Llyfr Del/Cwn Adwaenwn I
← Ar Ystol Y Gosb | Llyfr Del gan Owen Morgan Edwards |
Beth sydd ynddo? → |
CWN ADWAENWN I.
I UN o blant y mynyddoedd fel myfi, yr oedd cwn yn gyfeillion mebyd. Gyda'm ei wrth fy sawdl, bum gannoedd o weithiau'n gwylio emrynt y wawr yn agor neu yn rhyfeddu wrth weld y niwl yn ymestyn fel llaw cawr i fyny ar hyd wyneb y creigiau. Bum lawer gwaith yn meddwl yn ddifrifol rhyngof â mi fy hun ym mha beth mewn gwirionedd y mae y dyn sala yn well na rhai o'r cwn adwaenwn i. Mi adroddaf hanesyn neu ddau i ddangos fod gan gi ryw lun o gof a deall a serch a rheswm a chydwybod ac ewyllys ac iaith; a gwyn fyd na fuasai gan bob dyn gymaint ar ei elw. Yn wir, gwelais lawer ci a chymaint yn ei ben fel y buasai arnaf gymaint o ofn ei saethu a saethu dyn; ac mae'n biti garw os caiff rhai dynion adwaenwn i ddyfod o'r graean tra na chaiff cwn ddim. Gwelais ddau neu dri o bersoniaid mewn gwisgoedd gwynion uwchben arglwydd gwlad ac yn dweyd y codai mewn gogoniant; a gwelais ddwy neu dair o frain mewn cotiau duon ar ochr y mynydd uwchben corff ci oedd wedi gwneyd llawer mwy o droion cymwynasgar a llawer iawn mwy o ddaioni, troent eu pigau i'r cyfeiriad yma ac i'r cyfeiriad acw, a dywedent wrth eu gilydd y medrent fentro dechreu arno, na chodai o ddim yn siŵr.
Yr wyf yn cofio un ci rhagrithiol iawn. Elai i rai o'r ffermdai tuag amser dyledswydd deuluaidd, gyda golwg ddefosiynol iawn arno. Wrth weld crefyddolder ei wedd, gadewid iddo aros wrth y tân gyda'r cwn ereill; ond mor fuan ag y byddai'r bobl ar eu gliniau, cerddai Sam yn ysgafn tua'r llaethdy, a thra diolchid am drugareddau beunyddiol byddai Sam yn hel wyneb y dysglau llefrith ac yn mwynhau'r hufen melyn.
I'r capel yr oedd tyniad Pero Sion Ffowc, a gellid meddwl mai efe oedd y ci mwyaf crefyddol yn Llan y Mynydd. Unwaith yr oedd mewn cyfarfod gweddi yn yr hen gapel, ac yr oedd Gruffydd yr Hendre, y gweddïwr mwyaf hyawdl fu yn Llan y Mynydd, ar ei liniau wrth y fainc yn gweddïo. Pan oedd Gruffydd ar ganol ei weddi mewn ffrwd o hyawdledd, teimlodd drwyn oer rhywbeth ar ei ên. Agorodd ei lygaid, gwelai Bero Sion Ffowc yn eistedd am y fainc ag ef mor ddifrifol a sant. Tarawodd ef nes oedd yn rholio dan y meinciau, ac yna aeth ymlaen gyda'i weddi fel pe na buasai dim wedi digwydd.
Cariad brawdol nodweddai'r hen Fflei Coedladur. Lladratawyd ef unwaith, ac awd ag ef dros ugain milltir o fynyddoedd i Lanfyllin i'w werthu. Yno medrodd ddianc, ond cafodd gosfa gan fastiff wrth ddod adre. Yr oedd brawd iddo yn y Plas, daeth adre at hwnnw, ac aeth y ddau dros y mynydd yn ôl i Lanfyllin a gwnaethant groen y mastiff yn gareiau.
