Llys Owain Glyndŵr yn Sycharth
Gwedd
gan Iolo Goch
- Addewais yt hyn ddwywaith,
- addewid teg, addaw taith.
- Taled bawb, tâl hyd y bo,
- ei addewid a addawo.
- Pererindawd, ffawd ffyddlawn,
- perwyl mor annwyl mawl iawn,
- myned, mau adduned ddain,
- lles yw, tua llys Owain.
- Yno yn ddidro ydd af,
- nid drwg, ac yno trigaf
- i gymryd i'm bywyd barch
- gydag ef o gydgyfarch.
- Fo all fy naf uchaf ach,
- aur ben clêr, dderbyn cleiriach.
- Clywed bod, nis cêl awen,
- ddiwarth hwyl, yn dda wrth hen.
- I'w lys ar ddyfrys ydd af,
- o'r deucant odidocaf.
- Llys barwn, lle syberwyd,
- lle daw beirdd aml, lle da byd.
- Gwawr Bowys fawr, beues Faig,
- gofuned gwiw ofynaig.
- Llyna y modd a'r llun y mae:
- mewn eurgylch dwfr mewn argae.
- Pand da'r llys, pont ar y llyn,
- ac unporth lle'r âi ganpyn?
- Cylpau sydd, gwaith cwplws ywnt,
- cwpledig bob cwpl ydynt.
- Clochdy Padrig, Ffrengig ffrwyth,
- cloystr Westmestr, cloau ystwyth.
- Cenglynrhwym bob congl unrhyw,
- cafell aur, cyfa oll yw.
- Cenglynion yn y fron fry
- dordor megis deardy,
- a phob un fal llun llynglwm
- sydd yn ei gilydd yn gwlm.
- Tai nawplad fold deunawplas,
- tŷ pren glân mewn top bryn glas.
- Ar bedwar piler eres
- mae'i lys ef i nef yn nes.
- Ar ben pob piler pren praff,
- llofft ar dalgrofft adeilgraff,
- a'r pedair llofft, o hoffter,
- yn gydgwplws lle cwsg clêr.
- Aeth y pedair disgleirlofft,
- nyth lwyth teg iawn, yn wyth lofft.
- To teils ar bob tŷ talwg,
- a simnai ni fagai fwg.
- Naw neuadd gyfladd gyflun,
- a naw wardrob ar bob un.
- Siopau glân, gwlys gynnwys gain,
- siop lawndeg fel Siêp Lundain.
- Croes eglwys gylchlwys galchliw,
- capelau a gwydrau gwiw.
- Pob tu'n llawn, pob tŷ'n y llys,
- perllan, gwinllan, gaer wenllys.
- Parc cwning meistr pôr cenedl,
- erydr a meirch hydr mawr chwedl.
- Garllaw'r llys, gorlliwio'r llall,
- y pawr ceirw mewn parc arall.
- Dolydd glân gwyran a gwair,
- ydau mewn caeau cywair.
- Melin deg ar ddifreg ddŵr,
- a'i golomendy gloyw maendwr.
- Pysgodlyn, cudduglyn cau,
- a fo rhaid i fwrw rhwydau;
- amlaf lle, nid er ymliw,
- penhwyaid a gwyniaid gwiw.
- A'i dir bwrdd a'r adar byw,
- peunod, crehyrod hoywryw.
- A'i gaith a wna bob gwaith gwiw,
- cyfreidiau cyfair ydyd,
- dwyn blaenffrwyth cwrw Amwythig,
- gwirodau, bragodau brig,
- pob llyn, bara gwyn a gwin,
- a'i gig, a'i dân i'w gegin.
- Pebyll y beirdd pawb lle bo,
- pe beunydd caiff pawb yno.
- A gwraig orau o'r gwragedd,
- gwyn 'y myd o'i gwin a'i medd!
- Merch eglur llin marchoglyw,
- urddol hael o reiol ryw.
- A'i blant a ddeuant bob ddau,
- nythaid teg o benaethau.
- Anfynych iawn fu yno
- weled na chlicied na chlo,
- na phorthoriaeth ni wnaeth neb,
- ni bydd eisiau budd oseb,
- na gwall, na newyn, na gwarth,
- na syched fyth yn Sycharth.
- Gorau Cymro tro trylew
- Biau'r wlad, lin Bywer Lew,
- gŵr meingryf, gorau mangre,
- a phiau'r llys; hoff yw'r lle.