Llyfr Haf/Y Moloch Pigog

Oddi ar Wicidestun
Anifeiliaid y Byd Newydd Llyfr Haf

gan Owen Morgan Edwards

Teulu'r Armadilo

II

Y MOLOCH PIGOG

1 DYMA i chwi un o bethau hyllaf y ddaear. Enw hen dduw'r tân yw Moloch; y mae sôn amdano yn y Beibl. A gair Lladin am bigog neu ddraenog yw Horridus.

2. Creadur bychan yw'r Moloch hwn, rhyw bum modfedd o hyd; pe gosodech ef ar y ddalen hon, buasai digon o le iddo droi heb syrthio oddiarni. Yn rhai o ardaloedd sychion a phoethion Awstralia y mae yn byw. Ni wna unrhyw niwed i chwi; ond pe digwyddech eistedd arno, nid arno ef y buasai'r bai.

Y mae natur wedi rhoi pigau i rai i'w hamddiffyn; gwelwch hwy ar ei ben, ei wddw, ei gefn, ei gorff afrosgo, ei goesau dilun, a'i gynffon hagr. Y mae'r pigau yn ei wneud yn ddiogel a chysurus, ac nid yw ef yn eu gweld yn hagr. Gŵyr na all dim ei frathu ond iddo gau ei lygaid a chau ei geg.

Mewn dull gwahanol iawn y mae natur yn anddiffyn plentyn bach. Rhydd dlysni ar ei rudd, a hoffter yn ei lygaid. Nerth plentyn yw ei ddiniweidrwydd, bod heb bigau. Ond y mae ambell ddyn yn mynnu magu pigau. Y mae yn meddwl yn ddrwg am bobl eraill, y mae ei deimlad yn suro, tybia fod pawb yn ei erbyn, y mae ei enaid yn bigau drosto i gyd. Meddwl eraill yn dda o bawb, y mae eu gwên heulog, a'u gair caredig, a'u cymwynas barod yn adnabyddus i bawb.

Moloch Horridus

3. Mae gan y Moloch berthynasau tebyg iddo. yn yr India, yn yr Aifft a Phalestina, ac yng nghanolbarth yr Amerig, pob un â'i bigau. Diflannu o'r byd y mae pethau hyllion. Y mae creaduriaid sydd â dannedd cryfion, rheibus, fel rhai'r llew; neu rai ag ewinedd nerthol, fel rhai'r dywalgi; neu rai sydd â phig ysglyfaethus, fel un yr eryr neu rai â gwenwyn yn eu dannedd, fel y wiber,—y mae'r rhai hyn oll, a'u tebyg, yn darfod o'r byd. Ond am. greaduriaid dof, tirion, diniwed, fel y fuwch a'r ddafad, y mae y rhai hynny yn amlhau ac yn llenwi'r ddaear. Y mae plant cas, angharedig, yn darfod o'r tir; a phlant bach mwyn yn etifeddu'r ddaear.

Nodiadau[golygu]