Neidio i'r cynnwys

Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Afon Conwy

Oddi ar Wicidestun
Gwledd Belsassar II—Swn y farn Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Marwolaeth Ismael Dafydd

ENGLYNION I AFON GONWY,

A adroddodd y Bardd yn ddifyfyr wrth weled y llifeiriant yn
torri dros, ac yn dryllio y cobiau newyddion.

ER tirion fawrion furiau—i'n golwg,
A gwelydd a chloddiau,
Fe ylch hen Gonwy'n fylchau,
Eu holl weithydd celfydd cau.

Hir red er ymerawdwyr,—i'w therfyn,
A thyrfa o filwyr,
Rhoi arni wall nis gall gwŷr,
Ysai glawdd oes o gloddwyr.


Nodiadau

[golygu]