I Dewi Sant
Gwedd
gan Lewis Glyn Cothi
(detholiad)
- Bara a gymerth, a berwr,
- neu ddwr afonydd oerion,
- Ac o'r rhawn, gwisg ar ei hyd,
- a phenyd ar lan ffynnon.
- Dyn heno, rhag dwyn hynny,
- i'w dy a ffy wrth bwys ffon.
- Dewi agos, bendigodd,
- O'n bodd, yr ennain baddon.
- Ei unllais aeth i Enlli
- O Landdewi Frefi fron.
- I bawb, ffordd y bo aberth,
- y bo nerth Dewi ab Non.