Neidio i'r cynnwys

Llythyrau Goronwy Owen (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Llythyrau Goronwy Owen (testun cyfansawdd)


golygwyd gan John Morris-Jones
I'w darllen llythyr wrth lythur gweler Llythyrau Goronwy Owen
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
John Morris-Jones
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Goronwy Owen
ar Wicipedia



LLYTHYRAU GORONWY OWEN:




DAN OLYGIAETH

J. MORRIS JONES, M.A.,

ATHRAW CYMRAEG YN NGOLEG Y GOGLEDD.




Liverpool

CYHOEDDWYD GAN ISAAC FOULKES, 18, BRUNSWICK STREET


1895.


RHAGYMADRODD.


GYDA'R amcan o ddwyn rhyddiaith awdwr a gydnabyddir yn gyffredinol yn mysg yr ysgrifenwyr Cymraeg goreu, cyhoeddir y Llythyrau hyn am bris a'u rhydd yn nghyrhaedd y sawl allant eu mwynhau. Cymerwyd 19 o'r Llythyrau o Ysgriflyfr, hyned ag amser Goronwy, a'r llawysgrif yn ddigon tebyg i'w waith ef. Efallai, ond nid ydym yn sicrhau, mai yn y llyfr hwn y cadwai gopi o'i lythyrau; ac o gydmaru y rhai sydd yma â'r argraffiadau blaenorol ohonynt, nid yw'r gwahaniaeth yn y darlleniad ond a allesid ddisgwyl pan fo dyn yn ad—ysgrifenu ei waith. Barna y Proff. J. M. JONES fod y darlleniad yn yr Ysgriflyfr yn debycach i waith Goronwy nag fel yr oedd yr un Llythyrau genym o'r blaen. Y Llythyrau a ganlyn a gymerwyd o'r Ysgriflyfr:—4, 5, 8, 9, 15, 17, 20, 22, 24, 25, 29, 30, 35, 36, 39, 42, 44, 45, 49. Daeth yr Ysgriflyfr crybwylledig i feddiant cyhoeddwr y llyfr hwn yn yr arwerthiant a fu ar Lyfrgell y diweddar Canon Wynne Edwards, ficer Llanrhaiadr-yn-Cimmeirch.

LERPWL, Mehefin, 1895.



AMSERONI.
Ganwyd. Bu Farw.
GORONWY OWEN Ionawr 1, 1722 Tua 1770.
LEWIS MORYS Mawrth 12, 1702 Ebrill 11, 1765
RICHARD MORYS Tua 1705 1779.
WILLIAM MORYS 1764.
IEUAN BRYDYDD HIR 1730 Awst, 1789
WM. WYNN, Llanganhafal 1704 Ionawr 22, 1760.

LLYTHYRAU GORONWY OWEN.


𝕷𝖑𝖞𝖙𝖍𝖞𝖗 1.

At W. ELIAS, Plas y Glyn, Mon


Y CELFYDDGAR FRTTWN A'M HANWYL GYFAILL GYNT,

СHWI a glywsoch sôn, nid wyf yn ammeu, am ryfeddol gynheddfau yr ehedfaen (load—stone) pa wedd y tynn atto bob math o ddur a haiarn; nyni a wyddom fod y gynneddf hon yn yr ehedfaen, a'r haiarn hefyd, ac a allwn weled â'n llygaid. yr effeithiau rhyfeddol uchod; ond ni's gwyddom pa fodd, na phaham y mae y peth yn bod; oblegid bod hyn, cystal ag amryw ereill o ddirgelion natur, yn fwy nag a allodd holl ddoethion a dysgedigion byd erioed ei amgyffred.

Ni fedraf lai na meddwl fod rhyw beth tra chyffelyb i hyn yn natur dyn, yr hyn a bâr iddo gynhesu wrth ryw un, ac ymhoffi ynddo, yn hytrach nag ereill, er nas dichon ddirnad pa fodd na phaham, neu am ba achos.

Am danaf fy hun, mi allaf ddywedyd, er dechreuad ein cydnabyddiaeth, na welais i yr un y bai hoffach genyf oi gymdeithas na William Elias; a llawer gwaith yr amcenais ysgrifennu attoch, pe gwybuaswn pa sut: o'r diwedd mi a gefais wybodaeth o Gymru, yn mha le yr ydych yn byw. Mi fynaswn i'r awen dacluso peth ar fy ymadroddion rhydlyd ac anystwyth: ni fynai mo'm clywed, er taer ymbil ohonof fel hyn :—

BARDD.

Dos, fy nghân, at fardd anwyl,
Os byddi gwan, na bydd gwyl:
Bydd gofus, baidd ei gyfarch,
Dywed dy bwyll, a dod barch.


AWEN.


Os i Fôn y'm hanfoni,
Pair anglod i'th tafod ti;
Bydd gyfarwydd dderwyddon,
Gwyr hyddysg y'mysg gwyr Môn;
Priod iddi, prydyddiaeth,
Ca'dd beirddion ym Môn eu maeth;
Môn sydd ben er ys ennyd,
Ar ddoethion a beirddion byd,
Pwy un glod, a'i thafodiaith?
A phwy yn un a'i phen iaith?
Tithau waethwaeth yr aethost,
Marw yw dy fath, mawr dy fost;
Nid amgen wyd, nad ymgais,
Dirnad swrn, darn wyd o Sais;
A'r gwr, i'r hwn y'm gyrri,
Nid pwl ful dwl yw, fel di;
Ond prif-fardd yw o'r harddaf,
Am dy gân, gogan a gaf;
Hawdd gwg, a haeddu gogan,
Deall y gwr dwyll y gân;
Un terrig yw, nid hwyrach,
Gwn y chwardd am ben bardd bach.

BARDD


O Gymru lân yr hanwyf,
Na cham ran, a Chymro wyf:
A dinam yw fy mamiaith,
Nid gwledig na chwithig chwaith.
Bellach, dos, ac ymosod,
Arch dwys, atto f' annerch dod,
A gwel na chynnyg William
Elias na chas na cham.

Hyd yma mi a'i llusgais gerfydd ei chlust, ac yma hi a'm gadawodd; a sorri a ffromi a wnaethym innau, ac ymroi i ysgrifennu y rhan arall heb gynghanedd, yn hytrach nag ymddangos â'r awen, a bod yn rhwymedig iddi. Nid oes gennyf ddim newydd a dal ei ddywedyd i chwi, am nad adwaenoch y lle na'r trigolion. Mae genyf ddau fab, enw yr ieuengaf yw Goronwy. Yr wyf wedi cymeryd ail afael ar fy Ngrammadeg Cymraeg, a ddechreuais er ys cyhyd o amser; ac y mae'r gwaith yn myned ym mlaen fel y falwen, o achos bod genyf ormod o waith arall ar fy llaw. Mi a ddymunwn arnoch yrru i mi lythyr & rhyw faint o'r hen gelfyddyd ynddo, gynta' ag y caffoch ennyd.—Eich ufudd wasanaethwr, o ewyllys da,

GORONWY OWEN.
DONNINGTON, Tachwedd 30, 1751.

𝕷𝖑𝖞𝖙𝖍𝖞𝖗 2.

At WILLIAM MORRIS.


DONNINGTON, May 7, 1752.

DEAR SIR,

NAGE, Fy Anwyl Gydwladwr,—dilediaith! a ddylaswn ddywedyd, eithr os chwi a'm hesgusoda am hyn o dro, chwi a gewch o Gymraeg y tro nesaf.

Yours of the 27th ult. I must own. I am exceedingly ashamed of my poor performance; as to the printing of it, it is to me indifferent; I am no way fond or ambitious of appearing in print and commencing author, for now (thank God) I have no vanity to be gratified by so doing, and if ever I had, my own sense, as I grew up, overpowered and mortified it; and this troublesome world (with my narrow circumstances in it) has now effectually killed it, root and branch. However, if Mr. Ellis and you think it will do any good (besides gratifying men's curiosities and affording matter for criticism) I shall willingly comply with your desire. If it will be printed, I like your method well enough, I mean of putting the Scripture proofs in the margin. I am sorry I cannot send it you so prepared at this time; the reason why is that Mr. Lewis Morris was pleased to favour it with an examination, and marked out some few slips in it as to the poetry, which I have since endeavoured to correct, but with what success, I have not yet heard; and I am not willing that any thing of mine should be made public without the consent and approbation of my tutor. I thought once to have deferred answering yours till I had heard from your brother, but a post or two is no very great loss of time, tho' the worst to be feared is that franks are scarce in Anglesey. Half a sheet of paper such as the ballad is printed on, would contain almost twice as many lines as the Cywydd consists of, and perhaps (if God enables me, and the world allows me time) I may make something that may be thought at leest equal to Cywydd y Farn. If I had time to spare, my chief desire is to attempt something in Epic Poetry; but the shortness of the measures in our language makes me almost despair of success. I have not a turn of genius fit for ludicrous poetry (which I believe is best relished in Wales), and You will see that the few little witticisms in Cywydd y Farf are rather forced than natural. D. ab Gwilym was perhaps the best Welshman that ever lived for that kind of Poetry and is therefore very deservedly admired for it; and tho' I admire (and even dote upon) the sweetness of his poetry, I have often wished he had raised his thoughts to something more grave and sublime. Our language undoubtedly affords plenty of words expressive and suitable enough for the genius of a Milton, and had he been born in our country, we, no doubt, should have been the happy nation that could have boasted of the grandest, sublimest piece of poetry in the universe. Our language excels most others in Europe, and why does not our poetry? It is to me very unaccountable. Are we the only people in the world that know not how to value so excellent a language? Or do we labour under a national incapacity and dulness? Heaven forbid it! Why then is our language not cultivated? Why do our learned men blame the indolence of our forefathers in former ages for transmitting so little of their language to posterity and live in indolence themselves? This is the case for aught I can see yet, and our posterity four or five hundred years hence may (for anything we do to prevent it) judge us to have been in this age as barbarous and unlearned as we conceive our ancestors to have been in the time of the Saxon Heptarchy. And if our countrymen write any thing that is good, they are sure to do it in English. Pa beth yw hyny ond iro blonegen? Are they afraid that their own language should gain any thing by them? or are they unwilling that their countrymen should get their knowledge at too cheap a rate unless they go to the trouble of learning English? But what would I be at? Certainly we are all the offspring of our antient Druids, and perhaps it may have come natural to us (as it was usual with them) to confine all our language to our own heads, and let posterity shift for themselves, as we have done before them.

