Llio Plas y Nos/Y Dieithriaid

Oddi ar Wicidestun
Rhagair Llio Plas y Nos

gan R Silyn Roberts

Stori Gŵr y Tŷ


LLIO PLAS Y NOS

1

Y DIEITHRIAID

Gwyn eu byd yr adar gwylltion,
Hwy gânt fynd i'r fan a fynnon;
Weithiau i'r môr, ac weithiau i'r mynydd,
A dod adref yn ddigerydd.

Araf ddringai cysgodion trymion y nos ar hyd llethrau creigiog geirwon mynyddoedd Arfon, gan adael gwaelod Dyffryn Llifon mewn gwyllnos prudd. Bu'r dyffryn hwn amser maith yn ôl yn un o fannau prydferthaf Gogledd Cymru, ond yr adeg honno nid llawer o bobl a fu'n gweled ei harddwch. Ychydig deuluoedd gwledig yn byw ar log y diadelloedd defaid yn niniweidrwydd a distawrwydd y mynyddoedd mawr oedd ei breswylwyr. Ond, er symled a thaweled bywyd felly, nid oedd heb wybod am chwerthin ac wylo, llawenhau a thristáu. A phe câi ysbrydion y gorffennol yng nghilfachau'r nentydd gennad i siarad, caem glywed ganddynt gathlau beirdd ebargofiant a ganai gynt am fod tristwch melys serch yn chwyddo ac yn clwyfo'r fron, a dagrau gobaith chwerw'r bedd yn rhedeg dros y rudd. Eithr mud yw'r gorffennol dros amser, ac erys ei ramant fwyaf gwir heb ei datguddio.

Aeth dyddiau'r harddwch tawel heibio. Sangodd troed y mwynwyr ar y ddôl a'r mynydd. Torrodd ei raw a'i drosol wyneb glas y fron i gael hyd i'r llechfaen. Nid hir y bu cyn i sŵn y mwrthwl a'r ebill erlid o'r lle holl gyfaredd y bywyd bugeiliol. Dihangodd y Tylwyth Teg-cymdogion diddan, dialgar, chwareus yr hen deuluoedd-o'r nentydd a'r cymoedd; ac o hyn allan ni chymerent fenthyg llais y gornant, na si floesg y ffrwd, i ddweud eu meddyliau wrth ddynion. Yn lle brefiadau'r defaid a'r ŵyn, ac udo ambell gi unig a phrudd, pethau'r dyddiau a fu, clywir heddiw dwrf a dwndwr diddiwedd y chwarelau. Ar hyd ochrau'r nant adeilad- odd llaw anghelfydd yr oes hon resi o dai diaddurn a hagr, pob un yn y rhes yr un ddelw â'i gymydog. Gynt, gwenai a gwgai wynebau dau lyn eang, teg, ar waelod y dyffryn, wrth ddilyn gwên a gwg y nefoedd anwadal. Ohonynt rhedai afon igam-ogam ar hyd gwaelod y dyffryn, heb ofer brysuro, ond dewis y ffordd hwyaf rhag marw yn y môr cyn ei hamser. Ond nid oedd gwerth ar bethau fel hyn yn y farchnad heddiw. Felly, tywalltwyd rhwbel y chwarelau i'r llyn nes ei wasgu i gornel; yntau yn ceisio achub ei gam, ac yn boddi dwy neu dair o'r chwarelau. Eto, cryfach na'i ddialedd ef fu cyfrwystra celfyddyd; agorwyd rhimyn o ffos union ac anolygus ar hyd y nant i lyncu ei nerth, a'i ladd; ac ni cheir ohono heddiw ond ei goffadwriaeth ar fant grynedig hynafgwyr penllwyd y dyffryn. Agennwyd a thyllwyd ystlysau heirdd y bryniau, ac ymlidiwyd eu harddwch o fod.

