Llenyddiaeth Fy Ngwlad (Testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Llenyddiaeth Fy Ngwlad

gan Thomas Morris Jones (Gwenallt)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Llenyddiaeth Fy Ngwlad.

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

—————————————

LLENYDDIAETH FY NGWLAD:

SEF

HANES Y NEWYDDIADUR A'R CYLCHGRAWN CYMREIG

YN NGHYMRU, AMERICA, AC AWSTRALIA,

YN NGHYD A'U

DYLANWAD AR FYWYD CENEDL Y CYMRY.


GAN

T. M. JONES (GWENALLT),

PENMACHNO.

TREFFYNNON:

—————————————

ARGRAPHWYD GAN P. M. EVANS A'I FAB,

MDCCCXCIII,

RHAGYMADRODD

Gallaf ddyweyd yn onest fy mod yn caru fy ngwlad, ac yn awyddus i wneyd fy ngoreu-er nad yw hyny ond ychydig er ei dyrchafu. Byddaf yn falch o fy iaith, ac o fy nghenedl, a gellir bod yn sicr mai oddiar hyny, yn un peth, y tarddodd y gwaith hwn. Bu’m yn teimlo lawer gwaith, a diau y teimla cannoedd eraill yn gyffelyb, fod hanes llenyddiaeth Cymru yn hynod anrhefnus, anghyflawn, a gwasgarog, a pho hwyaf yr oediad, anhawddaf a fydd gwella sefyllfa pethau yn ein plith. Byddaf yn credu ein bod, fel cenedl, yn lled ddi-bris o'n trysorau cenedlaethol, a bod lle mawr i wella yn y cyfeiriad hwn mewn gwahanol ystyron; ac, os nad ydwyf yn camgymeryd, un o'r arwyddion amlycaf yn hanes deffroad Cymru yn awr ydyw yr awydd i gasglu, crynhoi, a chadw pethau gwerth fawr ein gwlad rhag myned yn anghof.

I'r rhai a gymerant ddyddordeb yn ngweithrediadau yr Eisteddfod Genedlaethol, efallai fod yn wybyddus i mi fod yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor (1890) , am draethawd ar y testyn—"Rhagoriaeth a Diffygion y Wasg Gymreig," ac yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe (1891), cefais y wobr am draethawd ar y testyn—"Y Newyddiadur a'r Cylchgrawn Cymreig –Eu hanes , a'u dylanwad ar fywyd y genedl."

Bu y cystadleuaethau hyn yn symbyliad i lafurio yn mhellach yn nglyn â'r ganghen hon, er y mae y rhydd i mi gael dyweyd fod y gwaith hwn, i fesur helaeth, yn rhedeg ar linellau gwahanol i'r cynnyrchion hyny.

Gellir tybio fod y llyfr wedi peri llafur, a chofier y bu mwy o lafur nag a welir yma, oherwydd gwnaed llawer ymchwiliad heb ddim ffrwyth i hyny. Mae llawer o rywbeth tebyg i lafur ofer i'w gael gyda llyfr o'r math hwn. Yr wyf yn gwybod yn dda fod llawer o'r ffeithiau a gofnodir genyf yn anghyflawn, ac, efallai, ambell i un ohonynt yn anghywir; ond y mae hyny, i raddau pell, yn codi o'r ffaith fod rhai personau—yr unig rai mewn mantais i wybod yn gwbl anewyllysgar i gyfranu eu gwybodaeth i eraill. Eto, ar yr un pryd, nid felly pawb: a gadawer i mi, drwy hyn, gyflwyno fy niolchgarwch puraf i'r cyfeillion caredig ag oeddynt yn hynod barod, hyd y gallent, i gynnorthwyo. Cefais waith mawr a dyfal i gael y llyfr hyd yn nod i'r hyn ydyw, ond nid wyf yn cwyno—llafur pleserus ydoedd, gan fy mod wedi treulio rhai blynyddoedd mewn swyddfa argraphu, ac fel argraphwyr yn gyffredin, yn cymeryd dyddordeb lled ddwfn yn nghynnyrchion y wasg, yn enwedig felly cynnyrchion argraph-wasg fy anwyl wlad enedigol. Gallaf ddatgan nad ysgrifenais ddim ynddo heb ystyried yn flaenorol, ac amcenais fod yn hollol deg, gan gymeryd golwg eang ar yr hyn sydd dan sylw.

Gwelir fod genyf ychydig ar y diwedd am lenyddiaeth Gymreig newyddiadurol a chylchgronol America ac Australia, a phrin y gallesid disgwyl yn rhesymol i mi, yn y wlad hon, fod mewn mantais i ysgrifenu yr holl ffeithiau yn fanwl am y gwledydd pellenig hyny; ond tybiais y buasai y llyfr yn gyflawnach drwy roddi gymaint ag a allaswn, er i hyny fod yn fyr, ac hefyd y buasai yn fwy dyddorol i'r darllenwyr. Bellach, gollyngaf ef allan i law y cyhoedd, gan obeithio, yn ostyngedig, y caiff dderbyniad, ac y gwna les, oherwydd credaf yn gryf—yn fy mynwes fy hun o leiaf—fod ganddo genadwri yn nglyn â sefyllfa bresennol llenyddiaeth Gymreig.

Penmachno, Ionawr 2il, 1893 .

CYNNWYSIAD

SYLWADAU ARWEINIOL

DIAU fod tuedd gynhenid yn perthyn i'r natur ddynol i anfon yn mlaen ei meddyliau, geiriau, a gweithredoedd, ac nid yw y naill genhedlaeth yn foddlawn heb drosglwyddo ei hanes i'r genhedlaeth a ganlyn. Mae hyn yn beth mor naturiol ag ydyw i'r dwfr redeg i'r môr. Nid yw awydd un genhedlaeth i roddi yn ddim mwy nag awydd cenhedlaeth arall i dderbyn. Fel y mae y naill yn dyheu am roddi ei hanes, felly mae y llall yn dyheu yr un mor gryf am dderbyn yr hanes: un yn rhoddi, a'r llall yn derbyn, ac ymddengys i ni fod yr elfenau hyn yn llawn mor gryfion yn y naill a'r llall, a cheir yr un berthynas rhyngddynt ag sydd rhwng anghen â chyflenwad. Mae yn anhawdd egluro cryfder y duedd hon os nad ydyw yn blanedig yn y natur ddynol. Efallai mai oddiar hyn y dechreuwyd cerfio ar greigiau celyd Assyria, yr ysgrifenwyd ar briddfeini Babilon, ac y torwyd arwydd luniau ar golofnau, dorau, a muriau y temlau ardderchog a adeiledid yn yr Aipht. Gall hefyd mai oddiar yr un duedd y cododd dull ac arferiad yr hen Gymry i ysgrifenu ar goed, y rhai a elwid yn Coelbren y Beirdd. Dengys ffeithiau fod y duedd hon yn gref iawn mewn dynion: mor awyddus i gario eu hanes i lawr i'r dilynwyr—i'r cenhedlaethau dyfodol-nes penderfynu defnyddio hyd yn nod creigiau, temlau, a choed, &c., fel cyfryngau i'w drosglwyddo. Prin y mae anghen dangos fod y dull hwn i gario hanes yn un hollol anfanteisiol, er, hwyrach, ei fod y dull goreu a ellid gael ar y pryd. Yr oedd yn golygu llafur mawr, ac yn gosod y dilynwyr dan yr anfantais fwyaf i'w ddeall—dull trafferthus, tywyll, a meddylier mor araf a fuasai camrau goleuni a gwybodaeth pe yn dibynu yn barhaus ar y dull hwn. Diau mai oddiar yr un duedd yn y meddwl dynol—deddf rhoddi a derbyn y cychwynwyd y wasg, ac wrth ei chydmaru, fel cyfrwng i drosglwyddo hanes a gwybodaeth, â'r gwahanol ddulliau a enwyd, mae y gwahaniaeth yn annhraethol, ac yn ddigon i lanw pob meddwl ystyriol â diolchgarwch pur i Dduw am drefnu, yn ei Ragluniaeth ddoeth a da, y cyfrwng bendithiol, defnyddiol, a chyfleus hwn.

Diau y bydd William Caxton, yr hwn a anwyd yn y flwyddyn 1412, yn Fforest, Kent, yn sefyll yn anwyl a pharchus am oesoedd lawer fel yr un ag y priodolir iddo yn gyffredin gychwyniad dyfais yr argraphwasg yn Lloegr, a bydd enwau Aldus Mauntius, Reynold Wolfe, &c., fel rhai ag oeddynt yn cynnorthwyo gyda hyn, yn cael eu cadw yn ofalus ar lechres cymwynaswyr eu gwlad. Gyda golwg ar gychwyniad y wasg yn Nghymru, dywed Gwilym Lleyn mai Edward Wicksteed, Gwrecsam, oedd yr argraphydd a ymsefydlodd gyntaf yn ein gwlad, a hyny yn y flwyddyn 1718, ond dalia y Parch. Silvan Evans nad oes genym hanes pendant am yr un argraphydd yn Nghymru o flaen Isaac Carter, Trefhedyn, Castell Newydd Emlyn, yr hwn a gychwynodd ei fasnach yn y flwyddyn 1719, ac ymddengys fod rhesymau cryfion dros farnu mai y diweddaf sydd gywir; ond, yn fuan ar ol hyny, ceir hanes amryw yn argraphy, megis Nicholas Thomas, Caerfyrddin; John Ross eto; Samuel Lewis, eto; Evan Powell, eto; Rhys Thomas, eto; Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn), Caergybi; R. Marsh, Gwrecsam; John Rowland, Bodedern; Daniel Thomas, Llanymddyfri; E. Carnes, Treffynnon; Titus Evans, Machynlleth; J. Salter, Drefnewydd; E. Evans, Aberhonddu; Thomas Roberts, Caernarfon; Dafydd Jones, Trefriw, a meibion iddo yn ddiweddarach, sef John Jones, Llanrwst, a Robert Jones, Bangor, &c. Ceir, oddeutu dechreu y ganrif hon, fod tri o ddynion ieuainc Seisonig, y rhai oeddynt yn gyd egwyddor-weision (fellow -apprentices) yn y gelfyddyd hon yn Nghaerlleon, wedi dyfod i gychwyn swyddfeydd argraphu, ar eu cyfrifoldeb eu hunain, mewn gwahanol fanau yn Nghymru. Darfu i Robert Saunderson—dyna enw un o'r tri—gychwyn gwaith, ar gais y diweddar Barch. Thomas Charles, yn y Bala; Thomas Gee (tad y presennol Mr. T. Gee)—dyna un arall o honynt—a gychwynoedd fasnach yn nhref Dinbych, mewn trefn, ar y dechreu, i argraphu llyfrau y diweddar Barch Thomas Jones, o'r dref hono; a John Brown—dyna enw y trydydd—a ymsefydlodd yn Bangor, er mwyn, yn benaf, bod yn gyfleus i argraphu, dros gwmni neillduol, newyddiadur Seisonig a elwid The North Wales Gazette. Bu y tri dynion ieuainc hyn yn dra llwyddiannus. Ymroddasant yn gwbl i'r fasnach, a daethant yn fuan i gael eu cyfrif yn brif argraphwyr a chyhoeddwyr y Dywysogaeth. Dyna, mewn ychydig eiriau, fyr -hanes cychwyniad yr argraphwasg yn Nghymru: dechreu yn ddi-nod, gwan, a chydmariaethol ddi-ddylanwad, ond, erbyn hyn, mae ei changhenau wedi ymledu a chynnyddu yn ddirfawr, a swyddfeydd argraphu—a rhai o honynt yn gallu myned trwy waith mawr—i'w cyfrif wrth yr ugeiniau, a phrin y ceir yr un dref nac ardal boblog na cheir ynddynt gyfleusderau i argraphu. Yn nghanol cynnydd presennol y manteision hyn, nac anghofier talu y warogaeth ddyledus i'r hen argraphwyr boreuol a enwyd: gwnaethant gymwynas genedlaethol â Chymru, a dylem, fel cenedl, anrhydeddu eu coffadwriaeth.

Anhawdd, yn enwedig i ni, yn amledd cyfleusderau yr oes hon, ydyw iawn-brisio manteision yr argraphwasg. Ceir, drwy y cyfrwng hwn, fod y lenyddiaeth uwchaf yn cael ei dwyn i gyrhaedd pobl gyffredin, a hyny ar delerau y buasai yn anhygoel tybied, yn yr hen amseroedd, eu bod yn bosibl. Ceir, drwy fanteision y wasg, fod ffrwyth y meddyliau galluocaf ac uwchaf, yn y gwledydd eraill, yn cyrhaedd Cymru. Mae hi fel pe yn cario y naill wlad i'r llall, ac yn gwneyd gwledydd pellenig a dieithr yn gymydogion. Cysylltir yr hen amseroedd wrth yr amseroedd hyn, a gellir dyweyd fod holl hanes y byd, mewn amser a lle, yn cael ei grynhoi megis i ystafell fechan, ac yn yr oll, a thrwy yr oll, ffurfir un gadwen ardderchog ac ysplenydd i ddangos cwrs llywodraeth fanwl Duw dros ei greaduriaid, ac mae yr holl gadwen, drwy fanteision digyffelyb y wasg, yn chael ei chario megis at ddrysau ein tai. Anhawdd ydyw desgrifio maint ei gwasanaeth i gymdeithas: meddylier am dduwinyddiaeth, gwyddoniaeth, hanesiaeth, athroniaeth, a masnach y byd, a lluaws o'r canghenau eraill—maent oll, yn ddieithriad, dan rwymau i'r argraphwasg, a barna rhai yn gryf fod y ddyfais i argraphu, wrth gymeryd pobpeth i ystyriaeth, wedi gwneyd llawer mwy tuag at wareiddio, goleuo, a dyrchafu y byd na holl ddamcanion a darganfyddiadau gwyddonol yr oesoedd. Methwn a gweled fod dim gwir angenrheidrwydd yn galw am ddwyn y wasg i sefyll cystadleuaeth â'r pwlpud, a cheisio penderfynu gan pa un o honynt y mae y dylanwad mwyaf. Ni fwriadwyd y naill i sefyll rhedegfa â'r llall, ac felly pa ddyben eu cydmaru? Onid gwaith ofer ydyw dadleu ar hyn? Amcan mawr ysbrydol ac achubol sydd i bregethu yr Efengyl (1 Cor. i. 21-25), ac ymddengys i ni fod hyny, ynddo ei hun, yn rheswm digonol ar unwaith dros beidio dwyn y naill i gydmariaeth & chystadleuaeth â'r llall o gwbl. Ni pherthyn i ni ychwaith, wrth son am ddylanwad y wasg, benderfynu pa un ai y tafod neu yr ysgrifbin sydd yn meddu y dylanwad mwyaf ar y byd. Ond, mewn gwedd gyffredinol, gallwn ddyweyd fod gan y naill fanteision nad ydynt gan y llall, a diau fod gan bob un o honynt ei fanteision ei hunan, a gellir edrych arnynt, mewn rhyw ystyr, yr un mor anhebgorol, a dylent fod yn gynnorthwy i'w gilydd. Gwyddom fod rhai pobl yn dal mai y cleddyf a wnaeth fwyaf i wareiddio dynolryw, ac y maent yn goredmygu Picton, Wellington, Blucher, Napoleon, Wolseley, a dywedai Bismarc, yn ddiweddar, mai "rhyfel yw rhiant rhinwedd," tra, o'r ochr arall, y dywedai Dr. Clifford, yr un mor ddiweddar, am i ni "harddu rhyfel gymaint ag a allom, ac na bydd, er hyny, ond drwg erchyll." Gall yr ysgrif-bin drywanu heb ladd, ac y mae y wasg wedi cael buddugoliaethau ardderchog heb golli gwaed; tra, fel rheol, nad yw y cleddyf yn ennill dim heb ladd rhywun, a bydd yn rhaid aberthu cannoedd o fywydau, ambell waith, cyn y gall gael buddugoliaethau, ac ar ddiwedd llawer concwest prin iawn y bydd yr ennill yn ddigon i gyd-bwyso y golled. Ymddengys, y rhan amlaf, mai barn gref gymdeithas wareiddiedig y dyddiau presennol ydyw y dylid cadw y cleddyf yn y wain, os na bydd amgylchiadau eithriadol yn galw am dano.

"Segurdod yw clod y cledd,
A rhwd yw ei anrhydedd."

Nis gellir, yn sicr, rhoddi gormod o bwys ar fod i bob cenedl feddu llenyddiaeth o eiddo ei hunan, ac yn perthyn iddi ei hunan. Dywed yr awdwr galluog Channing eiriau cryfion ar hyn, a chredwn fod ynddynt gen adwri at sefyllfa lenyddol Cymru:—

"It were better to have no literature than form ourselves unresistingly on a foreign one. The true sovereigns of a country are those who determine its mind, its modes of thinking, its tastes, its principles; and we cannot consent to lodge this sovereign ty in the hands of strangers. A country, like an individual, has dignity and power only in proportion as it is self-formed. We need a literature to counteract, and to use wisely the literature which we import. We need an inward power proportionate to that which is exerted on us, as the means of self-subsistence..... A foreign literature will always, in a measure, be foreign. It has sprung from the soul of another people, which, however like, is still not our own soul. Every people has much in its own character and feelings which can only be embodied by its own writers, and which, when transfused through literature, makes it touching and true, like the voice of our earliest friend."—(Channing's Works, tudal. 108—9.)

Credwn fod yn y difyniad hwn wirionedd pwysig -gwirionedd ag y dylid ei gofio yn nglyn â'r newyddiaduron, cyfnodolion, a'r llyfrau Seisonig sydd yn arfer cael eu derbyn yn Nghymru. Nid ydym, wrth ddyweyd hyn, yn dymuno o gwbl awgrymu unrhyw beth yn ddiraddiol ar y cynnyrch llenyddol Seisonig sydd yn dylifo i'n gwlad—dylem, i raddau helaeth, fod yn ddiolchgar amdano; ond, ar yr un pryd, credwn fod yn hanfodol bwysig i bob cenedl feddu llenyddiaeth o eiddo ei hunan, a gwneyd ei goreu i gefnogi ei llenyddiaeth. Dywedir fod llenyddiaeth Seisonig-yn ei newyddiaduron, ei chyfnodolion, ac yn ei llyfrau—yn cael ei chefnogi yn llawer gwell gan rai Cymry nag hyd yn nod eu llenyddiaeth Gymreig hwy eu hunain, ac eto hwyrach mai y bobl hyn, er mor anghymhwys i roddi barn, fydd y rhai cyntaf i feirniadu a choll—farnu llenyddiaeth Gymreig. Mae hyn yn dangos diffyg teyrngarwch llawer o'r Cymry i'w llenyddiaeth hwy eu hunain, ac yn beth all arwain i ganlyniadau annymunol. Mae pob gwlad mewn anghen llenyddiaeth o eiddo ei hunan cyn y gall iawn ddefnyddio llenyddiaeth gwledydd eraill, ac y mae gan bob cenedl nodweddion a theimladau neillduol nas gall neb eu dilladu mewn ysgrifau ond rhai o honynt hwy eu hunain. Credwn mai argraphwasg pob gwlad ei hunan all gyrhaedd y wlad hono oreu. Dylai y Cymry fod yn dra diolchgar fod ganddynt yr argraphwasg yn eu gwlad eu hunain, a chred wn mai y wasg Gymreig, yn ei gwahanol ganghenau, all gyrhaedd Cymru bellaf a dyfnaf. Cofier, er hyny, nad ydym o gwbl am i'r Cymry roddi heibio, cyn belled ag y bydd amgylchiadau yn caniatau, ddarllen llenyddiaeth gwledydd eraill; a'r gwirionedd ydyw fod yn rhaid i ni fod yn gynefin â llenyddiaeth sydd yn cael ei chyhoeddi gan genhedloedd eraill, yn arbenig ar rai canghenau, neu foddloni ar fod yn gyfyng; ond, er caniatau hyny, mae hanesiaeth yn dangos fod cenedl—unrhyw genedl—wrth ddibynu yn gwbl a hollol ar lenyddiaeth gwledydd eraill, yn graddol golli pob annibyniaeth meddyliol, ac yn graddol ddisgyn i adfeiliad a gwywdra. Bydded i bobl Cymru fod ar eu gwyliadwriaeth!

Mae dylanwad y wasg Gymreig wedi bod yn gryf a pharhaol ar ein gwlad. Bu yn un o'r cyfryngau mwyaf nerthol yn ffurfiad cymeriad y genedl--bu yn fodd inni hyrwyddo undeb yn mhlith y Cymry, ac i ddyfod â gwahanol adranau y boblogaeth i ddeall eu gilydd. Meddylier drachefn am yr hyn a wnaeth yn nyrchafiad cymdeithasol y bobl. Taflodd oleuni ar bethau dyrus a phethau a fuasent yn parhau yn dywyll, yn ol pob tebyg, oni buasai am dani hi. Mae ganddi ran helaeth hefyd yn sefyllfa bresennol cenedl y Cymry mewn moesau a chrefydd. Nid ydym, wrth hyn, yn anghofio dylanwad da cyfryngau eraill: rhaid cofio am y gwaith da oedd yn cael ei gario yn mlaen, yn ddistaw, gan ein cyn -dadau, ac erys dylanwad cryf gwahanol ddiwygiadau ar ein gwlad hyd heddyw. Cafodd y wlad ei deffro drwyddynt. Gwnaeth yr Ysgol Sabbothol lawer iawn gwnaeth ddigon i osod Cymru dan rwymau bythol iddi—tuagat oleuo y wlad. Nid oedd deffro gwlad yn ddigonol heb ei goleuo, ac, yn wir, gall deffroad fod yn niweidiol os na cheir goleuni cyfatebol i arwain ei ysgwydiadau i'r cyfeiriad priodol. Ond, wrth son am wahanol gyfryngau dyrchafiad y Cymry, rhaid cydnabod fod i'r wasg Gymreig safle anrhydeddus iawn. Pa fanteision sydd genym, yn gymdeithasol a chrefyddol, nad ydym yn ddyledus am danynt, mewn rhan, yn y naill ffordd neu y llall, i'r wasg? Gogoniant Cymru, er y cwbl, ydyw ei chrefydd, ac y mae dyweyd fod argraphwasg unrhyw wlad wedi bod yn fantais i grefydd у wlad hono yn golygu y clod uwchaf a ellir roddi i'r argraphwasg hono.

"Os myni weled prif ogoniant Cymru,
Nac edrych ar amrywiaeth nant a bryn,
Ond tyr'd yn mrig yr hwyr i ganol teulu
Diniwaid, duwiol, y bwthynod hyn,
Tra 'n emyn Maes-y-Plwm yn ymddifyru,
Neu 'n adgof pregeth swynol Talysarn;
Oes, oes, mae yma rywbeth ddeil i fyny
Pan ddawnsia 'r bryniau fry yn graig & charn
Ar encil distryw byth yn adsain udgorn barn."


PENNOD I

HANES Y NEWYDDIADUR CYMREIG

CAREM, cyn dechreu rhoddi hanes Newyddiaduron Cymru, wneyd dau sylw eglurhaol: (1) Fod nifer fawr o newyddiaduron Seisonig yn cael eu cyhoeddi yn Nghymru. Ymddengys, yn ol yr amcangyfrif diweddaf, yr argrephir yn awr oddeutu pedwar ugain o wahanol newyddiaduron—rhwng yr oll (Cymraeg a Seisonig)—yn Nghymru. Gellir dyweyd fod lluaws o'r newyddiaduron Seisonig hyn yn cynnwys colofn neu ddwy, neu dair, yn yr iaith Gymraeg, a chredwn y caniateir, yn achlysurol, os bydd rhesymau digonol dros hyny, i ohebiaethau Cymreig ymddangos ynddynt. (2) Fod yr hen Almanaciau Cymreig, yn ogystal a'r hen Gyfnodolion Cymreig, i raddau helaeth, yn amcanu at gyflawni gwasanaeth newyddiaduron, cyn i lenyddiaeth newyddiadurol (yn ystyr fanwl y gair) ymddangos yn ein gwlad. Byddent, yn eu ffordd eu hunain, yn meddu cyfuniad o'r newyddiadurol a'r cylchgronol, ac yn ol eu gallu ar y pryd, llanwent ddiffyg pwysig yn ein llenyddiaeth, a gwnaent garedigrwydd â'r wlad.

Seren Gomer, 1814.—Cydolygir yn gyffredin mai cychwyniad Seren Gomer oedd yr ymgais wirioneddol gyntaf i gychwyn newyddiadur rheolaidd yn yr iaith Gymraeg. Ystyrid ef, o ran ffurf, trefn, a chynnwys, yn newyddiadur. Daeth y rhifyn cyntaf ohono allan Ionawr 1af, 1814, a pharhaodd i ddyfod allan yn wythnosol hyd Awst 9fed, 1815, ac felly daeth allan 85 rhifyn. Pris y 66 rhifynau cyntaf oedd chwe' cheiniog -a -dimai y rhifyn, a phris y 19 rhifynau diweddaf oedd wyth geiniog y rhifyn. Ei faintioli ydoedd pedwar tudalen, yn mesur ugain modfedd wrth bymtheg. Dywedir nad yw y gyfrol sydd yn cynnwys yr holl rifynau ond prin fodfedd o drwch, ond yr oedd yn werth, yn newydd, oddeutu £2 8s. 5c., heb ei rhwymo. Cychwynwyd a golygwyd ef gan y Parch. Joseph Harris (Gomer), Abertawe, gweinidog enwog & defnyddiol gyda'r Bedyddwyr, ac argrephid ef gan Mr. David Jenkins. Gomer oedd y prif anturiaethwr, ond darfu i amryw eraill ymuno âg ef yn y symudiad, a gwir ddrwg genym orfod dyweyd iddynt—cyd-rhyngddynt—golli oddeutu mil o bunnau yn yr anturiaeth. Darfu i'r newyddiadur Cymreig cyntaf hwn, mewn ystyr arianol, droi allan yn fethiant hollol. Diau mai у prif reswm dros yr aflwyddiant hwn oedd fod y treuliadau yn llawer iawn uwch na'r 'derbyniadau; ac er fod ei bris yn uchel, eto nid oedd hyny ond megis dim i gyfarfod treuliau newyddiadurol yr amseroedd hyny. Ychydig a dderbynid oddiwrth hysbysiadau (advertisements), ac nid oedd ei holl gylchrediad yn cyrhaedd dwy fil. Edrychid arno fel newyddiadur cwbl anenwadol—heb broffesu bod yn perthyn i unrhyw blaid—yn wladol na chrefyddol—ac ysgrifenid iddo gan lawer o oreugwyr y genedl. Wele ychydig eiriau o'r anerchiad at y darllenwyr yn y rhifyn cyntaf o hono:—"Bydd i Seren Gomer wyrebu ar derfynau anwybodaeth, a gwahodd y preswylwyr yn gariadlawn i fwynhau pleserau gwybodaeth. Bydd yn cynnwys hanesion pellenig a chartrefol, am ryfel a heddwch, newyddion gwladol ac eglwysig, crynodeb o'r cyfreithiau newyddion a wneir yn ein hamser, ymdrechiadau a llwyddiant y cenhadon Cristionogol yn mhlith eilunaddolwyr, pris yr ŷd, ac amryw bethau eraill, amser ffeiriau yn y Dywysogaeth, yn nghyda phobpeth arall hefyd a fyddo yn gyson â moesoldeb, tra y byddo lle; canys tra bo yn llewyrchu ar achosion y fuchedd bresennol, fe ymdrechir ei thebygu i'r un yn y Dwyrain i dywys at Seren Jacob, neu hyd at yr Hwn a anwyd i fod yn Frenin i'r Iuddewon." Wele eto ychydig eiriau o'r anerchiad derfynol yn y rhifyn diweddaf a ddaeth allan o hono:— "Pan ystyriom fod y rhan amlaf o bendefigion à boneddigion ein gwlad yn esgeuluso ymgeleddu iaith eu cenedl, a bod tuedd y lluaws yn mhob gwlad i efelychu y mawrion, hyd yn nod pe tywysai hyny hwy dros glogwyni dinystr—pan feddyliom fod ein tywysogaeth yn dra toreithiog yn ei chawd o gybyddion—pan gofiom fod ynddi lawer o dlodion—a phan gadwom yn ein meddwl fod llawer o frodyr Dic Shon Dafydd yn ein mysg, yr hwn, wedi bod ohono ychydig flynyddau yn mysg y Saeson, a ddychwelodd i Sir Aberteifi, a methodd siarad â'i fam, nes gyru am berson y plwyf i ddehongli rhyngddynt; pan ystyriom hyn oll, nid rhyfedd iawn fod papyr wythnosol, gwerth wyth geiniog, yn methu sefyll." Anaml, os byth, y ceid ynddo erthyglau arweiniol, ac amlwg ydoedd ei fod yn hynod ochelgar rhag ysgrifenu dim yn erbyn y Llywodraeth. Wrth son am y Newyddiadur Cymreig cyntaf a ymddangosodd yn yr iaith, goddefer i ni ddadgan ein crediniaeth nad ydyw cenedl y Cymry hyd yma wedi talu y warogaeth ddyledus i goffadwriaeth yr anfarwol Gomer. Gellir ei ystyried o wir arweinwyr llenyddol Cymru, ac ar rai cyfrifon gellir ei alw yn un o sylfaenwyr ein llenyddiaeth yn ei sefylla bresennol, a diau ein bod, fel cenedl, dan ddyled drom iddo.

Y Newyddiadur Hanesyddol, 1835, Cronicl yr Oes, 1835. —Cychwynwyd y Newyddiadur Hanesyddol yn Ionawr, 1835. Ei gychwynydd a'i olygydd ydoedd y Parch. Owen Jones (Meudwy Môn), Llandudno, ac argrephid of gan y Meistri John Ac Evan Lloyd, Wyddgrug. Yr oedd. Mr. Jones, y golygydd, ar y pryd hwnw, trwy ganiatad y Meistri Lloyd, ac ar gais y Meistri Hampton a Gosling, perchenogion glofa Plas-yr-Argoed, wedi cymeryd lle fel cynorthwywr, am ychydig amser, y dyn oedd yn arian-ddaliwr (cashier) y gwaith glo, gan fod y swyddog hwnw mewn afiechyd, yr hyn a derfynodd yn ei farwolaeth, ac wedi hyny bu i'r perchenogion bwyso er i Mr. Owen Jones ddyfod yn gwbl oll i'w gwasanaeth hwy. Cydsyniodd y Meistri Lloyd i ollwng Mr. Jones os gwnai ef fyned yn gyfrifol i gael un yn ei le fel golygydd Y Newyddiadur Hanesyddol. Llwyddodd yntau i gael y Parch. Roger Edwards, o Ddolgellau yr adeg hono, i ddyfod i'r Wyddgrug i olygu y papyr hwn. Dyna achlysur dyfodiad Mr. Edwards—yn wr ieuanc-i ddyfod i breswylio i'r Wyddgrug. Ymddengys mai dau rifyn o'r Newyddiadur Hanesyddol a gyhoeddasid dan olygiaeth Mr. Jones, ac un o'r pethau cyntaf a wnaeth Mr. Edwards, ar ol ymgymeryd â'r olygiaeth, ydoedd newid enw y newyddiadur, a'i alw yn Cronicl yr Oes, a than yr enw hwnw y daeth allan hyd y diwedd. Argrephid ef, o'r dechreu, gan y Meistri John ac Evan Lloyd, cyhoeddwyr, Wyddgrug, ond cawn fod y rhifynau a ddechreuent ddyfod allan Rhagfyr 15fed, 1838, yn cael eu hargraphu gan y Meistri Lloyd ac Evans, Treffynnon Deuai allan yn fisol, a hyny er mwyn arbed trethi y Llywodraeth, a'i bris, ar y dechreu, ydoedd tair ceiniog, ond ar ei symudiad i gael ei argraphu ya Treffynnon, ymddengys i'r pris godi i bedair ceiniog.

Dyma arwyddair (motto) Cronicl yr Oes, yr hwn a geid ar ei wyneb -ddalen:—"Ofnwch Dduw. Anrhydeddwch y Brenin. Agor dy enau dros y mud. Na byddo i neb orthrymu na thwyllo ei frawd mewn dim. Oni fedrwch arwyddion yr amserau?" Ond, yn Mehefin, 1837, ac yn mlaen ceir mai yr arwyddair ydyw:—"Dyma y pethau a wnewch chwi: Dywedwch y gwir bawb wrth ei gymydog; bernwch farn gwirionedd a thangnefedd yn eich pyrth." Yr ydym wedi methu gweled yr un rhifyn o hono ar ol yr un am Ionawr 15fed, 1839, a'r tebyg ydyw mai hwn yw y diweddaf, ac felly parhaodd Cronicl yr Oes am oddeutu pedair blynedd, a sicrheir ni gan rai yn meddu mantais i wybod mai nid oherwydd diffyg cefnogaeth y rhoddwyd ef i fyny, ond yn hytrach ar gyfrif amledd goruchwylion eraill y golygydd.

Y Papyr Newydd Cymraeg, 1836.—Newyddiadur ydoedd hwn a gychwynwyd oddeutu dechreu y flwyddyn 1836, ac a gyhoeddid, fel y tybir amlaf, yn swyddfa fechan Mr. Hugh Hughes, arlunydd, Caernarfon. Efe hefyd ydoedd yn ysgrifenu llawer iddo, a dichon fod Caledfryn yn ei gynnorthwyo. Er mwyn osgoi y dreth newyddiadurol, ni chyhoeddid ef ond unwaith yn y mis, a dywedir na ddaeth allan o hono ond pymtheg rhifyn.

Y Gwron Cymreig, 1838.—Cychwynwyd hwn yn nechreu y flwyddyn 1838, ac argrephid ef gan Mr. Josiah Thomas Jones, Caernarfon, a golygid ef am yspaid gan Mr. W. Ellis Jones (Cawrdaf), Caernarfon. Parhaodd y newyddiadur hwn i ddyfod allan dan yr un enw am oddeutu dwy flynedd, ond yn nechreu y flwyddyn 1840 newidiwyd ei enw, a galwyd ef Y Gwron Odyddol. Gwnaed hyn, yn benaf, er mwyn sicrhau cefnogaeth neillduol yr Odyddion, y rhai oeddent, y pryd hwnw, yn dra lluosog yn ein gwlad, ac yn enwedig felly yn y Deheudir. Teg ydyw dyweyd fod Y Gwron Cymreig, mewn blynyddoedd ar ol hyny, wedi ei ail-gychwyn, fel newyddiadur wythnosol, gan Mr. J. T. Jones, ei gyhoeddwr blaenorol, ar ol iddo symud i fyw i Aberdâr, à sicrhawyd gwasanaeth Caledfryn fel ei olygydd, ond troes yr holl ymdrechion hyn yn fethiant, a rhoddwyd ef i fyny yn fuan.

Y Protestant, 1839.—Cychwynwyd ac argrephid y newyddiadur hwn gan y Meistri Hugh ac Owen Jones, Wyddgrug, a golygid ef gan nifer o weinidogion yr Eglwys Sefydledig, megis y Parch. R. Richards, Caerwys, &c. Deuai allan unwaith bob pymthegnos, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Symudwyd Y Protestant, cyn hir, i gael ei argraphu gan Mr. R. Saunderson, Bala, a bernir mai y Parch. G. Edwards (Gutyn Padarn), Llangadfan Rectory, Trallwm, yn benaf ydoedd yn ei olygu y pryd hwnw. Buasid yn tybio fod y newyddiadur hwn, yn fwyaf neillduol, dan nawdd Eglwysig, ac, efallai, yn cael ei gyhoeddi er mwyn deiliaid yr Eglwys Sefydledig yn Nghymru. Ond credir iddo gael ei roddi i fyny oddeu tu y flwyddyn 1843.

Cylchgrawn Rhyddid, 1839.—Cychwynwyd hwn yn y flwyddyn 1839, a golygid ef gan Mr. Walter Griffiths, Bethesda, Arfon, yr hwn, ar yr un adeg, a ddewiswyd i ddarlithio, ar ran Cynghrair Deddfau yr Ŷd, yn Nghymru. Argrephid ef yn Nghaernarfon Amcan mawr ei fynediad allan ydoedd i amddiffyn egwyddorion Masnach Rydd, a chyhoeddid ef dan nawdd y Cynghrair a enwyd. Er y gelwid ef yn gylchgrawn, eto fel newyddiadur yr edrychid arno, a deuai allan yn bymtheg nosol. Ymddengys yr arferai Caledfryn ysgrifenu llawer iddo, ac er yr ystyrid ef yn newyddiadur lled alluog, eto ber iawn a fu ei oes.

Udgorn Cymru, 1840.—Cychwynwyd hwn yn y flwyddyn 1840, a pherthynai i'r Siartiaid, y rhai oeddynt yn dra lluosog, y pryd hwnw, yn Mynwy a Morganwg, ac argrephid ef gan y Meistri David John a Morgan Williams, Merthyr Tydfil. Deuai allan unwaith yn y mis. Dadleuai dros yr hyn a elwid yn "Chwe' Pwynt y Siarter (Chartism)," a byddai ei dôn yn gynhyrfus, ac yn gwbl at chwaeth ei blaid. Ni pharhaodd yn hir, oherwydd ceir fod ei olygydd, yn un o'r rhifynau, yn cwyno er fod iddo "gylchrediad gwell na'r un cyhoedd iad arall," eto nad oedd yn cael "y gefnogaeth a deilyngai."

Yr Amserau, 1843.—Efallai, yn y diwedd, er yn cydnabod yr holl wahanol newyddiaduron a enwyd, ac yn barod i roddi llawryf iddynt, fel rhagredegwyr newyddiadurol Cymreig, fod yn rhaid addef mai cychwyniad Yr Amserau oedd y cais llwyddiannus cyntaf i wir sefydlu, fel y cyfryw, newyddiadur Cymreig. Ei bris oedd tair-ceiniog-a-dimai. Nis gellir rhoddi hanes ei gychwyniad yn well, cywirach, ac yn fwy cryno, nag yn ngeiriau y Parch. W. Rees (Hiraethog), ei brif olygydd, ei hunan:—"Wedi fy symudiad i Lerpwl, yn Mai, 1843, bu'm i a'm diweddar gyfaill, Mr. John Jones, Castle-street, argraphydd a llyfrwerthydd, gwr parchus iawn gan ei gyd-genedl yn y dref, a chan y Saeson yr un modd, yn Gymro gwladgarol, ac yn Gymreigydd gwych—buom, meddaf, yn cydymgynghori llawer â'n gilydd, o dro i dro, a allem anturio gwneyd un cynnyg arall i sefydlu newyddiadur Cymreig. Cytunasom, o'r diwedd, i roddi prawf. Yr oedd Mr. Jones i ddwyn y draul o argraphu a chyhoeddi, a gofalu am ddosparth y newyddion cartrefol, marchnadoedd, gohebiaethau, hysbysiadau, &c., a minnau i ymgymeryd â'r olygiaeth, yr erthyglau arweiniol, newyddion tramor, a'r adroddiadau Seneddol, ac i wneyd hyny yn ddi-dâl, oddigerth cael papyr i ysgrifenu arno, ac ink i ysgrifenu âg ef; ac ar y 23ain o Awst, 1843, daeth y rhifyn cyntaf o'r Amserau allan. Nid oedd nifer ei dderbynwyr, ar y cychwyn, er pob ymdrech a wnaethid i daenu hysbysiadau amdano yn mysg ein cyd-wladwyr, ac i'w hannog i'w dderbyn, ond tua pedwar cant Dygid ef allan, ar y cyntaf, yn bythefnosol. Wedi gwneyd y prawf am tua chwe' mis, gwelodd Mr. Jones ei fod yn colli swm o arian ar bob rhifyn, ac nad oedd nifer y derbynwyr yn cynnyddu ond ychydig, a phenderfynodd roddi yr anturiaeth i fyny, ac archodd i mi barotoi erthygl erbyn y rhifyn nesaf i'w gosod yn ngenau Yr Amserau, fel ei genad olaf at ei dderbynwyr. Taer erfyniais arno ei barhau am ychydig amser yn mhellach, fod genyf ryw beth mewn golwg, a allai, hwyrach, hawlio sylw ac ennill derbynwyr Newyddion. Boddlonodd yntau i hyny. Yn ganlynol, ymddangosodd llythyrau 'Rhen Ffarmwr ' ynddo, yn cynnwys sylwadau ar arferion a defodau y wlad, a helyntion y dydd, y Senedd, &c., wedi eu hysgrifenu yn iaith lafar y werin yn uchel diroedd Gogledd Cymru. Llwyddodd yr abwyd. Cyn nyddodd nifer y derbynwyr fesur y degau bob wythnos (bob yn ail wythnos y cyhoeddid y papyr), a daeth golwg obeithiol ar yr achos." Dyna eiriau y gellir dibynu ar eu cywirdeb. Gwelir mai y Parch. W. Rees ei hun oedd y prif ysgogydd yn y symudiad, ac mai Mr. John Jones oedd yr argraphydd a'r cyhoeddwr, a gweithredai hefyd fel is-olygydd, at yr hon swydd y meddai gymhwysderau neillduol, gan ei fod yn feirniad craff ac yn llenor gwych. Blynyddoedd cyfyng a caled a fu y blynyddoedd hyny i'r ddau wron hyn. Dywedir, hyd yn nod ar ol y cynnydd mawr a fu yn ei gylchrediad, gan fod y dreth newyddiadurol mor drom, y darllenwyr mor bell a gwasgarog, yr hyn a barai draul uchel i ddanfon y sypynau, na chafodd y golygydd parchus am ei lafur yn nyddiau llwyddiant penaf yr anturiaeth nemawr mwy ar gyfartaledd na deg swllt yr wythnos. Yn y flwyddyn 1848, ymneillduodd Mr. John Jones o'r fasnach, a phrynwyd ei hawl yn y newyddiadur gan Mr. John Lloyd, argraphydd, Wyddgrug, yr hwn a fu o'r blaen yn cyhoeddi Cronicl yr Oes. Darfu iddo ef unwaith, mewn trefn i geisio osgoi y dreth, symud i argraphu y newyddiadur hwn yn Ynys Manaw, gan fod rhyddid yno, y pryd hwnw, i gyhoeddi newyddiaduron yn ddidreth. Ni bu yno ond ychydig wythnosau na alwyd sylw Canghellydd y Trysorlys at y ffaith, a'r canlyniad a fu iddo gael ei orfodi i ddychwelyd i'w hen gartref yn Lerpwl. Dewiswyd y Parch. John Roberts (Ieuan Gwyllt), yn y flwyddyn 1852, yn is -olygydd iddo, ac yn fuan iawn daeth yr holl olygiaeth i'w law ef. Dywedir fod ei gylchrediad, ar ddechreuad toriad allan Rhyfel y Crimea, yn cyrhaedd oddeutu wyth mil, yr hyn, y pryd hwnw, a ystyrid yn gylchrediad uchel; ond gan i'r newyddiadur, yn ei gynnwys a'i yspryd, fyned i bleidio Rwsia, ac iddo archolli teimladau lluaws mawr o'r darllenwyr trwy ganiatau ymosodiadau dienw ar ei gyn-olygydd hybarch, syrthiodd ei gylchrediad yn fuan i lai na'r haner, a chafodd gwrthymgeiswyr, drwy hyny, gyfleus dra i ddyfod i'r maes, a daeth dau neu dri allan yn y cyfwng hwnw. Bu iddo, ar gyfrif ei syniadau a'i yspryd ei hunan, a'r ffaith fod newyddiaduron da eraill wedi cychwyn ar yr adeg hono, ddechreu llesgau, ac er iddo ymdrechu dal ei dir am rai misoedd, ac i'w bris ostwng i geiniog, er hyn oll gwanychu a darfod yr ydoedd y naill wythnos ar ol y llall, a'r canlyniad a fu i Mr. John Lloyd, ei gyhoeddwr, yn y flwyddyn 1859, werthu ei hawl i Mr. T. Gee, Dinbych, a dyna ddiwedd Yr Amserau yn y ffurf oedd arno.

Yr Yspiwr, sef Adroddwr Newyddion a Rhyfeddodau o bob math, 1843.-- Daeth y rhifyn cyntaf o hono allan o'r wasg Ebrill 27ain, 1843, a'r ail rifyn Mai 23ain, 1843, ac ar ol hyny yn bymthegnosol, sef bob yn ail ddydd Mawrth, hyd y diwedd. Cyhoeddid ef ar ffurf llyfryn bychan, er mai newyddiadur ydoedd, yn cynnwys wyth tudalen, a'i bris ydoedd ceiniog. Cychwynwyd, golygid, ac argrephid ef gan y Parch. Hugh Jones, gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd, Llangollen. Er mwyn rhoddi syniad am ei gynnwys a'i amcan nis gallwn wneyd yn well na difynu ychydig o'r geiriau eglurhaol sydd ar wyneb-ddalen ei rifyn cyntaf:— "At y Cymry,—Gydwladwyr hoff—Dichon mai buddiol fyddai taflu gair o anerchiad byr ar gychwyniad Yr Yspiwr i'r Dywysogaeth. Odid nad oes aml un yn barod i ofyn, Ond beth a wna hwn? Mewn atebiad dywedwn—fe wna hwn yr hyn ni wna yr un cyhoeddiad arall yn y Gymraeg: oblegid ni bydd a wnelo â dim mewn modd yn y byd, ond a newyddion yn unig; sef hanes y byd a'r amseroedd, damweiniau, a chyfnewidiadau sydd yn cymeryd lle ar diroedd a dyfroedd, yn agos ac yn mhell. Felly ni bydd Yr Yspiwr yn drygu y naill gyhoeddiad nac yn rhedeg ar draws y llall, oblegid y mae efe yn cerdded wrtho ei hun, a'i gyfeiriad yn wahanol i bob un o'i gyfeillion..... Ymdrechwn roddi eithaf boddlonrwydd i'n darllenwyr oll, trwy ddethol allan y pethau hynotaf sydd yn digwydd yn y byd, trwy roddi digon o amrywiaeth hanesion yn mhob rhan, trwy fod yn ofalus i olrhain i wirionedd pob dim cyn ei gyhoeddi, a thrwy roddi llawer o fater mewn ychydig o le, sef y' swm anferth o 28,000 o lythyrenau yn mhob rhifyn." Fel enghraipht i ddangos awydd cryf y cyhoeddwr hwn i gael cywirdeb yn ei newyddiadur gellir dyweyd mai un ammod, yn mhlith eraill, i ymddangosiad hanesyn ynddo ydoedd: "Nad oedd un hanes oddiwrth ddieithriaid i gael ymddangos yn Yr Yspiwr heb i un o'r dosparthwyr ei arwyddo fel gwirionedd." O ran defnydd, rhaid dyweyd mai papyr teneu a brau ydoedd, ac ni pharhaodd yn hir i ddyfod allan. Credwn yn sicr mai 83 o rifynau o hono a ddaeth allan, a hyd y gellir gweled, mai y rhifyn a gyhoeddwyd "dydd Sadwrn, Awst 3ydd, 1844," oedd yr olaf. Gwir fod ynddo ymgais at ddyfod â'r . darllenwyr i gysylltiad â digwyddiadau gwledydd tramor, eto rhaid credu mai lled gyffredin ydoedd am ei bris.

Y Figaro, 1843.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn y flwyddyn 1843. Argrephid ef gan Mr. Robert Jones, argraphydd, Bangor, a golygid ef gan y Parch. Isaac Harris, gweinidog gyda'r Annibynwyr, a'r hwn oedd yn bugeilio ychydig o'r bobl a wrthgiliasent oddiwrth gynnulleidfa Dr. Arthur Jones, Bangor. Yr oedd y newyddiadur hwn, mewn maintioli, yn bedwar-plyg, a rhoddid cryn le i'r elfen Saesonig ynddo, er mai newyddiadur Cymreig yr ystyrid ef. Un o'i neillduolion ydoedd y ceid darluniau bron yn mhob rhifyn o hono, ac ymddiriedid y cerfluniau i Mr. John Roberts, argraphydd, a'r hwn ydoedd yn fab i'r hynod Mr. Robert Roberts (yr Almanaciwr), Caergybi. Pan ymddangosai ynddo ysgrif wawdlyd am unrhyw un—yr hyn a gymerai le yn fynych—byddai ynddo hefyd ddarlun o'r cyfryw. Ymddengys fod bardd o'r enw Edeyrn ab Nudd yn aros yn Bangor ar y pryd hwn, a digwyddodd iddo, yn nghyfarfod y Gymdeithas Gymroaidd Ddadleuol, ddyfod i wrthdarawiad â Mr. Isaac Harris, golygydd Y Figaro, a'r wythnos ddilynol ceid darlun gwawdus o'r Edeyrn yn Y Figaro. Darfu i hyn gyffroi holl natur Edeyrn ab Nudd, ac mewn dialedd, llwyddodd i gychwyn newyddiadur gwrthwynebol iddo o'r enw Yr Anti-Figaro, a chafodd gan Mr. L. E. Jones, Caernarfon, i'w argraphu, ac efe ei hun yn olygydd iddo. Aeth yn ymladdfa front rhyngddynt, ac aeth y ddau i ymgecru mewn dull mor isel ac anfoneddigaidd, nes y penderfynodd y gyfraith wladol roddi terfyn ar einioes y ddau newyddiadur gyda'u gilydd, a hyny trwy atafaelu eiddo y ddau argraphydd!

Y Gwladgarwr, 1846.—Cychwynwyd hwn yn y flwyddyn 1846, gan y Parch. John Jones, Llangollen (Jones Llangollen), ac efe hefyd oedd yn ei olygu, ac yn gyfrifol am dano, ond am enyd fer y parhaodd i ddyfod allan.

Y Cymro, 1848.—Newyddiadur wythnosol ydoedd hwn, a chychwynwyd ef yn y flwyddyn 1848, dan nawdd pwyllgor Eglwysig, yr hwn a arferai gyd -gyfarfod yn Bangor. Edrychid arno, i bob pwrpas ymarferol, fel dilynydd i'r Protestant, yr hwn oedd wedi cael ei roddi i fyny er's yspaid yn flaenorol, a gwasanaethai yn gwbl yn mhlaid yr Eglwys Sefydledig. Ei olygydd a'i argraphydd, i ddechreu, ydoedd Mr. Hugh Williams (Cadfan), a dywedir ei fod, yn ystod y blynyddoedd 1851–3 dan olygiaeth y Parch. R. Harris Jones, M.A., ficer Llanidloes, ac hefyd fod y Parch. R. Parry Jones, M.A., Gaerwen, yn ymwneyd llawer âg ef. Bu y newyddiadur hwn yn cael ei argraphu yn Bangor, yn Llundain, a bu, am yspaid, yn cael ei ddwyn allan yn Treffynnon gan Mr. William Morris, argraphydd, ac yna. pan symudodd Mr. Morris ei swyddfa i Ddinbych, bu yn cael ei argraphu yno hefyd, ac ymddengys mai yno, ar ol oes fer a hynod symudol, y rhoddwyd ef i fyny.

Seren Cymru, 1851.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn Hydref, 1851, dan olygiaeth Mr. Samuel Evans, cyn olygydd Seren Gomer, a chyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. W. Morgan Evans, Caerfyrddin. Ei bris ydyw ceiniog. Darfu i Mr. Evans, oherwydd uchder y dreth newyddiadurol a threuliadau eraill, roddi i fyny Seren Cymru, oddeutu Ebrill, 1853, ac ymddengys ei fod, drwy ei gysylltiad â'r newyddiadur hwn, o'r dechreu hyd hyny, wedi colli llawer o arian. Bu iddo, modd bynag, ail-gychwyn Seren Cymru, a daeth y rhifyn cyntaf allan ar Rhagfyr 13eg, 1856, gyda Dr. J. Emlyn Jones yn olygydd, a throdd yr anturiaeth hon allan yn llwyddiant. Ar ol dwy flynedd, rhoddodd Dr. Emlyn Jones yr olygiaeth i fyny, ac am y pymtheg mis dilynol dygwyd allan y Seren dan olygiaeth y cyhoeddwr ei hunan. Ceir, oddeutu dechreu Ebrill, 1860, fod Dr. Price, Aberdâr, wedi cydsynio i olygu y gwahanol ohebiaethau, a chydsyniodd Dr. Morgan (Lleurwg), Llanelli, i olygu y farddoniaeth. Darfu i Dr. Price, oddeutu Ebrill, 1876, oherwydd afiechyd, roddi ei swydd i fyny, ac am y chwe' mis dilynol, disgynodd bron yr holl ofal ar Lleurwg, ac yn Medi, 1876, ymgymerodd y Parch. John Jones, Felinfoel, a chynnorthwyo yn yr olygiaeth. Ymddengys fod Seren Cymru, ar hyn o bryd, dan olygiaeth y Parch. B. Thomas (Myfyr Emlyn), Narberth. Dylid dyweyd mai yn bymthegrosol y cyhoeddid y newyddiadur hwn o'r dechreu, hyd y flwyddyn 1862, pryd y trowyd ef yn wythnosol, ac felly y mae yn parhau. Pan dan olygiaeth Mr. Samuel Evans, ar y cyntaf, cymerai Seren Cymru safle annibynol a chenedlaethol, heb broffesu bod yn perthyn i'r un enwad yn neillduol; ond yn fuan, ar ol ei ail-gychwyn, daeth i gysylltiad â'r Bedydiwyr, ac er nad yw yn eiddo swyddogol i'r enwad hwnw, fel enwad, eto edrychir arno fel newyddiadur arbenig at wasanaeth y Bedyddwyr yn Nghymru.

Yr Herald Cymraeg, 1854.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn y flwyddyn 1854—blwyddyn Rhyfel y Crimea—ac ar adeg dilead y dreth newyddiadurol, gan Mr. James Rees, argraphydd, Caernarfon, a golygid ef yn benaf, gan Mr. James Evans, Caernarfon. Ei bris, o'r dechreu, ydyw ceiniog Ei faintioli, ar ei gychwyniad, ydoedd pedair tudalen, wyth colofn, yn cyrhaedd dwy fodfedd -ar-bymtheg mewn hyd. Helaethwyd ef yn nechreu y flwyddyn 1859, trwy roddi colofn ychwanegol yn mhob tudalen, ac estynwyd hyd y colofnau i ugain modfedd a haner. Yn mis Ebrill, 1865, rhoddwyd wyth tudalen iddo, pum' colofn yn mhob un, a'r rhai hyny yn ddwy-fodfedd -ar-bymtheg a haner mewn hyd. Ychwangwyd ef drachefn yn Chwefror, 1878, trwy roddi colofn arall yn mhob tudalen, ac estynwyd hyd y colofnau i ddwy-ar-hugain a haner o fodfeddi. Helaethwyd ef yn y flwyddyn 1887, trwy roddi un golofn newydd yn mhob tudalen. Gwelwn eto, gyda y rhifyn a ddaeth allan Rhagfyr 9fed, 1890, fod pob colofn ynddo wedi ei hestyn fodfedd a haner, ac yr oedd hyn yn golygu helaethiad yn cyrhaedd oddeutu tair colofn a haner. Gwelwn fod y newyddiadur hwn wedi ei helaethu eto, trwy fod wyth colofn o ychwanegiad ynddo, a hyd yr holl golofnau wedi ei estyn. Dechreuodd hyn gyda y rhifyn a ddaeth allan ar Mehefin 7fed, 1892. Dyna faintioli presennol Yr Herald Cymraeg. Bu am rai blynyddoedd yn cael ei argraphu gan Mr. James Rees ei hunan, yna gan y Meistri Rees ac Evans, yna gan Mr. John Evans, Caellenor, ei hunan, ac yn awr argrephir ef, ar ran cwmni neillduol, gan Mr. Daniel Rees, High-street, Caernarfon. Bu amryw, heblaw Mr. James Evans, yn ei olygu, megis Mr. John James Hughes (Alfardd), Thalamus, Llew Llwyfo, ac yn awr, er's rhai blynyddoedd, golygir ef gan Mr. John Evans Jones, Caernarfon. Ystyrir Yr Herald Cymraeg yn newyddiadur Rhyddfrydol. Bu yn cael cylchrediad eang iawn, a dywedir y bu unwaith yn cyrhaedd oddeutu 25,000 yn wythnosol; ond, ar gyfrif amledd newyddiaduron eraill a gychwynwyd ar ei ol, yn nghyda chyfnewidiadau aml a sydyn yn ei olygiaeth (mewn un cyfnod), &c., disgynodd ei gylchrediad yn llai.

Y Telegraph, 1855.—Yn fuan ar ol cychwyniad Yr Herald Cymraeg, darfu i Mr. Hugh Humphreys, Caernarfon, gychwyn newyddiadur wythnosol ar yr enw hwn, a'i bris ydoedd ceiniog. Efe ei hunan oedd yn ei olygu ac yn ei argraphu. Ni chynnwysai ond newyddion, heb yr un esboniad na beirniadaeth arnynt, nac unrhyw annogaeth neu wersi oddiwrthynt. Ond ni bu yn llewyrchus, a gwelodd y cyhoeddwr, ar ol ychydig wythnosau, mai doeth ydoedd ei roddi i fyny.

Sylwedydd, 1855 —Dyma yr enw a roddwyd gan Mr. Richard Davies, Caernarfon, ar newyddiadur ceiniog a gychwynwyd ganddo yn fuan ar ol dilead y dreth newyddiadurol. Argreffid ef gan y Meistri Lewis Jones ac Evan Jones, Caergybi Coleddai y newyddiadur hwn syniadau annibynol, a chafodd dderbyniad da am rai wythnosau, ond ofnir ei fod wedi cael ei gychwyn braidd yn frysiog, a'r canlyniad a fu iddo gael ei roddi heibio yn fuan.

Yr Eifion, 1856.—Cychwynwyd y newyddiadur bychan hwn ar Ionawr 3ydd, 1856, yn Pwllheli, gan y Parch. Hugh Hughes (Tegai), ac efe oedd yn ei olygu, ac argrephid ef gan y Meistri Hughes a'i Gyf., Heol Pen lan, Pwllheli. Ei arwyddair ydoedd "Rhyddid." Deuai allan yn wythnosol, a'i bris ydoedd dimai, a bernir mai hwn ydoedd y newyddiadur dimai cyntaf yn yr iaith. Ni pharhaodd i ddyfod allan ond am ychydig fis oedd.

Yr Arweinydd, 1856.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn ar Mehefin 5ed, 1856, a chyhwynwyd ef gan y Parch. H. Hughes (Tegai), Pwllheli, ac efe oedd yn ei olygu, ac argrephid ef gan y Meistri Hughes a'i Gyf., Heol Penlan, Pwllheli. Ei arwyddair, yn ol ei wyneb-ddalen, ydoedd "Fy Arwyddair fo Rhyddid." Ei bris ydoedd ceiniog, a deuai allan yn wythnosol. Ychydig gyda blwyddyn a fu hyd ei oes.

Baner Cymru, 1857, Baner ac Amserau Cymru, 1859.—Cychwynwyd Baner Cymru yn Mawrth, 1857, gan Mr. T. Gee, Dinbych, a golygid ef, ar y pryd, gan y Parch. W. Rees (Hiraethog). Deuai allan yn wythnosol—bob dydd Mercher, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Dylid dyweyd, yn y cysylltiad hwn, fod Yr Amserau, yr hwn a gyhoeddid yn Lerpwl, yn gweithio ei ffordd yn mlaen trwy anfanteision, a diau fod yr anfanteision hyny yn effeithio ar ei adnoddau arianol, nes yr oedd mewn perygl, ar y cyfrif hwn, am ei einioes. Gwyddis, ar y llaw arall, fod Baner Cymru yn cychwyn gyda rhagolygon disglaer, ac yn meddu cryfder tu cefn. Oherwydd y pethau hyn, ac yn enwedig oherwydd fod Yr Amserau a Baner Cymru yn sefyll dros yr un egwyddorion, ac wedi eu cychwyn i lafurio yn yr un maes ac i'r un amcanion, darfu i'r naill a'r llall, trwy ganiatad eu perchenogion, ddechreu ymgyfathrachu, a'r canlyniad a fu iddynt, cyn hir, uno mewn priodas, ac, ni gredwn, fod yr uniad hwn wedi troi allan yn un hapus, doeth, a thra llwyddiannus. Cymerodd hyn le ar Hydref 5ed, 1859, ac oddiar hyny hyd yn awr gelwir y newyddiadur helaeth hwn yn Baner ac Amserau Cymru, a daw allan yn wythnosol ar ddydd Mercher. Ei bris ydyw dwy geiniog. Dylid dyweyd fod y newyddiadur hwn wedi cael ei helaethu amryw weithiau er adeg ei gychwyniad: nid ydoedd, ar y dechreu, ond prin haner ei faintioli presennol, ac felly y parhaodd am oddeutu tair blynedd; ac yn y flwyddyn 1860, ychwanegwyd ato bron yr haner, ac ar ol ychydig amser drachefn gwnaed helaethiad arall arno trwy ychwanegu at hyd yr holl golofnau yn mhob tudalen. Ond yn y flwyddyn 1890, gwnaed helaethiad pwysig arall trwy roddi colofn ychwanegol yn mhob tudalen, fel, erbyn hyn, y ceir un-ar-bymtheg o dudalenau yn cynnwys pum' colofn yr un, a diau fod yr helaethiad diweddaf hwn yn gyfystyr âg ychwanegu ato bedair tudalen. Prin y mae anghen hysbysu fod y newyddiadur hwn, yn ei olygiadau gwleidyddol, yn Rhyddfrydol. Ceir ynddo erthyglau arweiniol ar brif gwestiynau y dydd, newyddion neillduol oddiwrth ohebydd Cymreig yn y Deheudir, Llythyrau oddiwrth ohebwyr arbenig o Lundain, Manchester, a Lerpwl, gohebiaethau at y golygydd, adolygiad y wasg (yn cynnwys sylwadau beirniadol ar gyhoeddiadau a llyfrau Cymreig), hanes gweithrediadau y Senedd, y Cynghorau Sirol, &c., colofn dan yr enw "Cyfalaf a Llafur," digwyddiadau yr wythnos (yn gartrefol a thramor), newyddion Cymreig cryno o'r Gogledd a'r Deheudir, barddoniaeth yn cynnwys beirniadaeth ar y cynnyrchion barddonol fydd yn dyfod i law), hanes Cyfarfodydd Misol, Chwarterol, a Blynyddol y gwahanol gyfundebau Crefyddol, Yma ac Acw, manylion am y marchnadoedd a'r ffeiriau (Cymreig a Seisonig), &c. Gwelir fod ei gynnwys yn amrywiol, ac yn cario arlwyaeth ffyddlawn i ddarllenwyr Cymru bob wythnos; ac wrth ystyried hyn oll, nid yw yn syndod ei fod yn gallu cyfrif ei dderbynwyr wrth y miloedd.

Y Gwladgarwr, 1857.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn 1857, gan y gwladgar Alaw Goch (tad y Barnwr Gwilym Williams), ac argrephid ef gan Mr. Walter Lloyd, argraphydd, Aberdar. Golygid ef, i ddechreu, gan Llew Llwyfo, ond ni pharhaodd ei olygiaeth ef yn faith, ac, yn ddilynol, bu dan olygiaeth amryw bersonau, megis Ieuan Gwyllt, Dewi Wyn o Esyllt, J. Davies (Aberaman), Islwyn, Brythonfryn, &c. Er y rhoddid lle ynddo i newyddion ac erthyglau ar bynciau y dydd, eto hanes yr Eisteddfodau, barddoniaeth, a beirniadaethau llenyddol, &c., a fyddai yn cael y lle blaenaf ynddo, a hyny, yn ngolwg rhai, ar draul gadael heibio bethau pwysicach. Byddai y llenor a'r a'r bardd, modd bynag, yn cael, ynddo flasus-fwyd fath a garent. Ystyrid ef am flynyddoedd meithion, fel un o'r newyddiaduron Cymreig mwyaf llewyrchus a dylanwadol, os nad y mwyaf felly ar y pryd, yn y Deheudir, a chaffai gylchrediad eang. Parhaodd i fyned yn mlaen hyd oddeutu y flwyddyn 1883, pryd, ar gyfrif rhesymau teuluaidd a chyfrinachol, y rhoddwyd ef i fyny yn fuan ar ol marwolaeth ei berchenog

Y Punch Cymraeg, 1858.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn allan ar Ionawr 1af, 1858, a chychwynwyd ef, yn benaf, gan Mr. Lewis Jones (Caernarfon), y pryd hwnw yn aros yn Nghaergybi, a'r hwn, erbyn hyn, sydd yn Patagonia, a darfu i Mr. Evan Jones (y Parch. Evan Jones, Caernarfon, erbyn hyn) ymuno âg ef. Hwy yn nghyd oeddynt ei olygu, ас yn ysgrifenu y rhan fwyaf iddo, ac yn ei argraphu yn eu swyddfa yn Nghaergybi. Ei faintioli ydoedd wyth tu dalen pedwar—plyg, a deuai allan yn bymthegnosol, a'i bris ydoedd ceiniog Dangosid cryn allu yn ei ysgrifau, a nodweddid hwy, yn benaf, gan watwareg lem a phersonol, ac, ar brydiau, diau y cerid hyny i eithafion. Ymddengys y caffai dderbyniad croesawgar gan y wlad, canys cawn fod ei gylchrediad, ar un adeg, yn cyrhaedd dros i wyth mil. Ymneillduodd Mr. Evan Jones oddiwrtho yn haf y flwyddyn 1859, ond parhaodd y newyddiadur i redeg am beth amser wedi hyny.—Dylid hysbysu fod newyddiadur arall o'r enw Llais y Wlad yn cael ei gyhoeddi yn yr un swyddfa, ac oddeutu yr un adeg.