My compliments to Mr. Ellis, and great many thanks for all favours. I think I heard that you were married to either Miss Jenny or Miss Nelly Hughes; if you are to one of them, I wish you good luck and my compliments to your spouse, and accept the same yourself. From, Dear Sir—Your most obedient humble Servant,

GRONWY OWEN.
alias GRONWY DDU O FON.

N.B.—I should be glad to hear from you at your leisure.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 3.

At RICHARD MORRIS


DONNINGTON, May 30, 1752.

DEAR SIR,

Your favour of the 19th instant is come to my hands, and though I cannot sufficiently thank you for your good will, yet I can't tell how to accept the offer. My situation here is none of the best nor of the worst; it is considerably preferable to that you mention, but Anglesey has some advantages that Shropshire cannot boast of. How the market goes now I cannot tell, but in my time 20 pounds in Anglesey would have gone as far as 40 in Shropshire. But, above all, by living in Anglesey I should be able to make my lads Welshmen, which here is utterly impossible. We have a proverb, and a very true one, "A rolling stone gathers no moss." And except I had something better and more certain than a curacy, it is not, cannot be, worth my while to come to Wales. I could easily better myself by a curacy here in Shropshire; but the difference between one curacy and another is so very inconsiderable, that the best is not worth removing five miles for, and would hardly make one amends for his trouble in shifting and the damaging of his goods. Yet still they are better than in Wales. And what shall we say of removing wife and children so far! I am here in the midst of good friends that are ready to help me in an emergency, but in Anglesey I cannot promise that happiness. There are not two gentlemen in the universe that I would more willingly serve than Mr. Bennet and Mr. Jones. But charity begins at home, you know what I mean. By those hints you will be able to give Mr. Jones a determinate answer: but I beg you would at the same time present my hearty respect and duty to both him and my old Master, Bennet, and my humble thanks as a grateful acknowledgment for past favours. My compliments to Mr. Ellis; tell him I shall shortly send him the Cywydd prepared as he desires. Rhowch fy ngharedig annerch at eich tad a'ch mam, a dywedwch wrth eich mam fy mod hyd y dydd heddyw yn cofio ac yn diolch iddi am y frechdan fêl a gefais ganddi, ac odid na chofia hithau ddywedyd o honof y pryd hyny, "Ped fai gennyf gynffon mi a'i hysgydwn." Tell William Elias that I know Hugh Williams better than he does, and consequently what sort of poet he is. You see I have no room to write any more. than that I am your obliged humble Servant,

GRONWY OWEN.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 4.

At RICHARD MORRIS, o Lundain.


DONNINGTON, Mehefin 22, 1752.

SYR,

Mi a dderbyniais eich Epistol, a rhyfedd oedd gennyf weled un yn dyfod o Lundain, a thra rhyfedd gweled Enw Gwr na welais erioed â'm llygaid. Ffafr oedd hon heb ei disgwyl eithr po lleiaf y Disgwyliad mwyaf y Cymmeriad. Er na ddigwyddodd i'm llygaid erioed ganfod mo honoch, etto nid dieithr i mi mo'ch Enw; tra fu byw fy mam [mi a'i clywais yn fynych.] Gan ofyn o honnoch pa fath fywoliaeth sydd arnaf, cymmerwch fy Hanes fel y canlyn. Nid gwiw gennyf ddechreu sôn am y rhan gyntaf o'm. Heinioes; ac yn wir, prin y tâl un rhan arall i'w chrybwyll, oblegid nad yw yn cynnwys dim sydd hynod, oddigerth Trwstaneiddrwydd a Helbulon; [a'ch bod chwithau'n gorchymyn yn bendant i mi roi rhyw drawsamcan o'm hanes.] Tra bum a'm llaw yn rhydd (chwedl pobl Fôn), neu heb briodi, byw yr oeddwn fal Gwyr ieuaingc eraill, weithiau wrth fy modd, weithiau'n anfodlon; ond pa wedd bynnag, A digon o Arian i'm cyfreidiau fy hun, a pha raid ychwaneg? Yn y flwyddyn 1745, e'm hurddwyd yn Ddiacon, yr hyn a eilw'n Pobl ni Offeiriad hanner pan; ac yno fe ddigwyddodd fod ar Esgob Bangor eisiau Curad y pryd hynny yn Llanfair ym Mathafarn Eithaf ym Môn; a chan nad oedd yr Esgob ei hun gartref, ei Chaplain ef a gyttunodd A mi i fyned yno. Da iawn oedd gennyf y fath gyfleusdra i fyned i Fon (oblegid yn Sir Gaernarfon a Sir Ddymbych y buaswn yn bwrw y darn arall o'm hoes er yn un ar ddeg oed), ac yn enwedig i'r Plwyf lle'm ganesid ac y'm magesid. Ac yno yr aethym, ac yno ba'm dair Wythnos yn fawr fy mharch a'm cariad gyda phob math o fawr i fâch; a'm Tâd yr amser hwnnw yn fyw ac iach, ac yn un o'm Plwyfolion; Eithr ni cheir mo'r melys heb y chwerw. Och o'r Gyfnewid! Dymma Lythyr yn dyfod oddi wrth yr Esgob (Dr. Hutton) at ei Gappelwr neu Chaplain, yn dywedyd fod un Mr. John Ellis o Gaer'narfon (a young Clergyman of a very great fortune) wedi bod yn hir daer—grefu ac ymbil ar yr Esgob am ryw le, lle gwelai ei Arglwyddiaeth yn oreu, o fewn ei Eagobaeth ef, ac atteb yr Esgob oedd, o's Mr. Ellis a welai'n dda wasanaethu Llanfair (y lle gyrrasai'i Gappelwr fi,) yr edrychai efe (yr Eagob) am ryw beth gwell iddo ar fyrder. Pa beth a wnae Drwstan? Nid oedd wiw achwyn ar y Cappelwr wrth yr Esgob, nac ymryson â neb o honynt, yn enwedig am beth mòr wael, oblegid ni thalai'r Guradiaeth oddiar ugain Punt yn y flwyddyn.—Gorfu arnaf fyned i Sir Ddymbych yn fy ol, ac yno y cefais hanes Curadaeth yn ymyl Croes Oswallt [yn sir y Mwythig, ac yno y cyfeiriais;] ac er hynny hyd y dydd heddyw ni welais ac ni throediais mo ymylau Môn, nag ychwaith un cwrr arall o Gymru, onid unwaith, pan orfu i mi fyned i Lan Elwy i gael urdd Offeiriad. Mi fù'm yn Gurad yn Nhref Groes Oswallt ynghylch tair Blynedd, ac yno y priodais yn Awst 1747. Ac o Groes Oswallt y deuais yma yn Medi 1748. Ac yn awr, i Dduw bo'r diolch, y mae gennyf ddau Langc têg, a Duw roddo iddynt hwy ras, ac i minnau iechyd i'w magu hwynt. Enw'r hynaf yw Robert, a thair blwydd oed yw er Dydd Calan diweddaf. Enw'r llall yw Gronwy, a blwydd oed yw er y pummed o Fai diweddaf.—Am fy mywoliaeth nid ydyw on'd go helbulus, canys nid oes genyf ddim i fyw arno onid a ennillwyf yn ddrud ddigon. Pobl cefnog gyfrifol yw Cenedl fy Ngwraig i, ond ni fu'm i erioed ddim gwell erddynt, er na ddygais moni heb eu cennad hwynt, ac ni ddigiais mo'nynt 'chwaith. Ni fedr fy Ngwraig i ond ychydig iawn o Gymraeg, etto hi ddeall beth; ac ofni'r wyf, onid Af i Gymru cyn bo hir, mae Saeson a fydd y Bechgyn; canys yn fy myw ni chawn gan y mwyaf ddysgu gair o Gymraeg. Mae gennyf yma Ysgol yn Donnington, ac Eglwys yn Uppington, i'w gwasanaethu; a'r cwbl am 26 Punt yn y flwyddyn; a pha beth yw hynny tuag at gadw tŷ a chynifer o Dylwyth, yn enwedig yn Lloegr, lle mae pob peth yn ddrud a'r Bobl yn dostion ac yn ddigymmwynas? Er hynny, na atto Duw i mi anfodloni, oherwydd Po cyfyngaf gan Ddyn ehengaf gan Dduw.[1] Nid oes ond gobeithio am well Troiad ar Fyd. Fe addawodd eich brawd Llewelyn o Geredigion,[2] yr edrychai ryw amser am ryw le i mi Ynghymru; ac nis gwaeth gennyf fi o frwynen ymha gwrr i Gymru. Duw a gadwo iddo ef iechyd a hoedl, ac i minnau ryw fath o fywioliaeth, ac ammynedd i'w ddis- gwyl. Nid oes gennyf yn awr neb arall i ddisgwyl wrtho, Ni waeth gan y Bobl yma, am a welaf fi, er yr hwyed y cadwont Ddyn danodd, os cânt hwy eu gwasanaethu, deued a ddel o'r Gwasanaethwr, ni phrisiant hwy ddraen, er gwario o hono ei holl nerth a'i amser, ie, a gwisgo o hono ei Gnawd oddi am ei Esgyrn, yn eu gwasanaeth hwynt. Ysgottyn yw'r gwr yr wyf yn ei wasanaethu yn awr, a Douglas[3] yw ei enw. Yagatfydd, chwi a'i hadwaenoch; y mae yna yn Llundain yn awr, a'r rhan fwyaf o'i amser, gyda Iarll Baddon (Earl of Bath) yn dysgu ei Fab ef. Efe yw'r Gwr a gymmerth blaid y Prydydd Milton, yn erbyn yr Enllibiwr atgas gan Lauder. Pa wedd bynnag, tôst a chaled ddigon yw hwnnw wrthyf fi; 'r wyf yn dal rhyw ychydig o Dir, sy'n perthyn i'r Ysgol, ganddo ef, ac er ei fod yn rhy ddrud o'r blaen, etto fe yrrodd y leni i godi ar fy Ardreth i, rhag ofn a fyddai i Gurad, druan, ennill dim yn ei wasanaeth ef, neu gael bargen ry dda ar ei law ef. (O, the unparalleled extent[4] of Scotch kindness and charity !) Etto ni chlywai ei Stiwart ef (yr hwn a wyddai'n anian dda pa beth a dalai y Tir) ar ei galon godi mo'r Ardreth un ffyrling yn uwch, ac odid y rhoesai neb arall gymmaint am dano. Nid wyf ond Bwngler am ysgrifennu Llythyr Cymraeg, o eisiau arferu, er fy môd yn dyall yr Iaith yn o lew; ac am hynny gwell i mi bellach droi'r Ddalen.—I am exceedingly obliged to you for the favour you did me in putting my name in for one of the Welsh Dictionaries, and should be glad to know if one might buy two or three of the Bibles to give away, and at what price? As for Cywydd y Farn Fawr, I would have sent it you with all my heart, but that I understand that Mr Ellis, Minister of Holy-head, intends to be at the expence of printing it. That, probably, was the reason why Mr Wm Morris did not send you a Copy of it. He can shortly send it in print, with Notes, Explanations, &c., which will be far better and more correct than I can send it at present. However, if you choose to have it from me, you shall and wellcome; only let me know so much in a line by Post, for I hope, that which I received is not to be both first and last. If it please God to lend me my life and health, I will find enough of that kind of diversion for you, especially if I could once be so happy as to get rid of the confinement of a School. I have now but very little time to spare (perhaps an hour or two in a day) and yet, notwithstanding, I keep up a pretty expensive correspondence. I make shift to write some new thing or other to Mr L. Morris, about every month. Some time ago I was wishing I had a Correspondence in London (besides my Patron, for he would do me no good,) that I might, if possible, be furnished with a few Books that would give me an insight into the Oriental Languages, I mean the Arabick and Syriack; for the Hebrew and Chaldee I have some smattering in. I have often heard that almost any Book may be had, and pretty reasonably, at the Booksellers' stalls in London. Now if you should by chance see an Arabick Grammar, &c., either buy it, or cheapen it, and let me know the price, I could easily send up the money by the Salop Waggon, [which goes to London every week,] and receive any parcel from thence back by the same for it comes within half a Mile of my house. I say if you should see such a book by chance, (for I would not put you to the least trouble in the World about it,) and secure it for me, I would remit the money immediately, and ever gratefully acknowledge the favour. And perhaps I might some time or other be able to compass the buying of a Polyglott Bible.—Mae genyf ryw awydd diwala i ddysgu cymmaint ag a allwyf, ond yma ni fedraf gael mo'r llyfrau i ddysgu dim a dalo i'w ddysgu. Nid wyf yn cofio glywed sôn erioed am y Mr Huw Dafis yr ych yn crybwyll am dano, nag am Modryb Mari Brodiart o Lan Eilian 'chwaith. Mae'n atgof genyf glywed sôn am Mr Richard Broadhead, neu Brodiart, o Ren Hescin, ym Môn; ond ni adnabûm i neb erioed yn Llan Eilian, na nemmawr yn un lle arall ym Môn, oddigerth ychydig ynghylch y Cartref, a thua Dulas a Bodewryd a Phenmon, &c., lle'r oedd ceraint fy Mam yn byw. Er pan aethum i'r ysgol gyntaf, hynny oedd ynghylch Deg neu un ar ddeg oed; nid oeddwn arferol o fod Gartref ond yn unig yn y Gwyliau, ac felly nid allwn adwaen mo'r llawer. Mi a wn amcan pa le mae Tref Castell yn sefyll, er na's gwyddwn pwy a'i pioedd. Y tro cyntaf erioed yr aethum i'r Ysgol, diangc a wnaethym gyd â Bechgyn eraill, heb wybod i'm Tad a'm Mam: fy Nhad a fynnai fy nghuro, a'm mam ni's gadawai iddo; ba wedd bynnag trwy gynhwysiad fy Mam, yno y glynais, hyd oni ddysgais enill fy mywyd. A da iawn a fu imi; oblegid ynghylch yr amser yr oeddwn yn dechreu gallu ymdaro trosof fy hun, fe fu farw fy Mam, ac yno nid oedd ond croesaw oer gartref i'w ddisgwyl. I Dduw y bo'r diolch, mi welais ac a gefais lawer o adfyd, ac etto methu cefnu'r cwbl; ond gobeithio'r wyf weled o honof y darn gwaethaf o'm bywyd eisus heibio.—Da iawn a fydd gennyf glywed oddiwrthych, pan gaffo'ch gyfleusdra; a goreu po cyntaf. Bid siccr i chwi, os gwelwch yn dda, gael rhyw Gywydd yn y nesaf, ac ymhob un o hyn allan. Chwi a gawsech Gywydd y Farn yn hwn oni buasai fy mod yn meddwl mai gwell i chwi ei gael yn Argraphedig. Os nid ellwch yn hawdd ddidolli'ch Llythyr â Ffrencyn, gyrrwch ef ymlaen heb yr un; ni wna Grotten na'm dwyn na'm gadael.—If Mr Hugh Davies calls of me in his way to Anglesey, I shall be glad to see him; I live four Miles short of Salop, within half a Mile of the Golden Horse Shoe, on Watlingstreet road; which is about 3 quarters of a Mile short of Tern Bridge Turnpike as he goes from Watlingstreet to Atcham, and so to Salop. I have time to write no more but that I am (with abundance of thanks for this favour) Your most obliged humble servant,

