Neidio i'r cynnwys

Ieuan Gwyllt, Ei Fywyd, Ei Lafur/Ei Nodweddion

Oddi ar Wicidestun
Ei Lafur Ieuan Gwyllt, Ei Fywyd, Ei Lafur

gan John Eiddion Jones

Ei Athrylith

PENNOD V.

EI NODWEDDION.

DYN o daldra canolig, ei wallt wedi bod yn ddu a chrych, ond yn dechreu britho 'drwyddo, yn enwedig yn y front,—ei dalcen yn llydan a llawn, ond nid yn uchel,—yn gwisgo "dau bâr o lygaid," ond o dan y gwydrau y mae dau o lygaid bychain duon a threiddiol, o dan aeliau duon hollol—gwynebpryd llwydaidd, a thipyn o ôl y frech wen arno—genau lled gauedig, yn arwyddo penderfyniad, ond wedi ei hamgylchu a'i gorchuddio â barf fuasai yn ddu, ond yn awr yn frithedig, lled fer, a stiff, wiry—dwylaw bychain gwynion, yn gymhwys at ysgrifenu llawer―llais bassawl, nid cryf, ond yn amlygu diwylliant a thynerwch— o duedd wylaidd a diymhongar—un na fuasai yn tynu llawer o sylw ymhlith y lliaws,—rhywbeth fel yna fuasai y desgrifiad o babell ddaearol Ieuan Gwyllt ychydig flynyddoedd cyn diwedd ei oes; a'r blynyddoedd, o bosibl, yr adnabyddid ef yn fwyaf cyffredinol trwy Gymru. "Ai hwnyna yw Ieuan Gwyllt?" fuasai yn dueddol i ddyn dyeithr ofyn pe dangosid ef iddo; nerth ei feddwl a'i gymeriad oedd wedi ennill iddo ddylanwad, ac nid yn gymaint ei ymddangosiad allanol.

O ran ei feddwl, yr oedd o duedd athronyddol ac ymresymiadol. Hoffai olrhain effeithiau yn ol at eu hachosion, ac ymchwilio i'r egwyddorion a'r deddfau oedd yn llywodraethu y cwbl. Cymerai olwg eang a theg ar bob mater a gymerai mewn llaw, rhoddai bob chwareu teg i bob gwrthddadl a allai godi, a chydnabyddai yn deg, os byddai dylanwad gan yr ystyriaeth o honi, ar y pwnc dan sylw. Ar yr un pryd, gafaelai ei feddwl yn dỳn a di—ildio mewn egwyddorion mawr, a mynai gael eu lle priodol iddynt. Medrai gredu yn gryf, ac wedi credu yr oedd y grediniaeth yn egwyddor sefydlog ynddo, yn dylanwadu ar ei holl ymddygiadau. Gallem dybied hefyd ei fod ef ei hun yn destun astudiaeth drwyadl ganddo, a'i fod yn meddu adnabyddiaeth llwyr o hono ei hun. Yr oedd hyny yn naturiol iddo ef, a barnai y byd oddiallan i ryw raddau yn ol fel yr oedd yn adnabod y byd oddimewn. Yr oedd hyny yn peri fod ynddo ryw gymaint o reservedness, y teimlai dyn ryw gymaint o wyleidd—dra wrth agosâu ato, ac a barai iddo yntau hefyd gadw rhyw bellder rhyngddo ag eraill ar y cyntaf. Ond yr oedd yn rhaid dyfod yn nês ato cyn y gellid ei adnabod ef yn iawn, a dyfod ato hefyd mewn ffordd a gymeradwyai ei ysbryd. Os gwelai efe ddim byd tebyg i hyfder, neu erwinder, neu rywbeth anmhriodol mewn dyn, ciliai yn ol iddo ei hun, a byddai yn sefyll fel ar ei amddiffynfa. Yr oedd hyn yn peri nad oedd y llïaws yn ei adnabod yn drwyadl, ond yn unig yn ol y syniadau a ffurfient am dano yn y pellder, ac yn ei osod yn agored iawn i'w gamgymeryd. Yr oedd felly yn byw i lawer o raddau mewn unigrwydd hyny yw, ynddo ei hun; ond yn yr unigrwydd hwnw sylwai yn fanwl ar eraill, a meddai lawer iawn o graffder i adnabod cymeriadau dynion y deuai i gyffyrddiad â hwynt. Yr oedd fel pe yn trigo mewn tŵr amddiffynol, o'r hwn ni ddeuai oni byddai yn teimlo yn lled ddiogel fod pob peth yn dda, ond yn yr hwn yr oedd pob darpariaeth ar gyfer sylwadaeth fanwl, i wybod pa beth ac o ba fath natur a agosâi ato. Ond gadewch i ni geisio nesâu ato a chael rhyw syniad am y neillduolion a berthynent i'w gymeriad.

