Llyfr Del/Dialedd Ifan

Oddi ar Wicidestun
Y Ddwy Ynys Llyfr Del

gan Owen Morgan Edwards

Ar Ystol Y Gosb

DIALEDD IFAN

Y DYDD o'r blaen, wrth grwydro drwy'r hen fro, gwelais amaethwr ynghanol ei blant yn ceisio troi'r defaid i'r ysgubor. Yr oedd y plant hynaf yn help mawr iddo; am y rhai bach, byddent ambell dro yn help i yrru'r defaid at yr ysgubor, ond yn llawer amlach safent yn union ar eu llwybr, gan eu gwylltio oddiwrth y drws. Rhedodd y lleiaf un i'w canol pan oeddynt wedi dechreu mynd i mewn, gan feddwl fod y gwaith wedi ei orffen, i gydio yng nghynffon y ddafad olaf; ond gwylltiodd y defaid, a diangasant i'r dde a'r aswy, ac aeth llafur oriau'n ofer. Daeth llinell i'm meddwl wrth weld y bychan,—

"Something between a hindrance and a help."


Daeth ychwaneg na llinell enwog Wordsworth i fy meddwl. Cofiais am yr amaethwr helbulus hwnnw'n fachgen ieuanc, newydd adael yr ysgol. Mab Glan y Nant, tyddyn helaeth ar fin y mynydd, oedd. Nid oedd llawer o allu ynddo; ond yr oedd yn llawn o ryw uchelgais yn ymylu ar ffolineb. Nid oedd neb â'i leggins yn loewach ar ddiwrnod ffair, nid oedd neb a chymaint o rubanau melyn fflam ym mwng a chynffon ei geffyl gwedd, nid oedd neb fedrai siarad mor fawreddog am ei orchestion amaethyddol yng nghwmni merched ieuainc. Fel enghraifft o wawd miniog merch ffarm cafodd ateb i lythyr caru unwaith,—ond rhaid gadael hwnnw tan ddof at hanes carwriaeth Sian y Glyn.

Yr oedd rhyw awydd yn Ifan Glan y Nant am ddefnyddio powdwr. Tyllu cerrig a'u saethu oedd ei hoff waith y dydd; a saethu cwningod a phetris wedi nos. Yr wyf yn cofio i mi fynd allan gydag ef wedi nos unwaith. Pan oeddym ar ael y mynydd, daeth yn ystorm o wlaw; ac ni chawsom y noson honno ond ysgwrs, dan gysgod carreg fawr, wrth weld yr ystorm yn ysgubo yng ngoleu'r lleuad dros y dyffryn odditanodd. Ni roddaf yma ond y rhan o'n hysgwrs sydd yn perthyn i'r ystori hon.

"Mi fydda i'n meddwl, fachgen," ebe Ifan, gan feddwl am ŵr pur gas ganddo ef, mai ffŵl ofnadwy ydi cipar, ac mai ffŵl mwy ydi gwr bonheddig."

"Pam 'rwyt ti'n meddwl hynny? "

"Wel, pe baswn i'n ŵr bonheddig, mi faswn i'n rhoi dyn du'n gipar."

Bu distawrwydd am dipyn, ac ni wyddwn i beth oedd Ifan yn feddwl. Ond deallais cyn hir ei fod dan yr argraff fod dyn du'n gweld wedi nos. Ni fynnai ei ddarbwyllo, dyna ddywedai ar ddiwedd pob ymresymiad,—

"Mae'n siŵr i fod o, iti, a chath ddu hefyd."

Trodd yr ymddiddan cyn hir ar wyddoniaeth a darganfyddiadau, ac ebe Ifan,—

"Un peth leiciwn i glywed bod nhw wedi neyd, a hynny ydi gwn heb ddim powdwr yno fo. Mi fedrwn saethu gwningen felly heb i neb glywed sŵn yr ergyd."

Ychydig ddyddiau wedyn, yr oeddwn yn digwydd darllen papur newydd, a daeth dymuniad cryf Ifan i'm meddwl wrth ddarllen a ganlyn,—

THE GREAT DISCOVERY OF THE AGE.—A new noiseless gun. No powder required. Ammunition packed with it in box. Will kill a rabbit at a good distance. Price 1/6, by post 19 stamps. Apply direct to John Bottom, 112, Gull Street, Birmingham. Mention this paper."

Rhedais â'r papur,—wedi edrych y geiriau i gyd mewn geiriadur,—i gae Glan y Nant, lle'r oedd swn Ifan dros yr holl fro'n tyllu carreg. Prin y medrai yr un ohonom goelio fod erfyn mor ardderchog o fewn ein cyrraedd, a phenderfynasom beidio colli munud o amser i yrru am dano. Drwy roddi ein holl gredit ein dau ar ei eithaf, medrasom godi digon o arian mewn tridiau i gael y pedwar stamp ar bymtheg. Myfi oedd i ysgrifennu, a llawer gwaith y deydodd Ifan.—

"Cofia di beidio deyd wrth neb, rhag ofn i Wil y Rhos a Thwm y Fawnog gael rhai 'run fath a fo. Un go lib wyt ti. A chofia ddeyd mai yn y papur ene y gwelsom ni hanes y gwn. Ma fo'n deyd, 'mension ddus pepar;' ac os torri di'r ainode, hwrach na yrran nhwthe mo'r gwn."