Y Gweithiwr, 1858.—Newyddiadur wythnosol ydoedd hwn, a gychwynwyd ac a gyhooddid gan Mr. Josiah Thomas Jones, Aberdâr, ac efe hefyd ydoedd yn ei olygu, ac yn ei argraphu. Ychydig a fu nifer ei ddyddiau.

Y Brython, 1858.—Cychwynwyd hwn gan Mr. Robert Isaac Jones (Alltud Eifion), Tremadog, a daeth y rhifyn cyntaf allan ar Tachwedd 28ain, 1858. Deuai allan yn wythnosol, a'i faintioli ydoedd wyth tudalen pedwar plyg, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Ond, oddeutu dechreu y flwyddyn 1859, daeth allan fel cyhoeddiad misol.

Udgorn y Bobl, 1859.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn y flwyddyn 1859, gan Mr. T. Gee, Dinbych, dan olygiaeth Llew Llwyfo. Deuai allan yn wythnosol, a'i bris ydoedd ceiniog. Ni pharhawyd i'w gyhoeddi yn hir iawn, ac yn nechreu Gorphenaf, 1865, cymerwyd lle Udgorn y Bobl gan argraphiad arall o'r Faner, yr hon a elwir, ar lafar gwlad, yn Faner Fach. Pris hon ydyw ceiniog, a daw allan bob dydd Sadwrn, ac ymddengys fod iddi gylchrediad eang.

Y Fellten, 1860.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn nechreu y flwyddyn 1860, gan Mr. Rees Evans, Merthyr Tydfil, ac wedi hyny cyhoeddwyd ef gan Mr. Rhys Lewis, o'r un lle, yr hwn hefyd, yr adeg hono, gan mwyaf, fyddai yn ei olygu, gyda chynnorthwy Dewi Wyn o Esyllt. Ystyrid hwn, yn enwedig yn y Deheudir, yn newyddiadur gwerthfawr, ond ceir ei fod, er's rhai blynyddoedd bellach, wedi ei roddi i fyny yn gwbl.

Cyfaill y Werin, 1863.—Newyddiadur wythnosol ydoedd hwn, a gychwynwyd ac a olygid gan Mr. Jenkins, fferyllydd, Castell Newydd Emlyn, ond methiant buan a fu ei hanes.

Y Byd Cymreig, 1863.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn y flwyddyn 1863, gan y Parch. John Williams, gweinidog yr Annibynwyr yn Castell Newydd Emlyn, ac efe oedd yn ei olygu, a bu Brythonfryn yn ei gynnorth wyo am beth amser. Ond rhoddwyd ef i fyny yn fuan.

Papyr y Bobl, 1865.—Cafodd hwn ei gychwyn yn y flwyddyn 1865, gan Mr. J. D. Jones, cyhoeddwr, Bangor, a golygid ef gan Mr. R. J. Pryse (Gweirydd ap Rhys). Deuai allan yn wythnosol, a cheiniog ydoedd ei bris. Ciliodd yn fuan.

Cronicl Cymru, 1866.—Ar y dyddiad Ionawr laf, 1866, cychwynwyd y newyddiadur hwn gan Mr. J. K. Douglas, Bangor, ac o dan olygiaeth Mr. John Davies (Gwyneddon), Caernarfon. Er y cyhoeddid ef mewn swyddfa âg iddi gysylltiadau Ceidwadol, eto bwriedid i Cronicl Cymru fod yn gwbl rydd oddiwrth bleidiaeth, ac felly y bu am yr yspaid y bu Gwyneddon yn ei olygu, a thra y parhaodd felly cafodd gylchrediad da; ond, pan gymerodd Etholiad Cyffredinol le, darfu i'r newyddiadur hwn droi i ddadleu hawliau y blaid Geidwadol, a diau fod hyn, yn amgylchiadau y wlad yn yr amserau hyny, yn elfen gref yn ei gwymp, yr hyn a gymerodd le yn fuan. Yr oedd y Parch. Morris Williams (Nicander) yn ysgrifenydd cyflogedig iddo, a cheid rhai ysgrifau ynddo gan Ab Ithel, Gwalchmai, Glasynys, Gwynionydd, Cynddelw, Y Llyfrbryf, &c., a cheir rhai hyd heddyw yn son am ysgrifau "Dyddlyfr Oliver Jenkins, " a " Geiriau Lleol," gan Nicander.

Y Glorian, 1867.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn y flwyddyn 1867, gan Llew Llwyfo ac Islwyn, a hwy oeddynt yn ei olygu, ac yn ysgrifenu y rhan fwyaf iddo, ond am enyd fer y parhaodd.

Y Dydd, 1868; Y Tyst Cymreig, 1869; Y Tyst a'r Dydd, 1871.—Cychwynwyd Y Dydd yn y flwyddyn 1868, yn benaf gan y Parch. Samuel Roberts (S. R.), Llanbrynmair. (Conwy ar ol hyny), yn fuan ar ol dychwelyd o'r America, a chyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. W. Hughes, cyhoeddwr, Dolgellau. Dywedir fod ei gylchrediad, ar y pryd hwnw, yn helaeth iawn. Wrth son am Y Dydd, efallai y dylid dyweyd fod Y Tyst Cymreig wedi cael ei gychwyn yn y flwyddyn 1869, a daeth y rhifyn cyntaf allan ar Mehefin 29ain, 1869. Cychwynwyd hwn gan gwmni o weinidogion a lleygwyr yn perthyn i'r Annibynwyr, a'i olygwyr cyntaf oeddynt y Parchn. W. Rees (Hiraethog), Noah Stephens, John Thomas, D.D., William Roberts, Lerpwl, a H. E. Thomas, Birkenhead (America ar ol hyny), ond deallwn mai ar Dr. John Thomas y disgynai rhan drymaf y gwaith, ac am ychydig amser y parhaodd cysylltiad y rhai cyntaf a enwyd ag ef. Yn nechreu y flwyddyn 1871, unwyd Y Tyst Cymreig â'r Dydd, a galwyd ef bellach yn Y Tyst a'r Dydd, a chodwyd ei bris i geiniog—a—dimai yn lle ceiniog, a pharhawyd i'w argraphu yn Dolgellau, a pharhaodd, tra y bu yno, i ddyfod allan dan yr un olygiaeth. Yn niwedd Mehefin, 1872, symudwyd Y Tyst a'r Dydd i gael ei argraphu gan Mr. Joseph Williams, Merthyr Tydfil. Daeth allan y rhifyn cyntaf o hono yn Merthyr ar Gorph. 5ed, 1872, ac yno y parha i gael ei argraphu. Bu prif ofal a golygiaeth y newyddiadur hwn, o'r dechreu hyd adeg ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Gorph, 14eg, 1892, pan yn 71 mlwydd oed, yn llaw y Parch. J. Thomas, D.D., Lerpwl, a phan symudwyd ef i gael ei argraphu yn Merthyr Tydfil, gwnaed trefniadau â'r Parch. D. Jones, B.A., Abertawe, i weithredu fel is-olygydd. Tra nad yw ei gylchrediad yn helaeth iawn, eto y mae yn wasgaredig trwy holl Gymru, a rhai manau yn Lloegr. Gwelir fod Y Tyst—dyna ei enw yn awr—ar ddechreu y flwyddyn 1892, yn ymddangos mewn diwyg ychydig yn newydd, ond yn parhau am yr un pris. Dylid dyweyd fod Y Dydd, yr hwn a barhai i gael ei gyhoeddi yn swyddfa Mr. W. Hughes, Dolgellau, wedi ei roddi i fyny yn mis Medi, 1891, ond deallwn ei fod wedi ail—gychwyn eto er Chwefror 12fed, 1892, a'i bris yn awr ydyw dimai. Er nad oes unrhyw gysylltiad swyddogol, fel y cyfryw, rhwng y newyddiaduron hyn â'r Annibynwyr, eto edrychir arnynt fel yn gwasanaethu Annibyniaeth yn Nghymru.

Y Gwyliwr, 1869.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn allan yn mis Ionawr, 1869, ac ni bu byw ond prin i orphen y flwyddyn hono. Cyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. D. Griffiths, Cwmafon, a'i olygwyr oeddynt y Parchn. Benjamin Evans, J. Rowlands, Abel J. Parry, a H. Cefni Parry. Deuai y newyddiadur hwn allan yn bymthegnosol, a chychwynwyd ef, yn benaf, er gwasanaethu enwad y Bedyddwyr yn Nghymru. Ei bris ydoedd ceiniog.

Y Goleuad, 1869.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn allan ar Tachwedd 4ydd, 1869, a chychwynwyd ef, i ddechreu, gan gwmni o bersonau perthynol i'r Methodistiaid Calfinaidd, a chyhoeddid ac argrephid ef, ar ran y cwmni, ac fel un o'r cyfryw, gan Mr. John Davies (Gwyneddon), Caernarfon, ac efe hefyd, am y ddwy flynedd gyntaf, oedd yn ei olygu. Wedi iddo ef roddi yr olygiaeth i fyny, ymgymerwyd â hi gan y Parch. John Roberts (Ieuan Gwyllt), yr hwn a wasanaethodd fel golygydd am flwyddyn. Ni pharhaodd Y Goleuad i gael ei argraphu yn Nghaernarfon ond am dair blynedd, pryd, yn Hydref, 1872, y cymerwyd ef gan Mr. D. H. Jones, argraphydd, Dolgellau, a bu dan olygiaeth y Parch. Evan Jones, Caernarfon (Dyffryn y pryd hwnw), am y pedair blynedd dilynol. Ceir, yn haf y flwyddyn 1884, fod cyfnewidiad arall wedi cymeryd lle, trwy i Mr. D. H. Jones drosglwyddo Y Goleuad i Mr. E. W. Evans, cyhoeddwr, Dolgellau, yr hwn sydd yn parhau i'w gyhoeddi, ac i'w arolygu, hyd yn bresennol. Daw allan yn wythnosol, a'i bris ydyw dwy geiniog. Ymddengys, ar y cyfan, mewn ystyr fasnachol, mai lled aflwyddiannus a fu sefydliad Y Goleuad yn ei flynyddoedd cyntaf. Er mai gan aelodau perthynol i gyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd y cychwynwyd y newyddiadur hwn, ac er mai hanes symudiadau Methodistaidd a geir fwyaf ynddo, ac er mai gweinidogion a lleygwyr y Cyfundeb hwnw sydd yn arfer ysgrifenu iddo, ac mai yn mhlith y Methodistiaid y derbynir ef, &c., eto dylid cofio nad oes unrhyw gysylltiad swyddogol rhwng y Cyfundeb, fel Cyfundeb, ag ef. Er y dywedir, ar ei wyneb—ddalen, ei fod "at wasanaeth crefydd, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth, a moesau, " eto, rhaid addef, ei fod yn edrych ar y pethau hyny, i raddau pell, oddiar safbwynt y Cyfundeb Methodistaidd, a chan ei fod yn amcanu at wasanaethu y Cyfundeb hwnw, ac ar yr un pryd, heb unrhyw ddealltwriaeth ffurfiol rhyngddynt, ac felly ddim yn rhwym, o angenrheidrwydd, i gael ei nawdd a'i gefnogaeth, nis gall hyn oll lai na bod yn elfen yn ei wendid mewn ystyr arianol, ac, efallai, mewn ystyr lenyddol hefyd.

Y Twr, 1870.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn nechreu y flwyddyn 1870, gan Mr.Josiah Thomas Jones, Aberdâr, yr hwn hefyd ydoedd yn ei gyhoeddi, ac yn ei argraphu. Yn bymthegnosol y deuai allan, ond prin y parhaodd am yspaid dwy flynedd. Rhoddid lle helaeth ynddo i'r elfen grefyddol, ac ysgrifenid iddo gan amryw weinidogion perthynol i'r gwahanol enwadau.

Y Dywysogaeth, 1870; Y Llan, 1881; Y Llan a'r Dywysog aeth, 1882.—Cychwynwyd Y Dywysogaeth yn y flwyddyn 1870, gan gwmni Eglwysig, ac argraphwyd ef, ar y cychwyn, am ychydig amser, gan Mr. William Morris, Dinbych, ac yna symudwyd ef i gael ei argraphu yn swyddfa Mr. Morris, argraphydd, Rhyl. Ymddengys ei fod, yn y cyfnod hwn, dan olygiaeth Mr. Hugh Williams (Cadfan), Rhyl. Symudwyd ef drachefn i'w argraphu i Caerdydd. Cychwynwyd Y Llan yn nechreu y flwyddyn 1881, dan olygiad y Parch. Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai), Llangwm, ac argrephid ef gan Mr. E. Roe, Gwrecsam, a chan fod Y Dywysogaeth a'r Llan yn gweithio ar yr un maes, ac i raddau helaeth yr un derbynwyr i'r naill a'r llall, a chanfod tuedd yn nghylchrediad y naill i effeithio ar gylchrediad y llall, credwyd mai doeth a fuasai eu cysylltu, a gwneyd un newyddiadur o honynt; ac yn y flwyddyn 1882, daeth y rhifyn cyntaf allan, ar ol y briodas, dan yr enw, Y Llan a'r Dywysogaeth, yn cael ei argraphu gan y Meistri Farrant a Frost, 135, High Street, Merthyr Tydfil, ac hyd oddeutu diwedd y flwyddyn 1890, golygid y newyddiadur hwn, yn benaf, gan Elis Wyn o Wyrfai, ond golygir ef, ar hyn o bryd, gan y Parch. Ll. M. Williams, periglor Dowlais. Daw allan yn wythnosol, a'i bris ydyw ceiniog. Ymddengys y cyhoeddir ef dan nawdd pwyllgor Eylwysig (llen a lleyg), a dywedir, ar ei wyneb-ddalen, ei fod yn "newyddiadur Eglwysig a chyffredinol at wasanaeth y Cymry," a chredir ei fod, ar y cyfan, yn cael cylchrediad gweddol yn mhlith aelodau yr Eglwys Sefydledig.

Y Gwyliwr, 1870.—Yn Chwefror, 1870, y cychwynwyd y newyddiadur hwn, ac argrephid ef gan Mr. Jenkin Howell, Aberdâr. Ei olygwyr a'i brif ysgrifenwyr, dros y flwyddyn gyntaf, oeddynt y Parchn. B. Evans, J. Rowlands, H. Cefni Parry, a T. E. James; ond, yn y flwyddyn ddilynol, bu ychydig gyfnewidiad, trwy i'r ddau ddiweddaf ymneillduo, a chymerwyd eu lle gan y Parchn. J. Spinther James ac H. Gwerfyl James. Nid ydym yn deall iddo barhau i ddyfod allan ond am oddeutu dwy flynedd. Cychwynwyd y newyddiadur hwn, yn benaf, er mwyn gwasanaethu Bedyddwyr Cymru, ac felly yn eu plith hwy y derbynid ef fwyaf.

Y Gwyliedydd, 1870.—Cychwynwyd hwn yn nechreu y flwyddyn 1870, gan Mr. Lewis Jones, argraphydd, Llanerchymedd, ac efe hefyd oedd yn ei olygu. Lleol oedd ei nodwedd, a'i bris ydoedd dimai, ac ni pharhaodd ond am oddeutu pedwar mis.

Llais y Wlad, 1874.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn oddeutu dechreu y flwyddyn 1874, ac ychydig wythnosau yn flaenorol i'r Etholiad Cyffredinol yn y flwyddyn hono. Argrephid ef gan y Meistri Douglas, cyhoeddwyr, Bangor, a golygid ef hyd yn agos i ddiwedd y flwyddyn 1880, gan y Parch. T. Tudno Jones, Llanrwst (Bangor y pryd hwnw). Yn Mawrth, 1881, ymgymerodd y Parch. Evan Jones, Llangristiolus (gynt o'r Gaerwen), â'r olygiaeth. Pris dechreuol y newyddiadur hwn ydoedd dimai, ond, yn fuan wedi hyny, helaethwyd ef, a chodwyd ei bris i geiniog. Er nad oedd unrhyw gysylltiad swyddogol rhyngddo â'r Eglwys Sefydledig, eto yr oedd yn ddealledig mai dan nawdd Eglwysig yr ydoedd, ac ystyrid ef, yn arbenig oddeutu adeg ei gychwyniad, fel yn Geidwadol iawn ei syniadau. Pan ymgymerodd Mr. Evan Jones âg ef, teg ydyw dyweyd iddo newid ei gyfeiriad, a daeth yn newyddiadur annibynol hollol, a deallwn fod hyny wedi bod yn achlysur i'r gwŷr Eglwysig dynu yn ol eu cefnogaeth oddiwrtho. Daeth Llais y Wlad, modd bynag, yn y cyfnod hwn i gael gwell cylchrediad nag erioed; ond rhoddwyd ef i fyny yn Awst, 1884, nid oherwydd diffyg cefnogaeth, ond ar gyfrif rhesymau personol a chyfrinachol.

Tarian y Gweithiwr, 1875.—Daeth y rhifyn cyntaf ohono allan ar Ionawr 15fed, 1875, a daw allan yn wythnosol, bob dydd Iau—a chyhoeddir ac argrephir ef gan y Meistri Mills ac Evans, argraphwyr, Aberdâr. Mae yr olygiaeth, yn benaf, yn gorphwys ar Mr. J. Mills, un o'r cyhoeddwyr, ac ysgrifenir ei erthyglau arweiniol gan y Parch. John Morgan Jones, Caerdydd, a deallwn fod ei farddoniaeth, ar hyn o bryd, dan ofal Mr. Thomas Williams (Brynfab), Pontypridd. Ei bris ydyw ceiniog. , Ei arwyddair ydyw:—" Nid amddiffyn ond Tarian. Goreu Tarian, Cyfiawnder." Ystyrir ef yn hollol Gymreig a chenedlaethol, dywedir mai Tarian y Gweithiwr ydyw y newyddiadur Cymreig a gyrhaeddodd y cylchrediad helaethaf erioed yn y Deheudir. Ceir ynddo erthyglau arweiniol bob wythnos ar bynciau y dydd, ac heblaw y newyddion cartrefol a thramor, &c., ceir ynddo lawer iawn o'r elfen weithfaol a masnachol—hanes marchnadoedd, safon cyflogau, gwerthiant, pryniant, a'r prif symudiadau yn nglyn â'r glo, haiarn, plwm, &c., fel—rhwng yr oll—y gellir dyweyd ei fod yn amcanu yn deg dyfod i fyny â chynnwys ei enw—Tarian y Gweithiwr.

Y Chwarelwr, 1876,—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn y flwyddyn 1876, gan Mr. Richard Owen, llyfrwerthydd, Llanberis, yr hwn hefyd oedd yn ei arolygu ac yn ei argraphu. Deuai allan yn wythnosol, a'i bris ydoedd ceiniog. Amcan ei gychwyniad ydoedd gwasanaethu chwarelwyr Gogledd Cymru, ond ni ddaeth allan ohono ond prin ugain rhifyn, ac achosodd golled i'w gyhoeddwr.

Y Genedl Gymreig, 1877.—Cychwyrwyd y newyddiadur hwn oddeutu gwanwyn y flwyddyn 1877, gan gwmni Cymreig perthynol i'r Blaid Ryddfrydig, ac ymddengys mai un o'r prif gychwynwyr, os nad y prif un, ydoedd Mr. Hugh Pugh, Llysmeirion, Caernarfon, ac argrephid ef, ar ran y cwmni, gan Mr. D. W. Davies, Caernarfon. Ysgrifenid iddo, ac arolygid ef, yn benaf, y pryd hwnw, gan y Meistri J. Davies (Gwyneddon), Caernarfon; W. Cadwaladr Davies, Bangor; a'r Parch, Evan Jones, Caernarfon. Darfu i'r perchenogion, yn Ebrill 1881, werthu y swyddfa a'r hawl yn Y Genedl Gymreig i Mr. D. W. Davies, cyhoeddwr, yr hwn oedd yn un o'r cyfranddalwyr o'r cychwyniad, ac yn y flwyddyn 1884 prynwyd y newyddiadur hwn drachefn gan gwmni a elwid yn Gwmni y Wasg Genedlaethol Gymreig (Cyfyngedig), a pharheid i'w argraphu gan Mr. D. W. Davies a'i Gwmni, ac arolygid y newyddiadur, ar ran y cwmni, gan Mr. David Edwards, Caernarfon, ac wedi hyny gan Mr. John Owen Jones (Ap Ffarmwr), Caernarfon. Yn Ionawr, 1892, ceir fod Mr. Lloyd-George, A.S., dros gwmni yn cael ei wneyd i fyny o rai Aelodau Seneddol Cymreig, ac eraill, wedi prynu Y Genedl Gymreig, a rhai newyddiaduron eraill a gyhoeddir yn yr un swyddfa, ac y mae Mr. Beriah Gwynfe Evans, ysgrifenydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yr hwn a fu am flynyddoedd yn golygu The Cardiff Times, wedi symud i Gaernarfon, er dechreu y flwyddyn 1892, i weithredu fel golygydd i'r newyddiaduron a brynwyd dros y cwmni, gan Mr. George, a chynnorthwyir ef, fel is-olygydd, gan Mr. J. O. Jones (Ap Ffarmwr), Caernarfon. Dylid dyweyd fod barddoniaeth y newyddiadur hwn, drwy yr holl flynyddoedd, dan ofal Mr. J. Thomas (Eifionydd), Caernarfon. Daw Y Genedl Gymreig allan yn wythnosol, a'i bris ydyw ceiniog. Helaethwyd ei faintioli yn Tachwedd, 1890. Dywedir fod iddo gylchrediad uchel. Y Cyfarwyddwyr presennol (1892) ydynt Dr. Edward Jones, Dolgellau; Henadur T. C. Lewis, Bangor; Cynghorwyr W. J. Parry, Bethesda; Edward Thomas (Cochfarf), Caerdydd; a Mr. Mr. J. R. Pritchard, Porthmadog. Yn nglyn â'r cyfnewidiadau yn ei berchenogaeth, gellir dyweyd iddo gael ei helaethu gryn lawer yn ei faintioli, ac yn awr ceir fod yn mhob tudalen (wyth) ohono naw colofn. Rhoddir ynddo lawer o sylw i'r deffroad Cymreig—yn ei wahanol agweddau, ac y mae yn honi bod yn genedlaethol hollol, ac yn ymdrechu yn ddiwyd bod er mantais i Ymneillduaeth a Rhyddfrydiaeth. Ceir, yn yr anerchiad olygyddol i'r rhifyn a ddaeth allan Chwefror 10fed, 1892, yr ymadroddion canlynol: "Gyda'r rhifyn presennol mae Y Genedl Gymreig yn dechreu cyfnod newydd yn ei hanes. Hyd yma nid oes yr un newyddiadur, pa un bynag ai Cymraeg ai Saesoneg yw, wedi medru gwasanaethu yr holl genedl Gymreig, nac yn wir wedi gwneyd cais priodol at hyny. Amcan Y Genedl Gymreig bellach fydd llanw y bwlch hwn yn newyddiaduraeth Cymru.... Y cwestiwn oedd yn ymgynnyg i'n meddwl wrth drefnu ein cynlluniau am y dyfodol oedd—Pa fodd y gellir yn creu gynnrychioli pob rhan o Gymru yn y papur? Wrth ystyried y cwestiwn yn fanwl, daethom i'r penderfyniad mai y ffordd fwyaf effeithiol i gyrhaedd yr amcan hwn oedd cyhoeddi dau argraphiad, y naill i'r Gogledd a'r llall i'r De. Tra y cynnwysa y naill argraphiad fel y llall yr holl newyddion cyffredinol pwysicaf—ac yn arbenig felly newyddion Cymreig—bydd gan bob un o'r ddau ei neillduolion ei hun......Cymru yn un, a'r Cymry yn genedl—a'u hawliau a'u dyledswyddau fel y cyfryw—hyn fydd prif linell y ddysgeidiaeth a geir yn ein colofnau, hon yw y genadwri y teimlwn mai swyddogaeth Y Genedl Gymreig yw ei thraethu."

Y Gwyliedydd, 1877.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn ar Mawrth 2il, 1877. Cychwynwyd ef gan gwmni o weinidogion a lleygwyr Wesleyaidd, ac, yn gyffredin, golygid ef gan y gweinidogion a ddigwyddent fod ar gylchdaith Rhyl, yn yr hon dref yr argrephid ef, dros y cwmni, gan y Meistri Amos Brothers, 12, Heol Sussex. Golygid ei farddoniaeth, ar y cychwyn, gan Clwydfardd, a gellir enwi y Parch. John Jones (Vulcan) fel un o'r prif hyrwyddwyr dechreuol. Ei bris ydyw ceiniog, a daw allan yn wythnosol ar ddydd Gwener. Er egluro y safle ar ba un y cychwynwyd ef, nis gellir gwneyd yn well na difynu ychydig eiriau o'r erthygl dan y penawd " At ein Darllenwyr," yn y rhifyn cyntaf:—" Y mae trefniant effeithiol wedi ei wneyd gan arweddwyr Y Gwyliedydd i'w gyflenwi âg erthyglau arweiniol gan rai o weinidogion a lleygwyr blaenaf y Cyfundeb; a bydd yr erthyglau hyny yn cymeryd i mewn, o dro i dro, symudiadau gwleidyddol yn Mhrydain a'r Cyfandir; amgylchiadau eglwysig o fewn Cyfundeb y Wesleyaid yn arbenigol, a symudiadau eglwysig enwadau eraill; ffurflywodraethau Eglwysig, Defodaeth, Pabyddiaeth, &c.; cymerant olwg manwl a gofalus hefyd ar symudiadau duwinyddol, athronyddol, a gwyddonol y byd, a daw llenyddiaeth Gymreig a chyffredinol i gael ei theyrnged hithau yn brydlawn a ffyddlawn." Gwelir, er fod y newyddiadur hwn wedi ei gychwyn i wasanaethu y Wesleyaid yn Nghymru, eto nad oes unrhyw gysylltiad swyddogol rhyngddo, fel y cyfryw, â'r Cyfundeb hwnw. Ceir, erbyn hyn, fod y cwmni a ddarfu ei gychwyn wedi ymneillduo oddiwrtho, a'i fod, yn awr, yn eiddo personol ei gyhoeddwyr.

Y Rhedegydd, 1877.—Daeth y newyddiadur hwn allan yn y flwyddyn 1877, a chychwynwyd ef gan Mr. W. Lloyd Roberts, argraphydd, Blaenau Ffestiniog, ac efe hefyd sydd yn parhau i'w gyhoeddi. Golygir ef, ar hyn o bryd, gan Mr. R. O. Hughes (Elfyn), Blaenau Ffestiniog. Daw y newyddiadur hwn allan bob dydd Sadwrn, a'i bris ydyw dimai. Dywedir, ar ei wyneb ddalen, mai "newyddiadur wythnosol Siroedd Meirion, Arfon, a Dinbych," ydyw, ac felly gwelir mai nodwedd leol sydd iddo, ac fel newyddiadur lleol mae iddo gylchrediad da.

Y Celt,1878—Cychwynwyd y newyddiadur wyth nosol hwn yn Mai, 1878 Golygid ef, a gofelid amdano, yn benaf, gan S. R., ac argrephid ef gan Mr. Hugh Evans, cyhoeddwr, Bala. Symudwyd y newyddiadur hwn, yn fuan, i gael ei argraphu yn Nghaer narfon, a thra yno, rhywfodd, newidiodd yr amgylch iadau, a syrthiodd Y Celt i lewyg; ond ymddengys nad ydoedd yn llewyg i farwolaeth, gan ei fod, yn lled fuan, wedi ail—gychwyn bywyd yn swyddfa y Meistri Golygid ef, yn ystod yr adeg Amos Brothers, Rhyl. hon, gan Dr. Pan Jones, Mostyn. Symudwyd ef drachefn, oddeutu blwyddyn a haner ar ol hyny, i gael ei argraphu, ar ran y Cwmni (nifer yn perthyn i'r Annibynwyr) sydd yn ei berchenogi, gan Mr. Samuel Hughes, York Place, Bangor, gan yr hwn y parheir i'w gyhoeddi. Bu am yspaid, yn y cyfwng hwn, dan olygiaeth y Parch. D. S. Davies, Bangor, ond ar ei symudiad ef i Gaerfyrddin, ymgymerodd y Parch. W. Keinion Thomas, Llanfairfechan, a'r olygiaeth, ac efe sydd yn parhau i'w olygu. Mae y newyddiadur hwn, yn benaf, dan nawdd rhai yn perthyn i'r Annibynwyr, ac yn eu plith hwy y derbynir ef fwyaf. Ceiniog ydyw ei bris. Bu ddwywaith, ar gyfrif cyfeiriadau a dybid eu bod yn gableddus, yn ngafael cyfraith y wlad, a dirwywyd ef yn drwm y ddau dro. Ymddengys fod dau chwarelwr, yn byw yn Bethesda, Arfon, wedi cael chwe' mis o garchar am bysgota yn anghyfreithlawn, a gomeddwyd iddynt gael dyfod drachefn i weithio i'r chwarel, a throwyd ymaith un o honynt o'i dŷ—tŷ a adeiladwyd gan dad y dyn hwn ar ddeng-mlynedd-ar hugain o brydles, &c., a phan welodd Dr. Pan Jones yr hanes hwn yn y newyddiaduron, efe a ysgrifenodd i'r Celt erthygl gref yn condemnio Arglwydd Penrhyn hyn oll, a'r canlyniad a fu i'r ysgrifenydd gael ei wysio am gabledd, a gorfu iddo dalu deg punt o iawn, a dros i dri chan' punt fel treuliau. Dyna y cyhuddiad cyntaf. Yr ail gyhuddiad cyfreithiol ydoedd yn nglyn â Chyfarfod Chwarterol Annibynwyr Arfon. Ymddengys fod cynnygiad yn nghylch cael Hunan lywodraeth i'r Iwerddon wedi ei ddwyn gerbron y Cyfarfod Chwarterol, a bod Dr. Williams, Bethesda, wedi gwrthwynebu yn llym i'r mater hwn gael ei ddwyn o gwbl gerbron y cyfarfod, gan ddal mai nid mewn cynnulliadau crefyddol y dylid trafod a phender fynu y fath faterion. Darfu i'r Parch. W. Keinion Thomas, modd bynag, ysgrifenu erthygl gref i'r Celt yn condemnio Dr. Williams yn ddiarbed, ac yn dal, yn mhlith pethau eraill, ei fod yn euog o aflonyddu cymdeithas, &c. Gwysiwyd Mr. Keinion Thomas, mewn canlyniad i'r ysgrif hon, a gorfu iddo yntau dalu can punt o iawn, a threuliau trymion. Gwelir felly fod hanes Y Celt yn un lled ystormus, a'i fod wedi myned trwy bethau chwerwon, er nad yw ond ieuanc; ac eto, er yr oll, mae yn dal i ddadleu, gydag yni, yn mhlaid egwyddorion Annibyniaeth, ac yn erbyn pobpeth a dybia ef fydd yn ormes a gorthrwm.

Gwalia, 1881.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn nechreu y flwyddyn 1881, gan gwmni perthynol i'r blaid Geidwadol, ac arolygid ac argrephid ef dros y cwmni, gan Mr. Robert Williams, Turf Square, Caernarfon. Symudwyd ef, ar ol ychydig flyryddau, i gael ei argraphu yn swyddfa y Meistri Douglas, Bangor, ac argrephir ef, yn bresennol dros y North Wales Chronicle Company (Limited), gan Mr. David Williams, Canton House, Bangor. Ceir fod Llew Llwyfo, ar ol Mr. Robert Williams, wedi bod yn gofalu llawer am dano, ac yna bu dan olygiaeth Mr. Thomas Hughes, Bangor. Wedi hyny, am ychydig amser, bu Mr. Humphreys, Bangor, yn ei ar olygu, ac yna rhoddwyd ei olygiaeth i Mr. Robert Hughes, Bangor, ac, hyd y gwyddom, felly y mae yn parhau. Daw y newyddiadur hwn allan yn wythnosol bob dydd Mercher, a'i bris ydyw ceiniog. Er y dywedir, ar ei wyneb—ddalen, ei fod yn " newyddiadur at wasanaeth pob dosparth o'r Cymry," eto mae yn ddealledig ei fod, yn benaf, yn gyfrwng gwasanaethgar i'r Eglwys Sefydledig yn Nghymru, ac yn Geidwadol ei amcanion. Mae yn newyddiadur helaeth. Ceir ynddo erthyglau arweiniol, hanes gweithrediadau y Senedd, Llythyr yr "Hen ŵr o'r Coed," Barddoniaeth, Nodion o Rhydychain, Rhamant ar "Morris Llwyd o'r Cwm Tawel," Pigion Americanaidd, Marchnadoedd yr Wythnos, Ffeiriau Cymru, a'r Newyddion, &c.

Yr Amseroedd, 1882.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn ar Rhayfyr 30ain, 1882, a chychwynwyd ef gan y Parch. Evan Jones, Caernarfon, ac efe hefyd oedd yn ei olygu, ac yn ysgrifenu y rhan fwyaf iddo, ac argrephid ef dros ei berchenog, gan Mr. D. W. Davies, Caernarfon. Eiddo personol y Parch. Evan Jones ydoedd y newyddiadur hwn, ond ar ddiwedd y flwyddyn 1884 trosglwyddwyd ei berchenogaeth i law Mr. D. W. Davies, ei argraphydd, a bu y Parch. R. D. Rowlands (Anthropos), Caernarfon, yn olygydd iddo, ond ni pharhaodd i ddyfod allan, ar ol hyn, yn hwy nag oddeutu chwe' mis. Oddeutu dwy flynedd a haner a fu oes Yr Amseroedd o'r dechreu. Ceid ynddo un-ar-bymtheg o dudalennau pedwar plyg, a deuai allan yn wythnosol, a'i bris ydoedd ceiniog. Bu ei gylchrediad unwaith yn cyrhaedd dros bum' mil. Darfu i Mr. Jones ei roddi i fyny, nid oherwydd diffyg cefnogaeth, ond ar gyfrif amledd galwadau ei swydd weinidogaethol. Dywedid, ar ei wyneb-ddalen, ei fod "at wasanaeth crefydd , llenyddiaeth, a gwleidyddiaeth," ac, ar y cyfan, cadwodd at yspryd y geiriad hwn, a chredwn, wrth ystyried pob peth, mai colled i lenyddiaeth newyddiadurol Cymru ydoedd iddo gael ei roddi i fyny mor fuan.

Y Gweithiwr Cymreig, 1885.—Daeth y newyddiadur hwn allan yn nechreu Ionawr, 1885, a chychwynnwyd ef gan Mr. Jenkin Howell, cyhoeddwr, Aberdâr. Efe oedd ei berchennog, ac efe hefyd oedd yn ei olygu, ac yn ei argraphu. Deuai allan yn wythnosol, a'i bris ydoedd ceiniog Bu Mr. Beriah Gwynfe Evans yn ysgrifennu iddo erthyglau arweiniol, ond gyda'r eithriad hwn, a thair neu bedair eraill, y sgrifennwyd yr oll o honynt gan Mr. Howell ei hunan. Golygid ei farddoniaeth gan Dafydd Morganwg. Ceir fod y newyddiadur hwn, yn ei egwyddorion gwleidyddol, yn Rhyddfrydol. Parhaodd i ddyfod allan hyd ddiwedd Medi, 1888, pryd y rhoddwyd ef i fyny.

Y Gwladwr Cymreig, 1885.-Cychwynwyd y newyddiadur hwn ar Ionawr 22ain, 1885, gan y Meistri Rees a'i Fab, argraphwyr, Ystalyfera, a hwynt hwy oedd yn ei argraphu. Golygid ef, am y deng wythnos cyntaf gan y Parch. D. Onllwyn Brace, am y pum' wythnos dilynol gan Mr John Dyfrig Owen, ac am yr amser gweddill gan y Parch. J. T. Morgan (Thalamus). Ond, er y cwbl, ymddengys mai oes fer oedd iddo, gan mai y rhifyn am Medi 24ain, 1885, oedd yr olaf a ddaeth allan. Y Seren, 1885.—Cychwynwyd Y Seren yn Ebrill, 1885, gan y Meistri Evans a Davies, cyhoeddwyr, Bala, a hwy sydd yn ei olygu, ac yn ei argraphu. Daw allan yn wythnosol ar ddydd Sadwrn, a'i bris ydyw dimai. Newyddiadur lleol ydyw yn dal cysylltiad neillduol â'r Bala a'r amgylchoedd, a deallwn fod iddo gylchrediad lled dda.

Y Werin, 1885.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn allan ar Hydref 17eg, 1885, gan yr un cwmni ag oedd yn cyhoeddi Y Genedl Gymreig, ac yr ydym yn deall ei fod, erbyn hyn, wedi myned trwy yr un cyfnewidiadau yn ei berchenogaeth a'i olygyddiaeth â'r newyddiadur hwnw. Argrephir ef, dros y cwmpi, gan Mr. D. W. Davies, Caernarfon. Bu y Parch. Evan Jones, Gaerwen (Llangristiolus yn awr), yn ei olygu am y blynyddoedd cyntaf, ac, er hyny, mae wedi bod, yn benaf, dan yr un olygiaeth â'r Genedl Gymreig. Math o argraphiad rhad, pris dimai, ydyw Y Werin, ac yn dyfod allan ar ddiwedd pob wythnos, a buasid yn tybio mai ei brif amcan, fel y dynoda ei enw, ydyw cyrhaedd y lluaws, ac ystyrir ef yn hynod Ryddfrydol yn ei wleidyddiaeth.

Yr Wythnos, 1886.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn nechreu y flwyddyn 1886, gan Mr. T. Edmunds, argraphydd, Corwen. Bu y Parch. H. C. Williams (Hywel Cernyw), Corwen, yn ei olygu, ac yn ysgrifenu y rhan fwyaf iddo am y flwyddyn gyntaf, ond rhoddes ef y cyfan i fyny ar ddechreu yr ail flwyddyn. Daw allan yn wythnosol, a'i bris ydyw ceiniog. Newyddiadur lleol ydyw, yn rhoddi hanes digwyddiadau ac amgylchiadau y cylchoedd.

Y Gadlef, 1887.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn allan ar Ebrill 7fed, 1887, ac argrephir ef, ar ran ei berchenogion, gan Mr. Daniel Rees, High-street, Caernarfon. Golygir af, o'r dechreu, gan Mr. Owen Williams, Caernarfon. Dywedir, ar ei wyneb-ddalen, ei fod yn "gyhoeddiad swyddogol Cymreig Byddin yr Iachawdwriaeth," ac felly gellir edrych arno fel eiddo y Fyddin, a sefydlwyd ef er gwasanaethu aelodau Cymreig Byddin yr Iachawdwriaeth, a newyddion yn dal cysylltiad â hwy ydyw ei gynnwys bron yn gwbl. Ei bris ydyw ceiniog.

Udgorn Rhyddid, 1888.-Cychwynwyd y newyddiadur bychan hwn yn y flwyddyn 1888, dan olygiaeth Mr. Lewis D. Roberts, Pwllheli, ac argrephir ef gan Mr. Richard Jones, Penlau-street, Pwllheli. Daw allan yo wythnosol, a'i bris ydyw dimai. Er y dywedir, ar ei wyneb-ddalen, ei fod yn "newyddiadur cenedlaethol Cymreig," eto y mae yn amlwg mai lleol, yn benaf, ydyw ei nodwedd, a chaiff dderbyniad da yn yr amgylchoedd.

Y Dinesydd, 1889.-Daeth y newyddiadur hwn allan yn Medi, 1889, a chyhoeddid ac argrephid of gan Mr. W. W. Lloyd, argraphydd, Lerpwl, a golygid ef gan Mr. Edmand Griffiths, Lerpwl. Hollol lleol ydoedd ei nodwedd-newyddiadur bychan dimai, ac ni pharhaodd ond am oddeutu naw mis.

Y Cymro, 1890.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn allan ar Mai 22ain, 1890, a chychwynwyd ef gan Mr. Isaac Foulkes (Y Llyfrbryf), Lerpwl, yr hwn hefyd sydd yu ei olygu ac yn ei argraphu, a'r Parch. H. Elvet Lewis, Llanelli, yn golygu ei farddoniaeth. Daw allan yn wythnosol ar ddydd Iau, a'i bris ydyw ceiniog. Mae hwn yn newyddiadur cenedlaethol, a deallwn fod ei gylchrediad eisoes yn cyrhaedd yn uchel, yn enwedig wrth gofio mai yn ddiweddar y cychwynwyd ef. Yn ei rag-hysbysiad am dano dywed Mr. Foulkes:—"Bydd gan y Cymro ei ddull ei hun o ddyweyd ei neges a thraddodi ei genadwri. Cefnoga bob amcean da. Ymddengys yn awr am ei fod yn sylweddoli un o'm hen fwriadau." Ei arwyddair, yr hwn a geir ar y wyneb-ddalen, ydyw-"Fy Ngwlad, fy Iaith, fy Nghenedl," a hyderwn y bydd iddo barhau i gadw at ystyr hyn. Ceir ynddo erthyglau arweiniol ar bynciau y dydd, Newyddion Cymreig, Nodiadau o Lan y Tafwys, Nodiadau Cerddorol galluog, Barddoniaeth, Ymgom am Lyfrau Hen a Diweddar (yr hon golofn sydd yn werthfawr), Gwreichion, Cwrs y Byd (nodiadau dyddorol ar wahanol faterion), Newyddion Americanaidd, a chryn lawer o'r newyddion lleol sydd yn bwysig i Gymry y ddinas yr argrephir ef ynddi eu gwybod, &c. Hefyd ceir fod ffugchwedl wedi ymddangos gan Isalaw, yn dwyn y penawd "Teulu Min-y-Morfa," ac hefyd dylid dyweyd mai i'r newyddiadur hwn y darfu i Mr. Daniel Owen, Wyddgrug, ysgrifenu y ffugchwedl a elwir yn "Profedigaethau Enoc Huws," a'r hon, erbyn hyn, sydd wedi ei chyhoeddi yn gyfrol ddestlus. Ceir yn y rhifyn am Mawrth 3ydd, 1892, fod Llew Llwyfo yn dechreu cyhoeddi ynddo ffugchwedl dan y penawd "Cyfrinach Cwm Erfin."

Seren y De, 1891.—Daeth y newyddiadur hwn allan yn nechreu y flwyddyn 1891, dan olygiaeth Mr. Llewelyn Williams (Caergrawnt), tra y cynnorthwyir ef gan Mr. Evan R. Evans, mab Alltud Gwent. Ei amcan, meddir, ydyw rhoddi i Gymry y Deheudir lenyddiaeth iachus, a newyddion llawn am holl symudiadau y blaid Ryddfrydig. Cynnwysa erthyglau cryfion, ac addewir ysgrifenu iddo gan y Meistri Arthur Williams, A.S., S. T. Evans, A.S., O. M. Edwards, J. Bevan (Llansadwrn), ac eraill, a deallwn fod iddo gylchrediad da.

Y Chwarelwr, 1891.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r newyddiadar hwn allan ar Gorphenaf 18fed, 1891, a chychwynwyd ef gan Mr. H. Evans, cyhoeddwr, Blaenau Ffestiniog, ac efe hefyd sydd yn ei argraphu. Daw allan yn wyth- nosol, a'i bris ydyw dimai. Ymddengys mai ei amcan ydyw er fod llawer o elfen leol ynddo-gwasanaethu chwarelwyr Gogledd Cymru, a'r arwyddair, ar ei wyneb- ddalen, ydyw: "Gwlad Rydd a Mynydd i mi" Rhodd. wyd ef i fyny yn fuan.

Y Clorianydd, 1891.—Ymddangosodd y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn ar Awst 13eg, 1891, a chychwynwyd ef gan Gwmni Undebol a Cheidwadol yn Môn, ac argrephir ef, ar ran y cwmni hwn, gan Mr. John Hughes, Bridge- street, Llangefni. Mae yn ddealledig mai i amcanion Ceidwadol yn Môn, yn benaf, y cychwynwyd ef. Dygwyd ei rifynau cyntaf allan dan olygiaeth Mr. John J. Parry, a bu Mr. John Hughes, Frondeg, Amlwch, yn ei olygu, ond deallwn mai Mr. T. Abraham Williams, Bangor, sydd yn ei olygu yn bresennol. Daw allan yn wythnosol, a'i bris ydyw dimai.

Y Brython Cymreig, 1892.—Cychwynwyd hwn yn Ionawr, 1892, gan Gwmni—Saeson a Chymry—Ceidwadol, ac argrephir ef, ar ran y cwmni, yn Llanbedr, Ceredigion, Golygir ef gan Mr. H. Tobit Evans, ac efe, ar hyn o bryd, sydd yn ysgrifenu y rhan fwyaf iddo. Mae yn amlwg fod y newyddiadur hwn yn mhlaid Ceidwadaeth. Daw allan yn wythnosol, a'i bris ydyw dimai. Er mai lleol ydyw ei brif nodwedd, eto mae yn rhoddi sylw i wleidyddiaeth mewn gwedd gyffredinol, ac wrth ystyried ei bris, rhaid dyweyd ei fod yn dda.

Efallai y gallesid enwi ychwaneg o'r man newyddiaduron lleol, a gwyddom gallesid enwi ychydig o'r newyddiaduron na bu iddynt ond ymddangos am enyd fer, ac yna diflanu o'r golwg, ond y gwirionedd ydyw, nad oes prin hanes o gwbl i lawer o'r dosparthiadau newyddiadurol hyn. Gellir dyweyd, yn hollol deg, fod llawer o honynt yn ddim amgen na marw-anedig, ac am eraill, y rhai a barhaent am ychydig yn hwy, yr oeddynt mor eiddil, di-nerth, a di ddylanwad, fel mai prin y gellir dyweyd, yn onest, eu bod wedi byw erioed. Os ydym wedi gadael allan o'r rhestr uchod unrhyw newyddiadur, a fu neu sydd, o bwys—ac nid ydym yn honi perffeithrwydd nid oes genym ond datgan ein gofid, a gwnaethpwyd hyny yn hollol anfwriadol; ond yr ydym yn gobeithio, ar y cyfan, fod y rhestr yn lled gyflawn a chywir, yr hyn oedd genym mewn golwg yn barhaus yn yr ymchwiliad.

PENNOD II.

DYLANWAD Y NEWYDDIADUR CYMREIG AR FYWYD Y GENEDL

GAN ein bod eisoes, ar y dechreu, wedi dangos gwerth, cyfleusdra, a dylanwad y wasg, mewn ystyr gyffredinol, bwriadwn, yn yr adran hon, ddisgyn ar unwaith i ymdrin â dylanwad newyddiaduron Cymru ar fywyd y genedl Gymreig Efallai, cyn dyfod yn hollol uniongyrchol at hyn, mai nid anmhriodol fydd ceisio cyffwrdd â rhai o'r diffygion a'r rhagoriaethau sydd yn nodweddu ein llenyddiaeth newyddiadurol, a diau fod yr elfenau hyny, mewn rhyw ffordd neu gilydd, er, efallai, yn anunion- gyrchol, yn cario dylanwad ar fywyd Cymru.

1. Diffygion. Mae lluaws ohonynt yn dangos

(a) Awydd anghymedrol at ddwyn elw i'r cyhoeddwyr. Dywedodd un awdwr, nid anenwog, wrth draethu am danynt, y "sefydlir newyddiadur fel anturiaeth fasnachol yn unig." Nid ydym yn credu fod hyn yn hollol gywir yn mhob achos, eto ofnwn fod llawer gormod o wirionedd yn y sylw. Meddylier am rif y newyddiaduron a gychwynwyd yn Nghymru: yr ydym eisoes wedi olrhain hanes rhai ugeiniau, er na chychwynodd hyd yn nod y cyntaf ohonynt cyn y flwyddyn 1814. Cofier, wrth wneyd y sylw hwn, ein bod yn credu mewn cael newyddiaduron—ystyriwn hyn yn un o anhebgorion cymdeithas, a chredwn fod amledd newyddiaduron yn ddiogelwch i fuddiannau gwlad; ond, ar yr un pryd, credwn fod llawer o honynt wedi cael eu cychwyn heb ddim anghen am danynt, ac y gallesid cario yn mlaen yn rhwydd hebddynt. Gall fod llawer wedi eu cychwyn oddiar eiddigedd at lwyddiant eu gilydd, ac awydd dynion i ymgyfoethogi drwyddynt. Onid ellid gwneyd yn hawdd ar lawer llai Rhaid i ni addef ein bod yn amheu hawl aml un o honynt i ymddangos gerbron y cyhoedd, a thaeddir ni i ofyn—O ba le y daethost? Pwy alwodd am danat? Pa waith sydd i ti? Mae yn rhaid fod yr amledd di-alw-am-dano hwn yn anfantais iddynt i gael dylanwad ar y genedl, a chredwn y buasai cael ychydig o newyddiaduron Cymreig da, galluog, a llawn, yn cael argraph ddyfnach ar ein bywyd cenedlaethol. Beth hefyd am yr hysbysiadau (advertisements) dirif sydd ynddynt bob wythnos? Ceir pob math ohonynt am y masnachdai dillad (a rhyfedd mor ddoniol ydynt), olew, dodrefn, llysiau, cyfferiau, llyfrau, papyrau —lluaws am y teilwriaid, adeiladwyr, ysgolfeistriaid, meddygon, oriadurwyr, organwyr, gofaint, cryddion, seiri, gwerthwyr pibelli, myglys, &c., &c. Na chamddealler hyn, canys gwyddom, yn sicer, fod yn rhaid i'r cyhoeddwyr wrth hysbysiadau yn eu newyddiaduron i'w digolledu, a ffolineb ynddynt fyddai bod yn eu colled, os gallant osgoi hyny; ond eto ofnir fod rhai ohonynt yn rhoddi gofod gormodol i'r pethau hyn, nes y gorfodir dynion, ambell waith, i gredu mai yr elfen fasnachol sydd wrth y gwraidd yn fwy na dim arall. Nid ydym yn sicr na roddir gormod o bwys ar yr hysbysiadau hyn, drwy eu gwneyd yn faen-prawf ymddygiad rhai o'r newyddiaduron yn nglyn â'r personau fydd yn talu am eu dodi ynddynt. Annheilwng ydyw canmol llyfr, mewn adolygiad, am yr unig reswm fod awdwr y llyfr yn rhoddi hysbysiad (advertisement) am y llyfr hwnw yn y newyddiadur hwnw. Clywsom Aelod Seneddol Cymreig, yr hwn a saif yn uchel, ac yn dra chymeradwy, yn sicrhau iddo ef nacau roddi ei anerchiad i'w etholwyr mewn ffordd o hysbysiad (advertisement) taledig i swyddfa argraphu neillduol, oherwydd, yn benaf, afresymoldeb eu telerau arianol am y cyfryw, a'r canlyniad a fu i newyddiaduron y swyddfa hono nacau rhoddi unrhyw gyhoeddusrwydd—y nesaf peth i ddim—i'w areithiau, er, cofier, fod y newyddiaduron hyny yn honi bod o'r un golygiadau gwleidyddol â'r boneddwr hwnw. Anwybyddid ei gyfarfodydd, ac ni roddwyd unrhyw gefnogaeth iddo gan y newyddiaduron hyny, cyn belled ag yr oedd eu dylanwad hwy yn myned, tuagat sicrhau ei lwyddiant yn yr etholiad hwnw, er iddo, drwy y cyfan, fod yn llwyddiannus, ac y mae yn y Senedd, yn gweithio yn dda, er's rhai blynyddoedd bellach. Clywsom ef ei hunan yn bersonol yn adrodd yr uchod, ac yr ydym yn nodi y ffaith hon, fel enghraipht, i ddangos fod sail dros yr ofnad fod llawer o'r newyddiaduron Cymreig yn edrych gormod ar symudiadau cyhoeddus trwy ddrych hunan-les ac elw. Peth gwael ydyw i newyddiadur wasgu ar ddyn am na buasai yn dodi ei hysbysiadau (advertisements) ynddo, a chredwn nad yw yn egwyddor iachus i weithio arni. Dylent gael elw, ac y mae yn iawn iddynt gael elw, ond nid hyny sydd i fod yn brif beth yn nglyn â symudiad yr honir ei fod yn cychwyn er lles a mantais y cyhoedd.

(b) Ymyraeth gormodol yn amgylchiadau personol y bobl. Credwn, yn bendant, fod y newyddiaduron i arwain y wlad ar faterion y dydd, a disgwylir iddynt gynnorthwyo y cyhoedd i ffurfio barn ar yr hyn a fydd yn destyn sylw ar y pryd, a chredwn yn rhyddid y wasg; ond eto nid ydym yn barnu fod yn iawn, nac yn ddoeth, i unrhyw newyddiadur gymeryd mantais ar y rhyddid hwnw i fyned rhwng gwahanol adranau mewn cymdeithas, os na bydd amgylchiadau neillduol yn galw am hyny. Gwneir yn dda wrth amddiffyn y gwan, achub cam y gorthrymedig a'r tlawd, ac ymosod yn erbyn gorthrwm, yn mha ffurf bynag y ceir ef— dylent wneyd, a dylai y wlad fod yn ddiolchgar iddynt am wneyd; ond, wrth geisio amddiffyn y naill a cheryddu y llall, mae yn ddigon posibl iddynt fyned yn rhy bell i amgylchiadau personol y pleidiau, a hyny yn ddi-achos, a gwneyd niwed wrth geisio gwneyd lles, a chyn y diwedd, bod yn foddion i gynnyrchu drwg deimladau a cham-ddealltwriaeth, nes chwerwi teimladau y naill ddosparth tuagat y llall, ac felly, mewn canlyniad, wanychu mewn argraph dda ar yr holl wahanol ddosparthiadau mewn cymdeithas. Oni ddylai newyddiaduron fod yn ochelgar iawn ar adegau sefyll allan (strikes)? Beth am feithrin teimladau da rhwng y meistr a'r gweithiwr? Disgwylir i newyddiaduron gymeryd eu safle yn gryf i amddiffyn y gorthrymedig, ond dylent fod yn ofalus iawn, yn enwedig mewn amgylchiadau pwysig a difrifol, ac ystyried eu cyfrifoldeb, gan astudio beth sydd yn fwyaf rhesymol, doeth, a diogel, cyn dechreu argymhell unrhyw lwybr neillduol. Mae eisieu dadorchuddio pob iselwaith yn mha le bynag, ac yn mhwy bynag y ceir ef, a gall cyhoeddusrwydd fod yn ddychryn i'r troseddwyr, ac yn wers i eraill; ond da fyddai i'r newyddiaduron fod yn dra gofalus pa ffordd i ymwneyd à phethau o'r fath, rhag y dichon iddynt gymeryd gormod arnynt eu hunain, ac felly, yn ddiarwybod, gwneyd y rhwyg yn fwy.

(c) Tuedd at annhegwch mewn rhai amgylchiadau,- Nis gellir disgwyl i'r newyddiaduron beidio sylwi ar symudiadau cyhoeddus trwy ddrych eu plaid—i raddau mwy neu lai—ac nis gellir disgwyl iddynt fod yn anffyddlawn i egwyddorion y rhai fydd yn eu noddi, ond ni ddylai hyn eu dallu i ragoriaethau y bobl fydd yn wahanol iddynt, a chymeryd pob achos ar ei deilyngdod neu ei annheilyngdod ei hun. Ymddengys y ceir engreiphtiau am gynnygion a chynlluniau yn cael eu tynu allan gan bersonau neillduol, ac yn cael eu condemnio gan amryw o'r newyddiaduron; ac eto, beth amser ar ol hyny, yr un cynnygion a chynlluniau yn cael eu dwyn allan dan enwau personau gwahanol, ac yn cael cefnogaeth gref yr un newyddiaduron ag oeddynt yn eu condemnio yn flaenorol. Dengys hyn anghysondeb, a thuedd at anwadalwch. Mae pethau o'r fath yn ddigon a gwneyd i ni gredu os bydd un yn digwydd bod yn ffafrddyn ganddynt hwy, fod pobpeth a wna hwnw, er i raí o'r pethau hyny, ynddynt eu hunain, fod yn ddigon ffol a diangenrhaid, yn sicr o fod yn dderbyniol a gwerthfawr; tra, ar y llaw arall, os na bydd un yn digwydd bod yn eu ffafr hwy, er iddo fod yn ddyn da a chydwybodol, bydd ei holl gyflawniadau yn ddiwerth ac annheilwng, er, efallai, i rai o'r pethau a gynnygiai fod yn egin diwygiadau cenedlaethol. Onid oes gogwydd at hyn yn y wasg newyddiadurol Gymreig? Onid oes sawr teuluyddiaeth, cyfeillgarwch, a chysylltiadau personol ar lawer ohonynt? Atebed darllenwyr cyson a sylwgar Cymru.

(d) Dymuniad cryf am gylchrediad eang, a hyny ar draul esgeuluso, i raddau, mewn rhai ohonynt, yr hyn sydd rinweddol, pur, a sylweddol.—Nis gellir beio cyhoeddwyr a gofalwyr am ddymuno cylchrediad eang i'w newyddiaduron—mae hyny yn berffaith gyfreithlawn—a buasai yn annaturiol iddi fod fel arall. Teimlwn, mewn gwirionedd, fod yr ymgais hon, ynddi ei hunan, i'w chanmol, a gall, mewn gwahanol ffyrdd, droi yn fantais i'r cyhoedd, a gallwn, yn hollol gywir, sicrhau ein bod yn dymuno llwyddiant swyddfeydd argraphu Cymru yn ystyr eithaf y gair. Ond, yr hyn y dymunem roddi pwys arno ydyw hwn: y perygl i'r duedd gref hon at lwyddiant arianol gael ei chario mor bell nes cynnyrchu dirywiad llenyddol. Nid ydym yn gwybod fod yr un newyddiadur yn Nghymru wedi myned yn anfoesol ei nodwedd, yn anffyddol ei syniadau, nac yn afiach a pheryglus yn ei ddylanwad. Da iawn genym allu rhoddi y dystiolaeth hon. Ond, er hyny, ni theimlir fod mwyafrif ein newyddiaduron yr hyn a fuasai yn ddymunol iddynt fod, nac hyd yn nod yn meddu y dylanwad yn mhlaid daioni ag y gallesid disgwyl bellach eu bod yn ei feddu. Dywedodd Quintilian unwaith am gymeriad neillduol—"Ei ragoriaeth oedd ei fod heb fai, a'i fai oedd ei fod heb ragoriaeth." Yn gyffelyb, i fesur, y gellir dyweyd am ran helaeth o'r wasg newyddiadurol Gymreig: er nas gellir dyfod â chyhuddiad pendant yn ei herbyn yn yr ystyr hon, eto teimlwn y gallasai ac y dylasai ei dylanwad ar y wlad, er ei fod eisoes yn gryf, ac wedi cyflawni rhai gorchestion, fod yn llawer dyfnach a chryfach. Nid ydym yn hollol sicr a ydyw cyhoeddwyr ein gwlad yn ddigon gofalus wrth benodi golygwyr a gohebwyr i'w newyddiaduron. Ofnwn, er galar yr ydym yn dyweyd, fod rhai golygwyr newyddiadurol yn Nghymru heddyw ag ydynt yn hollol anghymhwys i'r swydd a'r safle. Cofier fod genym rai gwahanol—dynion sydd yn ymdrechu gwneyd eu goreu, yn mhob modd, i lesoli eu gwlad. Beth am luaws mawr o'r gohebwyr? Mae llawer o honynt, mewn mwy nag un ystyr, yn mhell o fod yn foddhaol. Mae y wlad, fel rheol, yn adwaen y gohebwyr hyn-yn gwybod eu hanes yn dda—ac ofnir nad yw yr adnabyddiaeth bob amber yn fantais i ychwanegu ffydd y bobl ynddynt. Oni ddylid bod yn fwy gofalus wrth sicrhau gwasanaeth golygwyr a gohebwyr? Ofnir fod amryw o'r cyhoeddwyr, er mwyn arbed treuliau arianol, yn cymeryd dynion y gellir eu cael yn lled hawdd eu telerau, pryd, mewn gwirionedd, y buasai yn annhraethol well, hyd yn nod i'r cyhoeddwyr eu hunain, dalu ychydig yn fwy, os byddai raid, er mwyn cael dynion cymhwys a thalentog. Meddylier eto am y golofn a elwir "Adolygiad y Wasg" yn y rhan fwyaf o'r newyddiaduron Cymreig. Gellid gwneyd defnydd ardderchog o honi i alw sylw y wlad at lyfrau da, tori i lawr ychydig ar awdwyr balch a rhodresgar, cyfarwyddo yr ieuainc, &c., ond mae yn hysbys ddigon nad yw corph y golofn, y rhan fynychaf, ond canmoliaeth ddigymysg bron i bob llyfr, tra y bydd yn amlwg i bawb sydd yn sylwi na bydd yr adolygydd (?) wedi trafferthu dim gyda chynnwys y llyfrau. Er na charem ddyweyd gair yn erbyn cael newyddion lleol, eto credwn mai annheg â mwyafrif y darllenwyr fydd rhoddi gofod gormodol i'r elfen leol, megis hanes mân gyfarfodydd tê, &c., pwy fydd yn gweinyddu, pwy fydd yn tori bara, pwy fydd yn cario dwfr, ac ni ryfeddem, yn ol rhediad presennol pethau, na chofnodir pwy fydd yn tywallt pob cwpanaid, sawl cwpanaid fydd pob un yn gael, pa fara a fwyteir fwyaf gan hwn-a-hwn, pwy fydd ddim yn cymeryd siwgr, &c. Felly byddai yr hanes yn gyflawn! Onid oes gormodiaith a gorliwiad wrth gofnodi hanes cyngherddau, darlithiau, cyfarfodydd cystadleuol, ac hyd yn nod cyfarfodydd pregethu. Mae pob cân yn ysplenydd, pob darlith yn rhagorol, pob cyfarfod pregethu yn effeithiol. Os ydym i bwyso ar yr adroddiadau—bydd y cwbl oll yn ardderchog, ac y mae credu y bydd pob cyfarfod felly, yn y byd anmherffaith hwn, yn rhywbeth sydd uwchlaw ein gallu. Maent yn rhy dda i allu bod yn hollol gywir. Beth hefyd am arddull gwerylgar rhan fawr o'r ohebiaeth newyddiadurol? Buasai llai, ie, llawer llai o'r pethau hyn, a mwy o'r buddiol a'r dyddorol, yn welliant; ond ofnwn fod yr awydd am gylchrediad eang yn peri fod ymgais at gyfarfod chwaeth y werin yn y mân bethau hyn. Credwn, er hyny, ei bod yn amser i godi ychydig ar y safon, a chredwn, yn wir, fod y wlad hefyd bellach yn disgwyl ac yn aeddfed i gyfnewidiad yn y ffordd hon. Rhoddir lle mawr ar y mwyaf i hanes llofruddiaethau erchyll, tor-priodasau, helyntion plant anghyfreithlawn, ac anniweirdeb, &c. Diau fod ein darllenwyr yn cofio am achos o athrod, yn nglyn a chyhuddiad o anfoesoldeb yn erbyn gweinidog Cymreig, a'r hwn achos oedd yn un o'r rhai mwyaf poenus. Daeth yr achos i Frawdlys Caerlleon, yn mis Mawrth, 1890,[1] a rhoddwyd rhai tystiolaethau, a hyny gan rai o'r rhyw fenywaidd, yn mhlith eraill, y teimlid eu bod yn gywilyddus i'r eithaf. Gwir ofidus genym y darfu i rai o'r newyddiaduron Cymreig gyhoeddi pob gair o'r tystiolaethau hyny. Yr oedd rhai darnau o'r tystiolaethau hyn yn ymylu ar fod yn anmhur, ac yn tueddu yn uniongyrchol at gyffroi teimladau iselaf y darllenwyr, a llygra eu chwaeth, ac y mae yn ofidus meddwl fod y cyfryw adroddiadau yn myned i ddwylaw bechgyn a dynion ieuainc ein gweithfeydd, ac nis gallent beidio cael argraph annymunol. Ymddengys i ni y dylesid, ar bob cyfrif, adael allan o'r wasg y rhanau amheus hyn o'r tystiolaethau, ac felly buasai y darllenwyr yn cael sylwedd yr hanes, a hyny heb golli dim gwerth ei golli. Gwyddom, gyda llawenydd, fod rhai eithriadau anrhydeddus, a chredwn fod genym ambell i newyddiadur na buasai byth yn halogi ei golofnau â sothach o'r fath, ond y mae nifer y rhai hyn yn rhy ychydig. Na chamddealler ni ystyriwn yr ymgais at gyhoeddi ffeithiau yn un dda a derbyniol, ond, gyda hyn, yr ydym yn cymeryd yn ganiataol y dylai cofnodiad y ffeithiau hyny fod yn gyson â chwaeth bur a moesoldeb ymarferol.

