Neidio i'r cynnwys

Llythyrau Goronwy Owen/Llythyr 29

Oddi ar Wicidestun
Llythyr 28 Llythyrau Goronwy Owen


golygwyd gan John Morris-Jones
Llythyr 30

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 29.

At RICHARD MORRIS.

WALTON, Eprill y 9d, 1754.

ANWYL SYR,

Nid wyf yn ammau nad ydych bellach yn tybio fy mod wedi marw yn gelain gegoer. Ac yn wir fe fu agos i'r peswch a'r pigyn a'm lladd. Nid wyf yn cofio weled ermoed gethinach a garwach Gauaf; nid yw'r Wlad oerllom yma ddim yn dygymmod â mi yn iawn; llawer clyttach Swydd y Mwythig. Dyma ddauddydd o Hîn wych yn ol yr amser o'r flwyddyn. Nid oes dim yn fy mlino cymaint a darfod i'r Pigyn brwnt a rhyw drafferthion eraill lestair imi yrru i chwi Ganiad erbyn Gwyl Ddewi; ni ddylai undyn, a ystyrio mor ansicer yw'n bywyd a'n hiechyd a'n hamser (yn enwedig y sawl a fo megis Gweinidog tan arall, fal 'rwyf fi) addaw dim yn sicer ac yn ddifeth i neb, oblegid na's gwyddom o'r naill awr i'r llall pa beth a ddigwydd i'n rhwystro. Yr oeddwn wedi dechreu Caniad i'r Tywysawg ar y mesur a elwir Gwawdodyn Hîr, ond nid orphennais onid tri phenill o honi, ac bellach yn anorphen y caiff fod tros byth am a wn i. Ni wiw genyf yrru y darn yna i chwi. I lately took a fancy to my old acquaintance Anacreon; & as he had some hand in teaching me Greek, I have endeavoured to teach him to talk a little Welsh & that in Metre too. Ode 47th "Hoff ar hên &c." Observe that there is but the very same number of Syllables, in the Welsh, as are in the Greek, & I think the Welsh Englyn Prost fully answers the scope & meaning of the Ode, & that in an almost verbatim Translation. The more I know of the Welsh Language, the more I love and admire it; & think in my heart, if we had some men, of genius and abilities, of my way of thinking, we should have no need to despair of seeing it in as flourishing a condition, as any other Antient or Modern.—Nid oes yma faint yn y byd o newydd gymmaint a marw Gwrach y caid Grôt ar ei hôl er marw'n ddiweddar ryw wrâdd O Wrachiod. Rwyf yn bur anesmwyth o eisiau clywed o Allt Fadawg; mi yrrais yno ddwy waith, ond nid oes dim atteb. Dyma gyd a'm bŷs o Lythyr o Gaer Gybi, yn dywedyd fod pawb yn siongc ym Môn ac yn Gallt Fadawg. Nid gwiw sôn am Ffrangcod bellach, hyd oni lenwir y Senedddy o newydd. Mi dderbyniais y Testament Arabaeg o Allt Fadawg yn ddiweddar; a chàn mîl diolch i chwi am dano ; ni chefais etto mo'r Llyfr Hebraeg a yrrasoch gydag ef. Er na welswn erioed mo'r Egwyddor yn Arabaeg, etto trwy ddyfal [astudio] y gyntaf o Fathew, y 3dd o Luc, &c, mi ddysgais ei ddarllain yn lew iawn, ac nid anhawdd ei ddyall i'r sawl a ddyallo Hebraeg, oblegid nid oes nemmor o ragoriaeth rhyngddynt, prin gymmaint mewn rhai pethau ag sydd rhwng Iaith Gwynedd, a Iaith yr Hwyntwyr. Cryn gynnorthwy a gefais wrth fyned tros y Dengair Deddf yn yr Arabaeg a'r Hebraeg ynghyd, oblegid y mae'r Deg Gorchymyn genny yn y Testament, &c.—Wyf eich &c

GRO DDU gynt o Fôn.

Nodiadau

[golygu]