Llyfr Owen/Hans Cristion Andersen

Oddi ar Wicidestun
Y Graig Losg Llyfr Owen

gan Owen Morgan Edwards

Pen Bendigaid Fran
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Hans Christian Andersen
ar Wicipedia

V

HANS CRISTION ANDERSEN

1. YR oedd gŵr enwog unwaith yn ninas Copenhagen, yr hon, fel y gwyddoch, yw prifddinas Denmarc. Ac oherwydd ei enwogrwydd fel llenor, penderfynodd ei gydwladwyr, y Daniaid, godi cofgolofn o fynor gwyn iddo yn ystod ei fywyd. Dangoswyd cynllun y gofgolofn iddo; a phan welodd hi, beth a wnaeth ond gwylltio a blagardio.

Y rheswm oedd eu bod wedi rhoi nifer o blant i sefyll o'i amgylch yn y cerflun, yn ei edmygu ac yn ei anwylo. "Ni fynnaf monynt," meddai. "Ni fynnaf mo'r pethau bach digrif o'm cwmpas. Nid bardd plant wyf i, ond bardd pobl. Ewch â hwy i ffwrdd. Ni fedrwn i byth adrodd ystori a phlant yn gwasgu yn fy erbyn, neu'n dringo ar fy nglin neu ar fy nghefn. Ni fynnaf mo blantos Copenhagen i dyrru o'm cwmpas."

2. Ond fel llenor y plant y cofir am Hans Cristion Andersen. Yr ydych, hwyrach, wedi clywed rhai o'i ystraeon. Un ohonynt ydyw ystori Inger. yr eneth fach falch a roddodd dorth yn y ffos i gamu trosodd, rhag difwyno'i hesgidiau newydd. Un arall yw ystori yr hwyaden fach hyll, a fu dan wawd a dirmyg ymysg yr hwyaid oherwydd hagrwydd ei choesau hirion, afrosgo, ond a ddaeth yn harddach na'r un ohonynt wrth dyfu, oherwydd mai alarch oedd hi. Ef hefyd a adroddodd hanes yr eneth fach a werthai fatsus ac a'u taniodd ar noson eiriog i weled ei ffordd i'r nefoedd.

Ond ychydig o'r plant a adwaeni sydd yn gwybod fath un oedd adroddwr yr ystorìau. A hoffech chwi wybod? Wel, gwrandewch, ynteu.

3. Mab i grydd oedd Hans Cristion Andersen. Ganwyd ef Ebrill 2, 1805; ac yr oedd llawer yn meddwl y buasai yn fwy priodol pes ganesid ddiwrnod yn gynt. Oherwydd bachgen digrif yr olwg arno, a chwerthinllyd o hyll, oedd. Ond ystyriai ef ei hun yn fachgen hardd ac urddasol, llawn o bwysigrwydd ac athrylith; ac wrth ei weld yn cerdded, â'i ben yn y gwynt, chwarddai'r bobl fwy.

Pentref Odense, ar ynys Funen, un o ynysoedd Denmarc, oedd ei gartref. Yr oedd ei dad yn ddyn breuddwydiol; yn byw, nid ynghanol ei dwr esgidiau, ond mewn cestyll yn yr awyr. Ac un felly oedd y bachgen; a thra gwawddi pawb ei gampau anystwyth—y dawnsio, y barddoni. a'r pendroni—fe'i gwelid ef ei hun ar Iwybr llwyddiant a bri anfarwol.

Pan yn bedair ar ddeg oed, newydd ei dderbyn at yr ordinhad, trodd ei gefn ar yr ynys, ac aeth i Copenhagen, i wneud ei fìortiwn. Ac yno y bu, druan, yn gyfì gwawd y cantorion a'r beirdd; ond yn dal i gredu'n ffyddiog ynddo ef ei hun. Ac o'r diwedd dechreuodd pobl gredu bod rhywbeth yn y bachgen rhyfedd, heglog, dilun, wedi'r cwbl. Dechreuodd deithio, a darluniodd ei "Droeon" mewn llyfrau diddorol—gwlad wastad Jutland, mynyddoedd yr Harts, yr Eidal, yr Yswisdir, a Ffrainc. Yna daeth caneuon, dramodau, a nofelau. Ond, pan ddechreuodd ysgrifennu storïau i blant, daeth pawb i'w edmygu. A cheid mab diolwg y crydd o'r ynys bell—un prin y credid ei fod cyn galled a bechgyn eraill—yn un a urddasol groesawid yn llŷs y brenin ei hun.

Caled a didrugaredd fu'r bechgyn eraill wrtho; ac y mae'n debyg na fu ef yn teimlo fel bachgen erioed. Ond medrai daflu rhyw swyn rhyfedd i hen ystraeon plant. Ac oni bai am y rhai hynny, ni buasai neb yn cofìo am ei enw heddiw. Bu farw Awst 4, 1875, yn ei dŷ ger Copenhagen; a galarodd gwlad serchog amdano.