Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Galar yr unig
Gwedd
← Gorffwys yn y bedd | Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil) gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Gorffwys yn y Nef → |
GALAR AR OL CYFEILLION.
MAE 'nghyfeillion adre'n myned
O fy mlaen, o un i un,
Gan fy ngadael yn amddifad,
Fel pererin wrtho'i hun.
Wedi bod yn hir gyd-deithio
Yn yr anial dyrys maith,
Gormod iddynt oedd fy ngado
Bron ar derfyn eitha'r daith.
Wedi dianc uwch gelynion,
Croesau a gofidiau fyrdd,
Maent hwy'n awr yn gwisgo'r goron,
Ac yn cario'r palmwydd gwyrdd.
Byddaf yn dychmygu weithiau
Fry eu gweld yn Salem lân,
Ac y clywaf, ar rai prydiau,
Adsain od'au pêr eu cân.
Ond mae'r amser bron a dyfod
Y caf uno gyda hwy,
Yn un peraidd gôr diddarfod,
Uwchlaw ofn ymadael mwy.