Gronwy Ddu, alias Offeiriad
alias Y Bardd Bach o Fon.

N.B.—Llwybreiddiwch eich Llythyr fal o'r blaen, ond yn unig cofiwch ei orchymmyn i Gŵd Shiffnal (Shiffnal Bag) ac mi a'i caf ddauddydd neu dri yn gynt, oblegid heb hyny fe â heibio i'm trwyn i i'r Mwythig, ac yno bydd hyd

ddychweliad y Post.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 5.

At RICHARD MORRIS.


DONNINGTON, Awst 15, 1752.

Syr,

Dyma'ch Llythyr wedi cyrraedd hyd ymma; a da iawn oedd gennyf ei weled, ac nid bychan ei groesaw er mwyn y Llaw a'i hysgrifennodd. E fu frwnt anial gennyf lawer gwaith, er pan ysgrifenais attoch o'r blaen, na buaswn yn gyrru i chwi Gywydd y Farn. Ni's gwn, pe crogid fi, pa fodd y bu hynny o wall arnaf; eithr boed siccr gennych mai nid anewyllysgarwch oedd yr achos, ond byrr feddwl. Tybio wnawn i fal Hurtyn, mai amgenach a fyddai genych ei gael yn Argraffedig, heb ystyried mai unig Gymmeradwyaeth yr Anrheg oedd hanfod o honaw o law yr Awdwr. Ba wedd bynag, os rhynga fodd iwch esgusodi hynny o esgeulusdra, llyma fo i chwi yn awr fal y mae gennyf finnau trwy ei liw a'i loywion, fal y dywedynt.[5]—Wel, dyna i chwi Gywydd y Farn, ac odid na fydd ryfedd genych (a gwaeled y Gwaith) gael o hono gymmaint cymmeriad yn y Byd. Ond os mawr iawn ei Gymmeriad, mwy yw'r genfigen, gan rai, wrtho. Os nad ych yu dirnad paham y rhoddwyd y geiriau hyn yn ei ddiwedd—Crist fŷg a fo'r Meddyg mau—gwybyddwch claf a thra chlaf o'r Cryd oeddwn pryd y dechreuais y Cywydd, ac hyd yr wyf yn cofio meddwl am farw a wnaeth i mi ddewis y fath destyn. O's chychwi a chwenych weled peth ychwaneg o'm Barddoniaeth i, gadewch wybod pa ddarnau a welsoch (rhag i mi yrru i chwi y peth a welsoch o'r blaen), ac yno mi yrraf i chwi Gywyddau o fesur y Maweidiau. 'Rwyn dyall fod yr hên Frutaniaid yn Bobl go gymdeithgar yna yn Llundain. Ond pa beth a ddywaid yr Hen Ddihareb, Ni bydd dyun dau Gymro?[6] Gobeithio er hynny nad gwir mo bob Dihareb, ac os e, mai nad Dihareb mo hon, on'd rhyw ofer-chwedl a ddychymmygodd rhyw hen Wrach anynad, ymladdgar. Digon gweddol a thylwythgar y gwelais i hynny o Gymru a gyfarfüm â hwynt yn Lloegr. O's tybiwch yn orau, chwi ellwch ddangos Cywydd y Farn i rai o'ch brodyr yn y Cyfarfod Misawl nesaf, yn enwedig i Mr Huw Dafis, neu'r cyffelyb, & fo'n hanfod o'n gwlad ni ein hunain. Ni'm dawr i pa farn a roi'r arno, oblegid gael o hono farn hynaws a mawrglod gan y Bardd godidoccaf, enwoccaf sy'n fyw y dydd heddyw, ac (o ddamwain) a fu byw erioed Ynghymru, nid amgen Llewelyn Ddu o Geredigion, yr hwn yr wyf fi yn ei gyfrif yn fwy nå myrdd o'r Mân-glytwyr Dyriau, naw hugain yn y Cant, sydd hyd Gymru yn gwybetta, ac yn gwneuthur neu'n gwerthu ymbell resynus. Garol, neu Ddyri fòl Clawdd. Pe cai y fath Rymynnwyr melldigedig eu hewyllys, ni welid fyth Ynghymru ddim amgenach, a mwy defnyddfawr, na'u diflas Rincyn hwy eu hunain.