(e) Rhoddi lle i ddadleuon a chyfeiriadau personol, isel, angharedig, a di-les.—Yetyrir fod dadl dda yn iechyd i gymdeithas, ac yn foddion i ddeffroi meddylgarwch, a chyfranu gwybodaeth i'r wlad; ond rhaid datgan fod math arall o ddadleuon—rhai ffol, mympwyol, di-chwaeth, ac anfuddiol. Gwyddis am rai dadleuon, a rhai cyfeiriadau, &c., nas gallasai eu dylanwad fod yn ddim amgen na niweidiol. Gellir nodi, er engraipht, am yr amser pan yr oedd y Parch. Morris Williams (Nicander) yn glerigwr yn Bangor, wedi iddo ddychwelyd o'r athrofa yn Rhydychain. Gan iddo bregethu, yn ol syniad llawer, yn lled Buseyaidd, ger bron un o Gymdeithasau Cyfeillgar y dref, ffromodd Y Figaro, yr hwn newyddiadur gwawdlyd a gyhoeddid yn Bangor ar y pryd, a'r wythnos ddilynol ymddangosodd ynddo ddarlun o Nicander, gan ei ddangos fel pe yn edrych oddiallan i ffenestr hen weithdy saer yn Llanystumdwy, yn gwisgo ei ffedog, a llewys ei grys wedi eu torchi: gosodai ei fysedd, yn ol y darlun, yn rhes ar y llinell amlycaf yn ei wynebpryd, a gwaeddai "Ffarwel-Better Living!" Yna ceid darlun arall ohono, yn ei wisgoedd offeiriadol, yn pregethu "Adenedigaeth yn y Bedydd," gyda'r Cyffes Ffydd, Yr Hyfforddwr, a'r Drysorfa, wedi eu lluchio yn ddarnau ar draws yr allor gerllaw. Ystyriwn fod y darluniau a'r cyfeiriadau hyn yn hollol annheilwng. Ymddengys fod bardd o'r enw Edeyrn ab Nadd yn aros yn Bangor oddeutu yr adeg hono, ac yn ymgymhwyso gogyfer â'r weinidogaeth Eglwysig, ac aeth i wrthdarawiad â golygydd Y Figaro, a'r wythnos ddilynol dyna ddarlun chwerthinllyd o'r Edeyrn, ac i ddial ar ei elyn dyna Edeyrn yn cychwyn newyddiadur o'r enw Anti-Figaro, yn Nghaernarfon. Bu yr Anti-Figaro hwn yn ddraenen bigog-yn llawn o'r ymosodiadau iselaf ar gymeriadau personol. Ymddengys, yn ol yr hanes, mai testyn llawenydd a fuasai fod y ddau newyddiadur hyn heb erioed weled goleuni dydd; anhawdd oedd iddynt ateb unrhyw ddyben heblaw porthi tueddiadau annheilwng dynoliaeth ddirywiedig. Yr ydym yn cofio amser, ar adeg etholiad wleidyddol, pan oedd y doniol Mynyddog, ar faes newyddiadur neillduol, yn galw yr enwog Tanymarian yn "Tân-am-arian," ac, o'r tu arall, Tanymarian, mewn atebiad ar yr un maes, yn galw Mynyddog yn "Money- dog," ac ymddengys i ni fod hyny yn beth anffodus iawn; a diau, wrth weled dynion cyhoeddus o'r fath wedi ymollwng i alw eu gilydd ar y fath enwau, fod hyny yn tueddu at arwain y genedl ieuanc i edrych yn ddi-bris ar enw da. Gallesid enwi amryw engreiphtiau eraill sydd yn dangos fod aml i helynt newyddiadurol wedi chwerwi a dolurio teimladau am oes, yagaru teuluoedd, ac aflonyddu ar heddwch cymydogaethau cyfain. Addefwn, gyda phleser, nad yw y pethau hyn ond eithriadau, er hyny da fyddai eu cael ymaith yn gwbl. Pa anghen sydd am danynt? Paham na ellid dadleu cwestiynau heb archollion? Na fydded i neb ein camgymeryd: credwn, i raddau, ac mewn rhai amgylchiadau, fod ystormydd ya angeurheidiol—gallant buro cymdeithas, a chadw gwlad rhag llygra, a dylid bod yn ddiolchgar am danynt yn eu tro; ond y mae gwahaniaeth rhwng hyny âg ystormydd di-achos a di-fudd—ystormydd gwneyd—ac, hyd yn nod gyda'r ystormydd gwir angenrheidiol, dylid ymdrechu myned drwyddynt heb golli mwy nag à ennillir, ac achosi chwerwder a drwgdeimladau. Credwn fod yn y pethau hyn oll, y rhai a ddesgrifiwyd fel diffygion, wrth gymeryd y cwbl yn nghyd, fath o ddylanwad distaw, dirgelaidd, ac uniongyrchol ar fywyd y genedl, ac ofnwn ei fod yn ddylanwad y dylai caredigion y wasg newyddiadurol yn Nghymru wneyd eu goreu, mewn gwahanol gyfeiriadau, i'w wrthweithio.


2. Rhagoriaethau.

(a) Cymerir gofal, ar y cyfan, fod yr hyn a gyhoeddir ganddynt yn ffeithiau.—Ni chyhoeddir dim, fel rheol, a anfonir i swyddfa heb i'r golygydd gael yr enw priodol, er y gall ymddangos yn gyhoeddus dan gysgod ffugenw, neu heb enw o gwbl; eto nis gall yr ysgrif fyned trwy ddwylaw y golygwyr neu ofalwyr y swyddfeydd mewn modd cyfrinachol, heb enw priodol yr awdwr; a diau mai dyna un rheswm dros fod y newyddiaduron Cymreig, gydag ond ychydig eithriadau, yn cadw mor dda rhag syrthio i brofedigaethau cyfreithiol ag sydd mor gyffredin yn hanes newyddiadurou gwledydd eraill. Diau fod hyn yn rhinwedd gwerthfawr, a gall fod yn attalfa i lawer trallod; er, hwyrach, y buasai yn dda i'r naill newyddiadur wrth ddifynu o'r llall fod yn ofalus ar i'r hyn a ddifynir fod yn gywir, ac nid cymeryd yn ganiataol ei fod yn gywir, pan, mewn gwirionedd, na bydd felly. Os ymddygir yn anghyfiawn a chreulawn, os troseddir yn hyf ar ddeddfau y wlad, os gorthrymir yn ddiachos, &c., cyhoeddir y ffeithiau yn ddi-gêl, beirniadir hwy yn agored, a chaiff y wlad eistedd ar orsedd barn i benderfyuu rhwng y wasg â'r pleidiau cyhuddedig.

(b) Prin, efallai, fod anghen am unrhyw gyfeiriad at brydlondeb y newyddiaduron Cymreig yn dyfod allan, glanweithdra y gwaith argraphyddol, &c., ac yn y pethau hyn, wrth eu cymeryd yn nghyd, rhaid datgan y daliant gystadleuaeth â newyddiaduron unrhyw genedl, ac, wrth fyned heibio i hyn, gellir gwneyd sylw ar amrywiaeth eu cynnwys.—Gall fod rhai o'r newyddiaduron Cymreig yn cario hyn yn rhy bell, ac wrth ymdrechu at amrywiaeth yn cyhoeddi rhai pethau y buasai yn well peidio; ond, er hyny, diau fod yr ymgais hon at amrywiaeth, cyn belled ag y bydd yn gywir, yn elfen yn eu rhagoriaeth. Rhoddir ynddynt grynodeb o brif symudiadau y dydd, ceir hanes gwleidyddiaeth (yn ei gwahanol ffurfiau), sefyllfa masnach, colofnau barddonol, ceir gwahanol feirniadaethau a draddodir mewn Eisteddfodan a chyfarfodydd llenyddol, newyddion lleol o wahanol ranau o'r wlad, colofnau ar henafiaethau, athroniaeth, ac yn aml rhoddir colofn neu ddwy—mwy neu lai—i ddirwest, moesoldeb, &c. Ymdrechir cyfarfod amrywiaeth chwaeth ac amgylchiadau darllenwyr Cymru: cofir am y llenor, y bardd, yr henafiaethydd, y dirwestwr, y gwladweinydd, yr hanesydd, y cerddor, &c. Er fod tôn foesol rhai o'r newyddiaduron, yn enwedig ar adegau, heb fod yn hollol yr hyn a ellid ddisgwyl, fel y sylwyd yn barod, eto, ar y cyfan, mae genym le i gymeryd cysur, a bod yn ddiolchgar, gan fod hyny yn beth eithriadol. Dywedir na chafodd yr un newyddiadur gwrth-grefyddol ei sefydlu erioed yn Nghymru. Mae hyny, ynddo ei hun, yn myned yn mhell iawn, a mawr hyderwn, yn ddifrifol, yn enw Duw, ac yn enw dyfodol Cymru, na bydd byth i'r un newyddiadur o'r fath gael ei gychwyn yn ein gwlad. Ceir yr holl newyddiaduron Cymreig, hyd y gwyddom, mewn rhyw ffurf neu gilydd, yn proffesu bod yn gynnorthwy i bobpeth sydd dda ac iawn, ac, yn sicr, dylai hyny fod yn rheswm dros i holl hyrwyddwyr crefydd a moesoldeb fod yn ddiolchgar, a dylai hefyd fod yn rheswm dros iddynt benderfynu, mewn gwahanol ffyrdd, i wneyd eu goreu dros gadw dalenau newyddiaduron Cymru yn lân a phur.

Diau fod gan yr ystyriaethau hyn oll, y rhai a enwyd fel yn mhlith rhagoriaethau y wasg newyddiadurol yn Nghymru, eu dylanwad tawel, ac anuniongyrchol, er daioni ar fywyd y bobl.

3. Ond, diau fod ysbryd ac amcan penawd ein llyfr yn treiddio yn ddyfnach na hyn, ac yn golygu dylanwad uniongyrchol a pharhaol y newyddiaduron Cymreig ar fywyd y Cymry. Ymdrechwn, er mwyn eglurder yn nglyn â'r adran hon, enwi rhai o'r gwahanol ddadleuon, erthyglaun ac ysgrifau a ymddangosasant yn y gwahanol newyddiaduron fel rhai a fernir yn gyffredin sydd wedi cael y dylanwad mwyaf ar y wlad, a cheisiwn ddangos yn mha ffordd yr oedd y dylanwad hwnw yn cerdded:—

(a) Dylanwad Deallol.—Diau y cydnabydda pawb fod y newyddiaduron Cymreig yn foddion i eangu gwybodaeth cenedl y Cymry, ac yn cymeryd y blaen mewn eynnorthwyo y cyhoedd i ffurfio barn ar gwestiynan cyhoeddus. Mae yn anhawdd iawn, a dyweyd y lleiaf, ddirnad yn mha le y terfyna eu dylanwad yn yr ystyr hon, heblaw y gallwn fod yn sicr ei fod yn ddwfn a helaeth. Rhaid canmol amryw ohonynt, ar y cyfan, am eu ffyddlondeb i ddyfod â gwahanol ffeithiau a gwybodaeth gyffredinol i gyrhaedd y bobl. Os gwneir unrhyw ddarganfyddiad newydd, neu os bydd digwyddiad hynod wedi cymeryd lle, bydd y cyhoedd yn cael gwybod yr oll, a chynnorthwyir hwy i ffurfio eu syniad personol am y pethau hyn. Mae yn arferiad hefyd gan rai o'r newyddiaduron Cymreig i gyfieithu areithiau a chyfansoddiadau Seisonig, os byddant yn eithriadol, i'r Gymraeg, a bydd hyny yn foddion da i eangu gwybodaeth y Cymry ar y materion hyny. Cawn, er enghraipht, fod Dr. Fairbairn, yn ddiweddar, wedi traddodi cyfres o ddarlithiau ar "Y Meddwl Crefyddol yn y Bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg," a cheir, ychydig fisoedd yn ol, Y Goleuad yn eu cyhoeddi, yn gyfres, yn y Gymraeg. Hefyd dyna ysgrifau Mr. Gladstone ar "Graig Ddisyfl yr Ysgrythyr Lân" wedi cael eu cyhoeddi, yn gyfres, yn Yr Herald Cymraeg. Ceir ysgrifau cyffelyb dan y penawd "Liddon ar Ysprydoliaeth" mewn Un arall. Tra yn canmol yr ymgais hon at gario gwybodaeth i'r Cymry, ac yn gobeithio y bydd iddynt barhau yn yr un cyfeiriad, eto rhaid dyweyd, fel sylw cyffredinol, y dylai rhai o'r newyddiaduron Cymreig ymdrechu bod yn fwy gofalus wrth gyfieithu ysgrifau o'r dosparth hwn i'r Gymraeg. Ofnwn nad yw y gwaith yn cael ei ymddiried bob amser i bersonau cymhwys, neu na chymerir amser digonol at y gwaith, gan y clywir cwynion fod llawer o'r cyfieithiadau hyn yn aneglur ac anystwyth. Gellir enwi, yn mhlith eraill, rai ysgrifau neillduol a ddarfu, yn eu ffordd eu hunain, eangu llawer ar gylch gwybodaeth a deall y genedl:—Darfu i "Meddyliau Meddyliwr" (Mr. Eleazer Roberts, Lerpwl), ac ysgrifau Ieuan Gwyllt—y naill a'r llall ar faes Yr Amserau yn ei flynyddoedd boreuaf—ar "Rhyfel y Crimea," fod yn gynnorthwy effeithiol i oleuo y bobl ar faterion o'r fath. Gwnaeth ysgrifau Baner ac Amserau Cymru ar "Y Fugeiliaeth Eglwysig" gynhwrf mawr, yn enwedig yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd, a diau iddynt mewn ffordd ffafriol gan rai ac anffafriol gan eraill gael argraph, a beth am yr "Homiliau" a ymddangosent yn yr un newyddiadur lawer blwyddyn yn ol? Byddai ysgrifau "Dyn y Baich Drain yn y Lleuad," y rhai a ymddangosent oddeutu cychwyniad Y Dydd, yn cael derbyniad croesawgar, ac yn goleuo ac arwain y darllenwyr. Canmolir "Llith yr Hen Löwr," yr hon a gyhoeddir yn Y Llan a'r Dywysogaeth, fel ymgais at oleuo y dosparth gweithiol, a diau y gwna y golofn a elwir "Bord y Chwarelwyr a'r Glowyr," yr hon a geir yn Yr Herald Cymraeg, les dirfawr, trwy ganiatau i'r gweithwyr, ac yn arbenig y chwarelwyr a'r glowyr, ysgrifenu—mewn holi ac ateb—ar gwestiynau yn dal cysylltiad â hwy eu hunain. Cafodd y ddadl, yr hon a ymddangosodd ar faes Y Goleuad bron ar ei gychwyniad, rhwng Dr. T. Charles Edwards, Bala, a'r diweddar Barch. H. T. Edwards (Deon Bangor), ar Duwinyddiaeth y Cymry, sylw helaeth gan y wlad, a diau iddi adael effeithiau daionus yn yr ystyr o ddeffro a goleuo y genedl i bwysigrwydd gwahanol ganghenau y pwnc; a bu llawer o ddarllen hefyd, flynyddoedd yn ol, ar "Nodiadau" gan "Un â'i lygaid yn ei ben" yn yr un newyddiadur. Cariwyd yn mlaen ddadl alluog ar faes Yr Herald Cymraeg, yn y flwyddyn 1859, ar "Yr Olyniaeth Apostolaidd." Yr oedd y Parch. Evan Lewis, deon presennol Bangor, yn byw, y pryd hwnw, yn Llanllechid, a daeth y Parch. W. Davies, D.D., Bangor, gweinidog enwog gyda'r Wesleyaid, i ddeall fod rhai o bobl Bethesda yn cael eu blino gan olygiadau Uchel-Eglwysig y Parch. Evan Lewis, a phenderfynodd Dr. Davies fyned yno i draddodi darlith ar y pwnc. Cyhoeddwyd y ddarlith, ar ol ei thraddodi, yn llyfryn chwe' cheiniog, ac arweiniodd hyn oll i ddadl gref rhwng y ddau ŵr parchedig yn Yr Herald. Ni raid dyweyd iddi dynu sylw mawr ar y pryd, a bu yn foddion i oleuo llawer ar y wlad ar wahanol agweddau y mater. Hefyd, dyna ddadl "Y Bedydd" a fu ar faes Tarian y Gweithiwr, oddeutu deuddeng mlynedd yn ol: parhaodd hon am rai misoedd, a gellid dyweyd, ar y pryd, mai hi oedd testyn siarad cyffredin y Deheudir, yn enwedig Morganwg. Amddiffynid y trochiad gan un a alwai ei hunan yn "Dewi Bach," ac amddiffynid y taenelliad gan y Parch. D. G. Jones, Ton, yr hwn a gyhoeddodd ei lythyrau, wedi hyny, yn llyfryn. Nid ein gorchwyl ni ydyw myned i mewn i deilyngdod neu annheilyngdod y ddadl, ond yn sicr bu yn foddion i beri i laweroedd gymeryd dyddordeb mewn pwnc o'r fath, ac i symbylu llafur pellach gydag ef. Dadl ryfeddol, ac un a achosodd gynhwrf, oedd yr un yn Yr Amserau rhwng Ieuan Gwynedd a Gweirydd ap Rhys ar "Y Pedwar Mesur ar Hugain," ar ol cadeirio awdwr y bryddest yn Eisteddfod Genedlaethol Rhuddlan: dadleuai Gweirydd dros gadeirio awdl, a dim ond awdl, tra y dadleuai Ieuan y dylid cadeirio pryddest yn ogystal. Hefyd, bu dadl yn cael ei chario yn mlaen, ychydig amser yn ol, ar faes Tarian y Gweithiwr, mewn canlyniad i feirniadaeth ar englynion i "Banau Brycheiniog," rhwng y diweddar Dewi Wyn o Esyllt a Dyfed, ac er ei bod yn ddadl o natur hynod boenus a phersonol, eto hyderwn fod tuedd ynddi i beri i feirniaid Eisteddfodol fod yn fwy gofalus a chydwybodol, yn gystal ag i buro cylchoedd llenyddol; ac yn arbenig credwn y bu y ddadl hon, er mor anffodus, yn foddion i oleuo y wlad yn nghylch ammodau cystadleuaethau llenyddol. Nid teg fyddai gadael yr adran hon heb gyfeirio at y ddadl a ymddangosodd am wythnosau yn Baner ac Amserau Cymru, yn niwedd y flwyddyn 1890, rhwng Deon Llanelwy a Mr T. Gee, Dinbych, ar "Foesoldeb Rhyfel y Degwm." Tynodd sylw, ac yr oedd yn afaelgar, a diau fod gwahanol gyfeiriadau y ddadl— o'r ddwy ochr—wedi bod yn gymhorth da i'r bobl, ac yn enwedig i amaethwyr Cymru, i ddeall y mater dyrus hwn yn ei wahanol agweddau. Gwelir felly, heb enwi ychwaneg, fod y wasg newyddiadurol Gymreig—yn ei ffordd ei hunan—wedi ac yn gwneyd ei rhan tuag at oleuo deall pobl ein gwlad.

(b) Dylanwad Gwleidyddol.

"The influence of newspaper writing in political affairs has not increased proportionately with its scope, or anything like it. The public journals have a million readers where they had only a few thousands at the beginning of the century; but it is doubtful whether they have as much power over the publio mind or the conduct and decision of affairs."—Difyniad o'r Nineteenth Century (tud. 836), am Mai, 1890.

Dyna syniad yr awdwr hwnw—Mr. Frederick Greenwood—am ddylanwad gwleidyddol y newyddiaduron Seisonig; ac nid ydym yn hollol sicr—yr ydym yn betrusgar—nad oes peth gwirionedd yn y geiriau hyn yn eu cysylltiad â newyddiaduron Cymru. Ceir fod bron yr holl newyddiaduron Cymreig, modd bynag, yn arfer rhoddi crynhoad o weithrediadau y Senedd, ac, yn gyffredin, ceir erthyglau arweiniol a beirniadol arnynt. Dilynir symudiadau gwleidyddol y dydd, dadleuir egwyddorion gwleidyddiaeth, a rhoddir hanes bywyd gwleidyddwyr enwog ymadawedig. Ceir hefyd, erbyn hyn, mai peth cyffredin ydyw cael llythyrau i'r newyddiaduron gan rai o'r Aelodau Seneddol Cymreig. Ceir gwleidyddiaeth, i ryw raddau, yn ein holl newyddiaduron, a braidd nas gellir dyweyd, erbyn hyn, eu bod yn cymeryd plaid neillduol mewn gwleidyddiaeth, ac y mae hyny, o angenrheidrwydd, yn rhwym o fod yn cario dylanwad— dros y naill blaid neu y llall—ar y darllenwyr. Pwy all ddyweyd maint dylanwad llythyrau y Parch. John Owen, Ty'nllwyn, yn Yr Herald Cymraeg oddeutu adeg Etholiad y flwyddyn 1868? Mae yr adsain heb gilio eto. Mae yn amlwg fod "Gweledydd y Tŵr" yn Y Llan a'r Dywysogaeth yn ysgrifenydd miniog galluog, a diau fod ei lythyrau wythnosol yn cael dylanwad ar ei bobl ei hun trwy eu goleuo a'u cadarnhau yn egwyddorion Ceidwadaeth, ac yn mhlaid yr Eglwys Sefydledig. Nis gall neb ddyweyd pa mor ddwfn oedd dylanwad llythyrau wythnosol "Y Gohebydd" yn Baner ac Amserau Cymru: gellir dyweyd, yn gwbl ddibetrus, fod miloedd o bobl Cymru bob wythnos, ar y pryd hwnw, yn disgwyl gydag awch am danynt. Gelwid sylw y cyhoedd drwyddynt at wleidyddiaeth yn ei gwahanol ganghenau, ac ymdrinid âg Addysg, yn ei amrywiol gysylltiadau, a byddai pob llythyr yn bennod ddyddorol ynddo ei hun; ac yn sicr mae gan y llythyrau hyny ran helaeth mewn dwyn ein gwlad i'r hyn ydyw heddyw, Prin y mae anghen crybwyll, gan mor hysbys yw y ffaith, fod holl ddylanwad "Y Gohebydd" yn gweithio yn mhlaid Ymneillduaeth a Rhyddfrydiaeth. Wrth son am ddylanwad gwleidyddol newyddiaduron Cymru, rhaid peidio anghofio y newyddiadur a elwid Cronicl yr Oes. Wrth siarad yn fanwl, mewn un ystyr, gellir dyweyd mai hwn oedd y newyddiadur Cymreig cyntaf i roddi lle i wleidyddiaeth fel y cyfryw ac, yn enwedig, efe oedd y cyntaf i gymeryd ochr a safle neillduol mewn gwleidyddiaeth. Prin y gellir dyweyd fod yn Nghymru, ar y pryd hwnw, unrhyw sylw yn cael ei roddi i hyn—yr oedd y wlad yn cysgu yn dawel. Ceid cyfres o erthyglau ynddo ar "Cyfansoddiad y Deyrnas," "Y Ddyled Wladol," crynodeb llawn a manwl o'r gweithrediadau Seneddol, &c. Cawsom yr hyfrydwch o weled y rhifynau ohono am y blynyddoedd 1836-8, ac o ran clirder a chraffder ei adolygiadau a'i feirniadaethau, nerth ei erthyglau, yr eglurhad a'r goleuni a geid ynddo ar egwyddorion gwleidyddiaeth, &c, mae yn amheus genym a oes unrhyw newyddiadur Cymreig, yn y dyddiau hyn, a fuasai yn rhagori arno. Ceid ynddo ysgrifau cryfion, beiddgar, ac annibynol ar bynciau gwleidyddol, a darfu i'r ysgrifau hyn, gan mor newydd a diwygiadol oeddynt, beri i'r anfarwol Barchedig John Elias deimlo braidd yn ddolurus a thramgwyddus, ac ofnai ef, ar y pryd, fod y gwr ieuanc (y Parch. Roger Edwards, Wyddgrug) oedd yn golygu y newyddiadur hwn, mewn perygl o greu chwyldroad a fuasai yn niweidiol i achos crefydd; ond teg, er hyn, ydyw dyweyd fod Mr. Elias, cyn diwedd ei oes, wedi dyfod i goleddu y syniadau uwchaf am Mr. Edwards. Ni pherthyn i ni, yn y gwaith hwn, fyned i mewn i natur ofnau Mr. Elias—ar y naill ochr na'r llall—ond yn sicr rhaid dyweyd, fel mater o ffaith, heb fanylu dim arni, fod y newyddiadur hwn, ac yn arbenig ei brif erthyglau, wedi bod yn foddion i gychwyn cyfnod newydd yn hanes gwleidyddol cenedl y Cymry. Ond, er hyn oll, mae yn debyg y cydnabyddir fod Yr Amserau yn meddu llaw gref yn ffurfiad gwleidyddiaeth Cymru. Yr oedd erthyglau arweiniol Yr Amserau yn gryfion, diamwys, a phendant, a diau fod ei ysbryd, yn gystal a'i gynnwys, wedi taflu elfen newydd i fywyd y genedl. Mewn trefn i allu iawn-brisio dylanwad Yr Amserau, dylid cofio beth oedd sefyllfa ein gwlad ar y pryd—difater a thywyll, ac yn edrych ar faterion cyhoeddus bron yn gwbl yn eu cysylltiad â phersonau, ac nid ag egwyddorion, ac un o'r prif orchestion a wnaeth Yr Amserau, ac ystyriwn ei bod yn orchest anhawdd, oedd cael y wlad i edrych mwy ar gwestiynau gwleidyddol oddiar safle egwyddorion, ac nid oddiar safle amgylchiadau a phersonau. Efallai, ar ol y cwbl, mai bywyd ac ysbrydiaeth Yr Amserau oedd "Llythyrau 'Rhen Ffarmwr." Nid gormod dyweyd fod Cymru oll wedi ei chynhyrfu gan y llythyrau hyn: yr oeddynt yn ddoniol, ddifyr, ac addysgiadol, a thrwyddynt dysgid gwirioneddau pwysig i'r bobl mewn arddull hollol boblogaidd ac eglur, ac yn yr iaith fwyaf gwerinaidd a chyffredin. Cafodd calon y wlad ei gogleisio trwy y rhai hyn, ac mewn ffordd ddengar gosodwyd argraph drwyddynt ar feddwl a chymeriad y genedl nad yw wedi cael ei dileu hyd heddyw; a da iawn genym weled fod Mr. Isaac Foulkes (Y Llyfrbryf), wedi casglu yr holl lythyrau hyn yn nghyd, ac wedi gwneyd an llyfryn o honynt. Mae yn hen gwestiwn bellach—Pa un ai Cronicl y Oes ynte Yr Amserau sydd yn meddu y lle blaenaf yn hanes a dylanwad gwleidyddiaeth Cymru? Prin y perthyn nac y disgwylir i ni yn y cysylltiad hwn, i benderfynu y cwestiwn, hyd yn nod pe gallem: ac efallai fod llawn gormod o'r mân-ddadlu wedi bod eisoes ar y peth, a rhy fychan o'r diolchgarwch dyledus yn cael ei roddi iddynt eu dau. Dywed rhai "mai y Parch. Roger Edwards a lwyddodd i greu annibyniaeth meddwl parthed gwleidyddiaeth yn Ngogledd Cymru," ac mai efe "a sefydlodd hyny trwy gyfrwng Cronicl yr Oes." Tra, ar y llaw arall, y dalia rhai mai "Gwilym Hiraethog yn Yr Amserau a greodd farn gyhoeddus ac annibynol yn ein mysg ni fel cenedl." Tybed, yn awr, nad yn rhywle rhwng y ddau eithaf hyn y ceir y gwirionedd? Tybed nad all y ddau syniad, mewn rhai ystyron, fod yn gywir? Ymddengys i ni fod dwy safle yn bosibl i edrych ar y mater: ac oddiar y naill gellir dyweyd mai Cronicl yr Oes sydd yn sefyll uwchaf, ac eto, oddiar safle arall, mai Yr Amserau sydd yn haeddu y flaenoriaeth. Cyn belled ag yr oedd cyflwyno gwleidyddiaeth, fel y cyfryw, i sylw y Cymry am y tro cyntaf, a chyn belled ag yr oedd cymeryd safle neillduol, am y waith gyntaf, i edrych ar egwydd orion gwleidyddol—mor bell ag yr oedd y pethau hyn yn myned, diau y gellir dyweyd mai Cronicl yr Oes a ddarfu ddeffro ein cenedl gyntaf yn y cyfeiriad hwn; ond eto, cyn belled ag yr oedd dyfod âg egwyddorion gwleidyddiaeth i gyrhaedd deall a chalon corph gwerin Cymru yn myned, a chyn belled ag yr oedd dysgu y genedl i wahanu rhwng hen a newydd mewn gwleidyddiaeth yn myned, diau y gellir dyweyd mai Y Amserau a ddarfu arwain y genedl i ffurfio syniadau annibynol ar egwyddorion gwleidyddol. Cronicl yr Oes a darawodd gyntaf, ond Yr Ameerau a darawodd drymaf, ac nid yw swn y ddaa darawiad wedi darfod eto. Yn Yr Amserau y sylweddolwyd prif syniad Cronicl yr Oes, ac yr oedd y naill fel rhagredegydd i'r llall, a rhwng y ddau, crewyd cyfnod newydd yn hanes bywyd gwleidyddol Cymru. Onid oedd y ddan yn anghenrheidiol? Yn hytrach na dyrchafu y naill ar draul darostwng y llall, neu ymryson pa un o honynt a wnaeth fwyaf, gadawer i ni, fel cenedl yn gyffredinol, ddiolch am y gwasanaeth anmhrisiadwy a gyflawnwyd ganddynt.

(c) Dylanwad Cymdeithasol,—Mae yn sicr fod y newyddiaduron Cymreig, trwy roddi cyhoeddusrwydd i bethau da—ffeithiau dymunol yn hanes lleoedd a phersonau— a thrwy ganmol a chefnogi y teilwng, yn nerth ac yn galondid i bobpeth manteisiol i lwyddiant y bobl; ac, o'r tu arall, wrth gondemnio yr annheilwng, codi eu llef yn erbyn anghyfiawnder, rhoddi cyhoeddusrwydd i ymddygiadau iselwael, &c., diau eu bod yn rhoddi attalfa ar lawer o ddrygioni a gyflawnid pe heb hyny. Mae ganddynt eu dylanwad cymdeithasol yn yr ystyr o roddi mwynhad pleserus i bobl Cymru, ychwanegu eu gwybodaeth, cynnyddu eu dyddordeb yn symudiadau y byd, &c, a thrwy hyn oll teimlwn yn gryf i ddyweyd eu bod yn sirioli miloedd o aelwydydd, ychwanegu at bleserau y cylch teuluaidd, yn feithriniad i fanteision lleol cymydogaethau a threfydd, ac, fel y sylwyd yn barod, ar y cyfan, ac y mae yn llawenydd genym allu credu hyny, y maent yn fraich, er, hwyrach, nid mor gref eto ag y gallasai fod, i'r weinidogaeth, i'r Ysgol Sabbothol, i gymdeithasau daionus, ac i gynnydd gwelliantau cyffredinol, &c. Onid allasai y newyddiaduron Cymreig, mewn ystyron cenedlaethol, fod yn fantais i'r Cymry Ymddengys i ni fod dylanwad ein newyddiaduron yn un o'r elfenau cryfaf a dyfnaf yn ein cenedlaetholdeb (nationality). Gyda golwg ar yr ysgrifau mwyaf neillduol, yn yr ystyr hon, mae yn anhawdd tynu y llinell, oherwydd fod dylanwad cymdeithasol a moesol, rhywfodd, yn beth mor ddistaw, graddol, dirgel, a dwfn dreiddiol, fel mai nid hawdd yw dyweyd drwy ba gyfryngau yn arbenig y bydd yn gweithio; ond, yn mhlith ysgrifau eraill, efallai, gellir enwi y rhai canlynol fel rhai a dreiddiasant yn ddwfn i fywyd cymdeithasol Cymru:-Llythyrau gan un a alwai ei hunan yn "Thesbiad" yn Yr Herald Cymraeg, flynyddoedd yn ol. Cynnwysai yr ysgrifau hyn, yn benaf, fath o feirniadaeth ar symudiadau a gweithrediadau cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd: nodweddid y llythyrau â llymdra diarbed, a chydnabyddid, yn gyffredinol, eu bod yn dangos gallu a thalent anghyffredin. Diau y bu iddynt gael sylw, nid yn unig gan un cyfundeb, ond gan yr oll o'r cyfundebau crefyddol yn Nghymru, a gwnaethant les yn yr ystyr o beri iddynt fod yn fwy pwyllog, doeth, a gofalus yn eu symudiadau. Parheir i son hyd heddyw am lythyrau y "Thesbiad." Pwy all ddyweyd y lles a wnaed gan Yr Amserau yn nglŷn â chyhoeddiad "Y Llyfrau Gleision," ac adroddiad y Dirprwywyr a bennodwyd gan y Llywodraeth, yr adeg hono, i edrych i mewn i ansawdd foesol Cymru? Meddylier hefyd am yr ysgrif ar "Taflu y Pregethwyr i'r Bwystfilod," yr hon a ymddangosodd yn Y Goleuad am Tachwedd 13eg, 1869: gwnaeth yr ysgrif hon, er yn chwerw ei chyfeiriad, les dirfawr fel math o amddiffyniad i weinidogion yr Efengyl, er, y mae yn rhaid addef—ond arwydd diammheuol o'r dylanwad dwfn a gafodd oedd hyny—fod ei hawdwr (y diweddar Barch. Dr. Lewis Edwards, Bala), wedi cael, ar ei chyfrif, aml i air angharedig gan rai. Darfu i'r ddadl, ar dudalenau Seren Cymru, yn ddiweddar, yn nghylch egwyddorion dirwest, beri cryn gynhwrf yn mhlith Bedyddwyr Cymru, yn enwedig yn y Gogledd, ac aeth pethau mor hell nes y darfu i rai eglwysi, fel eglwysi, basio penderfyniadau ffurfiol fel gwrthdystiad yn erbyn natur yr ysgrifau, a deallwn fod eglwys Ebenezer, Cildwrn, Môn (hen eglwys y diweddar enwog Christmas Evans), wedi pasio penderfyniad cryf iawn ar y peth. Mae hyn yn dystiolaeth i ddyfnder dylanwad y newyddiaduron, oherwydd os byddent yn bygwth dechreu llithro, yn ngolwg rhai, ychydig iawn oddiar y llwybr, wele Eglwysi Crist yn dechreu ymysgwyd! Mae yn rhaid fod llythyrau wythnosol—am flynyddoedd meithion—"ladmerydd" (y diweddar Barch. John Thomas, D D., Lerpwl) yn Y Tyst a'r Dydd yn cario argraph ar ddosbarth lluosog yn ein gwlad. Cawn fod Baner ac Amserau Cymru wedi dechreu, yn ddiweddar, gyhoeddi llythyrau oddiwrth rai o'r prif weinidogion yn Nghymru ar y materion crefyddol a allent fod yn fwyaf amserol i'r genedl ar hyn o bryd. Gwelir fod rhai cynnulleidfaoedd ac eglwysi—yn y Gogledd a'r Deheudir—yn gwneyd arferiad i'w darllen yn gyhoeddus i'r lluaws yn eu gwasanaeth crefyddol, a chredwn fod hyny, ynddo ei hun, yn arwyddo eu gwerth. Nis gellir diweddu yr adran hon heb gyfeirio, yn arbenig, at ddylanwad llythyrau "Adda Jones," sef y diweddar Barch. John Evans (I. D. Ffraid), Llansantffraid, ger Conwy, pa rai a ymddangosasant, flynyddoedd yn ol, yn Baner ac Amserau Cymru, a chydnabyddir fod y llythyrau hyn yn mhlith y pethau cyfoethocaf, o ran nwyfiant, arabedd, a chywreinrwydd rhesymegol, sydd yn yr iaith Gymraeg." Er mai yn nghyfeiriad Ymneillduaeth a Rhyddfrydiaeth y rhedai yr ysgrifau amlaf, ac er y bu yr awdwr mewn gwrthdarawiad aml i dro drwyddynt, eto ceid ynddynt ymdriniaeth, yn awr ac eilwaith, ar bethau oedd yn nglyn â moesau ac arferion cyffredin cymdeithas, a byddent, ar y pethau hyn, yn anwrthwynebol. Gadawer i ni nodi, fel un enghraipht i ddangos en dylanwad, ei lythyrau yn nghylch "Ffynnon Elian." Saif y ffynnon hon, fel y mae yn hysbys, yn agos i Llanelian, yn mhlwyf Llandrillo-yn-Rhos, ar gyffiniau Dinbych ac Arfon. Galwyd hi ar enw Elian ab Gallgu Redegog, o hil Cadrod Calchfynydd, yr hwn oedd yn byw, fel y tybír, oddeutu 600 O.C. Mae Gwilym Gwyn, y bardd, yn ei alw yn Elian Ceimiad, ac nis gall neb ddyweyd y twyll a'r ofergoeledd a fu ya nglyn a'r ffynnon am ganrifau. Byddai cannoedd lawer, o bob parth o Gymru, os nad rhai manau o Loegr, yn dyfod iddi bob blwyddyn, ac yn talu arian mawr fel offrwm i'r hen sant, a thrwy hyny byddent yn cael y fendith neu y felldith, yn ol fel ag y byddai yr amgylchiadau yn galw:—

"Os 'nifael a gollant,
At ddewin y rhedant,
Prysurant, news holant mewn sel;
I:: rheiny gofynant
O'u bodd 'mh'le byddant,
A'u oelwydd a goelient heb gêl."

Dyna hanes y wlad ar yr adeg hono, a byddai ychydig bersonau neillduol yn derbyn cyfoeth lawer gan y cyhoedd trwy y ffordd hon i dwyllo. Daeth Adda Jones" (I. D. Ffraid), modd bynag, drwy ffordd neillduol, i wybod am yr holl amgylchiadau gwyddai yn drwyadl am hanes y ffynnon a'r personau oeddynt yn derbyn elw oddiwrthi, a gwyddai hefyd hanes y bobl, yn y diniweidrwydd a'r ofergoeledd, a fyddent yn rhoddi yr arian, fel, rhwng yr oll-ei wybodaeth fanwl am holl gysylltiadau yr hanes, ei allu desgrifiadol di-ail fel awdwr, &c.,-ysgrifenodd gyfres o lythyrau i ddatguddio yr holl dwyll; ac nid gormod yw dyweyd y darfu i'r llythyrau hyny siglo Cymru, a buont yn angeu i lwyddiant y ffynnon, a braidd nad ellir dyweyd, erbyn hyn, fod ffynnon Elian yn cael edrych arni gan bawb fel rhan o'r olion am ofergoeledd yr hen oesoedd, a bron wedi ei llwyr anghofio. Nid yw hyn, cofier, ond un engraipht, yn mhlith eraill, i ddangos dylanwad cryf llythyrau "Adda Jones" ar y wlad; a gellir edrych ar yr un enghraipht hon fel cymwynas gymdeithasol â'r cyhoedd, yn gystal ag fel tarawiad marwol i dwyll dynion drwg ac ofergoeledd pobl weiniaid.

Yn awr, rhwng yr oll o'r dylanwadau hyn, yn ychwanegol at y crybwyllion cyffredinol a wnaed ar ragoriaethau a diffygion ein llenyddiaeth newyddiadurol Gymreig, credwn ein bod wedi amcanu cerdded y maes oedd genym mewn golwg wrth gychwyn. Ymdrechasom, hyd ag yr oedd ynom, i gyfeirio at yr ysgrifau, erthyglau, dadleuon, &c., a barasant fwyaf o gynhwrf a sylw yn ein gwlad, a'r rhai a dybiem sydd wedi treiddio ddyfnaf i fywyd cenedlaethol y Cymry, er, ar yr un pryd, ein bod yn cofio mai nid yr ysgrifau mwyaf cynhyrfus bob amser ydynt y rhai mwyaf gwir ddylanwadol; ac os gadawsom unrhyw un neu rai heb eu henwi, pryd y dylasent gael eu henwi, nid oes genym ond datgan ein gofid, a dyweyd mai yn gwbl ddifwriad y bu hyny. Byddai yn dda genym, wrth derfynu gyda y rhan hon, pe byddai i newyddiaduron Cymru deimlo eu cyfrifoldeb, ac arfer eu holl ddylanwad er dyrchafiad cyffredinol y wlad, a thrwy hyny ogoneddu enw Duw; a thra y byddant ar y llinellau hyn, yr ydym, gyda chywirdeb calon, yn dymuno eu llwyddiant yn mhob ystyr, ac yn credu y dylai y wlad, yn mhob ffordd,

roddi ei chefnogaeth lwyraf iddynt.

PENNOD III

HANES Y CYLCHGRAWN CYMREIG.

CAREM, wrth gychwyn ar yr adranau hyn, roddi gair neu ddau fel eglurhad;—(1) Teg ydyw, cyn dechreu yn ffurfiol ar hanes y cylchgronau, rhoddi teyrnged ddiolchgar i'r hen Almanaciau Cymreig a ddeuent allan o'r wasg cyn gwawr y cyfnodolion. Mae hen Almanaciau T. Jones, J. Jones, Siôn Rhydderch, Siôn Prys o Iâl, Gwilym Howel, Cain Jones, J. Harris, Matthew Williams, John Roberts, &c., wedi bod o'r gwerth mwyaf. Darfu iddynt amddiffyn y Gymraeg mewn amseroedd tywyll, cadw hen ffeithiau dyddorol rhag myned ar ddifancoll, dysgu a goleuo eu darllenwyr, ac, yn arbenig, glirio y ffordd at gael llenyddiaeth uwch a mwy dibynol. (2) Bod amryw gylchgronau, er yn cael eu cyhoeddi yn gwbl yn yr iaith Seisonig, eto yn dal cysylltiad neillduol a hanes Cymru, ac wedi cyflawni gwasanaeth gwerthfawr, mewn gwahanol ffyrdd, i Gymru. Teg yw dyweyd, yn y cysylltiad hwn, fod gan amryw o'r Athrofeydd Cenedlaethol ac Enwadol yn Nghymru gylchgronau bychain Seisonig at eu gwasanaeth eu hunain. (3) Cyhoeddir rhai o'r cyhoeddiadau, sydd yn dal cysylltiad neillduol â Chymru, yn ieithyddol—gymysg—haner yn Gymraeg a haner yn Seisonig: a chan nas gellir eu hystyried yn hollol Gymreig, yn ystyr lythyrenol y gair, credwn y dylid rhoddi sylw byr iddynt, yn y fan hon, cyn dechreu ar hanes y cylchgronau cwbl Gymreig:—

(a) The Miscellaneous Repository, neu "Drysorfa Gymysgedig," yr hon a gychwynwyd yn y flwyddyn 1795. Golygid y cylchgrawn hwn gan y Parch. Thomas Evans, gweinidog gyda'r Undodwyr yn Aberdâr. Chwe' cheiniog ydoedd ei bris, ond ni ddaeth allan ond tri rhifyn.

(b) Cylchgrawn Cymru. Cyhoeddiad chwarterol ydoedd hwn, a gychwynwyd oddeutu dechreu y flwyddyn 1814, gan y Parchn John Roberts, Tremeirchion, a J. Evans, Llanbadarnfawr, a hwy hefyd oeddynt yn ei olygu. Cyhoeddid ef yn Nghaerlleon, ond ni ddaeth ychwaneg o hono allan na phedwar neu bump rhifyn.

(c) Y Bryd a Sylwydd, sef "Cyfrwng o Wybodaeth Gyffredinol." Daeth y rhifyn cyntaf allan ar Ionawr 15fed, 1828, a'i bris ydoedd saith geiniog. Bernir mai ei brif gychwynydd ydoedd Mr. Joseph Davies, cyfreithiwr, Lerpwl, ac argrephid ef gan Mr. J. Evans, Caerfyrddin. Ceir fod y ddau rifyn cyntaf ohono yn Gymraeg oll, ac yn y trydydd rhifyn (am Mawrth 15fed, 1828), ceir amryw erthyglau Seisonig, ac ar ol hyny parhaodd yn ieithyddol-gymysg, a symudwyd ef i gael ei argraphu. Ceid llawer o wybodaeth gyffredinol ynddo, ond rhoddwyd ef i fyny yn fuan, a bu ei gychwynwr yn ei golled drwyddo.

(d) Y Freinlen Gymroaidd. Cychwynwyd hwn yn y flwyddyn 1836, a chyhoeddid ef gan Mr. E. Williams, Aberystwyth, ond dros enyd fer y parhaodd.

(e) Yr Ymwelydd Cyfeillgar, neu, fel y gelwir ef weithiau, The Liverpool Friendly Visitor, a gychwynwyd yn 1880, gan y Parch. L. W. Lewis (B.), Lerpwl, ac a olygir hefyd ganddo ef. Er na chyhoeddir ef yn hollol gyson a difwlch o ran amser, eto ceir fod rhai ugeiniau o rifynau ohono wedi dyfod allan er ei gychwyniad. Cyhoeddiad lleol ydyw, a'i bris ydyw ceiniog, a'i brif amcan ydyw taenu gwybodaeth grefyddol mewn teuluoedd ag ydynt yn arfer y ddwy iaith, ac yn enwedig y teuluoedd hyny ag sydd yn esgeuluso moddion gras.

(f) Cymru Fydd.—Cyhoeddiad chwarterol ydoedd hwn, a gychwynwyd Ionawr, 1888, gan Mr. E W. Evans, Dolgellau. Ceir mai Mr. T. J. Hughes (Adfyfyr) a fu yn ei gyd—olygu â Mr. Evans, y cyhoeddwr, am y chwe' mis cyntaf, yna Mr. Evans ei hunan am y flwyddyn ddilynol, ac, oddiar Mehefin, 1889, hyd y diwedd, bu dan olygiad y Parch. R. H. Morgan, M.A., Porthaethwy, a Mr. O. M. Edwards, M.A., Rhydychain. Ei bris ydoedd chwe' cheiniog, a pharhaodd i ddyfod allan hyd Ebrill, 1891, pryd y rhoddwyd ef i fyny. Er rhoddi syniad am ei gynnwys, wele grynodeb, fel enghraipht, o'r rhifyn am Tachwedd, 1—90:—"Emynau Cymru, Englishmen's Questions, Caneuon Serch, Lady Gwen, Llenyddiaeth y Seiat, Aralliade, Political Notes," &c. Ymddengys na bu Cymru Fydd yn llwyddianus, a diau fod y ffaith mai dwyieithog ydoedd yn anfantais iddo, ac efallai fod ei bris yn ei erbyn, yn enwedig wrth gofio fod genym gynifer o gyfnodolion eraill ar y maes yn flaenorol, a chredwn fod llawer o'r Cymry darllengar yn teimlo, wrth ei ddarllen, ei fod i raddau yn cael ei nodweddu âg anaeddfedrwydd barn, tuedd at ddangos ffafriaeth at bersonau neillduol, a gogwydd at fod yn rhy annibynol ac anffaeledig. Nis gwyddom a ydoedd gwir achos dros y teimlad hwn—gall fod gwahaniaeth barn arno; ond, modd bynag, gwyddom mai pwysig iawn, wrth gychwyn cyhoeddiad o'r fath, ydyw bod yn eang, yn agored, yn barchus o'r hen lenorion Cymreig sydd wedi dal pwys a gwres y dydd, ac yn mhob modd i fod yn deg a boneddigaidd.

Credwn, er mwyn eglurder, mai mantais fyddai edrych ar hanes y Cylchgrawn Cymreig yn ei wahanol adranau: mae y pren hwn wedi gwreiddio yn ddwfn yn ein llenyddiaeth, ac wedi ymestyn allan mewn gwahanol ganghenau, a barnwn mai gwell, er cael syniad clir am hanes yr holl bren, ydyw ceisio edrych, i ddechreu, i hanes pob canghen ar ei phen ei hun. Mae y gwa hanol ganghenau cylchgronol hyn yn gwasanaethu i wahanol amcanion yn ol gwahanol alwadau ein cenedl:— (1) Y Cylchgrawn Crefyddol. (2) Y Cylchgrawn Llenyddol. (3) Y Cylchgrawn Cerddorol. (4) Y Cylchgrawn Athronyddol. (5) Y Cylchgrawn i'r Ysgol Sabbothol. (6) Y Cylchgrawn i'r Chwiorydd. (7) Y Cylchgrawn Cenhadol. (8) Y Cylchgrawn Dirwestol. (9) Y Cylchgrawn i'r Plant. (10) Y Cylchgrawn Cyffredinol.

1.—Y Cylchgrawn Crefyddol.

Trysorfa Ysprydol, 1799, Trysorfa, 1809, Goleuad Gwynedd, 1818, Goleuad Cymru, 1820, Y Drysorfa, 1831.—Yr ydym yn cysylltu y pump hyn oherwydd eu bod wedi eu cychwyn gan bersonau yn perthyn i'r un cyfundeb, yn gweithio ar yr un maes ac i'r un amcanion, ac, yn y diwedd, wedi ymgolli yn yr un cyhoeddiad. Cychwynwyd Trysorfa Ysprydol (Llyfr I.) gan y Parchn. T. Charles, Bala, a T. Jones, Dinbych, a daeth y rhifyn cyntaf ohono allan yn Ebrill, 1799. Ei bris ydoedd chwe' cheiniog. Wele eiriau wyneb-ddalen y rhifyn cyntaf:— "Trysorfa Ysprydol, yn cynnwys Amrywiaeth o bethau at amcan crefyddol, yn athrawiaethol, yn annogaethol, yn hanesiol, &c. Yn nghydag ychydig Farddoniaeth. Gan T. C. a T. J Caerlleon argraphwyd gan W. C. Jones. Pris chwe' cheiniog. Ac a fwriedir i'w gyhoeddi bob tris mis rhagllaw." Yn nglyn a'r rhifyn cyntaf a ddaeth allan o'r Trysorfa Ysprydol ceir "Llythyr at Mr. T. Jones, o'r Wyddgrug," yn cynnwys "Hanes Fer o fordaith lwyddiannus y Llong Duff,' yr hon a anfonwyd i drosglwyddo deg-ar-hugain o genhadon (missionaries) i bregethu yr Efengyl i drigolion Paganaidd Ynysoedd y Mor Deheuol, yn nghydag ychydig annogaethau i gynnorthwyo gorchwyl pwysfawr a chanmoladwy." Ysgrifenwyd ef gan "Thomas Charles, Llundain, Medi 9fed, 1798." Dyma un o'r llythyrau cyntaf, os nad y cyntaf oll, a ysgrifenwyd erioed ar y Genhadaeth Dramor yn yr iaith Gymraeg. Daeth allan o'r Trysorfa Ysprydol dri rhifyn yn y flwyddyn 1799, sef yn misoedd Ebrill, Mehefin, a Hydref. Daeth allan ddau rifyn yn y flwyddyn 1800, sef yn misoedd Ionawr a Hydref, a daeth y chweched rhifyn allan yn Rhagfyr, 1801. Dyna yr oll a ddaeth allan dan yr enw Trysorfa Ysprydol. Wedi i wyth mlynedd fyned heibio, sef yn y flwyddyn 1809, daeth y cyhoeddiad hwn allan drachefn dan yr enw Trysorfa (gan adael allan y gair Ysprydol), a gelwir hwn yn Llyfr II, dan olygiad y Parch. T. Charles ei hun. Daeth allan dri rhifyn ohono yn y flwyddyn 1809, sef yn misoedd Mawrth, Gorphenaf, a Rhagfyr. Daeth dau rifyn allan yn y flwyddyn 1810, sef yn misoedd Awst a Rhagfyr. Daeth dau rifyn allan yn y flwyddyn 1811, sef yn misoedd Mawrth ac Awst. Daeth tri rhifyn allan yn y flwyddyn 1812, sef yn misoedd Ionawr, Mehefin, a Medi; a daeth dau rifyn allan yn y flwyddyn 1813, sef yn misoedd Ionawr a Tachwedd, a chyda hyn y terfyna yr ail gyfrol. Bu farw y golygydd haedd-barch Hydref 5ed, 1814. Chwe' blynedd ar ol hyny, sef yn y flwyddyn 1819, ymddangosodd y cyhoeddiad hwn am y drydedd waith (Llyfr III.), dan olygiaeth y Parch. Simon Lloyd, Bala. Yn ystod y blynyddoedd 1819, 1820, ac 1821, deuai allan yn rheolaidd bob chwarter, yn misoedd Ionawr, Ebrill, Gorphenaf, a Hydref, ac eithrio un tro, sef Gorphenaf, 1820; a daeth allan dri rhifyn yn y flwyddyn 1822, yr olaf yn Gorphenaf, ar ddalen olaf yr hwn y ceir y geiriau, "Diwedd Cyfrol III" Dechreuwyd y bedwaredd gyfrol (Llyfr IV.) ya Mawrth, 1823, ond ni ddaeth allan o hono ychwaneg na deg rhifyn, sef rhai am Mawrth a Gorphenaf, 1823; Ionawr, Gorphenaf, a Rhagfyr, 1824; Mehefin a Hydref, 1825; Mawrth a Tachwedd, 1826; Awst, 1827, ac yna ciliodd yn sydyn a dirybydd, a bu am lawer blwyddyn cyn dyfod i'r golwg. Dylid dyweyd fod gan yr hen gylchgrawn hwn, yn y blynyddoedd hyny, gyd-ymgeisydd diwyd, oherwydd ceir yn mis Tachwedd, 1818, fod Goleuad Gwynedd yn cael ei gychwyn gan y Parch. John Parry, Caer, ac efe oedd yn ei olygu, ac argrephid ef gan Mr. J. Fletcher, Caerlleon. Cylchgrawn ydoedd hwn yn cynnwys cynnulliad o fyr-draethodau, hysbysiadau, addysgiadau, a choffadwriaethau, o natur foesol, difyrol, gwladol, ac eglwysig, yn nghydag amryw gyfansoddiadau mewn barddoniaeth." Nid oedd yn annhebyg, o ran ffurf a maintioli, i'r cyfnodolion presennol. Mae yn syndod fod ei argraphwaith, ar adeg mor gynnar, yn edrych mor ddestlus llythyren fras a glanwaith, papyr cryf a thrwchus, ac mewn diwyg dda. Er nad oedd unrhyw gysylltiad swyddogol rhyngddo a'r Methodistiaid Calfinaidd, eto, mae yn amlwg oddiwrth ei gynnwys, ei fod yn gwasanaethu, yn benaf, i amcanion y cyfundeb hwnw. Ar wyneb-ddalen y rhifyn cyntaf, ceir yr ymadroddion canlynol:—

"Eu Ner a folant
Eu hiaith a gadwant,
Eu tir a gollant,
Ond Gwyllt Walia."

Yn y rhagymadrodd i'r rhifyn am Rhagfyr, 1818, o Goleuad Gwynedd, dywed y golygydd: "Ond beth sydd gan y Cymro uniaith fel moddion goleuni Gwir yw ei fod wedi ei anrhydeddu â 'chanwyll y gorchymyn,' a 'goleuni y gyfraith,' ac â llusern oleuwawr Gair Duw,' a hyny yn ei iaith serchog a synwyrlawn ei hun, eithr fel cyfrwng goleuni a gwybodaeth dymmorol, ni fedd y Cymry yr un cylchdraeth wythnosol na misol ond Seren Gomer, yr hon sydd yn pelydru o eithaf Deheudir Cymru." Dengys hyn oll fod y cyhoeddiad hwn yn un gwerthfawr i oleuo y genedl yn y tymmor boreuol hwnw. Yn y flwyddyn 1820, newidiwyd ei enw o fod yn Goleuad Gwynedd i fod yn Goleuad Cymru. Parhaodd Goleuad Cymru i ddyfod allan hyd Rhagfyr, 1830, pryd y prynwyd yr hawl ynddo gan gyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd, a chychwynwyd ef o'r newydd dan yr enw Y Drysorfa. Daeth allan y rhifyn cyntaf yn Ionawr, 1831, a dyma yr adeg, mewn gwirionedd, y cychwynodd cylchgrawn swyddogol a rheolaidd y cyfundeb—Y Drysorfa —yn ei ffurf bresennol. Bu i'r Parch. John Parry, Caerlleon, barhau i olygu Y Drysorfa hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le ar Ebrill 28ain 1846. Yn Rhagymadrodd y Llyfr Cyntaf o'r Gyfres Newydd am y flwyddyn 1847, ceir nodiad gan y golygwyr yn hysbysu fod gostyngiad pris Y Drysorfa o chwe' cheiniog i bedair ceiniog, yr hyn a wnaed y flwyddyn hono, wedi bod yn fantais fawr i'w chylchrediad. Cytunwyd i ostwng ei phris yn Nghymdeithasfa Machynlleth, yr hon a gynnaliwyd yn Awst 1846, a thair mil a ddisgwylid a fuasai ei chylchrediad ar ol y gostyngiad, ond cododd i bum' mil y flwyddyn hono. Ymgymerwyd a'r olygiaeth (ar ol marwolaeth y Parch. John Parry, Caerlleon) gan y Parch. John Roberts, Lerpwl, ac yn Ionawr, 1848, ceir fod y Parchn. John Roberts, Lerpwl, a Roger Edwards, Wyddgrug, yn gyd-olygwyr; oud ceir yn Ionawr, 1853, fod y Parch. John Roberts yn ymneillduo o'r olygiaeth, ac o'r pryd hwnw hyd adeg ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Gorphenaf 19eg, 1886, pan ydoedd yn 76 mlwydd oed, golygid hi yn ddifwlch gan y Parch. Roger Edwards, Wyddgrug; a dylid dyweyd. wrth fyned heibio, gan ein bod yn son am dano ef, ei fod wedi cyflawni gwasanaeth gwerthfawr, rhwng pobpeth, i lenyddiaeth Cymru, a chredwn y deil ei enw yn anwyl gan ei gyd-genedl tra y parheir i son am y wasg Gymreig. Darfu i Gymanfa Gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd, wedi hyny, ddeisyf ar i'r Parchn. J. M. Jones, Caerdydd; N. Cynhafal Jones, D.D., Llanidloes; a J. Hughes, D.D., Caernarfon, ei golygu yn y cyfwng, hyd nes y pennodid golygydd rheolaidd. Y canlyniad a fu, ar ol cyd-ymgynghoriad, i'r Parch. Griffith Parry, D.D., Carno, gael ei bennodi i'w golygu, ac er Ionawr, 1887, hyd ddiwedd y flwyddyn 1892, efe ydoedd yn gweithredu; ac yn Ionawr, 1893, bydd y Parch. N. Cynhafal Jones, D.D., yn unol â phennodiad y Gymanfa Gyffredinol, yn dechreu ar ei waith fel golygydd iddi. Cyhoeddid ac argrephid hi, ar y dechreu, fel y sylwyd eisoes, gan y Parch. J. Parry, Caerlleon, ac wedi hyny argraphwyd hi gan Mr. T. Thomas, Eastgate-row, Caerlleon, ac yn ddilynol, yn y flwyddyn 1852, symudwyd hi i gael ei hargraphu, dros y cyfundeb, gan Mr. P. M. Evans, cyhoeddwr, Treffynnon, ac yno yr argrephir hi yn gyson o'r pryd hwnw hyd yn bresennol.

Trysorfa Efengylaidd, 1806.—Cychwynwyd y cyhoeddiad chwarterol hwn, yn y flwyddyn 1806. gan y Parch. Titus Lewis, Caerfyrddin. Ei brif ysgrifenwyr oeddynt y Parchn. Titus Lewis, Joseph Harries (Gomer), a Dafydd Saunders—yr oll yn weinidogion gyda'r Bedyddwyr. Nis gellir dyweyd iddo gael cefnogaeth y wlad, gan na ddaeth allan ond dau rifyn.

Yr Eurgrawn Wesleyaidd, 1809.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn, yn y flwyddyn 1809, gan y cyfundeb Wesleyaidd, ac y mae cysylltiad swyddogol wedi bod rhwng y cyfundeb hwnw o'r dechreuad âg ef, a chan y gweinidogion Wesleyaidd Cymreig y mae yr awdurdod i bennodi y golygwyr a'r argraphwyr. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw chwe' cheiniog. Bu gyrfa y cyhoeddiad hwn yn hynod symudol—yn cael ei symud i'w argraphu o'r naill fan i'r llall yn ol fel y bernid y byddai yn fwyaf manteisiol i'w ledaeniad. Bu cylchrediad Yr Eurgrawn yn "waradwyddus o isel" oddeutu amser ei symudiadau cyntaf, ond oddeutu y y blynyddoedd 1859-60 cododd yn dda, a gellir dyweyd, gyda llaw, fod y diwygiad crefyddol nerthol a brofodd ein gwlad yn y blynyddoedd hyny wedi bod yn fantais fawr i gylchrediad y misolion crefyddol. Yn Mhwyllgor y Llyfrfa, am y flwyddyn 1860, yr hwn a gynnwysai y Parchn. T. Jones, cadeirydd; H. Wilcox, ysgrifenydd; Lewis Jones, John Jones (trydydd), a Samuel Davies, golygydd a goruchwyliwr, penderfynwyd helaethu wyth tudalen yn fisol ar faintioli Yr Eurgrawn, yn cynnwys pedair tudalen o Hysbysiadau Cenhadol." Gyda golwg ar y diweddaf, teimlai y Pwyllgor y dylent ymgynghori â swyddogion y Tŷ Cenhadol Seisonig yn Lloegr, ac mewn atebiad derbyniasant yr hyn a ganlyn :-

"Wesleyan Mission House,
Bishop'sgate-street Within,
London, Oct. 16th, 1861.

MY DEAR SIR,—With respect to the resolution of your District proposing the publication of four pages of Missionary Notices in the Welsh language by you, the Committee look with favour on the proposal, but we wish to ascertain the probable cost. Can you say how many you propose to print, and what the cost will be? Of course a rough estimate is all we desire. We think the scheme is a good one, and calculated to be very useful.

I am, my dear sir,
Yours very affectionate,
W. B. BOYCE."

Rev. Samuel Davies.

Anfonwyd y wybodaeth a geisiai y Pwyllgor Cenhadol Seisonig, a chafwyd atebiad boddhaol. Y prif amcan o gyhoeddi yr Hysbysiadau Cenhadol yn Yr Eurgrawn ydoedd, ac ydyw, fod iddynt gael eu dar llen yn rheolaidd yn y Cyfarfod Gweddi Cenhadol y nos Lun cyntaf yn mhob mis. Blaenorir pob rhifyn o'r Eurgrawn, er y blynyddoedd cyntaf oll hyd yn bresennol, a darlun un o'r prif weinidogion Wesleyaidd Seisonig neu Gymreig. Wele restr o'r gwahanol olygwyr a fu ar Yr Eurgawn—o'r cychwyniad hyd yn bresennol:—Yn y flwyddyn 1809, Parch. John Bryan, ac eraill; 1810, Parch. Robert Roberts; 1811, Parch. John Jones; 1812, Parch. Hugh Carter; 1813—6, Parchn. David Rogers, David Jones (cyntaf), a David Jones (ail); 1817—20, Parch. Hugh Hughes; 1821—3, Parch. Edward Jones (trydydd); 1824—6, Parch. William Evans; 1827—30, Parch. John Williams (ail); 1831—8, Parch. Edward Jones (trydydd); 1839—41, Parch. Thomas Jones, D.D.; 1842—4, Parch. Isaac Jenkins; 1845—6, Parch. William Rowlands; 1847——8, y Parch. David Evans (ail); 1849—50, Parch. Henry Wilcox; 1851, Parch. John Jones; 1852, Mr. John Jones (Idrisyn); 1853—8, Parchn. W. Rowlands, a Henry Parry; 1859—63, Parch. Samuel Davies; 1864—75, Parch. William Davies, D.D.; 1875—85, Parch. Samuel Davies; ac er y flwyddyn 1885 hyd yn bresennol (1892) y mae yr olygiaeth yn llaw y Parch. Robert Jones (B), Bangor. Gwelir, yn ol yr uchod, er yr holl gyfnewidiadau, na bu ond un lleygwr erioed yn golygu y cylchgrawn hwn. Wele eto restr o'r rhai a fuont yn argraphu Yr Eurgawn—Yn y blynyddoedd 1809—11, Mr. Richard Jones, Dolgellau; 1812, Mr. B. Goakman, Llundain; 1813—6, Mr. Thomas Cordeax, Llundain; 1817—23, Mr Richard Jones, Dolgellau; 1824—6, Mr. Robert Jones, Llanfaircaereinion; 1827—35, Mr. John Jones, (Idrisyn), Llanidloes; 1836—46, Mr. John Mendus Jones, Llanidloes; 1847—52, Mr. John Jones, Llanidloes; ac er y flwyddyn 1853 hyd yn bresennol (1892) argrephir y cylchgrawn hwn gan Mr. John Mendus Jones, Llanidloes & Bangor. Er cymaint o gyfnewidiadau sydd wedi cymeryd lle yn yr olygiaeth a'r argraphwaith, mwy felly nag odid gyda'r un cyhoeddiad arall, eto da genym weled Yr Eurgraun wedi gor-oesi yr oll, a deil heddyw i edrych mor iach ac ieuanc ag erioed; ac yn yr ystyr o fod wedi parhau i ddyfod allan yn yr un ffurf, enw, cysylltiadau, amcanion, &c., o'r cychwyniad cyntaf hyd yn bresennol, gellir yn deg ei ystyried fel y cylchgrawn hynaf sydd yn fyw yn awr yn Nghymru, ac y mae y ffaith hono yn ychwanegu llawer at ei ddyddordeb.

