Llyfr Owen/Y Pysgotwr a'r Môrwas

Oddi ar Wicidestun
Y Fôr-forwyn Fach Llyfr Owen

gan Owen Morgan Edwards

Ty'n y Gwrych

XVIII

Y PYSGOTWR A'R MORWAS

1—LLAWER hanes rhyfedd a geir am y fôr- forwyn a'r môr-ddyn yn Ynysoedd Sietland,—swp o ynysoedd a saif ryw gan milltir i'r gogledd o'r Alban. Yn ôl cred yr ynyswyr hyn, y mae gwlad deg odiaeth yng ngwaelod y môr, a breswylir gan fodau tebyg o ran ffurf a gwedd i breswylwyr daear, bodau o'r prydferthwch mwyaf swynol.

Y mae'r bodau glandeg hyn, fel pysg y dyfnder yn gallu tramwy trwy y dwfr. Meddant hefyd ar alluoedd sydd braidd yn oruwchnaturiol, ond eto maent yn agored i farw fel ninnau.

Am y wlad danforol honno dywedir ei bod o faintioli mawr, ac nid ar waelod y môr y mae, ond tan waelodion y môr, fel y mae llawr y môr a dyfrol fyd y Pysgod yn ffurfio to uwch ei phen. Yn y diriogaeth bell, isfor honno, y mae'r trigolion wedi adeiladu iddynt eu hunain anheddau gwych o gwrel a pherlau'r dyfnfor.

2. Ond eto, sylwer, ni all y bodau tanforol hyn dramwy trwy y dwfr ac anadlu ynddo yn eu ffurf gynhenid eu hunain, yn y ffurf a'r wedd sydd arnynt pan yn byw yn eu gwlad eu hunain; a hynny am y rheswm eu bod yn meddu ysgyfaint fel yr eiddom ninnau i anadlu'r awyr. Ac felly, er mwyn medru tramwy yn ôl a blaen rhwng ein byd ni a'u byd hwythau trwy ddyfnion ddyfroedd y weilgi, y maent yn gorfod gwisgo am danynt groen rhyw greadur dyfrol, rhyw greadur a fedr fyw ac anadlu yn y dwfr.

Y creadur y maent hoffaf o fenthyca ei groen yw'r morlo neu'r moelrhon; oblegid gall hwnnw, fel y llyffant, fyw yn y dŵr lawn cystal ag ar y tir. Ac felly gellir eu gweled, y bodau teg, isfor hyn, yn aml yn dod i fyny o'r dyfnder, ac yn dringo ar ryw graig neu ynys yn y môr, neu i ryw gilfach ddirgel ar y glannau; ac yno yn diosg y wisg fôr oddi amdanynt, ac yn ymddangos yn eu dull a'u gwedd eu hunain.

A golwg wen, lân, a swynol fydd arnynt hefyd y pryd hwnnw, yn eistedd felly ar ryw astell o graig, gan daflu eu golygon hyd wyneb y môr, a syllu ar y glannau gwyrddleision ac anheddau dynion. Ond bodau hynod lednais, gwylaidd ac ofnus ydynt; ac felly yn caru yr encilion a mannau anhygyrch. Y mae un peth arall pur hynod ynglŷn â phob un ohonynt, yn fôrwas ac yn fôrfun,—nid oes ganddynt ond un croen morlo, un gwisg fôr bob un; ac os collant honno pan fyddant yma yn ein byd ni, ni allant ddychwelyd adref hebddi, trwy ddyfnion lwybrau'r môr, a bydd raid iddynt ymfodloni i fyw ar y ddaear.

3. Ac yn awr am y stori. Unwaith, glaniodd llond cwch o ddynion ar un o'r ynysoedd bychain, creigiog, sy'n gorwedd ar Ynysoedd lannau'r Sietland, gyda'r amcan o ddal a lladd y morloi a dorheulai yno. Peth yn symud yn ddigon hwyrdrwm ac afrosgo ar dir yw y morlo; ymlusga ymlaen ar ei dor gan arfer ei adenydd fel traed, a cheisio cyrraedd i'r dŵr cyn i'w erlynydd ei ddal.

Y dull a gymerir i'w dal yw, rhoddi dyrnod drom iddynt ar eu pen, gyda phastwn neu rwyf, yr hyn fydd yn eu parlysu, a'u gwneud yn ddiymadferth. Yna tarewir ati i'w blingo,— oblegid er mwyn y crwyn blewog sidanaidd y byddir yn eu hela felly.

Wel, yr oedd y dynion wedi gorffen eu gwaith am y diwrnod hwnnw, wedi dal a blingo llawer o'r morloi, wedi llanw y cwch a'r crwyn, ac yn paratoi i rwyfo yn ôl am y lan, ac am eu cartrefi ar yr ynys a elwid Papa Stŵr.

Yn sydyn, cwyd y môr a'r llanw yn froch a gwyllt o'u cwmpas, a phawb yn rhuthro'n chwim am y cwch; ac y maent oll ond un, yn llwyddo i neidio iddo; yr oedd yr un hwnnw wedi rhyw hongian yn ôl, yn lle prysuro am y cwch pan welodd y perygl, ac y clywodd waedd ei gymdeithion.

