Neidio i'r cynnwys

Llythyrau Goronwy Owen/Llythyr 1

Oddi ar Wicidestun
Rhagymadrodd Llythyrau Goronwy Owen


golygwyd gan John Morris-Jones
Llythyr 2

LLYTHYRAU GORONWY OWEN.


𝕷𝖑𝖞𝖙𝖍𝖞𝖗 1.

At W. ELIAS, Plas y Glyn, Mon


Y CELFYDDGAR FRTTWN A'M HANWYL GYFAILL GYNT,

СHWI a glywsoch sôn, nid wyf yn ammeu, am ryfeddol gynheddfau yr ehedfaen (load—stone) pa wedd y tynn atto bob math o ddur a haiarn; nyni a wyddom fod y gynneddf hon yn yr ehedfaen, a'r haiarn hefyd, ac a allwn weled â'n llygaid. yr effeithiau rhyfeddol uchod; ond ni's gwyddom pa fodd, na phaham y mae y peth yn bod; oblegid bod hyn, cystal ag amryw ereill o ddirgelion natur, yn fwy nag a allodd holl ddoethion a dysgedigion byd erioed ei amgyffred.

Ni fedraf lai na meddwl fod rhyw beth tra chyffelyb i hyn yn natur dyn, yr hyn a bâr iddo gynhesu wrth ryw un, ac ymhoffi ynddo, yn hytrach nag ereill, er nas dichon ddirnad pa fodd na phaham, neu am ba achos.

Am danaf fy hun, mi allaf ddywedyd, er dechreuad ein cydnabyddiaeth, na welais i yr un y bai hoffach genyf oi gymdeithas na William Elias; a llawer gwaith yr amcenais ysgrifennu attoch, pe gwybuaswn pa sut: o'r diwedd mi a gefais wybodaeth o Gymru, yn mha le yr ydych yn byw. Mi fynaswn i'r awen dacluso peth ar fy ymadroddion rhydlyd ac anystwyth: ni fynai mo'm clywed, er taer ymbil ohonof fel hyn :—

BARDD.

Dos, fy nghân, at fardd anwyl,
Os byddi gwan, na bydd gwyl:
Bydd gofus, baidd ei gyfarch,
Dywed dy bwyll, a dod barch.


AWEN.


Os i Fôn y'm hanfoni,
Pair anglod i'th tafod ti;
Bydd gyfarwydd dderwyddon,
Gwyr hyddysg y'mysg gwyr Môn;
Priod iddi, prydyddiaeth,
Ca'dd beirddion ym Môn eu maeth;
Môn sydd ben er ys ennyd,
Ar ddoethion a beirddion byd,
Pwy un glod, a'i thafodiaith?
A phwy yn un a'i phen iaith?
Tithau waethwaeth yr aethost,
Marw yw dy fath, mawr dy fost;
Nid amgen wyd, nad ymgais,
Dirnad swrn, darn wyd o Sais;
A'r gwr, i'r hwn y'm gyrri,
Nid pwl ful dwl yw, fel di;
Ond prif-fardd yw o'r harddaf,
Am dy gân, gogan a gaf;
Hawdd gwg, a haeddu gogan,
Deall y gwr dwyll y gân;
Un terrig yw, nid hwyrach,
Gwn y chwardd am ben bardd bach.

BARDD


O Gymru lân yr hanwyf,
Na cham ran, a Chymro wyf:
A dinam yw fy mamiaith,
Nid gwledig na chwithig chwaith.
Bellach, dos, ac ymosod,
Arch dwys, atto f' annerch dod,
A gwel na chynnyg William
Elias na chas na cham.

Hyd yma mi a'i llusgais gerfydd ei chlust, ac yma hi a'm gadawodd; a sorri a ffromi a wnaethym innau, ac ymroi i ysgrifennu y rhan arall heb gynghanedd, yn hytrach nag ymddangos â'r awen, a bod yn rhwymedig iddi. Nid oes gennyf ddim newydd a dal ei ddywedyd i chwi, am nad adwaenoch y lle na'r trigolion. Mae genyf ddau fab, enw yr ieuengaf yw Goronwy. Yr wyf wedi cymeryd ail afael ar fy Ngrammadeg Cymraeg, a ddechreuais er ys cyhyd o amser; ac y mae'r gwaith yn myned ym mlaen fel y falwen, o achos bod genyf ormod o waith arall ar fy llaw. Mi a ddymunwn arnoch yrru i mi lythyr & rhyw faint o'r hen gelfyddyd ynddo, gynta' ag y caffoch ennyd.—Eich ufudd wasanaethwr, o ewyllys da,

GORONWY OWEN.
DONNINGTON, Tachwedd 30, 1751.

Nodiadau

[golygu]