Greal y Bedyddwyr, 1817, 1827.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn gyntaf yn Ionawr, 1817, gan y Parch. Joseph Harris (Gomer), ac efe oedd yn ei olygu, a bwriedid iddo fod yn gyhoeddiad enwadol yn dal cysylltiad â'r Bedyddwyr. Cynnwysai y rhifyn cyntaf hwn ddeuddeg-tudalen-ar-hugain, a cheid erthyglau ynddo ar "Athrawiaeth Iachus," "Pregeth ar Rhuf. viii. 32," "Sylwadau Athronyddol," "Gofyniadau," "Ymadroddion Detholedig," &c., ond drwg genym ddyweyd mai aflwyddiannus a fu y cais hwn, gan na ddaeth yr un rhifyn arall allan ar ol y cyntaf, ar gyfrif diffyg cefnogaeth. Cychwynwyd, modd bynag, gyhoeddiad arall o'r un enw, yn y flwyddyn 1827, gan gwmni lluosog yn perthyn i'r Bedyddwyr. Ei bris ydoedd chwe' cheiniog, ac elai yr elw i "weinidogion oedranus," a rhanwyd ugain punt fel elw y flwyddyn gyntaf, a £23 fel elw yr ail flwyddyn, ond ymddengys na ellid rhanu dim ar ol hyny. Dywedir, ar wyneb-ddalen y gyfrol gyntaf, ei bod wedi ei chyhoeddi dan olygiaeth "John Herring, Aberteifi," a dywedir ar wyneb-ddalen yr ail gyfrol, ei bod wedi ei chyhoeddi dan olygiaeth "John Herring ac eraill." Bernir mai wrth yr "eraill " hyn y meddylir Mr. Joshus M. Thomas, Aberteifi. Nid oes neb yn cael ei enwi ar wyneb-ddalen y drydedd gyfrol, ond ceir fod y rhagymadrodd wedi ei arwyddo gan "y golygwyr." Ni cheir enw neb, fel golygydd, ar yr un o'r tair cyfrol arall a gyhoeddwyd yn Aberteifi, ond arwyddir y rhagymadrodd, am y blynyddau hyn, gan "y golygydd," a bernir mai Mr. Joshua M. Thomas ydoedd hwnw. Gwelir mai am chwe' blynedd y cyhoeddwyd Greal y Bedyddwyr yn Aberteifi, ac argrephid ef yno, "dros y dirprwywyr," gan Mr. Isaac Thomas. Symudwyd ef, yn nechreu y flwyddyn 1833, i gael ei argraphu i Caerdydd. Nid oes son am hyn yn y cyhoeddiad ei hunan—ond gwelir oddiwrtho mai yn Aberteifi yr argraphwyd y rhifyn am Ionawr y flwyddyn hono, ac mai yn Caerdydd yr argraphwyd y rhifyn am Chwefror. Dengys y rhagymadrodd i'r gyfrol am y flwyddyn 1833, fod y cyhoeddiad hwn, erbyn hyny, wedi dyfod i feddiant Mr. John Jenkins a'i Feibion, Hengoed, a chymerodd hyn le yn unol â chytundeb y deuwyd iddo gyda dirprwywyr Greal y Bedyddwyr, yn y flwyddyn 1827. Ceir, ar ol hyny, fod yr holl ofal i olygu, ac i argraphu, y cylchgrawn hwn yn disgyn ar deulu Mr. Jenkins, a pharhaodd felly am bum' mlynedd, sef hyd ddiwedd y flwyddyn 1837. Gwelir felly fod y cyhoeddiad hwn, er nad yn dal unrhyw gysylltiad swyddogol â'r Bedyddwyr, wedi eu gwasanaethu yn ffyddlawn am oddeutu un-mlynedd-ar-ddeg, ac ar gyfrif amgylchiadau teuluaidd Mr. Jenkins y rhoddwyd ef i fyny.

Seren Gomer, 1818.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn gan y Parch. Joseph Harris (Gomer), a daeth y rhifyn cyntaf ohono allan ar Ionawr 28ain, 1818. Deusi allan, ar y cyntaf, fel cyhoeddiad pymthegnosol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Daeth allan yn y dull hwn am ddwy flynedd, ac yn nechreu y flwyddyn 1820, daeth allan yn fisol, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog. Parhaodd Gomer i'w olygu a'i gyhoeddi hyd Ebrill, 1825, a throsglwyddwyd ef i'r Parch. D. D. Evans, Caerfyrddin, a Mr. John Evans, argraphydd, &c. Parhaodd y Parch. D. D. Evans mewn cysylltiad â'r cyhoeddiad hyd ddechreu y flwyddyn 1835, ond eglur yw fod cysylltiad golygyddol rhwng Mr. Samuel Evans, awdwr y Gomerydd, ag ef, yn Tachwedd, 1827, a chydnabyddir ef fel "golygydd" yn Mai, 1830. Dywedir, ar wyneb-ddalen y gyfrol am y flwyddyn 1834, ei fod yn "gyhoeddedig gan y Parch. D. D. Evans, W. Evans, a'i Gyfeillion." Ymddengys fod y Parch. D. D. Evans a Mr. W. Evans yn gyd-gyhoeddwyr, a bod y Parch. D. D. Evans a Mr. Samuel Evans yn gyd-olygwyr hyd ddiwedd y flwyddyn 1834, ac felly daliai y Parch. D. D. Evans gysylltiad â'r olygiaeth ac a'r argraphwaith, ond mae yn amlwg mai ar Mr. Samuel Evans y disgynai rhan drymaf yr olygiaeth. Enwir Mr. W. Evans a'i Gyfeillion fel yr unig gyhoeddwyr am y blynyddoedd 1835-6. Cyhoeddwyd y gyfrol am y flwyddyn 1837 gan y Meistri Joshua Wilkins a Samuel Evans. Prynwyd Seren Gomer, yn niwedd y flwyddyn 1837, gan y Parch. Hugh William Jones, Caerfyrddin, ac efe a fu yn ei gyhoeddi o ddechreu y flwyddyn 1838 hyd ddiwedd y flwyddyn 1850. Argraphwyd ef blynyddoedd 1842—4 gan Mr. D. Williams, Caerfyrddin, a'r blynyddoedd 1845—56 gan ei weddw—Mrs. Alice Williams. Daeth hawl-ysgrif Seren Gomer, yn niwedd y flwyddyn 1850, yn feddiant i "wyth-ar-hugain o weinidogion y Bedyddwyr, heblaw gwyr lleyg, gydag awdurdod i ychwanegu at eu rhif." Y golygwyr yn y cyfnod hwn, yn y flwyddyn 1854, ac i bob golwg mai yr un rhai oedd er dechreu y flwyddyn 1851, oeddynt y rhai canlynol:—"Duwinyddiaeth a Chofiantau," Parch. J. Rowe; "Henafiaethau a Chelfyddydau," Paroh. W. Roberts; "Barddoniaeth," Parchu. E. Jones ac R. Ellis; "Hanesion," Parch. N. Thomas a Mr. W. M. Roberts; "Gofyniadau," &c., Parch. O. Michael. Dengys wyneb-ddalen y rhifyn am Ionawr, 1856, fod yr olygiaeth yn parhau yr un fath, gyda'r eithriad nad oedd neb ond y Parch. R. Ellis (Cynddelw) ei hunan yn golygu y farddoniaeth. Argraphwyd y gyfrol am y flwyddyn 1857 gan Mr. Josiah Thomas Jones, Aberdar. Cafodd y cyfrolau am y blynyddoedd 1858-60 eu hargraphu gan Mr. Daniel Joshua Davies, Abertawe, ac ar glawr y rhifyn am Ionawr, 1859, ceir yr olygiaeth yn sefyll fel y canlyn :-"Duwinyddol a Chofiantol," Parch. J. Rowe; "Celfyddydol a Henafiaethol," Parch. W. Roberts; "Barddonol," Parch. R. Ellis (Cynddelw); "Gofyniadau," Parch. O. Michael; "Tonau, Crybwyllion," &c., Parch. Benjamin Evans. Ceir yr un enwau am y flwyddyn 1860, oddigerth fod y Parch. J. Rowlands, Cwmafon, yn gofalu am y "Duwinyddol a'r Cofiantol," yn lle y Parch. J. Rowe. Ceir, modd bynag, ar ddiwedd y flwyddyn 1860, fod anhawsder wedi codi nad allai y pwyllgor a'r golygwyr ei ragweled, a'r canlyniad a fu i Seren Gomer sefyll, a bu hyn yn ddiwedd arni yn ei ffurf fisol i ddyfod allan. Ond, ar ol ystyried pobpeth, penderfynwyd ei dwyn allan yn chwarterol, a pharhaodd felly am yn agos i bedair blynedd. Daeth deg rhifyn allan yn ystod y blynyddoedd 1861—3, y rhai a argraphwyd gan Mr. W. Morgan Evans, Caerfyrddin. Golygid y Rhyddiaeth, &c., gan y Parchn. J. Rowe, Risca, ac Evan Thomas, Casnewydd, a'r Farddoniaeth gan y Parch. J. R. Morgan (Lleurwg), Llanelli. Cyhoeddwyd ychydig rifynau yn y flwyddyn 1864, y rhai a argraphwyd gan Mr. D. J. Thomas, Aberdar. Pris Seren Gomer o ddechreu y flwyddyn 1818 hyd ddiwedd y flwyddyn 1859, ydoedd chwe' cheiniog y rhifyn, ond yn nechreu y flwyddyn 1860 gwnaed gostyngiad, a daeth ei bris yn bedair ceiniog. Ceir, yn nechreu y flwyddyn 1880, fod cyfres newydd o'r Seren Gomer yn cael ei chychwyn gan Undeb Bedyddwyr Cymru, ac o'r adeg hono hyd y flwyddyn 1886, bu dan olygiaeth y Parch. E. Roberts, D.D., Pontypridd, ac o'r flwyddyn 1886 hyd yn bresennol (1892) golygir ef gan y Parch. H. Cernyw Williams, Corwen. Argrephir ef, ar ran yr Undeb, gan Mr. Jenkin Howell, Aberdar. Daw allan yn ddau-fisol, a'i bris ydyw chwe' cheiniog. Er fod y cyhoeddiad hwn wedi ei gychwyn gan un o'r Bedyddwyr, ac wedi parhau i gael ei olygu a'i gyhoeddi gan rai oedd yn Fedyddwyr, a diau mai Bedyddwyr oedd cyfangorph ei ysgrifenwyr drwy y blynyddoedd, er hyny, ceir fod llawer o'r elfen genedlaethol a chyffredinol ynddo, eto ystyrid ef bob amser, i raddau helaeth, fel yn perthyn i'r Bedyddwyr; ond, ar yr un pryd, ymddengys mai yn y flwyddyn 1880, pan y cychwynwyd ef gan Undeb Bedyddwyr Cymru, y daeth i ddal cysylltiad swyddogol a'r enwad, fel y cyfryw, a gellir edrych arno bellach fel eiddo yr enwad.

Y Dysgedydd, 1821; Yr Annibynwr, 1856.—Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf, fel math o gynllun (specimen) o'r Dysgedydd, yn Tachwedd, 1821, ond ni ddaeth allan yr un rhifyn ohono am Rhagfyr y flwyddyn hono. Ond, ar ol y rhifyn a ddaeth allan yn Ionawr, 1822, hyd yn bresennol, y mae wedi parhau i ddyfod allan yn rheolaidd bob mis. Cychwynwyd ef gan nifer o bersonau yn perthyn i'r Annibynwyr. Golygid ef, o'r cychwyniad hyd ddiwedd y flwyddyn 1852, gan y Parch. Cadwaladr Jones, Dolgellau. Yn nechreu y flwyddyn 1853, cymerwyd gofal yr olygiaeth gan y Parchn. W. Rees, D.D., Lerpwl; W. Williams (Caledfryn); R. Parry (Gwalchmai), Llandudno; Hugh Pugh, Mostyn; W. Ambrose (Emrys), Porthmadog; a T. Roberts (Scorpion), Llanrwst. Efallai y dylid dyweyd, yn y cysylltiad hwn, fod cyhoeddiad arall o'r enw Yr Annibynwr wedi ei gychwyn yn niwedd y flwyddyn 1856, dan nawdd pwyllgor perthynol i'r Annibynwyr. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Dynion ieuainc yr Annibynwyr, yn benaf, oeddynt ei gychwynwyr a'i brif gefnogwyr, a hwy oeddynt yn ysgrifenu fwyaf iddo. Ysgrifenydd y pwyllgor oedd Mr. C. R. Jones, Llanfyllin, a chauddo ef y cyhoeddid ac yr argrephid ef. Gellir enwi y diweddar Barch. J. Thomas, D.D., Lerpwl, fel un o'i brif hyrwyddwyr, a bu ef yn ei olygu am flynyddoedd. Arwyddair Yr Annibynwr, yn ol ei wyneb-ddalen, ydoedd "Ffydd, Gobaith, Cariad," ac elai yr enw oddiwrtho at gynnorthwyo gweinidogion oedranus. Yn nechreu y flwyddyn 1865, modd bynag, unwyd Yr Annibynwr gyda'r Dysgedydd, ac ychwanegwyd at yr olygiaeth y Parchn. J. Thomas, D.D., Lerpwl; Josiah Jones, Machynlleth; E. Williams, Dinas ; R. Thomas (Ap Vychan), Bangor; D. Rowlands, B.A., Llanbrynmair; a D. Milton Davies, Llanfyllin. Ceir, yn nechreu y flwyddyn 1873, fod yr olygiaeth wedi ei gosod ar y Parchn. W. Ambrose (Emrys), ac R. Thomas (Ap Vychan), Bangor. Cafodd y Parch. E Herber Evans, D.D., Caernarfon, yn y flwyddyn 1877, ei ychwanegu fel cyd-olygydd a'r Parch. R. Thomas (Ap Vychan), a bu y ddau yn cyd-lafurio hyd farwolaeth Mr. Thomas, yr hyn a gymerodd le Ebrill 23ain, 1880. Oddiar yr adeg hono hyd yn bresennol, y mae yr olygiaeth yn gwbl yn llaw y Parch. E. Herber Evans, D.D., Caernarfon. Daw Y Dysgedydd allan yn fisol, a'i bris ydyw pedair ceiniog. Mae yn ddealledig mai cyhoeddiad perthynol i'r Annibynwyr ydyw hwn, ac y mae yr elw oddiwrtho yn myned at gynnorthwyo gweinidogion a phregethwyr oedranus yn eu plith hwy. Argrephir ef, ar ran yr ymddiriedolwyr, gan Mr. William Hughes, Dolgellau.

Y Gwyliedydd, 1822.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn allan ar Medi laf, 1822. Cyhoeddiad perthynol i'r Eglwys Sefydledig ydoedd, a golygid ef, yn benaf, gan y Parch. Walter Davies (Gwallter Mechain), ac argrephid ef gan Mr. R. Saunderson, Bala. Ceir fod y Parchr. R. Richards, Caerwys; J. Roberts, Tremeirchion; J. Jenkins (Ifor Ceri), Ieuan Glan Geirionydd, Ioan Tegid, &c., yn mhlith ei ysgrifenwyr. Ei amcan, yn ol yr anerchiad "At y Cymry" a geir yn y rhifyn cyntaf ohono, sydd yn cael ei osod gerbron fel hyn:—"Dyben cyhoeddwyr Y Gwyliedydd ydyw bwrw had lle nad yw hadau eraill yn cyrhaedd. Nid cyhoeddiad o wrthwynebiad ydyw i un cyhoeddiad arall; ond cyd-gynnorthwy-ydd a phob un ohonynt yn yr achos mawr cyffredinol— achos yr Eglwys sydd ar wasgar trwy y byd." Ei arwyddair ydoedd: "Yn wyliedydd y'th roddais i dŷ Israel" (Ezec. xxxiii. 7). Deusi allan yn fisol, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog. Credwn fod y rhifyn olaf wedi dyfod allan yn Rhagfyr, 1837, ac felly gwelir mai am yn agos i bymtheg mlynedd y parhaodd, a chredwn, wrth ystyried pobpeth, mai anffawd oedd i gylchgrawn mor dda gael ei roddi i fyny. Ceid ynddo lawer o newyddion lleol o wahanol ranau Cymru. Rhoddid lle arbenig ynddo i hanesion Cymreig a chrefyddol, a gellir dyweyd yn ddibetrus mai un o'i neillduolion ydoedd rhagoroldeb ei farddoniaeth. Ystyrid ef yn gyhoeddiad tawel, di-ymosod, a boneddigaidd—yn ateb yn dda i dawelwch y wlad yn y cyfnod hwnw.

Cyfaill y Cymro, 1822.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Medi, 1822, dan olygiad gweinidogion yr Eglwys Sefydledig," ac argrephid of gan Mr. R. Saunderson, Bala. Deusi allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Edrychid arno fel math o fyr-grynhoad o'r Gwyliedydd, a diau ei fod dan yr un olygiaeth, ac yn gweithio i'r un amcanion. Ceid erthyglau da ynddo ar destynau fel y rhai canlynol:—"Enwogion yr Eglwys," "Am y Synagog a'i gwasanaeth," "Am Dduw," "Anerch at Dorwr Sabbothau," &c. Rhoddwyd ef i fyny yn fuan.

Cyfrinach y Bedyddwyr, 1827.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn gan nifer o'r Bedyddwyr yn Mynwy a Morganwg, a daeth y rhifyn cyntaf allan yn Ionawr, 1827, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog. Golygid y cyhoeddiad hwn gan y Parch. J. Jenkins, Hengoed, a dywed, yn ei anerchiad gychwynol, fod y cyhoeddiad yn cael ei sefydlu mewn canlyniad i "gytundeb a wnaed mewn Cwrdd Chwarter, Chwefror 4ydd, 1824." Elai yr elw tuagat gynnorthwyo gweinidogion methedig. Clywodd Mr. Jenkins fod cefnogwyr Y Greal am ei rhoddi i fyny yn niwedd y flwyddyn hono, ac am roddi eu cefnogaeth i Seren Gomer, ac yna anfonodd atynt i ddyweyd, yn hytrach nag iddynt wneyd hyny y rhoddai ef ei gyhoeddiad ei hunan i fyny yn ffafr Y Greal, ar yr ammod fod iddo ef a'i feibion gael cynnyg ar ei argraphu os byddent rywbryd yn newid y swyddfa. Darfu i gefnogwyr Y Greal dderbyn y cynnygiad hwn yn ddiolchgar, tra, ar yr un pryd, yn dyweyd nad oedd wedi bod o gwbl yn eu bwriad i roddi i fyny, ac felly, yn y dull hwnw, rhoddwyd Cyfrinach y Bedyddwyr i fyny ar ben flwyddyn.

Yr Efengylydd, 1831.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1831, gan nifer o'r Annibynwyr, a golygid of gan Mr. David Owen (Brutus), a chyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. William Rees, Llanymddyfri, a dywedir fod y Mr. W. Rees hwn yn un o'r argraphwyr goreu a fu erioed yn Nghymru, ac y mae yn amheus a oes yn yr iaith Gymraeg gyhoeddiad wedi ei argrapha, o ran gwaith, mor ragorol a'r Efengylydd. Parhaodd i ddyfod allan am bum' mlynedd, a rhoddwyd ef i fyny gan ei hyrwyddwyr, gan yr ystyrient nad ydoedd yn eu gwir gynnrychioli.

Y Cynniweirydd, 1834.—Oychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1834, dan ofal a golygiad y Parch. Owen Jones (Meudwy Môn), Llandudno, ac argrephid af gan y Meistri Lloyd, Wyddgrug. Deuai allau yn fisol, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog. Ei arwyddair ydoedd:"Llawer a gynniweiriant, a gwybodaeth a amlheir." Ystyrid ef yn gyhoeddiad crefyddol, ond cynnwysai lawer o wybodaeth gyffredinol. Wele, er enghraipht, gynnwys un rhifyn o hono:—"Duwinyddiaeth yw yr adran gyntaf, a cheir ynddi ysgrifau duwinyddol. "Yr Athraw" yw penawd yr ail adran, a cheir ynddi ysgrifau ymarferol, yn nghyda gofyniadau ac atebion. Gelwir y rhan farddonol yn "Y Caniedydd," a'r bywgraphiadau yn "Yr Hanesyddol." Yna ceir "Hysbysiadau Crefyddol," "Hanesion Tramor," "Newyddion Cartrefol," &c. Ni pharhaodd, modd bynag, ond hyd at ddiwedd y flwyddyn gyntaf.

Yr Haul, 1835.—Cychwynwyd y cylchgrawn hwn yn y flwyddyn 1835, dan olygiad Mr. D. Owen (Brutus), ac argrephid ef gan Meistri D. R. a W. Rees, Llanymddyfri. Darfu i Meistri Rees ymneillduo oddiwrth y fasnach argraphu, a gwerthwyd yr hawl i Brutus, a darfu iddo yntau, oddeutu ugain mlynedd ar ol hyny, wneyd trefniadau & Mr. W. Spurrell, cyhoeddwr, Caerfyrddin, i'w argraphu, a chan y Meistri Spurrell a'i Fab, Caerfyrddin, yr argrephir ef yn bresennol (1892). Parhaodd Brutus i olygu Yr Haul o'r cychwyniad hyd ddechreu y flwyddyn 1866, ac afiechyd, yr hwn a ddiweddodd yn angeuol, a ddarfu ei luddias rhag parhau yn hwy. Ar ol marwolaeth Brutus, golygid ef, am yapaid, gan Mr. W. Spurrell ei hun, er fod dau ohebydd arall yn arfer ysgrifenu llawer iawn iddo, sef y Parch. John Davies, B.D. (Hywel), ficer Llanhywel, Sir Benfro, a Mr. John Rowlands (Giraldus), yagol feistr, Caerfyrddin. Byddai gan y ddau hyn, mewn gwirionedd, ran yn yr olygiaeth gyda Mr. Spurrell ei hanan. Ystyrir Yr Haul, erbyn hyn, fel y cylchgrawn bynaf a berthyn i'r Eglwys Sefydledig yn Nghymru. Cofier mai anturiaeth bersonol hollol ydoedd cychwyniad yr Haul, ac felly y parhaodd hyd y flwyddyn 1885, pryd y prynwyd yr hawl ynddo gan Bwyllgor perthynol i'r Eglwys Sefydledig, ac ar yr adeg hon y pennodwyd y Parch. Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai), Llangwm, yn olygydd iddo, ac efe sydd, hyd yn bresennol (1892), yn parhau i'w olygu. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw tair ceiniog Ceir ynddo amrywiaeth, ac ymdrinir â llawer o faterion amserol a dyddorol. Rhaid i ni gyfeirio at anerchiad yr Archddiacon Howell, B.D., ar y testyn "Gweddi," yr hon a ymddangosodd yn y rhifyn am Chwefror, 1892, fel un hynod dda; a chawn gyfres o ysgrifau yn y cylchgrawn hwn, ar faterion fel y canlyn:—"Llenyddiaeth Eglwysig" (Mr. Charles Ashton, Dinas Mawddwy), "Gwyrthiau yr Arglwydd Iesu," ac adran fisol dan y penawd "Duwinyddiaeth," ac ysgrifau ar "Llan Cwm Awen," a "Chwedl Hanesig," ar ddull Rhamant, &c. Ei arwyddair ydyw: —"Yn ngwyneb Haul a llygad Golenni." "A Gair Duw yn Uchaf."

Y Diwygiwr, 1835.—Cofier mai pwyllgor perthynol i'r Annibynwyr yn y Deheudir a ddarfu gychwyn Yr Efengylydd, am yr hwn y soniwyd eisoes, a hwy oeddynt ei brif gefnogwyr. Ond, gan fod y pwyllgor yn credu fod Yr Efengylydd (dan olygiaeth Brutus) yn tueddu at fod yn rhy Geidwadol ei syniadau, &c., a chan fod hyny wedi arwain y pwyllgor i anghydwelediad gyda'r golygydd, torwyd Yr Efengylydd i fyny, a darfu i Brutus, mewn undeb â'i gyhoeddwr, gychwyn misolyn o'r enw Yr Haul, a darfu i'r pwyllgor uchod, ar y llaw arall, gychwyn cylchgrawn misol o'r enw Y Diwygiwr, a dechreuodd ddyfod allan yn y flwyddyn 1835, dan olygiaeth y Parchn. T. Davies, D.D., Llanelli, a T. Davies, Llandeilo, a hwynt-hwy a fu yn ei olygu, o'r pryd hwnw, hyd y flwyddyn 1873. Yna, o'r flwyddyn 1873 hyd y flwyddyn 1880, golygwyd ef gan y Parch. T. Davies, D.D., Llanelli; ac o'r flwyddyn 1880 hyd y flwyddyn 1889, gan y Parchn. E. A. Jones, Manordeilo, a D. A. Griffiths, Troedrhiwdalar; ac o'r flwyddyn 1880 hyd yn bresennol (1892) y mae dan olygiaeth y Parch. R. Thomas, Glandwr, ger Abertawe, a Watcyn Wyn, Ammanford. Argrephid ef, ar ei gychwyniad yn y flwyddyn 1835, gan y Meistri David Rees a John Thomas, Llanelli; ond, cyn hir ar ol hyny, daeth i gael ei argraphu gan y Meistri Rees a Williams, Llanelli, a hwy a fu yn ei argraphu hyd y flwyddyn 1860, ac oddiar hyny hyd yn bresennol (1892), argrephir ef gan Mr. B. R. Rees, Llanelli. Daw allan yn fisol, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog, ond oddeutu y flwyddyn 1853 gostyngwyd y pris i bedair ceiniog, ac felly y parhaodd hyd y flwyddyn 1890, ond ei bris oddiar hyny yn mlaen ydyw tair ceiniog. Cyhoeddir ef dan nawdd gweinidogion yr Annibynwyr," ac er nad oes unrhyw gysylltiad swyddogol rhyugddo â'r Annibynwyr, eto yn eu plith hwy y derbynir ef fwyaf, ac yn enwedig felly yn y Deheudir. Ystyrir af yn gyhoeddiad crefyddol da.

Y Pregethwr, 1835, 1890.-Cychwynwyd cyhoeddiad dan yr enw hwn, i ddechreu, yn y flwyddyn 1835, gan Mr. John Jones, cyhoeddwr, Lerpwl, a chyhoeddid ynddo, o fis i fis, wahanol bregethau gan wahanol weinidogion perthynol i'r Methodistiaid Calfinaidd, ond ni pharhaodd yn hwy na deng mlynedd. Yn mis Ionawr, 1890, cychwynwyd cyhoeddiad arall o'r enw Y Pregethwr gan Mr. H. Evans, cyhoeddwr, Bala, ac efe hefyd sydd yn ei argraphu. Cyhoeddiad anenwadol ydyw hwn, a chyhoeddir pregeth ynddo, bob mis, gan weinidog o un o'r pedwar enwad—Bedyddwyr, Wesleyaid, Annibynwyr, a'r Methodistiaid Calfinaidd. Daeth allan, i gychwyn, dan olygiad y Parchn. D. Roberts (M.C.), Rhiw, Ffestiniog; Abel J. Parry (B.), Cefnmawr; Hugh Hughes (W.), Birkenhead; a D. Evans (A.), Heol Awst, Caerfyrddin. Ei bris ydyw ceiniog. Ei arwyddair ydyw : "Chwiliodd y Pregethwr am eiriau cymeradwy." Yn y rhifyn cyntaf a ddaeth allan ohono ceir darlun o'r Parch. A. J. Parry, Cefnmawr, a phregeth ganddo ar "Peryglon Gwrthgiliad," seiliedig ar Heb. vi. 1-6. Hefyd, yn yr un rhifyn, ceir erthyglau byrion ar "Geiriau Italaidd y Beibl," "Cynghorion syml i bregethwyr ieuainc ac eraill" (gan Hen Weinidog), a darnau barddonol ar "Brwydr y Groes" (Hwfa Môn), ac "Amser."

Y Seren Ogleddol, 1835.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn nechreu y flwyddyn 1835, dan olygiad a nawdd dirprwywyr y Gymdeithas er taenu gwybodaeth Eglwysig," a chyhoeddid ac argrophid of gan Mr. Josiah Thomas Jones, Caernarfon. Ei arwyddair, yn ol y wyneb-ddalen, ydoedd: "Profwch bobpeth, a deliwch yr hyn sydd dda." Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog. Prin y parhaodd i orphen dwy flynedd.

Yr Ystorfa Weinidogaethol, 1838, Ystorfa y Bedyddwyr, 1838. Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r Ystorfa Weinidogaethol yn Mawrth, 1838, yn cael ei gyhoeddi a'i olygu gan y Parchn. W. a D. Jones, Caerdydd, ac argrephid of gan Mr. Ll. Jenkins, Caerdydd. Pedwar rhifyn ddaeth allan ohono. Un peth hynod ddyddorol, yn enwedig i'r cyfundeb a'i cefnogai, yn nglyn â'r Ystorfa Weinidogaethol, ydyw y ffaith mai ynddo ef y cyhoeddwyd y "Llythyr Cymanfa" cyntaf erioed a argraphwyd yn Nghymru. Yr oedd ei olygwyr wedi datgan eu dymuniad ar i'r cylchgrawn hwn fod yn eiddo i'r enwad, ac yn unol â phenderfyniad Cyfarfodydd Chwarterol Dinbych, Fflint, a Meirion, yn Ebrill, 1838, a phenderfyniad Cyfarfod Chwarterol Morganwg yn mis Mai, o'r un flwyddyn, daeth y cyhoeddiad hwn yn eiddo i'r enwad, a phob rhanbarth i dderbyn elw oddiwrtho yn ol y nifer a dderbynid ohono. Daeth y rhifyn nesaf allan, yn unol â'r cyfnewidiad hwn, yn Gorphenaf, o'r un flwyddyn, dan yr enw Ystorfa y Bedyddwyr. Er i'r cyhoeddiad gael ei alw ar enw newydd, ac er iddo ddyfod yn feddiant i'r cyfundeb, eto ni wnaed unrhyw gyfnewidiad yn nodwedd ei gynnwys, a'r un personau oeddynt yn parhau i'w olygu, ac yn yr un swyddfa yr argrephid ef. Rhoddwyd y cylchgrawn hwn i fyny yn lled sydyn, hyny ar gyfrif diffyg cefnogaeth, a'r rhifyn am Mehefin, 1841, oedd yr olaf ohono a ddaeth allan.

Y Cenhadydd Cymreig, 1840, Y Cenhadydd, 1841.— Cychwynwyd y Cenhadydd Cymreig yn Chwefror, 1840, gan y Parchn. W. R. a T. Davies, Merthyr, ac argrephid ef, i ddechreu, gan Mr. T. Price, Heol Fawr, Merthyr Tydfil, ond, ar ol y flwyddyn gyntaf, argraphwyd ef gan Mr. Ll. Jenkins, Caerdydd. Rhoddodd y Parch. Thomas Davies yr olygiaeth i fyny ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, ac felly disgynodd yr olygiaeth ar y Parch. W. R. Davies ei hunan. Newidiwyd enw y cyhoeddiad hwn, oddeutu canol y flwyddyn 1841, i fod yn Y Cenhadydd, ond rhoddwyd ef i fyny oddeutu tair blynedd ar ol hyny.

Y Bedyddiwr, 1841, Y Gwir Fedyddiwr, 1842, Y Bedyddiwr, 1844.—Cychwynwyd Y Bedyddiwr cyntaf yn y fiwyddyn 1841, gan y Parch. John Jones (Jones, Llangollen), gweinidog gyda'r Annibynwyr, Llangollen. Bu ef mewn dadleuon ffyrnig â'r Bedyddwyr, a chychwynodd y cylchgrawn hwn er mwyn cael cyfleusderau i amddiffyn taenelliad a bedydd babanod. Prin y parhaodd i ddyfod allan am ddwy flynedd. Y canlyniad a fu, modd bynag, i'r cyhoeddiad hwn er amddiffyn taenelliad, fod yn achlysur i Mr. Ll. Jenkins, Caerdydd, gychwyn cyhoeddiad o'r enw Y Gwir Fedyddiwr, yr hwn a fwriedid i wrth-weithio dylanwad cyhoeddiad y Parch. John Jones. Cyhoeddid a golygid Y Gwir Fedyddiwr gan Mr. Ll. Jenkins ei hunan, a daeth y rhifyn cyntaf allan yn Ionawr, 1842. Barnwyd, ar ol i gyhoeddiad Mr. Jones, Llangollen, gilio oddiar y maes, mai mwy priodol a fuasai newid enw Y Gwir Fedyddiwr yn Y Bedyddiwr, a daeth allan dan yr enw newydd hwn yn nechreu y flwyddyn 1844. Rhoddodd Mr. Jenkins yr olygiaeth a'r argraphu i fyny yn niwedd Mehefin, 1844, pryd y cymerwyd yr olygiaeth gan y Parch. W. Owen, Caerdydd, yr hwn hefyd, gyda Mr. R. Roberts, oedd yn ei gyhoeddi ac yn ei argraphu. Parhaodd y Parch W. Owen i'w olygu hyd ddiwedd y flwyddyn 1852, pryd yr ymgymerwyd â'r olygiaeth gan y Parch. D. Jones, Caerdydd. Ymddengys mai y Parch. W. Owen ei hunan oedd yn ei gyhoeddi ac yn ei argraphu o Mehefin, 1849, hyd ddiwedd y flwyddyn 1854, oherwydd ni cheir enw Mr. R. Roberts yn nglyn â'i enw of ar ol Mai, 1849. Bu yr olygiaeth yn llaw y Parch. D. Jones o ddechreu y flwyddyn 1853 hyd ei farwolaeth, Tachwedd 8fed, 1854. Bu yr olygiaeth, ar ol hyny, dan ofal Mr. Samuel Evans, hen olygydd Seren Gomer, hyd nes y bu yntau farw, Awet 30ain, 1856, ac oddiar hyny, hyd derfyniad y gyfres gyntaf o'r Y Bedyddiwr, yn niwedd y flwyddyn 1859, bu dan olygiaeth y Parch. N. Thomas, Caerdydd. Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r gyfres newydd, yn Ionawr, 1861, dan ofal y golygwyr canlynol:—"Duwinyddol a Gwladgarol," Parch. N. Thomas, Caerdydd; "Cofiannol a Henafiaethol," Parch. J. Emlyn Jones; "Celfyddyddol a Barddonol," Mr. Aneurin Jones; "Hanesion Cyfarfodydd a Digwyddiadau," Parch. J. G. Phillips, Llantrisant; "Holiadau, Atebion," &c., Parch. C. Griffiths, Merthyr. Yr argraphydd am y flwyddyn 1861 oedd Mr. Henry Evans, Newport; daeth allan y rhifyn am Mai, 1862, o swyddfa Mr. Aneurin Jones, ac oherwydd cyfnewidiadau yn y swyddfa, ni ddaeth yr un rhifyn allan am y fiwyddyn hono ar ol mis Awst. Daeth allan drachefu yn rheolaidd o swyddfa Mr. Aneurin Jones, Gelligroes, hyd Ebrill, 1864. Argraphwyd y rhifynau am Mai a Mehefin, 1864, gan Mr. D. J. Thomas, Aberdar, ac oddiar Gorphenaf, 1864, hyd ei ddiwedd yn Medi, 1868 cyhoeddid ac argrephid of gan y Parch. W. Roberts, Blaenau, a dyna y rhifyn olaf ohono a ddaeth allan. Diweddodd yn sydyn a hollol ddirybydd. Parhaodd, fel y gwelir, er cyfarfod llawer siomedigaeth, a myned trwy amryw gyfnewidiadau, i redeg am oddeutu pum'-mlynedd-ar hugain. Er nad oedd unrhyw gysylltiad swyddogol rhyngddo âg enwad y Bedyddwyr, eto, i bob pwrpas ymarferol, ganddynt hwy y cefnogwyd ef drwy y blynyddoedd hyn.

Blaguryn y Diwygiad, 1842, Gedeon, 1855.—Cychwynwyd Blaguryn y Diwygiad yn y flwyddyn 1842, a chyhoeddid a golygid of gan y Parch. W. Jones, gweinidog yr Eglwys Rydd Unedig, Aberystwyth. Ymddengys fod y cyhoeddiad hwn dan nawdd a chefnogaeth rhai oedd wedi gadael enwad y Wesleyaid, ac edrychai y cyfundeb Wesleyaidd arno gyda chasineb. Prin y parhaodd am flwyddyn. Cychwynwyd, gan yr un hyrwyddwyr, ac i'r un amcanion, gyhoeddiad misol arall dan yr enw Gedeon, a gellir edrych arno fel ail-gychwyniad i Blaguryn y Diwygiad. Oes fer a gafodd.

Y Drysorfa Gynnulleidfaol, 1843.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn, yn y flwyddyn 1843, dan olygiad y Parch. William Jones, ac argrephid ef, ar ei gychwyniad, gan Mr. Evan Griffiths, Abertawe. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Symudwyd ef, yn y flwyddyn 1847, i gael ei argraphu gan Mr. Josiah Thomas Jones, Caerfyrddin, a thra yno, yr ydoedd dan olygiaeth y Parch. Hugh Jones. Ei arwyddair, yn ol y wyneb ddalen, ydoedd: "Llawer a gynniweiriant, a gwybodaeth a amlheir." Ceir, yn y flwyddyn 1848, fod y golygydd yn addaw amryw erthyglau oddiwrth y Parch. W. Williams (Caledfryn). Ni pharhaodd yn hir.

Y Beirniadur Cymreig, 1845.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cylchgrawn hwn yn Ionawr, 1845, a chychwynwyd ef gan y Parch. John Mills, yr hwn, ar y pryd, yn byw yn Rhuthyn, ac efe hefyd oedd yn ei olygu. Argrephid ef gan Mr. Ishmael Jones, Llanelwy. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd pedair-ceiniog-a-dimai. Yatyrid ef yn gyhoeddiad hollol annibynol ar bob plaid grefyddol. Cynnwysai ysgrifau ar Llenyddiaeth Ysgrythyrol ac Eglwysig, Duwinyddiaeth, Y Genhadaeth, Hanesiaeth Grefyddol, Llenyddiaeth Gyffredinol, Gwleidyddiaeth," &c. Dywedir yn y Rhaglith" am Ionawr, 1845 "Ein hamcan yn cyhoeddi Y Beirniadur yw gosed llyfryn yn nwylaw yr efrydydd Cymreig fydd yn debyg o eangu ei feddwl a gwellhau ei galon." Rhoddid sylw arbenig ynddo i Eglurhadaeth Ysgrythyrol, a byddai athroniaeth (naturiol a moesol), seryddiaeth, daearyddiaeth, barddoniaeth, cerddoriaeth, ac areithyddiaeth, &c., yn cael lle ynddo, ac ofnwn ei fod braidd o nodwedd rhy uchel i'r lluaws, y pryd hwnw, i allu ei fwynhau, a hyn, yn gystal ag ychydig o gam-ddealltwriaeth rhwng y golygydd a'r cyhoeddwr, a fu yn achos iddo i gael ei roddi i fyny yn fuan iawn. Maintioli Y Beirniadur Cymreig, yn y flwyddyn 1845, ydoedd deuddeg-plyg, ond yn y flwyddyn 1846, newidiwyd ef i wyth-plyg o faintioli mwy, a chymerwyd yr olygiaeth gan y Parch. David Hughes, B.A., Tredegar (yr adeg hono yn Bangor), ac awdwr Geiriadur Ysgrythyrol a Duwinyddol, &c. Bechan modd bynag, a fu y gefnogaeth, fel na ddaeth allan o gwbl ond chwe' rhifyn o hono am y flwyddyn hono.

Y Tyst Apostolaidd, 1846.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ebrill, 1846, dan olygiad y Parch. R. Ellis (Cynddelw), yr hwn, ar y pryd, oedd yn gweinidogaethu yn Glynceiriog, ac argrephid ef gan Mr. W. Williams, Llangollen. Ei bris ydoedd tair ceiniog. Ystyrid yr argraphwasg hon yn Llangollen fel un oedd wedi ei chodi er budd yr enwad, a chychwynid y cyhoeddiad hwn, yn un peth, er mwyn rhoddi gwaith iddi, a theimlid hefyd fod anghen rhywbeth rhatach na cylchgronau chwe' cheiniog y mis, yr hyn ydoedd pris Seren Gomer a'r Bedyddiwr. Daeth allan yn unffurf a rheolaidd hyd ddiwedd y flwyddyn 1850, pryd ar ddechreu y flwyddyn 1851, yr unwyd ef a'r Athraw i Blentyn, a galwyd ef am y mis Ionawr hwnw yn Yr Athraw, ond oddiar hyny hyd ddiwedd y flwyddyn, pryd y rhoddwyd ef i fyny, galwyd ef ar yr hen enw. Gwelir felly, wrth gyfrif y gyfrol plyg bychan am y flwyddyn 1851, fod chwe' cyfrol o'r Tyst Apostolaidd wedi dyfod allan.

Yr Eglwysydd, 1847, Y Cenhadur Eglwysig, 1853, Yr Eglwysydd a'r Cenhadydd Eglwysig, 1855.—Cychwynwyd Yr Eglwysydd yn nechrau y flwyddyn 1847, dan nawdd elerigwyr Esgobaethau Bangor a Llanelwy, ac argrephid ef, i ddechreu, gan Mr. William Morris, cyhoeddwr, Treffynon, a symudwyd ef drachefn i'w argraphu yn Rhyl. Ei arwyddair, ar y wyneb-ddalen. ydoedd: "Ceisiwch ragori tuagat adeiladaeth yr Eglwys" (1 Cor. xiv. 12). Dywedir mai colled arianol a fu ei gychwyniad. Ceir, modd bynag, fod cylchgrawn o'r enw Y Cenhadwr Eglwysig wedi ei gychwyn yn y flwyddyn 1853, dan olygiad y Parch. Edward Jones, Llanfaircaereinion, ac yr oedd hwn hefyd yn dal cysylltiad a'r Eglwys Sefydledig, ac argrephid ef yn Llundain. Yn y flwyddyn 1855, unwyd y cyhoeddiadau hyn, a daethant allan dan yr enw Yr Eglwysydd a'r Cenhadydd Eglwysig, ac felly yr oedd yn un cyhoeddiad cryfach a helaethach na'r ddau ar wahan fel o'r blaen, a'i bris yn awr ydoedd dwy geiniog. Parhaodd i ddyfod allan yn y ffurf hon yn rheolaidd hyd y flwyddyn 1864, pryd y rhoddwyd ef i fyny.

Yr Ymofynydd, 1847.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1847, gan y Parch. John Jones, Penybont, yr hwn a fu yn ei olygu gyntaf, ac ar ei ol ef ymgymerwyd â'r olygiaeth gan y Parch. J. Jones, M.A., Aberdar, ac argrephid ef gan Mr. J. Howell, Aberdar. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Ni pharhaodd yn hir. Amcan ei gychwyniad allan ydoedd er "gosod gerbron y cyhoedd yr egwyddorion a ddelir allan gan y Bedyddwyr Albanaidd."

Y Geiniogwerth, 1847, Y Methodist, 1851.—Cychwynwyd Y Geiniogwerth yn y flwyddyn 1847, gan Mr. T. Gee, Dinbych, yr hwn hefyd ydoedd yn ei gyhoeddi, ac yn ei argraphu, a than olygiad y Parch. Lewis Jones, Bala. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Gyda golwg ar amcan y cyhoeddiad hwn, dywed ei gyhoeddwyr yn y Rhagymadrodd i'r drydedd gyfrol o hono: "Ein prif amcan yw ymladd â phechodau yr oes," a dengys ei gynnwys fod hyny yn hollol wir. Ceid erthyglau da ynddo ar destynau fel y canlyn:—"Dyledswydd dyn tuagat ei gymydog." "Mangre genedigaeth ein Gwaredwr," "Dr. Franklin," "Hen Arferion," "Pennod yr Athronydd," "Anniweirdeb Cymru," "Cyfammodwyr Ysgotland," &c. Gwnaed cyfnewidiad gyda golwg arno yn y flwyddyn 1851: rhoddwyd ef i fyny yn y ffurf oedd arno, a chychwynwyd ef dan enw newydd, sef Y Methodist, gan yr un cyhoeddwr, ac argrephid ef yn yr un swyddfa ag o'r blaen. Ei bris, ar ol y cyfnewidiad, ydoedd ceiniog-a-dimai. Rhoddwyd ef i fyny cyn hir. Ymddengys i ni mai gresyn ydoedd gadael i'r Geiniogwerth fyned i lawr mor fuan, gan fod yn dra sicr ei fod yn un o'r misolion gorau, yn ol ei faint, a gyhoeddwyd erioed yn yr iaith Gymraeg. Modd bynag, yn Gorphenaf, 1854, ail-gychwynwyd cylchgrawn o'r enw Y Methodist dan olygiaeth y Parch. Edward Morgan, Dyffryn, ac argrephid ef gan Mr. Owen Mills, cyhoeddwr, Llanidloes. Ei bris, y tro hwn, ydoedd dwy geiniog, a deuai allan yn fisol. Ni ddarfu iddo barhau i ddyfod allan yn hir ar ol ei ail-gychwyniad. Er nad oedd cysylltiad swyddogol rhyngddo â'r Methodistiaid Calfinaidd, eto gwasanaethai bron yn gwbl iddynt hwy.

Udgorn Seion, 1849.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1849, ae argrephid ef, i ddechreu, gan Mr. John Davies, argraphydd, Merthyr Tydfil. Cylchgrawn ydoedd yn perthyn i'r Mormoniaid, neu fel y gelwir hwy weithiau yn "Seintiau y Dyddiau Diweddaf," a hwy oeddynt yn ei gefnogi, ac yn ei gario yn mlaen. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Ei arwyddair, ar y wyneb-ddalen, ydoedd:

"Deuwch allan ohoni hi
(Sef Babilon) fy mhobl i."

Ceid ynddo ysgrifau ar destynau fel y rhai canlynol:—

"Barn Ddidrugaredd," "Y Cholera," "Ymogelwch rhag y Gau-Seintiau," "Canu," "Anghyfnewidioldeb Duw," "Offeiriadaeth," &c. Bu yn cael ei argraphu, o dro i dro, mewn gwahanol swyddfeydd, megis eiddo y Meistri D. Jones, 14, Castle-street, Merthyr Tydfil; D. Jones, Abertawe; G. Cannon, Islington, Lerpwl; Daniel Daniels, Abertawe; a Benjamin Evans, eto. Cawn fod gostyngiad i geiniog-a-dimai wedi cymeryd lle yn ei bris yn ystod y flwyddyn 1861. Yr oedd yn gyhoeddiad destlus, yn cynnwys un-ar-bymtheg o dudalenau, a pharhaodd i ddyfod allan am flynyddoedd.

Y Wawrddydd, 1850.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1850, a golygid ac argrephid ef gan Mr. Josiah Thomas Jones, Caerfyrddin. Cyhoeddiad bychan iawn ydoedd, a deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dimai. Ber a fu ei oes.

Y Cylchgrawn, 1851.-Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ebrill, 1851. Golygid ef, ar ei gychwyniad, gan y Parch. W. Williams, Penclawdd (Abertawe yn awr), a Mr. John Howell (Bardd Coch), Pencoed, ac argrephid of gan Mr. J. Rosser, Heathfield-street, Abertawe. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd pedair ceiniog, a chyhoeddid ef dan nawdd Trefnyddion Calfinaidd y Deheudir. Daeth y rhifyn olaf o'r gyfres hon allan yn Mawrth, 1855. Yn Ionawr, 1862, modd bynag, ail-gychwynwyd ef, ac ymddengys, yn y cyfnod hwn, fod y gohebiaethau i'w hanfon i un neu arall o'r rhai canlynol—Parchn. E. Matthews, Penybont; W. Thomas (Islwyn), T. James, M.A, Llanelli; Mr. J. Rosser, Abertawe; ac yn nechreu y flwyddyn 1864, ychwanegwyd atynt Mr. W. Davies (Teilo), Llandeilo, a dengys hyn oll fod yr olygiaeth, i raddau, dan ofal amryw, ond yn benaf yn llaw Mr. Matthews. Argraphid y gyfres hon eto, hyd ddiwedd y flwyddyn 1863, yn swyddfa Mr. J. Rosser, Abertawe, pryd, yn Ionawr, 1864, y symudwyd ef i gael ei argraphu gan Mr. D. Williams, Llanelli. Daeth, mewn amser, gyfnewidiad drachefn dros y trefniant hwn, a bu Y Cylchgrawn yn cael ei ddwyn allan dan nawdd pwyllgor o wahanol Gyfarfodydd Misol y Deheudir, yr hwn bwyllgor oedd hefyd yn gweithredu mewn cysylltiad ag Athrofa Trefecca, a darfu i'r pwyllgor hwn bennodi y Parch. W. Williams, Abertawe, yn olygydd, ac ar ol hyny, ar wahanol adegau, bu dan olygiaeth y Parchn. J. Cynddylan Jones, D.D., Caerdydd; J. M. Jenkins, Ph.D., Llanfairmuallt; J. Morgan Jones, Caerdydd, ac yn diweddaf oll dan olygiaeth Mr. D. Richards (Calfin), Llanelli, yn nghyd â'i berchenog hefyd. Bu yn dyfod allan yn y dull hwn am rai blynyddoeddyn codi ac yn machludo bob yn ail, ac, o'r diwedd, ciliodd yn llwyr. Ceir, er hyny, ei fod wedi ail-gychwyn eto yn Ionawr, 1891, dan olygiaeth y Parch. John Owen, Burry Port, a golygir ei farddoniaeth gan y Parch. L. Rhystyd Davies, Amman View, R.S.O., ac argrephir ef eto gan y Meistri D. Williams a'i Fab, Llanelli. Daw allan yn fisol, a'i bris yn awr ydyw dwy geiniog. Dywed y golygydd, yn ei anerchiad gychwynol i'r gyfres hon, mai amcan Y Cylchgrawn ydyw gwasanaethu Cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd yn y De drwy "gymeryd maes iddo ei hun sydd yn cael ei esgeuluso gan bawb."

Yr Hyfforddwr, 1852, Yr Hyfforddiadur, 1855.—Cychwynwyd Yr Hyfforddwr yn Ionawr, 1852, dan olygiaeth Mr. John Edwards (Meiriadog), Llanfair, ac argrephid ef gan Mr. George Bayley, Heol Estyn, Gwrecsam. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Ymddengys mai cylchgrawn yn perthyn i'r adran hono o'r Bedyddwyr a elwir yn Disgyblion, neu yn fynychaf yn Campbelliaid, ydoedd hwn, a defnyddid ef, yn benaf, er gwasanaethu amcanion y cyfryw. Cawn, yn Ionawr, 1854, fod y cylchgrawn wedi ei helaethu yn llawer mwy, a chodwyd ei bris i ddwy geiniog. Ceir, modd bynag, yn Ionawr, 1855, fod y cylchgrawn hwn yn cael newid ei enw yn Yr Hyfforddiadur, a pharhaodd i gael ei olygu gan Meiriadog fel o'r blaen, ac am yr un bris ag o'r blaen, ac argrephid ef gan Mr. James Lindop, Heol-yr-Eglwys, Gwrecsam. Ei arwyddair, o'r cychwyn, ydoedd: "Yn nawdd Duw a'i dangnef—Y Gwir yn erbyn y byd." Ceir erthyglau ynddynt ar destynau fel y rhai canlynol:—"Galw yr Apostolion," "Cwpan Christ a Chwpan y Saint," "Prophwydoliaeth Ioan Fedyddiwr," "Anghrist yr Oes hon," "Samariaeth," "Ffydd," &c.

Y Greal, 1852.—Cychwynwyd y cyhoeddiad misol hwn, dan yr enw Y Greal, yn Ionawr, 1852, gan Mr. W. Williams, Llangollen, ac efe hefyd oedd yn ei argraphu. Golygid yr oll o'r ddwy gyfrol gyntaf (oddieithr yr hanesion) gan y Parch. R. Ellis (Cynddelw), a golygid yr hanesion am y blynyddoedd hyny gan y Parch. E. Roberts, D.D., Pontypridd. Arolygid y cyhoeddiad hwn am y flwyddyn 1854 gan y Parch. J. Pritchard, D.D., Llangollen. Golygwyd ef am y blynyddoedd 1857—8 gan y Parch. J. Jones (Mathetes). Nid oedd yr un golygydd pennodol am y flwyddyn 1859. Yn ystod y blynyddoedd 1860—1, ac am ran o'r flwyddyn ddilynol, golygid ef gan y Parch. H. Jones, D.D., Llangollen. Ar glawr y rhifyn am Ebrill, 1862, ceir yr olygiaeth wedi ei rhanu fel y canlyn:—"Duwinyddiaeth, Traethodau, a Marwgoffa," y Parch. A. J. Parry, Cefnmawr; "Detholion ac Eglurhadaeth Ysgrythyrol," y Parch. H. Jones, D.D., Llangollen; "Hanesion Gwladol s Chenadol," y Parch. W. Roberts, Rhos; "Hanesion Cyfarfodydd a Bedyddiadau," Mr. W. Williams, Llangollen. Bu rhai cyfnewidiadau ar y trefniant hwn yn fuan, ac yn Awst, 1871, darfu i'r Parch. A. J. Parry ymddiswyddo, a chymerwyd ei le yn Hydref, yr un flwyddyn, gan y Parch. Owen Davies, Caernarfon (Llangollen gynt). Golygwyd barddoniaeth Y Greal, o'r dechreu hyd Medi, 1875, gan y Parch. R. Ellis (Cynddelw), pryd y bu ef farw, ar ol gwasanaethu ei Dduw, ei enwad, ei genedl, a'i wlad, yn ffyddlawn a diwyd, a phrofodd ei hunan, trwy ei fywyd, yn un o'r gweithwyr caletaf a gododd Cymru erioed. Cymerwyd ei le, fel golygydd y farddoniaeth, yn Ionawr, 1876, gan y Parch. H. Cernyw Williams, Corwen. Y golygwyr presennol (1892) ydynt y Parchn. O. Davies, Caernarfon; J. A. Morris, Aberystwyth; a H. Cernyw Williams, Corwen. Dylid dyweyd, fel eglurhad, er fod Y Greal yn dal perthynas neillduol â'r Bedyddwyr, eto nad oes unrhyw gysylltiad swyddogol rhyngddynt.

Yr Anybynwr, 1856.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r cylchgrawn hwn allan yn Mai, 1856, dan olygiaeth y Parch. E. Williams, Dinas Mawddwy, ac argrephid ef gan Mr. R. Jones, Bethesda. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Ei arwyddair, ar y wyneb-ddalen, ydoedd: "Pob da oddiwrth y Creawdwr, a phob drwg oddiwrth y creadur." Gwasanaethu yr Annibynwyr yr ydoedd yn benaf, ac elai yr elw oddiwrtho tuagat "gynnal hen bregethwyr." Ceid ysgrifau ynddo dan yr adranau canlynol:"Traethodau," "Congl yr Ysgol Sul," "Hanesion Crefyddol," "Barddoniaeth," "Hanesion Cyffredinol," "Manion," &c. Ni pharhaodd yn hir.

Y Llusern, 1858.-Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1858, a chychwynwyd of gan nifer o'r Bedyddwyr Campbellaidd, ac i'w gwasanaethu hwy, yn benaf, y deuai allan. Golygid ef, yn ol pob tebyg, gan Mr. J. Edwards (Meiriadog), Llanfair, ger Trallwm, ac argrephid ef, dros ei hyrwyddwyr, gan Mr. George Bayley, Gwrecsam. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Ei arwyddair, yn ol y wyneb-ddalen, ydoedd: "Llusern yw dy air i'm traed." Ei amcan ydoedd "pleidio dychweliad at Gristionogaeth Gyntefig," a "gwneyd a ellid er cynnorthwyo symudiad er gwell yn y pwnc mawr o grefydd." Parhaodd i ddyfod allan am rai blynyddoedd.

Y Gwyliedydd, 1860.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Mawrth, 1860, a golygid ef gan y Parchu. Benjamin Evans, Castellnedd, a J. Rowlands, Llanelli, ac argrephid ef, ar ei gychwyniad, gan Mr. D. J. Davies, Abertawe, ac wedi hyny gan Mr. D. J. Thomas, Aberdar, ac yn ddiweddaf gan Mr. W. M. Evans, Caerfyrddin. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Diweddodd ei yrfa yn niwedd y flwyddyn 1868, ac felly parhaodd i ddyfod allan am oddeutu wyth mlynedd.

Yr Ardd, 1863.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cylchgrawn hwn ar Awst 15fed, 1868, dan olygiaeth y Parch. David Roberts, D.D., Gwrecsam, ac argrephid ef, o'r cychwyn, gan Mr. William Jones (Gwilym Ogwen), Bethesda, a phan ddarfu iddo ef symud i Ddolgellau, parhaodd i'w argraphu yno hefyd. Ei bris ydoedd ceiniog, a deuai allan yn fisol. At wasanaeth yr Annibynwyr, yn benaf, y cychwynwyd Yr Ardd, ac yn eu plith hwy y derbynid ef. Rhoddwyd ef i fyny ar ol oddeutu dwy flynedd.

Yr Arweinydd, 1869.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r cylchgrawn hwn allan yn Awst, 1869, dan olygiaeth y Parchn. J. Jones (Mathetes), W. Harris, Heolyfelin, a J. Jones, Abercwmboy, a gwelwn, erbyn yr ail rifyn a ddaeth allan (yr un am Medi), fod Mr. J. Edwards (Meiriadog), wedi ei ychwanegu atynt. Argrephid of gan Mr. Jenkin Howell, cyhoeddwr, Aberdar. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Dywedir yn "Anerchiad y Golygyddion" yn y rhifyn cyntaf "Ceir lluaws o gyhoeddiadau misol yn awr yn y Dywysogaeth, yn cael eu cynnal gan y gwahanol enwadau crefyddol; ond ymddengys i ni nad yw 'y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu' yn cael ei egluro a'i amddiffyn ynddynt, neu yn y mwyafrif ohonynt, fel y dylid, ac y gellid cychwyn a chynnal cylchgrawn mwy cydweddol â natur comisiwn ein Harglwydd, a dysgeidiaeth ei Apostolion; ac yr ydym yn bwriadu gwneyd ymgais i gyfarfod yr angen y mae lluaws o'r Cymry yn ei deimlo. . . . Nid cyhoeddiad sectol yw Yr Arweinydd i fod, eithr cylchgrawn rhydd, yn yr hwn y gellir ymresymu yn bwyllog dros ac yn erbyn syniadau ac arferion a ystyrir yn gysegredig gan y gwahanol enwadau, ac nid maes i arfer cecraeth bechadurus ac i wneyd ensyniadau angharedig a niweidiol. . . . . Nid ydym yn crefu am gymhorth, ond yn hytrach yn gwynebu ar y farchnad, gan ymddibynu—nid ar gymeradwyaeth Cwrdd Chwarter na Chymanfa,' trugaredd na ffafr-ond yn hollol ar gymeriad y nwyddau y bwriedir eu dangos." Ei arwyddair, ar y wyneb-ddalen, ydoedd: "Rhyddid—Y Gwir," ac ar y dywedid, ar ei wyneb-ddalen, ei fod yn "gylchgrawn misol rhydd ac ansectaraidd at wasanaeth y Cymry," eto yr oedd yn hollol amlwg mai cyhoeddiad at wasanaeth y Bedyddwyr ydoedd yn benaf. Ymddengys mai y deuddagfed rhifyn (yr un am Gorphenaf, 1870), oedd yr olaf a ddaeth allan ohono, a bernir iddo gael ei roddi i fyny y pryd hwnw ar gyfrif diffyg cefnogaeth.

Y Gwyliwr, 1870.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Chwefror, 1870, dan olygiaeth y Parchn. B. Evans, J. Rowlands, H. Cefni Parry, & T. E. James. Ceir, yn y flwyddyn 1871, fod y Parchn. J. Spinther James ac H. Gwerfyl James, yn gweithredu fel golygwyr yn lle y ddau ddiweddaf a nodwyd o'r rhai uchod. Argrephid ef gan Mr. Jenkin Howell, Aberdar. Cyhoeddiad perthynol i'r Bedyddwyr ydoedd hwn, ond ber iawn a fu ei oes.

Amddiffynydd yr Eglwys, 1873.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Mehefin, 1873, dan olygiaeth, i ddechren, y diweddar Barch. H. T. Edwards, Deon Bangor, ac argrephid ef gan Mr. John Morris, 30, High-street, Rhyl. Bu hefyd, am yspaid, dan olygiaeth y Canon D. Walter Thomas, Bethesda, ac wedi hyny bu dan ofal y diweddar Canon Daniel Evans, Caernarfon. Deusi allan yn fisol, a'i bris ydoedd dwy geiniog, Ceid darlun o'r Eglwys Gadeiriol ar ei wyneb-ddalen, a'r farddoniaeth ganlynol ar y ddwy ochr iddo:—

"Twr y gloch treigla uohod—ei wys hen
I wasanaeth Duwdod;
Cana ei hen dinc hynod,
Llan, Llan, Llan yw 'r fan i fod."

"O fewn dy gaerau heddwch boed,
I'th lysoedd deued hawddfyd;
Er mwyn fy mrodyr mae 'r arch hon,
A'm cymydogion hefyd."


Cyhoeddiad Eglwysig hollol ydoedd hwn, ac er fod ynddo erthyglau ac ysgrifau galluog, eto teg yw dyweyd yr edrychid ar yr holl gwestiynau a fyddent dan sylw oddiar safle amddiffyniad i'r Eglwys Sefydledig. Megis ei enw, felly yntau; ac ystyrid ef yn ddadleuydd cadarn dros barhad a gwerth yr Eglwys yn Nghymru. Am oddeutu chwe' blynedd y parhaodd i ddyfod allan.

Yr Ymwelydd, 1877.—Cyhoeddiad misol ydyw hwn a gychwynwyd yn y flwyddyn 1877, perthynol i'r Bedyddwyr Albanaidd Cymreig, dan olygiaeth y Parchn. Samuel Pearce, Penrhyndeudraeth; W. Humphreys, Tanygrisiau; a Morris Rowland, Harlech, ac argrephir ef gan Mr. D. Lloyd, Porthmadog. Ei bris yw ceiniog. Mae yn parhau i ddyfod allan yn fisol.

Yr Ymwelydd Misol, 1877.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1877, a chyhoeddid of gan Gyfarfod Misol perthynol i Fedyddwyr Ystrad-y-Fodwg, ac argrephid ef gan Mr D. Lloyd, Treorci. Gwneid i fyny ei gynnwys o'r pregethau, papyrau, a phenderfyniadau a fyddent wedi cael eu traddodi, eu darllen, a'u pasio yn y cylch yn ystod y mis, a gwelir felly mai lleol, yn benaf, oedd ei nodwedd. Rhoddwyd ef i fyny cyn hir.

Yr Arweinydd Annibynol, 1878.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1878, a chyhoeddid ef er fudd eglwysi yr Annibynwyr yn Dyffryn Rhondda. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Lleol oedd ei nodwedd. Rhoddwyd ef i fyny yn y flwyddyn 1881.

Llusern y Llan, 1880.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1880, dan olygiaeth y Cynog Davies, E.D., Aberteifi; W. Howell (Hywel Idloes), Capel Isaf; W. Glanffrwd Thomas, Llanelwy; ac Ap Gruffydd. Argrephid ef gan y Meistri Farrant a Frost, Merthyr Tydfil. Cyhoeddiad yn perthyn i'r Eglwys Sefydledig ydoedd. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog. Ei arwyddair, yn ol y wyneb-ddalen, ydoedd: "Ein Hiaith, ein Gwlad, a'n Heglwys." Ceid llawer o draethodau da ynddo, ac amrywiaeth difyrus a buddiol. Parhaodd i ddyfod allan am oddeutu tair blynedd.

Y Bugeilydd, 1881.—Daeth hwn allan yn y flwyddyn 1881, a golygid ef gan y Parch. D. Edwards, M.A., Llanelwy, ac argrephid ef gan Mr. W. Morris, Rhyl. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Yr oedd y cyhoeddiad hwn dan nawdd deiliaid yr Eglwys Sefydledig, ond rhoddwyd ef i fyny yn Mai, 1882.

Cenad Hedd, 1881.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn, yn y flwyddyn 1881, gan y Parch. W. Nicholson, Lerpwl, ac efe oedd yn ei olygu, ac argrephir of gan Mr. Joseph Williams, Merthyr Tydfil. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw dwy geiniog. Darfu i'r Parch. W. Nicholson barhau i'w olygu tra y bu byw, ac ar ol ei farwolaeth ef, bu yr olygiaeth, am yspaid, yn llaw y Parch. T. Nicholson, Southampton (Dinbych gynt). Wedi marwolaeth ei gychwynydd, trefnwyd iddo ddyfod yn eiddo i'r cyhoeddwr, ac, ar hyn o bryd (1892), y mae dan olygiaeth y Parch. J. Bowen-Jones, B.A., Aberhonddu. Er nad oes unrhyw gysylltiad swyddogol rhyngddo â'r Annibynwyr, eto y mae yn ddealledig mai er eu gwasanaethu hwy, yn benaf, y cychwynwyd ef, ac yn eu plith hwy y derbynir ef fwyaf.

Cenhadydd Cwmtawe, 1881. —Cychwynwyd y cyhoeddiad misol hwn yn y flwyddyn 1881, er budd eglwysi y Bedyddwyr yn Cwmtawe, a golygid ef gan y Parch. H. J. Parry, Abertawe. Lleol ydoedd ei nodwedd. Ni pharhaodd i ddyfod allan ond am oddeutu chwe' mis.

Y Bedyddiwr Bach, 1882.—Cychwynwyd hwn yn y flwyddyn 1882, gan Mr. Ap Lewis, Llundain. Ei bris ydoedd ceiniog, a deuai allan yn fisol. Ei amcan, fel y gellir tybio oddiwrth ei enw, ydoedd gwasanaethu adran o'r Bedyddwyr Cymreig. Ni pharhaodd i ddyfod allan ond am ychydig fisoedd.