1. Penderfyniad.

Yr ydym wedi sylwi fod hyn wedi dyfod i'r golwg ynddo yn lled ieuanc, i'r rhai oedd yn gwybod oreu am dano. Ac erbyn i ni edrych arno drwy holl helyntion ei fywyd, yr ydym yn cael fod hyn i'w weled yn un o'r pethau amlycaf. Mynai gael yr hyn a feddyliai am dano, neu fe drengai yn yr ymdrech; ond nid ffolineb mympwyol dyn asynaidd oedd hyn ynddo ef, ond am y credai fod yr hyn a geisiai yn iawn ac yn deilwng. Eto yr oedd yn deall y natur ddynol yn ddigon da, i wybod mai nid ymhob ffordd y gellir ei chael i'r iawn, ac fod yn rhaid cymeryd i mewn i'r ystyriaeth y rhwystrau, yr anhawsderau, a thueddiadau dynion. Yn hyn, addefwn i ni gael ein siomi ynddo. Buom unwaith yn tybied, os byddai wedi credu fod rhywbeth yn iawn, y mynai ei gael, a'i gael yn y ffordd a dybiai efe yn briodol, pa un bynag ai dyma y ffordd ddoethaf. Ond wedi dyfod i adnabyddiaeth fwy trwyadl o hono, gwelsom ein bod wedi camgymeryd, ac fod ei benderfyniad ef yn cael ei lywodraethu yn hollol gan farn a doethineb a phwyll, a'i fod yn barod i "gymeryd a rhoi,"—i fabwysiadu unrhyw lwybr cyfreithlawn i gyrhaedd yr amcan; ond yr oedd yn benderfyniad er hyny, yr hwn ni roddai i fyny ar frys. Yr ysbryd penderfynol hwn a'i galluogodd i.gyrhaedd y pulpad, er gorfod gorthrechu blynyddoedd o wrthwynebiadau. Ac o herwydd yr un peth yr ydym yn cael amcanion oedd wedi dyfod i'r golwg yn gynnarach, ond o herwydd rhyw amgylchiadau yn cael eu cuddio o'r golwg dros dymmor, ac ar ol hyny, yn yr adeg briodol, yn cael eu rhoddi mewn gweithrediad; fel ambell i afon, ar ol cychwyn am enyd, yn gorfod rhedeg am dymmor dan y ddaear, ond wedi hyny yn dyfod i'r golwg ac yn rhedeg ei gyrfa. Gorchfygodd y penderfyniad hwn ynddo ef lu anferth o rwystrau o bob math ac o bob cyfeiriad, fuasent wedi tori calon un o ysbryd mwy llwfr. Dyma'r mettle fuasai yn gwneyd y tro i gadfridog milwrol; yn wir, cadfridog milwrol ydoedd, ond yn ngwasanaeth rhinwedd a gwirionedd, ac nid ar faes y gwaed. Ac y mae yr ysbrydiaeth hyn i'w deimlo drwy y rhan fwyaf o'i gyfansoddiadau, yn gerddorol, rhyddieithol, a barddonol,—yn stamina sydd yn rhoddi nerth a chryfder i'r cwbl.

