I Ddafydd ap Siancyn o Nanconwy

Oddi ar Wicidestun

gan Tudur Penllyn

Can nos daed, cynnes d'adail,
Cai Hir y coed ir a'r dail.
Canol yr haf wyd, Ddafydd,
coedwr dewr cyhyd â'r dydd.
Cryfder a chrafanc Siancyn,
caregog lys, craig y glyn.
Dy gastell ydyw'r gelli,
derw dôl yw dy dyrrau di.
Cynnydd ar geirw Nanconwy,
cerdd a saif, cei urddas hwy.
Glanaf y medrud, Ddafydd,
gerddwriaeth, herwriaeth hydd;
glain nod ar wŷr, glân ydwyd,
gloyn Duw ar bob galawnd wyd.


Dy stad a'th glod yw dy stôr,
Dafydd, ŵyr Ddafydd, Ifor;
anturwr ar filwriaeth
y'th farnwyd, ac nid wyd waeth;
ni wnaeth Rolant fwy antur
no thydi, na wnaeth, â dur.
Pan fo sôn am ddigoniant,
dy roi'n uwch pob dewr a wnânt;
o'r campau ym mhob neuadd
y'th roir yr eilwaith o radd.
Pand un o filwyr Llŷr llwyd,
paun o frwydr, Penfro, ydwyd?
Nai wyd, Ddafydd, loywrudd lain,
i'r ewythr o'r Mastr Owain;
bonedd yw d'anrhydedd di,
brodorion hirion Harri.
Rhoed yt air, rhediad hiroes,
Hwnt, Arglwydd Rhismwnt a'i rhoes.
O'r hynaif gorau'r hanwyd -
o Rys Gethin - Elffin wyd;
Absalon ym Meirionnydd
a swyddog i'r gog a'r gwŷdd;
ŵyr Feirig, rhag cynnig cam,
a Chynfyn oedd eich henfam.


Caredig i'r ceirw ydwyd,
câr i'r Iarll, concwerwr wyd;
tithau, gleddau'r arglwyddi,
tëyrn wyd yn ein tir ni.
Mae yt Wynedd yn heddwch,
a phlaid yn y Deau fflwch.
Gwylia'r trefydd, cynnydd call,
a'r tyrau o'r tu arall.
Da yw secwndid y dydd,
gwell, ŵyr Cadell, yw'r coedydd.
Da yw ffin a thref ddinas,
gorau yw'r glyn a'r graig las;
da oedd bardwn dydd bwrdais,
ac nid oedd waeth saeth rhag Sais;
cerwch gastell y gelli,
cerwch wŷr a'ch caro chwi.
Cadw'r dref a'r coed a'r drws,
cadw batent Coed-y-betws.
Wyth ugain câr i'th ogylch,
wyth gant a'th garant i'th gylch,
wyth gad, myn Pedr, a fedri,
wyth goed, a Duw a'th geidw di.