Yr Ymddiddanydd, 1885.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn ar Hydref 15fed, 1885, dan olygiaeth y Parch. Hugh Davies (Pencerdd Maelor), Cefnmawr, a chyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. D. Jones, argraphydd, Rhosymedre. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dimai. Er dangos cyfeiriad y cylchgrawn bychan hwn, wele air "At y Darllenydd" ganddo yn ei rifyn cyntaf:—"Weithiau, byddaf yn ymddiddan a thi am bethau mawrion a phwysig dy enaid yn uniongyrchol. Bryd arall byddaf yn dyweyd gair am dy gysuron tymmorol; weithiau trwy hanesion a ffeithiau, ac weithiau trwy roddi ffeithiau mewn gwedd ffugyrol, a'r ol er mwyn dy gymhwyso i'r Nefoedd: canys gwn mai yno yr wyt am fyned yn y diwedd." Rhoddwyd ef i fyny yn fuan.

Yr Oes Newydd, 1886.—Cychwynwyd y cylchgrawn hwn yn Ionawr, 1886, dan olygiaeth, yn benaf, Mr. John Harries, Alltwen, Pontardawe, ac argrephid ef gan Mr. E. Rees, cyhoeddwr, Ystalyfera. Deusi allan yn fisol, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Bwriedid iddo fod yn fisolyn ansectol, er egluro, amddilyn, a lledaenu athrawiaethau ac egwyddorion yr Oruchwyliaeth Newydd, trwy ddetholion o weithiau anenwadol ac ysprydol." Nid hir y parhaodd.

Pwlpud Cymru, 1887.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1887, a chychwynwyd ef gan y Meistri Davies ac Evans, argraphwyr, Bala, a hwy hefyd sydd yn parhau i'w gyhoeddi a'i olygu. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw ceiniog. Ystyrir ef yn gyhoeddiad anenwadol. Ceir yn mhob rhifyn ohono bregeth gan weinidog perthynol i un o'r gwahanol enwadau, ac hefyd ysgrifau byrion ar wahanol bregethwyr Cymru dan y penawd "Tywysogion yn mhlith Pregethwyr," a cheir darnau barddonol bron yn mhob rhifyn. Dywedir fod i'r cyhoeddiad hwn gylchrediad da.

Cylchgrawn Chwarterol, 1888.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Tachwedd, 1888, dan olygiaeth y Parch. Richard Lloyd Jones, Llanrwst (Coedpoeth gynt), ac argrephir ef gan y Meistri Woodall, Minshull, a Thomas, cyhoeddwyr, Gwrocsam. Cychwynwyd ef er gwasanaeth eglwysi ac Ysgolion Sabbothol y Wesleyaid yn Nghylchdaith Coedpoeth, a bwriedir iddo gael ei olygu gan y gwahanol weinidogion fyddent yn digwydd bod ar y gylchdaith. Golygir ef yn bresennol (1892) gan y Parch. T. J. Humphreys, Coedpoeth. Daw allan yn chwarterol, a'i bris ydyw dwy geiniog. Ceir yn y rhifyn cyntaf ddarlun o'r Parch. R. Lloyd Jones, ac ysgrifau ar "Yr Yspryd Ymosodol" (gan y Parch. O. Evans), "Ein Capelydd," "Yr Ysgolion Sabbothol," &c.

Yr Adfywiadur, 1889.—Cychwynwyd hwn yn Ionawr, 1889, dan olygiaeth y Parch. Evan Davies, Llangollen (Conwy gynt), ac argrephir ef gan y Meistri Jones a'i Frodyr, Conwy. Ei amcan ydyw gwasanaethu eglwysi ac Ysgolion Sabbothol y Wesleyaid yn Nghylchdaith Conwy, a bwriedir iddo gael ei olygu gan y gweinidogion a fyddent yn digwydd bod ar y gylchdaith. Golygir ef yn awr (1892), gan y Parch. Evan Jones, Conwy. Ceir gwahanol ysgrifau ynddo ar faterion fel "Undeb Crefyddol," "Y Rhestr," "Manteision Duwioldeb Foreuol," "Congl y Plant," &c. Daw allan yn chwarterol, a'i bris ydyw dwy geiniog.

Y Wyntyll, 1890.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1890, gan y Meistri F. Rees Jones, 23, Beaconsfield-street, Lerpwl, ac Elwy D. Symond, 50, Jermyn-street, Lerpwl, a hwynt-hwy hefyd oeddynt yn ei olygu, ac argrephid of gan y Meistri Foulkes ac Evans, 29, Dale-street, Lerpwl. Deuai allan yn ddau-fisol, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Amcan ei gychwyniad, yn benaf, ydoedd gwasanaethu eglwys a chynnulleidfa y Methodistiaid Calfinaidd, Princes-road, Lerpwl." Yn gyffredin ceid, yn mhob rhifyn, erthyglau ar faterion oedd yn nglyn a'r eglwysi a berthynent i'r Cyfundeb yn Lerpwl, megis "Yr Ysgolion Sabbothol," "Yr Ystadegau Eglwysig," &c., a cheid ambell i erthygl Seisonig ar faterion tebyg i "Our Pulpits," "The Standard System II.," &c., ac, yn arbenig, yr oedd i fod yn wasanaethgar i'r eglwys neillduol a honai fod yn dal cysylltiad a hi. Ond nis gellir dyweyd fod y cais hwn wedi bod yn llwyddiannus, oherwydd prin y parhaodd i ddyfod allan am flwyddyn.

Yr Hysbysydd, 1821.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Medi, 1891, dan olygiaeth y Parch. Edward Humphreys, Croesoswallt, ac argrephir ef gan y Meistri Woodall, Minshull, a Thomas, Gwrecsam. Daw allan yn chwarterol, a'i bris ydyw dwy geiniog. Ei amcan ydyw gwasanaethu eglwysi ac Ysgolion Sabbothol y Wesleyaid yn Nghylchdaith Llanrhaiadr-yn-Mochnant, a bwriedir iddo gael ei olygu gan y gweinidogion a ddigwyddent fod ar y gylchdaith. Gwelir, gyda llaw, fod amryw o'r cylchdeithiau Wesleyaidd yn Ngogledd Cymru yn cyhoeddi cylchgronau chwarterol at eu gwasanaeth arbenig hwy eu hunain.

Yr Arweinydd, 1892.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cylchgrawn hwn yn Mawrth, 1892, yn cael ei gyhoeddi a'i olygu gan y Parch. P. Jones Roberts, Penmachno, (Bangor yn awr), ac argrephir ef gan Mr. D. Jones, argraphydd, Rhosymedre, Ruabon. Bwriedir i'r cyhoeddiad hwn fod, yn benaf, at wasanaeth eglwysi ac, Ysgolion Sabbothol y Trefnyddion Wesleyaidd yn Nyffryn Conwy. Wele rai o'r penawdau yn y rhifyn cyntaf: "Anerchiad at yr Eglwysi," "Dirwest," "Charles Haddon Spurgeon," "Arlwyadau y Seiat," &c. Daw y cyhoeddiad hwn allan yn chwarterol, a'i bris ydyw dwy geiniog.

2.—Y CYLCHGRAWN LLENYDDOL.

Y Greal, neu yr Eu grawn, sef Trysorfa Gwybodaeth 1800, 1805.—Gwnaed cais yn Ionawr, 1800, i gychwyn cylchgrawn llenyddol, gan Ieuan ap Risiart, Bryn-croes, Lleyn, yr hwn a ystyrid yn fardd da ac yn henafiaethydd medrus. Enw ei gyhoeddiad ydoedd y Greal, neu yr Eurgrawn, sef Trysorfa Gwybodaeth, a bwriedid iddo ddyfod allan yn chwarterol. Ond hwnw ydoedd yr unig rifyn a ddaeth allan, ac argraphwyd ef yn Nghaernarfon. Codai y methiant hwn, mewn rhan, oddiar ddifaterwch y wlad yn nghylch llenyddiaeth yn y cyfnod hwnw, ac hefyd, mewn rhan, oddiar goethder uchel y cyhoeddiad ei hunan. Gwnaed cais drachefn, modd bynag, yn y flwyddyn 1805, i gychwyn cyhoeddiad arall o'r un enw, a daeth y rhifyn cyntaf ohono allan yn Mehefin, 1805. Cychwynwyd hwn, yn benaf, gan Mr. Owen Jones (Owain Myfyr), dan nawdd Cymdeithas y Gwyneddigion a'r Cymreigyddion, Llundain, ac argrephid ef yn Llundain, a golygid ef gan Dr. W. O. Pughe. Naw rhifyn a ddaeth allan ohono, a daeth yr olaf allan yn Alban Hefin, 1807. Rhoddid llawer iawn o le yn y cyhoeddiad hwn i henafiaethau, a diau ei fod, ar y cyfrif hwnw, yn gystal a phethau eraill, yn dra gwerthfawr.

Yr Eurgraun Cymraeg, neu Trysorfa Gwybodaeth, 1807.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ebrill, 1807, gan Mr. David Thomas (Dafydd Ddu Eryri), Waenfawr, ac argrephid ef yn Nghaernarfon. Dywedid, ar y wynebddalen, yr amcenid iddo "gael ei gyhoeddi yn rhanau bedair gwaith yn y flwyddyn;" ond ni ddaeth yr ail rifyn allan hyd Mawrth, 1808, a bernir mai dyna y diweddaf a gyhoeddwyd ohono.

Yr Oes, 1825, Lleuad yr Oes, 1827.-Cychwynwyd Yr Oes yn y flwyddyn 1825, gan Mr. J. A. Williams, Abertawe, yr hwn hefyd oedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu. Cyhoeddiad misol bychan ydoedd ar y dechreu, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Gan y tybid fod ei enw yn un tra anmhenodol, barnwyd mai mantais a fyddai iddo gael enw newydd, ac oddeutu diwedd yr ail flwyddyn, galwyd ef yn Lleuad yr Oes, ac helaethwyd ef, a chodwyd ei bris i fod yn chwe' cheiniog. Prynwyd ef, yn ystod y flwyddyn ganlynol (1828), gan Mr. S. Thomas, cyhoeddwr, Aberystwyth, a darfu iddo ef sicrhau gwasanaeth Mr. David Owen (Brutus) i fod yn olygydd iddo, a dyna yr adeg pan y symudodd i fyw i Aberystwyth. Yr oedd amryw lenorion galluog yn ystod y cyfnod hwn, megys William Saunders, David Jenkins, Samuel Thomas, Isaac Jones (y gramadegwr a'r cyfieithydd), yn arfer ysgrifenu yn ddoniol iddo. Ond, er y cwbl, lled afwyddiannus a fu Lleuad yr Oes tra yn Aberystwyth, ac am ychydig amser yr arosodd yno; a cheir ei fod, yn y flwyddyn 1829, yn cael ei brynu gan Mr. Jeffrey Jones, Llanymddyfri, a symudwyd y cyhoeddiad i gael ei argraphu yno, ac aeth Brutus yno i fyw. Ni bu y symudiad yn unrhyw les i'r cylchgrawn-helbulus ac ystormus a fu ei ymdaith yn ei gartref newydd, a'r canlyniad a fu i oleuni Lleuad yr Oes fyned yn llai yn barhaus, nes o'r diwedd bron lwyr ddiffoddi, a diffoddi yn gwbl a ddarfu cyn hir. Cymerwyd Brutus i'r ddalfa oherwydd ei gysylltiad masnachol â'r Lleuad pan yn Aberystwyth, gan ei fod, mae yn ymddangos, yn gyd-gyfartal à Mr. Samuel Thomas, Aberystwyth, yn ei gysylltiadau arianol yn nglyn a'r cyhoeddiad, ac, ar gyfrif meth-daliadau, carcharwyd Mr. Thomas am rai misoedd, a bu raid i Brutua dreulio peth amser yn ngharchar Caerfyrddin. Gwnaeth Mr. Jeffrey Jones, Llanymddyfri, ei oreu i gadw y cyhoeddiad yn fyw; a bernir iddo ef wneyd cam mawr âg ef ei hun, mewn ffordd o gynnildeb a byw yn ddifoethau, er mwyn osgoi profedigaeth feth-daliadol. Ond, ar yr holl ymdrechion, diffodd a ddarfu goleuni Lleuad yr Des, a hyny yn fuan ar ol marwolaeth Mr. Jeffrey Jones, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1830, a darfu i bwyllgor, perthynol i weinidogion yr Annibynwyr, brynu yr hawl yn y cylchgrawn, a chychwynasant ef dan enw arall.

Y Drysorfa Henafiaethol, 1839.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1839, gan Mr. Owen Williams (Owain Gwyrfai), Waenfawr, ac argraphwyd y rhifynau cyntaf o hono gan Mr. J. Jones, argraphydd, Llanrwst, a'r gweddill gan Mr. Potter, argraphydd, Caernarfon. Deuai allan yn chwarterol, a'i bris ydoedd swllt. Rhoddid lle neillduol ynddo i gasgliad henafol (eiddo y Parch. O. Ellis, rheithor Criccieth) o hanes llyfrau Cymreig, yn cynnwys gweithiau llawer o'r hen feirdd yn cyrhaedd oddiwrth Aneurin hyd at William Lleyn, a rhoddid lle ynddo i lythyrau Goronwy Owen a Llewelyn Ddu o Fôn, &c. Ychydig rifynau a ddaeth allan ohono, a hyny oherwydd diffyg cefnogaeth. Yr oedd un hynodrwydd yn perthyn i'r cyhoeddiad hwn: dechreuodd ei yrfa heb unrhyw ragymadrodd nac eglurhad arno ei hunan o gwbl, a diweddodd yn hollol sydyn, heb ddiweddglo na dim o'r fath, ac heb hysbysu neb ei fod am gilio. Dechreuodd yn rhyfedd, a diweddodd felly. Byddai y frawdoliaeth Gymreig yn arfer siarad am y cylchgrawn hwn fel math o Melchisedec llenyddol, heb ddechreu na diwedd dyddiau.

Y Traethodydd, 1845.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1845, dan olygiaeth y Parchn. L. Edwards, D.D., Bals, a Roger Edwards, Wyddgrug, ac argrephid ef gan Mr. T. Gee, Dinbych. Gwyddom mai syniad cyffredin y wlad ydyw mai y diweddar Dr. Lewis Edwards, D.D., Bala, a gychwynodd gyntaf y cylchgrawn hwn; ond dywedwyd wrthym yn bendant gan Mr. T. Gee, y cyhoeddwr, mai efe ei hunan a awgrymodd y peth gyntaf oll i sylw Dr. Edwards—mai efe (Mr. Gee), mewn gwirionedd, a feddyliodd gyntaf am gylchgrawn o'r fath, ac, o ran dim sicrwydd sydd genym yn amgen, gall hyny fod yn ddigon naturiol; ac yna, ar ol i Mr. Gee awgrymu y peth i sylw Dr. Edwards, a gofyn iddo ei gydsyniad, fod y ddau wedi cyddeimlo yr anghen, ac wedi penderfynu cyd—wneyd eu goreu i gario allan y syniad. Pa fodd bynag am hyny, ceir hanes fod Dr. Edwards yn ymgynghori â chyfeillion yn nghylch "dwyn allan gyhoeddiad tri—misol Cymraeg, o nodwedd uwch na dim oedd genym yn ein hiaith cyn hyny, at wasanaeth llenyddiaeth a chrefydd— cyhoeddiad yn ymgais at ymgystadlu â'r rhai uwchaf yn mhlith y Saeson." Darfu iddo ymgynghori, fel un o'r rhai cyntaf, a'r Parch. Henry Rees, Lerpwl, ac wele ei syniad ef am y pwnc:—"Byddai yn dda iawn genyf pe llwyddech i sefydlu cyhoeddiad o radd uwch, a mwy ei werth, na chyhoeddiadau cyffredin presennol Cymru; a meddyliwn fod digon o le iddo redeg, heb redeg yn erbyn Y Drysorfa, yn enwedig, os bydd yn dyfod allan yn chwarterol; er, fe ddichon, y gallai ei ymddangosiad beri peth anesmwythder ac eiddigedd yn y dechreuad." Dyna eiriau y craffus weinidog enwog hwnw, a bu ei eiriau yn gymhelliad i Dr. Edwards i fyned yn mlaen. Ymdrechwyd perswadio y Parchn. Henry Rees, a John Hughes (awdwr Methodistiaeth Cymru), Lerpwl, i weithredu fel golygwyr iddo, ond gwrthodasant yn bendant. Y canlyniad a fu i'r rhifyn cyntaf o hono ddyfod allan yn Ionawr, 1845, dan olygiaeth y Parchn. L. Edwards, D.D., a Roger Edwards, Wyddgrug, a theimlwyd ar unwaith ei fod, wrth gymeryd pob peth yn nghyd, o nodwedd uwch a galluocach na dím a ymddangosodd o'r blaen yn llenyddiaeth gyfnodol ein gwlad. Ystyrid ef yn gyhoeddiad cenedlaethol. Deuai allan yn chwarterol, a'i bris ydoedd swllt a chwe' cheiniog. Parhaodd i gael ei argraphu, o'r dechreu hyd y flwyddyn 1854, gan Mr. T. Gee, Dinbych, pryd y symudwyd ef i gael ei argraphu gan Mr. P. M. Evans, Treffyrnon, ac oddeutu yr un adeg darfu i Dr. Edwards, Bala, ymneillduo o'r olygiaeth, a chymerwyd ei le gan y Parch. Owen Thomas, D.D., Lerpwl. Ceir, yn y flwyddyn 1862, fod y Parchu. Roger Edwards, ac O. Thomas, D.D., yn ymneillduo o'r olygiaeth, a chymerwyd eu lle gan y Parch. D. Rowlands, M.A., Bangor, yr hwn sydd yn parhau i'w feddiannu a'i olygu o'r pryd hwnw hyd yn bresennol. Bu cyfnewidiad arall yn nglyn â'r Traethodydd yn nechreu y flwyddyn 1887 penderfynwyd ei ddwyn allan yn ddau-fisol, a gostwng ei bris i swllt, ac er Ionawr, 1887, yn ol hyny y cyhoeddir ef. Y rhifyn olaf ohono a argraphwyd yn swyddfa y Meistri P. M. Evans a'i Fab, Treffynnon, oedd yr un am Ionawr, 1890, ac wedi hyny symudwyd ef i gael ei argraphu yn swyddfa Mr. D. W. Davies, Caernarfon, ac yno y mae hyd yn bresennol (1892).

Yr Adolygydd, 1850.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Mehefin, 1850, a chychwynwyd ef gan bwyllgor o amryw lenorion yn y Deheudir, a darfu i'r pwyllgor hwn ddewis y Parch. Evan Jones (Ieuan Gwynedd) yn olygydd, ac argrephid ef, ar y cychwyniad, gan Mr. William Owen, Heol Duc, Caerdydd, ond yn niwedd y flwyddyn 1851 symudwyd ef i gael ei argraphu gan y Meistri Rees a Williams, Llanelli. Deuai allan yn chwarterol, a'i bris ydoedd swllt a chwe' cheiniog, ac ymddengys fod ei gylchrediad, yn benaf, yn mhlith yr Annibynwyr. Y prif reswm dros ei symud i gael ei argraphu yn Llanelli ydoedd am y tybid y byddai yn fwy cyfleus argraphu Y Diwygiwr, Y Tywysydd, Y Gymraes, a'r Adolygydd, yn yr un dref, ac felly yn llawer mwy manteisiol i'r golygydd, gan mai Ieuan Gwynedd, ar y pryd, oedd yn golygu yr oll o'r rhai hyn. Ond, yn fuan ar ol hyny, aeth Ieuan Gwynedd yn wael ei iechyd, a pharhaodd i waelu, nes y dyryswyd yr holl gynlluniau hyn. Ceir mai yr erthygl olaf a ysgrifenwyd ganddo ef ydoedd yr un a ymddangosodd yn rhifyn Mawrth, 1852, o'r Adolygydd, ar "Athrylith Dafydd Ionawr," a bu y talentog Ieuan Gwynedd farw yn fuan ar ol hyny. Ymgymerwyd â golygiaeth Yr Adolygydd, yn nesaf, gan y Parch. W. Williams (Caledfryn), ond rhoddwyd y cyhoeddiad rhagorol hwn i fyny ar ddiwedd y flwyddyn ddilynol. Caid ysgrifau ynddo ar destynau fel y rhai canlynol:— "Holl-dduwiaeth yr Almaen," "Y Ddau Adda," "India," "Adnoddau Cymru," "Anfarwoldeb yr Enaid," "Syr Robert Peel," "Egwyddorion Deonglaeth Ysgrythyrol," "Y Cyffro Pabyddol," "Adgyfodiad Crist," "Cymru cyn dyddiau y Diwygwyr Cymreig," "Meddiant Cythreulig," "Ymyraeth Dwyfol," &c.

Y Wawr, 1850.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1850, dan olygiaeth Mr. Robert Parry (Robyn Ddu Eryri), a chyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. David Evans (Ap Tudur), Caerdydd.Ei bris ydoedd pedair ceiniog, a deuai allan yn fisol. Cynnyrch ysgrifell ei olygydd ydoedd bron y cyfan ohono. Ymddengys na ddaeth allan ond oddeutu pymtheg rhifyn.

Y Brython, 1858.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn gan Mr. R. Isaac Jones (Alltud Eifion), Tremadoc, a daethai allan am ychydig amser, ar y cyntaf, fel newyddiadur wythnosol, ond yn Tachwedd, 1858, ceir ei fod yn dechreu fel cylchgrawn misol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Byddai y Parch, D. Silvan Evans yn gweithredu fel cyd-olygydd â'r cyhoeddwr. Codwyd ei bris, yn Ionawr, 1860, i chwe' cheiniog, ac yn ystod y flwyddyn hon gorfu i Mr. Silvan Evans roddi yr olygiaeth i fyny ar gyfrif amledd galwadau eraill, ac felly, ar ol hyny, ei gyhoeddwr ei hunan ydoedd yn ei olygu ac yn ei argraphu. Parhawyd i fyned yn mlaen felly hyd ddechreu y flwyddyn 1862, pryd y dechreuwyd ei gyhoeddi yn chwarterol, a'i bris, wedi hyny, ydoedd swllt a chwe' cheiniog, a cheir fod oddeutu pedwar rhifyn ohono wedi dyfod allan, pryd y rhoddwyd ef i fyny oherwydd diffyg cefnogaeth. Er mai fel cyhoeddiad llenyddol yr ystyrid ef, eto ceir fod yr elfen hanesyddol yn hynod gref ynddo. Dywedir fod ei gyhoeddwr (Alltud Eifion) wedi cael colledion trymion yn nglyn âg ef, ac ymddengys fod yn ei fwriad, os ceir cefnogaeth, i ddwyn allan ail-argraphiad o'r Brython, a diau, ar lawer cyfrif, y byddai hyny. yn ddigon dymunol, gan fod llawer o ysgrifenwyr goreu Cymru, yn y cyfnod hwnw, yn arfer anfon eu cynnyrchion iddo.

Y Taliesin, 1859.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ebrill, 1859, dan olygiaeth, yn benaf, y Parch. John Williams (Ab Ithel), ac argrephid ef gan Mr. Isaac Clarke, cyhoeddwr, Rhuthyn. Yn chwarterol y deuai allan, a'r bris ydoedd swllt, a chychwynwyd ef er bod at wasanaeth y Cymdeithasau Llenyddol, yr Eisteddfod, a'r Orsedd. Efallai fod yn anhawdd cael gwell syniad am natur a chynnwys y cylchgrawn hwn nag a geir yn y geiriau a roddid ar ei wyneb—ddalon "Tri pheth y dylai Cymro ei garu o flaen dim: Cenedl y Cymry, Defodau a Moesau y Cymry, ac Iaith y Cymry." Addefir yn gyffredin fod y cyhoeddiad hwn yn un da—gwasanaethai y wlad a'r genedl drwy gadw hen drysorau llenyddol gwerthfawr rhag myned ar ddifancoll, ac, ar y cyfan, nis gellir cwyno nad oedd yn cael cefnogaeth, er na pharhaodd ond am oddeutu dwy flynedd Diau mai un o'r prif resymau dros ei fachludiad oedd marwolaeth yr enwog Ab Ithel, a thrwy hyny collodd ei brif hyrwyddwr.

Y Beirniad, 1859.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1859, dan olygiaeth y Parchn. John Davies a William Roberts, ac argrephid ef yn swyddfa y Meistri Rees a Williams, Llanelli. Deusi allan yn chwarterol, a swllt ydoedd ei bris, ac yn mhlith yr Annibynwyr, yn benaf, y derbynid ef. Bu farw y Parch. W. Roberts yn y flwyddyn 1872, a bu farw y Parch. J. Davies yn y flwyddyn 1874. Ymgymerwyd, wedi hyny, a'r olygiaeth gan y Parch. J. B. Jones, B.A., Merthyr, a symudwyd y cyhoeddiad i gael ei argraphu yn Merthyr Tydfil. Ysgrifenai rhai o'r llenorion galluocaf iddo. Rhoddwyd ef i fyny yn y flwyddyn 1879.

Y Llenor, 1860.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yu Ionawr, 1860, a chychwynwyd ef gan y Parchn. G. Parry, D.D., Carno; Hugh Jones, D.D., Lerpwl; a Josiah Thomas, M.A., Lerpwl, a hwynt-hwy oeddynt yn ei olygu, ac argrephid ef gan y Meistri Parry a Hughes, Heol-y-Bont, Caernarfon. Ei bris ydoedd dwy geiniog, a deuai allan yn fisol. Diau fod y cylchgrawn hwn, o ran natur a nerth ei erthyglau, a'r goleuni a wasgerid drwyddo ar faterion pwysig y dydd, yn un da iawn, ac yn gadael argraph ddymunol ar y wlad, ond ni pharhaodd i ddyfod allan yn hwy na Rhagfyr, 1861.

Y Cymmrodor, 1862.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1862, dan nawdd Cymdeithas y Cymmrodorion, dan olygiaeth, i ddechreu, y Parch. Robert Jones, Rotherhithe, Llundain, yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 1877, ac, wedi hyny, ymgymerwyd â'r olygiaeth gan Mr. Thomas Powell, M.A., Llundain. Hefyd, bu Dr. Isambard Owen, Llundain, yn ei olygu am amser, ac yna dilynwyd of gan Mr. Egerton Phillimore, Llundain. Argrephir ef, ar ran y Gymdeithas, gan y Meistri Gilbert a Rivington, St. John's House, Clerkenwell, Llundain. Ei bris ydyw haner coron. Nid ydyw yn cael ei ddwyn allan yn rheolaidd o gwbl, ac weithiau bydd pump neu chwe' mis, mwy neu lai, yn myned heibio rhwng y rhifynau, fel nas gellir, mewn gwirionedd, erbyn hyn, ei alw yn gyhoeddiad misol, chwarterol, na haner-blynyddol. Ei gynnwys, fel rheol, fydd ysgrifau ar ieithyddiaeth a henafiaethau Cymreig, ac adolygiadau ar lyfrau yn dwyn perthynas & llenyddiaeth neu hanesiaeth Cymru, &c.

Y Barddoniadur, 1864.—Cylchgrawn misol rhad ydoedd hwn, a gychwynwyd yn y flwyddyn 1864, dan olygiaeth Mr. W. Williams (Creuddynfab), Llandudno. Credwn na ddaeth allan ohono ond rhifyn neu ddau.

Yr Eisteddfod, 1864.—Er rhoddi eglurhad ar y dull y cychwynwyd y cyhoeddiad hwn, dylid dyweyd fod math o gynllun, yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gynnaliwyd yn Llangollen, 1858, wedi ei fabwysiadu er cael yr Eisteddfod yn hollol genedlaethol yn ngwir ystyr y gair, ac i'w chynnal bob yn ail flwyddyn yn Ngogledd a Deheudir Cymru, ac hefyd i gael gwell trefn gyda hi yn gyffredinol Ffurfiwyd "Cynghor yr Eisteddfod," cynnwysedig o brif Eisteddfodwyr Cymru, a phennodwyd yr Archddiacon Griffiths, Castellnedd, yn llywydd, Alaw Goch yn drysorydd, a Chreuddynfab yn ysgrifenydd. Cynnaliwyd yr Eisteddfod gyntaf ar ol hyny, dan nawdd a chymhorth y pwyllgor hwn, yn Dinbych, yn y flwyddyn 1860, a pharhaodd felly o'r naill fan i'r llall am naw mlynedd. Ond nid oedd pethau yn gweithio yn esmwyth: ychydig o'r naw Eisteddfod a fu yn llwyddiannus, a bu rhai ohonynt yn fethiant, yn enwedig y ddwy olaf—Caerfyrddin (1867) a Rhuthyn (1868). Yr oedd Cynghor yr Eisteddfod, erbyn hyn, mewn dyled drom, a galwyd ar brif hyrwyddwyr y symudiad i'w thalu. Bu hyn, i raddau helaeth, yn oerfelgarwch i'r syniad am Gynghor Cenedlaethol; ac, hyd yr ydym yn gwybod, yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gynnaliwyd yn Nghaernarfon, 1877, yr ail—gyneuwyd y tân, ac ail—gychwynwyd y Cynghor gyda yr enw newydd "Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol," a da genym weled fod y Gymdeithas hon yn ennill tir y naill flwyddyn ar ol y llall, ac y mae bron pob Eisteddfod a gynnaliwyd, er y flwyddyn 1877, oddigerth un neu ddwy, wedi bod yn llwyddiant hollol. Ond, modd bynag, darfu i'r Cynghor a bennodwyd yn Eisteddfod Llangollen, 1858, gyda'r gwelliantau eraill a nodwyd, benderfynu cyhoeddi cylchgrawn chwarterol dan yr enw Yr Eisteddfod, a chychwynwyd ef yn benaf, os nad yn gwbl, er gwasanaethu y sefydliad cenedlaethol. Daeth y rhifyn cyntaf ohono allan Ebrill, 1864. Golygid ef gan ysgrifenydd y Cynghor, sef Mr. W. Williams (Creuddynfab), Llandudno, a bernir fod dau neu dri rhifyn ohono wedi dyfod allan dan olygiaeth Rhydderch o Fôn. Argrephid af gan y Meistri Hughes a'i Fab, Gwrecsam. Ei bris ydoedd swllt, a chyhoeddid ef dan nawdd y pwyllgor dywededig. Ymddengys na pharhaodd i ddyfod allan yn hwy nag am oddeutu dwy flynedd, a hyny, yn benaf, oherwydd diffyg cefnogaeth. Beth bynag arall a ellir ei ddyweyd am weithrediadau y Cynghor, credwn fod cychwyn y cylchgrawn hwn yn weithred dda iawn, a gresyn fod y fath gyhoeddiad wedi myned i lawr, a chredwn fod ei fachludiad, wrth ystyried pobpeth, yn un o'r anffodion llenyddol Cymreig mwyaf a gafwyd yn ystod yr haner can' mlynedd diweddaf, oherwydd, ar hyn o bryd, nid oes genym yr un cylchgrawn yn un pwrpas at gyhoeddi cynnyrchion buddugol yr Eisteddfod. Gwir y cyhoeddir hwynt, ond gan fod y cyfrolau blynyddol mor ddrud, mae yn gwbl allan o'r cwestiwn i gorph poblogaeth Cymru eu gweled, ac, mewn canlyniad, nid ydyw yr Eisteddfod Genedlaethol, mewn ystyr lenyddol, yn cael cyfleusdra rhydd i gyrhaedd amcanion ymarferol ei sefydliad.

Y Meddwl, 1879.—Cychwynwyd y cylchgrawn misol hwn, yn y flwyddyn 1879, gan Gwmni Cambrian, Lerpwl, ond ni ddaeth allan ohono ychwaneg nag oddeutu pum' rhifyn.

Y Llenor Cymreig, 1882.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn, yn y flwyddyn 1882, dan olygiaeth y Parch. J. G. Matthias, Corwen, ac argrephid ef gan Mr. T Edmunds, Corwen. Deuai allan yn chwarterol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Ni chyhoeddwyd ond wyth rhifyn ohono, a rhoddwyd ef i fyny.

Y Geninen, 1883.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1883, a chychwynwyd ef gan Mr. John Thomas (Eifionydd), Caernarfon, ac efe hefyd sydd yn ei feddiannu ac yn ei olygu o'r dechreu hyd yn bresennol (1892), ac argrephid ef, ar y cychwyn, gan Mr. D. W. Davies, Caernarfon, ond, wedi hyny, yn Ionawr, 1890, symudwyd ef i gael ei argraphu i swyddfa Mr. W. Gwenlyn Evans, cyhoeddwr, Caernarfon. Gwelwn ei fod, yn Ionawr, 1892, wedi ei helaethu mewn maintioli, nes y gellir yn deg ei ystyried yn un o'r cylchgronau helaethaf sydd genym. Daw allan yn charterol, a'i bris ydyw swllt. Ei arwyddair, yn ol y wyneb—ddalen, ydyw: "Fy Iaith, fy Ngwlad, fy Nghenedl," ac yn sicr rhaid cydnabod ei fod, yn ei gynnwys, yn ateb i yspryd ei arwyddair, ac ystyrir ef yn gylchgrawn gwir genedlaethol. Ceir ynddo erthyglau parhaus ar faterion sydd yn dal cysylltiad agos â Cymru, megis "Diwylliant Llenyddol yn Nghymru," "Dygiad yr Efengyl i Brydain," "Perglon Enwadaeth Grefyddol," "Prifysgol i Gymru," "Y Delyn a'r Eisteddfod," "Cenedlgarwch y Cymry," "Cymraeg yr Oes hon," "Yr Eisteddfod a Safon Beirniadaeth," "Llythyraeth y Gymraeg," &c. Ceir ysgrifau yn mhob rhifyn ohono, oddiwrth rai o'r prif ysgrifenwyr a feddwn, a da genym ddeall ei fod yn cael cefnogaeth wresog y wlad. Un o neillduolion y cylchgrawn hwn ydyw y rhoddir holl ofod bron pob rhifyn ohono i'r elfen Gymreig—eithriad hollol ydyw cael neb na dim o'r tuallan i ddyddordeb cenedl y Cymry. Daw allan hefyd, bob dydd cyntaf o Mawrth, argraphiad neillduol, yr hwn a elwir Ceninen Gwyl Dewi, a rhoddir yr holl le ynddo i ysgrifau ar Gymry enwog ymadawedig, a diau fod hon yn elfen dda—cadw yn fyw goffadwriaeth cymwynaswyr y genedl rhag myned yn anghof.

Trysorfa yr Adroddwr, 1888.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1888, gan Mr. D. L. Jones (Cynalaw), Briton Ferry, ac efe hefyd sydd yn ei olygu, ac yn ei argraphu. Daw allan yn chwarterol, a'i bris ydyw tair ceiniog. Cyhoeddir ef dan "nawdd prif lenorion, beirdd, a cherddorion y genedl." Ceir ynddo ddadleuon, adroddiadau, a cherddoriaeth, at wasanaeth Cyfarfodydd Llenyddol ac Eisteddfodol. Rhoddir cefnogaeth dda iddo, a hyderwn y bydd iddo yntau barhau i'w theilyngu.

3.—Y CYLCHGRAWN I'R CHWIORYDD.

Y Gymraes, 1850.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1850, dan nawdd Gwenynen Gwent, gan y Parch. Evan Jones (Ieuan Gwynedd), ac efe hefyd oedd yn ei olygu, ac argraphwyd ef gan y Meistri Rees a Williams, Llanelli. Cylchgrawn misol ydoedd, at wasanseth merched Cymru. Ei bris ydoedd dwy geiniog. Cynnwysai erthyglau ar faterion fel y rhai canlynol:— "Y Fam," "Gwersi y Fam," "Yr Aelwyd," "Darluniau Teuluaidd," "Pa beth a ddylai gwraig fod," "Gwerth Addysg Fenywaidd," "Ieuo Anghydmarus," "Anniweirdeb Cymru," "Coginiaeth," &c. Dyma yr ymgais gyntaf erioed at gael cyhoeddiad pwrpasol i'r rhyw fenywaidd yn Nghymru. Yn yr ymdeimlad o hyn, dywedodd Ieuan Gwynedd unwaith yn un o'r ysgrifau:—Yr wyf yn disgwyl y gwna merched Cymru fi yn sant am eu hamddiffyn. Ni ryfeddem na chedwir Gwyl Ifan ganddynt mewn oesoedd dyfodol mewn cof am danaf fi." Ond, er holl ymdrechion clodwiw ac hunan—aberthol Ieuan Gwynedd, ac er mai hwn oedd yr unig gylchgrawn i ferched Cymru ar y pryd, eto, gwir ddrwg genym orfod dyweyd, na roddwyd cefnogaeth deilwng iddo, ac, mewn ystyr arianol, bu yn fethiant; ac fel y llwybr anrhydeddusaf i roddi y Gymraes i fyny, priodwyd hi a'r Tywysydd yn Llanelli, ac, yn mis Ionawr, 1852, ymddangosodd y ddau gyhoeddiad yn un misolyn—pris ceiniog—dan yr enw newydd Y Tywysydd a'r Gymraes, dan olygiaeth Ieuan Gwynedd a'r Parch. D. Rees, Llanelli. Nid yw yn adlewyrchu yn dda o gwbl ar chwaeth chwiorydd ein gwlad am adael i'r Gymraes fyned i lawr mor fuan, ac ofnir fod gan yr hyn a elwir yn enwadaeth, i raddau, rywbeth i'w wneyd a'r ffaith na chefnogwyd y cyhoeddiad hwn fel y dylesid.

Y Frythones, 1879—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1879, dan olygiaeth Miss Rees (Cranogwen), Llangranog, ac argrephid ef gan y Meistri D. Williams a'i Fab, Llanelli. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Dywed yr olygyddes dalentog, yn ystod yr anerchiad ddechreuol:—" Y mae llawer yn cydnabod ein bod yn ymddangos mewn bwlch ar y mur a drwy y blynyddoedd yn cael ei esgeuluso. Er dyddiau y llafurus a'r anfarwol Ieuan Gwynedd, ni fu gan lenyddiaeth Gymreig yr un cyhoeddiad i ferched a gwragedd, ac nid oedd fawr o argoel fod neb yn sylwi na neb yn symud, fel o'r diwedd, wedi ein cymhell gan y cyhoeddwyr, a chan y wlad, tueddwyd ni i wneuthur prawf ar ein gallu ein hunain i wneuthur y diffyg hwn i fyny." Ceid erthyglau yn Y Frythones ar destynau tebyg i'r canlyn:—"Y Dywysoges Alice," "Y Teulu—Ymborth—Dillad—Meddyginiaeth," "Yr Arglwyddes Jane Grey," "Gwenllian Morris," "Crefyddwyr y Canol—oesau," "Claudia," "Iechyd yn y Ty," "Ystafell y Claf," "Haf a Gauaf," "Dorcas," "Anhebgorion Cartref Dedwydd," &c., ac ysgrifenid yn ddyddorol ac addysgiadol arnynt. Ystyrid ef, yn mhob modd, yn gyhoeddiad dymunol a destlus, ac yn teilyngu cefnogaeth merched Gwalia. Drwg genym i iechyd Cranogwen dori i lawr yspaid yn ol, wedi bod yn hynod ymdrechgar a llwyddiannus i ddyrchafu ei chwiorydd yn Nghymru, ond da genym ddeall, erbyn hyn, ei bod yn gwella. Rhoddodd Y Frythones i fyny ei bywyd sengl ar ddiwedd y flwyddyn 1891, a phriodwyd hi & Chyfaill yr Aelwyd yn Ionawr, 1892.

4.—Y CYLCHGRAWN CERDDOROL

Y Blodau Cerdd, 1852.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Gorphenaf, 1852, gan y Parch. John Roberts (Ieuan Gwyllt), ac efe hefyd oedd yn ei olygu. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog a dimai. Ni chyhoeddwyd ohono ond saith rhifyn: cafodd y pedwar cyntaf eu hargraphu gan Mr. D. Jenkins, Heol Fawr, Aberystwyth, a'r gweddill gan Mr. J. Mendus Jones, Llanidloes, a diweddodd gyda'r rhifyn a ddaeth allan ar Ionawr 8fed, 1853. Y prif reswm, efallai, dros ei roddi heibio mor fuan ydoedd symudiad Ieuan Gwyllt i ymgymeryd ag arolygiaeth Yr Amserau yn Lerpwl, yn nghyda prysurdeb gofalon eraill. Bwriadai ef sil—gychwyn y cyhoeddiad hwn, am yr un pris, ac er iddo wneyd y trefniadau angenrheidiol ar gyfer hyny, eto ni roddwyd y bwriad hwn mewn gweithrediad. Diau y gellir edrych ar gychwyniad Y Blodau Cerdd fel yr ymdrech gyntaf yn Nghymru i gael cylchgrawn y gellid ei ystyried yn un cerddorol hollol, ac edrychir arno megis hedyn & blaenffrwyth y syniad am y cyhoeddiadau cerddorol & ddaethant ar ei ol. Cynnwysai pob rhifyn ohono ddwy ran: byddai oddeutu tair tudalen yn cynnwys "Ymddiddan" egwyddorion cerddoriaeth, dan y penawd "Yr Aelwyd," yn mha rai yr ymdrinid a'r "Erwydd, yr allweddau, gwahanol leisiau, gor—linellau, gwahanol seiniau, athroniaeth wain, gwersi ar leisio, ymarferion mewn lleisio, effaith gwahanol seiniau, cyweirnodau, amser," &c. Byddai yr " Ymddiddanion" hyn ar ddull athronyddol, ac eto yn eglur, ac hefyd, rhoddid darnau cerddorol, yn mhob rhifyn, at wasanaeth ieuenctyd yr Ysgol Sabbothol, &c.


Yr Athraw Cerddorol, 1854.—Cychwynwyd y cyhoedd— iad hwn yn y flwyddyn 1854, gan y Parch. John Mills, Llanidloes, ac efe hefyd oedd yn ei olygu. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Un nodwedd arbenig i'r cyhoeddiad hwn ydoedd y sylw a roddid ganddo i ganiadaeth gysegredig, a rhoddid gwersi ynddo fel cynnorthwy tuagat wella y canu cynnulleidfaol. Ni ddaeth allan ohono ond ychydig rifynau yn unig.

Y Cerddor Cymreig, 1861.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn dan nawdd prif gerddorion, corau, ac undebau cerddorol y Cymry, yn Mawrth 1861, a golygid of gan y Parch. John Roberts (Ieuan Gwyllt). Ei bris ydoedd dwy geiniog, a deuai allan yn fisol, ac yn yr Hen Nodiant y cyhoeddid ef. Argrephid ef, o'r cychwyniad hyd Rhagfyr, 1864, gan Mr. I. Clarke, Rhuthyn, ac yna, yn Ionawr, 1865, symudwyd ef i gael ei argraphu yn swyddfa Meistri Hughes a'i Fab, Gwrecsam, ac yno y parhaodd i gael ei argraphu, dan olygiaeth Ieuan Gwyllt, hyd y flwyddyn 1873, pryd y rhoddwyd ef i fyny. Greal y Corau, 1861.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1861, dan olygiaeth y Parch. E. Stephen (Tanymarian), Ab Alaw, Llew Llwyfo, ac eraill, ac argrephid ef gan Mr. T. Gee, Dinbych. Yn yr Hen Nodiant y cyhoeddid ef. Dwy geiniog ydoedd ei bris, a deuai allan yn fisol. Ni pharhaodd i ddyfod allan ond am ychydig dros ddwy flynedd.

Cerddor y Sulfa, 1869, 1881.—Daeth y cylchgrawn hwn allan yn y flwyddyn 1869, dan olygiaeth y Parch. John Roberts (Ieuan Gwyllt), ac argrephid ef gan Meistri. Hughes a'i Fab, Gwrecsam. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog—a—dimai. Yn y Tonie Solffa, fel y ynoda ei enw, y cyhoeddid ef. Rhoddwyd ef i fyny yn y flwyddyn 1874. Cychwynwyd cylchgrawn cyffelyb, ar yr un enw, yn yr un nodiant, am yr un pris, ac i'r un amcanion, yn y flwyddyn 1881, dan olygiaeth Mr. Hugh Davies (Pencerdd Maelor), Garth, ac argrephid ef yn yr un swyddfa ag yn flaenorol. Rhoddwyd ef i fyny drachefn yn y flwyddyn 1886.

Y Gerddorfa, 1872.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyboeddiad hwn ar Medi laf, 1872, dan olygiaeth Mr. D. Davies (Dewi Alaw), Pontypridd, yr hwn hefyd ydoedd yn ei argraphu, ac ar ol hyny, am ychydig amser, bu dan olygiaeth Mr. D Emlyn Evans, Hereford. Deuai allan yn yr Hen Nodiant a'r Tonic Sol-ffa. Cyhoeddiad misol ydoedd, a'i bris yn ddwy geiniog. Ceir, ar ol peth amser, fod y cylchgrawn hwn wedi dechreu peidio dyfod allan yn gyson a rheolaidd, a'r diwedd a fu iddo gael ei roddi i fyny.

Yr Ysgol Gerddorol, 1878.—Cychwynwyd y cylchgrawn hwn yn y flwyddyn 1878, dan olygiaeth Mr. W. T. Rees (Alaw Ddu), Llanelli, a'r Parch. J. Ossian Davies, Bournemouth, ac argrephid ef gan Mr. James Davies, Llanelli. Ei brs ydoedd ceiniog, a deuai allan yn fisol. Cyhoeddid ef yn yr Hen Nodiant a'r Tonic Sol—ffa. Ni pharhaodd ond am oddeutu dwy flynedd.

Cronicl y Cerddor, 1880.—Daeth y cyhoeddiad hwn allan ar Gorphenaf laf, 1880, dan olygiaeth Meistri D. Emlyn Evans, ac M. O. Jones, Treherbert, ac argrephid ef gan Mr. Isaac Jones, Treherbert. Cyhoeddi ef yn y ddau nodiant, deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Ni pharhaodd yn hwy nag oddeutu tair blynedd.

Y Perl Cerddorol, 1880.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1880, dan olygiaeth Mr. R. A. Williams, Cefn—coed—y—Cymer, ac argrephid ef gan Mr. Southey, cyhoeddwr, Merthyr Tydfil. Ceiniog ydoedd ei bris, a deuai allan yn fisol. Rhoddwyd ef i fyny ar ddiwedd ei flwyddyn gyntaf.

Cerddor y Cymry, 1883, Cyfaill yr Aelwyd, 1880.—Cychwynwyd Cerddor y Cymry yn Mai, 1883, gan Mr. W. T. Rees (Alaw Ddu), ac efe hefyd oedd yn ei olygu, ac argrephid ef gan Mr. D. Williams a'i Fab, Llanelli. Deusi allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog, a chyhoeddid ef yn y ddau nodiant. Cychwynwyd Cyfaill yr Aelwyd yn y flwyddyn 1880, gan Mr. Beriah Gwynfe Evans, Llanelli, ac efe hefyd oedd yn ei olygu, ac argrephid ef gan Meistri D. Williams a'i Fab, Llanelli. Deuai allan, ar y cyntaf, yn wythnosol, ac yna yn fisol, a'i bris cychwynol ydoedd tair ceiniog. Amrywiol ydoedd nodwedd ei gynnwys, a'r elfen deuluaidd a chartrefol ydoedd ei brif elfen. Oddeutu dechreu y flwyddyn 1886, modd bynag, gwnaed cyfnewidiad gyda'r cyhoeddiadau hyn: unwyd Cerddor y Cymry & Chyfaill yr Aelwyd, a daethant allan fel un eyhoeddiad am ychydig dros ddwy flynedd, pryd y gwahanwyd hwy fel o'r blaen. Yr oedd rhan helaeth o'r Cyfaill, tra y bu Cerddor y Cymry yn nglyn âg ef, yn gerddorol. Ar ol hyny, modd bynag, dan yr un olygiaeth ag o'r blaen, ac yn yr un swyddfa, daeth Cyfaill yr Aelwyd allan yn fisol am dair ceiniog—a dywedai am dano ei hun ei fod "at wasanaeth y Cymry, yn cynnwys chwedloniaeth, cerddoriaeth, barddoniaeth, gwyddoniaeth, llenyddiaeth bur, adeiladol, a dyddanus." Teg ydyw dyweyd fod Cyfaill yr Aelwyd wedi ei roddi i fyny yn ei ffurf flaenorol er diwedd y flwyddyn 1891, a chysylltwyd ef â'r Frythones, a daeth y ddau allan, ar ddechreu y flwyddyn 1892, fel un cyhoeddiad. Hefyd, erbyn hyn, ceir fod Cerddor y Cymry wedi ail-ddechreu dyfod allan fel o'r blaen, yn yr un swyddfa, a than yr un olygiaeth. Mae Cerddor y Cymry, er dechreu y flwyddyn 1891, wedi cael ei helaethu i un-ar-bymtheg o dudalenau yn lle wyth, a chodwyd dimai ar ei bris, fel mai ceiniog-a -dimai ydyw ei bris yn awr, a chynnwysa gerddoriaeth yn y ddau nodiant. Ysgrifena y golygydd (Alaw Ddu) erthyglau i bob rhifyn ar "Ysgol y Cyfansoddwr," yn cynnwys gwersi ar elfenau cyfansoddiant—mewn melodedd (melody), cynghanedd (harmony), a ffurf (form), &c., ac hefyd ysgrifena Pedr Alaw gyfres ar "Offeryniaeth a Hanesiaeth Gerddorol," a cheir Congl yr "Holi ar Ateb" dan ofal Mr. C. Meudwy Davies Llanelli.

Y Cerddor, 1889.—Cychwynwyd y cylchgrawn hwn yn y flwyddyn 1889, a dywedir ei fod yn gyflwynedig i gerddorion Cymru, dan olygiaeth Mr. D. Jenkins, Aberystwyth, a D. Emlyn Evans, Hereford. Cyhoeddir ef yn y ddau nodiant, a daw allan yn fisol, a'i bris ydyw dwy geiniog. Ceir fod y cyhoeddiad hwn yn ymwneyd â gwahanol agweddau cerddoriaeth, a hyny yn ol y dull diweddaraf. Canmolir Y Cerddor yn fawr, a cheir ynddo erthyglau galluog, dysgedig, a newydd, a hyderwn y parha i fyned yn mlaen ar yr un llinellau ag y cychwynodd.

Y Solffaydd, 1891.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn allan ar Ionawr 15fed, 1891, a chyhoeddir ac argrephir ef gan Mr. Daniel Owen, Pontardulais. Gyda golwg ar ei olygiaeth ni enwir neb ar y wyneb-ddalen, ond yn unig dywedir ei fod dan ofal golygwyr. Cyhoeddiad misol ydyw hwn at wasanaeth Solffawyr Cymru, a'i bris ydyw ceiniog. Yn yr anerchiad dechreuol dywed y golygwyr Ein prif reswm dros anturio o'ch blaen gyda chyhoeddiad newydd ydyw nad oes yr un papyr yn Nghymru, ar hyn o bryd, yn gyfangwbl at eich gwasanaeth. Mae genym gyhoeddiadau da, mae yn wir, ond nid ydynt yn bodoli yn hollol i hyrwyddo y Sol-ffa, ac astudiaeth ohoni, yn y wlad. Felly, yn ngwyneb y ffaith fod disgyblion y gyfundrefn yn Nghymru yn rhifo eu miloedd, a'r nifer hwn ar gynnydd yn barhaus, gwahoddwyd ni i gychwyn misolya a fyddai yn hollol â'i fryd i ledaenu gwybodaeth, ac i ddarparu ar gyfer eich anghenion chwi."

5.—Y CYLCHGRAWN CENHADOL.

Y Cronicl Cenhadol, 1817.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1817, dan olygiaeth y Parch. D. Davies, Panteg, a chyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. John Evans, Caerfyrddin. Cyhoeddiad bychan ydoedd, a deuai allan yn fisol. Rhoddai hanes y gwahanol genhadaethau, a thueddai i feithrin yspryd cenhadol. Parhaodd i ddyfod allan am rai blynyddoedd.

Yr Hanesydd Cenhadol, 1830.—Cyhoeddiad bychan misol ydoedd hwn, a chyhoeddid ac argrephid ef yn Llundain, dan nawdd Cymdeithas Genhadol Llundain. Parhaodd am oddeutu tair blynedd.

Y Brud Cenhadol, 1836.—Daeth y cyhoeddiad hwn allan yn y flwyddyn 1836, a chyhoeddid ef dan nawdd Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr, ac argrephid ef gan Mr. Isaac Thomas, Aberteifi. Cyhoeddiad bychan a rhad ydoedd, a chynnwysai ddarluniau eglurhaol, a deuai allan yn fisol. Rhoddwyd ef i fyny yn fuan.

Y Cenhadydd, 1878.—Daeth hwn allan yn y flwyddyn 1878, a chychwynwyd ac arolygid ef gan Mr. Llewelyn Jenkins, Caerdydd. Deuai allan yn chwarterol, a bwriedid iddo fod yn gyhoeddiad at wasanaeth y Genhadaeth, yn mhlith y Bedyddwyr, ond ni ddaeth allan ohono fwy nag ychydig rifynau.

Yr Herald Cenhadol, 1881.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1881, gan Mr. D. Davies, Treorci, a chyhoeddid ef, yn neillduol, at wasanaeth y Bedyddwyr yn Dyffryn Rhondda. Daw cyhoeddiad o'r enw hwn allan yn awr hefyd, yn mhlith y Bedyddwyr, dan olygiaeth y Parchn. G. Ll. Evans, Barry Dock; W. Morris, F.R.G.S., Treorci; a B. Evans, Gadlys, Aberdar, ac argrephir ef gan Mr. B. Davies, Ponty— pridd. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw ceiniog. Cyfrifir ef yn gwbl at wasanaeth cenhadol, a gwna les.

Newyddion Da, 1881, 1892.—Daeth y cyhoeddiad hwn allan yn Hydref, 1881, ac ystyrid ef fel cylchgrawn cenhadol y Methodistiaid Calfinaidd, a chyhoeddwyd ef trwy annogaeth y Gymanfa Gyffredinol. Golygid ef, ar ran Pwyllgor y Genhadaeth, gan y Parch. Josiah Thomas, M.A., Lerpwl, ac argrephid ef gan y Meistri P. M. Evans a'i Fab, Treffynnon. Ei bris ydoedd ceiniog, a deuai allan yn chwarterol. Rhoddwyd ef i fyny yn y flwyddyn 1885. Ceir yn Ionawr, 1892, fod y cylchgrawn hwn wedi ail—ymddangos, dan yr un enw, ac i'r un amcanion, a chyhoeddid ef y waith hon eto "drwy annogaeth y Gymanfa Gyffredinol." Golygir ef yn awr (1892) gan y Parch. Griffith Ellis, M.A., Bootle, ac argrephir ef gan Mr. W. Jones, Newport. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw ceiniog. Dywedir, yn mhlith pethau eraill yn y "Gair at ein Darllenwyr," yn y rhifyn cyntaf:— "Yr unig reswm am ail—ymddangosiad Newyddion Da ydyw argyhoeddiad o anghen am ryw gyhoeddiad o'r fath er meithrin y teimlad cenhadol sydd mor gryf a chyffredinol yn ein haelodau a'n gwrandawyr. Rhoddir y lle blaenaf, wrth gwrs, i waith ein Cenhadaeth ein hunain yn India a Llydaw, ac ymdrechir dwyn i mewn o fis i fis hanes ein hymdrechion cenhadol o'r dechreuad.... Ond ni chyfyngwn ein sylw mewn un modd i'r gwaith yn ein plith ein hunain. Ein maes fydd y byd. Ceisiwn roddi rhyw syniad am lafur gwahanol genhadaethau Protestanaidd y byd; gan ddwyn gerbron hanes a gwaith y prif genhadon mewn gwahanol oesoedd a gwledydd."

6.—Y CYLCHGRAWN ATHRONYDDOL

Cylchgrawn y Gymdeithas er taenu Gwybodaeth Fuddiol, 1834.—Cychwynwyd y cylchgrawn misol hwn yn Ionawr, 1834, dan olygiaeth y Parch. John Blackwell (Alun), B.A., a chyhoeddid ef gan y Meistri D. R. & W. Rees, Llanymddyfri. Ei bris ydoedd chwe' cheiniog. Denai allan o'r wasg, yn y dechreu, ar y pymthegfed dydd o'r mis, ond, ar ol y flwyddyn gyntaf, dygid ef allan ar ddydd cyntaf pob mis. Dywedir, fel arweiniad i mewn i'r rhifyn cyntaf, wrth egluro ei natur, mai testynau erthygl— au Y Cylchgrawn a fyddent:"Ofyddiaeth yn ei holl ranau Bywydau enwogion Hanesiaeth—Deifnogaeth— Seroni—Barddoni a Henafiaeth Gymreig—Breintiau Cymdeithas ac Iawn Drefn Gwlad—Cyfarwyddiadau i Benau Teuluoedd, Tyddynwyr, Llafurwyr," &c. Er fod oddeutu wyth o gyfnodolion misol yn cael eu cyhoeddi yn Nghymru, ar yr un adeg ag y cychwynwyd Y Cylchgrawn, a hyny am yr un pris, eto yr oedd yr wyth hyny yn rhedeg bron yn gwbl i'r un cyfeiriad, sef crefyddol a duwinyddol, a chredwn fod y cyhoeddiad hwn gan Mr. Blackwell yn un o'r cyhoeddiadau Cymreig cyntaf i gymeryd i mewn elfenau yn tueddu at fod yn wyddonol ac athronyddol, a rhoddi lle i wybodaeth gyffredinol. Ceid darluniau da, bron yn mhob rhifyn, i egluro y materion, ac ymddengys i ni ei fod, wrth gymeryd pobpeth i'r cyfrif, yn un o gyhoeddiadau goreu y cyfnod hwnw; ond drwg genym na ddaeth alian ohono and deunaw rhifyn, a rhoddwyd ef i fyny oberwydd diffyg cefnogaeth.

Y Symbylydd, 1864.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Medi, 1864, a chychwynwyd ef gan y Parch. J. Ogwen Jones, B.A., Rhyl, yr hwn hefyd ydoedd yn ei olygu, ac argrephid ef gan Mr. Clement Evans, 40, Mill Street, Lerpwl. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Gellir dyweyd fod cryn lawer o'r elfen athronyddol yn y cyhoeddiad hwn, a mwy nag yn y cyffredin o'r cylchgronau Cymreig, yn enwedig ar yr adeg hono, a diau iddo wneyd lles trwy arwain sylw ei ddarllenwyr i gyfeiriadau ag oeddynt yn lled newydd i'r lluaws ar y pryd. Ceid ysgrifau ynddo ar "Anmhosiblrwydd Symudiad," "Creadigaeth," "Daeareg," "Y Gwenyn," "Fra Paulo Sarpi," &c., ac eto, cofier, edrychid ac ymdrinid â'r holl bethau hyn oddiar safle grefyddol. Ymddengys mai y rhifyn am Mehefin, 1865, oedd yr olaf ohono a ddaeth allan.

Yr Athronydd Cymreig, 1890.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Mawrth, 1890, gan y Parch. W. Evans (Monwyson), Wyddgrug, ac efe hefyd sydd yn ei olygu ac argrephid ef gan Mr. Samuel Hughes, 3, York Place, Bangor. Daw allan yn ddau—fisol, a'i bris ydyw tair ceiniog. Wrth egluro amcan ei gychwyniad, dywed y golygydd:—"Yn credu fod anghen am gyhoeddiad o natur a maint Yr Athronydd Cymreig, ar gyfer ieuenctyd Cymru ac eraill, yr ydym yn cyflwyno y rhifyn cyntaf hwn i sylw a nawdd y Cymry yn gyffredinol. Bydd y cyhoeddiad yn cynnwys erthyglau cyflawn ar y testynau a nodir, sef Athroniaeth, Duwinyddiaeth, Esboniadaeth, Beirniadaeth, Cerddoriaeth, Barddoniaeth, ac Amrywiaeth. Bydd croesaw i bob gofyniad duwinyddol, athronyddol, cerddorol, a barddonol, gan ein bod wedi sicrhau boneddigion galluog i ymgymeryd â'r naill a'r llall." Cawn fod ysgrifau galluog wedi ymddangos eisoes ynddo ar destynau fel y rhai canlynol:—"Athroniaeth Henafol," "Hen Emynwyr Cymreig," " Athroniaeth Pregeth Paul yn Athen," "Meddyleg, nea Athroniaeth y Meddwl," "Ysprydoliaeth y Beibl," "Y Drysorgell Ysgrythyrol," "Athroniaeth Cyfrifoldeb," "Athroniaeth Iaith," &c. Baasem yn tybied, os yn dal yn mlaen fel yn bresennol, y gall y cylchgrawn hwn ddyfod yn allu er daioni yn ein gwlad . Symudwyd ef yn Ionawr, 1891, i gael ei argraphu i swyddfa Mr. W. Lloyd Roberts, Blaenau Ffestiniog.

7.—CYLCHGRAWN I'R YSGOL SABBOTHOL.

Yr Athraw, 1829.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1829, gan y Parch. W. Rowlands, D.D. , Utica, America (gynt yn Pontypool, Deheudir Cymru). Cymerodd hyn le cyn i Dr. Rowlands fyned i'r America, pan oedd yn byw yn Pontypool, a darfu iddo, Mawrth 20fed, 1829, brynu swyddfa a holl gelfi argraphu Mr. Richard Jones, Pontypool, a dyna yr adeg, wedi iddo ef gymeryd y swyddfa, y cychwynwyd Yr Athraw hwn . Cyhoeddiad misol bychan ydoedd, yn cael ei sefydlu, yn benaf, at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol. Cynnwysai hanes gweithrediadau yr Ysgolion Sabbothol, argymhellion i lafur Beiblaidd, a hyfforddiadau i ddeiliaid y sefydliad daionus hwn. Ymddengys ei fod yn gyhoeddiad da, ac yn cael derbyniad croesawgar a chylchrediad lled eang, a gwelir ambell i rifyn ohono eto mewn rhai teuluoedd yn Nghymru. Dywedir nad oedd Dr. Rowlands, y pryd hyny, ond oddeutu 22ain mlwydd oed, ac efe oedd yn golygu ac yn argraphu y cyhoeddiad hwn ei hunan, a pharhaodd i'w ddwyn allan am oddeutu tair blynedd, pryd y rhoddwyd ef i fyny.

Yr Esboniwr 1844.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn allan yn Ionawr, 1844, a chyhoeddid ef gan y Meistri J. Phillips, St. Anne Street, Caerlleon, ac A. R. Hughes, Gwrecsam, ac argrephid of gan Mr. Thomas Thomas, Caerlleon. Ei olygydd ydoedd y Parch. L. Edwards, D.D., Bala. Ei bris ydoedd ceiniog—a—dimai, ac yr oedd yn gyhoeddiad misol cwbl anenwadol. Ystyrid ef yn llwyr at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol. Llenwid ef âg Eglurhadaeth Feiblaidd, ac yr oedd, er yn fychan mewn maintioli, yn ateb yn hollol i'w enw. Drwg iawn genym orfod hysbysn iddo gael ei roddi i fyny yn lled fuan oherwydd diffyg cefnogaeth, a gresyn o'r mwyaf, yn sicr, ydoedd hyny.

Cydymaith yr Ysgol Sabbothol, 1852.—Cychwynwyd hwn yn y flwyddyn 1852, gan Mr. R. O. Rees, Dolgellau, ac efe hefyd oedd yn ei arolygu ac yn ei argraphu. Ei amean, fel y dynoda ei enw, ydoedd gwasanaethu yr Ysgol Sabbothol. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Oes fer a gafodd. Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol, 154.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1854, dan olygiaeth Mr. W. V. Villiams, Caernarfon, ac argrephid ef gan Mr. Thomas Jones—Evans, cyhoeddwr, Caernarfon. Cychwynwyd y cylchgrawn hwn, yn benaf, at wasanaeth Ysgolion Sabbothol y Methodistiaid Calfinaidd yn Arfon, a cheir, yn nglyn â'i gychwyniad, fod y Cyfarfod Chwech—wythnosol [perthynol i'r Ysgolion Sabbothol yn Dosparth Caernarfon] gynnaliwyd Rhagfyr lleg, 1853, yn y Ceunant, yn llawen o'r cynnygiad [i gychwyn y cylchgrawn hwn], a'u bod yn gobeithio y bydd i'r athrawon wneyd eu goreu yn y gwahanol ysgolion tuagat roddi cefnogaeth i'r brodyr ieuainc oedd yn ymgymeryd â'r anturiaeth." Gwelir ei fod, mewn rhan, yn cael ei gychwyn dan nawdd Cyfarfod Ysgolion Dosparth Caernarfon. Deuai allan yn fisol a'i bris ydoedd ceiniog. Ni pharhaodd i ddyfod allan ond am ychydig.

Yr Esboniwr, neu Gylchgrawn yr Ysgol Subbothol, 1854. —Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1851, dan olygiaeth y Parch. J. Hughes, D.D., Caernarfon (Porthaethwy y pryd hwnw), ac argrephid ef gan Mr. Thomas Jones—Evans, cyhoeddwr, Caernarfon. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Buasid yn tybied, oddiwrth ei "Anerchiad at ein Darllenwyr," am rifyn Chwefror, 1854, mai at wasanaeth Ysgolion Sabbothol y Methodistiaid Calfinaidd yn Môn, yn benaf, y cychwynwyd ef. Ceid ysgrifau rhagorol ynddo ar destynau fel y canlyn:"Yr Addfwyn yn etifeddu y ddaear," "Y Pedwerydd Gorchymyn," "Y Bennod Gyntaf o'r Hebreaid," &c.