2. Chwaeth bur.

Nid ydym yn gwybod i ni ddyfod i gyffyrddiad â neb erioed ag yr oedd hyn i'w brofi yn fwy trwyadl ynddo yn ei holl gysylltiadau. Lle bynag y cyfarfyddid ef, ai yn ei ymddyddanion, ei anerchiadau, ei ysgrifeniadau, ei lafur cerddorol, ai pa peth bynag a wnelai, teimlid fod yno chwaeth bur ynddo yn y cwbl. Yr oedd fel pe buasai ei gylla heb anadlu dim erioed ond awyr bur mynyddoedd Cymru, ac felly yn fyw i bob anmhuredd; ei glust heb arfer â dim ond seiniau tyner cydgord, ac felly yn rhy dyner i allu dyoddef anghydgordiad. Gwelwch ef yn eistedd yn y gyngherdd, yn nghanol y gerddoriaeth brydferth,—os daw dros wefusau y cerddor air neu syniad isel chwaeth, chwi a ganfyddwch ei aeliau yn gwgu, ac yntau yn eistedd yn anesmwyth, fel pe b'ai ei nerves wedi cael shock. Heb son am ddim byd llygredig a phechadurus, yr oedd ei deimlad ef yn fyw hollol i bob gair garw, a phob ymddygiad anfoneddigaidd, a phob teimlad anghysurus. Nid yn unig yr oedd yn fyw, yr oedd yn sensitive neillduol yn hyn o beth. Cyfaddefwn i ni deimlo chwilfrydedd mawr, wrth fyned i chwilio am ei hanes, i gael gwybod o ba le y cafodd y chwaeth bur yma oedd ynddo, ac wedi gwreiddio mor ddwfn yn ei natur; ond yr ydym yn methu a chael dim cyfrif digonol am dano, ac yn gorfod syrthio yn ol ar y dybiaeth mai rhywbeth a roddwyd ynddo gan y Creawdwr mawr ei hun ydoedd. Bid sicr yr ydym yn ei gael yn dyfod i gyffyrddiad â dynion da o dro i dro, ac yn darllen y llyfrau goreu, &c. ; ond y mae llawer heblaw efe wedi cael cystal, a mwy o fanteision, ond yr ydym yn cael fel pe buasai rhyw duedd reddfol ynddo yn ei dynu i ddewis cymdeithasu â'r goreu o bob peth ac i gilio oddiwrth y gwael a'r di-chwaeth. A dyma, ni a dybiem, ei brif ragoriaeth ei gryfder mawr. Y chwaeth ardderchog sydd ynddo sydd yn gwneyd ei Lyfr Tonau gymaint yn rhagorach nag un arall y gwyddom am dano, ac sydd hefyd yn nodweddu ei holl ddetholiadau cerddorol. Hwyrach mai y nesaf ato yn hyn o beth oedd Mr. J. Ambrose Lloyd. Yn Mr. Lloyd yr ydym yn cael chwaeth ardderchog yn gysylltiedig â thynerwch; yn Ieuan Gwyllt yr ydym yn cael chwaeth bur, yn gyfunedig â stamina penderfyniad, yr hyn a wnaeth. iddo ennill mwy o ddylanwad ar ei oes. Yn ei chwaeth yr oedd yn uwch o'i ysgwyddau i fyny na neb o'i gydoeswyr, o leiaf, a lafurient yn yr un meusydd ag ef; ac nid ydym yn meddwl y gellir pigo allan air na sill o'i holl lïaws ysgrifeniadau yn bradychu gerwinder na diffyg chwaeth. Ac yn hyn hefyd, ni a dybiem, y gwnaeth argraff ddyfnaf ar ei oes. Gwasgarodd lawer o oleuni gwybodaeth yn wleidyddol, yn foesol, ac yn gerddorol, a bu yn foddion i gynnyrchu llawer o ysbryd llafur, yn enwedig ymhlith cerddorion; ond mwy o lawer na'r cwbl yw y cyfnewidiad a gynnyrchodd yn chwaeth, ac yn benaf, yn chwaeth gerddorol Cymru. Drwy nerth a dylanwad ei chwaeth bur ef, claddwyd, nes myned yn hollol i dir anghof, lawer o ysgerbydau oedd yn llygru meddyliau dynion; ac y mae yr un chwaeth wedi adgenedlu ei rhyw yn mynwesau cymaint o'n cydwladwyr erbyn heddyw, fel na faidd ysbrydion y tywyllwch adgyfodi yr ysgerbydau hyny am lawer o amser, a chredwn bron hyd byth.

3. Boneddigeiddrwydd.

Y mae hyn yn tarddu yn naturiol oddiwrth y diweddaf. Nid ydym yn cyfeirio at y boneddigeiddrwydd allanol hwnw sydd yn gynnwysedig mewn rhyw ffurfiau â seremonïau, y gesyd rhywrai bwys arno, ond gwir foneddigeiddrwydd ysbryd. Yr oedd efe yn oleuedig, wedi gwneyd y defnydd goreu o'r manteision a gafodd, ac wedi llafurio yn galed i ddiwyllio ei feddwl; yr oedd hefyd yn gywir— yn gywir i'w egwyddorion, nid oedd twyll na hoced yn perthyn iddo, ac nis gallai ei oddef; ac yr oedd yn meddu teimladau o'r fath fwyaf tyner a charuaidd ;—a'r pethau hyn, mewn undeb â'u gilydd, a wnaent ynddo ddynoliaeth gyflawn a gogyhyd. Mewn canlyniad, yr oedd yn onest, yn berffaith onest, yn ei ymddygiadau, a'i broffes, a'i ymddangosiad. Yr oedd hefyd yn anrhydeddus—ni wnai dro bychan â neb pwy bynag; a pha faint bynag o gam a dderbyniodd efe ei hun oddiar law eraill, yr oedd efe yn rhy anrhydeddus i feddwl talu y pwyth yn ol; gwell ganddo ddyoddef cam ddengwaith na gwneyd cam unwaith. Clywsom ddynion rai troion yn priodoli iddo gymeryd mantais ar ryw amgylchiadau er ei les ei hunan, neu ei ddyrchafiad. Ond tybiem mai dynion heb ei adnabod ef yn ddigon trwyadl oedd dynion felly; po mwyaf yr adnabyddem ni ef, dyfnaf fyddai ein hargyhoeddiad na wnaethai efe er dim yr hyn y teimlai y petrusder lleiaf nad ydoedd yn hollol anrhydeddus. A gofalai am ymddwyn at eraill gyda thynerwch a pharch; os byddai byth lymder ynddo ef, llymder at yr hyn ydoedd ddrwg ydoedd, a'i awydd angerddol i gael dynion yn rhydd oddiwrtho. Rhoddai efe bob amser barch i'r hwn y mae parch yn ddyledus, ac ufudd—dod i'r hwn y mae ufudd-dod, ac nid oedd neb y gellid ymddiried yn fwy llwyr i'w foneddigeiddrwydd, a'i anrhydedd, a'i gydwybodolrwydd.

