I'r Aifft ac yn Ol/Ychydig o Friwfwyd Gweddill

Oddi ar Wicidestun
Ar Fin yr Anialwch I'r Aifft ac yn Ol

gan D Rhagfyr Jones

Yn Ol

PENOD XXIII.

YCHYDIG O FRIWFWYD GWEDDILL.

 CHWI gofiwch imi sôn am yr Amgueddfa yn Alecsandria, lle y cedwid y cyrff a gladdesid yn y Bedde Tanddaearol. Yr wyf y'meddwl imi siarad am dani dipyn yn ddirmygus—mai prin oedd ei hatdyniade—taw hyfdra'i swyddogion duon oedd ei nodwedd amlyca'—ac nad oedd yn werth ei chymharu â'i chwaer yn Cairo. Nid wyf am dynu'n ol ddim a dd'wedes. Mae'r un sy' genym y'Nghaerdydd yn ei churo i ffitie. Ond am un Cairo, mae'n sicr nad oes ei rhagorach yn yr holl fyd. Mae ei safle ddaearyddol rhwng y ddinas a'r Pyramidie, mewn pentre' o'r enw Ghizeh.

Es yno un diwrnod gyda Huws, ac nid wyf yn meddwl imi flino nemor mwy erioed ag a wnes y diwrnod hwnw. Cyn diwedd y dydd, mi allwn feddwl fod fy nhraed yn llwythog o falaethe, a gwynegon, a chyrn, gan drymed a phoenused o'ent—fy nghefn fel pe b'ai rhywun wedi rhoi cwlwm ar linyn fy spein—a'm pen yr un fath yn union a phe b'ai'n efel go' mewn pwll glo, a chanoedd o forthwylion mewn llawn waith ar ganoedd o eingione. Pan gofiaf am hyny heddyw, mae fy nychymyg yn bywiogi'n y fan, a bron nad af ar fy llw fod pine bach yn chware' drwy 'nghorff i gyd o'r coryn i'r gwadn. Yr oedd fy ffrind wedi bod yno fagad o weithie o'r blaen, a bydde fynyched ma's a mewn—fynychach yn wir, oblegid gwaherddid ysmygu oddifewn. Mi dybiwn i y bydde caniatau hyny'n welliant mawr. Ga'nad pa mor wrthwynebus i rai pobl yw sawyr y ddeilen ysmygir, mae'n rhaid fod cywreiniad eu ffroene yn òd o eithriadol i beri iddynt ddewis sawyr y lle o'i flaen. Yr oedd hwnw'n drwm anarferol mewn ambell i 'stafell. Yr oedd drymed nes y byddwn dan yr angenrheidrwydd weithie o redeg at y drws i gael newid awyr; a'r prydie hyny, gwelwn Huws ar ei hyd ar un o'r sedde'r tu allan, y'mygu fel Swltan. Parod o'wn i eiddigeddu wrtho; ond gan mai "unweth am byth" oedd f'ymweliad i â'r wlad, yr o'wn yn benderfynol o'i "gwneud" mor llwyr ag y base f'amser a f'amgylchiade'n caniatau. Ac yn ol yr awn bob tro.

Saif yr adeilad ar arwynebedd anferth o dir, ac y mae'r ystafelloedd sydd ynddo'n ddirifedi 'mron. Cerdda Arabied talion i fyny ac i lawr y gwahanol adrane gyda mursendod chwerthinus; mae'n amlwg eu bod yn mawrhau eu swydd y tu hwnt i bobpeth. Croesant eich llwybr i bob cyfeiriad; deuant arnoch gyda sydynrwydd poenus allan o dylle a chornele anhysbys i chwi; a phan y byddwch wedi ymgolli uwchhen gweddillion rhydlyd rhyw hen Pharo' neu gilydd, ond odid na fydd dau neu dri o'r swyddwyr duon hyn wrth eich penelin, yn barod i chwi pytae'n eich bwriad i fyn'd a Pharo' i ffwrdd. Mae diwrnod yn rhy fyr i fyn'd drwy'r lle "ar 'sgawt;" mae wythnos yn rhy fyr i fyn'd drwyddo'n feddylgar. Ceir yma sgoroedd o mummies perffeth, wedi eu casglu o bob cwr o'r Aifft. Mae Rameses yr ail a'r trydydd—Pharoed amser Joseph a Moses—yma'n eu corffoleth, mor debyg a dim i'r darlunie gewch o honynt. Pobl a phen heb galon iddynt, deall heb deimlad, gwareiddiad heb foesoldeb. Nis gallaf byth edrych ar Aifftwr o'r cynoesoedd, ar bapyr nac mewn amdo, heb deimlo iâs yn cymeryd meddiant o f'asgwrn cefn. Ymddengys i mi bob amser yn deip o greulondeb mewn gwaed oer, ac y mae'r llygad llonydd yn eich dilyn i bob man nes eich gwneud yn gaethwas i ofn nas medrwch rhoi cyfri' am dano. Mae yma hen gôfadeilie o dywysogion fuont unweth mewn bri—rhai'n weddol o gyfen, erill heb eu trwyne, a nifer dda heb eu pene. Hen golofne sydd mor llawn o saetheirie fel taw prin y gwelwch ddim arall. Hen ddarne aur o wahanol gyfnode, a hen ddarne arian o wahanol rane o'r wlad. Breichlede, cadwyne, clustdlyse, a darne o waith ede a nodwydd, y rhai oedd wedi bod mewn cistfeini am filoedd o flynydde. Hen femrwne a'u hinc mor glir a'r diwrnod y cawsant eu hysgrifenu; a dillad oddiar gyrff wedi eu perarogli, heb fod fymryn gwaeth i'r golwg. 'Roedd yma lon'd byd o ryfeddode y'mhob ystafell. Ond O, mor iach oedd d'od allan i'r awyr agored, i ymloewi'n yr haul, ac i yfed awelon adfywiol y gerddi!

