Neidio i'r cynnwys

I'r Aifft ac yn Ol/Lle maer Nile yn llifo'n llachar (Gwylfa)

Oddi ar Wicidestun
Rhagdraeth I'r Aifft ac yn Ol

gan D Rhagfyr Jones

Gair yn Ei Bryd

Gan GWYLFA.

Lle maer Nile yn llifo'n llachar
Buost yn ymdeithydd llesg,
Lle bu Joseph yn y carchar,
Lle bu Moses yn hesg;
Ac wedi gweled byd mor bell,
Difyr oedd d'od i Gymru'n well.
 
Un o'm hoff freuddwydion inau
Oedd cael gwel'd y lotos pêr,
A phob un o'r pyramidiau
Tan ei goron wen o sêr:
Ond mwyach ni rwgnachaf fi,
Mae'r Aifft i gyd yn dy gyfrol di.
 
Yno mae yr Arab hapus,
Yno mae y Sphinx diwên;
Bywyd yn segurdod melus,
Harddwch yn bererin hen:
A dyma wlad y rhamant fawr
Mewn cyfrol fach Gymreig yn awr.
 
Plygodd hi ei haden dirion
Dros fy Iesu y'more'i oes,
A hi ofalodd yru Simon
Tua'r bryn i ddwyn ei Groes:
Gwell yw anghofio'i gorthrwm cas,
A chofio'r Aifft y'nyddiau'i Gras.

Mehefin, 1904.