Kat Godeu
Gwedd
gan y "Ffug-Daliesin"
- Yn flaenorol: Angar Kyfyndawt
- Yn nesaf: Mab Gyrfeu Taliesin
- Bum yn lliaws rith
- Kyn bum kisgyfrith.
- Bum cledyf culurith.
- Credaf pan writh.
- Bum deigyr yn awyr.
- Bum serwaw syr.
- Bum geir yn llythyr.
- Bum llyfyr ym prifder.
- Bum llugyrn lleufer
- Blwydyn a hanher.
- Bum pont ar triger.
- Ar trugein aber.
- Bum hynt bym eryr.
- Bum corwc ymyr.
- Bum darwed yn llat.
- Bum das ygkawat.
- Bum cledyf yn aghat.
- Bum yscwyt ygkat.
- Bum tant yn telyn
- Lletrithawdc naw blwydyn.
- Yn dwfyr yn ewyn.
- Bum yspwg yn tan.
- Bum gwyd yngwarthan.
- Nyt mi wyf ny gan
- Keint yr yn bychan.
- Keint ygkat godeu bric.
- Rac prydein wledic.
- Gweint veirch canholic.
- Llyghessoed meuedic.
- Gweint mil mawrein.
- Arnaw yd oed canpen.
- A chat er dygnawt.
- Dan von y tauawt.
- A chat arall yssyd
- Yn y wegilyd.
- Llyffan du gaflaw.
- Cant ewin arnaw.
- Neidyr vreith gribawc.
- Cant eneit trwy bechawt
- Aboenir yny chnawt.
- Bum ygkaer uefenhit.
- Yt gryssynt wellt gawyd.
- Kenynt gerdoryon
- Kryssynt katuaon.
- Datwyrein y vrythron
- A oreu gwytyion.
- Gwelwyssit ar neifon.
- Ar grist o achwysson.
- Hyt pan y gwarettei
- Y ren rwy digonsei.
- As attebwys dofyd
- Trwy ieith ac eluwyd.
- Rithwch riedawc wyd.
- Gantaw yn lluyd.
- A rwystraw peblic.
- Kat arllaw annefic.
- Pan swynhwyt godeu.
- Y gobeith an godeu.
- Dygottorynt godeu
- O pedrydant tanheu.
- Kwydynt am aereu.
- Trychwn trymdieu.
- Dyar gardei bun.
- Tardei am atgun.
- Blaen llin blaen bun.
- Budyant buch anhun
- nyn gwnei emellun.
- Gwaet gwyr hyt an clun.
- Mwyhaf teir aryfgryt.
- A chweris ymbyt.
- Ac vn a deryw
- O ystyr dilyw.
- A christ y croccaw
- a dyd brawt rac llaw.
- Gwern blaen llin
- A want gysseuin.
- Helyc a cherdin.
- Buant hwyr yr vydin.
- Eirinwyd yspin.
- Anwhant o dynin.
- Keri kywrenhin.
- Gwrthrychyat gwrthrin.
- fuonwyd eithyt.
- Erbyn llu o gewryt.
- Auanwyd gwneithyt.
- Ny goreu emwyt.
- Yr amgelwch bywyt.
- Ryswyd a gwyduwyt.
- Ac eido yr y bryt.
- Mor eithin yr gryt.
- Siryan seuyssit
- bedw yr y vawr vryt.
- Bu hwyr gwiscysseit.
- Nyt yr y lyfyrder.
- Namyn yr y vawred.
- Auron delis bryt.
- Allmyr uch allfryt.
- Ffenitwyd ygkynted.
- Kadeir gygwrysed.
- Omi goreu ardyrched
- Rac bron teyrned.
- Llwyf yr y varanhed.
- Nyt oscoes troetued.
- Ef laddei a pherued
- ac eithaf a diwed.
- Collwyd bernyssit
- Eiryf dy aryfgryt.
- Gwyros gwyn y vyt.
- Tarw trinteryn byt.
- Morawc a moryt.
- Ffawyd ffynyessit.
- Kelyn glessyssit.
- Bu ef y gwrhyt.
- Yspydat amnat.
- Heint ech y aghat.
- Gwiwyd gorthorat.
- Gorthoryssit ygat.
- Redyn anreithat.
- Banadyl rac bragat
- Yn rychua briwat.