Yr wyf yn cofio un hanes difrifol am gi, nid ci defaid o waed cyfa, yr oedd ei daid o ochr ei fam yn waedgi. Yr oedd rhyw gi yn lladd wyn, ac nid oedd neb, er gwylio a gwylio, wedi cael allan pa gi oedd y llofrudd. Ond o'r diwedd daeth bugail Nant Blodau'r Gaeaf a dywedodd ei fod yn sicr iddo weld Nero rhwng dau a thri o'r gloch y bore yn lladd oen wrth oleu'r lleuad ar waelod y cwm. Dywedasant fod hynny yn amhosibl, gan fod Nero wedi ei gau yn y tŷ yn ddiogel, ac awgrymasant yn bur eglur fod y bugail yn dweyd peth nad oedd wir er achub ei gi ei hun. Cyn hir tystiai bugail arall iddo ei weld wrth y gwaith anfad. Ond y noson honno hefyd yr oedd Nero wedi ei gloi yn y gegin. O'r diwedd dywedodd merch y tŷ y buasai hi yn cysgu ar yr ysgrin i weld a oedd Nero yn medru mynd allan, ac aeth y dynion i'r caeau i wylio. Gorweddodd Enid ar yr ysgrin a chymerodd arni gysgu tra'r ci yn gorwedd o flaen y tân. Ymhen hir a hwyr dechreuodd y ci anesmwytho, cerddodd at yr ysgrin, daliodd ei drwyn wrth wyneb yr eneth yn hir, ac o'r diwedd gwnaeth ei feddwl i fyny ei bod yn cysgu. Yna cerddodd at y ffenestr, cododd y glicied, agorodd hi, ac wedi edrych yng nghyfeiriad yr ysgrin unwaith yn rhagor neidiodd allan. Ymhen yr awr dringodd i'r ffenestr yn ei ôl a chauodd hi yn ofalus â'i bawen. Yna aeth at Enid, a chlywai yr eneth ei anadl boeth ar ei gwyneb, yr oedd ymron a gwaeddi gan ddychryn, ond gwyddai y lladdai y ci hi os gwnâi. Penderfynodd y ci ei bod yn cysgu, a gorweddodd wrth y tân, ond taflodd ci olwg ati'n aml, fel pe'n ddrwgdybus o honni. Y bore ddaeth, a chydag ef y dynion i'r gegin. Ni chymerai y ci un sylw ohonynt, ond edrychai’n ddyfal ar Enid o hyd. Mor fuan ag y gwelodd y dynion, collodd yr eneth ddewr bob llywodraeth arni ei hun, a dechreuodd waeddi mewn ofn. Gwelodd y ci ei dychryn, deallodd ei bod wedi ei weld, ac aeth yn gynddeiriog ar unwaith, ymdrechodd neidio ati yn ei gynddaredd ac oni bai iddo gael ei saethu yn union buasai Enid wedi talu ei bywyd am ei hyfdra yn gwylio a bradychu y ci. Nid oedd neb erioed wedi gweld tuedd greulawn ynddo o'r blaen, yr oedd pawb yn hoff o honno, a buasai yntau yn ymladd dau fywyd dros Enid. Nis anghofiodd y rhai a'i gwelsant yr olygfa byth, yr oedd y ci mor debyg i ddyn a'i bechod yn troi yn uffern iddo; ac ni chafodd Enid, er dewred oedd hi, awr o iechyd ar ôl y noson honno.
Unwaith bum yn hoff iawn o gŵn, ac yr oeddwn wedi tynnu cydnabyddiaeth â chrach foneddwr oedd yn awdurdod ar achau ciaidd. Dois adre'r tro cyntaf wedi bod "i lawr," sef yng Nghaer, yn dipyn o lanc. Gofynnais i hen fachgen o filwr, Sais wedi dysgu Cymraeg,—
"John Brown, pwy ydi tad y ci braf yna?"
"Wyt ti'n gwybod hen buwch moel Sian Sion?" gofynnai, trwy ei drwyn.
"Ydw." "Wel, nid honno."
Ni soniais i wrth neb am achau cwn wedyn.