Llyfr Del/Wil Ddrwg
← Cerbydau | Llyfr Del gan Owen Morgan Edwards |
Y Cynhaeaf → |
WIL DDRWG.
YR oedd dau fachgen yn yr hen Lan a lysenwid Wil Ddrwg a Ben yr Ofn. Y mae gwyneb y ddau'n esbonio eu llysenwau,—un ofnus iawn oedd Ben, ac un direidus iawn oedd Wil. Ryw dro cyflogwyd Ben gan y person i chwynnu ei ardd. Dywedid fod ysbryd rhyw hen ladi yn yr ardd; ac yr oedd yn rhan o delerau cyflogiad Ben ei fod i gael dod o'r ardd cyn nos.
Cafodd Ben well cinio nag arfer yng nghegin y person. Eisteddodd ar y fainc yng nghefn y tŷ cyn dechreu chwynnu. Teimlai'n gysglyd iawn; llithrodd i lawr ar y glaswellt, a chyn hir gallesid clywed chwyrnu soniarus yng ngardd Mr. Jones y Person.
Yr oedd dau lygad llon ac effro iawn yn edrych dros y mur ar Ben yr Ofn yn pendwmpian ac yn cysgu.
Dringodd Wil dros y wal, safodd ger Ben y tu ôl i goeden fawr. Yr oedd Ben yn bur anesmwyth yn ei gwsg, a gwelai Wil ei fod yn breuddwydio. Tybiai mai Saesnes oedd y ledi;" a gwaeddodd mewn llais main,—
"Benjamin, what iw dw hiar?"
Deffrodd Ben, a dychryn wedi ei argraffu ar ei wyneb. Edrychodd y tu ôl i'r goeden yn ofnus, ond ni welai ddim. A daeth llais main wedyn,—
"Benjamin, iw plants drwg, whei iw dryllio mei chwyn!"
"Wna i ddim byth eto," llefai Ben mewn ofn mawr, "na wa byth, cered yr hen berson i'w dagu."
Ond erbyn hyn yr oedd Ben yr Ofn wedi ymgripio yn ddigon pell i weld esgid Wil Ddrwg. Mentrodd edrych i fyny, ac yn lle gwyneb erchyll y "ledi," beth welai ond llygaid Wil Ddrwg, a'u llond o ddireidi a chwerthin.