Am y Grammadeg Arabaeg a Syriaeg, gadewch iddynt, ni fynnwn i er dim eich rhoi chwi mewn côst na llafur er porthi fy awydd fy hun. Nid wyf etto berchen y bocced a brynnai Lyfr o werth Dwybunt. Rhyw Goron neu Chweugian a fyddai ddigon genyf fi wario ar Lyfrau Arabaeg. Nid oeddwn i yn deusyf nac yn disgwyl yr A'ach chwi i'r boen i ymofyn cyn fanyled ynghylch y fath beth. Rhaid i mi, heb y gwaethaf, roi heibio feddwl am y cyfryw bethau, hyd oni thro'o Duw ei wyneb a gyrru i mi fy Ngofuned, neu rywbeth a fo cystal er. fy lles. Rhaid yw yn awr arbed yr Arian tu ag at fagu'r Bardd a'r Telyniawr, a chodi calon "Y Wraig Elin rywiog olau." Am y Llyfrau Arabaeg ac Ebryw sydd yn eich meddiant chwi eich hunan, nid wyf mor chwannog a'u cybyddu oddiarnoch: ni fyddai hynny mor llawer gwell nâ lladrad, oblegid fe orfyddai arnoch brynnu eraill yn eu lle hwynt at eich gwasanaeth eich hun. Mae'n gyffelyb eich bod chwi'n dyall yr Ieithoedd hynny, ac os felly mi a wn fi yu swrn dda anwyled y gall fod genych y Llyfrau. Mae gennyf fi yma Feibl, a Salter, a Geirlyfr a Gramadeg Hebraeg, a dyna'r cyfan,-a da cael hynny. Ond am yr Arabaey, ni feddaf Lyfr o honi. Gwych a fyddai gennyf gael gwybod pwy yw Siancyn Tomos Phylip, sy'n dyall yr ieithoedd Dwyreiniol cystal. Gwyn eich byd chwi, ac eraill o'ch båth, sydd yn cael eich gwala o ddysg a Llyfrau da, ac yn amcreiniaw mewn ehangder a digonoldeb o bob cywreinrwydd, wrthyf fi a'm bith, sy'n gorfod arnom ymwthio'n dynn cyn cael llyfiad bys o geudyllan goferydd Dysgeidiaeth. Gwae fi o'r cyflwr! Ni ddamweiniodd i mi adnabod mo Ieuan Fardd o Golege Merton,[7] ond mi a glywais gryn glod iddo, a thrwy gynhorthwy Llywelyn Ddu, mi welais rywfaint o'i Orchestwaith a diddadl yw na chafodd mo'r glod heb ei haeddu. Er ei fod yn iau nå mi, o ran oedran, eto mae'n hŷn Prydydd o lawer, oblegid ryw bryd Yngwyliau'r Nadolig diweddaf y dechreuais i, ac oni buasai'ch Brawd Llywelyn, & yrrodd i mi ryw dammaid praw, o waith Ieuan, ac a ddywaid yn haêrllug y medrwn innau brydyddu, ni feddyliaswn i erioed am y fath beth. Tuag at am yr hyn yr y'ch chwi yn ei ddywedyd, sef, mai Gronwy Ddu o Fôn yw Pen Bardd Cymru oll, mae gennyf ddiolch o'r mwyaf i chwi am eich tŷb dda o honof; ond gwir ydyw'r gwir, yn ydych yn camgymeryd. Llewelyn Ddu yw Pen Bardd Cymru oll, ac ni weddai'r Enw a'r Titl hwnnw i neb arall sy'n fyw heddyw. Nid yw Ieuan a minnau ond ei Ddysgyblion ef, ac o'r Dysgyblion pwy a yf ei ddysg orau, ond hwnnw fo'n wastadol tan law ei Athraw? E fu hynod iawn yr ymdrech rhwng Gŵr o Geredigion a Gŵr o Fôn, er ys gwell na thrychan Mlynedd aeth heibio, sef, D. ap Gwilym, a Gryffydd Gryg; ac am yr wyf fi'n ei ddyall, Môn a gollodd a Gheredigion aeth a'r maes. Felly ninnau:—pa beth yw Gronwy Ddu wrth Ieuan Fardd o Geredigion? eto gwych a fyddai i Fôn gael y llaw uchaf unwaith, i dalu galanas yr Hên Ryffydd Grûg? Gwaetha peth yw, nid wyf fi'u cael mo'r amser, na heddwch, na hamdden gan yr hen Ysgol front yma, a drygnad y Cywion Saeson, fy Nysgyblion, yn suo 'n ddidor ddidawl yn fy Nghlustiau, yn ddigon er fy syfrdannu a'm byddaru. Chwi welwch fy mod yn dechreu dyfod i ysgrifennu Llythyr Cymraeg yn o dwtnais. Gadewch gael clywed oddiwrthych cyntaf byth ag y caffoch hamdden, ac os oes genych ryw Lyfrau Hebraeg a dim daioni ynddynt, neu rai Arabaeg, a alloch yn bur hawdd eu hepcor, chwi ellwch eu llwybreiddio ataf fi—i'w gadael yn yr "Horse Shoe near Tern Bridge," a'u gyrru gyda'r Waggon sy'n perthyn i'r Mwythig. Ond na yrrwch i mi ddim a fo dreulfawr, ag na alloch yn bur hawdd eu hepcor. Os gyrrwch Lyfr yn y Byd a dalo ei yrru, myfi a ddygaf y gost, ac a'i gyrraf yn ol i chwi drachefn (Carriage paid). Bellach rhaid cau hyn o Lythyr oblegid ni erys Malldraeth wrth Owain, ac y mae lle i ofni nad erys y Pôst wrth Ronwy. Byddwch wych. Wyf eich tra-rwymedig a gostyngeiddiaf Wasanaethwr,

Goronwy Ddu, gynt o Fon.

Dyd-dyd gadewch wybod orfu i chwi dalu am y Llythyr o'r blaen.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 6.

At WILLIAM MORRIS.


DONNINGTON, Medi 21, 1752.

SYR.

Mi a dderbyniais eich caredig lythyr o'r 31 o Awst, yr un mynud ag yr oeddwn yn cau fy llythyr at eich brawd Llewelyn, sef oedd hynny Medi'r 16, yn ol y rhif newydd, a hyn a roes i mi gyfleusdra i chwanegu darn at ei lythyr ef y'mherthynas i'r hyn yr ydych chwi yn ei grybwyll yn eich llythyr; a gobeithio y caf atteb cysurus. Nid oes genyf amgen (a pha raid ?) i'w roi i chwi na bendith Dduw, a diolch am eich caredigrwydd a'ch cymmwynasgarwch, a'ch gofal am danaf.

Drwg iawn ac athrist genyf y newydd o'r golled a gawsoch am eich mam: diau mai tost a gorthrwm yw y ddamwain hon i chwi oll, a chwith anguriol ac anghysurus, yn enwedig i'r hen ŵr oedranus; eithr nid colled i neb fwy nag i'r cymmydogion tlodion; chwychwi oll, trwy Dduw, nid oes arnoch ddiffyg o ddim o'i chymmorth hi yn y byd hwn, ac a wyddoch gyd â Duw i ba le yr aeth, i Baradwys, mynwes Abraham, neu wrth ba enw bynnag arall y gelwir y lle hwnnw o ddedwyddyd, lle mae eneidiau y ffyddloniaid yn gorphwys oddiwrth eu llafur, hyd oni ddelo cyflawniad pob peth, ac yno, wedi canu o'r udgorn diweddaf, a dihuno y rhai oll a hunasant yn y llwch, y caiff pob enaid oll eu barnu yn ol eu gweithredoedd yn y cnawd; a chymmaint un a hunasant yn yr Arglwydd a drosglwyddir i oruchafion Nefoedd, yno i fod gyd a'r Arglwydd yn oes oesoedd.

Ond nid wyf fi yma yn amcanu pregethu, mewn llythyr, ac afraid yagatfydd fuasai i mi ddywedyd dim wrthych chwi ar y fath achos; oblegyd eich bod chwi, yr wyf yn deall, yn fwy cydnabyddus & brenin y dychryniadau na myfi; ac felly yn llai eich arswyd o honaw: canys mi glywais iddo o'r blaen fod yn anian agos attoch, cyn nesed a dwyn ymaith yr ail ran o honoch eich hun, sef asgwrn o'ch esgyrn, a chnawd o'ch cnawd chwi. Duw, yr hwn a'i galwodd hi i ddedwyddwch, a roddo i chwi oll amynedd a chysur.

I'm sorry my letter to Mr. Ellis was not kind enough; I think I thanked him for that and all other favours. What, did he expect that I should burst out in ecstacies, and launch forth into a panegyrick on his extraordinary erudition and deep skill in his mother's tongue, a specimen whereof he had inclosed in his letter. I was not so well-bred as to learn to flatter, and if that was what he expected, I am not sorry he .was disappointed; I thought the Doctor had been a man of sound years, and could take up with truth in its own native dress, without the bawd's stakes and garb of soothing and flattery. I have known him of old to be of a morose and peevish temper, an instance whereof he gave me at your house at Holyhead; for having given me a thesis to make a theme on, when I waited on him with it, made, I suppose, in the best manner I was then able (which was no way con- temptible considering my years) the good Dr. (I conceive, expecting that I should have outdone himself and Tom Brown too) fell into such extravagancy of passion as little became him, crying "What stuff is here! Out upon it! I've done with you! I don't want your Latin myself" (a wonder, forsooth, for a fellow of a College), and a great deal to the same purpose. Now I might as well have sent him back his Welsh paper with a What stuff! I can write better Welsh myself (a greater wonder) and I don't want it, &c., &c. And might have added likewise, and can write as good Latin or any other School language. However, if want of kindness in my letter is the reason why Cywydd y Farn is dropt, I am no way concerned at it; let him know (with thanks and compliments) that he does me a special and notable piece of service. But if it be for want of notes, &c., surely, he that could make the Cywydd, can also write notes on it; and if the noise about it is so far gone abroad as to raise a general expectation, I don't know but it may be advisable to print it,.. and even requisite in some measure. Now your crown (if you can find in your heart to part with it upon so trifling an occasion) and mine, and another of Mr. Hugh Williams, will compass it, and we may have it and some two more printed. here, under my own eyes, at Salop, and afterwards equally divided betwixt us, to be disposed of of at pleasure. As to our national indolence and contempt of our own language, we can but take one view of the state of letters. 'Tis a melan- choly consideration; so full of discouragement, that I choose. to say no more of it.