Charles o'r Bala, Yr Aelwyd, 1859.—Cychwynwyd y cyhoeddiad a elwid Charles o'r Bala yn y flwyddyn 1859, dan olygiaeth y Parch, N. Cynlafal Jones, D.D., Llanidloes, hyd Mehefin, 1859, ac yna Mr. J. Davies (Gwyneddon), Caernarfon, oedd yn ei olygu tra y parhaodd i ddyfod allan. Eiddo y Meistri James Evans, Caernarfon, a J. Davies (Gwyneddon), ydoedd y cyhoeddiad hwn, ac argrephid ef yn swyddfa Mr. James Rees, Caernarfon. Deuai allan yn bymthegnosol, a'i bris ydoedd ceiniog. Newidiwyd ei enw oddeutu diwedd y flwyddyn gyntaf, a galwyd ef ar yr enw Yr Aelwyd, ond prin y parhaodd am flwyddyn ar ol hyn. Deuai allan yn fisol dan ei enw newydd, a cheiniog ydoedd ei bris. Mewn pennillion a ymddangosodd yn rhifyn cyntaf Charles o'r Bala, wrth ddarlunio amcanion y cyhoeddiad, dywedai Ceiriog mai un amcan ydoedd dal i fyny goffadwriaeth yr anfarwol Mr. Charles,

"A dysgu 'n plant i'w alw 'n dad
Gwybodaeth Feiblaidd Gwalia—
Yn In Memoriam gwasg ei wlad
Cyflwynir Charles o'r Bala.

Y Bugail, neu Gylchgrawn Gwybodaeth Ysyrythyrol a Chydymaith yr Ysgolion Sabbothol, 1859. Daeth y rhifyn cyntaf ohono allan yn Hydref, 1859, dan olygiad y Parch. Owen Jones (Meudwy Môn), Llandudno, ac argrephid ef gan Mr. R. Jones, Bethesda, Arfon. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Ei arwyddair ydoedd—"Bugeilia fy Nefaid." Byddai yn llawn o Eglurhadaeth Ysgrythyrol. Ber a fu ei oes.

Yr Ymwelydd, 1859.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn allan yn Mai, 1859, a chychwynwyd ef mewn cysylltiad â Chyfarfod Ysgolion y Methodistiaid Calfinaidd yn Penllyn (Meirionydd) ac Edeyrnion. Golygid ef gan y Parch, T. C. Edwards, D.D., Bala, a John Williams, Llandrillo, ac argrephid ef gan Mr. R. Saunderson, Bala. Cylchgrawn lled fychan mewn maintioli ydoedd, a deuai allan yn ddau-fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Ni pharhaodd yn hir, oherwydd cawn y rhifyn olaf ohono yn dyfod allan yn Tachwedd, 1861. Ystyrid ef, fel y gallesid disgwyl oddiwrth enw a safle ei olygwyr, yn gyhoeddiad sylweddol ac eglurhaol, ac yn sicr o fod yn wasanaethgar iawn i'r Ysgol Sabbothol.

Y Cyfaill Eglwysig, 1862 —Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn, mewn cysylltiad a'r Eglwys Sefydledig, yn y flwyddyn 1862, a daw allan yn fisol, a'i bris ydyw ceiniog. Ei olygydd ydyw y Parch. Canon W. Evans, Rhymni. Ei arwyddair, yn ol y wyneb-ddalen, ydyw: "Un Arglwydd, un ffydd, un bedydd." Rhoddir un ran ohono i wasanaethu dirwest, a golygir y rhan hono gan y Parch. J. P. Lewis, Cresford, Gwrecsam. Cyhoeddir ac argrephir ef gan Meistri W. Spurrell a'i Fab, Caerfyrddin. Cyhoeddiad at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol ydyw hwn, ac, os nad ydym yn camgymeryd, i'r amcan hwnw y cychwynwyd ef gyntaf. Rhoddir lle helaeth ynddo i Eglurhadaeth Ysgrythyrol. Ceir cyfres o ofyniadau i'r darllenwyr bron yn mhob rhifyn ohono, ac anfonir atebion iddynt i'r rhifynau dilynol. Wele, er enghraipht, ddau neu dri, yn mhlith eraill, o'r gofyniadau oedd ynddo am Mai, 1890: (a) Pa sawl allor a adeiladodd Abraham i'r Arglwydd, ac yn mha leoedd (6) Beth yw y gwahaniaeth rhwng "heddwch" & "cymmod," yn ol fel y gosodir hwynt allan yn y Beibl (c) Beth yw y gwahaniaeth rhwng y geiriau "olewydd ac olew-wydd," "ffawydd a ffaw-wydd" Diau fod y cyhoeddiad hwn yn wir deilwng o'r gefnogaeth a dderbynia.

Yr Arweinydd, 1862, 1876.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn—y gyfres gyntaf—yn nechreu y flwyddyn 1862, dan olygiaeth y Parch. Griffith Davies, Aberteifi (Aberystwyth gynt), a Thomas Edwards, Penllwyn, ond teg yw dyweyd mai ar Mr. Davies y disgynai y gwaith yn benaf. Cyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. Phylip Williams, Aberystwyth. Byddai y Parch J. Williams, Aberystwyth, yn cynnorthwyo gyda'r rhan wleidyddol o'r cylchgrawn, a Mr. J. Jones (Ivon), Aberystwyth, yn gofalu am y farddoniaeth. Ar y golygwyr yr oedd y cyfrifoldeb arianol yn gorphwys, oddigerth fod Cyfarfod Misol Sir Aberteifi yn talu rhyw gymaint am gyhoeddi ei gofnodion misol ynddo, ond tynwyd hyny yn ol yn ystod y drydedd flwyddyn. Ceiniog-a-dimai oedd ei bris ar y cyntaf, ond ar addewid y Cyfarfod Misol i dalu am gyhoeddi y cofnodion, gostyngwyd ei bris i geiniog. Yn y cylchgrawn hwn yr ymddangosodd y gyfres gyntaf, gan y diweddar Barch. David Charles Davies, M.A., o'r "Nodiadau ar Epistol Cyntaf Ioan." Rhoddid gair uchel i'r cyhoeddiad hwn, ond drwg genym iddo gael ei roddi i fyny ar diwedd ei drydedd flwyddyn. Yn Ionawr, 1876, cychwynwyd yr ail gyfres ohono dan olygiaeth y Parch. Llewelyn Edwards, M.A., Aberystwyth, ac amcenid iddo fod at wasanaeth eglwysi ac Ysgolion Sabbothol y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngogledd a Dehau Ceredigion. Cyhoeddid ac argrephid ef, dros y ddau Gyfarfod Misol (Gogledd a Dehau Aberteifi), gan Mrs. Emma C. Williams, Great Darkgate-street, Aberystwyth. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Cychwynwyd ef yn benaf, fel y gwelir, er mwyn cyfarfod anghenion neillduol Sir Aberteifi, a gofelid am dano, yn ei gysylltiadau masnachol, gan bwyllgor perthynol i'r ddau Gyfarfod Misol hyn.

Yr Athraw a'r Ymwelydd, 1864.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ebrill, 1864, a chyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. John D. Jones a'i Gwmni, Bangor. Deuai allan yn fisol, a chynnwysai pob rhifyn ddeuddeg-ar- hugain o dudalenau. Ni ddaeth allan ohono ond pedwar rhifyn. Wele rai o destynau y rhifyn cyntaf:—"Yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru," "Gweithgarwch gyda Chrefydd," "Mawredd y Beibl," &c.

Cylchgrawn yr Ysgol Sabbothol, 1875.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Mawrth, 1875, a chychwynwyd ef gan y Parch. J. R. Hughes, Brynteg, Môn, ac efe oedd yn ei olygu, a golygid ei—farddon. iaeth gan y Parch. R. Jones (Glan Alaw), Llanfachreth (Bryn'refail, Arfon, yn awr). Argrephid ef gan Mr. Lewis Jones, Llanerchymedd. Cyhoeddiad bychan ydoedd, a deuai allan yn wythnosol, a'i bris ydoedd dimai. Er ei fod yn arbenig at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol, rhoddid lle ynddo i'r elfen ddirwestol.

Cronicl yr Ysgol Sabbothol, 1878.—Cychwynwyd hwn yn Ionawr, 1878, gan y Parchn. John Evans, Garston, a John Jones, 469, West Derby Road, Lerpwl (Runcorn gynt), a hwy oeddynt yn ei olygu, ac argrephid of gan Mr. D. H. Jones, Dolgellau. Darfu i'r ddau olygydd ymneillduo cyn diwedd dwy flynedd, a threfnwyd fod i'r Parch. D. C. Edwards, M.A., Merthyr Tydfil (Bala gynt), ymgymeryd â'r olygiaeth. Ar ol ei olygu am yspaid, darfu iddo yntau roddi i fyny yr olygiaeth, a bu y cyhoeddiad am ychydig amser heb yr un golygydd neillduol i ofalu am dano, a chredwn mai y rhifyn am Chwefror, 1884, oedd yr olaf a ddaeth allan ohono, ac felly oddeutu chwe' blynedd a fu hŷd ei oes. Deuai allan yn fisol, a dwy geiniog ydoedd ei bris. Gan fod y cyhoeddiad hwn, i raddau, yn taraw ar dant lled newydd, ar y pryd, yn llenyddiaeth Cymru, a chan fod gwir anghen, yr adeg hono, am gyhoeddiad o'r fath, cafodd dderbyniad croesawgar gan y wlad ar ei gychwyniad cyntaf, a dywedir y bu ei gylchrediad, yn ei fisoedd cyntaf, yn cyrhaedd oddeutu un-mil-ar-ddeg, ond erbyn oddeutu diwedd ei chweched flwydd yr oedd wedi gostwng llawer. Ymddengys, mewn rhan, mai cyfnewidiadau, ar y pryd, yn y swyddfa, ac mewn rhan, diffyg cefnogaeth, oedd yr achosion penaf dros ei roddi i fyny. Ystyrid y cyhoeddiad hwn, mor bell ag yr oedd yn myned, i'r amcanion y bwriadwyd ef, yn gyhoeddiad da a buddiol, yn enwedig yn ei flynyddoedd cyntaf, a diau y bu yn foddion anuniongyrchol i gael dynion blaenaf ein cenedl i roddi sylw i'r pwysigrwydd o gael llenyddiaeth arbenig ar gyfer Ysgolion Sabbothol Cymru.

Yr Ysgol, 1880.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1880, gan y Parchn. John Evans, Garston, a John Jones, 469, West Derby Road, Lerpwl (Runcorn gynt), a hwy oeddynt yn ei olygu, ac argrephid ef gan y Meistri P. M. Evans a'i Fab, Treffynnon. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Cychwynwyd ef yn un pwrpas er gwasanaethu yr Ysgol Sabbothol. Ymddengys mai y rhifyn am Mawrth, 1881, oedd yr olaf a ddaeth allan ohono, fel na bu fyw ond ychydig gyda blwyddyn.

Y Llusern, 1883.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Tachwedd, 1883, dan olygiaeth y Parchn. D. C. Evans, Porthaethwy, a W. Pritchard, Pentraeth, ac argrephid ef gan Mr. D. W. Davies, Caernarfon. Cychwynwyd ef, yn benaf, dan nawdd Cyfarfod Misol Môn. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw ceiniog. Arwyddair y cylchgrawn hwn ydyw "Nid llai fy ngoleuni i o'ch goleuo chwi," a chyhoeddir ef yn gwbl gyda'r amcan i wasanaethu yr Ysgol Sabbothol. Cymerodd cyfnewidiad le, yn nglyn âg ef, yn nechreu y flwyddyn 1889, pryd yr ymgymerwyd a'r olygiaeth a'r berchenogaeth gan y Parchn. R. Humphreys, Bontnewydd, a John Williams, Brynsiencyn, a hwy sydd yn parhau i'w olygu, ond deallwn fod y berchenogaeth, erbyn hyn, wedi ei throsglwyddo drosodd i'r cyhoeddwr ei hunan.

Y Lladmerydd, 1885.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1885, dan olygiaeth y Parcho. J. Morgan Jones, Caerdydd, ac Evan Davies, Trefriw, a gofelir am ychydig gerddoriaeth a roddir ar ddiwedd pob rhifyn gan Mr. D. Jenkins, Aberystwyth, ac argrephir ef, o'r dechreu, gan Mr. E. W. Evans, Dolgellau. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw dwy geiniog. Ymddengys mai oddeutu dwy fil a haner oedd ei gylchrediad y flwyddyn gyntaf, a gostyngodd ychydig yn yr ail flwyddyn, ond yn ystod ei drydedd flwyddyn, darfu iddo godi yn ei rif; a byth er yr adeg hono, da genym gael dyweyd ei fod yn cynnyddu bob blwyddyn, ac yr oedd ei gylchrediad ar ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf yn cyrhaedd oddeutu chwe' mil. Dylid cofio nad oes yr un cysylltiad swyddogol yn bod rhwng y cyhoeddiad hwn â chyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd, er mai yn eu plith hwy, yn benaf, y derbynir ef.

Yr Addysgydd, 1891.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Rhagfyr, 1891, dan olygiaeth y Parch. T. Manuel, Corris, ac argrephir ef gan Mr. D. Davies-Williams, cyhoeddwr, Machynlleth. Cychwynwyd ef fel cylchgrawn, yn benaf, ar gyfer maes llafur Ysgolion Sabbothol y Wesleyaid yn Talaeth Deheudir Cymru. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw ceiniog, Wele ei eiriau, wrth egluro amcan ei ymddangosiad, yn y rhifyn cyntaf: "Mae iddo ei le arbenig ei hun, ac ni sanga ar diriogaeth yr un cyhoeddiad arall. . . . . Cwynir yn fynych fod y maes llafur yn galed i'w weithio allan—fod aml i ysgol yn fyr o athrawon goleuedig, a bod cyfryngau i ymgydnabyddu â'r gwersi yn hynod brin, yn ogystal a'u bod tuallan i allu deiliaid yr Ysgol Sabbothol i'w cyrhaedd. . . . Amcenir i'r Addysgydd lanw y bwlch, a gwneyd pob ysgol trwy'r Dalaeth, o hyn allan, yn ddi-esgus. Bydd yn hawdd bellach, yn nghymhorth y cyhoeddiad, i sefyll arholiad llwyddiannus yn y gwahanol ddosparthiadau ar ben y tymmor."

8.—Y CYLCHGRAWN DIRWESTOL.

Y Cymedrolydd, 1886.—Cylchgrawn bychan misol ydoedd hwn, a chychwynwyd ef, er mwyn gwasanaethu achos sobrwydd, gan y Parch Owen Jones (Meudwy Môn), Llandudno, ac efe hefyd oedd yn ei olygu, a chyhoeddid ac argrephid ef yn swyddfa Mr. T. Gee, Dinbych. Ymddengys, mor bell ag y gellir gweled, mai dyma yr ymgais gyntaf i gael cylchgrawn arbenig at wasanaeth yr achos da hwn. Ei bris ydoedd ceiniog, ond drwg genym na ddaeth allan ohono ond oddeutu wyth rhifyn.

Y Dirwestydd, 1836.—Cychwynwyd hwn yn y flwyddyn 1836, gan Mr. John Jones, Lerpwl, ac efe hefyd ydoedd yn ei gyhoeddi. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Cychwynwyd ef er mwyn egluro ac amddiffyn egwyddorion llwyr-ymwrthodiad. Parhaodd i ddyfod allan am oddeutu tair blynedd.

Y Cerbyd Dirwestol, 1837.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn nechreu y flwyddyn 1837, gan y Parch. Owen Jones (Meudwy Môn), Llandudno, ac efe hefyd ydoedd yn ei olygu, ac argrephid ef gan y Meistri H. ac O. Jones, Wyddgrug. Cylchgrawn bychan misol ydoedd, a'i bris yn geiniog, ond ni pharhaodd i ddyfod allan yn hwy na diwedd y flwyddyn gyntaf. Nis gellir peidio sylwi, yn nglyn â chychwyniad rhai o'r cyhoeddiadau dirwestol hyn, yn ogystal â rhai cylchgronau mewn cyfeiriadau eraill, fod ein cenedl dan rwymedigaeth fawr i gydnabod llafur y Parch. Owen Jones (Meudwy Môn), a diau fod Clwydfardd yn rhoddi datganiad i'r teimlad cenedlaethol, pan y dywedodd am dano:—

"Owain gu fu drwy 'i fywyd—yn weithiwr
A phregethydd diwyd ;
A'i Dduw was'naethodd o hyd
A chalon ddifryoneulyd.

Pur Gristion mewn gwirionedd—hynod oedd,
Yn llawn dawn a rhinwedd;
Wr da, pan ddeuai'r diwedd,
Adre' aeth i wlad yr hedd."

Yr Adolygydd, 1839.—Cychwynwyd y cylchgrawn hwn yn y flwyddyn 1839, gan y Parch. W. Williams (Caledfryn), Caernarfon, ac efe hefyd oedd yn ei olygu. Ei amcan ydoedd amddiffyn cymedroldeb yn hytrach na llwyrymwrthodiad, a daliai nad oedd yr olaf ond eithafion ffol, di—angenrhaid, ac eithafol. Ond ni pharhaodd i ddyfod allan yn hir.

Y Dirwestwr, neu Yr Hanesydd Rechabaidd, 1840.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Awst, 1840, dan nawdd ac awdurdod Cymanfa Ddirwestol Gwynedd, a byddai yn cael ei olygu a'i argraphu gan Mr. Richard Jones, Dolgellau. Deusi allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Ystyrid ef yn gylchgrawn dirwestol hollol, ac "amcan yr hwn sydd ar blaid moesau a chrefydd, ac ymdrech yr hwn yw sychu i fyny y ffynnonell benaf o'r trueni dynawl, sef y defnydd o'r gwlybyroedd meddwawl, a dangos y troseddau, yr afiechyd, y drygau, a'r marwolaethau sydd yn nglyn a'r arferiad ohonynt." Dyna ei neges, yn ol ei eiriau ef ei hun, ar ei wyneb—ddalen, ond ymddengys i ni mai un o'i brif wendidau ydoedd cadw braidd yn gyfyng mewn cyfeiriad, a chredwn y dylasai, er bod yn llwyddiannus, gymeryd golwg eangach a mwy amrywiol ar wahanol agweddau dirwest, a diau y gallasai wneyd hyny heb golli dim ar ei werth fel cyhoeddiad cwbl ddirwestol. Credwn, er hyny, fod hon yn ymgais gywir i wasanaethu achos sobrwydd, a bod y cyhoeddiad hwn yn teilyngu llawer gwell cefnogaeth nag a gafodd, oherwydd rhoddwyd ef i fyny oddeutu dwy flynedd ar ol ei gychwyniad.

Y Dirwestydd Deheuol, 1840.—Cychwynwyd y cyhoeddiad dirwestol hwn yn y flwyddyn 1840, gan Mr. B. R. Rees, Llanelli, ac efe hefyd ydoedd yn ei ddwyn allan. Cylchgrawn bychan rhad ydoedd, a dygid ef allan yn fisol. Ei amcan ydoedd bod yn wasanaethgar i ddirwestwyr y Deheudir, ond ni pharhaodd yn hir.

Y Canor Dirwestol, 1844.—Cychwynwyd y cyhoeddiad dirwestol hwn yn y flwyddyn 1844, gan y Parch. D. T. Williams (Tydfilyn), Merthyr Tydfil, ac efe oedd yn ei olygu, ac yn gyfrifol am dano. Gwasanaethai er mantais i'r gwahanol Gymdeithasau Dirwestol oedd yn y wlad ar y pryd hwnw. Ni ddaeth allan ohono ond ychydig rifynau.

Udgorn Dirwest, 1850.—Daeth y cyhoeddiad hwn allan yn y flwyddyn 1850, a chyhoeddid ef gan Mr. Robert Jones, argraphydd, Bethesda. Deuai allan yn fisol, ond ni ddae allan ychwaneg nag oddeutu wyth rhifyn. Ail—gychwynwyd ef gan Mr. Owen Jones, Caernarfon, dan yr enw newydd Yr Athraw, a'i bris ydoedd dwy geiniog, ond cyfarfyddodd ei ddiwedd yn fuan.

Y Temlydd Cymreig, 1873.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Mawrth, 1873, gan Mr. John Davies (Gwyneddon), Caernarfon, ac efe ydoedd yn ei gyhoeddi, ac yn ei olygu. Trosglwyddwyd ef, ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, yn eiddo i'r Uwch Deml Gymreig, a bellach dan nawdd y Deml y cyhoeddid ef, ac argrephid of gan Mr. D. W. Davies, Caernarfon. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Ei brif amcan ydoedd bod at wasanaeth yr urdd ddirwestol newydd a elwid Temlyddiaeth Dda. Ni pharhaodd i ddyfod allan, yn y ffurf oedd arno, ond hyd oddeutu diwedd y flwyddyn 1878, ac yna, ar ddechreu y flwyddyn 1879, dygwyd ef allan mewn ffurf arall, dan yr enw Y Dyngarwr.

Y Dyngarwr, 1879.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1879, dan nawdd ac awdurdod Uwch Deml Gymreig Cymru, a golygid ef gan y Parch. W. Gwyddno Roberts, Llanystumdwy, ac argrephid ef gan Mr. D. W. Davies, Caernarfon. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Bu dan olygiaeth Mr. Roberts hyd y rhifyn am Ebrill, 1880, pryd y bu Mr. Roberts farw yn lled sydyn ar Ebrill 30ain, 1883, yn 4lain mlwydd oed. Deallwn ei fod ef wedi trefnu y rhifyn am Mai yn barod i'r wasg cyn ei farwolaeth. Yna ceir, gyda'r rhifyn am Mehefin, 1880, fod yr olygiaeth yn llaw y Parch. W. Jones, M.A., Fourcrosses, a bu iddo ef barhau i'w olygu hyd Ebrill, 1887. Yn ddilynol, bu y Parch. J. Evans—Owen, Llanberis, yn ei olygu, ond prin, er y cyfan, y parhaodd y cyhoeddiad i ddyfod allan yn hwy na dwy flynedd, ac ar ol peth ymdrech i ail—ennyn ffyddlondeb gydag ef, rhoddwyd ef i fyny. Dechreuai y rhifyn cyntaf o'r Dyngarwr gyda darlun rhagorol o'r enwog Mr. J. B. Gough, ac erthygl ddyddorol arno, a cheir yn yr un rhifyn "Golofn yr Esboniwr," "Adran Materion Cyffredinol," Congl yr Adroddwr a'r Datganydd," "Dalen yr Areithydd a'r Ysgrifenydd," "Dosparth y Plant,' "Hanesynau Addysgiadol," "Dyddanion," "Cerddoriaeth, Yr Ardd," "Y Llwyn Bytholwyrdd," "Nod— iadau y Golygydd," "Barddoniaeth," a "Cofnodion," &c. Wele air allan o'r anerchiad olygyddol gyntaf:— "Cychwynir Y Dyngarwr oddiar grediniaeth gref fod gwir anghen am gyhoeddiad neillduedig i hyrwyddo achos sobrwydd, ac i roddi gwersi yn aml ar rinwedd a moesoldeb."

Cronicl Dirwestol Cymru, 1891.—Daeth y cynllun-rifyn o'r cyhoeddiad hwn allan yn Medi, 1890, ond yn Mehefin, 1891, y dechreuodd ddyfod allan yn rheolaidd. Ar y cyntaf byddai yn ddwyieithog—haner-yn-haner—a gelwid ef ar yr enw The Cambrian Temperance Chronicle yn gystal ag ar yr enw Cronicl Dirwestol Cymru. Ond, erbyn hyn, er Tachwedd diweddaf, mae yn gwbl Gymreig. Cyhoeddir ef dan nawdd Cymanfa Ddirwestol y Deheudir, a Rechabiaid Gwent a Morganwg. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw ceiniog. Golygir ef gan Mr. Daniel Thomas, Church Villa, Rhymni, ac argrephid ef, ar y dechreu, gan Mr. Edwin Poole, Aberhonddu, ond, yn awr, argrephir ef gan Mr. Joseph Williams, Swyddfa Y Tyst a'r Dydd, Merthyr Tydfil, a deallwn fod yr holl archebion am dano, yn awr (1892), i'w hanfon i'r Parch. Thomas Morgan, Bryntirion, Dowlais.

9.—CYLCHGRAWN I'R PLANT.

Yr Addysgydd, 1823.—Daeth y cyhoeddiad hwn allan yn Ionawr, 1823, a bernir yn lled gyffredinol, erbyn hyn, er na enwir ef ar y wyneb-ddalen, mai y Parch. D. Charles, ieu., Caerfyrddin, oedd y golygydd, ac argrephid ef gan Mr. John Evans, Caerfyrddin. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Dalia rhai mai dyma y cylchgrawn lleiaf, mewn maintioli, a gyhoeddwyd erioed yn yr iaith Gymraeg, oherwydd nid oedd ei arwyneb oll yn mesur mwy na phedair-modfedd-a-haner wrth dair, a chynnwysai ddeuddeg tudalen. Ceid darlun bychan yn mhob rhifyn. Dywedir yn y rhagymadrodd mai "diffyg rhyw gyhoeddiad bychan, addas i'w ddodi yn nwylaw ieuenctyd yr Ysgolion Sabbothol yn Nghymru, yr hwn fyddo yn cysylltu gwybodaeth â difyrwch, sydd wedi cael ei weled a'i gydnabod er's llawer dydd gan amryw." Ceid, yn mhob rhifyn, erthygl fechan, dan y penawd "Lloffion," a chredir mai tad y golygydd oedd yr awdwr. Ni pharhaodd y cyhoeddiad hwn i ddyfod allan ond hyd ddiwedd ei flwyddyn gyntaf, a rhoddwyd ef i fyny, ac ymddengys, er wedi ei gychwyn er mwyn plant, mai lled drymaidd oedd ei gynnwys; ac eto, er hyny, wrth ystyried ei bod mor foreu yn hanes llenyddiaeth gyfnodol i'r plant, ac nad oedd y ganghen hon, ar y pryd hwnw, ond yn ei babandod yn mhob gwlad, efallai y dylid edrych ar yr ymgais hon yn un dda,

Y Drysorfa Fach, 1826.—Cychwynwyd y cylchgrawn hwn yn y flwyddyn 1826, gan y Parch. Richard Newell, Plas Bach, Meifod, a Mr. Morris Davies, Bangor. Cyhoeddid ef yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Byddai Mr. Davies yn ei olygu, a Mr. Newell yn gofalu am ei gysylltiadau arianol. Parhaodd i ddyfod allan am bedair blynedd, a hyny yn wyneb anhawaderau mawrion, ac, ar y cyfan, yn wyneb ei amcan, ystyrid ef yn gyhoeddiad derbyniol. Efallai, wrth gymeryd pobpeth i'r cyfrif, mai hwn ydoedd y cyhoeddiad hollol uniongyrchol cyntaf erioed i blant Cymru, fel y cyfryw, oherwydd, fel y sylwyd eisioes, er fod Yr Addysgydd wedi ei fwriadu i'r amcan hwnw, eto prin y gellir edrych arno fel yn gwbl gyfaddas i'r plant, ac am ychydig iawn y parhaodd.

Trysor i Blentyn, 1826.—Daeth hwn allan yn y flwyddyn 1826, dan nawdd y Cyfundeb Wesleyaidd, a pharhaodd i ddyfod allan hyd y flwyddyn 1842. Golygid ac argrephid ef gan yr un personau ag oeddynt yn golygu ac yn argraphu Yr Eurgrawn Wesleyaidd am y blynyddoedd hyny, y rhai a enwyd yn barod genym yn ein cyfeiriad at y cylchgrawn hwnw. Cyhoeddiad bychan ydoedd, a deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Amcan ei gychwyniad, fel y dynoda ei enw, ydoedd bod o wasanaeth crefyddol i blant.

Yr Athraw, 1827.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn mis Ionawr, 1827, dan olygiad y Parchn. J. Edwards, Glynceiriog; R. Williams, Rhuthyn; J. Pritchard, D.D., Llangollen; ac Ellis Evans, Cefnmawr, ond deallwn mai ar Dr. Pritchard y disgynai y gofal mwyaf am flynyddoedd lawer. Argrephid ef, am y pedair-blynedd-ar-bymtheg cyntaf, gan Mr. John Jones, Llanrwst, ac yn Ebrill, 1846, symudwyd ef i gael ei argraphu gan Mr. W. Williams, Llangollen, ac o'r pryd hwnw hyd yn awr, daw allan o'r un swyddfa. Ei bris ydyw ceiniog, a daw allan yn fisol. Yn y flwyddyn 1852, cafwyd gwasanaeth y Parch. E. Roberts, D.D., Pontypridd, fel cyd-olygydd, ac y mae ei gysylltiad ef â'r cyhoeddiad hwnw yn parhau hyd yn bresennol (1892). Yn y flwyddyn 1864, ychwanegwyd y Parch. J. R. Williams, Ystrad Rhondda, i'r olygiaeth, pharhaodd ei gysylltiad hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1877. Yn Ionawr, 1875, darfu i'r Parch. J. Pritchard, D.D., drosglwyddo gofal Yr Athraw yn dair rhan i'r Parchn. E. Roberts, D.D., J. Rufus Williams, ac Owen Davies, Caernarfon. Ymneillduodd yr olaf a enwyd ar ol oddeutu dwy flynedd, a throsglwyddwyd y rhan hono i ofal y Parch. Charles Davies, Caerdydd. Ar farwolaeth y Parch. J. Rufus Williams, cymerwyd ei le gan y Parch. Hugh Williams, Nantyglo, ac felly y golygwyr presennol ydynt y Parchn. E. Roberts, D.D., Charles Davies, a H. Williams, Nantyglo. Dylid hysbysu mai Mr. W, Williams, y cyhoeddwr, ydyw ei unig berchenog er y flwyddyn 1875. Gwelir fod y cyhoeddiad hwn wedi gor-oesi lluaws, a gellir dyweyd mai ar ei faes ef y bu y rhan fwyaf o'r dynion blaenaf a berthynent i'r Bedyddwyr yn dechreu gohebu ac ysgrifenu am y waith gyntaf erioed.

Y Tywysydd, 1836, Y Tywysydd a'r Gymraes, 1852.— Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1836, dan olygiaeth y Parch. D. Davies, Pant-teg, ac argrephid ef gan Mr. B. R. Rees, Llanelli. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog, ac yr oedd ei gylchrediad, yn benaf, yn mhlith plant teuluoedd yr Annibynwyr yn y Deheudir. Byddai y Parch. David Rees, Llanelli, yn ysgrifenu llawer iawn iddo, ac, yn fuan ar ol ei gychwyniad, daeth ei olygiaeth i'w law ef, a bu ef yn cyflawni y gwaith hyd y flwyddyn 1865, pryd yr ymgymerwyd a'r olygiaeth gan y Parchn. T. Davies, Llandeilo, a T. Davies, Llanelli, ac yn y flwyddyn 1872, ymgymerwyd â'r olygiaeth gan y Parch. T. Johns, Llanelli, ac efe sydd yn parhau hyd yn bresennol (1892). Yn Ionawr, 1852, unwyd Y Gymraes a'r Y Tywysydd, a daeth y ddau allan fel un cyhoeddiad dan yr enw newydd Y Tywysydd dan olygiaeth, ar y pryd, y Parchn. Evan Jones (Ieuan Gwynedd), a D. Rees, Llanelli.

Y Winllan, 1848, 1865.—Daeth y cyhoeddiad hwn allan, dan nawdd ac awdurdod y cyfundeb Wesleyaidd, yn y flwyddyn 1848, a chychwynwyd ef er bod yn wasanaethgar i blant ac ieuenctyd y cyfundeb hwnw. Argrephid ef, ar ran y cyfundeb, o'r dechreu hyd Hydref, 1875, gan Mr. J. Mendus Jones, Bangor, ac oddiar hyny hyd yn bresennol, gan Mr. Samuel Hughes, 3, York Place, Bangor. Bydd ei olygwyr yn newid bob oddeutu dwy neu dair blynedd, ac y mae wedi bod, o'r cychwyn, dan olygiaeth amryw, ac yn eu plith gellid enwi y Parchn. Thomas Jones, D.D, Richard Pritchard, Robert Williams, Samuel Davies, W. Davies, D.D., Henry Parry, W. H. Evans, Thomas Thomas, John Jones, John Hughes (Glanystwyth), John Evans (Eglwysbach), John Griffith, Rice Owen, J. H. Evans (Cynfaen), H. Jones (Harddfryn), D. O. Jones, &c. Golygir ef, ar hyn o bryd (1892), gan y Parch. T. J. Pritchard, Llanelli. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw ceiniog. Mae hwn yn gyhoeddiad buddiol i'r plant, a da genym ei fod yn cael cylchrediad helaeth. Hefyd, yn Ionawr, 1865, cychwynwyd cyhoeddiad arall dan yr enw Y Winllan, yn dal cysylltiad, yn benaf, â phlant ac ieuenctyd y Bedyddwyr yn y Deheudir. Daethai allan dan olygiaeth y Parchn. Edward Evans, Dowlais, a J. Emlyn Jones, ac argrephid ef gan Mr. D. J. Thomas, Aberdar. Ei bris ydoedd ceiniog, a deuai allan yn fisol. Prin am flwyddyn y parhaodd, a gresyn ydoedd i gyhoeddiad mor bwrpasol i blant gael ei roddi i fyny mor fuan, er, ar yr un pryd, nas gallwn gymeradwyo rhoddi enw cylchgrawn fydd yn fyw ar yr un amser ar gylchgrawn newydd arall a gychwynir, yn enwedig os byddent yn gweithio i'r un amcanion. Methwn a gweled fod hyny yn deg.

Baner y Groes, 1854.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1854, dan nawdd cyfeillion yr Eglwys Sefydledig, dan olygiaeth y Parch. John Williams (Ab Ithel), ac argrephid ef, am y flwyddyn gyntaf, gan Mr. W. Morris, Treffynnon, ac yn Ionawr, 1855, symudwyd ef i gael ei gyhoeddi a'i argraphu gan Mr. R. I. Jones (Alltud Eifion), Tremadog, a than olygiaeth Ab Ithel. Deuai allan yn fisol, ei bris ydoedd ceiniog, ac yr oedd yn gyhoeddiad cyfaddas iawn i blant ac ieuenctyd. Parhaodd i ddyfod allan felly hyd ddiwedd y flwyddyn 1856, pryd y rhoddwyd ef i fyny. Darfu i Alltud Eifion, modd bynag, ei ail—gychwyn drachefn, yn y flwyddyn 1870, ar ei gyfrifoldeb ei hun, a gweithredai ef ei hunan fel cyhoeddydd a golygydd iddo. Cyhoeddiad bychan o ran maintioli ydoedd hwn, ond cynnwysai un—ar—bymtheg o dudalenau. Parhaodd i gael ei gyhoeddi, y tro hwn, hyd ddiwedd y flwyddyn 1875, pryd y rhoddwyd ef i fyny, gan fod cylchgronau Eglwysig eraill yn cymeryd ei le.

Yr Oenig, 1854. —Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1854, dan olygiaeth y Parchn. D. Phillips Abertawe, a T. Levi, Ystradgynlais (Aberystwyth yn awr), ac argrephid of gan y Meistri Rosser & Williams, Heol Fawr, Abertawe. Deuai allan yn fisol, ei bris ydoedd dwy geiniog, a "phrif amcan ei gychwyniad ydoedd dyrchafu a meithrin chwaeth ieuenctyd Cymru at ddarllen, a rhoddi dysg mewn gwybodaeth gyffredinol." Er fod y ddau olygydd parchus yn dal cysylltiad â chyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd, eto nid oedd Yr Oenig yn dal perthynas â'r un enwad na phlaid, ond amcanai wasanaethu plant Cymru yn gyffredinol. Ystyrid ef yn gyhoeddiad rhagorol, a pharhaodd i ddyfod allan hyd ddiwedd y flwyddyn 1856.

Telyn y Plant, 1859.—Daeth y cyhoeddiad hwn allan yn Mai, 1859, at wasanaeth plant y Gobeithluoedd a'r Ysgol Sabbothol, dan olygiaeth y Parchn. T. Levi, Aberystwyth, a John Roberts (Ieuan Gwyllt), Fron, ger Caernarfon, ac argrephid ef gan Mr. Rees Lewis, Merthyr Tydfil. Ei bris ydoedd ceiniog, a deuai allan yn fisol, a chanmolir ef fel cyhoeddiad bychan da at ei amcan. Ceid ynddo ysgrifau mewn ffurf ymddiddanol ar athroniaeth amrywiol bethau, a cheid ymdriniaethau ynddynt ar ddwfr, rhew, gwlaw, &c., dan y penawd "Philosophi i'r Plant." Rhoddwyd ef i fyny yn Rhagfyr, 1861, yn ffafr cychwyniad Trysorfa y Plant.

Baner y Plant, 1861, Baner y Teulu, 1862, Baner y Plant, 1889.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1861, gan y Parch. T. Davies, Dolgellau, ac argrephid ef gan Mr. E. Williams, Aberystwyth. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Ar ddiwedd ei flwyddyn gyntaf, newidiwyd ei enw, a galwyd ef yn Baner y Teulu, ond ni ddaeth allan ohono ychwaneg nag ychydig rifynau. Ceir fod cyhoeddiad arall o'r enw Baner y Plant wedi ei gychwyn yn Medi, 1889, gan y Parch. Z. Mather, Abermaw, ac efe hefyd sydd yn ei olygu ac argrephir ef gan y Meistri Edmunds a Mathias, Corwen. Ei bris ydyw ceiniog, a daw allan yn fisol, gan gynnwys dadleuon, ymddiddanion, areithiau byrion, hanesion tarawiadol, a darnau barddonol cyfaddas i'w darllen yn Nghyfarfodydd y Plant. Ceir hefyd bregeth i'r plant yn mhob rhifyn, ac ysgrifenir iddo ar ryfeddodau natur, a cheir tonau a darluniau ynddo. Rhoddir iddo gefnogaeth led dda, ac y mae yn haeddu hyny.

Trysorfa y Plant, 1862.——Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn, dan nawdd ac awdurdod y Methodistiaid Calfinaidd, yn Ionawr, 1862, dan olygiaeth y Parch. T. Levi, Aberystwyth, ac argrephir ef gan y Meistri P. M. Evans a'i Fab, Treffynnon. Daw allan yn ddifwlch bob mis, a'r pris ydyw ceiniog. Mae y cyhoeddiad hwn, o'r cychwyniad hyd yn bresennol, yn parhau dan olygiaeth yr un golygydd, ac yn cael ei argraphu yn yr un swyddfa. Gellir dyweyd fod y cylchgrawn hwn wedi bod yn llwyddiant hollol. Ceir ynddo arlwyaeth amrywiol, dyddorol, eglur, a buddiol i'r plant bob mis, ac nid llawer a ellid gael yn mhlith ein cenedl cymhwysach at waith ymarferol o'r fath na'r golygydd llafurus. Cychwynodd gyda chylchrediad o ddeng mil, a deil ei gylchrediad yn awr oddeutu 40,000, ond bu, ar un adeg, yn cyrhaedd oddeutu 45,000. Derbynia gylchrediad yn mhlith bron bob teulu yn dal cysylltiad â'r cyfundeb sydd yn ei gyhoeddi, a derbynir of gan laweroedd o'r tu allan i'w gyffiniau enwadol ei hun.

Llyfr y Plant, 1862.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn allan yn Mawrth, 1862, dan olygiaeth y Parchn. J. Jones, Blaenllechau (yr hwn a barhaodd hyd Ionawr, 186 ac A. J. Parry, Cefnmawr. Darfu i'r Parch. Evan Jones, Llanfaircaereinion. ymgymeryd a'r olygiaeth yn Ebrill, 1863, yn lle Mr. Jones, a chyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. W. Williams, Llangollen. Cyhoeddiad chwarterol ydoedd, a'i bris ydoedd dimai, ac amcenid ef i gyfarfod â'r plant ieuengaf, ac yn mhlith teuluoedd y Bedyddwyr y caffai gylchrediad. Daeth allan y rhifyn olaf yn Ebrill, 1864.

Dysgedydd y Plant, 1871.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1871, dan olygiaeth y Parch. David Griffith, Bethel (Dolgellau ar ol hyny), ac argrephid of yn swyddfa Mr. William Hughes, Dolgellau. Dylid hysbysu mai dan nawdd yr Annibynwyr y cyhoeddir ef, ac mai yn mhlith eu plant hwy, yn benaf, y cylchredir ef. Ceiniog ydyw ei bris, a daw allan yn fisol. Parhaodd y Parch. D. Griffith i'w olygu hyd ddiwedd y flwyddyn 1878, ac yna bu am dymmor heb neb yn arbenig yn ei olygu. Yn nechreu y flwyddyn 1889, unwyd Cydymaith yr Ysgol Sul ag ef, ac yn Ionawr, 1889, ymgymerwyd â'r olygiaeth gan y Parchn. D. Silyn Evans, Aberdar, ac Owen Jones, Pwllheli (Mountain Ash yn awr). Darfu i Mr. Jones ymneillduo o'r olygiaeth ar ddiwedd y flwyddyn 1890, ac felly Mr. Evans ei hunan sydd yn ei olygu yn awr (1892).

Y Ffenestr, 1873.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1873, dan olygiaeth y Parchn. W. Morris, Treorci, ac O. Waldo James, Aberafon (Rhosllanerchrugog ar ol hyny), ac argrephid ef, ar y dechreu, gan Mr. D. Griffiths, Cwmavon, ac wedi hyny gan Mr. D. Davies, Treorci. Ei bris ydoedd ceiniog, deuai allan yn fisol, ac amcenid iddo wasanaethu y plant. Parhaodd i ddyfod allan am oddeutu dwy flynedd.

Cydymaith y Plentyn, 1876.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1876, a chychwynwyd ac argrephid ef gan Mr. T. Davies, Pontypridd, ac efe hefyd oedd yn ei olygu hyd Mai, 1877, pryd yr ymgymerwyd â'r olygiaeth hyd Mehefin, 1879, gan y Parch. B. Davies, Pontypridd, ac oddiar hyny yn mlaen gan y Meistri Thomas & Hugh Davies, Pontypridd. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog, ac arferid â rhoddi ynddo gryn lawer o ddarluniau dyddorol. Rhoddwyd ef i fyny cyn hir.

Cyfaill y Plant, 1879, 1890.—Cychwynwyd hwn yn y fiwyddyn 1879, gan y Meistri Pearson, Lerpwl, a rhoddid darluniau ynddo, ac ymdrechid ei gyfaddasu i blant, ond ni ddaeth allan ohono fwy nag oddeutu dau rifyn. Ceir, yn Ionawr, 1890, fod cyhoeddiad arall dan yr enw Cyfaill y Plant, wedi ei gychwyn dan olygiaeth Mr. R. O. Hughes (Elfyn), Blaenau Ffestiniog, ac argrephid of gan Mr. W. Lloyd Roberts, Blaenau Ffestiniog. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Bwriedid iddo fod at wasanaeth plant Cymru, a chynnwysai farddoniaeth, cerddoriaeth, hanesion difyrus, a darnau adroddiadol, &c. Ond rhoddwyd ef i fyny ar ol ychydig rifynau.

Athrofa y Plant, 1881.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1881, dan olygiaeth y Parch. Evan Roberts, Dyffryn (Caernarfon gynt), a chyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. John Evans, Caernarfon. Ei bris ydoedd ceiniog, a deusi allan yn fisol. Yr oedd hwn yn gylchgrawn bychan da a gwerthfawr—cyfrenid gwybodaeth gyffredinol a buddiol ynddo—ac, yn mhob modd, ymdrechid ei wneyd yn deilwng o'r enw oedd arno. Parhaodd i ddyfod allan hyd oddeutu canol y flwyddyn 1883.

Yr Hauwr, 1890.—Daeth y cyhoeddiad hwn allan yn y flwyddyn 1890, a chychwynwyd ef gan nifer o frodyr perthynol i enwad y Bedyddwyr, megis y Parchn. W. Edwards, B.A., Pontypool; Silas Morris, B.A., Llangollen; T. Morgan, Dowlais; D. Evans, Llangefni; T. T. Jones, Caerdydd; a Mr. W. T. Samuel, eto. Er fod y cylchgrawn hwn yn cael ei gyhoeddi dan nawdd Pwyllgor Ysgolion Sabbothol Bedyddwyr Cymru, eto deallwn mai y personau a'i cychwynasant ydynt ei berchenogion. Golygir ef, ar hyn o bryd (1892), gan y Parch. W. Edwards, B.A., Pontypool, ac argrephir ef gan Mr. Jenkin Howell, Aberdar. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw ceiniog, a bwriedir iddo fod yn gwbl at wasanaeth y plant a'r ieuenctyd.

Cymru'r Plant, 1892.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1892, a chychwynwyd ef gan Mr. Owen M. Edwards, M.A., Rhydychain, ac efe hefyd sydd yn ei olygu, ac argrephir ef gan Mr. D. W. Davies, cyhoeddwr, Caernarfon. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw ceiniog. Dywed y golygydd, yn y rhifyn cyntaf, mai amcan y cyhoeddiad ydyw "codi yr hen wlad yn ei hol—dysgu hanes a llenyddiaeth eu gwlad i blant." Bwriedir iddo fod yn gyhoeddiad i holl blant Cymru yn ddiwahaniaeth: "Y mae arnaf eisieu dysgu Hanes Cymru i chwi, hanes eich gwlad chwi, a hanes eich tadau chwi eich hunain—y tadau roddasant eu bywyd i lawr dros eich cartrefi, y tadau fu'n llafurio i gael Beibl i chwi, y tadau fu'n dioddef anghen a sarbad wrth geisio cael moddion addysg i chwi." Mae yn gyhoeddiad amrywiol a helaeth, yn enwedig wrth gofio ei bris, ac yn cynnwys wyth-ar-hugain o dudalenau.

10.—Y CYLCHGRAWN CYFFREDINOL

Trysorfa Gwybodaeth neu Eurgrawn Cymraeg, 1770.—Digon gwir y cyhoeddwyd Tlysau yr Hen Oesau, yn y flwyddyn 1735, gan Mr. Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fon), Caergybi, a bwriedid iddo fod yn gylchgrawn chwarterol, ond ni ddaeth allan ohono ychwaneg na'r un rhifyn cyntaf, yn cynnwys un—ar—bymtheg o dudalenau, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog. Ar ddiwedd y tudalen olaf ceir y gair "Terfyn," yr hyn sydd yn awgrymu fod y cyhoeddwr, mewn gwirionedd, wedi ei ddigaloni hyd yn nod cyn gorphen argraphu y rhifyn cyntaf. Ymddengys, mewn canlyniad, mai gyda chychwyniad Yr Eurgrawn Cymraeg, yn y flwyddyn 1770, y bernir yn gyffredin fod cyfnod cyson a rheolaidd ein cylchgronau Cymreig yn dechreu. Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad boreuol hwn ar ddydd Sadwrn, Mawrth 3ydd, 1770, a'r prif olygydd ydoedd y Parch. Peter Williams (yr Esboniwr), Caerfyrddin, yn cael ei gynnorthwyo gan y Parch. Josiah Rees, Gelli Onen, a Mr. Evan Thomas (brodor o Sir Drefaldwyn), argraphydd, Caerfyrddin, a chyhoeddid ac argrephid of gan Mr. Ioan Ross, Caerfyrddin. Deuai allan bob pymthegnos, a'r pris ydoedd tair ceiniog. Cynnwysai pob rhifyn ddeuddeg ar hugain o dudalenau wythplyg bychain, a threfnid ef yn bedair adran o wyth tudalen yr un, fel y gellid, os dymunid, rwymo pob adran ar ei phen ei hun. Ceid, yn yr adran gyntaf, Hanes Cymru; " yn yr ail, "Ymresymiadau ar wahanol destynau;" yn y drydedd, "Prydyddiaeth;" ac yn bedwerydd, "Newyddion Cartrefol a Phellenig," &c. Gwelir fod y trefniant yn un cywrain, ac yn cyfuno, mewn rhan, yr elfen newyddiadurol a'r gylchgronol. Er mwyn rhoddi syniad am drefnusrwydd a chynnwys y cyhoeddiad hwn, nis gallwn wneyd dim yn well na difyou un rhan fechan ohono dan y penawd, "Cyflwr Presennol Europ:—"

"Y Rwssiaid .. .. Yn rhyfela.
Y Twrciaid .. .. Yn ffoi.
Yr Almaeniaid .. .. Yn gloddesta.
Yr Holandiaid .. .. Yn ennill arian.
Y Ffrancod .. .. Yn ymgrymu ac yn twyllo.
Y Scotiaid .. .. Yn cael swyddau dan y Goron.
Y Gwyddelod .. .. Yn grwgnach.
Y Saeson .. .. Yn diogi ac yn gwneuthur dim.
Y Cymry (sef y rhai a brynant Yr Eurgrawn) .. Yn darllen
newyddion am danynt oll."

Ceid yn Yr Eurgrawn Cymraeg ysgrifau da ac ymarferol—llawer ar amaethyddiaeth, ar y Gymraeg, ac ar hen draddodiadau Cymreig. Ychydig, mewn cydmariaeth, a geid ynddo o'r elfen grefyddol, a'r ychydig hyny heb fod o'r math mwyaf safadwy. Efallai mai un o brif ddiffygion y cyhoeddiad boreuol hwn ydoedd ei fod yn rhy wasgarog, yn rhy anmhennodol, a buasai yn welliant, mae yn ymddangos ni, pe yn fwy pendant a chlir yn ei amcan. Ond, er hyny, dylid cofio ei amseroedd, ac nad oedd y wawr ond megis prin yn dechreu tori, ac wrth ystyried yr holl amgylchiadau, diau y cydnabydda pawb fod Yr Eurgrawn Cymraeg yn werthfawr iawn, ac yn gystal cylchgrawn ag y gellid, ar y pryd hwnw, yn rhesymol ddisgwyl iddo fod. Ni ddaeth allan ohono ond pymtheg rhifyn, sef o'r un am Mawrth 3ydd, 1770, hyd yr un am Medi 15fed, 1770, a rhoddwyd ef i fyny o ddiffyg cefnogaeth.

Y Cylchgrawn Cymraeg, 1793.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Chwefror, 1793, dan olygiaeth, yn benaf, y Parch. Morgan John Rhys, neu fel y gelwid of gan lawer "Morgan ab Ioan Rhys." Pump rhifyn a ddaeth allan ohono, ac argraphwyd y pedwar rhifyn cyntaf yn Trefecca, ac argraphwyd y rhifyn olaf gan y Meistri Ross a Daniel, Caerfyrddin. Ei bris ydoedd chwe' cheiniog. Dylid dyweyd, wrth fyned heibio, fod y golygydd hwn, sef y Parch. M. J. Rhys, yn un o'r dynion mwyaf hynod a godwyd erioed yn Nghymru. Ystyrid ef yn alluog iawn, a gwnaeth les dirfawr, yn enwedig yn nglyn â llenyddiaeth foreuol Cymru. Ganwyd ef Rhagfyr 8fed, 1760, ac ymddengys iddo symud i'r America oddeutu canol-ddydd ei fywyd, ac yn Somerset, Pennsylvania, y bu farw, Rhag. 8fed, 1804. Cyfrifid Y Cylchgrawn Cymraeg yn gyhoeddiad lled dda. Byddai Dafydd Ddu Eryri yn ysgrifenu llawer iddo, a cheid darnau barddonol helaeth gan Sion Lleyn. Hefyd byddai Morgan Llwyd o Wynedd yn ysgrifenu llythyrau yn aml iddo. Dyma yr ymadrodd diweddaf yn y rhifyn olaf ohono a ddaeth allan "Byw fyddo'r Brenhin, duwiol fyddo'i deulu, doeth fyddo'i gynghoriaid, union fyddo'n Seneddwyr, cyfiawn fyddo'n Barnwyr, diwygio wnelo ein gwlad, heddwch gaffo'r byd. Amen."

Y Geirgrawn, neu Dysorfa Gwybodaeth, 1796.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Chwefror, 1796, dan olygiaeth y Parch. David Davies, Treffynnon (gynt o'r Fenni), ac argrephid ef gan Mr. W. Minshull, Caerlleon. Deuai allan yn fisol, ond ni chyhoeddwyd mwy na naw rhifyn ohono, a daeth allan y rhifyn olaf yn Hydref, 1796. Cynnwysai pob rhifyn oddeutu deuddeg -ar-hugain o dudalenau, a'i bris ydoedd pedair ceiniog. Er mwyn cael syniad am ei gynnwys, nis gellir dim yn well na dodi i lawr eiriau ei wyneb-ddalen:—"Y Geirgrawn, neu Drysorfa Gwybodaeth. Am y flwyddyn 1796. Yn cynnwys Athroniaeth Naturiol a Christionogol, Daearyddiaeth Wybryddiaeth, Henafiaeth, Gwybodaeth Eglwysaidd a Dinasaidd, Athrawiaethau Crefyddol, Bywgraphiadau, Marwolaethau, Newyddion Tramor a Chartrefol, Caniadau, Emynau, ac Awdlau Buddiol. Amcanedig i ledu gwybodaeth, uniondeb, cariad, a heddwch trwy Gymru, gan D. Davies. Gwell gwybodaeth nac aur." Ceir fod Gwallter Mechain, P. Bailey Williams, Dafydd Ddu Eryri, John Jones (Glanygors), &c., yn arfer ysgrifenu iddo, ac ystyrid ef yn gyhoeddiad uwchlaw y cyffredin. Ymddengys fod y cyhoeddiad hwn wedi caniatau i rai ymadroddion ymddangos ynddo, mewn erthyglau neillduol, ag y tybiai y Llywodraeth fod tuedd ynddynt i godi yspryd gwrthryfelgar ac annheyrngarol yn y wlad, a'r canlyniad a fu iddo gael ei attal yn gwbl.

Eurgrawn Môn, neu Y Dysorfa Hanesyddawl, 1826.— Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn ar Ionawr 31ain, 1825, a chychwynwyd ef gan Mr. Robert Roberts, Caergybi, ac efe hefyd ydoedd yn ei olygu ac yn ei argraphu. Gwelwn, yn ol wyneb-ddalen y rhifyn cyntaf ohono, ei fod i gynnwys: "Hanes bywgraphyddol amryw o enwogion Prydain—Ansawdd pethau Cartrefol a Dyeithrol yn ystod y deuddeg mlynedd cyntaf o deyrnasiad ei ddiweddar Fawrhydi George III.—Tremau sylwedyddawl y Misoedd Tal-fyriad o'r Mordeithiau Cylch-ddaearol Cyntaf—Darsylwadau diweddar yn y Moroedd Cyfogledd, Môr Mawr y De, Anial-barthau Affrica, &c., &c." Hefyd, cynnwysai "Sylwiadau yn Nghelfyddydau Rhif a Mesur—Barddoniaeth—Hanesion Tramora Chartrefol—Ansawdd y marchnadoedd, ac eraill bethau buddiol i Gymro uniaith eu gwybod." Ei arwydd-air, yn ol y wyneb—ddalen, ydoedd: "Oes y byd i'r iaith Gymraeg." Byddai oddeutu pedair-ar-hugaino dudalenau yn mhob rhifyn, a'i bris ydoedd pedair-ceiniog-a-dimai, ond yn Ionawr, 1826, gostyngwyd ef i dair ceiniog. Ni ddaeth allan ohono ond un-ar-hugain o rifynau.

Yr Odydd Cymreig, 1831.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1831, gan Mr. John Davies (Brychan), Merthyr Tydfil, ac efe hefyd ydoedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu. Daliai y cylchgrawn hwn gysylltiad â'r Odyddion. Rhoddwyd ef i fyny yn fuan.

Y Sylwedydd, 1831.—Cychwynwyd y cylchgrawn misol hwn yn y flwyddyn 1831, dan olygiaeth y Parch. W. Williams (Caledfryn), ac efe, yn benaf, a ddarfu ei gychwyn. Argrephid ef i ddechreu yn Llanerchymedd, Môn, ac yna symudwyd ef i Gaerfyrddin, ond rhoddwyd ef i fyny oddeutu dwy flynedd ar ol ei gychwyniad. Ceid erthyglau ynddo ar destynau fel y rhai canlynol:" Hanes Môn," "Y Creulondeb o yspeilio llongau drylliedig," "Caledi yr Amseroedd," "Hanes y Camel a'r Dromedary," "Y dechreuad o arferu arian," "Hanesion Cartrefol a Thramor," &c.

Tywysog Cymru, 1832.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Mai, 1832, dan olygiaeth Mr. J. W. Thomas (Arfonwyson), Bangor, ac argrephid ef gan Meistri W. Potter a'i Gyf., Caernarfon. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd pedair ceiniog. Ceid ysgrifau ynddo ar destynau fel y rhai canlynol:"Meddwdod a'i ganlyniadau," "Pittacus yr athronydd," "Cyflwr y Bobl," "Ieithyddiaeth," "Y Mil Blynyddoedd," "Sylwadau cyffredinol ar liwio coed," "Iechyd Corphorol," &c. Hefyd, ceid ynddo "Awen Cymru," "Hanesion Cartrefol," "Hanssion Tramor," &c. Bu Arfonwyson yn ei olygu am chwe' mis, sef hyd Tachwedd, 1832, ac yna ceir fod Caledfryn yn cymeryd ei le. Byddai Robyn Ddu Eryri, I. D. Ffraid, Huw Tegai, &c., yn arfer ysgrifenu iddo. Ei arwydd—air, yn ol y wyneb—ddalen, ydoedd: "Cymru Fu, Cymru Fydd." Parhaodd i ddyfod allan am ychydig dros i ddwy flynedd. Ceid un arbenigrwydd yn nglyn â'r cylchgrawn hwn: defnyddid y golofn olaf yn mhob rhifyn ohono fel "Eglurhad o'r geiriau mwyaf anghyffredin yn y rhifyn hwn," ac yna eglurid ystyr holl eiriau dyrus y rhifyn.

Y Gwladgarwr, 1833, 1843—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1833, dan olygiaeth y Parch. Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd), ac argrephid ef gan Mr. John Seacome, Caerlleon, a hwy eu dau oeddynt dan yr holl gyfrifoldeb arianol yn nglyn âg ef, a thystiai y golygydd llafurus, ar ddiwedd ail flwyddyn ei gychwyniad, na dderbyniasai efe un elw na thâl oddiwrtho, ond y mwyniant o wybod ei fod yn gwneyd daioni i'w gyd-genedl nid oedd yn gwasanaethu unrhyw sect na phlaid grefyddol na gwladol, ond ymdrechai wasanaethu y gwirionedd." Cynnwysai draethodau, eglurhadau, bywgraphiadau, gohebiaethau, barddoniaeth, hanesiaeth, &c. Deusi allan yn fisol, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog. Parhaodd cysylltiad Ieuan Glan Geirionydd ag ef am dair blynedd, pryd y rhoddes ef i fyny, wedi bod yn golledwr arianol yn nglyn â'r anturiaeth. Prynwyd yr hawl-ysgrif, yn y flwyddyn 1836, gan Mr. Edward Parry, argraphydd, Caerlleon, a golygid ef gan Mr. Hugh Jones (Erfyl), a chyhoeddid ef "dan nawdd a chefnogaeth pendefigion, boneddigion, parchedigion, yn nghyda lleygion o wahanol enwadau yn Nghymru a Lloegr," a rhaid dyweyd ei fod y pryd hyn mewn diwyg llawer gwell nag o'r blaen. Ei arwydd-air, yn ol y wyneb-ddalen o'r cychwyniad, ydoedd

"Cas gwr na charo
Y wlad a'i maco."

Yn y flwyddyn 1841, modd bynag, dechreuodd wanhau, a gwerthwyd ef drachefn i Mr. R. Lloyd Morris, cyhoeddwr, Tithebarn-street, Lerpwl, ond, er pob ymdrech i'w gadw yn fyw, bu raid ei roddi i fyny yn fuan. Ystyrid Y Gwladgarwr, ar y cyfan, yn gyhoeddiad da. Ceid erthyglau ynddo ar "Yr Archesgob Williams," "Syr William Jones," "Iestyn ab Gwrgant," "Dr. W. O. Pughe," "Syr Thomas Picton," "Dafydd Ddu Eryri," &c. Er, hwyrach, y buasai yn dda pe ceid ynddo ysgrifau mwy hoew, gafaelgar, a galluog, a hyny ar rai testynau gwell, ac er fod braidd ar y mwyaf o ysgrifau bywgraphyddol ynddo, eto cydnabyddir ei fod yn gyhoeddiad clodwiw. Un elfen yn ei gryfder ydoedd y gofod a roddid ynddo i'r sylwadau ar newyddion o wledydd tramor, megis Ffrainc, Yspaen, Portugal, Sweden, America, &c., ac ar faterion tebyg i "Caethiwed y Negroaid yn yr India Orllewinol," &c. Rhoddid lle ynddo i weithrediadau y Senedd, &c., ac ystyrid yr ysgrifau ar "Neillduolion y Gymraeg" yn rhai da. Cychwynwyd, yn y flwyddyn 1843, gyhoeddiad arall dan yr un enw, gan Mr. J. Mendus Jones, Llanidloes, yr hwn hefyd oedd yn ei olygu, ac yn ei argraphu. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Er iddo gychwyn yn ddigon gobeithiol, ni pharhaodd i ddyfod allan ond am brin flwyddyn.

Trysorfa Rhyfeddodau, 1833.—Daeth allan y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1833, a chychwynwyd ef gan Mr. Richard Jones, Dolgellau, ac efe hefyd, yn benaf, oedd yn ei olygu, ac yn ei argraphu. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog. Ei arwydd-air, yn ol y wyneb-ddalen, ydoedd: "Saf, ac ystyria ryfeddodau Duw" (Job xxxvii. 14). Rhoddid lle helaeth ynddo i wahanol ganghenau dysgeidiaeth, ac yr oedd yn amcanu ateb i'w enw, a honai roddi hynodrwydd yr oesoedd, yn mhell ac yn agos, hen a diweddar, mewn rhagluniaeth a natur." Rhoddwyd ef i fyny yn fuan oherwydd diffyg cefnogaeth.

Y Wenynen, 1835.—Daeth allan y cyhoeddiad hwn yn Hydref, 1835, a chychwynwyd ef gan y Parch. T. Jones (Glan Alun), Wyddgrug, ac efe hefyd oedd yn ei olygu, ac argrephid ef gan Mr. R. Hughes, Heol-yr-Eglwys, Gwrecsam. Denai allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Dywed am dano ei hun, ar ei wyneb-ddalen, mai "casgliad" ydoedd o gyfansoddiadau mewn Rhyddiaeth a Barddoniaeth a gyhoeddwyd ar ddull cylchgrawn ac adolygydd misol, gan mwyaf o gyfansoddiad y golygydd, sef Glan Alun." Ei arwydd-air ydoedd: "Gwell Dysg na Golud, gwell Awen na Dysg" (Cattwg Ddoeth). Un nodwedd arbenig i'r cylchgrawn bychan hwn ydoedd rhagoroldeb ei Gymraeg. Prin y parhaodd i ddyfod allan am flwyddyn, a thebyg iddo derfynu gyda y rhifyn am Medi, 1836, ac ofnai y golygydd fod enwadaeth Cymru yn gyfrifol, i raddau, am y gefnogaeth annheilwng a gafodd. Yn mhlith ei bennillion olaf, ar ffurf Anarchiad Ymadawol y golygydd a'r cyhoedd, ceir yr un canlynol:—

"Ac felly fydd, ychydig fel pawb arall
A fyn oleuo ar yr enwog Gymry;
Am bob rhyw lyfrau maent yn hollol ddiwall
Ond llyfr y sect, am hwnw rhaid ei brynu
Boed wael boed wych; yn hyn nid yw eu deall
Yn ddisglaer iawn, mae 'n ddigon gwir er hyny—
A phe argraff 'swn innau er mwyn ennill
Buaswn heddyw 'n waeth na ffwl yn Ebrill."

Yr Athraw, 1836.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1836, gan y Parch. Humphrey Gwalchmai, Croesoswallt, yr hwn hefyd ydoedd yn ei olygu, ac argrephid ef gan Mr. John Jones, Albion Wasg, Llanidloes Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog. Ceir, yn nechreu y flwyddyn 1844, fod y Parch. Humphrey Gwalchmai wedi trosglwyddo yr olygiaeth i law y Parch. John Foulkes, Abergele (Rhuthyn wedi hyny), ac ymddengys, oddeutu yr adeg hono, fod amryw frodyr wedi ymffurfio yn "Gwmni Cyfeillgar a Gohebol" i'r dyben owneyd y cyhoeddiad hwn yn un mor fuddiol a manteisiol "er cynnydd gwybodaeth, darostwng anfoesau, a chodi rhinweddau yn mysg cenedl y Cymry"—ag oedd yn bosibl, ond nid oedd y cwmni hwn yn gosod eu hunain dan rwymau na chyfrifoldeb am ddim perthynol i'r Athraw heblaw eu cynnyrchion eu hunain yn unig. Ymddengys na pharhaodd i ddyfod allan yn hwy na haf y flwyddyn 1844. Cynnwysai ddosran i'r duwinydd, athronydd, esboniedydd, bywgraphydd, hanesydd, prydydd, dirwestydd, trefniedydd, amrywiaethydd, a'r gwyliedydd gwladol, a chyfeiriedig, yn benaf, at ieuenctyd Cymru." Cyhoeddiad da ydoedd hwn, a cheid ynddo lawer iawn o amrywiaeth, mewn mater ac arddull, ac er ei fod yn meddu yr elfen gyffredinol, eto nodwedid y cyfan âg yspryd crefyddol, ac er ei fod, i raddau helaeth, yn gwasanaethu i amcanion cenedlaethol, eto rhaid dyweyd ei fod dan nawdd y Methodistiaid Calfinaidd yn fwy na neb arall.

