws;" ac ar adegau ystormus bydd swn y gwynt wrth daro yn erbyn y pendistïau oesol hyn fel olyniad o daranan. brawychus, Nis gall yr olygfa yma beidio a llenwi enaid yr ymwelydd ag arswyd cysegredig. Yma y mae natur yn teyrnasu yn ei hawdurdod a mawredd ei Chreawdwr wedi argraffu arni mewn. llythrenau breision digamsynied.
Fel yr ydym yn dyfod i waered, gan ddilyn cwm y Llyfnwy, y mae y dyffryn yn ysgafnau ac yn ymledu. Tua milldir islaw Drws-y-coed deuwn lan y llynau, y rhai a wahenir gan wddf-dir cul a elwir "Bala-deulyn." Mesura y ddau lyn tua milldir a haner o hyd, wrth chwarter milldir o led. Wedi dyfod rhagom tua dwy filldir drachefn, y mae y trum o fynyddau ar ein llaw ddehau yn diflanu, a'r dyffryn yn ymledu bron yn wastadedd. Modd bynag, y mae y gadwyn ar ein haswy yn parhau; a chan ogwyddo tua'r gogledd ar ffurf fwäog, terfyna yn mhwynt Pen-y-rhiwiau, ar lan y mor gerllaw pentref Clynnog Fawr. Ac os cymerwn y pwynt hwn yn derfyn ar un llaw, a Dinas Dinlle ar y llaw arall, bydd genym felly o'n blaen ddyffryn yn mesur tun chwe' milldir o hyd, gan amrywio o ychydig latheni hyd tua pedair milldir o led, Ar hyd y dyffryn hwn y rhed afon Llyfnwy, gan gychwyn ychydig uwchlaw. Drws-y-coed, a therfynu yn y mor, ychydig islaw pontlyfni, ar lan bau Caer-yn-arfon. Tybiwn mai dyma y terfynau a gynnwysir yn briodol o fewn dyffryn Nantlle, er ei fod yn haeddu ei grybwyll nad yw yr enw yn cael ei gymhwyso ond at y rhan uwchaf ohono yn gyffredin.
Tua 600 mlynedd ym ol buasai y dyffryn yna yn ymddangos i'r edrychydd yn nantle goediog, anniwylliedig, ac anial; a'r cyll-lwyni tewion yn dringo i fyny ar hyd ystlysau y mynyddoedd sydd yn ei gysgodi. Ymddangosai moelydd y Tryfan, y Cilgwyn, Glan-yr-afon megys pennu moelion hen wŷr, a'r coed tewion megys llaeswallt i lawr eu hysgwyddau a'u godreuon. Ar hyd penau y moelydd hyn gallesid gweled ein henafiaid syml yn ysgraffinio ychydig ar y tir tenau cerygog, tra y gadawent yr iseldiroedd breision yn noddfeydd bwystfilod ac ymlusgiald. Ymddyrchaf mwg o'u hanneddau cyfyng a diaddurn fel cymylau eur-wlanog i'r uchelder, Clywid twrf ymdreigliad y Llyfnwy rhwng ceunentydd anhygyrch, ac ymddangosai y "llyn" megys anoddfn prudd, erchyll, yn nghanol llwyni o goed tew-frigog, Y pryd hyny yr oedd holl amgylchoedd y Wyddfa yn llawn o ddyrysgoed, ac yn llochesau ceirw gwylltion a bleiddiaid, Y clogwyni serth a danneddawg â ddefnyddid gan ein tywysogion dewr fel amddiffynfeydd pan yn cael eu hymlid gan dramoriaid lluosog a gwaedlyd. Ond, pan syrthiodd ein. "Llywelyn," ac y gorchfygwyd Cymru gan Iorwerth y Cyntaf, efo a Gorchymynodd ddinystrio fforestydd breninol y Wyddfa, fel nad allent mwyach fod yn achos i wrthryfel yn erbyn coron a llywodraeth Lloegr, Cwympodd ein coedwigoedd gyda chwymp ein hannibyniaeth. Dengys y lluosogrwydd o goed derw a chyll o bob maintioli a orweddant o dan yr arwyneb, yn mhob rhan anniwylliedig o'r dyffryn, pa mor goediog y rhaid fod y lle yma gŷnt.
