Llythyrau Goronwy Owen/Llythyr 13
← Llythyr 12 | Llythyrau Goronwy Owen golygwyd gan John Morris-Jones |
Llythyr 14 → |
𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 13.
At WILLIAM MORRIS.
FY ANWYL GAREDIG GYDWLADWR,
DYMA fi yn Walton o'r diwedd, ar ol hir ludded yn fy nhaith. Mi gyrhaeddais yma bore ddoe, ynghylch dwy awr cyn pryd gwasanaeth; a'r Person a'm derbyniodd yn groesawus ddigon. Ond er maint fy lludded, fe orfu arnaf ddarllen y gwasanaeth a phregethu fy hun y bore, a darllen gosper yn y prydnawn, ac yntau a bregethodd. Y mae y gwr yn edrych yn wr o'r mwynaf; ond yr wyf yn deall fod yn rhaid ei gymmeryd ef yn ei ffordd. Mae y gwas a'r forwyn (yr hyn yw yr holl deulu a fedd) yn dywedyd mai cidwm cyrrith, anynad drwg—anwydus aruthr yw: ond pa beth yw hynny i mi? Bid rhyngddynt hwy ac yntau am ei gampau teuluaidd; nid oes i mi ond gwneyd fy nyledswydd, ac yno draen yn ei gap. Hyn a allaf ei ddywedyd yn hy am dano, na chlywais erioed haiach well pregethwr, na mwynach ymgomiwr. Climmach o ddyn amrosgo ydyw— garan anfaintunaidd—afluniaidd yn ei ddillad, o hyd a lled aruthr, anhygoel, ac wynebpryd llew, neu ryw faint erchyll- ach, a'i ddrem arwguch yn tolcio ym mhen pob chwedl ddigrif, yn ddigon er noddi llygod yn y dyblygion; ac yn cnoi dail yr India hyd oni red dwy ffrwd felyngoch hyd ei ên. Ond ni waeth i chwi hynny na phregeth, y mae yn un o'r creaduriaid anferthaf a welwyd erioed y tu yma i'r Affric. Yr oedd yn 'swil gennyf ddoe wrth fyned i'r Eglwys yn ein gynau duon fy ngweled fy hun yn ei ymyl ef, fel båd ar ol llong.
Bellach e fyddai gymmwys rhoi i chwi ryw gyfrif o'r wlad o'm hamgylch; ond ni's gwn etto ddim oddi wrthi, ond mai lle drud anial ydyw ar bob ymborth: etto fe gynnygiwyd i mi le i fyrddio (hyd oni chaffwyf gyfle i ddwyn fy nheulu attaf) yn ol wyth bunt y flwyddyn; a pha faint rhattach y byrddiwn ym Môn? Nid yw y bobl y ffordd yma, hyd y gwelaf fi, ond un radd uwchlaw Hottentots; rhyw greadur- iaid anfoesol, didoriad. Pan gyfarfyddir & hwy, ni wnant onid llygadrythu yn llechwrus, heb ddywedyd pwmp mwy na buwch; etto yr wyf yn clywed mae llwynogod henffel, cyfrwys-ddrwg, dichellgar ydynt: ond yr achlod iddynt, ni'm dawr i o ba ryw y b'ont.
Pymtheg punt ar hugain yw yr hyn a addawodd fy Mhatron i mi; ond yr wyf yn deall y bydd yn beth gwell na'i air. Ni rydd i mi ffyrling chwaneg o'i bocced; ond y mae yma Ysgol råd, yr hon a gafodd pob Curad o'r blaen, ac a gaf finnau oni feth ganddo: hi dâl dair punt ar ddeg yn y flwyddyn. Fel hyn y mae: pan fu farw y Curad diweddaf, fe ddarfu i'r plwyfolion roi yr Ysgol i'r clochydd; ac yn wir, y clochydd a fyddai yn ei chadw o'r blaen, ond bod y Curad yn rhoi iddo bum punt o'r tair ar ddeg am ei boen. Ond nid oes, erbyn edrych, gan y plwyfolion ddim awdurdod i'w rhoi hi i neb; ond i'r Person y perthyn hynny; ac y mae efe yn dwrdio gwario 300 neu 400 o bunnau cyn y cyll ei hawl. Felly yr wyf yn o led sicr o'i chael hi; ac oni chaf, nis gwn yn mha le y caf dŷ i fyw ynddo; odid i mi ei chael hithau gryn dro etto, tu a'r Mehefin neu y Gorphenaf, ysgatfydd, pan ddel yr Esgob i'r wlâd.
Os yw J. D. Rhys heb gychwyn, gyrrwch ef yma gyd A'r llong nesaf; a byddwch sicr o lwybreiddio ef, a'ch holl lythyrau, at Rev. G. Owen, in Walton, to be left at Mr. Fleetwood's, Bookseller, near the Exchange, Liverpool. Mi a welais yn Liverpool yma heddyw rai llongwyr o Gymru, ie, o Gybi, y rhai a adwaenwn gynt, er na's adwaenent hwy mohono fi, ac na's tynnais gydnabyddiaeth yn y byd arnynt, amgen na dywedyd mai Cymro oeddwn o Groesoswallt (lle na's adwaenent hwy,) ac felly yr wyf yn dyall fod yn hawdd cael y peth a fynnir o Fôn yma. Ond drwg iawn gennyf glywed fod Mr. Ellis anwyl yn glaf. Er mwyn Duw rhowch fy ngwasanaeth atto, a chann ddiolch am y Dr. Davies.
Nid oes gennyf ddim ychwaneg i'w ddywedyd yn awr, ond bod y genawes gan yr awen wedi naghau dyfod un cam gyda myfi y tu yma i'r Wrekin (the Shropshire Parnassus,) and that as far as I can see, there is not one hill in Lancashire that will feed a muse; however we will try whether a muse (like a Welsh horse) may not grow fat in a plain level country. If that experiment will not do, I know not what will. I beg to hear from you by the return of the Post, and let me know if Mr. Ellis is any thing better; his death, I am sure, would be an irretrievable loss, not only to Holyhead and Anglesea, but to all Wales. Don't fail to let me hear from you as soon as possible, and how my dear poetry tutor, Llewelyn, does. I have no time to write more,. but that I am, Dear Sir, Your most obliged humble servant,
Calanmai Newydd yn Nhref Lerpwl.