Llyfr Del/Beth Yw'r Gwynt?

Oddi ar Wicidestun
Ymwelydd Rhyfedd Llyfr Del

gan Owen Morgan Edwards

Tafarn Y Llwynogod Croesion

BETH YW'R GWYNT?

"Beth sydd yn rhuo allan?
Beth sy'n cyflymu'n gynt?
Beth sydd yn colli llongau?
Y gwynt, y creulawn wynt.
Mae'n chwythu capiau bechgyn,
Ni waeth heb waeddi 'Ust.!'
I wybod pa beth ydyw
Rho'r bellen wrth fy nghlust."


MAE'R gwynt yn beth digri! Mae'n gwthio yn fy erbyn pan yn mynd i'r ysgol, gan geisio fy rhwystro, a 'does dim modd ei weld! Byddai'n taflu fy nghap o hyd cyn i mam roddi llinyn wrtho dan fy ngên, a phan y byddwn yn plygu i'w godi— 'Pwff,' meddai'r gwynt, gan ei chwythu ymhellach oddi wrthyf, a chwarddai yn fy nghlust pan y rhedwn yn bennoeth ar ei ôl. Chwalodd dô brwyn tŷ modryb Elin hefyd, a chwythodd lyfr tasg Rhys bach o'i law dros y bont i'r afon. O ble daeth y gwynt?" Dyna fel y siaradai Del wrth gadw ei lyfrau ysgol, wedi gorffen ei dasg ar noswaith oer pan chwythai'r gwynt yn uchel, gan chwibanu arno, dybiai ef, yn nhwll y clo i agor y drws iddo. Ac am nad oedd yn ei wahodd i mewn taflai'r gwlaw, fel cerrig mân, ar y ffenestr. Rhoddodd Del y bellen wrth ei glust, a chlywodd y stori hon.

Dywed un, Del, mai Aeolia yw gwlad y gwynt, ac mai Aeolus yw brenin y wlad honno. Mae'n cadw'r gwynt mewn ystafell yn y graig, ac y mae drysau a barrau cryfion yn ei rwystro allan. Mae gan y brenin Aeolus wialen yn ei law, a chyda hi yr oedd yn gyrru'r gwynt allan,—y gwynt teg heddyw, y gwynt oer yfory, a'r ystorm drennydd, bob un yn ei dro.

Un dydd yr oedd Ulysses,—milwr gwrol o dir Groeg,—a'i filwyr yn mynd adref mewn llong dros y môr wedi bod yn rhyfela am flynyddoedd mewn gwlad ddieithr. Pan oedd y llong yn ymyl ei wlad enedigol, ac Ulysses yn gweld ei dŷ gwyngalchog ar ochr y mynydd, cododd yn ystorm a gyrrodd y gwynt croes hwy yn ôl o olwg eu gwlad ymhell. Cyn bo hir daethant i dir, ac er na wyddent ym mha le yr oeddynt, yr oedd yn dda ganddynt gael rhywle sefydlog wedi eu taflu o donn i donn cyhyd. Pan yn sychu eu dillad ar y traeth, daeth dyn mawr atynt. Gofynnai'n sarrug,—

"Pwy ydych chwi, a beth yw eich neges yn fy ngwlad i?"

"Ulysses, mab Laertes, wyf fi, a Groegiaid yw fy nghanlynwyr. A'r gwynt a'n gyrrodd i'th wlad. Pwy wyt ti?"

"Aeolus, brenin y gwynt; a gwlad y gwynt yw hon."

Daeth brenin y gwynt yn gyfeillgar iawn âg Ulysses a'i wŷr, rhoddodd ymborth iddynt a choed i drwsio eu llongau. Yr oedd ar Ulysses hiraeth am fynd adref, a gofynnodd i Aeolus rwymo y gwynt rhag ofn i ystorm arall godi a'i rwystro at ei deulu.

"Gwnaf," meddai Aeolus, "a gadawaf i wynt teg chwythu ar dy hwyliau. Cymer y sach yma yn anrheg gennyf wrth ymadael,—ond gofala am beidio ei hagor hyd nes yr ai adref, neu cei ddioddef mawr os gwnei."

"Diolch iti, frenin y gwynt," meddai Ulysses, gan daflu y sach lawn dros ei ysgwydd ac esgyn i'w long. Nis gwyddai beth oedd ynddi, a buasai wedi ei hagor oni bai fod arno ofn i air Aeolus ddod i ben. A rhwymodd y sach wrth yr hwylbren; ac ai ei long dan ledu ei hwyliau gwynion, yn gyflym tua'i wlad Ithaca. Yn hwyr un dydd yr oedd Ulysses yn flin gan y daith, a syrthiodd i gwsg trwm.

"Beth yw y rhodd gafodd y capten gan frenin y gwynt, tybed? " meddai'r morwyr. "Y mae yn rhaid fod y peth sydd yn y sach yn werthfawr iawn,— aur neu arian lawer. Dyma gyfle da i weld beth yw tra y mae y capten yn cysgu mor drwm."

Felly fu, gwyliai rhai Ulysses rhag iddo ddeffro tra y tynnai y lleill y sach i lawr. Wedi cael y sach ar y bwrdd. yr oedd yr holl ddwylaw o'i hamgylch yn gwylio'r un dorrai'r llinyn oedd am ei genau. Ond O! yn lle aur ac arian, daeth gwynt cryf dychrynllyd ohoni, a chwythodd y dwylaw i'r dwfr, cododd y môr yn donnau fel mynyddoedd, a neidiai y llong ac Ulysses ynddi fel pel o frig i frig. Yr oedd y gwynt wedi dianc. ac nis gallai Aeolis ei lywodraethu.

Er y credai plant bach Groeg mai Aeolus oedd arglwydd y gwynt. y mae ffrwyn y gwynt, Del, yn llaw un cryfach nag Aeolus, ac yn ôl ei ewyllys Ef yr a pob awel.