4. Ymroddiad.

Dyma elfen arall oedd i'w gweled yn neillduol ynddo. Nid penderfyniad i gyrhaedd rhyw nod, fel pe buasai yn rhaid i eraill roddi lle iddo, a chan ddibynu ar ei alluoedd i'w lenwi pan ddelai yr adeg. Ac nid rhyw ymwybyddiaeth o ryw ragoriaeth ynddo heb lafur ydoedd. Adnabyddai ei allu yn dda, a theimlai nad priodol iddo feddwl am wneyd lles, heb lafurio yn galed i gymhwyso ei hunan i fod yn ddefnyddiol. Pa faint bynag o ddaioni a gyflawnodd, ac o ddylanwad a ennillodd, gallai ddyweyd yn ddibetrus, 'A swm mawr (o lafur) y cefais y rhagorfraint hon.' Nid arbedai ei hun; yn wir, y mae lle cryf i dybied. pe buasai wedi llafurio yn llai 'caled y gallasai fyw yn hwy. A mynai gael pob peth yn drwyadl. Nid ymfoddlonai ar ddim byd hannerog, ac yr oedd cael hyny yn costio llafur caled iddo. Gwelsom ambell un yn meddu galluoedd mor ddysglaer, yn yr ysgol neu yr athrofa, fel na byddai raid iddo ond wrth ychydig o amser i fyned drwy ei wersi. Y mae un felly dan lawer o demtasiwn i ddiogi hanner ei amser, ac i ddibynu llawer ar ei gyflymder a'i allu yn ystod yr hanner arall. Ond, fel rheol, nid ydyw un felly yn drwyadl, ond i raddau mwy neu lai yn arwynebol. Ond y mae yr un sydd wedi ymladd am bob modfedd o dir, â'i gleddyf ac â'i fwa, yn fwy sicr o hono, ac wedi ei feddiannu yn fwy llwyr. Nis gall dyn fod yn drwyadl ond i'r graddau y bydd ynddo ymroddiad. Nid yw y galluoedd uchaf heb hyn ond arwynebol; ond y mae dyn o alluoedd lled gyffredin, gydag ymroddiad mawr, yn gallu gwneyd llawer. galluoedd naturiol sydd mewn dyn ydyw y pwysau, a'r ymroddiad sydd ynddo yw y nerth—y rhai gyda'u gilydd sydd yn gwneyd y momentum—yr argraff y mae dyn yn ei wneyd ar ei oes. Yr oedd yn Ieuan Gwyllt alluoedd cryfion, fel y cawn sylwi eto, ond yr oedd ynddo hefyd ymroddiad anghyffredin i wneyd y defnydd goreu o'r galluoedd a roddwyd iddo. Y mae y gwaith dirfawr a gyflawnodd, a'r dylanwad a ennillodd, gymaint yn ddyledus i'w ymroddiad a'i alluoedd. Gwyddai pa fodd i wneyd defnydd o'r mynydau, ac felly gwnaeth oes fer yn oes fawr. Y "gwas da a ffyddlawn" ydoedd efe yn dyblu ei dalent trwy farchnata yn ddyfal â hi. Yr oedd yr ymroddiad hwn yn ddeublyg: ar un llaw, ymroddai hyd y diwedd i ddarllen a myfyrio llawer i gymhwyso ei hun; ac ar y llaw arall ymroddai o ddifrif yn yr holl waith a gyflwynid iddo i'w wneyd. Yr oedd y llafur cyntaf wedi rhedeg o ddechreu ei oes hyd y diwedd; yr oedd y llall yn ymagor o'i flaen yn raddol. Ond pa le bynag y byddai, pa un bynag ai yn swyddfa'r cyfreithiwr, ai yn nghadair · y golygydd, ai ynte mewn llafur cerddorol neu bregethwrol, byddai bob amser yn hollol ymroddedig. Ac hwyrach y dylem grybwyll un neu ddwy o ffeithiau eraill mewn cysylltiad â hyn, sydd yn dangos ei ymroddiad i wneyd pobpeth yn iawn. Ni a'i gwelsom mewn llawer o gysylltiadau ag y dysgwylid wrtho, ond nis gwelsom ef erioed yn ymaflyd mewn unrhyw waith gydag esgusawd drosto ei hun nad oedd wedi cael amser i barotoi; byddai efe bob amser yn barod. Clywsom ef yn esgusodi eraill, y cantorion heb gael amser i ymarfer, neu yr ysgoleigion yn y Cyfarfod Ysgol heb gael amser i barotoi, ond ni chlywsom ef erioed yn rhoddi esgusawd drosto ei hun. A pheth arall, ni chai neb ddysgwyl wrtho ef. Credwn ei bod yn ffaith na chafodd un newyddiadur y bu yn ei olygu fod un diwrnod yn rhy ddiweddar yn dyfod allan o herwydd ei esgeulusdra ef. Gwers amlwg yn ei hanes ydoedd, "Gan brynu yr amser."

