Neidio i'r cynnwys

Llythyrau Goronwy Owen/Llythyr 34

Oddi ar Wicidestun
Llythyr 33 Llythyrau Goronwy Owen


golygwyd gan John Morris-Jones
Llythyr 35

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 34.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, Hydref 16, 1754.

YR ANWYL GYFAILL,

DYMA'R eiddoch o'r 11eg wedi dyfod i'm llaw ddoe, ac yn wir rhaid yw addef fy mod wedi bod yn lled ddiog yn ddiweddar, am na buaswn yn gyrru yna ryw awgrym, i ddangos fy mod yn fyw cyn hyn; ond bellach, dyma fi yn ei rhoi hi ar dô, ac mi orphennaf fy llythyr y foru, oddigerth i'r cywion personiaid yma fy hudo i allan i ganlyn llosgyrnau cŵn, ac i wylltio ceinachod. Maent ar dynnu fy llygaid i ddwywaith bob wythnos o'r lleiaf, a phrin y llyfasaf eu naccau. However, a little exercise does no hurt, and the young gents are very civil. Mi fum yn brysur ynghylch diwedd y Gorphenaf yn parottoi i gyfarfod yr Esgob i geisio ei dadawl ganiattad i bregethu, &c. yr hyn a gefais yn ddigon rhwydd am fy arian; ond ni's gorfu arnaf gymmeryd yr un licence am yr ysgol. Ac er pan glywais y newydd o'r Castell Coch, mi fum yn dal wrthi ddygna' y gallwn i barottoi ychydig o bregethau tra bae'r dydd yn hir, fel y gallwn gael y gauaf. i brydyddu wrth olau'r tân y nos, fel arferol. Nid gwaith i'w wneuthur wrth ganwyll ddimai yw prydyddu; ac nid mewn undydd unnos yr adeiledir y Castell Coch. Dyma'r Llew wedi gyrru i mi rai defnyddiau tu ag at yr adeilad orchestol honno, ac y mae'n dymuno ei fod yn agos attaf i gludo morter, ond am y rhelyw ei fod yn cwbl ymddiried i gelfyddyd yr adeiladwr. Ie, ië, ond bychan a ŵyr o fod yr adeiladwr yn rhydd ac yn freinniawg o'r gelfyddyd. How do you translate a free and accepted Mason? Ie, ac yn un o'r penmeistriaid hefyd. Wele, wfft i'r dyn! meddwch, paham hynny? Odid bwngc yn y byd o ddysgeidiaeth y bydd dyn gwaeth erddo, os paid ai gam-arferu. Fe haeddai'r gelfyddyd glod, pe na bai ddim rhinwedd arni, ond medru cadw cyfrinach; ac fel y dywaid y dysgedig awdwr, Mr. John Locke, am dani, "Pe hyn fai'r holl gyfrinach sydd ynddi sef, nad oes ynddi gyfrinach yn y byd, etto nid camp fach yn y byd yw cadw hynny yn gyfrinach;" ond y peth pennaf a'm hannogodd i 'spio i'r ddirgel gelfyddyd hon ydoedd fy mod yn llwyr gredu mai caingc ydoedd o gelfyddyd fy hen hynafiaid y Derwyddon gynt, ac nid drwg y dyfelais. Ond dyd! dyd! fe fu agos i mi anghofio pwy, a pha beth ydwyf, am hynny rhaid attal fy llaw? ond f'allai'ch bod chwi'ch hun yn un o'r freinniawl frawdoliaeth.

