Llyfr Del/Tyrus

Oddi ar Wicidestun
Sam Llyfr Del

gan Owen Morgan Edwards

Mewn Cyfyngder

ADFEILION TYRUS

TYRUS

O HOLL ddinasoedd y ddaear, nid oes odid un â hanes mor hir ac mor gyffrous a Thyrus. Awn yn ôl cyn belled ag y medrwn i oesoedd bore hanes dynol ryw, cawn Dyrus yn enwog am ei masnach ac am geinder y gwaith a wneid ynddi.

Un o'r penodau prydferthaf yn y Beibl, o ran dull llenyddol, yw y seithfed ar hugain o Eseciel. Ynddi darlunnir Tyrus, brenhines masnach y byd, fel llong. Yr oedd tai Tyrus yn uchel,—ar benrhyn ac ar ynys yr adeiladasid hi, ac yr oedd lle sylfaen yn brin,—yn codi'n hardd fel hwylbrennau llong, ac nid, fel dinasoedd ereill, yn yswatio ar y ddaear megis.

O dydi yr hon wyt yn trigo wrth borthladdoedd y môr, marchnadyddes y bobloedd i ynysoedd lawer, Tyrus, ti a ddywedaist,—'Myfi wyf berffaith o degwch.' Dy derfynau sydd ynghanol y môr; dy adeiladwyr a berffeithiasant dy degwch. Adeiladasant dy holl ystyllod o ffynidwydd o Senir; cymerasant gedrwydd o Libanus i wneyd hwylbren i ti. Gweithiasant dy rwyfau o dderw o Basan; mintai yr Asuriaid a wnaethant dy feinciau o ifori o ynysoedd Chittim. Llian main o'r Aifft o symudliw oedd yr hyn a ledit i fod yn hwyl i ti, glas a phorffor o ynysoedd Elisah oedd dy dô. Trigolion Sidon ac Arfad oedd dy rwyfwyr; dy ddoethion di, Tyrus, o'th fewn, oedd dy long lywiawdwyr."

Rhydd Eseciel ddarluniad ardderchog o ffeiriau Tyrus. Ceid ynddynt nwyddau pellderoedd Môr y Canoldir,—arian, haearn, alcan, a phlwm. Ceid ynddynt nwyddau'r dwyrain hefyd,—caethion a llestri pres; meirch a mulod; cyrn ifori ac ebenus; carbuncl, porffor, gwaith edau a nodwydd, llian meinllin, a chwrel, a gemau; gwenith a mel ac olew a thriagl; gwin Helbon a gwlan gwyn; cassia a'r calamus; wyn, hyrddod, a bychod; per aroglau, pob maen gwerthfawr, ac aur; pethau godidog,— brethynau gleision, gwaith edau a nodwydd, a chistiau gwisgoedd gwerthfawr, wedi eu rhwymo â rhaffau a'u gwneuthur o gedrwydd. "Llongau Tarsis oedd yn canu am danat; a thi a lanwyd, ac a ogoneddwyd yn odiaeth ynghanol y moroedd."

Ac yna daw'r desgrifiad o gwymp Tyrus, pan fyddai pob morwr yn wylo, ac yn cwynfan "Pwy oedd fel Tyrus, fel yr hon a ddinistriwyd ynghanol y môr?"

Daeth traeth Tyrus yn fan brwydr rhwng y galluoedd oedd i lywodraethu'r byd. Ymosododd Alexander Fawr arni, a chymerodd hi trwy wneyd ffordd o'r cyfandir i'w hynys. Wedi hynny codwyd ei chaerau i wrthwynebu'r Saraseniaid; ac y mae ei hanes yn ddyddorol ryfeddol yn hanes Rhyfeloedd y Groes. Erbyn diwedd y ganrif ddiweddaf yr oedd distawrwydd anghyfanedd— dra'n teyrnasu dros yr ynysig greigiog ar yr hon yr eisteddai brenhines urddasol y moroedd gynt. Ond, erbyn hyn, y mae'n gyfanheddol eto. Ceisir plannu coed a gosod pebyll ar y gwastadedd sydd ar ei chyfer. Ond y mae lle Tyrus yn afiach; ac y mae'n debyg yr erys geiriau Eseciel yn wir,— "Dychryn fyddi, ac ni byddi byth mwyach."