Llythyrau Goronwy Owen/Llythyr 10
← Llythyr 9 | Llythyrau Goronwy Owen golygwyd gan John Morris-Jones |
Llythyr 11 → |
𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 10.
At WILLIAM MORRIS.
GAREDIG SYR A'M HANWYL GYDWLADWR, LLYMA eich epistol o'r 30n o Ragfyr o'm blaen, a chan diolch am dano. Da ydyw'r newydd fod y teulu ieuaingc wedi dyfod trwy y rhan gwaethaf o'r frech wen. Mi ddymunwn, pe mynnai Dduw, fod fy neu—fab innau yn yr un cyflwr. Mae yr frech wen, er nad gwyn ei gwaith, yn britho llawer wyneb yn y parthau hyn, ac yn priddo rhai, er na channadhaodd Duw iddi etto ymweled a'm teulu i. Diolch am y canu Coch. Mi dygaswn fod Huw yn lewach dyn na hyn. Ni thalai fy Nghywydd i gaccymwcci; a hwn ynteu, rhyngoch chwi a minnau, nid yw ond
Cywydd o waith prydydd pren—
Bawach na gwaith Mab Owen;
ond gobeithio yr wyf fod fy Nghywydd i yn beth gwell yr awrhon, nag oedd pan yrrais ef i chwi; oblegid mi a newidiais gryn ddarn o honaw cyn ei yrru i Allt Fadog ac i'r Navy Office. Mi glywais o Allt Fadog ddwywaith er pan ysgrifenais attoch o'r blaen. Yn y diweddaf onid un o Allt Fadog yr oedd atteb oddi wrth Mr. Meyrick o Fodorgan, nad oedd wiw meddwl am Gristiolus. Felly dalied yr hen Gorph ei afael yn y pared yr hyd a fynno, Mae genyf gan diolch i Mr. Ellis am ei ewyllys da. 'Rwyf yn coelio mai gŵr o'r mwynaf yw i'r sawl. a'i deallo; a thybio yr wyf, pe buasai gas genyf ef, yr hyn ni bu erioed, y gwnaech imi ei hoffi heb y gwaethaf imi. Peth mawr yw clywed geirda i un gan wyrda fal chwi ac eraill a ellir eu coelio. Mi wn na chair clod gan y cyfryw heb ei haeddu; o herwydd fod pob gŵr da uwchlaw rhagfarn a gwêniaith. Ni fynnwn i iddo er dim gymmeryd trafferth arno i chwilio am Bentiriaeth i mi. Fe allai y darparai Dduw imi rywbeth cyn bo hir. Nid wyf ar fedr aros yma ond lleiaf fyth ag a allwyf: ond gwell aros yn unman na drwgrodio.
I would not have him bespeak or engage anything for me; for that may disappoint somebody. All that I desire is, to hear what vacancies there are, and how much worth, and let the accepting be in my own choice; otherwise I may be tied, nolens volens, to a blind bargain. Ie, drud gethin yw argraffu cywyddau yn y Mwythig, yn enwedig os mynnir papur da. Ni chlywais oddi wrth y Person Williams er ys talm mawr of amser. Nid gwiw genyf ymhel ag ysgrifenu nodau ac esponiadau hyd onis gwypwyf yn sicr pa'r un a wneir, ai eu hargraffu ai peidio; ond nid ydyw hyny, deued a ddêl, oddi ar waith dwy awr neu dair o amser. Gweled yr wyf nad yw ond gwaith gwellt imi roi fy ewyllyswyr da i'r gost o argraffu peth er fy mwyn i, na wna ffyrlingwerth o les i mi na hwythau, ond rhoi gwaith i ambell geceryn i 'spio gwallau ac i'm coegi a'm cablu am fy ngwaith. Llyna arfer rhan fawr o bobl Fôn, ie a phobl gwlad arall, gynt; ac cdid eu bod etto nemmawr gwell eu moesau. Am hyny synhwyrolaf y tybiwn adael iddynt ganu dyriau Elisa Gowper o Lanrwst, yr hyn fo hoffaf ganddynt. Etto gwnewch chwi a fynnoch. Os eu hargraffu a welwch yn orau, ni phrisiaf i ddraen am y cabl a'r gogan a gaffwyf gan bennaubyliaid. Prin iawn yw yr arian gyda mi,—prinach o lawer na'r cywyddau,—ac onide ni fyddwn 'chwaith hir yn ymarofyn pa un a wnaid eu hargraffu ai peidiaw.
- Ydwyf eich Gwasanaethwr,