Aiê, mae Elisa Gowper wedi derio dannedd y Monwysion llesgethan? Och o druan! Drwg yw'r byd fod yr Awen cyn brined yn Môn nad ellid gwneuthur i'r carp safnrwth tafodddrwg wastrodu. Ond gwir sydd dda, ni thal i ddifetha prydyddiaeth wrtho, oddigerth y ceid rhyw lipryn cynysgaeddol o'r un dawn ag Ellis ei hun, sef yw hynny, nid dawn awenydd, ond dawn ymdafodi, ac ymserthu'n fustlaidd ddrewedig anaele. Fe debygai ddyn wrth dafod ac araith Elisa mai ar laeth gâst y magasid ef yn nghymysg ag album græcum, ac mai swydd ei dafod, cyn dysgu iddo siarad oedd llyfu t-n-a, ac onide na buasai bosibl iddo oddef blas ac archwaeth budreddi ei ymadroddion ei hun. Mi fum i un waith ynghwmni Elisa yn Llanrwst, er's ynghylch 14 blynedd i rywan, yn ymryson prydyddu extempore, ac fe ddywed fy mod yn barota bachgen a welsai erioed, ac eto er hyn cyn y diwedd, ni wasanaethai dim oni chai o a lleban arall o Sîr Fôn oedd yn ffrind iddo, fy lainio i; a hyny a wnaethent oni buasai Clochydd Caernarfon oedd gyda mi. Tybio 'rwyf mai prifio yn rhy dôst o rychor iddo a wnaethym yn ei arfau ei hun, sef dychanu a galw enwau drwg ar gân. One would expect that a person so very fond of giving affronts, should be as willing (or at least able) to bear them in his turn, but he is not. One would scorn to be the aggressor, but if I'm attacked, I may and must repel force by force; & se defendo is a good plea whate'er be the event. That was my case then, and I've many times afterwards blam'd my curiosity for taking notice of such an empty fellow. However send me his Englynion, and I promise you, upon the word of a Mason, I'll never answer 'em, unless by a fictitious name, and hardly SO. Wel! dyma hi yn 19 o'r mis a'r llythyr yn anorphen. Yr andras i'r milgwn! Ond ar fy ngair, gwych y canodd Gwalchmai i Rodri, ped fai genyf amser mi rown gais ar eglurhau rhyw faint arno; ond rhaid i mi adael hyny heibio tan y tro nesaf. Gwrda Einion ab Gwalchmai! Dyn glew iawn yn wir, a dyn o Fôn hefyd, debygaf. Na bo byth ddiffyg o'i fath yn Môn rhagllaw. Ond pwy oedd Nest ych Hywel ? Nid geneth i Hywel ab Owen Gwynedd, y prydydd, oedd moni, mae'n debyg; e fyddai hyny yn ormod anachronism debygwn i. But I doubt Dr. Davies's Chronology in his. list of Authors is but guesswork for the most part. And supposing any remains of me should have the fortune to be extant 3 or 4 Centuries hence, 'tis as likely I should be placed at 1705 as at 1755, or perhaps I should face 1795, unless a Caniad Wyl Ddewi should ascertain the time. The Dr. generally put some twenty years between father and son : and if the time when my eldest lived should be computed by that rule, he must be a poet at six years before he was born, and some future son of mine (yet unborn and unthought of) would be still a much forwarder youth, and perhaps a cotemporary with his grandfather. But where do I ramble? My sons never will be poets unless I come to live in Wales while they are young, which I see no great likelihood of. My poor Bob Owen is in Anglesey with Twm Sion Twm, of Red Wharf, and has been there since the 1st of September; but what progress he has made in the language I can't learn. If he can once learn it, I will take care he shall not forget it; I expect him home very soon, because the piece of goods that I have in exchange is a little unmanageable, and therefore must be sent home by the first opportunity. Thomas's son is too great a fighter to live in Lancashire; that mischievous word taffy makes his Welsh blood to caper. Ces rhyw ganiad yn myned ym mlaen i ryw Iarll meddwch? Oes, oes; a phan gyntaf y gorphennir chwi a'i cewch. Ni nacceais i mo honnoch o'r Odlau Anacreonaidd; na wnewch mo'r cam â mi; ofni yr wyf mai drwg fu fy nghof y pryd hynny; ond am Frut Sibli yn Saesoneg, nid wyf yn cofio i chwi erioed ei gofyn gennyf. Ydyw, y mae Offeiriad Walton yn cyweirio croen y delyn ledr bob mynyd o seibiant a gaffo, ond chwi a'i cewch adref cyn bo hir, rhag eich marw o hiraeth. Er mwyn dyn, a gaed fyth afael ar yr hen farcutiaid a soniasoch am danynt gynt.? Gwaith Edmwnt Prys, &c. Mi a welais er ystalm o flynyddoedd, pan oeddwn yn Lleyn, holl ymrysonion a gorchestion Edmwnt Prys, a William Cynwal, gan yr hen berson Price o Edeyrn, (Price Pentraeth gynt, a pherson Llanfair, yn Mhwll Gwymbill, neu, Pwll Gwyn—gyll,) yr hwn oedd orŵyr i'r Archdiacon, tho' full unworthy of such an ancestor; but those poems were monstrously mangl'd and mis—spell'd. I suppose they might have been copied by old Price of Edern (or perhaps his father, Price of Celynog,) in his younger years, before he understood Welsh, (and indeed he never understood it well,) and kept for a family piece in memory of the learned progenitor. Nid hen ddyn dwl oedd yr Archdiacon, ac ystyried yr amser yr oedd yn byw ynddo; etto yr wyf yn cyfrif Wm. Cynwal yn well bardd, o ran naturiol anian ac athrylith, ond bod Emwnt yn rhagori mewn dysg. Nid oedd Cynwal druan (ysgolhaig bol clawdd) ond megis yn ymladd a'r dyrnau moelion yn erbyn tarian a llurig—