Y noswaith hon, gadawsai'r chwarelwyr eu gwaith ers dwyawr, ac eisteddent ar hiniogau eu tai, ac ar waliau'r gerddi bach o flaen eu drysau, i ymddiddan am y peth yma a'r peth arall, cyflwr y farchnad lechi, yr eisteddfod, a rhagolygon y côr a'r band ynddi, a'r cyfarfod pregethu a oedd wrth y drws. Eisteddent yn dawel nes dyfod yr arwydd dyddiol i droi i mewn am swper, ac wedyn i'r gwely. Yr arwydd hwn oedd dyfodiad "y trên dwaetha" i'r orsaf. Ni ellid dych- mygu am chwarelwr parchus yn y darn hwnnw o'r pentref yn troi i'w wely heb weld y trên diwaethaf yn dyfod i mewn, a gwybod pwy a fuasai yn y dref, a phwy a ddaethai adref am dro.

Cawsid hin deg a chynnes ers wythnos, ond heno argoelid ystorm ers oriau. Edrychai'r wybren ddu feichiog yn fygythiol, a phroffwydai'r "hen ddwylo ", dan ysgwyd eu pennau, y ceid mellt a tharanau a chen- lli o law cyn y bore. Disgynnai ambell ddiferyn bras eisoes, ond ni ddaethai'r glaw eto; cymerai ei amser yn hamddenol, fel y gwna storm fawr sydd yn ymwybodol o'i nerth ac ehangder difrod ei rhyferthwy.

Ynghanol y twr chwarelwyr a eisteddai i ymgomio ger yr orsaf, safai John Thomas, "yr hen ŵr bonheddig", fel y gelwid ef gan ei gymdogion, a dyma Huw Rymbol, hen gymeriad arall yn yr ardal, yn hercian wrth ei ffon tuag ato, a'i gyfarch.

"Sut 'rwyt-ti, John Thomas?" eb ef, mewn llais gwichlyd. "Mae-hi'n debyg iawn i ryw dywydd, on'- tydi-hi? 'Roedd-hi'n braf ddoe, ond 'toes dim dyn byw ŵyr sut fydd-hi 'fory."

"Wel, ydi," atebodd John yn araf a sobr, " gobeithio y deil-hi nes daw'r trên i mewn."

Ar hynny, clywid chwibaniad y trên wrth ymyl, a'r munud nesaf dyma hi'n dyfod heibio i benelin y ffordd, ac i'r orsaf. Ohoni daeth dau ŵr ieuanc yn teithio yn y dosbarth blaenaf, â golwg uwchraddol arnynt.

"Byddigions" oedd barn y chwarelwyr, mewn sibrwd o glust i glust. Estynnodd un o'r ddau swllt i unig was yr orsaf, a gofyn iddo ofalu am eu clud; holodd ef ymhellach am gerbyd i fyned i Westy'r Llew Coch: a chyn pen deng munud yr oeddynt ym mharlwr y gwesty, a Mr Edwards, gŵr y tŷ, yn llawn busnes a gofal o'u deutu. Nid oedd Gwesty'r Llew Coch yn dŷ mawr na rhadlon yr olwg arno. Tafarn dipyn gwell na'r cyffredin ydoedd; eto gwelsai Mr Edwards yn nyddiau ei ieuenctid wleddoedd mawrion gwestai gorau Llundain, ac aml oedd ei atgofion am y dyddiau hynny yn ei oes pan arferai weini ar arglwyddi. Ni choilasai eto mo goethder y dyddiau a fu; ac er nad oedd y Llew Coch yn llewyrchus yr olwg oddi allan, cafodd y gwŷr ifainc yn fuan nad oedd angen lle mwy cysurus nag o dan nenbren Mr Edwards.