5. Craffder a Barn.

Yr ydym wedi cyfeirio at hyn yn flaenorol, a'r unig reswm ein bod yn ail grybwyll ydyw, fod y pethau hyn. i'w gweled yn bur amlwg ac arbenig ynddo. Ac y mae hyn yn beth lled anghyffredin mewn un oedd yn meddu cymaint o alluoedd cerddorol; oblegid os ceir un gallu cryf iawn, fel rheol gyffredin, ni bydd y galluoedd eraill yn arbenig felly. Y mae cerddoriaeth yn iaith y teimlad; y mae hi a'i chwaer barddoniaeth yn ymwneyd mwy â'r galon a'r dychymyg, na'r galluoedd eraill. Rhaid i ni fod yn ofalus yn y fan hon, onidê ni a allwn gael ein camgymeryd yn hawdd, a syrthio i ddwylaw lled drymion; ond byddai hyny ynddo ei hun yn brawf cryf o'n pwnc. Nid dyweyd yr ydym fod cerddorion yn ddiffygiol mewn craffder a barn, ond nad oes yn y cyffredin arbenigrwydd mawr ar y pethau hyn ynddynt. Ond y mae hanes bywyd Ieuan Gwyllt yn lled ryfedd—y cerddor galluog yn cael ei roddi dan addysg Mr. J. Evans, y mathematician, wedi hyny yn swyddfa'r cyfreithiwr, ac yn olaf yn olygydd newyddiadur i arfer ysgrifenu i'r wasg. Diammheu fod y training hwn a gafodd, er mor wahanol i'r hyn y buasem yn ei ddysgwyl tuag at ddwyn allan y cerddor,—eto ei fod wedi dylanwadu rhyw gymaint arno fel cerddor, ac wedi bod o gymhorth mawr i'w wneyd yr hyn ydoedd. Dyma a'i gwnaeth yn feirniad cerddorol mor ragorol, ac a'i gwnaeth yn ŵr o farn a chynghor mewn llawer cysylltiad, ac yn gymhwys i fod yn "dad" meddyliol i lawer, y teimlent y gallent ymddiried yn ei farn a'i gynghor. Yr oedd wedi arfer "gweled drwy" achosion a chymeriadau, a dysgu siftio evidence; ond prin y buasai neb yn tybied fod hyny yn ei gymhwyso i lanw cylch hollol wahanol, ac yn ymarfer ynddo y galluoedd oedd i osod sefydlogrwydd a nerth iddo yn y cylch hwnw. gyfunedig â hyn, ond yn hollol wahanol, yr oedd

6. Tynerwch teimlad.

Buasem yn dysgwyl hyn, wrth gwrs, yn y cerddor; er hyny, nid oedd i'w gael ar y wyneb ynddo ef, yr oedd yn rhaid myned i mewn cyn dyfod o hyd iddo. Yn y cyffredin y mae cerddorion o deimlad tyner, ond gwelsom gerddorion yn tywallt allan eu calonau mewn dagrau, lle y buasai Ieuan Gwyllt fel colofn o farmor, os nad yn rhywbeth pellach na hyny oddiwrth dynerwch teimlad. Eto, yr oedd y tynerwch ynddo, ond yn ddwfn a phur. Er nad oedd, o bosibl, yn meddu ond ychydig o allu i ddenu a llywodraethu plant, eto yr oedd yn eu caru â'i holl galon, ac yn meddu syniad clir am eu pwysigrwydd; efe, ni a dybiwn, ddewisodd yr enw prydferth "Egin yr Oes" arnynt. Tra na fedrai cerddoriaeth wag ddylanwadu dim arno, nid oedd neb yn meddu y gallu i deimlo yn gynt nac yn ddyfnach y "rhywbeth" hwnw sydd i'w brofi mewn gwir hwyl addoliadol. Yr oedd ynddo serchiadau a theimladau cryfion a dwfn, ond yr oeddynt hefyd dan lywodraeth barn a rheswm.