Wn i yn y byd os ydych yn cofio imi dd'we'yd i Jones a mine fyn'd gyda'r trên i Heliopolis ar brydnawn, lle gwelsom y nodwydd a'r pren. Mi dd'wedes lawer o bethe am y lle hwnw, ond 'rwy'n meddwl imi ollwng dros gof i dd'we'yd taw 'run yw'r wlad hono a Gosen gynt. O leia', dyna'r dybieth; ac y mae cryfach sail iddi nag aml i dybieth debycach i'r gwirionedd. Hwyrach y bydd gwybod cyment a hyna yn 'chwanegu at ddyddordeb yr hanes i rywrai; oblegid mae amryw o bryd i'w gilydd wedi bod yn fy holi i am wlad Gosen, fel pe baent ar fedr ymfudo iddi. Ga'nad beth am hyny, nid dyna wy'n hala ato wrth ymdroi fel yma—ond hyn. Wedi ini gymeryd ein lle yn y cerbyd, a phan oedd y peiriant yn rhoi'r arwydd cychwynol, dyma'r drws yn cael ei agor eilweth, a phererin arall yn cael ei wthio i fewn gan ddwylo duon a lleferydd duach dau neu dri o weision yr orsaf, nes ei fod ar ei ben yn erbyn y drws cyferbyniol. A phe digwyddase hwnw fod yn rhydd o'i glicied—fel y gweles hi lawer gwaith—'does dim dwyweth nad allan y b'ase'r truan yr ochr arall. Ond wedi i'r trên gychwyn, ac iddo ynte gael amser i hel ei hun at ei gilydd, a gosod ei hun ar y sêt yn daclus, cawsom nine amser a chyfleusdra i gymeryd 'stoc o hono. Dyn canol oed oedd, mi dybiwn, a golwg wyllt arno—yn wir, ei lyged a hawlie'ch sylw gynta', yr o'ent ddysgleiried ac aflonydded. Yr oedd twrban gwyn ar ei goryn, ac esgidie melyn am ei draed; dillad gwael am dano, a'r rhai hyny'n cael eu gwneud i fyny o hen lodre canfas wnaed gan ryw deiliwr dorodd ar ei brentisieth cyn dysgu ei grefft, a hen gôt oedd yn profi ffydd Jones a mine i gredu taw côt ydoedd. Ond prin oedd y pilin oedd am dano, a phrinach oedd yr ymborth oedd ynddo. O, yr oedd yn deneu! Siarade âg e'i hun am beth amser—am ei fod yn credu na all'se siarad â neb oedd gallach, meddwn i; am ei fod heb orphen setlo cyflwr y bechgyn a'i gwthiasant i'r cerbyd mor ddiseremoni, medde Jones. Bid fyno, bu'n ddall a byddar i ni am ysped, ac yr oedd sylwade fy ffrind ar ei bersonolieth yn ddoniol. Ond wedi ini basio'r ail orsaf, dyma'r hen frawd at Jones—yr hwn oedd yn eistedd ar yr un fainc ag ef—ac yn clebran wrtho ei ore' â'i dafod ac â'i ddwylo, gan bwyntio ataf fi.

"Be' mae'r hen gna'n 'i ddeud, Jones?" meddwn.

"Mor bell ag yr w i'n gallu ddeall o," ebe ynte, "a 'dydi o ddim yn waith hawdd, mae o am gael gwybod os ydach chi'n ddyn sanctedd."