Tarian Rhyddid, a Dymchwelydd Gormes, 1839.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn ar Ionawr laf, 1839, dan olygiaeth y Parchr. W. Rees (Hiraethog), Hugh Pugh, Mostyn, D. Price, Dinbych, a hwy yn ysgrifenu bron y cwbl iddo, ac argrephid ef gan Mr. J. Jones Llanrwst. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Er rhoddi syniad am ei natur nis gellir gwneyd yn well na difynu diwedd yr anerchiad "At y Darllenyddion" yn y rhifyn cyntaf a ddaeth allan ohono: "Ceidw y Darian a'r Dymchwelydd olwg ar y pethau canlynol wrth gyflawni ei redfa, a chyfeirio at ei amcan: (1) Ymdrecha gynhyrfu teimladau yn erbyn Pabyddiaeth, sef Pabyddiaeth y peth hwnw a gyfenwir 'Eglwys Wladol.' (2) Gwarthruddiad Sectariaeth yn y Llywodraeth Wladol. (3) Diddymiad Ymneillduaeth, neu yr hyn sydd yn achos ohono, sef Crefydd Sefydledig. (4) Terfyniad Goddefiad, trwy lawn sefydliad Rhyddid, a breintiau cyfartal poh plaid grefyddol," &c. Wele gynnwys y rhifyn cyntaf:—"At y Darllenyddion," "Pretended Holy Orders," "Erledigaeth yn Nghymru, 1838," "Yr Eglwys mewn Perygl," "Eglwys-ddysg a Llywod-ddysg," "Crefydd Wladol," "Y Chineaid a'r Dreth Eglwys," "Pethau pwysig yn cael eu hegluro." "Barddoniaeth-Y Breuddwyd Hwyrol" (Ieuan o Leyn), &c. Ymddengys mai oddeutu yr amseroedd hyny, mewn cwr neillduol o Sir Gaerfyrddin, y gwnaed yr ymysgydwad cyntaf yn erbyn talu y Dreth Eglwys, a dywedir mai hyny, mewn rhan fawr, a fu yn achlysur i gychwyniad y cylchgrawn hwn. Byddai yr ysgrifau ynddo yn rhai cryfion iawn, a dadleuid yn nerthol ynddo yn mhlaid egwyddorion Ymneillduaeth a Rhyddfrydiaeth cynhyrfwyd y wlad, a byddai ei gyfeiriadau, ar adegau, yn cyrhaedd mor bell ac eithafol, nes y penderfynodd y Llywodraeth roddi attalfa buan arno, ac ymddengys mai y rhifyn am Awst, 1839, oedd yr olaf ohono a ddaeth allan.

Y Cronicl, 1843—Gelwid y cylchgrawn hwn, ar lafar gwlad, am flynyddoedd yn Cronicl Bach, a chychwynwyd ef yn Mai, 1843, gan y Parch. Samuel Roberts, Llanbryn- mair (Conwy ar ol hyny), yr hwn a adnabyddid amlaf fel "S. R.," ac efe hefyd oedd yn ei olygu o'r cychwyn hyd ei fynediad i'r America yn y flwyddyn 1857, pryd yr ymgymerwyd â'r olygiaeth gan ei frawd, sef y Parch. John Roberts (J. R.), Conwy, yr hwn a barhaodd i'w olygu hyd Awst, 1884, pryd y bu ef farw. Yna, ar ol dychwelyd gartref, darfu i S R. ail-gymeryd yr olygiaeth, a pharhaodd yntau i'w olygu hyd ei farwolaeth yn Medi, 1885. ymgymerwyd â'r olygiaeth, ar ol hyny, gan y Parchn. M. D. Jones, Bala, & W. Keinion Thomas, Llanfairfechan, a hwy sydd yn parhau i'w olygu byd yn awr (1892). Argrephid ef, oddiar ei gychwyniad hyd y flwyddyn 1864, gan Mr. Evan Jones, Dolgellau, ac yna, o'r flwyddyn 1864 hyd y flwyddyn 1872, argrephid ef gan Mr. W. Hughes, Dolgellau, ac wedi hyny bu yn cael ei argraphu gan y Meistri Jones ac Evans, Blaenau Ffestiniog. Bu Mr. Humphrey Evans, Bala, ar ol hyny, yn ei argraphu, ac yn nechreu y flwyddyn 1890, daeth i gael ei argraphu gan Mr. Samuel Hughes, cyhoeddwr, Bangor, yr hwn sydd yn parhau i'w argraphu. Daw allan yn fisol, a'i bris, ar ei gychwyniad, ydoedd ceiniog; ond, yn y flwyddyn 1874, helaethwyd ef a newidiwyd ei ddiwyg yn hollol, a gyda dechreuad y gyfres newydd hon ohono codwyd ei bris i ddwy geiniog, ac ymddengys yn gyhoeddiad destlus a glanwaith. Rhenir ei gynnwys dan wahanol adranau:—"Amrywiaeth," "Pigion i'r Plant," "Congl Goffa," "Tôn," "YGolygwyr a'u Gohebwyr," "Nodion ar Newyddion," "Barddoniaeth," &c. Er ei fod, mewn llawer ystyr, yn gylchgrawn cyffredinol a chenedlaethol, eto ceir mai yn mhlith yr Annibynwyr y mae ei gylchrediad fwyaf, a theg ydyw dyweyd fod ei gynnwysiad yn dal perthynas mwy uniongyrchol â hwy na neb arall,

Y Cwmwl, 1843.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn, yn y flwyddyn 1843, gan gwmni neillduol yn Aberystwyth, gyda'r Meistri Joseph Roberts, dilledydd, Aberystwyth, a John Jones (Ivan), o'r un lle, fel ysgrifenyddion y symudiad, a golygid of gan Mr. Robert Jones (Adda Fras), ac argrephid ef gan Mr. E. Williams, Aberystwyth. Arferid a phriodoli cychwyniad y cylchgrawn hwn, yn benaf, i Mr. Hugh Jughes, arlunydd, Aberystwyth Deusi allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Ei arwyddair ydoedd: "Gwell Addysg na Chyfoeth." Ni pharhaodd yn hir i ddyfod allan.

Yr Oes, 1843.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1843, a chyhoeddid ac argrephid of gan Mr. David Jenkins, Aberystwyth. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Ei arwydd-air ydoedd; "A'r gwirionedd rhyddha chwi." Ystyrid ei ysgrifau yn hynod lym a miniog. Parhaodd i ddyfod allan am oddeutu chwe' mis.

Twr Gwalia, 1843.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1843, a chychwynwyd ef gan y Meistri Isaac Harding Harries, a Walter W. Jones, Bangor, a hwy oeddynt yn ei olygu, ac argrephid ef gan Mr. Robert Jones, cyhoeddwr, Bangor. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Gyda'r rhifyn a ddaeth allan am Mawrth, 1843, ceir mai Mr. J. H. Harries, Bangor ei hunan oedd yn ei olygu. Ei arwydd-air, yn ol y wyneb-ddalen, ydoedd: "Bod heb gablu neb." Ceid ysgrifau ynddo ar destynau fel y rhai canlynol:"Hunan-adnabyddiaeth," "Am y galon ddynol," "Effeithiau Cerddoriaeth," "Serenyddiaeth," "Serchiadau yr Enaid." "Anfeidroldeb y Duwdod," "Cyfoeth Prydain Fawr," "Hanes yr Afanc," "Araeth ar natur Iforiaeth," "Y Caethion," &c. Ni ddaeth allan ohono ond ychydig rifynau.

Yr Amaethydd, 1845.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1845, dan olygiaeth y Parch. W. Williams (Caledfryn), a chyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. James Rees, Caernarfon. Cychwynwyd ef, yn benaf, er mwyn yr amaethwyr i'w dysgu yn ngwahanol agweddau amaethyddiaeth. Dros ychydig amser y parhaodd.

Y Golygydd, neu Ysgubell Cymru, 1846.—Daeth allan y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1846, a chychwynwyd ef gan y Parch. John Jones, Rhydybont, ac efe hefyd oedd yn ei olygu ac yn ei argraphu. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Ei arwydd-air, yn ol y wyneb-ddalen, ydoedd: "A wnaed ddrwg, ymogeled." Cynnwysai "athrawiaethau, traethodau, adolygiadau, hanesion, amrywiaethau," &c. Ysgrifenid iddo ar destynau fel y rhai canlynol:"Dysgeidiaeth yn Nghymru," "Breuddwydion," "Diderfyn raniadau Anian," "Cymhwysder y Greadigaeth." "Twr Dafydd," "Y Synagog a'r Eglwys," "Adenydd Amser," &c. Bu raid ei roddi i fyny oddeutu diwedd ei flwyddyn gyntaf. Ymdrechwyd ei ail-gychwyn yn y flwyddyn 1850, gan yr un person, ond yn ofer.

Yr Amaethwr, 1851.—Cychwynwyd y cylchgrawn hwn yn y flwyddyn 1851, gan Mr. William Owen, Caerdydd, ac efe hefyd oedd yn ei olygu, ac yn ei gyhoeddi. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Daeth allan, yn benaf, er mwyn gwasanaethu yr amaethwyr, ond rhoddwyd ef i fyny cyn hir.

Y Gwerinwr, 1855.-Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ebrill, 1855, a golygid ef gan y diweddar Barch. J. Thomas, D.D., Lerpwl, ac argrephid of gan Mr. J. Lloyd, cyhoeddwr, Lerpwl. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Galwai ei hunan,

yn ol y wyneb-ddalen, yn Athraw Misol, er dyrchafiad cymdeithasol, meddyliol, a moesol, y dosparth gweithiol,

Heb athraw, heb ddysg,
Heb ddysg, heb wybodau,
Heb wybodau , heb ddoethineb.'"

Byddai ysgrifau galluog yn ymddangos ynddo ar gwestiynau cymdeithasol y dydd, ac edrychid ar y rhai hyny yn arbenig yn eu perthynas â'r gweithwyr, ond ni pharhaodd y cylchgrawn i ddyfod allan yn hwy nag oddeutu blwyddyn a haner, a hyny ar gyfrif diffyg cefnogaeth.

Y Nofelydd, a Chydymaith y Bobl, 1861.—Daeth allan y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1861, a chychwynwyd ef gan Mr. W. Aubrey, Llanerchymedd, ac efe hefyd oedd yn ei olygu, ac yn ei argraphu. Deuai allan yn a'i bris ydoedd ceiniog. Dywedir, yn y "Cyfarchiad ' a geir ar wyneb—ddalen y rhifyn cyntaf ohono, fel y canlyn "Yr ydym yn bwriadu gwneyd lles i'r wlad trwy osod o flaen y lluoedd, mewn ffordd rad, bennodau ar wahanol faterion, difyrus a llesol, y gwna y darlleniad ohonynt bleser i'r meddwl, goleuni i'r deall, a lles i'r gydwybod. Math am ffug-draethau a hanesion buddiol, yn benaf, fydd cynnwys Y Nofelydd; & hyderwn y gallwn trwyddo osod o flaen llawer bachgen a geneth, a llawer teulu, ddigwyddiadau ag y bydd y gwersi a welir ynddynt yn rhwym o wneyd lles iddynt wrth ymwthio trwy eu bywyd yn eu cysylltiad â phethau y byd hwn yn gystal a phethau y byd a ddaw." Rhoddwyd ef i fyny cyn hir.

Golud yr Oes, 1862.—Daeth allan y cyhoeddiad hwn yn Meadi, 1862, a chychwynwyd af gan Mr. Hugh Humphreys, Caernarfon, ac efe hefyd gan fwyaf, oedd yn ei olygu, ac yn ei argraphu. Denai allan yn fisol, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog. Nis gellir gwneyd yn well, er egluro ei natur a'i amcan, na difynu y geiriau canlynol oddiar glawr y rhifyn cyntaf:—"I. Hanesyddiaeth Gymreig hen a diweddar, yn cynnwys cofnodion am gastelli, mynyddoedd, rhaiadrau, a hynodion eraill y wlad; yn nghyda personau ac amgylchiadau hynod yn hanes cenedl y Cymry. Gwasanaethu y cymdeithasau llenyddol, hyrwyddo amcan daionus yr Eisteddfodau, a chadw hen ysgrifau Cymreig rhag myned ar ddifancoll. II. Hanesyddiaeth y byd a'r amseroedd: yn cynnwys rhyfeddodau natur a chelfyddyd yn mhob parth o'r byd, teithiau mewn gwledydd pellenig gan bersonau nodedig, anturiaethau a pheryglon ar dir a môr, &c. III. Traethodau ar wahanol ganghenau gwybodaeth, a'r celfyddydau, ieithyddiaeth, ac addysg gyffredinol, hanes bwystfilod, adar, pysg, ac ymlusgiaid, Eglurhadaeth Ysgrythyrol, detholion o emau duwinyddol. IV. Ffug—hanesion o duedd i ddyrchafu rhinwedd, darostwng llygredd, ac argymhell ymddyrchafiad trwy ddiwydrwydd, cysondeb, a dyfalbarhad. V. Barddoniaeth a cherddoriaeth. VI. Gohebiaethau, ateb gofynion, amrywion, manion, a dyddanion." Dywed y cyhoeddwr, yn ei sylwadau "At ein Darllenwyr." yn nechreu y gyfrol gyntaf, mai hwn "oedd yr unig gyhoeddiad llenyddol Cymreig a chyffredinol oedd ar y pryd," ac ymddengys mai i'r amcan hwnw y cyhoeddwyd ef. Efallai mai un o'i ddiffygion oedd ei fod braidd yn anghyflawn a chyfyng, yn enwedig wrth ystyried yr honai fod yn gyhoeddiad hollol genedlaethol a chyffredinol—esgeulusid rhai canghenau pwysig yn gwbl ynddo, ac, o bosibl, ei fod, ar y dechreu, wedi addaw mwy nag y gallai ei gyflawni. Ber a fu ei oes, oherwydd ceir mai rhifyn am Rhagfyr, 1864, oedd yr olaf ohono a ddaeth allan.

Aelwyd y Cymro, 1865.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cylchgrawn hwn yn Ionawr, 1865, a chyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. Lewis Jones, argraphydd, Llanerchymedd. Ei bris ydoedd ceiniog, a deusi allan yn fisol. Bwriedid iddo wasanaethu "Llenyddiaeth, Celf- yddyd, a Gwyddoniaeth," ac amcanai fod "yn ddyddan, addysgiadol, a heddychlawn." Am ychydig amser y parhaodd.

Y Medelwr Ieuanc, 1871.—Daeth allan y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1871, a chychwynwyd ef gan gwmni perthynol i'r Bedyddwyr, ac argrephid ef gan Mr. Jenkin Howell, Aberdar. Cyhoeddid af dan olygiaeth bwrdd y cyfarwyddwyr, cynnwysedig o'r personau canlynol:-Parchn. Dr. Price, J. R. Morgan (Lleurwg), Thomas John, David Davies (Dewi Dyfan), J. Rufus Williams, a'r Meistri Ceiriog Hughes, ac E. G. Price, &c. Ei bris ydoedd ceiniog, a chyhoeddid ef yn fisol "at wasanaeth ysgolion a theuluoedd Cymru." Yr oedd ei blygiad yn helaeth, pob rhifyn yn cynnwys pedair tudalen, a cheid ynddo amrwy ddarluniau. Parhaodd i gael ei ddwyn allan am rai blynyddoedd.

Cronicl Canol y Mis, 1871.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn, yn y flwyddyn 1871, gan y Parch. Samuel Roberts (S. R.), Conwy, ac argrephid of gan Mr. R E. Jones, cyhoeddwr, Conwy. Cylchgrawn misol bychan ydoedd, a deuai allan ar ganol y mis, ond rhoddwyd ef i fyny yn fuan.

Y Darlunydd, 1876.—Daeth y cyhoeddiad hwn allan yn Ebrill, 1876, dan olygiaeth Mr. John Evans Jones, Caernarfon, ac argrephid ef gan Mr. John Evans, Highstreet, Caernarfon. Ei bris ydoedd ceiniog, a galwai ei hunan yn "gyhoeddiad misol y bobl." Ceid ar ei ddalen gyntaf, fel rheol, ddarlun un o enwogion Cymru, ac erthygl arno. Ceid lluaws o wahanol ddarluniau ynddo, ac ystyrid ef yn gyhoeddiad tra dyddorol. Parhaodd i ddyfod allan hyd oddeutu diwedd y flwyddyn 1879.


Y Ddraig Goch, 1877.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn, yn y flwyddyn 1877, yn benaf, gan y Parch. R. Mawddwy Jones, Dolyddelen (America yn awr), ac efe hefyd oedd yn ei olygu, ac argrephid ef gan Mr. Humphrey Evans, cyhoeddwr, Bala. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Daliai y cylchgrawn hwn gysylltiad â'r Cymry sydd yn Patagonia, a rhoddai eu hanes, a chyhoeddai newyddion lawer o'r wlad hono. Dyna ei amcan blaenaf. Rhoddwyd ef i fyny ar ol oddeutu dwy flynedd.

John Jones, 1878.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn, yn y flwyddyn 1878, dan olygiaeth y Parch. E. Gurnos Jones, Porthcawl (Talysarn gynt), ac argrephid of gan Mr. Peter M. Evans, Talysarn. Cyhoeddiad o nodwedd ysmala a digrifol ydoedd. Deuai allan yn fisol, ond ni ddaeth allan ohono fwy nag ychydig rifynau.

Y Berllan Gymreig, 1879.—Daeth allan y cylchgrawn hwn yn y flwyddyn 1879, a chychwynwyd ef gan y Parch. Richard Morgan, Aberdar, ac efe ydoedd yn ei olygu, ac yn ei gyhoeddi. Cyhoeddiad bychan rhad ydoedd, a deuai allan yn fisol, ond rhoddwyd ef i fyny ar ol ychydig rifynau.

Y Ceidwadwr, 1882.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Mehefin, 1882, a chyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. J. Morris, High-street, Rhyl. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Ei amcan, fel y gellid tybied oddiwrth ei enw, ydoedd amddiffyn a lledaenu egwyddorion Ceidwadaeth, ond ber a fu ei oes.

Briwsion i Bawb, 1885.—Math o gyhoeddiad wythnosol ydoedd hwn, a daeth ei rifyn cyntaf allan ar Rhagfyr 12fed, 1885, a chychwynwyd ef gan Mr. W. H. Jones, Turf-square, Caernarfon, ac efe hefyd ydoedd yn ei olygu, ac yn ei argraphu. Ei bris ydoedd ceiniog. Cynnwysai "Chwedlau, Moes wersi, Difyrion, Hanesion, Llen-gwerin, Henafiaethau, Gwyddoniaeth, Barddoniaeth, Cynnildeb Teuluaidd," &c., ac yn sicr rhaid dyweyd ei fod yn geiniog-werth dda. Rhoddwyd ef i fyny oddeutu dechreu y flwyddyn 1886.

Efrydydd Phonographia, neu Cylchgrawn Llaw Fer, 1890.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1890, gan Mr. David W. Evans, Llanfyllin, ac efe hefyd sydd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu. Ei brif amcan ydyw lledaenu gwybodaeth am wahanol fanylion canghen y "Llaw-Fer," a rhoddi ymarferiad mewn darllen llaw-fer i'r rhai sydd eisoes yn ei medru. Mae yr oll o'r cylchgrawn hwn yn cael ei ysgrifenu yn ol cynllun Phonographia y Parch. R. H. Morgan, M.A., Porthaethwy. Ymddengys mai pedair ceiniog y chwarter ydyw y tanysgrifiad tuagat ei gael yn wastad, ond dywedir mai ychydig iawn, hyd yn hyn, ydyw nifer ei dderbynwyr.

Y Cymreigydd, 1890.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn ar Mai 30ain, 1890, a chychwynwyd ef gan Mr. W. J. Parry, Bethesda, ac efe, yn benaf, oedd yn ei olygu, ac argrephid ef gan Mr. J. F. Williams, Bethesda. Golygid colofn farddoniaeth gan Mr. J. Gaerwenydd Pritchard, Bethesda, ac arolygid y golofn henafiaethol a chyfnodol gan Mr. J. M. Jones, o'r un lle, a cholofn yr ieuenctyd gan Mr. J. T. Parry, eto. Dywedai y cylchgrawn hwn, yn ei nodiadau eglurhaol am dano ei hun, nad ydoedd yn perthyn i'r un blaid neillduol—wladol nac eglwysig," ond ei fod yn gyhoeddiad cenedlaethol. Ond ni ddaeth allan ohono ond dau rifyn: y naill yn Mai, 1890, a'r llall yn Mehefin, 1890, a phris y rhifyn cyntaf ydoedd tair ceiniog, a phris yr ail ydoedd dwy geiniog.

Cwrs y Byd, 1891.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1891, dan olygiaeth y Parch. E. Pan Jones, Mostyn, ac argrephir ef gan y Meistri E. Rees a'i Feibion, Ystalyfera. Golygir y farddoniaeth gan y Parch. J. O. Williams (Pedrog), Lerpwl. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw dwy geiniog. Dywedir, ar ei wyneb-ddalen, ei fod yn "fisolyn hollol anenwadol," ac mai "ei swyddogaeth ydyw gwyntyllu cymdeithas yn ei gwahanol agweddau."

Cymru, 1891.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn ar Awst 15fed, 1891, a chychwynwyd ef gan Mr. Owen M. Edwards, M.A., Rhydychain, ac efe hefyd sydd yn ei olygu, ac argrephir ef, dros y golygydd, gan Mr. D. W. Davies, cyhoeddwr, Caernarfon. Daw allan yn fisol a'i bris ydyw chwe' cheiniog. Ei arwyddair, yn ol y wyueb-ddalen, ydyw: "I godi'r hen wlad yn ei hol." Dywed y golygydd, wrth egluro ei gynlluniau yn nglyn â'r cylchgrawn, yn y rhifyn cyntaf "Bwriadwn adrodd hanes Cymru'n gyflawn, o fis i fis. Dechreuir gyda brwydr Caer, pan wahanwyd Cymru oddiwrth Ystrad Clwyd, ac ysgrifenir hanes rhyfedd ein gwlad o'r adeg hono hyd y dydd hwn. Y Rhufeiniaid, y Saeson, y Normaniaid, y Fflandrwys—dangosir pa fodd y daethant i Gymru, a pha effaith gafodd eu preswyliad arni. Y cestyll, y mynachlogydd, y tomennau, y mynwentydd sydd o'u hamgylch—ceisir adrodd eu hanes hwythau. Y cen-hadwr bore, y brawd llwyd, offeiriad y Diwygiad Protestanaidd, Piwritan y Rhyfel Mawr, y pregethwr Anghydffurfiol—deueut hwythau oll ger bron. Y ffermwr, y llafurwr, y mwnwr, y crefftwr—ceisir adrodd eu hanes yn ol eu tylwyth." Yna dywed y golygydd fod y cylchgrawn am roddi lle arbenig i'r adranau canlynol:"Cymry Byw," "Cartrefi Cymru," "Teithwyr trwy Gymru," "Cerddoriaeth," "Defnyddiau Hanes," "Beirdd Anadnabyddus," "Llenyddiaeth y Dydd," "Llyfrau Newyddion," &c. Gwelir felly fod y cyhoeddiad hwn yn addaw llawer, a bwriedir iddo fod yn un hollol genedlaethol, a diau fod ei amcan yn dda iawn, a mawr hyderir y bydd iddo ei gyrhaedd.

Cyfaill yr Aelwyd a'r Frythones, 1892.—Daeth y cylchgrawn hwn allan, yn ei wedd bresennol, yn Ionawr, 1892, dan olygiaeth y Parch. H. Elved Lewis, Llanelli, a Mr. T. C. Evans (Cadrawd), Llangynwyd, Bridgend, ac argrephir ef yn swyddfa y Meistri D. Williams a'i Fab, Llanelli. Mae yn hysbys mai cyfuniad ydyw y cylchgrawn hwn o Cyfaill yr Aelwyd a'r Frythones y ddau wedi priodi, ac yn dyfod allan fel un cyhoeddiad dan ffurf newydd. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw tair ceiniog. Ei arwyddair, yn ol y wyneb-ddalen, ydyw: "Aelwyd lân, a Gwlad lonydd." Ystyrir ef yn gylchgrawn misol at wasanaeth aelwydydydd Cymru. Er rhoddi syniad am ei amcan, dywed un o'r golygwyr yn y rhifyn am Ionawr, 1892:— "Gwelodd y flwyddyn ddiweddaf ddechreu oes cylchgrawn Mr. Owen M. Edwards, M.A.,-Cymru. Ni fu gerbron ein cenedl ddim byd tebyg iddo o'r blaen: ac ymddengys fel pe byddai i wroniaeth llenyddol gael anrhydedd yn ei ddydd y tro hwn, gan mor galonog yw ei dderbyniad. Ymfoddlonwn ni ar fod yn fath o attodiad iddo: a thra bydd Cymru yn ail-ennill i'n cenedl drysor cudd y gorphenol, ein gorchwyl ni fydd gyda'r presennol gan mwyaf, ac weithiau gyda'r byd tuallan i Gymru." Nid oes genym ond hyn i'w ddyweyd: os deil y cylchgrawn hwn, fel y cychwyna yn y flwyddyn 1892, bydd yn gyhoeddiad misol a haedda gylchrediad helaeth.

Y Mis, 1892.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn ar Tachwedd laf, 1892, a chychwynwyd ef gan y Parch. J. Hughes, M.A., Lerpwl, ac efe hefyd sydd yn ei olygu, ac argrephir ef gan Mr. W. Lloyd, 65, Low Hill, Lerpwl. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw dwy geiniog. Dywedir, ar ei wyneb-ddalen, ei fod yn "gylchgrawn at wasanaeth crefydd a llenyddiaeth, yn mysg Cymry Liverpool, Manchester, a'r Amgylchoedd." Cynnwys ei rifyn cyntaf ydyw:—"Pregeth ar Talitha, Cwmi'" (Marc v. 41—42), "Y diweddar Barch. John Thomas, D D.," gan y Parch. D. M. Jenkins, Lerpwl, "Y Celt, y Teuton, a'r Sais" (a draddodwyd o flaen y Gymdeithas Genedlaethol Gymreig), barddoniaeth ar "Wrth fedd Henry Rees," ac adolygiad ar y llyfr diweddar a gyhoeddwyd ar "Howell Harris a'r

Diwygiad."

PENNOD IV.

DYLANWAD Y CYLCHGRAWN CYMREIG AR FYWYD Y GENEDL.

Yr ydym, yn awr, ar ol rhoddi hanes y cylchgronau Cymreig mor fanwl a chywir ag y gallem, hyd y mae hyny yn bosibl, yn prysuro yn mlaen i geisio cael allan eu dylanwad ar fywyd y Cymry. Diau y byddai yn fantais, cyn hyny, i ni wneyd ychydig nodiadau cyffredinol ar rai pethau a ystyriwn fel gwendidau a rhagoriaethau ynddynt, oherwydd mae yr elfenau hyny yn cyd wëu am danynt, ac y mae yn anmhosibl myned i mewn yn briodol i ddyfnder eu dylanwad—yn y naill gyfeiriad a'r llall—heb yn gyntaf cael syniad am y diffygion a'r rhagoriaethau a berthyn iddynt yn y cyfanswm ohonynt.

1. Diffygion. Rhaid i ni addef yn onest fod y ganghen hon o lenyddiaeth Gymreig, mor bell ag y gallwn ni farnu, wrth gymeryd i ystyriaeth boblogaeth fechan Cymru, ac nad yw rhif y darllenwyr yn or-luosog, &c., mewn sefyllfa led dda, yn enwedig wrth edrych arni yn ei gwedd gyffredinol. Clywir ambell un, ambell waith, yn dyweyd yn erbyn i'r gwahanol lwythau crefyddol yn Eglwysig ac yn Ymneillduol—gyhoeddi cylchgronau o'r eiddynt eu hunain; ond rhaid i ni ddatgan ein bod yn methu gweled gwir sail i'r gwyn hon, yn arbenig os na bydd y cylchgronau enwadol hyn yn taraw yn erbyn ein cylchgronau cenedlaethol, o'r hyn nid oes unrhyw debygolrwydd gwirioneddol. Bu adeg, ysywaeth, na chymerid ac na chefnogid unrhyw gylchgrawn gan wahanol bobl Cymru, os na pherthynai yn hollol i'w llwyth crefyddol hwy eu hunain, er i'r cylchgronau a wrthodid fod yn llawer gwell, fel cylchgronau, na'r rhai a ddewisid. Adeg ddigon anhapus yn hanes ein gwlad oedd yr adeg hono. Ond, erbyn hyn, yr ydym yn gobeithio pethau gwell— mae wedi dyfod yn fwy o'r dydd, a gwyddom i sicrwydd fod llaweroedd o'r bobl yn y gwahanol lwythau yn derbyn, yn darllen, yn cefnogi, ac weithiau yn ysgrifenu i gylchgronau eu gilydd, ac y mae sail dros gredu nad yw hyn yn cael ei wneyd ar draul esgeuluso cylchgronau cenedlaethol teilwng. Ymddengys i ni yn beth hollol naturiol, gweddus, ac angenrheidiol—yn wyneb sefyllfa pethau-fod gan bob adran grefyddol eu cyhoeddiadau eu hunain. Pa niwed all fod yn hyn? Cofier eto, wrth wneyd y sylw hwn, ein bod yn golygu na bydd i'r rhai hyny atal ysgrifenwyr a darllenwyr rhag cefnogi y cyfnodolion cenedlaethol, oherwydd ystyriwn fod y rhai hyn yn werthfawr iawn, ac anffawd a fyddai i ddim ddigwydd i luddias eu mynediad yn mlaen. Nis gellir rhoddi gormod o bwys ar gael cylchgronau cenedlaethol fydd yn llenwi yr enw, ac, efallai, mai yn rhywle yn y cyfeiriad hwn y mae un o'r diffygion yn ein llenyddiaeth gyfnodol, er, mae yn rhaid addef, fod y rhai sydd genym eisoes yn haeddiannol o'r gefnogaeth wresocaf. Dymunem, yn garedig, ar i'r gwahanol gylchgronau a feddwn ddal i ennill tir, ac amcanu, os bydd amgylchiadau yn galw, at dori ambell i linell newydd. Nis gellir canmol llawer ar farddoniaeth bresennol ein cylchgronau, ac y mae yn amheus iawn genym a wna ddal i'w chydmaru â barddoniaeth ein cylchgronau oddeutu deugain mlynedd yn ol. Byddwn yn ofni fod gormod o unrhywiaeth yn y cyfnodolion —gormod ohonynt yn rhedeg yn nghyd i'r un cyfeiriad, tra yn gadael rhai cyfeiriadau pwysig eraill heb eu cyffwrdd. Mae ein cenedl, erbyn hyn, yn estyn ei changhenau i gyfeiriadau newyddion—yn ymagor, ymledu, ac yn rhoddi camrau yn ei blaen—a dylai ein llenyddiaeth gylchgronol wylio symudiadau y genedl, a chyd-ddilyn os nad blaenori. Nid ydym am iddynt redeg ar ol pob awel, a dilyn pob gwynt i ba le bynag yr elo—pe felly, collid ymddiried ynddynt, a byddent yn anwadal a pheryglus i'w dilyn; ond, er hyny, credwn y dylent wasanaethu eu cenhedlaeth, a chyfaddasu eu hunain o'r newydd yn barhaus, os bydd gwir anghen, i gyfarfod yr agweddau newyddion a gymer y bywyd cenedlaethol. Caniataer i ni hefyd, yn yr yspryd goreu, gyfeirio ein bys at un diffyg sydd yn bygwth llawer ohonynt: nid ydynt yn ddigon nodweddiadol o'r amseroedd y maent yn byw ynddynt—dim digon o agosrwydd rhyngddynt â chwestiynau mawr eu dydd eu hunain! Onid ellir rhoddi unrhyw ddyddiad (date) uwchben rhai ohonynt? Dylai, yn sicr, fod argraph eu hoes yn ddyfnach ac eglurach arnynt. Gwyddom yn dda fod hyn, i raddau, yn codi oddiar ochelgarwch a gofal am gywirdeb maent mor awyddus i gadw eu hunain yn ddiogel, yn iach yn y ffydd, ac yn gochel pob gwylltineb a newydd-deb, nes, wrth osgoi un eithaf, y maent mewn perygl i syrthio i'r eithaf cyferbyniol. Mae y gochelgarwch hwn, ynddo ei hun, yn rhinwedd, ac yn beth i'w werthfawrogi, ond mae yn bosibl bod mor ochelgar nes bod yn ddôf, di-fywyd, ac oer!

2.—Rhagoriaethau. Gyda cael eu cyhoeddi yn lanwaith, destlus, ac yn cael gwisg allanol dda, yr hyn sydd yn glod i'r cyhoeddwyr, gellir dyweyd (a) eu bod, fel rheol, dan ofal dynion da fel golygwyr. Ymddengys i ni fod hyn yn beth o'r pwys mwyaf mewn gwahanol gysylltiadau. Cymeriad golygydd unrhyw gyhoeddiad, yn gyffredin, fydd yn penderfynu cymeriad ysgrifenwyr y cyhoeddiad hwnw, a chymeriad y naill a'r llall, i raddau pell, fydd yn penderfynu cymeriad ei ddarllenwyr. Nis gellir bod yn rhy ofalus pa fath ddynion a geir wrth lywy wasg yn mlynyddoedd dyfodol Cymru —bydd hyny yn arwydd lled gywir i ba gyfeiriad y bydd osgo y genedl. Nid ydym yn dyweyd nad allesid cael dynion mwy doniol, hoew, a medrus yn olygwyr ar rai o'r cylchgronau Cymreig, ac, efallai, y buasai yn dda cael cyfnewidiad mewn enghraipht neu ddwy, er, ar y cyfan, mai nid hawdd a fuasai gwella yn y rhan fwyaf ohonynt; ond, a gadael heibio y dalent olygyddol, fel y cyfryw, rhaid cydnabod, ac y mae yn llawenydd genym gael gwneyd, nad ydym yn gwybod am odid yr un o'r cylchgronau Cymreig a gyhoeddir ar hyn o bryd heb fod dan olygiaeth dynion o gymeriad uchel— cymeriad moesol cryf—a dynion nad oes yr un amheuaeth am eu cywirdeb, ac ystyriwn hon yn ffaith hynod hapus, a hir y parhao felly. Diau fod hyn yn cyfrif, yn un peth, am fod y cyfnodolion, gan fwyaf, ar delerau da a'u gilydd. Anfynych iawn yn eithriadol felly y ceir y naill gylchgrawn, erbyn hyn, yn enllibio y llall, nac yn gwneyd ymosodiadau brwnt, personol, ac annheg ar eu gilydd. Gwyddom eu bod, flynyddoedd yn ol, yn ddigon diffygiol yn hyn. Cedwir hwy yn awr ar dir da, wrth gymeryd pobpeth i ystyriaeth, rhag eiddigedd afiach at lwyddiant eu gilydd, neu o leiaf, anaml y ceir cyfeiriadau cyhoeddus at hyny, a diau, pe buasai y dolur yn ddwfn iawn, y buasem yn cael gwybod rhywbeth am dano. Yr ydym yn priodoli y pethau hyn, mewn rhan helaeth, i'r ffaith fod dynion da, doeth, a phenderfynol yn eu golygu. Cedwir allan ohonynt (b) ysgrifau isel, gwael, a di-amcan. Nid rhagoriaeth fechan, yn y cysylltiad hwn, yw rhagoriaeth nacaol. Addefwn, fel yr awgrymwyd yn barod, y ceir ambell i ysgrif a rhifyn digon di-bwynt, di-yni, ac an-amserol, ond, er hyby, wrth eu cymeryd at eu gilydd, gellir dyweyd eu bod yn dda. Apelir yaddynt at deimladau goreu y darllenwyr, heb yr un ymgais at gyffroi syniadau gwylltion a di-lywodraeth mewn dynion. Mae ein cyfnodolion, mewn gwirionedd, wedi ennill cymeriad mor dawel, di-dramgwydd, a gwastad, fel y darfu i un ysgrif, yr hon a ymddangosodd yn un ohonynt, oddeutu dwy flynedd yn of [dechreu y flwyddyn 1890] beri cynhwrf a phryder drwy holl Gymru. Diau fod yr ysgrif hono yn un finiog a chyrhaeddgar, ac yn amlygu gallu diamheuol, a chredwn fod rhai adolygwyr wedi dangos ffolineb wrth geisio dyfalu pwy oedd yr awdwr, ac hefyd yn eu sylwadau eithafol arni, a diau y buasai yn fwy buddiol iddynt alw sylw at rai gwirioneddau a gynnwysid ynddi yn hytrach na chymaryd y ffordd a fabwysiadwyd ganddynt. Ni pherthyn i ni, modd bynag, roddi unrhyw farn ar yr ysgrif—nid dyna ein hamcan, ond yn unig dyfod a hyn yn mlaen i ddangos cymeriad cyffredinol ein cylchgronau: maent mor dawel, cyson, a chymedrol, fel yr oedd hyd yn nod ond un ysgrif, allan o'r ffordd gyffredin, yn achosi cynhwrf mawr trwy yr holl Dywysogaeth. Cyn myned at ddylanwad uniongyrchol y cylchgronau Cymreig, dylid cofio fod yn anmhosibl nodi terfynau hollol a chwbl eu dylanwad. Mae dylanwad yn rhywbeth mor ddwfn-dreiddiol fel nas gellir dilyn ei olion i'r llythyren, a dangos y llinellau terfyn, ac wrth i ni, yn y rhan ganlynol, ymdrin â dylanwad ein llenyddiaeth gylchgronol, mewn gwahanol adranau, bydd i ni wneyd hyny gan gofio fod dylanwad yn rhywbeth mor bellgyrhaeddol, mor ddwfn, mor anweledig, ac mor araf a graddol ei weithrediad, &c., fel nas gelir rhoddi bys arno yn mhob achos.

3. Dylanwad Llenyddol. Mae dyfodol yr iaith Gymraeg yn dibynu, i raddau helaethach nag y tybia llawer, ar pa fath lenyddiaeth gylchgronol a fydd ganddi. Dibyna parhad yr iaith, i raddau pell, ar ei llenyddiaeth—ac nid ydym yn sicr a ydyw y wedd hon ar y mater wedi cael y sylw a deilynga. Mae dylanwad llenyddol y cylchgronau Cymreig yn gryf: gellir edrych ar y cylchgronau Cymreig fel cryd i lenyddiaeth Gymreig yn gyffredinol, a gellir dyweyd am brif lenorion a beirdd Cymru mai ar feusydd hyfryd y cylchgronau hyn y darfu iddynt ddechreu ymsymud am y waith gyntaf erioed, fel y dylai ein gwlad fod yn ddiolchgar i'r cylchgrawn am fagu iddi ei phrif awduron. Hefyd, maent yn foddion i gynnyrchu chwaeth lenyddol yn y wlad—cefnogi y chwaeth hon— a'i chadw yn fyw. Dalient y Gymraeg gerbron y cyhoedd, ac wrth son am hyn, caniataer i ni gyfeirio at yr ysgrifau a'r dadleuon a geir ynddynt, yn enwedig yn y blynyddoedd hyn, ar yr Iaith Gymraeg. Mae yr ysgrifau diweddar dan y penawdau "Cymraeg Rhydychen" a "Llythyraeth y Gymraeg" (Mr. J. Morris Jones, M.A., Bangor), "Cymraeg yr oes hon" (Mr. John Rhys, M.A.), "Cymraeg Cymreig" (y Parch. J. Puleston Jones, B.A., Bangor), "Cymraeg Rhydychen" (Mr. Edward Foulkes, Llanberis), "Awgrymiadau ar y Gymraeg" (y Parch. Michael D. Jones, Bala), &c., wedi tynu sylw. Dalia y rhai a blaidient yr hyn a elwir yn "Gymraeg Rhydychen" y dylid sillebu ac ysgrifenu geiriau yn ol eu sain—rhodder ar lawr y llythyrenau sydd yn cynnrychioli y sain, ac yna dyna y gair ar lawr," na ddylid, wrth ysgrifenu, drafferthu yn nghylch tarddiad geiriau, ond eu cymeryd yn ol eu sain syml, a chadw at yr iaith fel y ceir hi ar lafar gwlad. Dalient "mai sain gair, yn hytrach na'i darddiad, a ddylai benderfynu ei sillebiaeth." Maent yn edmygu Cymraeg y Mabinogion, a Chymraeg Dafydd ap Gwilym, ac yn credu y dylid canlyn eu Cymraeg. Ceir, ar y llaw arall, fod yr ysgrif- enwyr a wrthwynebant gyfundrefn Gymreig Rhydychain, yn dal na ddylid o gwbl gymeryd llafar gwlad yn safon iaith—nad yw hyny yn ddiogel, a bod i bob oes ei chwaeth, ei dull o feddwl, a'i phynciau ei hun," a bod "arddull mynegiant ieithyddol hefyd yn cyfnewid o oes i oes," ac felly nad yw yn ddoeth dal, yn yr oes hon, at eiriadaeth nac arddull Dafydd ap Gwilym na neb arall o'r henafiaid. Hyd yr ydym yn gwybod—rhywbeth i'r perwyl yna yw ystyr y ddadl o'r ddwy ochr. Nid ein gwaith ni, yn y cysylltiad hwn, ydyw helaethu ar y ddadl, ond yr ydym yn tueddu at y farn mai gwell a fyddai i rai o'r personau a amddiffynent "Gymraeg Rhydychain" beidio gwneyd cyfeiriadau mor bersonol wrth ddadleu dros eu cyfundrefn. Maent yn rhy barod i arfer cywair sydd braidd yn ddiraddiol wrth gyfeirio at hen lenorion a gramadegwyr Cymru, ac yn enwedig felly pan yn cyfeirio at Dr. W. O. Pughe. Dywedant nad oedd ganddo ef ond y nesaf i ddim dirnadaeth am gystrawen ac arddull," ac mai "casgliad o eiriau yn unig oedd iaith iddo ef," a dalient y dylid "dadbuweiddio" yr iaith, ac nad yw y Gymraeg bresennol ond "Puwiaeth" noeth, a galwent ei edmygwyr yn "Puwiaid," ac yn ddilynwyr crach ieithegol," &c. Cofier nid ydym yn datgan barn o gwbl yn y naill ffordd na'r llall—ar y mater mewn dadl, ond, ar yr un pryd, os ydyw yr ymdrafodaeth hon i gael ei chario yn mlaen, carem ar i'r amddiffynwyr hyn roddi heibio y dull hwn: nid oes unrhyw beth yn cael ei ennill drwyddo, a beth bynag a ellir ddyweyd am Dr. W. O. Pughe, mae ein cenedl dan ormod rhwymau iddo ef, ac eraill gydag ef, i'w galw ar enwau sarhaus o'r math hwn. Ond, er hyny, credwn fod y ddadl hon ar yr Iaith Gymraeg, yn ein cylchgronau, yn enwedig os caiff ei chario yn mlaen mewn yspryd cariad a doethineb, yn sicr o droi yn fantais lenyddol i'r wlad. Dywedir fod ysgrif Brutus yn Seren Gomer (yn ei dyddiau cyntaf) ar "Tlodi yr Iaith Gymraeg wedi tynu sylw mawr ar y pryd hwnw, a pheri helynt. Mae yn ddiddadl fod ysgrifau tebyg i "Yr Eisteddfod a Safon Beirniadaeth (Glanffrwd), "Philistiaeth Eisteddfodol" (Gwyndodig), "Eisteddfod Genedlaethol Pen y Fan" (Ceiriog). "Beth am yr Eisteddfod" (Mr. Edward Foulkes), "Safon Beirniadaeth" (Cynfaen), &c., wedi bod yn llesol iawn tuagat buro a dyrchafu ein sefydliad cenedlaethol, a thrwy hyny yn tueddu at fod yn fantais lenyddol i'r genedl. Beth am yr ysgrifau ar "Goronwy Owain" (G. Ed- wards), "Eben Fardd" (Hwfa Môn), a'r rhai a geir yn barhaus ar enwogion llenyddol ymadawedig? Gwnaeth ysgrifau beirniadol "Iwan" yn y Seren Gomer foreuol, ar "Gywydd y Farn," gan Goronwy Owain, yn enwedig ar y llinellau

"Syrth nifer y sêr, arw son
Drwy'r wagwybr draw i'r eigion,"

a bod y gair "draw" yn ddi-anghenrhaid, &c.,—gwnaeth yr ysgrifau hyn gynhwrf ar y pryd. Pwy sydd heb wybod am ysgrifau galluog a deifiol "Yr Hen Wyliedydd" (Parch. W. Davies, D.D., Bangor), yn Yr Eurgrawn? Darfu i'w erthyglau beirniadol ar Caledfryn, fel beirniad awdlau, dynu sylw cyffredinol y beirdd a'r llenorion ar y pryd, a theimlid fod "Yr Hen Wyliedydd," drwy ei lythyrau ar hyn, wedi cyflawni gwasanaeth i'w gyd-genedl. Wrth son am ddylanwad llenyddol y cylchgronau, dylid rhoddi pwys ar yr hyn a wnaeth y cyhoeddiad a elwid Yr Eisteddfod. Darfu i'r cylchgrawn hwn wneyd lles dirfawr trwy ddyfod â'r dalent Gymreig i'r golwg—bu yn gyfrwng da i lenorion a beirdd galluog (oeddynt gydmarol anhysbys o'r blaen) i ddyfod i sylw y wlad. Gwnaeth cyhoeddi, yn y cylchgrawn hwn, gynnyrchion Eisteddfod Genedlaethol Llangollen, 1858, er enghraipht, les mawr mewn llawer ffordd. Trwy y cyhoeddiad hwn, i ddechreu, daeth y Cymry i wybod am "Brwydr Maes Bosworth " (Eben Fardd), "Cymeriad Rhufain" (Nicander), "Myfanwy Fychan" (Ceiriog), &c., ac felly rhoddwyd goleuni a choffadwriaeth i gynnyrchion y buasai yn golled bod hebddynt. Diau fod y cyfnodolion wedi gwneyd eu rhan i roddi ei le priodol i lawer dyn mawr a fuasai, i bob golwg pe heb hyny, wedi cael ei adael heibio. Cymerer W Williams (Pantycelyn) fel un enghraipht: nid oedd y peraidd-ganiedydd hwn wedi cael ei adnabod gan ei oes ei hun—ni cheid ef yn mhlith beirdd ei genhedlaeth, a phrin y cydnabyddid ef ganddynt o gwbl. Llithrodd heibio ddarn helaeth o'r oes hon hefyd cyn iddo gael ei le, a diau mai ysgrifau y Parch. W. Rees (Hiraethog), yn Y Traethodydd am y blynyddoedd 1846-7, yn benaf, a fu yn foddion iddo gael y lle a deilyngai yn syniad y wlad, ac y mae lle i ofni na buasai y genedl wedi dyfod i adnabod ac i iawn-brisio gweithiau Williams oni buasai am yr erthyglau hyny. Gellir dyweyd fod rhai ysgrifau wedi ymddangos yn ein cylchgronau ag ydynt wedi troi allan yn sylfaeni rhai o'r llyfrau mwyaf poblogaidd yn yr iaith. Ceir, ar y meusydd hyn, fod ein llenorion yn cael cyfleusderau i gyd-gyfarfod, i adnabod eu gilydd, i gyfnewid meddyliau, i adolygu gweithiau eu gilydd, ac, os bydd galw am hyny, i ymgodymu, ac yn yr oll, a thrwy yr oll, gwneir gwasanaeth dirfawr ac arosol, mewn gwahanol gysylltiadau, i lenyddiaeth Gymreig, ac y mae hyny drachefn, yn ei gyfeiriad ei hun, yn dylanwadu ar y bywyd Cymreig.

4.—Dylanwad Deallol.—Ceir fod y gwahanol gylchgronau bron oll, i raddau, yn eu ffordd eu hunain, yn cyfranu gwybodaeth. Ofnwn, fel yr awgrymwyd o'r blaen, eu bod yn euro gormod ar yr un cyfeiriadau, tra yn esgeuluso cyfeiriadau eraill yn llwyr. Ond, er hyny, y mae yn llawenydd genym weled, yn ystod y blynyddoedd diweddaf hyn, fod cylchgronau newyddion yn cael cychwyn, a'r rhai hyny yn tori tir newydd, ac nid oes genym ond gobeithio y caiff eu cyhoeddwyr gefnogaeth y wlad tra y parhaont i deilyngu hyny. Wrth son am ddylanwad deallol ein cylchgronau, dylai enw y Parch. Walter Davies (Gwallter Mechain) gael lle anrhydeddus, fel un a wnaeth lawer, a hyny mewn ffordd ddistaw, tuagat oleuo a dysgu ei gyd-genedl. Ystyrid ef yn ddyn nodedig, a phan oedd yn golygu Y Gwyliedydd byddai ei holl adnoddau meddyliol yn cael eu tywallt iddo, a meddylier fod dynion fel Ieuan Glan Geirionydd, John Blackwell (Alun), Ioan Tegid, &c., yn ei gynnorthwyo, ac yn cyd-ysgrifenu âg ef, ac yna gwelir fod ei gylchgrawn yn "ganwyll yn llosgi " mewn gwirionedd. Nid oes amheuaeth na ddarfu i ymddangosiad Tarian Rhyddid ysgwyd a chynhyrfu yr holl wlad, a bu ei ysgrifau llym yn foddion i arwain sylw a goleuo pobl yn nghylch gwelliantau gwladol ac eglwysig. Pwy all ddyweyd maint dylanwad ysgrifau S. R. a J. R. yn Y Cronicl ar y farn gyhoeddus yn nghylch y rheilffyrdd haiarn, y llythyr-doll ceiniog, rheolaeth drefol, cadwraeth ffyrdd, &c., mewn ffordd o barotoi ac aeddfedu pobl Cymru at y cyfryw ddiwygiadau gwladol a chymdeithasol? Er nad oedd y cylchgrawn bychan hwn, yn ei ddechreuad, o ran maintioli, ond oddeutu chwe' modfedd o hyd, a thair a haner o led, gydag ond wyth o ddalenau, eto yr oedd fel seren lachar yn ffurfafen ein gwlad, yn enwedig yn ei flynyddoedd cyntaf. Ymddangosodd lluaws o ysgrifau gwerthfawr yn Seren Gomer, yn ei blynyddoedd boreuol, a chredwn mai un nodwedd arbenig ynddi, o leiaf y pryd hwnw, ydoedd ei gwaith, fel cyhoeddiad crefyddol yn perthyn i enwad neillduol, yn rhoddi lle helaeth i ysgrifau ar henafiaethau cyffredinol, ac fel un enghraipht i ddangos hyny gellir nodi yr ysgrif a ymddangosodd yn rhifyn Chwefror, 1837, ar "Arian Di-arddel," sef arian oedd yn gorwedd y pryd hwnw yn Ariandy Lloegr yn enwau personau a fuont yn byw yn Nghymru, y rhai a adawyd yno heb neb yn ymofyn yn eu cylch am flynyddoedd meithion, ac a ystyrid gan y rheolwyr, erbyn hyny, yn arian di-arddel. Yr oedd y wybodaeth a gynuwysid yn yr ysgrif hono, yn gystal ac yegrifau o'r fath, o'r gwerth mwyaf i bobl Cymru, yn enwedig yn yr hen amseroedd. Gwelir fod y cylchgrawn Cymreig wedi bod yn ffyddlawn i'r Ysgol Sabbothol:— cychwynwyd amryw-hen a diweddar-yn bwrpasol at ei galwadau, a diau eu bod yn gynnorthwy effeithiol i oleuo deall ein cenedl. Darfu i ysgrifau a holiadau y diweddar Barch Lewis Edwards, D.D., Bala, ar "Person Crist," y rhai a ymddangosent yn fynych yn Yr Arweinydd, dynu sylw, a gwyddom yr edrychir arnynt hyd heddyw, mown rhai manau yn Nghymru, yn mhlith y pethau goreu a ellir gael ar hyn. Mae y cyhoeddiad a elwir Y Lladmerydd yn prysur ennill sylw, a diau fod ysgrifau y ddau olygydd ar feusydd llafur neillduol (y naill ar gyfer y rhai mewn oed, a'r llall ar gyfer y plant), ac ysgrifau galluog y diweddar Barch. D. Charles Davies, M.A., Trefecca, yn mhob rhifyn ohono-maent oll yn dra gwerthfawr, a diau eu bod, bob mis, yn cael eu darllen yn ofalus gan ddarllewyr coethaf y cyhoeddiad, ac yn dylanwadu ar eu dull o feddwl, a hwythau drachefn yn dylanwadu ar eu gwahanol gylchoedd, ac felly nis gellir dyweyd, gyda sicrwydd, yn mha le y dybena dylanwad treiddiol yr ysgrifau hyn, a rhai tebyg iddynt mewn cyfnodolion cyffelyb, yn y cyfeiriad y maent, ar fywyd y genedl. Gwelir hefyd fod y cylchgrawn Cymreig wedi bod yn sylwgar o'r plant: dechreuodd gymeryd sylw o'r dosparth hwn yn fuan, ac y mae yn parhau i wneyd. Mae y rhan bwysig hon, yn ein Ilenyddiaeth gylchgronol, buasem yn tybied, mewn sefyllfa foddhaol, ac yn sicr nis gall plant y Cymry gwyno nad oes llenyddiaeth bwrpasol ar eu cyfer hwy, a hyny yn rhad a chyfleus. Dylai rhieni ein gwlad ei gwneyd yn bwynt i gefnogi y cyhoeddwyr a'r golygwyr ffyddlawn sydd yn arlwyo ar gyfer eu plant, a gobeithio y bydd i'r golygwyr barhau i wneyd y cyhoeddiadau hyn mor ddyddorol ag sydd yn bosibl i'r plant. Nid oes neb all draethu faint yw ôl y cylchgronau bychain hyn ar Gymru. Drwg genym mai ychydig a phrin yw rhif ein cylchgronau ar gyfer y chwiorydd, ac nid yw y rhai a fu ar y maes wedi cael y gefnogaeth a deilyngent. Mae yn anghlod oesol i ferched Cymru am adael i'r Gymraes gael ei rhoddi i fyny. Gwnaeth Ieuan Gwynedd ei oreu, a phriodol y dywedodd Caledfryn am dano:-

"Ei wlad, ei genedl, a'i iaith—a garai
Y gwron yn berffaith;
Gwell co' am dano a'i daith—fydd gweithiau
Ei awen, a'i eiriau na mynorwaith."

Ond er iddo ef wneyd a allai, bu raid rhoddi Y Gymraes i fyny, ac erbyn hyn, mae y Frythones wedi cael ei rhoddi heibio, fel, ar hyn o bryd (1892), nad oes genym yn yr iaith yr un cylchgrawn yn gyfangwbl at wasanaeth y rhyw fenywaidd. Ond, gwnaeth Y Gymraes a'r Y Frythones waith da mewn oes fer: ceisient wella a dyrchafu merched ein gwlad mewn pethau ymarferol, megis gwnio, coginio, dilladu, rheolau iechyd, &c., pethau ag y mae llawer o ferched Cymru, drwg genym orfod credu, yn ddigon diffygiol ynddynt, a da y gwnaent pe rhoddent well cefnogaeth i gyhoeddiadau a fyddent yn amcanu at eu dysgu, eu goleuo, mewn gwahanol ganghenau arolygiaeth deuluaidd, a byddai hyn yn un cynnorthwy iddynt tuagat fod yn well gwragedd a mamau. Mae yn syndod y bu iddynt fod mor ddifraw gyda chylchgronau a gychwynwyd yn un pwrpas i'w gwasanaethu. Gyda golwg ar ein cylchgronau cerddorol-nid oes, am a wyddom ni, ond y da i'w ddyweyd. Dywedodd y diweddar Barch. D. Saunders, D D., Abertawe, ar ddiwrnod angladd Ieuan Gwyllt, Mai 19eg, 1877, ar lan ei fedd yn mynwent Caeathraw, ger Caernarfon, wrth son am ddylanwad Ieuan Gwyllt ar gerddoriaeth Gymreig, na wyddai ef "am ddim, hyd yn nod yn yr iaith Seisonig, ar y pryd hwnw, oddigerth The Musical Times, yn cynnwys sylwadau mor werthfawr ar gerddoriaeth â'r rhai a geid yn Y Cerddor Cymreig, ac yn ei farn ef nid oedd hyd yn nod y cyhoeddiad hwnw—The Musical Times—yn deilwng i gael ei gydmaru â rhifynau Y Cerddor Cymreig yn ei dair blynedd cyntaf." Gellir dyweyd fod y cyhoeddiad hwn, mewn rhyw ystyr, wedi cynnyrchu, i raddau pell, ysgol o gantorion i Gymru, megis Meistri John Thomas, Llanwrtyd W. T. Rees (Alaw Ddu); Dafydd Lewis, Llanrhystyd; Emlyn Evans, &c. Bu y cylchgrawn hwn, mewn rhan fawr, yn effeithiol i ddyfod â'r wlad yn lled gyffredinol yn ffafriol i gyfundrefn y Tonic Solffa, & diau, beth bynag ellir ddyweyd am ei diffygion, ei bod yn gyfundrefn fanteisiol iawn i wneyd cerddoriaeth yn eiddo i'r lluaws, ac y mae yn egluro y gwirionedd mawr sydd wrth wraidd cerddoriaeth fel gwyddor, sef perthynas pob sain â'r cywair-sain. Bron nad ellir dyweyd ei bod wedi dyfod yn gyfundrefn gyffredinol drwy Gymru, a gwelwn fod amryw fanau eisoes wedi dathlu ei Jubili, a gwelwn fod pwyllgor y symudiad hwn yn Llundain, wedi dewis "Y Seren Dlos" (Mr. D. Jenkins), "Ffarwel i ti, Gymru fad" (Dr. Parry). "Y Gwlithyn" (Alaw Ddu), a "Deled dy Deyrnas" (Mr. Emlyn Evans), i'w canu yn y Palas Gwydr yn Gorphenaf, 1891, pryd yr oedd Solffawyr o bob rhan o'r deyrnas yn bresennol. Da genym fod ein cyd-wladwyr cerddorol wedi cael y deyrnged hon, ac ystyriwn hyn yn anrhydedd i Gymru. Yr ydym yn priodoli yr agwedd hon ar sefyllfa cerddoriaeth yn ein gwlad, mewn rhan helaeth, i ddylanwad ein cylchgronau cerddorol, Caniataer i ni, ar yr un pryd, wneyd un sylw ar hyn: ofnir nad yw ein cerddorion ieuainc—aelodau corawl—yn darllen ond ychydig iawn ar lenyddiaeth y gelfyddyd gerddorol, a'r canlyniad ydyw mai lled arwynebol yw gwybodaeth y mwyafrif o'r rhai a alwant eu hunain yn gerddorion yn Nghymru. Ystyrir y Cymry, fel lleiswyr, yn sefyll ar y blaen; ond fel offerynwyr, cyfansoddwyr, a cherddorion damcanol, yr ydym yn bell iawn ar ol i amryw wledydd ar y Cyfandir. Nid oes genym, a siarad yn gyffredinol, un math o ddirnadaeth am y maes eang o gerddoriaeth offerynol ag sydd yn adnabyddus i genhedloedd eraill, ac y mae hyn yn anfantais arianol i'n gwlad, heb son am yr anfanteision cymdeithasol sydd yn canlyn. Credwn yn sicr y dylai ein cantorion, yn enwedig y rhai ieuainc ohonynt, ddarllen mwy ar ein cylchgronau cerddorol, a diau y gwna hyny agor eu deall ar lawer pwynt ag sydd yn awr yn dywyll iddynt, ac nid hollol an-amserol, efallai, a fyddai gwasgu y pwysigrwydd ar fod i ysgrifenwyr i'r cylchgronau cerddorol hyn ymdrechu fwy-fwy yn nghyfeiriad arddull lenyddol gywir a chyfaddas, a gwneyd eu cylch. gronan yn gymaint o allu cerddorol ag sydd bosibl. Gellir dyweyd, mewn ystyr gyffredin, fod ein cylchgronau boreuol am yr haner cyntaf o'r ganrif hon—lawer ohonynt—yn debyg i feusydd rhyfel, yn llawn ffrwydriadau, tân, ergydion, mwg, cleddyfau, &c. Ofnwn, ar un llaw, fod y brwydro hwn, yn benaf ar faterion crefyddol ac athrawiaethol, wedi gwneyd peth niwaid, a bod ei ddylanwad er drwg mewn llawer ffordd; ac eto, ar y llaw arall, credwn fod rhai gemau ardderchog wedi dyfod allan o'r rhyfeloedd hyn, a diau eu bod, i raddau helaeth, wedi bod yn achlysur i gynnyrchu llawer o ymchwiliadaeth Feiblaidd yn ein gwlad, a pheri i lawer gymeryd dyddordeb mewn materion o'r fath, na buasent yn cymeryd dyddordeb ynddynt, efallai, pe heb y brwydrau cylchgronol. Credwn fod gan y dadleuon hyn ar faes y cyfnodolion boreuol Cymreig—ar wahan i'w teilyngdod neu eu annheilyngdod—lawer iawn i'w wneyd â'r ffaith fod cenedl y Cymry yn hynod am ei duwinyddiaeth, ac am ei gwybodaeth Ysgrythyrol. Rhaid hefyd fod ysgrifau diweddar "Y Pahamau," y rhai a ymddangosent yn Y Geninen, yn foddion arbenig i oleuo syniadau y naill lwyth crefyddol am olygiadau y llall. Gall penawdau fel "Paham yr wyf yn Annibynwr," "Paham yr wyf yn Armin,' "Paham yr wyf yn Fedyddiwr," a "Phaham yr wyf yn Fethodist Calfinaidd," &c., fod braidd yn dramgwyddus chwaeth lednais, a gallent, os na chymerir gofal neillduol, fod yn foddion i ail-agor hen archollion; ond, ar y cyfan, credwn fod tuedd yn yr ysgrifau hyn i wneyd lles, yn yr ystyr o eangu ein syniadau am ein gilydd, goleuo ein deall am wir natur ein gwahanol safleoedd. Prin y buasai yn weddus ynom, yn y cysylltiad hwn, fyned heibio yn ddisylw i'r hen gyhoeddiad clodfawr Y Truethodydd, ymddangosiad cyntaf yr hwn yn Ionawr, 1845, nid yw yn ormod dyweyd, a fu yn foddion i greu cyfnod newydd yn hanes Cymru mewn llenyddiaeth gylchgronol. Meddylier am gael ysgrifau, ar y pryd hwnw, gan rai o oreugwyr y genedl, ar faterion tebyg i'r rhai canlynol:-"Athroniaeth Bacon," "Hanes yr Eglwys yn Geneva," "Ysprydoliaeth yr Ysgrythyrau," "Robert Hall," "Horæ Paulinae," "Bywyd a Barnau Dr. Arnold," "Gwefrhysbysydd." "Y Diwygiad Crefyddol yn Germany," "William Salesbury," "Maynooth," "Crefydd yn Ffrainc," "Athroniaeth Kant," "Newton," "Duwinyddiaeth Rhydychain," "Canton de Vaud," "Y Jesuitiaid,"Plato," "Y Campau Olympaidd," "Y Chwyldroad yn Ffrainc," &c.,—nis gall neb ddyweyd, hyd heddyw, pa mor ddwfn i fywyd deallol y genedl yr oedd dylanwad y fath erthyglau yn suddo. Diau fod i'r fath ysgrifau eu dylanwad ar arddull lenyddol y wlad hefyd. Mewn trefn i gael syniad cywir am ddylanwad y cyhoeddiad hwn dylid cofio beth oedd sefyllfa y genedl mewn gwybodaeth ar adeg ei ymddangosiad, prinder manteision dysg, newydd-deb y meusydd, &c.. ac anturiwn ddyweyd yn ddi-ysgog, heb ofni methu, fod rhwymau cenedl y Cymry i'r Traethodydd, yn arbenig yn ei flynyddoedd cyntaf, yn fawr iawn, a'i fod wedi cyflawni y fath wasanaeth iddi, yn ei ddylanwad deallol, ag sydd yn ei gosod dan rwymau bythol iddo. Nid oes genym ond cymhell yr holl gyfnodolion hyn i fyned yn mlaen, ac i arlwyo eu cynnwys yn ol gwir anghenion yr amseroedd, i lenwi eu tudalenau â gwybodaeth, goleuni, a sylwedd, ac yna ni raid iddynt ofni y canlyniadau. 5. Dylanwad Cymdeithasol a Moesol.-Nid oes amheuaeth nad yw ein cyfnodolion wedi, ac yn gwneyd llawer tuagat ddyrchafu Cymru yn gymdeithasol a moesol, ac yr ydym yn defnyddio y geiriau cymdeithasol " a "moesol " yn yr ystyr eangaf. Da iawn genym allu credu fod y cylchgronau Cymreig, fel rheol, wedi bod yn adgyfnerthiad i foesoldeb a rhinwedd, ac yn gefnogaeth i ymdrechion daionus. Gwelir fod genym amryw gyhoeddiadau wedi bod yn dal cysylltiad neillduol a dirwest, a diau eu bod, yn eu ffordd eu hunain, wedi gwneyd lles, ond drwg genym orfod dyweyd na ddarfu i'r un ohonynt, hyd yn hyn, ddyfnhau, gwreiddio, a chymeryd gafael llwyr a pharhaus yn nghalon Cymru. Machludant oll yn fuan. Gyda golwg ar ddylanwad ein cylchgronau cenhadol, gellir dyweyd ei fod, cyn belled ag y mae yn myned, wedi cyrhaedd yn lled ddwfn. Yr anffawd fwyaf gyda'r cyhoeddiadau hyn ydyw mai codi a gostwng y maent, ac ymddengys i ni mai nid anfuddiol a fyddai fod genym, fel cenedl, un cyhoeddiad cenhadol a fuasai yn cymeryd i mewn holl agweddau yr achos hwn—cartrefol a thramor —yn mhlith yr holl wahanol lwythau crefyddol yn Nghymru. Buasai hyny yn achlysuro mwy o gydnabyddiaeth rhyngom, ac yn foddion i gynnyrchu dyddordeb yn ngweithrediadau cenhadol ein gilydd. Ceir fod bron yr holl gylchgronau crefyddol a feddwn yn rhoddi lle i hanes y genhadaeth dramor, a phrif amcan hyn, ar y cyntaf, ydoedd i'r hanes gael ei ddarllen yn gyhoeddus yn Nghyfarfod Gweddi Cenhadol y nos Lun gyntaf yn mhob mis, a darfu i'r arferiad dda hon ddechreu pennod newydd yn hanes cyfarfodydd gweddiau Cymru. Bu cyhoeddi y newyddion hyn yn foddion i feithrin yspryd gweddi ar ran yr achos hwn, ac i ychwanegu haelioni crefyddol yn yr un cyfeiriad, a chredwn, rhyngddynt oll, y bu yn foddion, mewn rhan, i gynnyrchu yspryd cenhadol mewn llawer o'r bobl ieuainc, a'r canlyniad ydyw, erbyn hyn, y ceir Cymry wedi troi allan yn genhadon i lawer o'r gwledydd paganaidd, ac ystyrir rhai ohonynt yn dra llwyddiannus. Yn mhlith yr ysgrifau a dynasant fwyaf o sylw yn ein llenyddiaeth gylchgronol, yn enwedig yn y blynyddoedd diweddaf hyn, ceir eiddo ysgrifenydd a alwai ei hunan yn "Siluriad," y rhai a ymddangosent, o dro i dro, yn Y Geninen: ceir ysgrif ganddo yn y rhifyn am Gorphenaf, 1885, ar "Philistiaeth yn Nghymru," yua ar "Philistiaeth yn Nghymru" yn y rhifyn am Ionawr, 1887, ac yn y rhifyn am Ionawr, 1888, ar "Mr. Spurgeon a'r Philistiaid," ac yn olaf ceir ysgrif ganddo yn y rhifyn am Ionawr, 1890, ar "Philistiaeth Enwadol Cymru," ac nid gormod ydyw dweyd fod yr ysgrifau hyn, yn enwedig yr olaf ohonynt, wedi siglo Cymru grefyddol. Gwnaeth gynhwrf drwy ein gwlad oll, a bu yn destyn siarad yn mhob cylch. Addefir fod yr ysgrif yn finiog, yn gref, yn ysgubol, ac er fod gwahaniaeth barn yn nghylch doethineb neu annoethineb ei chyfeiriadau, eto ofnir y gall fod gormod o sail i lawer o'r cyhuddiadau, a chan ei bod yn ymwneyd, fel y gwyddis, yn benaf, a phennaethiaid crefyddol Cymru, ac nid yn gymaint â'r bobl gyffredin, barna rhai y gall wneyd peth lles i'r dosbarth hwnw trwy dynu oddiwrthynt rai pethau ag ydynt yn dueddol i bobl mewn safle uchel; ond, ar yr un pryd, rhaid i ni ddatgan ein crediniaeth fod "Siluriad" wedi tynu gormod o gasgliadau cyffredinol oddiwrth enghreiphtiau unigol, ac felly wedi cymeryd llawer mwy nag y dylid yn ganiataol, a chredwn y buasai ei ysgrif yn gryfach pe yn llai eithafol. Nis gellir gwadu nad yw dylanwad y cylchgronau Cymreig yn gryf iawn yn yr ystyr o fod yn fyneg-byst hyd yn nod i rai a dybient eu hunain yn arweinwyr y genedl. Beth am yr ysgrifau dan y penawd "Nyth y Dryw," a "Cynnadledd yr Adar," y rhai a ymddangosent yn Y Cylchgrawn rai blynyddoedd yn ol Darfu i'r ysgrifau hyn, er nas gellid cymeradwyo pobpeth ynddynt, godi ofn a braw mewn ambell gornel o'r gwersyll crefyddol, a sonir am danynt, yn enwedig yn y Deheudir, hyd heddyw. Darfu i ysgrif y Parch. T. Roberts (Scorpion), Llanrwst, yn Y Dysgedydd am Tachwedd, 1848, ar "Ocheneidiau y Weinidogaeth," beri cynhwrf, ar y pryd, drwy y Dywysogaeth: amcan yr ysgrif oedd dangos cyflwr dirywiedig gweinidogaeth a diaconiaeth eglwysi ein gwlad, a diau iddynt fod yn effeithiol, mewn rhan fawr, i ddeffro y wlad i'w sefyllfa yn y pethau hyn. Mewn cylchgrawn—Yr Ystorfa Weinidogaethol—y darfu i'r Bedyddwyr yn Nghymru gyhoeddi eu "Llythyr Cymanfa" gyntaf erioed, yr hyn, yn awr, sydd yn allu cryf yn mhlith yr enwad hwnw. Dywedir fod ein cenedl dan rwymau i'r cylchgronau am rai o'r emynau mwyaf poblogaidd sydd ganddi. Ceir, er enghraipht, mai yn y cyhoeddiad boreuol bychan a elwid Yr Addysgydd yr ymddangosodd gyntaf erioed yr emynau adnabyddus sydd yn dechreu:-

"O Salem! fy anwyl gartrefle," &c.,
"O drigfan deg dawel a dedwydd," &o.,
"Mae yno gantorion ardderchog," &c.,

gydag enw "D. Charles, ieu.," wrthynt, a cheir hwynt, erbyn hyn, bron yn mhob Llyfr Hymnau Cymreig. Nis gellir myned heibio yn ddisylw i ddylanwad da y cyhoeddiad bychan a elwid Y Geiniogwerth, yn enwedig ei ddylanwad yn nglyn â phobl ieuainc yn eu rhag-gyfeillachau, &c., a diau iddo wneyd llawer er hyrwyddo purdeb cymdeithasol yn mhlith ieuenctyd Cymru. Ceid ynddo lythyrau, ar y pethau hyn, oddiwrth rai o oreugwyr y genedl, megis y Parchn. James Hughes, Llundain; John Hughes, Pontrobert; W. Charles, Gwalchmai, &c.; ac y mae yn sicr fod llythyrau "Yr Hen Wr Mynyddig," i'r un cyfeiriad, yn dderbyniol. Dymunem ofyn, gyda llaw, onid ellir disgwyl mwy oddiwrth gylehgronau Cymreig yn nglyn a phethau tebyg i burdeb cymdeithasol. Gwir bod eisieu goleuo y deall, ond credwn mai da, i raddau helaethach nag y gwneir, a fyddai rhoddi mwy o sylw i foesoldeb ymarferol y genedl. Nid ydym, cofier, yn dal fod dylanwad y cylchgronau Cymreig, yn mhob achos wedi bod yn dda ofnwn, ysywaeth, nas gellir ystyried y dylanwad fel o'r math uwchaf yn mhob enghraipht. Gadawer i ni, er egluro hyn, gyfeirio at rifyn am Rhagfyr, 1842, o'r cyhoeddiad a elwid Yr Haul, yn mha un y ceir llythyr gan "Peiriannydd" at y diweddar Barch. D. Reee, Llanelli, ag sydd yn llawn o'r ensyniadau mwyaf personol ac angharedig. Hefyd, yn yr un rhifyn, ceir erthygl ar "Griffiths, Horeb, a Golygydd Y Diwygiwr," a drwg genym weled fod yr ysgrif mor lawn o gyfeiriadau iselwael at y person a enwir yn y penawd, yn gystal a phersonau parchus eraill oedd yn byw ar y pryd, fel nad allai lai na chael argraph annymunol ar y wlad, a bod yn ymborth ac yn feithriniad i chwerwder yspryd rhwng y naill blaid a'r llall. Darfu i'r ysgrifau ar "Bugeiliaid Eppynt," y rhai a ymddangosent yn Yr Haul, oddeutu y flwyddyn 1842, dynu sylw mawr ar y pryd. Math o ysgrifau oedd y rhai hyn ar ffurf ymddiddanion gan wahanol bersonau a elwid Ifor, Idwal, Llewelyn, a Siencyn. I ddangos, fel un enghraipht, nator a rhediad yr ymddyddan hwn, nodwn y pennill canlynol, yr hwn a roddwyd, yn ystod yr ymddiddan, yn ngenau gwr parchedig oedd yn weinidog enwog, ar y pryd hwnw, gyda'r Annibynwyr:—

"Plays, Plays,
'Rwyf gyda 'r rhai 'n yn rhoi fy llais,
Oberwydd arian yw fy nghais;
Aed crefydd Orist ar ffo i'r byd,
'Rwyf wedi penderfynu 'nawr
Wneyd ooden fawr-hyn yw fy mryd."

