Llyfr Nest/Ffarwel

Oddi ar Wicidestun
Ystraeon y Lleill Llyfr Nest

gan Owen Morgan Edwards

Geirfa

Ffarwel

Y MAE llawer o ameser er pan ddigwyddodd yr ystraeon yn y llyfr hwn. Yr oedd taith Nest tuag amser y rhyfel yn Neheudir Affrig: ac y mae honno yn hen erbyn hyn, ac nid oes yr un plentyn yn ei chofio. Y mae'r hen forwr eto'n fyw. Ond nid yw ar y môr mwyach. Y mae wrth ei bentan, yn gloff, ac ychydig yn fyddar. Ond ni raid i chwi ond crybwyll am stori, na chofia ar unwaith am bethau rhyfedd ddigwyddodd iddo ef.

Byddaf yn cael golwg weithiau ar y dyn unig. Y mae'n brysur iawn, mi glywais. Ond y mae ei egni a'i hiraeth wedi gwneud ei gorff yn wan, er eryfed yw ei ddeall.

Mae'r hen gadfridog wedi huno. Gwelais ei fodd mewn llecyn tawel iawn, a chroes Geltaidd dal, urddasol, yn tystio fod ei ymdrech dêg ar ben, ei gleddyf dan rwd, a phalmwydd heddwch yn ei law.

Bydd y genhades yn dod i edrych am Nest pan ddaw i'r wlad hon. Prudd yw llawer o'i hystraeon hi, ond dwys a thyner. Y mae wedi ymroddi yn hollol i'w gwaith mawr, ac ni ddaw adre ond i gael adgyfnerthiad i'w hiechyd.

Ac y mae Nest, erbyn hyn, wedi gadael dyddiau hyfryd plentyndod o'i hol. Yr oedd y daith honno yn well iddi nag ysgol na choleg. Y mae ganddi syniad gweddol glir am eangder y byd, ac am amrywiaeth diderfyn ei bobl. Hoffodd ei chyd­- deithwyr, ac y mae'n dal i gofio am danynt oll ac i ymohebu a rhai.

Erbyn hyn, medr adrodd ystori yn dda ei hun. Medr gyfaddasu y stori at feddwl y rhai fydd yn gwrando; ac y mae ganddi gyfeillion bychain, sy'n dyfal ddisgwyl wrthi am ystori glywodd gynt ar y mor.