- Eithin ny bu vat.
- Yr hynny gwerinat.
- Gruc budyd amnat.
- Dy werin swynat.
- Hyd gwyr erlynyat.
- Derw buanawr.
- Racdaw crynei nef allawr.
- Glelyn glew drussiawr
- y enw ym peullawr.
- Clafuswyd kygres.
- Kymraw arodes.
- Gwrthodi gwrthodes
- Ereill o tylles.
- Per goreu gormes
- ym plymlwyt maes.
- Goruthaw kywyd
- aches veilon wyd.
- Kastan kewilyd.
- Gwrthryat fenwyd.
- Handit du muchyd.
- Handit crwm mynyd.
- Handit kyl coetdyd.
- Handit kyn myr mawr.
- Er pan gigleu yr awr.
- An deilas blaen bedw.
- An dathrith datedw.
- An maglas blaen derw.
- O warchan maelderw.
- Wherthinawc tu creic.
- Ner nyt ystereic.
- Nyt o vam athat.
- Pan ym digonat.
- Am creu am creat.
- O nawrith llafant.
- O ffwyth o frwytheu.
- O ffwyth duw dechreu.
- O vriallu a blodeu bre.
- O vlawt gwyd a godeu
- o prid o pridret.
- Pan ym digonet
- o vlawt danat
- o dwfyr ton nawvet.
- Am swynwys i vath.
- Kyn bum diaeret.
- Am swynwys i wytyon
- mawnut o brython.
- O eurwys o ewron
- o euron o vodron
- o pymp pumhwnt keluydon.
- Arthawon eil math
- pan ymdygyaed.
- Amswynwys i wledic.
- Pan vei let loscedic.
- Am swynwys sywydon
- sywyt kyn byt.
- Pan vei genhyf y vot
- pan vei veint byt.
- Hard bard bud an gnawt
- ar wawt y tuedaf a traetho tauawt.
- Gwaryeis yn llychwr
- kysceis ym porffor.
- Neu bum yn yscor
- gan dylan eil mor.
- Ygkylchet ymperued
- rwg deulin teyrned.
- Yn deu wayw anchwant
- o nef pan doethant.
- Yn annwfyn llifereint
- wrth urwydrin dybydant
- petwar vgeint cant.
- A gweint yr eu whant.
- Nyt ynt hyn nyt ynt ieu
- no mi yn eu bareu.
- Aryal canhwr a geni pawb o naw cant
- oed genhyf inheu.
- Ygcledyf brith gwaet
- bri am darwed
- o douyd o golo lle yd oed.
- O dof yt las baed.
- Ef gwrith ef datwrith.
- Ef gwrith ieithoed.
- llachar y enw llawfer.
- Lluch llywei nifer.
- Ys ceinynt yn ufel.
- O dof yn uchel.
- Bum neidyr vreith y mryn.
- Bum gwiber yn llyn.
- Bum ser gan gynbyn.
- Bum bwystuer hyn.
- Vyg cassul am kawc.
- Armaff nyt yn drwc.
- Petwar vgeint mwc
- ar pawb a dydwc
- Pymp pemhwnt aghell
- A ymtal am kyllel.
- wech march melynell.
- Canweith yssyd well.
- Vy march melyngan
- kyfret a gwylan.
- Mihun nyt eban.
- Kyfrwg mor a glan.
- Neu gorwyf gwaetlan.
- Arnaw cant kynran.
- Rud em vyg kychwy.
- Eur vy yscwytrwy.
- Ny ganet yn adwy.
- A uu ym gowy
- namyn goronwy
- O doleu edrywy.
- Hir wynn vy myssawr.
- Pell na bum heussawr.
- Treigleis y mywn lawr
- Kyn bum lleenawr.
- Treiglies kylchyneis
- Kysceis cant ynys.
- Cant caer a thrugys.
- Derwydon doethur.
- Darogenwch y arthur.
- Yssit yssyd gynt.
- Neur mi ergenhynt.
- Ac vn aderyw
- o ystyr dilyw.
- A crhist y croccaw.
- A dyd brawt rachllaw.
- Eurein yn euryll.
- Mi hudwyf berthyll
- ac vydyf drythyll
- O erymes fferyll.
- Ffynhonnell: Llyfr Taliesin