Llyfr Del/Plant Dewr

Oddi ar Wicidestun
Maneg Neifion Llyfr Del

gan Owen Morgan Edwards

Y Falwoden

PLANT DEWR

PLANT FYNN DDYSGU EU GWERSI

NID peth hawdd yw dysgu'r wers bob amser, ac y mae'n gofyn plentyn bach dewr yn ddigon aml i fynnu ei dysgu i'r diwedd.

Gwelais fechgyn a genethod lawer tro â dagrau lond eu llygaid wrth ben eu llyfrau; ond yr oeddynt wedi penderfynu gorffen y wers er caleted oedd.

Peth hyfryd iawn yw cyfarfod yr athraw neu'r athrawes yn y bore, os byddwn wedi dysgu ein gwers. Ond, os na fyddwn wedi ei dysgu, bydd ein cydwybod yn euog wrth fynd i'r ysgol, ac nis gallwn fod yn blant dewr.

"Waeth i mi heb ddysgu'm gwers." ebe gŵr bach diog chwech oed unwaith, "yr wyf yn siwr o'i hanghofio ryw dro." ie, ond wrth ddysgu'r wers yr wyt wedi dysgu gorchfygu, a medri orchfygu anawsterau pan ddoi'n ddyn. Os wyt am fod yn ddigon dewr i wynebu llewod, ac i wneyd gwaith mawr pan ddoi'n ddyn, bydd yn ddigon dewr i ddysgu dy wers pan yn blentyn.