7. Duwiolfrydedd.

Yr ydym yn dywedyd duwiolfrydedd ac nid crefyddolder, oblegid y mae y cyntaf yn cynnwys mwy na'r olaf. Mae llawer un yn wir a chydwybodol grefyddol, ond heb roddi ei fryd ar dduwioldeb. Ond yr oedd efe felly; nid dyn duwiol cyffredin ydoedd, ond un wedi ymroddi i hyny yn uchaf ac yn benaf peth. Ac yr oedd yr holl nodweddion a nodasom yn cydgrynhoi yn y peth hwn. Yr oedd ei ysbryd penderfynol yn ei gadw yn gryf ar lwybr duwioldeb, ei chwaeth bur yn peri iddo ddewis y pethau uchaf a goreu allai crefydd roddi iddo, ei foneddigeiddrwydd yn foneddigeiddrwydd Cristionogol hollol, ei graffder a'i farn yn gwbl dan lywodraeth crefydd Iesu Grist, a'i deimlad yn fyw i argyhoeddiadau yr Ysbryd Glân. Yr oedd y cwbl yn gysegredig ac yn ddarostyngedig i grefydd, ac yr oedd hono wedi ei chydwau â holl alluoedd ei feddwl a'i galon. Mewn canlyniad dyma oedd ei egwyddor fawr lywodraethol, yn gwneyd ei gymeriad yn bur ac yn ddifrycheulyd, ac yn hyn yr oedd yn esiampl ardderchog í holl gerddorion Cymru. Mae Cymru wedi bod yn anffodus fod llawer wedi bod o'i beirdd a'i cherddorion mwyaf talentog yn ddynion o gymeriadau isel a llygredig, ac y mae hyny wedi bod yn rhwystr mawr i lwyddiant barddoniaeth a cherddoriaeth, yn gystal ag i ddyrchafiad moésol y genedl. Ond ynddo ef, yr oedd ei gymeriad yn ei godi i safle uchel o ddefnyddioldeb a dylanwad, ac nid oedd ynddo ddim diffyg moesol i beri i neb warafun iddo ei le priodol. A bu nerth a phurdeb ei gymeriad ef yn gynnorthwy mawr i buro awyrgylch Cymru, ac i beri i'r genedl ddyfod i deimlo fod yn rhaid iddi ddangos anghefnogaeth i gymeriadau diffygiol, pa beth bynag fyddai dysgleirdeb eu talentau. Ond yr oedd yma fwy na hyn eto ynddo ef, cysegru ei dalentau i wasanaethu crefydd yn uchaf ac yn benaf oedd nod mawr ei fywyd. Yr oedd yn caru crefydd Iesu Grist uwchlaw pob peth, ac i wasanaeth Duw yr ymgyflwynai yn hollol a llwyr. Yr oedd yn rhaid fod un fel hyn yn weddiwr mawr, ac yn fyfyriwr dyfal yn ngair Duw, er nad oedd yn gwneuthur un arddangosiad o hyny. Yr oedd ei holl lafur ymhob cyfeiriad yn ddarostyngedig i hynyma, dyrchafu crefydd Mab Duw, a chael ei lle priodol iddi yn meddyliau dynion. Dengys hyny ei fod ef ei hun wedi sugno yn ddwfn o ysbryd crefydd. Ac felly yr ydoedd, nis gallech fod yn ei gwmni am ychydig amser heb deimlo fod naws crefydd yn gorphwys ar bobpeth a wnelai. Yr oedd yn gymeriad ardderchog, gwir ardderchog, ac i'r rhai oedd yn meddu chwaeth at y pur a'r sanctaidd, yr oedd efe yn hoffus iawn; a pho fwyaf agos yr elid ato, a mwyaf cydnabyddus âg ef, mwyaf oll fyddai eu hedmygedd o hrono, a'u syndod ato, fod yn bosibl i ddyn ymgysegru mor llwyr i wasanaethu crefydd, ac yfed mor llwyr o'i hysbryd. Ond nid oedd ynddo ddim deddfoldeb; nid wedi gosod rheolau manwl iddo ei hun yr ydoedd, ond ysbryd crefydd wedi treiddio i'w natur, fel yr oedd byw iddo ef, o anghenrheidrwydd natur, yn fyw crefyddol.

Yr ydym wedi sylwi ei fod yn dueddol i gael ei gamddeall, ac fe'i camddeallwyd ef gan laweroedd; o bosibl, nad oedd neb yn ei oes y camgymerwyd cymaint am dano. Y mae un wedi sylwi, fod dynion mawr bob amser yn cael eu camgymeryd am ryw adeg o'u hoes; ond yr oedd efe yn agored i hyn ar hyd ei oes, a chan y rhan fwyaf o'r rhai nad oeddynt yn ei adnabod yn ddigon da. Argraff ar feddwl llawer oedd mai dyn peevish a chas ydoedd efe. Yr ydoedd hyn yn gamgymeriad hollol. Achlysurid y dybiaeth hon gan ei lymder yn erbyn pob annhrefn, yn enwedig gyda phethau cysegr Duw. Yr oedd fod dyn enwog o'r enw Ieuan Gwyllt yn dyfod i arwain y canu cynnulleidfäol yn beth mor ddyeithr a rhyfedd, fel y byddai lliaws yn dyfod yno i weled a llygadrythu, a chan y byddai, o bosibl, yn rhaid iddo roddi y canu drwy dipyn o ddysgyblaeth er mwyn ei wella, blinai y dosbarth hwn, ac elent allan ar ganol y canu. Yn wir, yr oedd yn anhawdd iawn iddo ef ddal amynedd mewn amgylchiadau o'r fath. Ni byddai gan y bobl feddwl am addoli mewn cyfarfod canu. Ac hyd yn nod yn ein cyfarfodydd addoli, yr oedd wedi bod, ac y mae eto lawer o annhrefn a thrwst sydd yn dangos diffyg parch i dŷ Dduw. I ddyn o'i fath ef, oedd â'i chwaeth mor uchel, a'i deimladau crefyddol mor dyner, yr oedd ymddygiad o'r fath yn ddolurus i'r eithaf; ac nis gallai lai na cheryddu yn llym, a chael ei ddyrysu. Am hyny dywedid, "fel y mae ei enw, felly y mae yntau." Ond y mae yn ammheus genyma welwyd ef erioed wedi colli ei dymher mewn amgylchiadau fel hyn. Addefwn y gwelwyd ef yn ddoluredig a dyrysedig nes methu myned ymlaen, ond pwnc arall ydyw i ddyn golli y llywodraeth arno ei hun, ac nis gallwn ni gofio am un amgylchiad y gallwn ddyweyd ei fod felly. Teimlai i'r byw yn ngwyneb annhrefn a drwg, a thaniai ei zel yn ei erbyn, ac yn y teimlad hwn llefarai nes y byddai i'r rhai a gondemnid deimlo yn ddigofus; ond y mae yn ammheus genym a oedd efe ei hun yn cyflawni pechod. Nid ydym yn teimlo un awydd i guddio bai, pe credem ei fod felly; ond y mae dyweyd ei fod wedi colli ei dymher ar lawer achlysur mewn lleoedd cyhoeddus ger bron tyrfaoedd o bobl, yn gyhuddiad lled bwysig. Hyd yn nod pe buasai felly, gwyddom y gallasai ddyweyd wrth ei gondemnwyr mwyaf, "Mi a aethum yn ffol, chwychwi a'm gyrasoch." Ond o'r tu arall, yr ydym yn cael fod y rhai oedd yn ei adnabod oreu, a'i gyfeillion penaf, yn cyd-dystio ei fod er yn blentyn yn hynod o garedig a llariaidd ei dymher, ac na byddai un amser yn colli llywodraeth arno ei hun. A dyma'r argraff a gaffai pob un a ddelai i gydnabyddiaeth agos âg ef ar hyd ei oes. Dywedai boneddwr wrthym y dydd o'r blaen, yn nhŷ yr hwn y buasai yn aros am lawer o wythnosau o dro i dro, nad oedd un dyn ar wyneb y ddaear y teimlent yn fwy dedwydd o'i weled yn dyfod i edrych am danynt. Ac y mae ystyriaeth o nodweddion arbenig ei gymeriad yn cadarnhâu yr un syniad. Felly, yr ydym yn cael ein harwain i gredu yn bur gryf mai cael ei ddolurio y byddai yn gymaint nes methu myned ymlaen. Yr oedd yn nodedig o dyner ei deimlad a sensitive, ac y mae hyn yn hawdd i'w gredu am dano.