"Yn ddyn sanctedd! Be' gebyst mae o'n feddwl? A phwy hawl sydd ganddo i ame'n sancteiddrwydd i mwy na'ch sancteiddrwydd ch'i? 'Rwy'n siwr nad w i ddim yn edrych yn fwy digymeriad na chithe, Jones."

"Peidiwch gwylltio," ebe fe; "nid y'ch caritor ch'i, ond y'ch swydd ch'i, mae o'n feddwl."

"O! Ond pa'm mae o wedi fficsio arna' i, mi leiciwn wybod?" A tbybiwn fy mod wedi pinio Jones yn erbyn y wal â'r cwestiwn yna.

"Oblegid eich colar!"

Aethum yn fud, ac nid agores fy ngene. Fy ngholar! Hawyr, pa ddrwg a wnaeth fy ngholar! Un gron oedd, o rywogeth yr Eglwys Sefydledig o goleri, ac nid oedd digon o honi'n y golwg i dynu sylw neb. Heblaw fy mod yn siwr ei bod yn ddyledus i'r twba golchi er's dyddie. Gwelwn y dyn yn edrych arnaf a math o "barchedig ofn" yn ei ymddangosiad, a chyn imi gael amser i estyn allan fy llaw, yr oedd ar ei linie o 'mlaen, ac yn parablu fel dyn yn d'we'yd ei bader. Mi godes ar fy nhraed yn union, ac mi ddangoses y sêt iddo; cododd ynte, ac eisteddodd i lawr. Yna mi drois at Jones:

"Rho'wch dipyn o ole' ar y mater," meddwn, gan geisio bod yn bigog.

"Mae o'n deud 'i fod o'n Gristion," ebe fe, "yn Goptiad, wyddoch, a mae o'n meddwl wrth shâp y'ch colar y'ch bod chithe'n Gristion. Mae o wedi bod yn deud wmbredd o bethe wrtho i am danochi, yn ol dull y Dwyreinwyr yma—megis y'ch bod chi'n ddyn glân, ac yn ddyn duwiol, a'i fod o'n y'ch caru ch'i, ac na fydde dim yn well geno fo na bod yn was i ch'i byth. Dyna oedd o'n dreio ddeud wrthochi pan ar 'i linie, ond fod 'i deimlade wedi myn'd yn drech nag e'."

Mae clywed dyn arall yn eich galw'n ddyn glân, a chwithe heb gael datguddiad cyffelyb er yn blentyn—ac yn ddyn duwiol, a chwithe'n gwybod y bydde'n chwith gan neb sy'n eich 'nabod i gyfadde hyny, yn eich toddi'n union; a mi edryches ar y crëadur craff dipyn yn fwy serchus. Darllenodd fy llygad ar unweth, a gwnaeth osgo i fwrw ei hun i lawr wed'yn. Ond mi weles ei bod yn bryd i ddwyn y benod i derfyniad.

"Os taw Coptiad yw," meddwn wrth Jones, "ceisiwch ganddo ddangos llun y groes ar ei arddwrn."

"Wel, ïe'n tê," ebe fy nghydymeth, gan daro'i goes â'i law; "sut na b'aswn i wedi cofio hyny?"

Trodd ato; ond mor fuan ag y gofynodd y cwestiwn iddo, gwelwn wyneb y dyn y'newid, ei lygad yn tanio, a'r olwg fwya' cythreulig y'myn'd arno. Hisianodd ychydig eirie rhwng ei ddanedd, a symudodd i gongl bella'r cerbyd, fel dyn wedi cael ei dd'rysu'n ei amcanion.

"Hwyrach y bydde'n well ini newid ein cerbyd yn yr orsaf nesa," ebe Jones.

"Pa'm? Be' sy'n bod?" gofynwn.

"Mae ei gariad wedi troi'n gâs," ebe ynte. "Hen gna' twyllodrus ydyw, ac nid yw'n fwy o Goptiad na fine. Mae wedi deall rywsut mai ch'i dd'wedodd am ei arddwrn; a phan geisies i ganddo ei ddangos, d'wedodd y b'ase'n eich lladd yn y fan pe b'ase'i gyllell ganddo. Wedi cyfri' ar ein cydymdeimlad yr oedd, yn ddiame, ac ar ein harian wed'yn."

Pan ddaeth y trên i'r orsaf nesa', ni fu raid i ni symud. Aeth y twyllwr allan ei hun, ac ni welsom ef mwyach. Ac wedi i'r trên gychwyn drachefn, chwarddasom mor iach a chalonog nes fod pob twrban yn y lle yn hongian allan o'r ffenestri.

