Neidio i'r cynnwys

Iesu, nid oes terfyn arnat

Oddi ar Wicidestun
Pwy yw Hwn sy'n rhodio'r tonnau Iesu, nid oes terfyn arnat

gan William Williams, Pantycelyn

Nid oes pleser, nid oes tegan
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

185[1] Cyflawnder Crist
88. 88. D.

1 IESU, nid oes terfyn arnat,
Mae cyflawnder maith dy ras
Yn fwy helaeth, yn fwy dwfwn,
Ganwaith nag yw 'mhechod cas:
Fyth yn annwyl
Meibion dynion mwy a'th gâr.

2 Mae angylion yn cael bywyd
Yn dy ddwyfol nefol hedd,
Ac yn sugno'u holl bleserau
Oddi wrth olwg ar dy wedd;
Byd o heddwch
Yw cael aros yn dy ŵydd.


3 Ti faddeuaist fil o feiau
I'r pechadur gwaetha'i ryw;
Arglwydd, maddau eto i minnau—
Ar faddeuant 'r wyf yn byw:
D'unig haeddiant
Yw 'ngorfoledd i a'm grym.

William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 185, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930