Anfonwyd y stampiau, a phrin y medrem gysgu'r nos gan ddisgwyl am y gwn. Dyfalem wrth ein gilydd tebyg i beth fyddai, faint oedd ei hyd a mil a mwy o bethau. " Ffor bynnag," ebe Ifan ar ddiwedd llawer ysgwrs, " mi fydd gennon ni wningod beth ofnadwy. Yn diar i mi, mae celfyddyd yn beth rhyfedd hefyd, deydwch chi fynnoch chi. Dydi cipar na gwr bynheddig yn ddim byd wrthi hi."

Ar fore hir-ddisgwyliedig eis i'r pentref. Llamodd fy nghalon o lawenydd pan ddywedodd y postfeistr fod yno barsel bychan i mi. Gofynnais iddo fel ffafr a beidiai a dweyd wrth neb fy mod wedi ei gael. Ond yr oedd yn fychan, dim ond rhyw bedair modfedd o hyd, peth bychan iawn i ateb disgwyliadau cynyddol tri diwrnod. Eis ag ef yn syth i Ifan heb ei ddatod; a chlywodd y wlad sŵn y tyllu cerrig yn distewi.

"Yn diar i mi," ebe Ifan, pan welodd y pecyn, " yn tyde'n nhw'n medru rhoi peth dinistriol mewn sym bach."

Agorwyd y pecyn yn ochelgar, rhag ofn i'r gwn ladd un ohonom, neu falurio'r garreg oedd o dan ein traed. Ond erbyn agor pob peth, nid oedd y gwn ond y peth eiddilaf welodd neb erioed,—cafn bychan â lle i roddi pelen fechan fach ynddo fo, a spring ddur fechan i hitio'r belen drwyddo. Bocs papur, gyda thipyn o belenni tebyg i lygad gwibedyn, oedd yr "ammunition." Gwelsom ar unwaith y gallasai un ohonom fentro gadael i'r llall saethu i'w lygad o bellder dwylath, a bod yn ddianaf.

"Yr anwyl anwyl," ebe Ifan, yn nyfnder ei siomiant, "ym medrwn i brynu un gwell na hwn am ddime yn siop Sali'r Minceg yn y pentre." Eis i adre'n bendrist iawn. Teimlwn mai myfi oedd wedi ein dwyn ein dau i'r siomedigaeth hon. Ni wyddwn a oedd yn bosib rhoi cyfraith ar John Bottom, gwyddwn fy mod wedi dwyn celfyddyd i warth yng ngolwg Ifan Glan y Nant.

Nos drannoeth daeth Ifan i'n tŷ ni i holi am danaf. Wedi cael lle ein hunain, edrychodd arnaf yn ddoeth, a dywedodd mewn tôn ddieithr,—

"Mi fase'n well i'r hen Fottom beidio."

Aethom allan gyda'n gilydd at lidiart y ffordd, a phan aethom yno, tynnodd Ifan rywbeth yn ofalus o'r gwrych. Bricsen oedd.

"Dyma i ti, cer â hon i Dafydd Sion y Post, a gofyn iddo fo i lapio hi a'r gwn mewn papur llwyd glân. Wedyn tor ddrecsiwm yr hen Fottom arni, a gyrr hi iddo fo heb dalu'r post; heb dalu'r post, cofia."

Dechreuodd Ifan ddarlunio'r gwyneb wnâi’r "hen Fottom," chwedl yntau, wedi datod y parsel, ond methodd ddweyd llawer gan chwerthin

Eis â'r fricsen i'r Post wrth fynd i'r ysgol bore drannoeth. Lapiwyd hi'n ofalus, ond pan ddywedais fy mod am ei gyrru drwy'r post heb dalu ar ei hol, rhoddodd Dafydd Sion ei ddwy law ar y cownter, a gwenodd arnaf mewn distawrwydd. Un hynod iawn oedd Dafydd Sion. Efe a roddasai wybodaeth nacaol bwysig am gyrchfannau'r Gŵr Drwg i fachgen ddaethai yno i ofyn am asafœtida wrth ei enw gwerinol.[1]

"Machgen i," meddai, "yr ydw i'n dy nabod di ac Ifan Glan y Nant, ac mi wn am eich triciau chwi."

Gwridais at fy nghlustiau, gan gofio am dric y llythyr caru. Rhoddais y fricsen dan fy nghesail, a chychwynnais allan yn drist, gan feddwl na chai Ifan ymddial wedi'r cwbl. Yr oedd Dafydd Sion bron ymdorri gan ddigllonedd neu chwerthin. Ebai ef, pan oeddwn yn y drws,—

"Rydw i yn ych nabod chi; ond hwrach nad ydi pobol y rêl we yn y dre ddim."

Yr oedd Dafydd Sion yn ddiacon yn y Capel Draw.

Aeth Ifan â'r fricsen i'r dref yn ffyddlon y diwrnod ffair nesaf; a dyma'r sgwrs, ebai ef, fu rhyngddo â dyn y ffordd haearn,—

"Gai yrru'r parsel yma i Firmingham?"

"Cewch siŵr. Talu yma?"

"Na, talu ono."

"Bydd raid i'r Mr. Bottom yma seinio ei fod wedi cael y parsel yn ddiogel a thalu."

"O mi 'neiff' Mr. Bottom dalu, ond i chi ofalu na thorrwch chi mo'r fri—— gwydr."

Y diwrnod wedyn daeth Ifan ataf yn llawen iawn, a dywedodd,—

"Dal di sylw ar y papur hwnnw lle'r oedd hanes y gwn. Mi fydd hanes torri'r hen Fottom o'r seiat yn y rhifyn nesa am ddeyd geiriau mawr."

Nodiadau[golygu]

  1. cachu'r diafol gwêl. Asafoetida ar Wicipedia