Neidio i'r cynnwys

Llythyrau Goronwy Owen/Llythyr 8

Oddi ar Wicidestun
Llythyr 7 Llythyrau Goronwy Owen


golygwyd gan John Morris-Jones
Llythyr 9

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 8.

At RICHARD MORRIS.


DONNINGTON, Rhagfyr 18, 1752.

Y CAREDIG GYDWLADWR,

Mi a dderbyniais eich Llythyr er's ennyd fawr o amser, a chan diolch i chwi am y Llyfrau a yrrasoch imi, er na welais monynt etto. Fe ddywaid Mr Llywelyn Ddû i mi yn ei Lythyr, ei fod wedi eu derbyn hwy, ac mae'n debyg y gyrr hwynt yma gyntaf ag y caffo gyfleusdra. Mi gychwynais. 'sgrifennu attoch er ys yn agos i bymthengnos, ac yn hynny dyma Lythyr o Fôn, ac un arall o Allt Fadawg yn dyfod i'm dwylaw; ac yno gorfu arnaf ail fwrw fy Llythyr attoch. chwi, rhag dywedyd celwydd yn ei gynhwysiad: oblegid meddwl yr oeddwn fod y Gŵr o Allt Fadawg gydâ chwi yn Llundain yna, fal y dywedasai y byddai yn ei Lythyr o'r blaen, ond weithion mi glywaf ei fod gartref. Dymunaf arnoch nad eloch i'r gost i brynnu i mi ddim ychwaneg o Lyfrau o herwydd nis gwn i pe'm blingech, pa fodd i wneud i chwi Arian iawn am a yrrasoch. Odid y daw fyth ar fy llaw i dalu'r pwyth i chwi am eich caredigrwydd, ac onid e, mi a'i gwnawn yn ewyllysgar. Mi glywais fyned o Dduw a'ch Mam; a saeth i'm calon oedd y Newydd. Da iawn i laweroedd a fu hi yn ei hamser, ac ym mysg eraill i minnau hefyd pan oeddwn yn Blentyn. Hoff iawn a fyddai genyf redeg ar brydnhawn Sadwrn o Ysgol Llan-Allgo i Bentre Eirianell, ac yno y byddwn sicer o gael fy llawn hwde ar fwytta Brechdanau o Fêl, Triagl, neu Ymenyn, neu'r un a fynnwn o'r tri rhyw; papur i wneud fy Nhasg ac amryw neges arall, a cheiniog yn fy Mhocced i fyned adref, ac anferth siars, wrth ymadael, i ddysgu fy Llyfr yn dda; a phwy bynnag a fyddai yn y byd, y ceid ryw ddydd fy ngweled yn glamp o Berson. Boed gwir a fo'i gair; ac nid yw'n anhebyg, gan weled o Dduw'n dda ffynnu ganddi adael Meibion o'r un Meddwl â hi ei hun ar ei hol. Duw fo da wrthi, da fu hi i mi. Da'n fyw, da'n farw, tra bo ddafn o waed yngwythi ei Meibion. Daccw i chwi y tu draw i'r Ddalen ryw fath ar Gywydd o Goffa da am dani.[1] Da y gwn na ddichon fod ar law burgyn o'm bath i ganu iddi fal yr haedda'i; etto mi allaf ddangos yr Ewyllys, ac nid eill y gorau ddim ychwaneg. Mi allaswn, rwy'n cyfaddef, siariad geiriau mwy, on'd yr oedd arnaf weithiau ofn dywedyd y gwir i gyd, rhag i neb dybied fy mod yn gwenieithio! 'r hyn sydd gasbeth gan fy Nghalon. Fe wyr pawb a'i hadwaenai hi, nad ydwyf yn celwyddu nag yn gwenieithio o'i phlegid. Am y lle y crybwyllais eich Enw chwi, escusod wch fi; nis gwyddwn pa beth i'w ddywedyd am danoch, ac nis clywais erioed amgen nâ'ch bod yna yn Llundain, a rhai o'ch mån gampiau a'ch mwynion chwedlau gynt, pan oeddych yn fachgen, a glywswn gan fy Mam:—Pa fodd y cymmerasoch fwyall fechan gyda chui i dorri'r Ysgol erbyn y Gwyliau, a'r cyffelyb. Mi welais hefyd er ys gwell nå deunaw Mlynedd ym Meddiant f'Ewythr Rhobert Gronw, Lythyr, ac ynddo ryw nifer o Englynion cywreinddoeth, a yrrasech gynt oddi yna at fy Nhaid (yr Hên Ronw) ac heblaw hynny nid côf genyf glywed siw na miw yn eich cylch. Pa wedd bynnag 'rwy'n dyall wrth hynny fod gennych eich rhan o Naturioldeb gwreiddiol yr Hen Gelfyddyd, a gobeithio na thybiwch i mi wneuthur dim cam a chwi. Mi yrrais y Cywydd i Mr. Morris o Gybi, ac i fy Athraw o Allt Fadawg hefyd ond nis clywais etto pa'r un ai da ai drwg ydyw. Rwy'n coelio pe cymmeraswn lai o ofal yn ei gywreinio, mai llawer gwell a fuasai: canys sicer yw fod gormod gofal cynddrwg a gormod diofalwch. Llyna'r Cywydd fel ag y mae; ni phrisiwn ddraen er gwneuthur pwtt o Gywydd i'r Gymdeithas o Hên Frutaniaid, ond cael ystlys gair o'i hanes. Da iawn a fydd genyf glywed oddiwrthych pan gaffoch ryw gyfleusdra. Nid oes genyf ddim 'chwaneg i'w ddywedyd ond fy mod yn rhwymedig i chwi am bob Twrn da. Yr hwn wyf, Syr, Eich ufuddaf, ostyngeiddiaf Wasanaethwr a Chydwladwr anwiw,

GRONWY DDU GYNT O Fon.

Nodiadau

[golygu]
  1. Ychwanga'r llawysgrif—"Gwelwch y Cywydd yn Diddanwch Teuluaidd.