I Bob Un Sy'n Ffyddlon

Oddi ar Wicidestun

Emyn gan Henry Lloyd (ap Hefin) (1870-1946) yw I Bob Un Sy'n Ffyddlon

I bob un sydd ffyddlon
Dan Ei faner Ef
Mae gan Iesu goron
Fry yn nheyrnas nef
Lluoedd Duw a Satan
Sydd yn cwrdd yn awr:
Mae gan blant eu cyfran
Yn y rhyfel mawr.


I bob un sydd ffyddlon,
Dan Ei faner Ef
Mae gan Iesu goron
Fry yn nheyrnas nef.


Medd-dod fel Goliath
Heria ddyn a Duw;
Myrdd a myrdd garchara
Gan mor feiddgar yw;
Brodyr a chwiorydd
Sy'n ei gastell prudd:
Rhaid yw chwalu'i geyrydd,
Rhaid cael pawb yn rhydd.
(Byrdwn)
Awn i gwrdd y gelyn,
Bawb ag arfau glân;
Uffern sydd i'n herbyn
A'i phicellau tân.
Gwasgwn yn y rhengau,
Ac edrychwn fry;
Concrwr byd ac angau
Acw sydd o'n tu!
(Byrdwn)