Neidio i'r cynnwys

Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Gwledd Belsassar I—Afon Euphrades

Oddi ar Wicidestun
Gwledd Belsassar I—y Llys Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Gwledd Belsassar I—Cwyno am Seion

Afon Euphrades.

Euphrades sydd yn ffrydio—drwy ganol
Y dref wir odiaethol, drwy farw—deithio,
Fel un fai'n dymuno—rhoi adlewyrch
I bob rhyw wrthddrych iawnwych yno.

Draw, ar bob llaw, mae lliaws
O blanhigion irion naws,
A thal heirdd fythol-wyrddion
Dew gelli, a llwyni llon.
Godreon ei minion myg
A hulir à mêr helyg.
Eu blagur a oblygynt
Uwch y donn, O wyched ynt!
A glwys y maent hyd ei glan
Yn chwyfiaw, a chyhwfan,

Gan wyraw dan yr awel
Eu brigau irfoddau fel
Rhyw ddi rif hardd wyryfon,
Euraid wallt, yn crymu'r donn.


Nodiadau

[golygu]