Argraff arall a goleddid am dano oedd ei fod yn bell ac anhawdd cymdeithasu âg ef. Fel y sylwasom o'r blaen, yr oedd rhyw argraff felly i'w gael ar y cyntaf, ond wedi tori trwy hyn a dyfod i'w gyfeillach, teimlid nad oedd eisieu neb mwy rhydd. A phan y bu farw, y teimlad mwyaf cyffredinol yn mynwes pawb oedd yn ei adwaen oedd hiraeth dwys ar ol yr "anwyl Ieuan Gwyllt." Nid llawer o rai fu erioed yn cael ei anwylo yn fwy; yr oedd awyrgylch ei ymddyddanion yn llawn sirioldeb a chyfeillgarwch tyner.

Tybid weithiau hefyd ei fod yn un llym, awdurdodol, a thra-arglwyddaidd. Yr oedd yn gryf a llym yn erbyn yr hyn a ystyriai allan o'i le, codai ei burdeb a'i gydwybodolrwydd yn erbyn hyny. Ond os tybid ei fod yn hoff o awdurdodi, ac yn anhawdd cydweithio âg ef, nid oedd bosibl fod camgymeriad mwy. Fel arall yn hollol, nid yn unig cai pawb fyddent yn ceisio cydweithio i wneyd daioni bob chwareu teg, ond caent ynddo ef un a roddai bob cefnogaeth, a chymhelliad, a chynnorthwy i weithio, ac ymdrechai hyd yr oedd ynddo i wneyd lle i'r cyfryw. Nid oedd dim yn ei foddhâu yn fwy na gweled pob dyn yn ymdrechu yn ol ei allu i wneyd daioni. Yr ydym yn dyweyd hyn oddiar brofiad personol; a pha mor fyr bynag fyddai gallu dyn, ac afler ei ymdrech, byddai ganddo ef lygad craff i weled yr amcan, ac y mae llaweroedd yn Nghymru heddyw a deimlant barch i'w goffadwriaeth, am ei nawdd a'i ymgeledd iddynt yn eu hanelwig ymdrechion cyntaf.

Dichon fod ambell un yn tybied ei fod yn bur ofalus am ei les personol. Clywsom, os na welsom, mewn argraff, sylw felly mewn cysylltiad â dodi enwau y tônau yn y Llyfr Hymnau uwch ben yr Emynau, fod hyny yn advertisement i'w lyfr ef. Ond dyeithrwch iddo ef, a drwgdybiaeth ddiachos, a barai i neb dybied felly am dano. Y gwir ydyw, mai ychydig sydd, os oes neb yn fyw yn awr, a aberthodd gymaint er mwyn Methodistiaeth a'i wlad a'i genedl. Aberthodd fywioliaeth gysurus er mwyn cael gwasanaethu ei genedl yn y cylchoedd y bu ynddynt; a pha fantais arianol bynag a dderbyniodd, nid oedd ond annheilwng gyflog iddo am lafur ei oes. Rhaid cofio hefyd ei fod lawer gwaith wedi colledu ei hun yn ddwfn yn ei ymdrechion, a phe dadguddid y cyfan, credwn y synai llaweroedd at yr hyn a aberthodd wrth lesâu eraill.