Addefwn fod yr ysgrifau ar "Bugeiliaid Eppynt" yn dangos gallu, yn arbenig y gallu i fod yn finiog a chyrhaeddgar, a gwyddom eu bod wedi cael sylw mawr yn Nghymru ar yr adeg hono; ond, er hyny, ofnwn nad oedd eu tuedd, a dyweyd y lleiaf, i adael y dylanwad goreu ar y wlad. Credwn, ar yr un pryd, fod rhai ysgrifau campus wedi ymddangos yn Yr Haul yn ei flynyddoedd boreuol, ac wedi hyny hefyd, ac, fel enghraipht eto, gellir nodi yr hyn a elwid "Y Feirniadaeth Gymreig," gan Caledfryn, a ymddangosodd yn y rhifyn am Rhagfyr, 1842, ac anturiwn gredu fod yn y feirniadaeth alluog hono rai elfenau y buasai yn dda eu cael yn meirniadaethau llenyddol y dyddiau diweddaf hyn. Pan gychwynwyd Y Bedyddiwr, yn y flwyddyn 1841, ymddangosodd llythyrau beirniadol arno (Y Bedyddiwr) yn Yr Haul, y rhai a ysgrifenwyd, i bob golwg, gan Brutus. Aeth yn ddadl, rhywfodd neu gilydd, rhwng Brutus (golygydd Yr Haul) a'r Parch. John Jones, gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Llangollen, a gelwid ef weithiau yn "Jones, Llangollen" (perchenog a golygydd Y Bedyddiwr dywededig), ac ysgrifenwyd pethau gan y naill am y llall ag ydynt yn anurddo llenyddiaeth Gymreig—mor chwerw, cïaidd, ac isel. Mewn canlyniad i lythyrau Brutus yn Yr Haul, darfu i Mr. Jones gyhoeddi llythyr dan y penawd "Brad y Droch," yn yr hwn y ceir rhai o'r cyfeiriadau iselaf a mwyaf personol, ac wele dri englyn, allan o amryw, ag ydynt yn dybenu y llythyr ganddo "I'r Haul a'i Olygydd":—

"Haul erohyll, tywyll bob tu—wael effaith
A Haul uffern bygddu,
Euogddwl Haul y fagddu,
Haul y d——l, dyma Haul du!

"Yn lle Haul pa wall yw hyn?—O, cawsom
Beth easaidd a gwrthun;
Ryw sachlen flew, dew, yn dyn,
B——w Brutus ar bob bretyn.


"Gwleddoedd a geir wrth gladdu—hen gelain
Arch-wrthgiliwr Cymru;
Dewr waith i'w lywodraethu
Yn ei dwll gaiff angeu du!"

Braidd nad yw y gweddill o'r englynion yn waeth eto, ond dyna ddigon ar unwaith i ddangos natur y ddadl, ac yn enghraipht o'r yspryd yn mha un y cerid hi yn mlaen, ac yr ydym yn sicr fod cario dadl yn mlaen, yn enwedig ar fater cysegredig, yn yr yspryd a geir yn y llinellau uchod, yn beth hollol annheilwng, ac yn rhwym o gael dylanwad niweidiol ar y wlad. Dylid cydnabod, ac yr ydym yn gwneyd hyny gyda llawenydd, mai eithriad ydoedd i ddadl gymeryd gwedd mor annymunol yn ein cylchgronau, ond eto ceir fod ambell un yn gollwng ei hunan i yspryd anmhriodol wrth ddadlu hyd yn nod ar athrawiaethau crefydd. Ceir fod dadl faith wedi ei chario allan ar faes Seren Gomer, am y blynyddoedd 1822-3, ar "Iawn Crist," gan amryw ysgrifenwyr a alwent eu hunain yn "Silas," "Uwch-Galfiniad," "Aelod gyda'r Trefnyddion Calfinaidd," "John Jenkins, Hengoed," "W. Jones, Pwllheli," "Mab Dewi Ddu," "Edeyrn Môn," "John Roberts, Llanbrynmair," &c., a gwnaeth gynhwrf mawr yn y wlad, ac nid ydym yn sicr na ddywedwyd rhai geiriau y buasai yn well iddynt fod heb eu dweyd. Llawer iawn o ysgrifau a fu yn nglyn â'r dadleuon ar "Fedydd" rhwng Evans ac Aubrey, rhwng rhai o'r Bedyddwyr â'r Feibl Gymdeithas, ac yn nghylch cywirdeb "Hanes y Bedyddwyr," gan y Parch. D. Jones, Caerfyrddin, &c., a gwnaethent gynhwrf. Darfu i wahanol ddadleuon cylchgronol y blynyddoedd gynt, beri i Mr. Richard Jones, Wern, gyhoeddi llyfr a elwid Drych y Dadleuwr, a dywedir ei fod yn un o'r llyfrau bychain Cymreig a greodd fwyaf o gyffro yn ein gwlad. Ysgrifenwyd llythyrau drachefn ar y llyfr hwn i'r gwahanol gylchgronau, ac ymddengys fod llawer ohonynt yn gyfryw nas gallasent gael argraph ddymunol. Gwelir felly fod llawer o'r elfen ddadleuol wedi ei chario yn mlaen ag y mae yn amheus, a dyweyd y lleiaf, yn nghylch ei gwir ddylanwad. Yn Ebrill, 1821, dechreuwyd cyfres o lythyrau yn Goleuad Cymru, gan rai a alwent eu hunain yn "Cymro Gwylit" a "Britwn" (er y bernir, mewn gwirionedd, mai yr un oedd yr awdwr), ac ystyrid y rhai hyn yn hynod alluog, ac yr oeddynt yn wrthwynebol iawn i bob eithafion mewn cyfundraeth, a baich yr ysgrifau oedd fod y Beibl yn fwy na phob cyfundrefn." Braidd, wrth ymosod ar ddadleuaeth dduwinyddol, nad oedd yr ysgrifenydd hwn yn tueddu at lesteirio pob ymchwiliadaeth Feiblaidd—dyna ei berygl; ond, er hyny, nis gellir dyweyd faint y lles, yn arbenig yn ystod y cyfnod cynhyrfus hwnw yn hanes Cymru, a fu ei lythyrau mewn cymedroli teimlad y wlad, cyfartalu y gwahanol wirioneddau cyferbyniol, dysgu tegwch mewn dadleuon, ac eangu syniadau darllenwyr Cymreig. Gwelir, drwy y pethau hyn oll, fod dylanwad ein cylchgronau megis wedi ei gydweu a'r bywyd cenedlaethol. Treiddia bob ffordd. Addefwn yn rhwydd fod llawer ohono yn gweithio mor ddwfn ac anweledig, fel y mae yn anmhosibi i'r un ysgrifenydd ei ganlyn, ac eto hyderwn ein bod wedi ei ffyddlawn-ddilyn yn ei lwybrau amlycaf. Gallwn sicrhau ein bod yn hollol ystyriol o'r pwys a berthyn i gael cyfnodolion teilwng a daionus eu dylanwad, oherwydd, yn benaf, eu cysylltiad agos â natur y bywyd Cymreig. Nis gallwn ddiweddu yr adran hon yn fwy priodol na thrwy ddifynu geiriau y diweddar Barch. Henry Rees, Lerpwl, y rhai a ysgrifenwyd ganddo fel math o gynghor i'r diweddar Barch. L. Edwards, D.D., Bala, pan ar fedr cychwyn golygu Y Traethodydd:— "Os ydych am droi allan i'r byd mewn cyhoeddiad, marchogwch, atolwg, mewn cerbyd teilwng o'ch gradd, neu aroswch gartref, a pheidio ag ymddangos gerbron y cyffredin o gwbl. Gochelwch y geiriog, y gwyntog, y cecrus, y di-ddrwg di-dda, y geiriau heb fater, y mater heb yspryd, ac yspryd heb foneddigeiddrwydd—y cyfansoddiad merfaidd heb ddim byd ynddo, a'r cyfansoddiad na bydd dim ynddo ond bustl a phupur. Mae digon o lymru, ac o gawl wermod, ar hyd y wlad eisioes. Deuwch â bwyd i'r bobl; ac os yw eu harchwaeth yn rhy lygredig i'w fwyta, yn hytrach na pharatoi dim at y taste llygredig hwnw, rhoddwch heibio goginio, a gadewch y gorchwyl o hel gwynt i'r dreigiau, a gwneyd diod griafol i rywun arall,"

PENNOD V.

HANES NEWYDDIADURON A CHYLCHGRONAU CYMREIG AMERICA AC AWSTRALIA.

CREDWN nas gellir bod yn hollol ffyddlawn i eiriad ac ystyr mater y llyfr hwn heb gymeryd i mewn i'r cyfrif lenyddiaeth newyddiadurol a chyfnodol ein cyd-genedl anwyl yn y Gorllewin pell. Prin y mae yn angenrheidiol i ni ddatgan ein bod dan anfantais i draethu llawer ar hyn mae pellder y naill wlad oddiwrth y llall, a'r anfanteision sydd yn canlyn hyny, yn rheswm digonol dros beidio disgwyl ymdrafodaeth gyflawn a manwl ar y ganghen hon: a'r cwbl ydym am amcanu ato ydyw rhoddi cynnorthwy i ffurfio syniad am sefyllfa y rhan hon o'r wasg Gymreig yn mhlith Cymry yr America; a diau y bydd codi ychydig ar y llen—rhoddi cip-drem frysiog ac anghyflawn—er i hyny fod yn ddigon anmherffaith, yn fwy dyddorol a derbyniol gan y darllenwyr yn hytrach na phe bussid yn gadael heibio y rhan hon heb sylw arni o gwbl. Credwn mai mantais i Gymry Cymru a fyddai gwneyd en goreu—yn mhob modd posibl—i feithrin undeb, cariad, a chydymdeimlad â'r Cymry sydd yn yr America. Rhaid i ni ddatgan ein crediniaeth gref nad yw y cysylltiad rhyngom fel y dylai fod, nac hyd yn nod fel y gallasai fod: nid anhawdd, drwy drefniadau doeth, a fyddai ei wneyd yn llawer iawn agosach a thynach, a di-os genym y byddai i fanteision helaeth—darddui'r ddwy ochr—mewn canlyniad. Onid ydyw hyn yn wir mewn gwahanol ystyron—masnachol, llenyddol, addysgol, cymdeithasol, a chrefyddol Gwir fod Môr y Werydd rhyngom ond nis gall hyny wahanu ein cig a'n gwaed ein hunain, ac nis gall tonau gwylltion y cefnfor hollti gwythienau ein bywyd cenedlaethol. Yr ydym yn un, ac anffawd o'r fwyaf a fyddai i'r naill feithrin teimlad estronol tuagat y llall, ac y mae yn ddyledswydd orphwysedig ar Gymry y ddwy wlad i gadw yr undeb yn rhwymyn cariad. Da iawn genym weled fod y Cymry yn y Gorllewin, i raddau pell, yn parhau i ddal eu gafael mewn llenyddiaeth Gymreig: dylai hyn fod yn destyn llawenydd i ni oll, a dylai y fam-wlad wneyd ei goreu i gefnogi eu llenyddiaeth Gymreig hwythau.

1.—NEWYDDIADURON.

Cyn cychwyn gyda'r newyddiaduron hollol Gymreig, efallai mai da a fuasai rhoddi gair ar hanes un newyddiadur a gyhoeddir haner-yn haner-haner yn Gymraeg, a haner yn Seisonig yr hwn a elwir Columbia, a chychwynwyd ef yn mis Gorphenaf, 1887, gan Gwmni Cymreig yn Emporia, Kansas, dan olygiaeth y Parch. W. D. Evans, Emporia. Daw allan yn wythnosol ar ddydd Iau. Ei bris ydyw $2.00 y flwyddyn. Trysorydd ei gwmni ydyw Mr. W. J. Jones, Swyddfa y Columbia, Chicago. Symudwyd ef, yn mis Awst, 1891, i gael ei argraphu yn Chicago, Illinois, sef dinas Ffair Fawr y Byd. Darfu i'r Parch. W. D. Evans roddi i fyny ei olygiaeth oddentu dechreu y flwyddyn 1891. Ymddengys ei fod yn newyddiadur defnyddiol, ac yn cael cylchrediad da, ac yn ennill tir diogel yn gyflym.

Cymro America, 1832.—Cychwynwyd hwn yn nechreu y flwyddyn 1832, dan olygiaeth Mr. J. A. Williams (Don Glun Towy), a'i bris ydoedd $2.00 y flwyddyn. Yn bymthegnosol y deuai allan, ac ymddengys mai cychwyniad hwn ydoedd yr ymgais gyntaf i sefydlu newyddiadur Cymreig yn yr America, Yn y flwyddyn hono, modd bynag, torodd y cholera allan yn New York, a gwnaeth ddifrod ofnadwy yno, a dyrysodd fasnach y lle, a'r canlyniad a fu i Cymro America gael ei roddi i fyny, ar gyfrif diffyg arianol.

Haul Gomer, 1848.—Daeth y rhifyn cyntaf allan yn Ionawr, 1848, a chychwynwyd ef gan Mr. Evan E. Roberts (Ieuan o Geredigion), Utica, ac efe ydoedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu, a golygid ei farddoniaeth gan Mr. John Edwards (Eos Glan Twrch). Deuai allan yn bymthegnosol, a'i bris ydoedd dolar y flwyddyn. Ni pharhaodd yn hwy na mis, a rhoddwyd ef i fyny oherwydd nad ellid cael cysodwyr i'w weithio.

Y Drych, 1851.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn allan Ionawr 2il, 1851, a chychwynwyd ef gan Mr. John M. Jones, New York, ac efe oedd ei berchenog a'i olygydd. Darfu iddo ef, yn Rhagfyr, 1854, werthu y newyddiadur hwn i Gwmni Cymreig yn New York, a bu, am flynyddoedd wedi hyny, dan olygiaeth Mr. John W. Jones (Llanllyfni, Gogledd Cymru), New York, ac, ar ol hyny, bu Mr. Joseph W. Nichols (Neifion), yn ei olygu. Argrephid ef, ar y dechreu, gan Mr. Benjamin Parry, New York, ac wedi hyny gan y Meistri Richards a Jones, New York, Unwyd Y Gwyliedydd âg ef am y blynyddoedd 1855-8, ac wedi hyny torwyd ymaith Y Gwyliedydd. Bu y Parchn. Morgan A. Ellis a T. B. Morris yn is-olygwyr i'r newyddiadur hwn am lawer blwyddyn. Unwyd Baner America â'r Drych yn y flwyddyn 1877. Yn y flwyddyn 1890 cysylltwyd Y Wasg a'r Drych. Cyhoeddir Y Drych yn wythnosol bob boreu Iau, a'i bris ydyw $2.00 yn y flwyddyn. Ei berchenog presennol ydyw Mr. T. J. Griffith, Exchange Buildings, Utica, ac efe hefyd sydd yn ei argraphu, a bu yn cael ei olygu gan y Meistri G. H. Humphrey, M.A., a J. C. Roberts, Utica, ond yn bresennol golygir ef gan Mr. Benjamin F. Lewis, Utica. Ystyrir ef fel newyddiadur cenedlaethol y Cymry yn America, a llawenydd i ni ydyw deall ei fod yn cael cefnogaeth dda, oherwydd credwn ei fod yn llwyr deilyngu hyny.

Y Cymro Americanaidd, 1853.—Cychwynwyd hwn yn mis Mai, 1853, gan Mr. John M. Jones, New York, ac efe hefyd oedd yn ei olygu ac yn ei argraphu. Ceid, ar dechreu, golofn ynddo yn yr iaith Seisonig, ond rhoddwyd hyny heibio yn fuan, a chyhoeddid ef yn gwbl yn Gymraeg. Byddai y rhai a ystyrid fel yr ysgrifenwyr Cymreig goreu yn yr America yn arfer ysgrifenu, ar un adeg, i'r newyddiadur hwn. Gellid enwi, yn mhlith eraill, y rhai hyn: Eryr Meirion, Eryr Glan Taf, Eos Glan Twrch, B. F. Lewis, a'r Parchn. John P. Harris, John Edred Jones, John M. Thomas, R. D. Thomas, &c., ac yr oedd iddo, y pryd hwnw, gylchrediad eang iawn.

Y Gwyliedydd Americanaidd, 1854.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn nechreu y flwyddyn 1854, gan Gwmni Cymreig, dan olygiaeth y Parch. Robert Littler, South Trenton, New York, a dilynwyd ef, fel golygydd, gan y Parch. Morgan A. Ellis, Utica. Argrephid of gan Mr. Evan E. Roberts, Utica. Ei bris ydoedd dolar y flwyddyn. Unwyd ef, yn y flwyddyn 1855, â'r Drych, ond rhoddwyd ef i fyny yn gwbl yn niwedd y flwyddyn 1858.

Baner America, 1868.—Cychwynwyd hwn yn y flwyddyn 1868, gan Gwmni Cymreig yn Hyde Park, Pa., a'r golygwyr cyntaf oeddynt y Parchn. Morgan A. Ellis, Frederick Evans, David Parry (Dewi Moelwyn), a Henry M. Edwards yn gweithredu fel trefnydd (manager). Bu iddynt hwy ar ol peth amser, ymneillduo o'r olygiaeth, a darfu i'r pwyllgor bennodi Mr. Thomas B. Morris (Gwyneddfardd) yn olygydd, a Mr. W. S. Jones yn drefnydd, a chyhoeddid ef yn Seranton, Luzerne Co., Pa. Denai allan yn wythnosol, a'i bris ydoedd $2.00 yn flynyddol. Rhoddwyd of i fyny yn y flwyddyn 1877. Cyfrifid ef yn newyddiadur da, ac o nodwedd genedlaethol.

Y Wasg, 1871.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn y flwyddyn 1871, gan Gwmni Cymreig yn Pittsburgh, a'r Cwmni hwn oedd yn ei gyhoeddi, ei olygu, ei argraphu, &c. Daeth, ar ol hyny, yn eiddo i Mr. R. T. Daniels, Pittsburgh, ac un neu ddau eraill, a byddai Mr. Daniels ei hunan yn ei olygu. Ei bris ydoedd $2.00 yn y flwyddyn. Yn y flwyddyn 1890, modd bynag, unwyd y newyddiadur hwn i'r Drych, ac felly y parha i ddyfod allan hyd yn bresennol. Ond, er hyn, teg ydyw hysbysu nad yw perchenog Y Drych yn dal dim megis ond enw Y Wasg yn nglyn a'r Drych, gan fod y diweddaf wedi cymeryd yr oll iddo ei hun, ac anfonwyd Y Drych i bob danysgrifwyr Y Wasg hyd derfyn adeg eu tanysgrifiad. Dylid egluro yn y fan hon, gan y dichon fod rhai heb wybod, mai i danysgrifwyr yn unig yr anfonir y newyddiaduron a'r cyfnodolion Cymreig yn yr America. Nid ydynt i'w cael, fel rheol, ar fyrddau llyfrwerthwyr, ac nid ydynt yn cael eu gwerthu ar yr heolydd, a diau fod rhesymau, neiliduol dros hyn.

Y Dravod, 1891.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn allan ar Ionawr 17eg, 1891, a chychwynwyd ef gan Mr. Lewis Jones (Caernarfon gynt), Patagonia, ac efe hefyd yw ei berchenog, ei olygydd, a'i argraphydd. Newyddiadur wythnosol ydyw yn cynnwys pedair tudalen, a'i bris ydyw 25 cents, yr hyn sydd yn gyfartal i swllt o'n harian ni, pan fydd yr aur at par, ond yn gyffredin ni chyrhaedda fwy na chwech neu naw ceiniog. Cychwynwyd ef er mwyn gwasanaethu y Cymry yn Patagonia, ac ar rai cyfrifon, mae yn syndod ns buasai gan y Wladfa newyddiadur at ei gwasanaeth ei hun er's llawer blwyddyn cyn hyny. Dywed y golygydd, yn y rhifyn cyntaf, mai "penav amcan Y Dravod vydd gwasgar dylanwad darllen a meddylio drwy ein cymdeithasiad Wladvaol hon. . . . . Diau hevyd y bydd ein materion gwleidyddol yn galw am amldravodaeth, yn yr hyn y mae llawer o waith dysgu ar ein pobl—nid yn unig ein gwleidyddiaeth vel rhan o'r Weriniaeth, eithr hevyd amrywiol weddau ein gwleidyddiaeth leol—yn lleodrol, gwmnïol, a masnachol." Cynnwysa erthygl arweiniol bob wythnos ar fater yn dal perthynas â dadblygiad y Wladfa, crynodeb o newyddion cyffredinol, hanesion am ddygwyddiadau lleol, cyfarfodydd, gwersi gwyddonol, nwyfelaeth, gohebiaethau, &c. Nid yw ei gylchrediad ond cyfyng, a chwynai ei olygydd, ychydig wythnosau ar ol ei gychwyn, ei fod braidd yn siomedig yn hyn. Gwir fod newyddiaduron Cymreig eraill wedi cael eu cyhoeddi yn yr America, megis Seren Oneida (yr hwn a barhaodd dros ystod y blynyddoedd 1848-9), Yr Amserau (yr hwn a ymddangosodd dros ychydig yn y flwyddyn 1860), Y Pwns Cymreig (a fu byw dros flynyddoedd 1876-8), a Cyfaill yr Aelwyd, &c.; ond darfu iddynt oll fachludo yn fuan. Gellir dyweyd mai un rheswm dros fod amryw o'r rhai hyn, gydag ychydig eraill, wedi cael eu rhoddi i fyny mor fuan, ydoedd eu bod yn tueddu at bleidio yr yspryd democrataidd, a barnai rhai, ar y pryd, mai eu prif amcan ydoedd gwanychu a gwrthwynebu Gweriniaeth; a chan eu bod hwy felly, yn sicr nid America ydoedd y wlad iddynt lwyddo ynddi, a derbyniad oeraidd a gafodd rhai ohonynt gan ein cyd-genedl. Addefwn mai nid hwn ydoedd y rheswm dros fachludiad yr oll o'r newyddiaduron Cymreig yn y Gorllewin, oherwydd sicrheir fod syniadau gwleidyddol Y Wasg, er enghraipht, yn hollol iachus a derbyniol, fel mae yn rhaid mai rhesymau eraill sydd i'w rhoddi dros roddi y newyddiadur hwnw i fyny, a dichon fod hyny yn ffaith am rai eraill; ond, yn sicr, gallwn ddyweyd, fel gosodiad cyffredinol, mai nid yr America yw y wlad i gefnogi newyddiaduron os bydd arlliw wrth-werinaidd arnynt.

2.—CYLCHGRONAU

Dylid, efallai, cyn dechreu sylwi ar y cylchgronau hollol Gymreig, wneyd cyfeiriad at y cylchgrawn a elwir The Cambrian, yr hwn a gychwynwyd yn y flwyddyn 1880, gan y Parch. D. J. Jones, Cincinnati, a chyhoeddid ac argrephid ef, y pryd hwnw, yn Cincinnatti, Ohio. Yn y flwyddyn 1886, modd bynag, prynwyd y cyhoeddiad hwn gan y Parch. Edward C. Evans, M.A., Remsen, Oneida Co., ac argrephir ef yn bresennol gan Mr. T. J. Griffith, Exchange Buildings, Utica. Yn yr iaith Seisonig y cyhoeddir y cylchgrawn misol hwn, er mwyn bod at wasanaeth y Cymry Americanaidd, ac ystyrir ef yn genedlaethol o ran natur ei gynnwys. Ceir llawer ynddo o'r crefyddol, hanesyddol, gwybodaeth gyffredinol, &c., a diau ei fod yn cyflawni gwasanaeth gwerthfawr iawn.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad, 1838.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn allan yn mis Ionawr, 1838, a chychwynwyd ef yn gwbl gan y Parch. William Rowlands, D.D., Utica, ac efe hefyd ydoedd ei berchenog a'i olygydd. Cylchgrawn misol ydoedd hwn, hollol Gymreig, ac, ar y dechreu, yn gwbl rydd, heb berthynas rhyngddo âg umhyw blaid—wladol na chrefyddol &c. Ei amcan penaf, wrth gychwyn ydoedd, gwasanaethu crefydd a llenyddiaeth yn mhlith cenedl y Cymry yn yr America. Cynnwysai, ar y dechreu, oddeutu deuddeg-ar-hugain o dudalenau wythplyg, a helaethwyd ef i gynnwys deugain tudalen, a'i bris ydoedd $2 00 yn flynyddol. Bu yn byw mewn gwahanol ffurfiau allanol, ac argrephid ef mewn gwahanol swyddfeydd yn New York, Utica, a Rome, &c., a hyny yn ol symudiadau gweinidogaethol ei olygydd enwog. Yr oedd yn benderfyniad gan Dr. Rowlands, cyn cychwyn o Gymru, i wasanaethu ei gyd-genedl yn y Gorllewin pell, os gallai, drwy y wasg, a darfu iddo dreulio y flwyddyn 1837, mewn rhan helaeth, i deithio y wlad, a cheisio cael allan syniadau y Cymry ar y priodoldeb i gychwyn cylchgrawn misol Cymreig, a chafodd bob lle i gredu fod ei gyd—genedl yn wir awyddus, ac mewn gwir anghen, am gyhoeddiad o'r fath. Yn Ionawr, 1838, daeth y cyhoeddiad hwn allan dan yr enw Y Cyfaill o'r Hen Wlad, yr hwn enw a roddwyd arno gan Dr. Rowlands ei hunan, a theg yw dyweyd fod y cyhoeddiad hwn—o'r pryd hwnw hyd yn awr—wedi cael derbyniad croesawgar gan lawer o'r Cymry yn America. Llwyddodd Dr. Rowlands, yn y flwyddyn 1855, i gael gan y Parch. Thomas Jenkins, Utica, i brynu rhan o'r berchenogaeth, a bu y ddau yn cydweithredu yn hapus fel cyd-berchenogion & chyd-olygwyr, hyd y flwyddyn 1861, pryd y dewisodd Mr. Jenkins gael ymryddhau o'r berchenogaeth a'r olygiaeth, ac felly daeth y cylchgrawn, fel o'r blaen, dan eiddo a golygiaeth Dr. Rowlands ei hun, a pharhaodd i fod felly hyd ei farwolaeth ef, yr hyn a gymerodd le yn Utica, Hydref 10fed, 1866, pan nad oedd ond 59 mlwydd oed. Gwelir felly ei fod ef wedi bod ei hunan yn golygu Y Cyfaill am naw-ar-hugain o flynyddoedd, oddigerth yr yspaid byr y bu Mr. Jenkins yn cydofalu am dano. Ar ol hyn, ar gais y Cynghor Henaduriaethol, a gynnaliwyd yn Utica, ar brydnawn diwrnod claddedigaeth Dr. Rowlands, yn cael ei gadarnhau â dymuniad teulu y cyn-olygydd, ymgymerwyd â'r olygiaeth gan y Parch. Morgan A. Ellis, Hyde Park. Yn niwedd y flwyddyn 1869, darfu i Mrs. Rowlands, priod y diweddar berchenog a golygydd, werthu Y Cyfaill o'r Hen Wlad i gyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd yn yr America, fel, er yr adeg hono hyd yn bresennol, gellir edrych ar y cylchgrawn hwn fel eiddo i'r cyfundeb hwnw, yn cael ei gyhoeddi dan ei nawdd, ac yn gwasanaethu yn benaf, erbyn hyn, i amcanion llenyddol a chrefyddol y cyfundeb. Gwnaed cais eilwaith, ar ol y cyfnewidiad hwn, ar i Mr. Ellis barhau fel golygydd, ac yn y flwyddyn 1871, darfu i Gymanfa Gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd yn y Gorllewin, ddewis y Parch. W. Roberts, D.D, Utica, yn gyd-olygydd ag ef, a bu y ddau yn cyd-weithredu. Argrephir ef, yn ystod y blynyddoedd diweddaf, gan Mr. T. J. Griffith, Utica, New York. Golygir Y Cyfaill yn bresennol gan y Parch. H. P. Howells, D.D., Cincinnati. Gostyngwyd y pris, er's rhai blynyddoedd, i $1.50, os telir am dano yn ystod y chwe' mis cyntaf o'r flwyddyn, neu, heb hyny, codir ef i $2.00.

Y Cenhadwr Americanaidd, 1840.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1840, gan y Parch. R. Everett, D.D., Steuben, Oneida Co., ac efe hefyd ydoedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu. Pan oedd Dr. Everett wedi myned i hen ddyddiau, cynnorthwyid of gan ei fab, Mr. Lewis Everett, a golygid y farddoniaeth gan y Parch. Robert Evans (Trogwy), Remsen. Er nad ydym yn deall fod unrhyw gysylltiad swyddogol a phendant rhwng y cyhoeddiad hwn â'r Annibynwyr Cymreig yn yr America, eto dylid dyweyd ei fod wedi cyflawni gwasanaeth mawr iddynt. Wedi marwolaeth Dr. Everett, modd bynag, cymerwyd yr olygiaeth gan y Parchn. D. Davies (Dewi Emlyn), J. P. Williams, a T. C. Edwards (Cynonfardd), D.D., a pherchenogid ac argrephid ef gan Mr. Lewis Everett hyd ei farwolaeth yntau. Wedi hyny prynwyd y Cenhadwr Americanaidd gan y Parch. E. Davies, Waterville, yr hwn sydd yn parhau i'w gyhoeddi a'i olygu, a da genym ddeall fod yr hen gyhoeddiad rhagorol hwn yn parhau yn ei barch, ac yn ei ddefnyddioldeb i'r enwad Cynnulleidfaol drwy yr Unol Dalaethau. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw $1.50 yn y flwyddyn, ac ysgrifenir iddo gan rai o'r llenorion goreu.

Y Seren Orllewinol, neu Cyfrwng Gwybodaeth i hil Gomer yn America, 1842.—Cychwynwyd y cyhoeddiad misol hwn yn y flwyddyn 1842, gan y Parch. Richard Edwards, Pottsville, Schuylkill Co., Pa., a than olygiaeth y Parch. W. T. Phillips, Utica. Bu am rai blynyddoedd, ar ol hyny, dan olygiaeth y Parch. John P. Harris (Ieuan Ddu), Minersville, Pa. Daeth, wedi hypy, i gael ei olygu gan ei berchenog—y Parch. R. Edwards, Pottsville—am lawer o flynyddoedd, hyd nes, yn y flwyddyn 1868, y rhoddwyd ef i fyny. Cynnwysai bedair-ar-hugain o dudalenau wythplyg, a'i bris ydoedd $1.50 yn flynyddol. Bu ei gylchrediad yn lled uchel unwaith, ond dylid hysbysu mai yn mhlith y Bedyddwyr y derbynid ef fwyaf, gan mai eu gwasanaethu hwy yr ydoedd yn fwyaf neillduol.

Y Dyngarwr, 1842.—Cychwynwyd y cylchgrawn hwn yn y flwyddyn 1842, gan y Parch. R. Everett, D.D., Steuben, Oneida Co., ac efe hefyd oedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu; ond, ar ol oddeutu dwy flynedd, unwyd ef â'r Cenhadwr Americanaidd, dan berchenogaeth a golygiaeth Dr. Everett.

Y Beread, neu Drysorfa y Bedyddwyr, a Chyfrwng Gwybodaeth gyffredinol i'r Cymry, 1842.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r cylchgrawn hwn allan yn Ionawr, 1842, dan olygiaeth a gofal y Parch. D. Phillips, New York. Cynnwysai pob rhifyn oddeutu un-ar-bymtheg o dudalenau wythplyg, a'i bris ydoedd $2.00 yn y flwyddyn, a deuai allan yn bymthegnosol. Argrephid ef gan Mr. William Osborne, Caerefrog Newydd. Ystyrid y cyhoeddiad hwn fel yn dal cysylltiad yn fwyaf neillduol â'r Bedyddwyr, er ei fod yn gyfrwng gwybodaeth gyffredinol i'r Cymry yn ddiwahaniaeth. Rhoddwyd ef i fyny cyn gorphen ei flwyddyn gyntaf, a hyny oherwydd diffyg cefnogaeth.

Y Detholydd, 1850.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1850, gan y Parch. R. Everett, D.D., ac efe ydoedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dolar yn y flwyddyn, a pharhaodd i ddyfod allan am oddeutu dwy flynedd. Ei brif amean ydoedd cyhoeddi erthyglau a darnau detholedig allan o gyfnodolion yr Hen Wlad, er mwyn i'r Cymry yn y gorllewin pell gael y fantais i'w darllen.

Y Cylchgrawn Cenedlaethol, 1853.-Daeth y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn allan yn mis Gorphenaf, 1853, a chychwynwyd ef gan Mr. John M. Jones, New York, ac efe hefyd ydoedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dolar y flwyddyn. Yr oedd y cyhoeddiad hwn, fel y dynoda ei enw, yn llawn o'r elfen genedlaethol, a rhoddid canmoliaeth iddo fel y cyfryw, ond ni pharhaodd i ddyfod allan yn hwy nag oddeuta dechreu y flwyddyn 1856.

Y Golygydd, 1856.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1856, gan y Parch. John Jones (Llangollen), Cincinnati, Ohio, ac efe hefyd ydoedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu. Ei bris ydoedd dolar yn y flwyddyn, a deuai allan yn fisol. Ystyrid ef yn gyhoeddiad da, ac yn dangos cryn athrylith a medr, ond ni ddaeth allan ohono fwy na phedwar rhifyn, a rhoddwyd ef i fyny oherwydd diffyg cefnogaeth.

Y Traethodydd, 1857.—Dechreuwyd cyhoeddi y cylchgrawn hwn yn nechreu y flwyddyn 1857, gan y Parch. W. Roberts, D.D., New York, ac efe hefyd ydoedd ei berchenog a'i olygydd. Argrephid ef gan Meistri Richards a Jones, New York. Yn chwarterol y deuai allan, a'i bris ydoedd $1.50 yn flynyddol. Cynnwysai cyfrol am un flwyddyn ohono oddeutu 576 o dudalenau. Ceid yn y cyhoeddiad hwn hufen a phigion yr ysgrifau a gyhoeddid yn Y Traethodydd yn Nghymru, gydag ychwanegiadau gwerthfawr yn cynnwys erthyglau—ar wahanol faterion—gan brif feirdd a llenorion Cymreig yr Unol Dalaethau. Ond, drwg genym ddyweyd y bu raid ei roddi i fyny, ar ol ychydig flynyddoedd, a hyny yn gwbl oherwydd diffyg cefnogaeth. Credwn, yn sicr, mai anffawd resynus ydoedd gadael i'r cylchgrawn hwn fyned i lawr.

Y Bardd, 1858.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn allan ar Medi 15fed, 1858, a chychwynwyd ef gan Mr. Thomas Gwallter Price (Cuhelyn), Minesville, Pa, ac efe hefyd ydoedd yn ei olygu. Deuai allan yn bymthegnosol, a'i bris ydoedd dolar yn y flwyddyn. Cynnwysai pob rhifyn ohono oddeutu un-ar-bymtheg o dudalenau wythplyg. Ei arwyddair ydoedd—"Bod heb ddim yw bod heb Dduw." Canmolid ef fel cyhoeddiad da, ond ni ddaeth allan ohono fwy nag oddeutu pum' rhifyn.

Yr Arweinydd, 1858.—Cychwynwyd y cylchgrawn hwn ar Ionawr 10fed, 1858, dan olygiaeth y Parch, Thomas T. Evans, Floyd, ac argrephid ef gan Mr. Robert R. Meredith, Rome, New York, a'i bris ydoedd 50 cents yn flynyddol. Newidiwyd ffurf y cylchgrawn hwn, i raddau, yn y flwyddyn 1860, a daeth i gael ei olygu gan y Parch. William Hughes, Utica, a chodwyd ei bris í ddolar yn y flwyddyn. Cyhoeddid ef yn bymthegnosol, a chynnwysai bedair-ar-hugain o dudalenau wythplyg. Ond ni pharhaodd i ddyfod allan yn hir.

Y Wasg, 1868.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1868, gan y Parch. Richard Edwards, Potsville, Pa., ac efe hefyd ydoedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu. Dywedir mai yn mhlith y Bedyddwyr y caffai gylchrediad fwyaf, ond am enyd fer y parhaodd i ddyfod allan.

Yr Ysgol, 1869, Blodau yr Oes a'r Ysgol, 1872.—Daeth Yr Ysgol allan yn y flwyddyn 1869, a chychwynwyd ef gan Mr. H. J. Hughes, New York, ac efe hefyd ydoedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu. Cyhoeddiad misol ydoedd, ac wedi ei gychwyn er gwasanaethu plant ac ieuenctyd Cymry yr America, a'i bris ydoedd dolar y flwyddyn. Rhoddid darluniau ynddo, ac yr oedd yn mhob modd yn un o'r cyhoeddiadau bychain mwyaf cymhwys a ellid gael i blant. Pan fu farw Mr. Hughes, ei berchen a'i olygydd, rhoddwyd Yr Ysgol i fyny, ond ceir, ar ol yspaid, yn y flwyddyn 1872, fod Meistri William Ap Madoc a T. Solomon Griffith, Utica, wedi ei ddwyn allan o'r newydd dan yr enw Blodau yr Oes a'r Ysgol, am yr un bris, ac i'r un amcanion, ac argrephid ef gan Mr. T. J. Griffith, Utica. Yn fuan, modd bynag, prynwyd ef gan y Parchn. M. A. Ellis a T. C. Edwards (Cynonfardd), D.D., a dygasant ef allan yn rheolaidd hyd ddiwedd y flwyddyn 1875.

Y Negesydd, 1871.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1871, gan Mr. R. T. Daniels, Pittsburgh, Pa., ac efe hefyd ydoedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu. Cyhoeddiad misol ydoedd, a rhoddwyd ef i fyny yn lled fuan ar ol ei gychwyniad. Ystyrid ef yn gylchgrawn bychan digon destlus a derbyniol.

Yr Ymwelydd, 1871.—Daeth y cylchgrawn hwn allan oddeutu diwedd y flwyddyn 1871, gan Mr. Henry M. Edwards, cyfreithiwr, Hyde Park, Luzerne Co., Pa., ac efe hefyd ydoedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu. Cyhoeddiad bychan ydoedd, a deuai allan yn fisol, a chynnwysai ysgrifau da gan y Parch Frederick Evans (Ednyfed), Dewi Glan Twrch, ac eraill.

Y Wawr, 1875.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1875, gan y Parch. Owen Griffith (Giraldus), ac efe yw ei berchenog, ei gyhoeddydd, a'i olygydd. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw $1-50 yn flynyddol. Cynnwysa ddeuddeg-ar-hugain o dudalenau wythplyg. Cyhoeddiad crefyddol ydyw, ac edrychir arno fel yn perthyn, yn fwyaf arbenig, i'r Bedyddwyr Cymreig yn yr America. Mae yn gylchgrawn da, a pharha i ddyfod allan, gan gael cylchrediad lled eang.

Cawn fod cylchgronau Cymreig eraill wedi bod ar y maes yn yr America, megis Cambro America (yr hwn a barhaodd am yspaid y blynyddoedd 1854-8), Y Ford Gron (1863), Y Glorian (1869–71), Yr Yspiydd (1871—3), Yr Eryr (1879), Llais y Gân (1883), Y Brython, Y Gwron Democrataidd, &c., ond ni ddarfu i'r rhan fwyaf ohonynt fawr fwy na phrin ymddangos, ac yna diflanu o'r golwg.

Yr Awstralydd, 1867.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1867, dan olygiaeth y Parch. W. M. Evans, Ballarat, a chychwynwyd ef, yn benaf, gan Mr. George Jones, Smythesdale, ac argrephid ef yn swyddfa y Meistri Jones a Macarthy, Smythesdale. Oddeutu y flwyddyn 1871, ymgymerodd Mr. Theophilus Williams, Ballarat, â'r olygiaeth, a symudwyd ef i gael ei argraphu gan Mr. Edward Jacob Jones, Melbourne, yr hwn ydoedd yn nglyn ag ef yn Smythesdale o'r cychwyniad. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog. Darfu i Mr. Jones, modd bynag, yn mhen yspaid, symud i fyw i New South Wales, a symudodd amryw o'r Cymry eraill oedd yn nglyn â'r cylchgrawn, a thrwy hyny rhoddwyd ef i fyny cyn hir. Cynnwysai pob rhifyn oddeutu 24 o dudalenau, ac yr oedd yr argraphwaith yn hynod ddestlus a glanwaith. Ceir mai amrywiaeth ydoedd ei nodwedd, er mae yn deg dyweyd mai yr elfen grefyddol oedd y gryfaf ynddo. Bron yn mhob rhifyn ohono ceid pregethau, traethodau, ac erthyglau ar destynau fel y rhai canlynol:"Cyfiawnhad trwy Ffydd," "Meddwl Crist," "Dechreuad a Chynnydd Achos Cymreig Ballarat," "Hunan-dyb," "Tragwyddol Fabolaeth Crist," "Distaw. rwydd Nerth" "Ser-Ddewiniaeth," "Athrawiaeth y Drindod," &e. Ceid ysgrifau hefyd ar faterion eraill :- "Achyddiaeth Gymreig," "Yr Ysgubion," "Cymro yn Awstralia," "Y Corph Dynol," "Yr hen Gymraeg yn marw yn Victoria," "Yr Eisteddfod," &c., a byddai y gwahanol newyddion lleol yn llawn a dyddorol. Rhoddid ynddo hanes cyflawn am yr holl symudiadau Cymreig yn Awstralia, a byddai hyny yn gyfleusdra mawr i'r Cymry gwasgarog yn y wlad bellenig hono. Nis gellir edrych dros gynnwysiad rhifynau Yr Awstralydd, a darllen ei gynnyrchion, heb deimlo ei fod yn gylchgrawn gwir dda, ac y mae yn adlewyrchu yn hynod ffafriol ar dueddiadau llenyddol a chrefyddol plant Cymru pan yn mhell oddicartref.

3.-DYLANWAD Y NEWYDDIADURON A'R CYLCHGRONAU CYMREIG AR FYWYD Y CYMRY YN YR AMERICA AC AWSTRALIA.

Prin y mae genym ni, yn Nghymru, yr un syniad am anhawsderau sydd ar ffordd lledaeniad newyddiaduron a chylchgronau Cymreig yn yr America. Mae eangder aruthrol y wlad, diweddarwch ac anwadalwch arosiad y Cymry, eu gwasgariad, &c., yn rhwystrau o'r mwyaf i lenyddiaeth Gymreig yn y Gorllewin. Dylid cofio nad yw y cyhoeddwyr a'r argraphwyr Cymreig yn rhai y gellir, mewn un modd, eu galw yn gyfoethog, ac wrth ystyried hyn a'r ffaith fod treuliadau arianol trymion yn nglyn â'r argraph wasg, a'r anhawader i dderbyn tanysgrifwyr, &c.,—wrth ystyried hyn oll, yn sier, mae ein cyd-genedl yn yr Unol Dalaethau dan rwymau bythol yno i'w cyhoeddwyr Cymreig hunanymwadol a llafurus. Rhaid dyweyd, wrth gymeryd pobpeth i'r cyfrif, fod rhif y newyddiaduron a'r cylchgronau Cymreig yn yr America yn cyrhaedd yn uchel. Gan fod y Cymry yn byw gymaint ar wasgar, a chan nad yw y wlad ond cydmariaethol ieuanc, mae yn ddigon anhawdd, ar hyn o bryd, tori llinellau pendant i ddylanwad y rhai hyn ar fywyd ein cyd-genedl, ac, efallai, mai yn y blynyddoedd dyfodol y teimlir fwyaf oddiwrth eu dylanwad, a chredwn mai teg ydyw bod yn amyneddgar i aros, am rai blynyddoedd eto, cyn disgwyl gweled yr holl ffrwyth. Gellir dyweyd, modd bynag, yn un peth, fod gan y newyddiaduron a'r cylchgronau Cymreig eu dylanwad ieithyddol cryf ar ein cyd-genedl yn y Gorllewin. Maent yn un moddion, gyda chyfryngau eraill, i gadw yn fyw yr iaith Gymraeg yn eu plith, ac ymddengys i ni fod gan lenyddiaeth Gymreig yr America, yn enwedig with ystyried pobpeth, ei Chymraeg da a phur. Meddylier, er enghraipht, am symledd a chywirdeb iaith Y Drych, a chredwn y deil cynnwys y newyddiadur hwn, ac yn arbenig ei erthyglau arweiniol, gydmariaeth âg eiddo unrhyw newyddiadur—mae yn amlwg eu bod yn ffrwyth meddwl aeddfed a dysgedig, ac nid hawdd dyweyd yn mha le y terfyna dylanwad y newyddiadur rhagorol hwn. Caniataer i ni wneyd un sylw, wrth son am hyn, yn nglyn â Chymraeg y newyddiadur a gychwynwyd yn ddiweddar gan Gymry Patagonia: gwell genym a fuasai cael llai o rodres yn ei argraph a'i eiriadaeth, oherwydd nid yw yn edrych yn naturiol a Chymreig i ddefnyddio v yn lle f, a'r f yn lle f fel yn y geiriau ar brawddegau dilynol: "Prentisiaid argrafu," "gan vod sefyllva arianol y Llywodraeth , vel uchod, nid gwiw disgwyl lai na vo cyvlwr moesoldeb," "Cymerid yn awr ddau brentis yn swyddva Y Dravod, i ddysgu iddynt greft argrafu," &c. Nid ydym yn hollol sicr nad all dull fel hyn wneyd peth niwed i Gymraeg pur a syml. Ond, wrth gymeryd yr oll o newyddiaduron a chyfnodolion Cymreig yr America i'r cyfrif, credwn, ar y cyfan, fod yn rhaid canmol eu Cymraeg, a diau fod gan hyn ddylanwad dwfn ar gadwraeth yr iaith yn nghanol cymaint o beryglon i'w cholli. Gellir dyweyd hefyd fod ganddynt ddylanwad cryf ar fywyd ac yspryd cenedlaethol y Cymry. Trwy y newyddiaduron a'r cylchgronau hyn cedwir hwy i ddal cysylltiad a'u gilydd, i gymeryd dyddordeb yn eu gilydd, ac i ddal i fyny eu cydymdeimlad â materion a helyntion Cymreig, ac y maent, i raddau, yn cylymu Cymry yr America wrth yr Hen Wlad. Maent yn cyfryngau effeithiol i gynnyrchu a meithrin y teimlad cenedlaethol. Ymddengys, ar y cyfan, fod yspryd lled werinol yno yn treiddio trwy ein llenyddiaeth Gymreig, a diau fod hyny, mewn rhan fawr, yn codi oddiar natur a dull llywodraethol y wlad, a cheir fod y newyddiaduron a'r cylchgronau a fyddent yn amcanu amddiffyn Democratiaeth yn gwywo yn gynnar. Os ydynt mewn perygl, efallai mai yn rhywle yn y ffordd hon y mae perygl y wasg Gymreig yn yr America: myned mor werinaidd nes bod yn benrhydd a gwyllt. Ond, er hyny, hyd yn hyn, credwn fod eu dylanwad yn cerdded yn nghyfeiriad yr hyn sydd dda. Bu Y Cymro Americanaidd ar un adeg, yn meddu ei filoedd darllenwyr, a phwy a all ddyweyd maint ei ddylanwad arnynt? Nid oes yr un amheuaeth yn nghylch natur ddaionus dylanwad Y Wawr a'r Cenhadwr —mae yn cynnyddu fwy-fwy, ac wrth son am y Cenhadwr dylid enwi Dr. Everett fel dyn a gyflawnodd wasanaeth mawr i'w gyd-genedl, ac a wnaeth ei oreu i gyfarfod anghenion llenyddol a chrefyddol y Cymry pell. Gresyn oedd i'r cyhoeddiad chwarterol clodwiw—Y Taethodydd gael ei roddi i fyny: gwnaeth les mawr, a chredwn mai cam yn yr iawn gyfeiriad a fyddai i Gymry yr America wneyd ymdrech i sefydlu eto un cylchgrawn chwarterol da un ag y gellid edrych arno fel cyhoeddiad safonol a chenedlaethol. Gwyddom fod yno ddigon o dalent ac athrylith Gymreig i gychwyn cylchgrawn o'r fath. Mae yn anhawdd siarad yn rhy uchel am ddylanwad da Y Cyfaill o'r Hen Wlad ar fywyd y Cymry yn yr America, er, yn fwyaf neillduol, mai yn nghylchoedd cyfundebol y Methodistiaid Calfinaidd y gweithreda ei ddylanwad gryfaf. Dylid, er cael golwg glir ar ei ddylanwad, ystyried sefyllfa wasgaredig, anfanteisiol, ac egwan y Cymry yn nghyfnod boreuol cychwyniad y cylchgrawn hwn. Mae hanes taith Dr. Rowlands, ei gychwynydd a'i olygydd, trwy y wlad hono yn ystod y flwyddyn 1837, er mwyn deall sefyllfa ei gyd-genedl, yn hynod ddyddorol; a diau fod amcan, canlyniadau, a ffrwyth y daith hono yn ddigon i anfarwoli enw Dr. Rowlands yn mhlith y Cymry. Gyda golwg ar ddylanwad y cylchgrawn hwn, gwrandawer ar eiriau y Parch. Howell Powell, New York, ac nis gellid cael yr un dyn cymhwysach i roddi barn ar y pwnc hwn:—"Yn mlynyddoedd cyntaf Y Cyfaill cawr hanes ein henafiaid yn America, a'r gwasanaeth a wnaeth enwogion Cymreig i ennill ein hannibyniaeth wladol, a sefydlu ein llywodraeth werinol—eglurhad ar gyfansoddiad ein gwlad fabwysiedig ein breintiau a'n dyledswyddau fel dineswyr— gwersi gramadegol a cherddorol—hanes sefydliadau newyddion, a gweithleoedd, er mantais i ymfudwyr yn gystal a hanes crefydd yn ei holl gylchoedd. Pleidiai ddiwygiadau mawrion yr oes, megys y Cymdeithasau Dirwestol, Cenhadol, a Beiblaidd; a bu Y Cyfaill yn foddion i gyffroi llawer cymydogaeth i sefydlu canghenau newyddion, ac i rymuso a bywioccau yr hen. Pwy a fedr ddyweyd byth werth y cymhorth a wnaeth i'r Ysgol Sabbothol, drwy y parodrwydd i gyhoeddi adroddiad blynyddol o'i gweithrediadau am yspaid mor hir, a chyffroi llafur Beiblaidd? Yr oedd yn awyddus i amddiffyn y gwirionedd. Mor barod yr oedd yn wastad i godi ei lais yn erbyn cyfeiliornadau dinystriol, anffyddiaeth, Milleriaeth, a'r cyffelyb. . . . . . Gyda'r un parodrwydd y cai Y Cyfaill wasanaethu yn erbyn llygredigaethau yr oes, ac arferion yr amseroedd, a dybiai a fyddai â gogwydd ynddynt at lygredigaeth, ac i anmharu sancteiddrwydd a symlrwydd crefyddol, fel yr ysgrifau nerthol a brwdfrydig o'i eiddo yn erbyn y dramas a'r mân chwareu mewn capelau. Yr oedd cymaint o degwch, boneddigeiddrwydd, nerth, a chrefyddolder yn ei ysgrifau, fel na allai ei wrthwynebwyr lai na'i garu a'i barchu, hyd yn nod pan yn methu llwyr gredu a chydaynio â'i syniadau. Yr oedd dylanwad mawr gan ei ysgrifeniadau ar feddwl y lluaws, a chanlyniadau bendithiol iddynt. Yr oedd golwg y lluaws ato fel eu prif athraw." Dyna eiriau dyn ag y gellir rhoddi pwys ar bob gair o'i eiddo ar y mater hwn. Pwy all ddyweyd gwerth cylchgrawn o'r cymeriad hwn i bobl wasgaredig mewn gwlad estronol?

Ymddengys i ni, with gymeryd holl lenyddiaeth newyddiadurol a chylchgronol yr America i ystyriaeth, ei bod, ar y cyfan, mewn cystal sefyllfa ag y gellid yn rhesymol ddisgwyl. Addefir ei bod, mewn rhai enghreiphtiau, yn lled arwynebol, ac efallai, ambell waith, yn sawru hunanoldeb a balchder; ond, with ei chymeryd oll i'r cyfrif—bob ffordd—mae pawb yn rhwym i gydnabod ei bod wedi gwneyd gwasanaeth mawr iawn i'r Cymry pellenig, a diau y gwna fwy eto fel y bydd amgylchiadau y wlad eang hono yn dyfod yn fwy sefydlog. Gan y bydd, i bob golwg, yr America yn gartref ac yn gyrchfan i laweroedd o'r Cymry yn y dyfodol, y mae o'r pwys mwyaf ar i wasg Gymreig y wlad hono fod yn bur, yn ddiogel, ac yn cael ei chadw mewn dwylaw glân—cael dynion da yn gyhoeddwyr, golygwyr, a gohebwyr iddynt. Pe buasem yn rhoddi cynghor i Gymry America, buasem yn dyweyd wrthynt am ymdrechu cael y dynion goreu i gymeryd gofal o'r wasg, ac nid ymddiried y gwaith i gymeriadau hanerog, di-allu, amheus, ac wedi methu mewn cyfeiriadau eraill, &c., ond ei wneyd yn bwynt arbenig i gael y goreuon i sefyll ar lanerch mor bwysig a chyhoeddus; ac yn yr yspryd hwn, gyda'r dymuniadau uwchaf am wir les a llwyddiant ein pobl oddicartref, yr ydym yn cywir obeithio y bydd i'r wasg Gymreig barhau i oleuo, cryfhau, diddanu, dyrchafu, a gwella ein cyd-genedl anwyl tra y bydd Cymry i'w cael yn ngwlad fawr y Gorllewin.

Wele ni, bellach, yn terfynu ein gwaith. Gwnaethom bob ymdrech, drwy ystod yr holl ymchwiliad, i sicrhau cywirdeb, a hyderwn ein bod wedi llwyddo, i raddau, tuagat hyny. Ymdrechwyd myned i mewn i ystyr ac yspryd testyn y llyfr yn ei wahanol agweddau, a chymerwyd gwedd eang arno, ac eto dal yn ei olwg o'r dechreu i'r diwedd. Gallwn sicrhau ein darllenydd i ni amcanu bod yn berffaith deg yn ein cyfeiriadau, ac edrych ar wahanol ganghenau y mater yn gwbl ar eu teilyngdod neu eu hannheilyngdod eu hunain, a hyny yn hollol ar wahan bob ystyriaeth arall. Er fod y gorchwyl hwn a gymerasom mewn llaw yn un llafurus a thrafferthus, eto gailwn ddyweyd, oddiar deimlad cywir, i ni gael hyfrydwch a budd wrth geisio edrych i mewn i hanes a dylanwad llenyddiaeth newyddiadurol a chylchgronol ein hanwyl wlad, ac yr ydym yn hyderu y bydd i'r gwaith hwn, er mor anmherffaith ydyw, gynnyrchu dyddordeb mewn llawer eraill i fyned yn mlaen yn mhellach yn yr un cyfeiriad. Gallwn, wrth ymneillduo, ddatgan ein mawr hyder y bydd i'r wasg Gymreig—yn ei gwahanol adranau—barhau i fod dan fendith Duw, ac y bydd iddo Ef daenu ei aden amddiffynol drosti, yn mhob man, holl ddyddiau y ddaear, ac y bydd iddi barhau i arfer ei dylanwad yn mhlaid llenyddiaeth bur, ac yn mhlaid moesoldeb a chrefydd, ac hefyd y bydd i'r wlad—yn gyffredinol—ei chefnogi yn mhob ffordd posibl. Dyna fydd ei choron, a dyna fydd ei chadernid.



ARGRAPHWYD GAN P. M. EVANS A'I FAB, TREFFYNNON.



Cyhoeddwyd y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1929, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 
  1. CHESTER ASSIZES—A FESTINIOG SLANDER CASE; The Cambrian News and Merionethshire Standard 21 Mawrth, 1890