I've received the repeated favours of two letters from your brother Richard, and have in answer to the second, at his desire, sent him Cywydd y Farn, and expect next. post to hear from him again. Da iawn a fyddai genyf ddyfod i fyw ym Môn, os gallwn fyw yn ddiwall ddiangen: ac nid wyf yn ammeu na fyddai Llangristiolus yn ddigon i mi fagu fy mhlant pe'i cawn. Ni rwgnach ffrencyn ar ddwyn llen gyfan o bapur, mwy na phed fai onid hanner hynny, ac am hynny mi a yrrais i chwi ar y tu arall i'r llen ryw fath o gywydd, nid y goreu, ond y diweddaf a wnaethum. Mi a'i gyrrais i Geredigion. yn y llythyr diweddaf; ond ni chlywais etto pa un ai da ai drwg, ai canolig ydyw-dyma fo i chwi fal y mae gennyf finnau. Llawer iawn o drafferth a phenbleth a roes Duw i'm rhan i yn y byd brwnt yma; ac onidê mi fuaswn debyg i yrru i chwi ryw fath o'r Gywydd Coffadwriaeth am yr hen wraig elusengar o Bentre Eirianell; ond nis gallwn y tro yms.

Mae'r Ysgol ddiflas yn agos a'm nychu fi. Pa beth a all fod yn fwy diflas a dihoenllyd i ddyn sydd yn myfyrio, na gwastadol gwrnad a rhincyn cywion Saeson? prin caf odfa i fwytta fy mwyd ganddynt-a bychan a fyddai fod cell haiarn i bob un o honynt o'r neilldu, gan yr ymdderru a'r ymgeintach y byddant; ac fel tynnu afangc o lyn yw ceisio eu gwastrodedd. Ond nid hyn mo gorph y gainge 'chwaith; mae'r rhieni yn waeth ac yn dostach na'r plant; pobl giaidd, galedion, ddigymmwynas, anoddefus ydynt oll—a'r arian yn brin, a'r cyflog yn gwtta, a'r cegau yn aml, a'r porthiant yn ddrud gyd & minnau—Duw a'm dycco o'u mysg hwynt, i'r nef neu Gymru, yr un a welo yn oreu.

I would not have you to communicate the contents of my letter to Mr. Ellis, not that I fear him or any of his kidney, but because I suppose his spleen is already on the stretch, and more provocation would do him harm. If his own ill nature and pride carries him to an indecent. height, it is what I cannot help, I am sure I designed him no offence or affront. If his notions of things and mine. do not exactly tally, where is the harm of it? Our thoughts and sentiments are free born, and cannot be brought into subjection to any one, and like our faith, can be wrought on by nothing but the convictions of reason and argument; whatever cessions and compliances may be squeezed out of us by awe and interest are but mere hypocrisy and dissimulation. And for him to deny me the liberty of enjoying my own sentiments (which by the bye, I doubt not, were juster than his own in that case) is, I say, as great a piece of tyranny as ever the man of Rome usurped over men's consciences: I beg you would let me know. in your next what part of my letter he was principally offended at. You may, if you please, make my compliments. to him as usual, and, if you will, shew him the Cywydd, which I wrote on the other side, on purpose that it might be cut. off from the letter. I have no more to add at present, but that I am, Dear Sir, your most obliged humble servant,

GORONWY OWEN.

P. S. If Llangristiolus could be had at all, I suppose it would not be till after the Λεαθ of the πρεσεντ Ινκυμβεντ. Mi a adwaen yr hen gorph, a hen walch gwydn yw mi a'i gwrantaf. I don't understand this affair rightly; I am very well acquainted with Esq. B. do. 1. but would not take the

world to write to him but on a sure footing—Duw gyd a chwi.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 7.

At WILLIAM MORRIS.


DONNINGTON, December 8, 1752.

DEAR SIR,

Ir is a sad case to be forced to begin a letter to a friend with an apology. I own I had need to do so; though at present I shall only beg your pardon for my dilatoriness, which I doubt not but you will grant without an apology. It is a sufficient punishment, to be deprived, by my own tardiness of the pleasure of your letters. I have not heard from Gallt Fadog since the beginning of October, though. I wrote about a month since. Mr. Llewelyn Ddu talked of going to London; and I fear he had set out before my letter reached Ceredigion. I heard from the Navy Office not long ago, and am still a letter in debt to Mr. R. Morris, which I intend to discharge very soon.

Chwi gawsech glywed oddi wyrthyf yn gynt, ond odid, oni buasai y rhew tost a fu'n ddiweddar. Nid yw'r Awen ond fferllyd ac anystwyth ar yr hin oer yma. Ni chaiff dyn chwaith mo'r amser i brydyddu gan fyrred y dyddiau, a chan ymysgrythu ac ymwthio i gonglau; a pha beth a dal crefft heb ei dilyn? Pa wedd bynnag, dyma i chwi ryw fath ar bwt of Gywydd o goffawdriaeth am yr hen wraig dda o Bentref Eiriannell gynt. Hoff oedd genyf hi yn ei bywyd, a diau fod rhywbeth yn ddyledus i goffadwriaeth pobl dda, ar ol eu claddu; yr hyn, er nad yw fudd yn y byd iddynt hwy, a all ddigwydd fod yn llesol i'r byw, i'w hannog i ddilyn camrau y campwyr gorchestol a lewychasant mor hoyw odidog yn y byd o'u blaen hwynt. Nid yw cymmaint fy rhyfyg i a meddwl y dichon fod ar law dyn o'm bath i ganu iddi fal yr haeddai: beth er hynny?

'Melusaf y cân eos, ond nid erchis Duw i'r frân dewi.' Yr asyn a gododd ei droed ar arffed ei feistr, ac nid llai ei ewyllys da ef na'r colwyn, er nad hawddgar ei foesau. Fe all Bardd Du ddangos ei ewyllys, ac nid all Bardd Coch amgen, cyd bai amgen ei Gywydd.

I do not remember that I ever saw a Cywydd Marwnad by any of the ancients—men whom I would willingly imitate —and so cannot tell how such a Cywydd ought to be made; neither do I call this a Cywydd Marwnad, but Cywydd Coffadwriaeth. I did not rightly know how to go about it; for I could not form any proper idea of it in my mind; and so I was obliged, as it were, to build without a plan. I saw myself under several difficulties. Poets in these cases. are—and I think are allowed to be, though they ought not. —very lavish of their praises, even to an hyperbole, and seldom free from flattery, even of the grossest kind, that is, hard lying. I proposed to myself to keep a strict eye on truth; but then I saw that my truth, would, of necessity be so like other men's falsehoods, that the counterfeit would hardly be distinguishable from the sterling coin; and for that reason I was afraid to say what my love of truth would needs force me to say. I saw that I could say nothing of that excellent woman—though perhaps true of her only, and peculiar to herself—but what had been ascribed before by the prostituted breath of some execrable poetaster or other to, perhaps, the most worthless miscreant. I am sure my main. endeavour was to avoid all appearances of flattery; and that at the expense of suppressing some truths. And if anything looks like it, it is foreign to my intention, and I utterly disclaim the meaning of whatever may be perverted to such. a construction. These were some of my main difficulties; but whether I have surmounted them I leave you to judge. I have one favour to ask you; and that is, that you would. present this Cywydd in my name to your father, whom I am really sorry for; and send me a copy of Y Bardd Coch's Cywydd, i gael gweled pa ragor rhwng Coch a Du. But for love's sake do not you take example by me in deferring to write. I beg I may hear from you as soon as conveniently may be; and I shall never again be faulty in point of expeditiousness

Os gwyddoch pa le y mae, rhowch fi ar sathr y brawd Llewelyn Ddu. Yr wyf yn tybio ei fyned i Lundain cyn hyn; ac os felly, yn iach glywed na siw na miw oddi wrtho hyd oni ddychwelo.

My compliments to Mr. Ellis; and if he chooses to join in the publication of the Cywyddau, he shall be very welcome, and have my thanks too. But I am afraid the. Cywyddau will never be printed, because I doubt the money cannot be raised. The rate of printing at Salop is two guineas a sheet for 1,000 copies, which is three times too much to bestow on them; and there would not go above two or three of them at most on a sheet. For my part, I am very indifferent whether they are printed or not.

Ai byw yr hen Gristiolus wydn fyth? Is the curacy of Llanrhuddlad disposed of? What other curacy is vacant? for I am sure I shall never better myself by staying here. I have already sufficiently tried the generosity of my Scotch patron, and find it too slender to lean upon. He is the hardest man I ever dealt with. Waethwaeth yr a'r byd wrth aros yma; prin y gellir byw yr awrhon— a pha fodd amgen, tra bo y brithyd am goron y mesur Winchester, a'r ymenyn am saith ceiniog, a'r caws am dair a dimai'r pwys?—a pha sut y gellir disgwyl byw tra cynnydda'r teulu, ac na chynnydda'r cyflog? Y llangciau a ant fwyfwy'r clwt, fwyfwy cadach; ac ymhell y bwyf, ïe, pellach o Fôn nag ydwyf, os gwn i pa'r fyd a'm dwg. Ni's gwybûm i mo'm geni [er clywed gan fy mam ganwaith,[8]] nes dyfod i fysg y Saeson drelion yma. Och finnau! Mi glwyswn. ganwaith sôn am eu cynneddfau, a mawr na ffynnasai genyf eu gochel. Mi allaf ddywedyd am danynt, fal y dywed Brenhines Seba am Solomon, "Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad fy hun am danynt, etto ni chredais y geiriau nes im' ddyfod ac i'm llygaid weled; ac wele ni fynegasid i mi yr hanner." Nid. oes genyf fi lid yn y byd i'r Doctor E—s; mae yn rhydd iddo ef ddictatio fal y fynno, onid fod yn rhydd i minnau wneuthur yn fy newis ai canlyn ei ddictat ef ai peidio; a pheidied o a digio oni chanlynaf, ac yno fe fydd pob peth o'r goreu. Cenawes ystyfnig ydyw 'r Awen. Ni thry oddiar ei llwybr ei hun er ungwr. Ac yn wir nid yw ond digon afresymol i ŵr na fedd nac Awen na'i chysgod gymmeryd arno ddysgu un a'i medd, pa fodd i'w harfer a'i rheoli. Fe ellir gwneuthur pwt of bregeth ar y testyn a fynno un arall ; ond am Gywydd, ni thal ddraen oni chaiff yr Awen ei phen yn rhydd, ac aed lle mynno. A phwy bynnag a ddywedo amgen, gwybydded fod ganddo Awen ystwythach na'm Hawen i, yr hon ysgatfydd sydd mor wargaled o ddiffyg na buaswn yn ei dofi yn ieuangach. Cennad i'm crogi onid wyf yn meddwl fod yr Awen, fal llawer mireinferch arall, po dycnaf a diwyttaf y cerir, murseneiddiaf a choocaf fyth ei cair. Nis gwn i, pe'm blingid, pa un waethaf ai gormod gofal, ai gormod diofalwch.