Y mae yn bosibl ei fod ef ei hun yn ymwybodol, i ryw raddau, o'r modd y camgymerid ef, ac y drwgdybid ei amcanion, a chafodd lawer gwaith brofi ymddygiadau oeddynt yn dangos mai diffyg adnabyddiaeth o'i gywirdeb oedd wrth eu gwraidd. Ond cadwai ei holl ofidiau iddo ei hun; teimlai yn ddwys oddiwrthynt, ond troai ei deimladau briwedig i'w galon ei hun, ac ni chai eraill flino o'i herwydd. Ac ni feddyliai byth am lochesu dig na dial; os deuai y cyfleusdra iddo, talai y pwyth yn ol mewn caredigrwydd. Gallai cof am y chwerwder, hwyrach, beri iddo fod yn ochelgar gyda'r cyfryw ar ol hyny, ond credwn fod maddeugarwch yn ras amlwg iawn i'w weled ynddo.

Fel penteulu, yr oedd yn dyner a gofalus a thra charedig. Yr oedd yr undeb rhyngddo ef a'i briod yn gwlwm dedwyddwch a chariad. Mae ambell ŵr priod o ddyn da, eto yn meddu rhyw ymdeimlad o'i uchafiaeth ar ei wraig, fel mai ufuddhâu a chario allan ei ewyllys ef yw amcan ei bodolaeth hi, ac ni chaiff wybod o'i hanes a'i gyfrinach ond yr hyn a welo ei "harglwydd" yn dda o'i ras ei ddadguddio iddi, fel briwsion yn syrthio oddiar fwrdd y meistr. Ond nid felly yr ydoedd efe: os cadwai ddim oddiwrth ei briod, ni chadwai ond yr hyn a'i gofidiai, a rhag peri tristwch iddi; ond am bob peth arall, ymddiriedai ynddi fel un y gallai dywallt ei holl galon iddi. Y noson y daeth adref o'r daith ddiweddaf o Ddeheudir Cymru, arosodd ar ei draed yn hwyr gyda hi i adrodd iddi yr hyn oll a welodd ac a glywodd, yr holl fanylion, ac ar y diwedd dywedai, Wel, am a wn i, fy mod wedi dyweyd y cwbl wrthych bellach." Yn ol ein syniad ni, nis gall fod perffaith ddedwyddwch heb ymddiriedaeth llwyr o du'r naill a'r llall fel hyn. Yn ei gartref yr oedd yn ŵr penaf, ond llywodraethai mewn tangnefedd a heddwch, ac nid oedd na thra—awdurdod na chynhwrf yn aflonyddu'r lle.

Fel cyfaill, yr oedd yn gywir a phur i'r eithaf. Gellid ymddiried ynddo, ac ymddiriedai yntau yn y rhai y credai eu bod yn wir gyfeillion. Nid un a fyddai yn gyfaill ambell dro, ac ar adeg arall a wnai dro bychan â dyn ydoedd efe. "Cadwai gariad " yn ol cynghor y gŵr doeth, ac yr oedd ei "gariad" ef yn gyfryw na "feddyliai ddrwg," ac na "chwympai ymaith," oddieithr i ddrwg moesol gyfryngu. Gallai gydymdeimlo a chysuro mewn trallod, ac amddiffyn mewn ymosodiad. Nid oedd yn anhawdd gwneyd cyfaill o hono, oni byddai rhywbeth annheilwng yn yr hwn a geisiai hyny; ond wedi dechreu cyfeillgarwch, cai ei gadw, o'i ran ef, yn ffyddlawn a chywir hyd byth.

Fel dyn, yr oedd ynddo holl elfenau dynoliaeth gyflawn, a phob rhinwedd gwladol a moesol a gai ei gefnogaeth galonog. Dylasem fod wedi crybwyll, hwyrach, ei fod yn ddirwestwr trwyadl a ffyddlawn o'i febyd. Bu yn perthyn i'r Rechabiaid tra y parhasant; ond o ddiffyg cyfleusdra, nid o ddiffyg zel ac awydd, ni bu yn Demlydd Da. Pleidiai ddirwest yn wresog, ac ymdrechodd lawer iawn i blanu ei hegwyddorion yn meddyliau eraill; yn wir, ceir ei bod fel rhai egwyddorion eraill yn rhedeg yn elfen drwy ei holl lafur. A'r un modd ymhob cysylltiad, fel cymydog, fel gwladwr, ac fel aelod o gymdeithas, yr oedd yn ddyn cyflawn a christion ffyddlawn yn y cwbl.

Y cyfryw ydoedd Ieuan Gwyllt—o gymeriad nodedig o brydferth a phur, a pho fwyaf y myfyriwn arno, helaethaf, a phrydferthaf, a rhagoraf y mae ei rinweddau yn dyfod i'r golwg. Llewyrchai heb frychau i anurddo ei ddysgleirdeb, ac heb "ond" i dynu oddiwrth y rhagorol a'r prydferth ynddo.

Nodiadau

[golygu]