I Anna

Oddi ar Wicidestun

gan Gwilym Tew

I santes y Tad Iesu
o ffrwyth brenhinllwyth y bru
penna, gwn o bwy y hanoedd
ond ini yn dwyn nef oedd.
Anna fam Fair o nef yw
o naf r aeth frenin yfryw
a ffriod Sioseb ydoedd
gwas i Grist, merch Esacar oedd.
O mynyr mae ay menig
ystori Ann, os ta o wraig.
Pennaeth y gôr penioeth gwiw
yr deml nid ymliw.
Gwrthod a gymerth oy waith
Seimon ag a ffoes ymaith.
ni wyddiad ar fynyddoedd
Anna, pa ddifan fyd oedd
ag y gan mlynedd, meddyn
y bu Ann deg heb yn dyn.
Duw Dad fy diwyd hi
ac awyddiad y gweddi.
Plant a ddygynant y hon
A roes Ann eirie Seimon
Gabriel a fu gwnselwr
i ddwyn y byd, Ann a’i gôr
ag ef yr porth ayr hefyd
a’i dug o arch Duw y gyd.
Lle teg yr enillwyd hon
mair wen hael y morynion
brenhines nef a phresen
Morwyn yw Mair o Ann wen.
Merch wen ym mraich Ann fu
digwswyn y dug Iesu
duw a aned o heni
ac er hyn Mair wyry yw hi
gwyry wedi y ddwyn, gwir ydoedd
a chyn dwyn Duw yn y chnawd oedd.
Y hennill hi o Anna
y nefoedd oll a fu dda.
Wellwell fu yr enilliad
a gweledd y drugaredd a gad
Anna fu yma fameth
a chael nef yn y choel a wnaeth
Coel megis y dewisawdd
clomen nef cael ym y nawdd.
gwnawn rif y gwenyn o’r allt
fawl i Anna felynwallt.
Fe wna Anna i minnau
drwy y gair i hwyr drugarhau
fe a gaiff y fam y gu
Anna geiso ganny Iesu
wrth hyn, o chawn nerth Anna
lle yn y nef yn oll a wna.
Dygwn i Ann fendygedaid
aur a fflam gwyr er y fflaid
a fo dan warcheu Anna
yr wledd y gael diwedd da
gwledd wen fal gloyw ddiwedd
yn oes pawb felly y bydd
a’r wledd hon arlwyawdd hi
y ddelom y haddoli
yno y mae’r Tad yn y gadair
yno y mae Anna a Mair
i’r treon, dan wart y rheini
yno lle dêl f’enaid i.