"Wedi i heddwch gael ei sefydlu, a'r tiroedd gael eu diwyllio, daeth y "Nant" i wisgo gwedd brydferthach, Ymddangosai y maesydd llydain a'r dolydd gwyrdd-leision gydag ambell lanerch o goed yma ac acw, megys i dori ar unffurfiaeth yr olygfa. Ar wyneb y llynau adlewyrchid delw y mynyddoedd uchel, a daeth glanau y Llyfnwy, lle y teyrnasai braw ac annhrefn, yn rhodfeydd difyrus ac adloniadol. Er y cwbl, ychydig oedd nifer y trigolion, ac anaml a diaddurn oedd y tai, hyd oni ddechreuwyd agor y llech-chwarelau.— Ond pan ddaeth yr adeg yr oedd coffrau goludog y Cilgwyn i gael eu hagor, ac ymysgaroedd y mynyddoedd i gael eu chwilio, crewyd cyfnod newydd yn hanes y lle, a dechreuodd pob cangen o'i fasnach ymfywiogi. Cymylodd hyn raddau, mae'n wir, ar degwch naturiol y dyffryn. Boddwyd cynghanedd y goedwig gan swn y morthwylion, a chymylwyd dysgleirdeb yr awyrgylch gan fwg ager-beiriannau. Ond lle collodd mewn prydferthwch yr enillodd mewn cyfoeth. Ymgasglodd nifer! mawrion o deuluoedd o Fon a Lleyn, a manau ereill, yma i fyw. Adeiladwyd yma dai lluosog a golygus, addoldai eang a chyfleus, gydag ysgoldai dymunol, fel y gellir yntyried dyffryn Nantlle y dydd heddyw fel un o'r lleoedd mwyaf blodeuog a chynyddfawr yn Sir Gaernarfon, a'i ragolygon yn addawol a lwyddiannus.
Perchenogid bron yr oll o Ogledd Cymru yn yr amser y goresgynnwyd. hi gan y Rhufeiniaid, gan lwyth neillduol a elwid yr "Ordovices," neu "Gordofgion," Am y bobl hyn sylwa Camden eu bod yn wrol a phenderfynol iawn, yn preswylio rhanbarthau mynyddig, a'u bod y rhai diweddaf oll i gael eu gorchfygu gan y Rhufeiniaid a'r Sacsoniaid. Bu y Rhufeiniaid am yn agos i gan mlynedd, sef o'r amser y tiriodd Julius Cesar, C.C, 50, hyd amser Ostorius, yn O.C. 50, cyn llwyddo i orchfygu y bobl a breswylient y rhanbarth hwn o Ynys Brydain, alwyd ar ol hyny yn Wynedd. Ac o'r flwyddyn O.C, 449 hyd amer Iorwerth y Cyntaf, yn y flwyddyn 1282, bu y Sacsoniaid yn ymosod yn berheus cyn. llwyddo i lwyr orchfygu y Gordofigion, neu bobl Gogledd Cymru; ac nid heb arfer dichell, fel y gwyr y darllenydd yn dda, y llwyddwyd i gael ganddynt yn y diwedd osod eu gyddfau o dan yr iau Sacsonaidd.
Gelwid pobl Sir Gaernarfon yn neillduol yn "Cangi," neu "Cangiani," yn amser y goresgyniad y sir gan y llywydd Rhufeinig, Ostorius Scapula. "Yr oeddynt yn preswylio yn benaf hyd benau y moelydd a'r bryniau, mewn cytiau crynion, diaddurn, gweddillion y rhai a welir yn luosog eto hyd benau y mynyddoedd, ac aelwir yn awr yn gyffredin "Cytiau Gwyddelod," neu fel y myn rhai eu galw "Cytiau'r gwyr hela," am fod y trigolion y pryd hyny yn byw yn benaf ar helwriaeth. Gall y darllenydd weled olion nifer luosog o'r cytiau hyn wrth draed y Mynyddfawr, yn Drws-y-coed.