"A'r gwanna ddyn â gwain ddur,
A dyrr nerth a dwrn Arthur."

chwedl yr hen fardd gynt. E ddigwydd weithiau i natur ei hunan (heb gynnorthwy dysg) wneuthur rhyfeddodau; etto nid yw hynny ond damwain tra anghyffredin: ac er mai prydferthwch dawn Duw yw naturiol athrylith, ac mai perffeithrwydd natur yw dysg, etto dewisach a fyddai (genyf fi) feddu rhan gymhedrol o bob un o'r ddwy, na rhagori hyd yr eithaf yn yr un o'r ddwy yn unig, heb gyfran o'r llall. Mi glywais hen chwedl a ddywedir yn gyffredin ar Ddafydd ab Gwilym—

"Gwell yw Awen i ganu,
Na phen doeth ac na phin du."

Gwir yw am brydydd; ac felly y dywedai y Lladinwyr, "Poeta nascitur non fit;" hynny yw, Prydydd a enir, ond ni's gwneir mal pe dywedid, nid ellir prydydd o'r doethaf a'r dysgediccaf tan haul, oni bydd wrth natur yn dueddol i hynny, a chwedi ei gynnysgaeddu gan Dduw âg awenydd naturiol yn ei enedigaeth. Os bydd i ddyn synwyr cyffredin, a chyda hynny astudrwydd, parhad ac ewyllysgarwch, fe ellir o hono eglwyswr, cyfreithiwr, gwladwr, neu philosophydd; ond pe rhoech yr holl gyfferiau hynny ynghyd, a chant o'r fath, ni wnaech byth hanner prydydd. Nid oes a wna brydydd ond Duw a natur; ni cheisiaf amgen tyst ar hyn na M. T. Cicero; pwy ffraethach areithydd? pwy well a gwyliadwrusach gwladwr? pwy ragorach cyfreithiwr? pwy ddyfnach a doethach philosophydd? ar air, pwy fwy ei ysfa a'i ddingc a'i awydd i brydyddu, ac etto, pwy waeth prydydd? Trwstan o fardd yn ddiammau ydoedd, ac odid ei gymhar, o ŵr o ddysg, oddigerth yr hen Ddr. Davies o Fallwyd. Etto, er argymhennu ac ymresymmu o honof fal hyn, nis mynwn i neb dybio mai afraid i brydydd fod yn ŵr o ddysg; nagê, nid felly y mae chwaith; er na ddichon dysg wneuthur prydydd, eto hi a ddichon ei wellhau. Cymmerwch ddau frawd o'r un anian, ac o'r un galluoedd o gorph a synwyr, ac o'r un awenyddol dueddiad, a rhowch i'r naill ddysg, a gommeddwch i'r llall, ac yno gwelir y rhagoriaeth. Er na ddichon y saer maen wneuthur maint y mymryn o faen mynor, etto fe ddichon ei 'sgythru a'i gaboli, ei lunio a'i ffurfio, a gwneuthur delw brydferth o honnaw, yr hyn ni ddichon byth ei wneuthur o'r grut brâs a'r gwenithfaen.

Huzza! Huzza! mae Mr. Mosson yn ddyn da; Dyma lythyr oddi wrtho yn mynegi fod Dr. Wynne o Ddolgelleu wedi marw yn gelain. Rhaid taflu hwn o'm llaw, a'i yrru i ffordd i gael amser i ysgrifenu i Allt Fadog, ac at yr Iarll, &c. Nid allaf gymmeryd mo'r amser i ddywedyd dim ychwaneg; ond bendith Dduw i chwi, am roi Mr Mosson ar waith, ac ildo yntau am ysgrifenu cyn gynted ;—it is dated, Beaumaris, 19th instant, and I received it this minute, viz. 22nd. I am, dear Sir, &c.

GORONWY OWEN.

P.S. Let me have from you some Poetry this time, but I must not miss this Post; as it is post day, I hope you'll forgive me. My compliments to Mr. Ellis.

Nodiadau

[golygu]