A hwy uwchben eu cinio, fe geisiwn ninnau well adnabyddiaeth ohonynt. Gŵr ieuanc tua saith ar hugain oed ydyw un, ei wallt a'i lygaid yn dduon, a'i wyneb lluniaidd yn llwyd a thenau; ei finflew hefyd yn ddu, a'i wefusau'n deneuon a thynion, yn awgrymu penderfyniad di-ildio. Hwyrach, o hir syllu ar yr wyneb, a'r llygaid tywyll breuddwydiol hyn, a gweled y fflach danllyd ar adegau yn eu dyfnder trist, y tybiai'r craff fod y gŵr ieuanc wedi byw blynyddoedd hirion trymion o flinder a phoen. Y mae pum mlynedd ar hugain ambell ddyn difrif yn hwy na thrigain mlynedd llawer oferddyn gwag; a throdd noson o waddod chwerwder einioes y gwallt du yn wyn fwy nag unwaith. Beth yw gofid cudd y dyn ieuanc? Ai tybed y daw i'r golau cyn y collwn olwg arno rhwng tonnau amser? Ivor Bonnard ydyw'r enw a roddes ar lyfr y gwesty.

Nid oes ronyn o debygrwydd iddo yn ei gydymaith. Saif ef yn ddwylath o daldra, â dau lygad glas llawen, a gwallt golau modrwyog ar ei dalcen uchel ac onest. Amlwg yw ei fod wedi datblygu ei gyhyrau mewn ysgol a choleg. Nerthol a grymus ydyw pob migwrn ac asgwrn o'i gorff. Mab ac etifedd ydyw ef i un o hen deuluoedd parchusaf Cymru, Cymro o'r Cymry. Adwaenid ei dad fel Cymro cyfoethog llwyddiannus mewn byd ac eglwys, fel Rhyddfrydwr ac Aelod Senedd, un o'r Cymry trwyadl cyntaf i wneud enw iddynt eu hunain yn Senedd Prydain, un o'r ychydig a osododd i lawr sylfeini cedyrn Cymru Fydd. Gwynn Morgan ydyw enw ei fab. Cafodd bob mantais y gallai arian ei sicrhau mewn ysgol a choleg, a thyfodd yn feistr pob mabol gamp, ac yn ysgolhaig gwych. Daeth adref o Rydychen wedi ennill anrhydedd gradd y Brifysgol, a rhwyfo ei chwch i fuddugoliaeth yn erbyn Caergrawnt. Yr oedd hynny flwyddyn yn ôl bellach; wedyn bu'n teithio'r byd i orffen ei gwrs addysg; aethai oddi amgylch wrth ei bwysau, gan aros a dysgu a sylwi ymhobman. Rhyw bum mis yn ôl, ac ef ar y pryd ym Mharis wych, y dref harddaf a llonnaf ar wyneb y ddaear, damweiniodd iddo gyfarfod ag Ivor Bonnard, Ffrancwr coeth ei feddwl a difrif ei wyneb, hyddysg mewn lliaws o ieithoedd, a'u llenyddiaeth. Nid hir y bu'r ddau cyn dyfod yn gyfeillion mawr. Un diwrnod, synnodd Gwynn Morgan ddeall bod y Ffrancwr prudd breuddwydiol yn medru Cymraeg gweddol, er nad cywir treigliadau ei gytseiniaid bob tro. Tynhaodd hyn gadwynau eu cyfeillgarwch, ac ar wahoddiad Morgan addawodd Bonnard ymweled â Chymru yn ei gwmni. Ni buont ynghyd yn hir cyn i'r Cymro ddweud ei holl hanes syml wrth y Ffrancwr; ond, er na sylwasai ar hynny, rhyfedd cyn lleied a wyddai ef o hanes y gŵr tywyll, trist, a deithiai yn ei gwmni tua bryniau gwlad ei enedigaeth. Er hynny, diffuant oedd eu cyfeillgarwch, a chryf eu serch y naill at y llall. Pe gofynasid i Gwynn Morgan paham y daethent i Ddyffryn Llifon, nid hawdd fuasai iddo ateb; hwyrach y dywedasai mai damwain a'i harweiniodd yno. Ond ni fu raid iddo fyw lawer yn hwy cyn gweled cyn lleied a wnaethai damwain i drefnu'r daith hon.