We have here in this parish of Wroxeter some very curious pieces of antiquity lately found. They are three Roman monuments, set up, as appears by the inscriptions (which are very plain and legible-the stones, too, being entire), about the time of Vespasian; one being for Caius Manlius,-a Prætorian legate of the twentieth legion; and another for Marcus Petronius, an ensign or standard-bearer of the nine- teenth legion. Wroxeter was once one of the finest cities in Britain, though now but a poor village, as appears by the ruins that are now to be seen, and are daily more and more discovered, and by the vast number of Roman coins that are yearly and daily found in it. It was called by the Romans Uriconium" and "Viriconium," perhaps from Gorygawn or Gurogion, and probably destroyed by the Saxons; for we have here a tradition, that it was set on fire by a flight of sparrows that had matches tied to their tails for that purpose by the enemy.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 8.

At RICHARD MORRIS.


DONNINGTON, Rhagfyr 18, 1752.

Y CAREDIG GYDWLADWR,

Mi a dderbyniais eich Llythyr er's ennyd fawr o amser, a chan diolch i chwi am y Llyfrau a yrrasoch imi, er na welais monynt etto. Fe ddywaid Mr Llywelyn Ddû i mi yn ei Lythyr, ei fod wedi eu derbyn hwy, ac mae'n debyg y gyrr hwynt yma gyntaf ag y caffo gyfleusdra. Mi gychwynais. 'sgrifennu attoch er ys yn agos i bymthengnos, ac yn hynny dyma Lythyr o Fôn, ac un arall o Allt Fadawg yn dyfod i'm dwylaw; ac yno gorfu arnaf ail fwrw fy Llythyr attoch. chwi, rhag dywedyd celwydd yn ei gynhwysiad: oblegid meddwl yr oeddwn fod y Gŵr o Allt Fadawg gydâ chwi yn Llundain yna, fal y dywedasai y byddai yn ei Lythyr o'r blaen, ond weithion mi glywaf ei fod gartref. Dymunaf arnoch nad eloch i'r gost i brynnu i mi ddim ychwaneg o Lyfrau o herwydd nis gwn i pe'm blingech, pa fodd i wneud i chwi Arian iawn am a yrrasoch. Odid y daw fyth ar fy llaw i dalu'r pwyth i chwi am eich caredigrwydd, ac onid e, mi a'i gwnawn yn ewyllysgar. Mi glywais fyned o Dduw a'ch Mam; a saeth i'm calon oedd y Newydd. Da iawn i laweroedd a fu hi yn ei hamser, ac ym mysg eraill i minnau hefyd pan oeddwn yn Blentyn. Hoff iawn a fyddai genyf redeg ar brydnhawn Sadwrn o Ysgol Llan-Allgo i Bentre Eirianell, ac yno y byddwn sicer o gael fy llawn hwde ar fwytta Brechdanau o Fêl, Triagl, neu Ymenyn, neu'r un a fynnwn o'r tri rhyw; papur i wneud fy Nhasg ac amryw neges arall, a cheiniog yn fy Mhocced i fyned adref, ac anferth siars, wrth ymadael, i ddysgu fy Llyfr yn dda; a phwy bynnag a fyddai yn y byd, y ceid ryw ddydd fy ngweled yn glamp o Berson. Boed gwir a fo'i gair; ac nid yw'n anhebyg, gan weled o Dduw'n dda ffynnu ganddi adael Meibion o'r un Meddwl â hi ei hun ar ei hol. Duw fo da wrthi, da fu hi i mi. Da'n fyw, da'n farw, tra bo ddafn o waed yngwythi ei Meibion. Daccw i chwi y tu draw i'r Ddalen ryw fath ar Gywydd o Goffa da am dani.[9] Da y gwn na ddichon fod ar law burgyn o'm bath i ganu iddi fal yr haedda'i; etto mi allaf ddangos yr Ewyllys, ac nid eill y gorau ddim ychwaneg. Mi allaswn, rwy'n cyfaddef, siariad geiriau mwy, on'd yr oedd arnaf weithiau ofn dywedyd y gwir i gyd, rhag i neb dybied fy mod yn gwenieithio! 'r hyn sydd gasbeth gan fy Nghalon. Fe wyr pawb a'i hadwaenai hi, nad ydwyf yn celwyddu nag yn gwenieithio o'i phlegid. Am y lle y crybwyllais eich Enw chwi, escusod wch fi; nis gwyddwn pa beth i'w ddywedyd am danoch, ac nis clywais erioed amgen nâ'ch bod yna yn Llundain, a rhai o'ch mån gampiau a'ch mwynion chwedlau gynt, pan oeddych yn fachgen, a glywswn gan fy Mam:—Pa fodd y cymmerasoch fwyall fechan gyda chui i dorri'r Ysgol erbyn y Gwyliau, a'r cyffelyb. Mi welais hefyd er ys gwell nå deunaw Mlynedd ym Meddiant f'Ewythr Rhobert Gronw, Lythyr, ac ynddo ryw nifer o Englynion cywreinddoeth, a yrrasech gynt oddi yna at fy Nhaid (yr Hên Ronw) ac heblaw hynny nid côf genyf glywed siw na miw yn eich cylch. Pa wedd bynnag 'rwy'n dyall wrth hynny fod gennych eich rhan o Naturioldeb gwreiddiol yr Hen Gelfyddyd, a gobeithio na thybiwch i mi wneuthur dim cam a chwi. Mi yrrais y Cywydd i Mr. Morris o Gybi, ac i fy Athraw o Allt Fadawg hefyd ond nis clywais etto pa'r un ai da ai drwg ydyw. Rwy'n coelio pe cymmeraswn lai o ofal yn ei gywreinio, mai llawer gwell a fuasai: canys sicer yw fod gormod gofal cynddrwg a gormod diofalwch. Llyna'r Cywydd fel ag y mae; ni phrisiwn ddraen er gwneuthur pwtt o Gywydd i'r Gymdeithas o Hên Frutaniaid, ond cael ystlys gair o'i hanes. Da iawn a fydd genyf glywed oddiwrthych pan gaffoch ryw gyfleusdra. Nid oes genyf ddim 'chwaneg i'w ddywedyd ond fy mod yn rhwymedig i chwi am bob Twrn da. Yr hwn wyf, Syr, Eich ufuddaf, ostyngeiddiaf Wasanaethwr a Chydwladwr anwiw,

GRONWY DDU GYNT O Fon.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 9.

At RICHARD MORRIS.


DONNINGTON, Febry. 21st 1753.

DEAR SIR,

NOTHING could have been more agreeable to me, than to employ my Muse on the subject you sent me; but the more agreeable the Subject, the more I regret the vast inequality of my poor Muse to such an arduous task. If therefore it is not so well executed as I could wish, I readily own it was owing to my incapacity, and not to any defect in our Language. For That is (at least I am willing to believe it is) adequate to the highest strains of Panegyrick, and abundantly fitted for copiousness and significancy, to express the sublimest thoughts in as sublime a manner as any other Language is capable of reaching to. But still we must not think it is priviledged above all other Languages of the Universe, and exempted from all difficulties and restraints. No, it has its own proper Idioms as all others have, and consequently when it is tied down, to keep pace with another, it is straitened and fettered, like David in Saul's armour, and like him had rather it own sling and stone (the meanest of weapons) than be armed Cap à pè in such an armour, as it has not proved or knows nothing of. Thus with regard to Translations, it fares with all Languages, but more especially where there is such a very great (I had almost said, irreconcileable) difference between the properties and Idioms of two Languages, as confessedly there is between our's and the English. This difficulty (great as it is) is again doubly augmented, when our Translation is required to be in Verse. There (besides the usual difficulty of making what is a beautiful thought in the one appear like common sense in the other) we are tied to find out, and range in order, letters and Syllables: What an exquisite nicety is required in this literal Muster (if I may so call it) you very well know, so that it is sufficient for me only to mention it. Perhaps it were wished that the Rules of Poetry in our Language were loes nice and accurate: we should then undoubtedly have more writers, but perhaps fewer good ones. I would never wish to see our Poetry reduced to the English Standard, for I can see nothing in That that should entitle it to the Name of Poetry, but only the number of Syllables (which yet is never scrupulously observed) and a choice of uncommon, or if you please Poetick words, and a wretched Rhyme, some times at the end, and in Blank Verse, i.e. the best kind of English Poetry, no Rhyme at all. Milton's Paradise Lost is a Book I read with pleasure, nay with Admiration, and raptures: call it a great, sublime, nervous, &c, &c, or if you please a Divine Work. You will find me ready to subscribe to anything that can be said in praise of it, provided you do not call it Poetry, or, if you do so, that you would likewise allow our Bardd Cwsg to take his seat amongst the Poets. As the English Poetry is too loose, so ours is certainly too much confined and limited, not in the Cynghaneddau, for without them it were no Poetry; but in the length of Verses and Poems too, our longest lines not exceeding Ten Syllables. (Too scanty a space to contain anything Great within the compass of Six or Seven Stanzas, the usual length of our Gwawododyn Byrr) And our longest. Poems not above Sixty or Seventy Lines, the standard Measure of D. ap Gwilym's Cywyddau; which is far from being a length adequate to a Heroic Poem. However, these are, I apprehend, difficulties that will never be remedied; these Models our wise Fore-fathers left us, and these I presume, they judged most agreeable to the genius of our Nation and Language. Some freedom and ease of composition is, and was always observed to be productive of happier effects than an over-rigid aud starched nicety. Thus the Greeks were much less confined as to Quantities than the Romans. And, not to detract from Virgil's deserved praise, I think Homer may be justly allowed to be preferable to him, almost in such a measure and proportion, as an original Writer is [to a] Translator. The Romans had several words even in their own Language, that, by reason of their Quantities, could not possibly be put into Verse. Thus, Horace was at a loss to name the Town Equotutium, and was fain to describe it by a round-about sort of a Paraphrase. And Martial was hard put to it, to name the favourite Boy Earinus, Domitian's valet. But on the contrary, every harsh word sounded smooth in a Greek's mouth: They might sound "Apes, Apes," with an air, tho' they made the same syllable in the same word to be, first, long, and with the same breath, short. This, Martial wittily observes of them, and at the same time. as wittily laments the over-rigid severity of his own Country Muses:—

"Nobis non licet esse tam disertis
Musas qui colimus severiores."