Efallai y dylem grybwyll nad oedd y wlad hon yn cael ei dosbarthu i siroedd a phlwyfydd, fel y mae yn bresennol, hyd ar ol uniad Cymru a Lloegr, o dan deyrnasiad Iorwerth y Cyntaf; oblegid yn y ddeddf a gyhoeddwyd yn Nghastell Rhuddlan yn ngrawys y flwyddyn 1294, dosbarthwyd Gwynedd a Deheubarth i siroedd, ac y sefydlwyd prif ynad ar bob sir, Ac am y dosbarthiad o'r sir yn blwyfydd, ni ddefnyddiwyd y drefn bresenol hyd Harri yr Wythfed, er fod rhai o'r plwyfydd yn dwyn enwau hon seintiau Ynys Brydain, ac yn cadw yr un cyffinau ag oeddynt o'r blaen o dan arolygaeth eglwysig.
Crybwyllasom o'r blaen mai yn. Nghantref Arfon y gorwedda Nantlle, Y cantref hwn a renid i ddau gwmwd, a elwid "Uwch-gwyrfai" a "Is-gwyrfai," y rhai a dderbynient eu henwau oddiwrth afon o'r enw, yr hon sydd yn ffurfio y terfyn ar un ystlys. Y cwmwd a renid hefyd i nifer o drefi neu dreflanau, ac y mae dyffryn neu nant Nantlle yn cynnwys rhanau o bump o'r treflanau hyn, sef. Tref y Llyfnwy, ar y tu ddeheuol i afon Llyfnwy, a'i hardreth yn myned at wasanaeth côr Beuno; Tref Eithiniog a Bryncynan, a'i hardreth i gael ei dalu i Dywysog Cymru; Tref y Dinlle, yr hon oedd yn dref ryddfreiniol yn meddiant y Tywysog, neu ei berthynas agosaf; Tref y Bennarth, a Thref Celynog, ardrethion y rhai a roddwyd at wasanaeth Eglwys Beuno, yn Nghlynnog fawr.
Cynnwysai pob un o'r treflanau hyn nifer o "welyau." Cyfreithiau Cymru, o dan ei thywysogion, a drefnant fod i bob plentyn, ar farwolaeth y tad, hawl gyfartal i'w diroedd a'i feddiannau, Y drefn hon a elwid "Gafaeledd;" canys pan fyddai pendefig farw, ac i'w diroedd gael eu rhanu yn gyfartal rhwng pob plentyn, gelwid cyfran unigol pob plentyn yn "wele" neu "wely," "Y gyfraith hon," medd Carnhuanawc, oedd dra niweidiol mewn amryw bethau, yn mhob gradd cymdeithasol; ond yn etifeddiaeth o'r orsedd yr ydoedd yn achlysurawl o ddrygau annhraethadwy; canys pan gymerai ei rhwysg yn heddychol, gwanhai y llywodraeth trwy raniadau bychain o'r awdurdod o un genedlaeth i'r llall, hyd nes na fyddai gan y gwahanol freninoedd bychain ddigon o gadernid i wrthladd ymosodiadau estronawl. A phan nad ufuddhaed i'r gyfraith yma, eithr i'r mab hynaf geisio gafaelyd ar y cyfan o'r llywodraeth, er gwrthodiad o hawl ei frodyr, yna byddai yn achlysur o ryfeloedd cartrefol o'r anianawd mwyaf gwrthun a dinystriol, y rhai o wanhaent y wlad lawer mwy na'r gyfraith ei hun. Ac hefyd, a barent i'r blaid wanaf yn wastad alw i mewn gynnorthwy estroniaid, y rhai yn fynychaf a ymsefydlent eu hunain yn y wlad, er mawr flinder a niwaid i'r trigolion."