Trown yn ôl bellach at y ddau deithiwr yn y gwesty, a chawn y cinio drosodd, a'r Cymro ieuanc cyfoethog wedi erchi cigars gorau'r tŷ, a gwahodd Mr Edwards i ymuno ag ef yn eu hysmygu. Nid ysmygai Bonnard yn union wedi cinio, a sylwasai'r gwestywr na wnaethai fwy na phrin gyffwrdd y danteithion o'i flaen. Yn fuan, syrthiodd Bonnard i ryw fath o synfyfyrdod breuddwydiol; syllai yn hir i'r tân, heb symud na llaw na throed. Ond nid felly Morgan; ym mwg y myglys rhyddhawyd tafod y ddau, ac yr oeddynt yn fuan yn trin golygfeydd y gymdogaeth.

"Oes bosib mynd oddi yma i Feddgelert, heblaw hefo'r trên?" holai Morgan.

"Oes, siŵr," atebodd Mr Edwards, gan ymsythu yn ei gadair freichiau; " mi ellwch fynd yno ar ych union rhwng y mynyddoedd; mae-hi'n ffordd go lew i'w cherdded hefyd, ac yn ffordd drol symol, syr."

"Wyddoch-chi am rywbeth diddorol, a gwerth i weld, ar y ffordd i Feddgelert?"

"Wel, mae yna fryniau a mynyddoedd, afonydd a llynnau, ar hyd y ffordd; wrth gwrs, rydech-chi'n pasio troed y Wyddfa, a phetaech-chi'n edrych o ben y Wyddfa mi welech y wlad odanoch-chi yn frith o lynnau. Wn-i ddim fyddwch-chi'n hitio rhywbeth mewn barddoniaeth. Mi fydda i'n meddwl bod yr hen Gwilym Cowlyd yn i tharo-hi'n dda odiaeth yn yr englyn hwnnw i lynnau'r Wyddfa."

"Sut mae-o'n mynd, deudwch?" gofynnodd Morgan.

"Wel, dyma fo, os nad ydw i wedi i anghofio:

Y llynnau mawrion llonydd—a gysgant
Mewn gwasgawd o fynydd;
A thyn heulwen ysblennydd
Ar len y dŵr lun y dydd.

"Go lew, yr hen Gowlyd, on'te, syr?"

"Ardderchog," atebodd Morgan, â gwên pleser ar ei wyneb. " Rhaid imi gael yr englyn yna yn fy llyfr, Mr Edwards."

Allan â'r "llyfr" ar y gair; ac adroddodd Mr Edwards yr englyn fesul llinell, a Gwynn Morgan yn ysgrifennu. Fel llawer o fechgyn cyfoethog ei oes yng Nghymru, gwyddai'r bonheddwr ieuanc hwn fwy am lenyddiaeth pob gwlad bron nag am un ei wlad ei hun. Ond nid ar y bechgyn yr oedd y bai, eithr ar y gyfundrefn addysg a wnaeth y Gymraeg yn iaith waharddedig ac ysgymun yn yr ysgolion.

"Beth arall sydd yna yn werth i weld, Mr Edwards?"

"Wel, mae yna gwm ar y dde ar y ffordd i Feddgelert, a choed a phrysgwydd yn llenwi ei enau yn awr. Ond pe cerddech drwyddynt i fyny'r cwm tua phedair milltir, fe ddeuech at hen blasty unig, trymllyd, heb neb yn byw yno ers dros ugain mlynedd, a'r eiddew a'r coed bron wedi ei guddio o'r golwg bellach, reit siŵr. Plas y Nos y bydd pobol yn i alw-fo." Ac wrth iddo enwi'r lle, rhedodd ias o arswyd trwy gorff y gwestywr. Trwy gydol yr ymddiddan, eisteddasai Ivor Bonnard yn hollol lonydd; ond yn awr, cododd ei lygaid duon, â rhyw fflach ddieithr ynddynt, a sefydlodd hwy am funud ar Mr Edwards. Yr eiliad nesaf, tynnodd ei lygaid oddi arno, gan eu sefydlu unwaith eto ar fflamau gleision y tân.