But with all their severity, if Martial had been acquainted with the obstinate coy, and incompliant temper of our British Awen, he would certainly have taken the Roman Muses for a bevy of City Courtezans. Besides, our Muse, by long disuse has almost forgot to converse with Princes, at least in the mode and language of the present times. No wonder then that my performance should fall short of the pattern given me; if I have kept the sense of my Original, and dressed it in true (tho' homely) language, I hope it may be thought sufficient. If this manner of address is already customary, I commend it; and will, if desired, provide something better, if I live, against next. year. Let me know whether such an address might not be agreeable on the Prince's Birth—day. I think I could (with a little rubbing over) get the rust off my Latin Muse on such an Occasion—But Cantabs have it fresh and fresh.

Eich rhwymedig Wasanaethwr

GRONWY DDU GYNT O Fôn.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 10.

At WILLIAM MORRIS.


DONNINGTON, Ionawr 15, 1753.

GAREDIG SYR A'M HANWYL GYDWLADWR, LLYMA eich epistol o'r 30n o Ragfyr o'm blaen, a chan diolch am dano. Da ydyw'r newydd fod y teulu ieuaingc wedi dyfod trwy y rhan gwaethaf o'r frech wen. Mi ddymunwn, pe mynnai Dduw, fod fy neu—fab innau yn yr un cyflwr. Mae yr frech wen, er nad gwyn ei gwaith, yn britho llawer wyneb yn y parthau hyn, ac yn priddo rhai, er na channadhaodd Duw iddi etto ymweled a'm teulu i. Diolch am y canu Coch. Mi dygaswn fod Huw yn lewach dyn na hyn. Ni thalai fy Nghywydd i gaccymwcci; a hwn ynteu, rhyngoch chwi a minnau, nid yw ond

Cywydd o waith prydydd pren—
Bawach na gwaith Mab Owen;

ond gobeithio yr wyf fod fy Nghywydd i yn beth gwell yr awrhon, nag oedd pan yrrais ef i chwi; oblegid mi a newidiais gryn ddarn o honaw cyn ei yrru i Allt Fadog ac i'r Navy Office. Mi glywais o Allt Fadog ddwywaith er pan ysgrifenais attoch o'r blaen. Yn y diweddaf onid un o Allt Fadog yr oedd atteb oddi wrth Mr. Meyrick o Fodorgan, nad oedd wiw meddwl am Gristiolus. Felly dalied yr hen Gorph ei afael yn y pared yr hyd a fynno, Mae genyf gan diolch i Mr. Ellis am ei ewyllys da. 'Rwyf yn coelio mai gŵr o'r mwynaf yw i'r sawl. a'i deallo; a thybio yr wyf, pe buasai gas genyf ef, yr hyn ni bu erioed, y gwnaech imi ei hoffi heb y gwaethaf imi. Peth mawr yw clywed geirda i un gan wyrda fal chwi ac eraill a ellir eu coelio. Mi wn na chair clod gan y cyfryw heb ei haeddu; o herwydd fod pob gŵr da uwchlaw rhagfarn a gwêniaith. Ni fynnwn i iddo er dim gymmeryd trafferth arno i chwilio am Bentiriaeth i mi. Fe allai y darparai Dduw imi rywbeth cyn bo hir. Nid wyf ar fedr aros yma ond lleiaf fyth ag a allwyf: ond gwell aros yn unman na drwgrodio.

I would not have him bespeak or engage anything for me; for that may disappoint somebody. All that I desire is, to hear what vacancies there are, and how much worth, and let the accepting be in my own choice; otherwise I may be tied, nolens volens, to a blind bargain. Ie, drud gethin yw argraffu cywyddau yn y Mwythig, yn enwedig os mynnir papur da. Ni chlywais oddi wrth y Person Williams er ys talm mawr of amser. Nid gwiw genyf ymhel ag ysgrifenu nodau ac esponiadau hyd onis gwypwyf yn sicr pa'r un a wneir, ai eu hargraffu ai peidio; ond nid ydyw hyny, deued a ddêl, oddi ar waith dwy awr neu dair o amser. Gweled yr wyf nad yw ond gwaith gwellt imi roi fy ewyllyswyr da i'r gost o argraffu peth er fy mwyn i, na wna ffyrlingwerth o les i mi na hwythau, ond rhoi gwaith i ambell geceryn i 'spio gwallau ac i'm coegi a'm cablu am fy ngwaith. Llyna arfer rhan fawr o bobl Fôn, ie a phobl gwlad arall, gynt; ac cdid eu bod etto nemmawr gwell eu moesau. Am hyny synhwyrolaf y tybiwn adael iddynt ganu dyriau Elisa Gowper o Lanrwst, yr hyn fo hoffaf ganddynt. Etto gwnewch chwi a fynnoch. Os eu hargraffu a welwch yn orau, ni phrisiaf i ddraen am y cabl a'r gogan a gaffwyf gan bennaubyliaid. Prin iawn yw yr arian gyda mi,—prinach o lawer na'r cywyddau,—ac onide ni fyddwn 'chwaith hir yn ymarofyn pa un a wnaid eu hargraffu ai peidiaw.

Ydwyf eich Gwasanaethwr,
GRONWY DDU.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 11.

At WILLIAM MORRIS.


DONNINGTON, Chwefror 24, 1753.

GAREDIG SYR,

Llyma'r eiddoch o'r 10fed yn f' ymmyl er ys wythnos; er hoffed yw gennyf eich epistolau, etto nid wyf mor annioddefgar nad allwn weithiau aros eich cyfleusdra am danynt, nac mor sarrug nad allwn faddeu rhyw swrn o'ch esgeulusdra o bai raid, a chyd-ddwyn â'ch annibendod, am nad wyf fy hun mor esgud ag y gweddai; felly boed sicr i chwi nad ymliwiaf byth â chwi o'r erthyb hwnnw; a phed fawn Bâb, chwi gaech lonaid y cap coch o'm pardynau. Prin y gallech goelio, ac anhawdd i minnau gael geiriau i adrodd, mor rwymedig wyf i Mr. Ellis a chwithau. Diau mai o wir serch ar ddaioni, ac nid o ran cydnabyddiaeth, neu un achos arall o'r cyfryw, y mae Mr Ellis gymmaint ei garedigrwydd; a Duw awdwr pob daioni, a dalo iddo.—Fe orfydd arnaf, yn ddiammau, chwilio am ryw le cyn bo hir, ac felly dybygaf y dywedwch chwithau pan wypoch fy hanes: Y mae genym yma ryw ddau 'scwier o hanner gwaed (chwedl y Bardd Cwsg) un Mr. Lee, ac un arall Mr. Boycott, y naill a fu, a'r llall sydd, yn Ben Trustee i'r Ysgol yma. Yr oeddwn o'r dechreu hyd yr awr hon mor gydnabyddus â'r naill ag a'r llall; y diweddaf sydd un o'm plwyfolion yn Uppington; ond y llall a fu yn wastadol yn gynnorthwywr i mi yn fy anghenion: Mr. Lee, a roddai i mi fenthyg pump punt neu chwech wrth raid, ond gan B—tt, ni chaid amgen na mwg o ddiod a phibellaid; ac weithiau pan ddigwyddai iddo ddyfod i'r Eglwys (yr hyn ambell flwyddyn a fyddai yng nghylch teirgwaith) mi gawn ran o'i giniaw, os mynnwn, ond fe'm naccaodd y cadnaw o fenthyg chweugain wrth fy angen, er nas gofynaswn ond i brofi ei haelder ef; 'rych yn llygadrythu, ysgatfydd, wrth glywed sôn am fenthyccio arian, ond nid rhyfedd y peth, a mi yn dal rhyw faint o dir, ac yn talu treth ac ardreth a chyflogau, heb dderbyn mo'm cyflog fy hun ond dwy waith, ac yn amlaf unwaith, yn y flwyddyn. Pa ddelw bynnag, mae rhyw elyniaeth rhwng y ddau wr uchod, a'r sawl a gaffo gariad un, a fydd sicr o gâs y llall; Lee, sydd χουργ, a Boycott sydd yn un o addolwyr Iago. Pob cyffelyb ymgais, fal y dywedant; felly nid anhawdd dirnad pa un gymmhwysaf ei hoffi o ran ei blaid, a phed amgen, pa un a haeddai hefyd ei hoffi er mwyn ei haelioni. Nid ellais erioed aros addolwyr Baal, Iago, &c. &c., a'u cabals a'u celfi, ac ni ddysgais erioed chware ffon ddwybig, a thybio 'r wyf, na ddichon neb wasanaethu Duw a mammon. And if my policy is not, sure my honesty and plainness are to be commended. O'r ddeuwr hynny Boycott yw eilun fy Meistr (fal y mae gnawd i un o ucheldir yr Alban,) a chan fod yn gorfod arno ef fod yn Llundain, ar law Boycott y gadawodd ei holl fatterion yma, i'w trin fal y mynno; ac felly Boycott sydd yn talu i mi fy nghyflog ac yn derbyn fy ardreth, &c. &c. Ac yn awr dyma'r anifail, wedi cael o honaw fi yn ei balfau dieflig, yn dwyn fy nhippyn tir oddiarnaf, without the least colour of reason or justice, or even the formality of a warning. Yn iach weithian llefrith a phosel deulaeth, ni welir bellach mo'r danteithion hynny heb i mi symud pawl fy nhid. Ni wiw i mi rhagllaw ddisgwyl dim daioni yma, ac anghall a fyddai fy mhen pe disgwyliwn, ac odid i mi aros yma ddim hŵy na hanner y gwanwyn o'r eithaf; ond o'r tu arall mae i mi hyn o gysur; daccw Mr Lee, wedi cael i mi addewid o le gan yr Arglwydd Esgob o Landaff, yn gyntaf fyth y digwyddo un yn wag yn ei Esgobaeth; mi glywaf ddywedyd na thal y lleoedd hynny nemmor, ac nad oes ond ychydig iawn ar ei law of ped fai'r holl bersoniaid yn meirw. Beth er hyny? Gwell rhyw obaith na bod heb ddim; ond Och fi, wr fach! pa fodd i ddyall eu hiaith hwynt-hwy? a pha bryd y caf weled fy anwylyd Môn doreithiog a'i mân draethau? Dyna gorph y gainge. Llawer gwaith y bwriedais gynt (ac ni's gwelaf etto achos amgen) na ddown byth i Fôn i breswylio, hyd na bawn well fy nghyflwr nag yr oeddwn pan ddaethum allan o honi: pan ddaethum o honi, 'roedd genyf arian ddigon i'm dianghenu fy hun, a pha raid ychwaneg? ac nid oedd arnaf ofal am ddim ond f'ymddwyn fy hun fal y gweddai, a thybio'r oeddwn fod dwy law a dau lygad yn llawn ddigon i borthi un genau; diammeu na thybia'r byd mo'r cyflwr, presennol elfydd i hwnnw a grybwyllais; y mae genyf yn awr lawer o safnau yn disgwyl eu porthi, er nad oes gennyf ond yr un rhifedi o ddwylaw, &c. &c., ag o'r blaen tu ag at ymdaro am fy mywyd; etto er maint fy ngofalon, cyn belled wyf oddiwrth feddwl fy nheulu'n bwys a gormes arnaf, a'm bod yn fy nghyfrif fy hun yn gannwaith dedwyddach na phed fai genyf gann punt sych wrth fy nghefn am bob safn sy genyf i ofalu trosto: oblegyd pe digwyddai i mi unwaith ddyfod at gerrig y Borth yn y cyflwr yr wyf, da y dylwn ddiolch i Dduw, a dywedyd fel y dywaid y Patriarch Jacob, "Ni ryglyddais y lleiaf o'th holl drugareddau di, nag o'r holl wirionedd a wnaethost a'th was, oblegyd a'm ffon y deuthum dros y Fenai hon, ond yn awr yr ydwyf yn ddwy fintai:" a diau mai fy ffon a minnau oedd yr holl dylwyth oedd genyf pan ddaethum tros Fenai o Fon, ond yn awr y mae gennyf gryn deulu a ro'es Duw i mi mewn gwlad ddieithr. Bendigedig a fyddo ei enw ef.