Y mae yr hinsawdd yn y dyffryn hwn yn amrywiol. Yn y cwr uchaf, yr hwn sydd yn gorwedd wrth droed y mynyddoedd, y mae yr ardymheroedd yn oer a chyfnewidiol. Yn Drwsycoed, wrth odreu y Mynyddfawr, nid ydyw yr haul yn tywynu ond dros ychydig o fisoedd yn nghanol yr haf. Ac er fod y cwr uchaf yn fwy cysgodol, oddieithr ar ddwyrein-wynt yn unig, eto gan fod y Wyddfa, a'r trumau uchel ar bob llaw, yn orchuddiedig dros y rhan fwyaf o'r flwyddyn gan eira neu gymylau a niwl tawchlyd llaith, y mae yr ardymheredd hefyd yn y gwaelodion yn llaith ac oer. Ac heblaw hyny, y mae y trymau uchel yn dryllio y cymylau, o ba herwydd y mae yn fwy tueddol i wlawio yn y cwr uchaf; ac y mae y gwlawogydd yn gyffredin yn drymion a disymwth. Y mae rhanau hefyd o'r gwaelodion yn gorsydd gwlybion, o'r rhai yr ymgyfyd tarth afiachus ar brydiau. Pan ddeuwn heibio Penygroes, at waelodion y nant a glan y mor, y mae yr hinsawdd yn dynerach ac yn fwy sefydlog. Y mae y fath gymesuredd o for awel yn nghymydogaeth Pen-y-groes a Llanllyfni, ac eto heb fod yn rhy agos i'r mor, fel y gallwn dybied fod safleoedd y pentrefydd hyn yn hynod o iach a chymhedrol. Am tua thair rhan o bedair o'r flwyddyn bydd yn chwythu o'r tueddau gorllewinol, er mai y dwyreiniol, yn enwedig yn y gauaf a'r gwanwyn, gan ei fod: yn dyfod oddiar y Wyddfa, a chreigiau yr "eira a'r eryrod," ydyw y mwyaf lym a digysgod.
"Yr ydym wedi cyfeirio amryw o weithiau at y Llyfnwy," y brif afon; yr hon sydd yn rhedeg ar hyd gwaelod y dyffryn hwn. Y mae haneswyr diweddar yn camgymeryd wrth grybwyll mai yn "Llynau Nantlle" y mae ei tharddiad, oblegid y mae yn afon gref cyn cyrhaedd y llynau, er ei bod yn derbyn llawer o adgyfngrthion tra y mae yn ymdroi ynddynt. Ystyr y gair "wy," meddir, yw dwfr neu afon, ond. nid yw Llyfnwy yn ddesgrifiadol, o'r afon yma ond mewn rhan fechan yn unig, gan fod ei threigliad, ar y cyfan, yn chwyrn a thrystfawr, ac ar wlawogydd yn ddychrynllyd. Nid yw y, Llyfnwy, megis rhai o afonydd ein gwlad, y rhai gan awydd "gweled y byd," a gymerant daith hamddenol ar hyd gwastad-diroedd, gan amgylchu bryniau wrth eu pwys; eithr yn hytrach cymer daith frysiog, ddiymaros, nes cyrhaedd: ei chartref yn mor gilfach Caernarfon, ychydig islaw Pontlyfni, Y mae hen draddodiad yn yr ardal fod yr afon hon yn yr hen amser yn llithro i ddyffryn Menai, ac mai wrth Ynys Seiriol, gerllaw Beaumaris, yr oedd yn cyrhaedd y mor, Yr oedd Arfon a Mon y pryd hyny heb eu. hysgaru, fel y gallai dyn gerdded ar draed o Landdwyn i Glynnog Fawr heb wlychu ei draed. Nid oedd y mor y pryd hyny wedi ymweithio trwy y lle y mae culfor Abermenai yn awr, Dichon y dylid ychwenegu fod rhai yn ceisio amddiffyn y traddodiad hwn oddiar seiliau hanesyddol.