Llyfr Del/Nain

Oddi ar Wicidestun
Y Falwoden Llyfr Del

gan Owen Morgan Edwards

Coeden Olewydd

NAIN

A WELWCH chwi Nain â'i llygad mor llon?
A fuasech chwi'n meddwl mai hen wraig yw hon?
Papur newydd, a spectol, a chader fawr wen,—
Nain ydyw honacw yn siwr, dyna ben.

Na, sbïwch, nid ydyw y spectol yn syth,
Ac fe ddelir y papur i fyny'r tu chwith;
Er eiste'n lle Nain yn y gader wen fawr,—
Dacw goesâu rhy fyrion i gyrraedd y llawr.
Nid Nain ydyw hon,
Ond Gwen fach ddireidus a'i dau lygad llon.



GWEN FACH