Neidio i'r cynnwys

Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)/Gwledd Belsassar II—Y nos

Oddi ar Wicidestun
Gwledd Belsassar II—Y gwahoddiad i'r wledd Ieuan Glan Geirionydd (Cyfres y Fil)

gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Gwledd Belsassar II—Y Wledd Frenhinol

Y Nos.

Y mae yr haul, draw, mor wylaidd,—fel un
Yn flin o'r drych ffiaidd,
A brys yn ei olwg braidd
I guddio'i wyneb gweddaidd.

Yn awr mae llenni hwyrol—yn estyn
Eu hedyn achludol
Dros y ddinas urddasol,
A bryn, a dyffryn, a dôl.
Wele eirian wawl arall
Yn cyfodi, gwedi gwyll,
Nes troi llywel Babel bell
Yn ail ddydd, o loewaidd ddull,
Ffaglau a lusernau sydd,
Drwy y ddinas urddaswedd,
A'u têr dân yn gwatwar dydd
Nes hwnt yrru nos o'i sedd.

Ymhob annedd mae gwledda,—amhuredd,
A mawrwyn, a thraha,
Nes llenwi Babel uchel â
Garm elwch, a grymiala.


Nodiadau

[golygu]