Er i'r morwyr wneud pob ymgais dichonadwy i'w gael i'r cwch oddiar y greiglan, methu fu, er iddynt beryglu eu bywyd yn yr ymgais. Bu raid iddynt adael y truan ar y graig i'w dynged. Dynesodd y nos,—noson ddu, dymhestlog,—ac ni welai yr adyn obaith ymwared o umnan,—dim ond trengi o ryndod a newyn, neu gael ei ysgubo oddiar y graig i'r dyfnder gan y tonnau broch a brigwyn a ruai'n uwch, uwch o'i gwmpas. Ac yntau'n sefyll yno felly, ynghanol gwawch y gwyntoedd a rhu y tonnau, gwelai haid o'r morloi, a llwyddasai i ddianc oddiar ffordd y pysgotwyr, yn dod yn ôl tua'r ynysig greigiog yr oedd ef arni, yn dringo i fyny arni, yn ymddiosg o'r forwisg o groen oedd am danynt, ac yn sefyll i fyny yn eu ffurf a'u gwedd gynhenid, fel meibion a merched y wlad danforol.

4. Y maent yn ddiymdroi yn dechrau chwilio am eu ceraint a'u cydnabod, a oedd wedi eu dyrnodio'n gelain, a'u blingo, ar hyd y lle. Wedi i'r trueiniaid blinedig hyn ddod atynt eu hunain, ymddadebru o'u pensyfrdandod, ymnewidiant i ffurf môrweision a môr-forynion; ac yna dechreuant gwyno ac ochain mewn math ar brudd alargan dorcalonnus, eu bod wedi colli eu mòrwisg.

Ac O! yr oedd eu cân yn swnio'n lleddf gwynfanus yn gymysg â dadwrdd terfysglyd gwynt y môr,—cwyno'n drist ddolefus na chaent ddychwel byth yn ôl i'w hoff a'u hannwyl drigfannau perl a chwrel, tan lasddu ddyfroedd Iwerydd ehangfaith.

Ond ymhlith y dyrfa gwynfanus oedd o gwmpas y dyn a adewsid ar ôl ar yr ynys, prif destun y galar a'r cwyno oedd Olafìtinus fab Gioga. Yr oedd Olafitinus wedi ei ysbeilio o'i groenwisg, ac felly wedi ei ysgaru yn llwyr ac am byth oddiwrth ei deulu a'i garennydd, a'i gondemnio i fyw bywyd yr alltud digartref ar glawr daear. Modd bynnag, dacw eu cân yn tewi yn swta, oblegid canfyddant y dyn, druan, un o'u gelynion, yn ymledu'n rhynllyd, ofnog, ar ddannedd y graig gerllaw. Gwelant yn ei lygad ei fraw a'i anobaith yn yr olwg ar y llanw broch ymddyrchol ruai o'i gwmpas, heb ddim ond boddi yn ei aros.

Pan welodd Gioga ef,—Gioga oedd mam Olafìtinus,—tery i'w meddwl y gallai wneud defnydd o'r dyn hwn i geisio rhyddhad a dihangfa i'w mab o'i alltudiaeth yn y byd uchod.

Ar hyn, y mae yn ei gyfarch, yn fwyn ac yn foesgar, ac yn cynnig ei achub o'i berygl, trwy ei gludo ar ei chefn trwy'r gwynt a'r tonnau i'r lan i Papa Stŵr, ar yr amod ei bod i gael y croen morlo oedd yn fôrwisg i Olafitinus.

Balch oedd y dyn i dderbyn y cynnig; ac y mae Gioga yn gwisgo ei môrwisg amdani yn y fan, ac yn paratoi i nofio am y lan.

Ond yn yr olwg ar wyllt gynnwrf y môr trochionog, y mae'r dyn yn rhyw ofni'r fordaith; ac erfyn ganiatâd y fôrfam i dorri dau dwll yng nghroen ei gwddf, i gael gwell gafael llaw, a dau dwll arall yn ei dwy ystlys yn afael troed. Y mae hithau yn caniatáu hynny, ac yntau yn cymryd gafael gadarn, ewingraff', yn ei farch rhyfedd.

Trwy dduwch y nos, a chynddaredd y dymestl, cyrhaeddant y lan, yn chwim ac yn ddiogel ym mhorthladd Acres Gio yn Papa Stŵr. Yn syth uniongyrch y mae'r dyn yn mynd a Gioga at y crwyndy i Hamna Foe. Yno, y mae hithau yn pigo allan groenwisg ei mab, Olafìtinus, ac yn troi yn ôl tua'r môr yn hoyw lawen,—y cytundeb wedi ei gadw yn anrhydeddus o'r ddwy ochr. Ac yn fuan y mae Olafitinus yn dychwel, gyda chalon ddiolchgar, tua'r trigfannau dedwydd o berlau a chwrel dan waelodion tawel Iwerydd.