Mae'n ddrwg gen i dd'we'yd na fum mewn gwasaneth crefyddol yn Cairo o gwbl, os na chyfrifir imi'n gyfiawnder y bore y bum yn yr Eglwys Fahometanedd gyda Jones ac Ali. Mae llawer o bethe y'nglŷn â'r gwasaneth hwnw yn fy ffafr. Ond mi gefes beder odfa yn Alecsandria. D'wedaf air am danynt cyn dirwyn y benod i fyny.

Mae dwy o eglwysi Protestanedd gan y Saeson yn Alecsandria—yr Eglwys Sefydledig, a'r Eglwys Albanedd. Ni weles y flaena', ond bum yn yr ola' ddwyweth. Saif ychydig o'r tu allan i'r 'sgwâr y sonies am dano, ac o fewn haner ergyd careg i'r môr. Gwelir ei binacl o bellder, a gelwir yr eglwys ar enw Andreas. Mae'n gapel cysurus wedi myn'd iddo. Llofft heb lawr ydyw. Ceir llawer capel y'Nghymru yn llawr heb lofft; ond mae hwn yn wahanol. Nis gwn be' sy' odditano, ond gwn fod yn rhaid dringo dros wmbredd o risie ar ffurf corcscriw cyn y deuir o hyd i'r fan lle mae Andreas yn byw; a phe digwyddech sibrwd yn Gymraeg ar ganol dringo—"andras o le ydi hwn!"—ni bydde'n ymddangos gyment allan o le a llawer man allasech enwi. Eistedda dros bum' cant, mi allwn dybied, yn y capel; ac yr oedd cynulleidfa barchus o dros ddeucant ynddo ar fore' Sul. Yr oedd y canu'n galonog, a'r defosiwn y'naturiol. Tynwyd fy sylw at ddarn o frethyn du oedd yn hongian ar draws yr adeilad, ychydig uwchben y bobl, a dyfalwn beth alle fod. Mi ddealles wed'yn taw ei bwrpas oedd i greu awel pan fydde'r gwres yn fawr yn yr ha'. Yr oedd ei ysgwyd yn ol a blaen yn lliniaru rywfaint ar y poethder. Nid wyf yn cofio beth yw enw'r pregethwr a glywes y bore' cynta' bum yno, ond pregethodd yn rhagorol oddiar Ioan xx. 15. Mwynhês y gwasaneth yn fawr drwyddo. Un odfa'n unig a gynelir yma ar y Sabbath, ond ceir odfa arall yn yr hwyr yn y Sefydliad sy'n perthyn i'r morwyr yn ymyl y porthladd. I derfynu'r dydd yn uniongred, es yno, a daeth y cadben hefo mi. Yr oedd yma gynulleidfa o haner cant, oll yn forwyr ond nifer o gynorthwywyr o'r ddinas. Dyn gweddol fyr, tywyll, tene, a bregethe, a'i dafodieth mor ddwfn a dim a gynrychiolid ar ddydd y Pentecost. Yr oedd pump o bob chwech o'i eirie'n myn'd i golli oddiarnaf, ac yr oedd ei fater a'i ymdriniad mor bell oddiwrth ddeall a chydwybod ei wrandawyr ag yw'r dwyren oddiwrth y gorllewin. Gofynodd y cadben i mi wrth ddychwelyd i'r llong y noson hono be' feddyliwn o'r bregeth.

"Cyfleusdra ardderchog wedi ei ollwng i golli," meddwn; ac â hyn y cytune ynte. Bum dan weinidogeth y brawd tafodrwm y bore' Sul dilynol yn eglwys St. Andreas, a thybiwn ei fod yn ffitio'n well yno nag y'mysg y morwyr. Yr ail nos Sul cawd pregethwr cwbl wahanol yn y Sefydliad. Math o ddiwygiwr tanllyd oedd hwn, a siarade wrth ei gynulleidfa fel pe baem oll yn droseddwyr mewn carchar, ac yn euog o dori'r gorch'mynion bob un. Yr oedd un pregethwr yn cymeryd yn ganiataol ein bod oll yn ddysgawdwyr; yr oedd y llall yn cymeryd yn ganiataol ein bod oll yn lladron a llofruddion. Y canlyniad oedd, fod y ddwy weinidogeth yn aneffeithiol. Mi fydde 'beitu dwsin o honom yn aros ar ol i ganu tonau Sanci—dyn o'r enw Gammidge, goruchwyliwr y Sefydliad, yn arwen, a dyn o'r enw Owen, o Morpeth, yn chware'r offeryn. Ac yr wyf y'meddwl imi dd'we'yd o'r blaen nad oedd neb yn canu'n fwy "harti" yn y cyrdde hyn na chadben y llong y des drosodd ynddi.

Tradwy ar ol y Sabbath ola' hwn, pan oedd y dyn yn pregethu oddiar fynydd Ebal, y cododd y llong ei hangor, ac y trodd ei thrwyn i gyfeiriad y gorllewin.