If I was ever so sanguine, I could hardly hope that the said. Bishop of Landaff would find me any thing so soon as I shall want, which must be probably about lady-day next, and consequently should not be so indolent as to leave myself unprovided in case of necessity. To use one's own endeavours. is not at all inconsistent with a firm reliance on providence. I should be very glad to hear of a curacy in any county of North Wales excepting Anglesey and Denbighshire, the first I except for the reason above mentioned, and the other, because I know the inhabitants of it too well. Pobl gignoethaidd, atgas ydynt, ffei arnynt! as my wife is used to say in her Shropshire dialect. I beg you would be so good as to get some intelligence whether that Curacy in Lancashire, where young Owen of Aberffraw was to have gone to, may now be had, and if so, whether the place is worth stirring for. I have no objections to that country any more than this; I am now [a] pretty old priest, and any one that would serve turn in Shropshire, especially in this part of it, might also suit any other county in England, London only excepted. As I am in favour with Mr. Lee, nid anhawdd a fyddai iddo ef ddal i mi grothell yn mha le bynnag y byddwn, ond cadw ohonof yr hen gyfeillach ar droed. Mae o yn ŵr mawr iawn gyda Earl of Powys (Lord Herbert gynt), Sir Orlando Bridgman, Esgob Llandaff, ac aneirif o'r gwyr mwyaf yn y deyrnas; ond y mae yn awr yn bur henaidd ac oedranus, yn nghylch 65 neu 70 o leiaf, ond fe allai Duw iddo fyw ennyd etto er fy mwyn i. Nid rhaid i chwi yngenyd mo hyn wrth y Llew, rhag iddo ddifrawu o'm plegid, ac felly i minnau golli'r gobaith o ddyfod fyth i Fon; ond y mae'n debyg ei fod yn gwybod eisus, oblegyd yn ddiweddar, pan oedd Person Bodfuan yn Lleyn wedi marw, mi ddymunais ar Mr. Richard Morris fyned yn enw Mr. Lee a minnau at Esgob Llandaff i ddeisyf arno ofyn y lle hwnnw i mi gan ei frawd Esgob o Fangor. Pa sut a fu rhyngddynt ni's gwn i, ac ni's gwaeth. genyf, mi a gollais yr afael y tro hwnw; ond y mae Mr. M. o'r Navy Office yn dywedyd addaw o Esgob Bangor ynteu wrtho ef y cofiai am danaf ryw dro neu gilydd, pe bai goel ar Esgob mwy nag arall. Nis gwn i pa'r fudd a ddaw; ond byn sydd sicr genyf, fod yr un nefol ragluniaeth ag a'm porthodd hyd yn hyn, yn abl i'm diwallu rhagllaw; a pha bryd bynnag y digwyddo i mi saethug, fod Duw yn gweled mai rhywbeth arall sydd oreu er fy lles. Nid oes yma bwt newydd yn y byd o Gywydd nac Awdl weithian, oblegyd mi fu'm yn cael fy llawn hwde ar wheuthur rhyw Gywydd i'r Gymdeithas o Gymmrodorion yn Llundain, ar ddymuniad y gwr o'r Navy Office, a da yr haeddai oddiar fy llaw bob peth a f'ai yn fy ngallu; ni welais i erioed ei garedicach o Gymro na Sais, er na's gwelais erioed mo'no yntau.—Dyna gydnabyddiaeth ryfeddol! Dyma'r Cywydd hwnw i chwi, fel ag y mae; ond yn gyntaf rhaid i mi eglurhau y testyn i chwi, yr hwn sydd fel y canlyn. It is an address to His Royal Highness the Prince of Wales, to be presented to him by the Lord Bishop of Peterborough (his Highness's Preceptor) in the name of the Society of Ancient Britons, on St. David's day next, in Welsh and Latin. The Latin is composed by some young Cymro in Cambridge, and the Welsh by your servant Gronwy Ddu. That the Latin and Welsh might tally, the address was drawn up in English at London, and sent to me (and I suppose to Cambridge too) to be translated into verse, so that this Cywydd is but a translation, and I disclaim all praise and dispraise alike from every thought, figure, fancy, &c., in it; nothing of it is mine but the cynghanedd and language. Y mae'n gyffelyb fod Ieuan Brydydd Hir ac eraill wedi eu rhoi ar waith ar yr un achos, ac mai'r Cywydd goreu a ddewisir i'w ro'i i'r Tywysog; a sicr yw, os felly y mae, ní chaiff fy Nghywydd i ddangos mo'i big i'w Frenhinol Uchelder. [Yma y dilyn y Cywydd i'w gyflwyno i Dywysawg Cymru.[10]] Dyna i chwi y Cywydd fal y mae, ac os boddia'r Gymdeithas, nid wyf yn ameu na chewch glywed ychwaneg o son o Lundain; fe'i hargraffir mae'n debyg cyn ei ro'i i'r Tywysog. Os byw fyddaf ryw Wyl Ddewi arall, mi fynnaf finnau genhinen sidan o Lundain; nid oes yma ond cennin gerddi i'w cael, ac ni's gwaeth gan lawer am eu harogledd hwy, ond yn enwedig y Saeson yma. Mae genyf un ffafr arbenig i'w gofyn genych, a hyny yw, fod o honoch mor fwyn a gyru i mi o dro i dro yn eich llythyrau, engraffau, neu siamplau o'r pedwar mesur ar hugain. This is a favour I've been a begging of Mr. Lewis Morris this whole twelve months and above without any effect. One example or two in a letter would soon make me acquainted with them. I suppose you either have or may borrow Grammadeg Sion. Rhydderch; I remember my father had one of them formerly, and that is the only one I ever saw, and as far as I can remember, it gave a very plain, good account of every one of them, viz., Cywydd Deuair Hirion (or the like) a fesurir o 7 sillaf, &c., &c. All the Measures I know at present are Englynion Unodl Union, Cywydd Deuair Hirion, Gwawdod- yn Byr, and Englyn Milwr: I protest I know no other. The two last, Mr. Lewis Morris brought me acquainted with, and the only knowledge I had of Gwawdodyn Byr, when I made my Gofuned, was a stanza or two of it, made by Ieuan Brydydd Hir on Melancholy that Mr. Morris had sent me as a specimen of his ability in Welsh Poetry, and no wonder that my Gofuned should be faulty in blindly copying after so inaccurate a pattern. Is it not a pity that many a pretty piece should be for ever lost for want of proper help to produce it! 'Rwyf agos a diflasu yn canu yr un don byth fel y gôg. Mae Cywydd yn awr, o eisiau tipyn o ryw amheuthyn, wedi myned mor ddiflas a photes wedi ei ail dwymno. Gyrwch i mi ryw un neu ddau o'r mesurau na's adwaen yn mhob llythyr, ac yna mi fyddaf yn rhwymedig i ganu'ch clod yn mhob mesur o honynt. My compliments, and sincerest thanks to Mr. Ellis. —F'anerch at eich tad yn garedig, ac at William Elias, os digwydd i chwi ei weled. Gadewch glywed oddiwrthych oddiyna pan gaffoch awr o hamdden, ac fe fydd i chwi ddiolch o'r mwyaf am bob llythyren, gan (yr anwyl gydwladwr) eich rhwymedicaf wasanaethwr,

GRONWY DDU O FON.

O.S.—Ai ê, ai ê, meddwch chwi, Mr Owen yw'r Bwrdais dros dref y Duwmaris; si un o honom ni yw efe? ai ynte un o blant Alis y Biswail? meddwl yr oeddwn nad oedd neb o Foneddigion Môn yn χουγιαιδ namyn Mr. Μευριγ o Βοδόργαν yn unig. Fe fu Mr. Owen o Brysaddfed yn byrddio gyda mam fy ngwraig i yn Nghroes Oswallt pan oedd fachgen yn yr Ysgol yno. Ni chlywais o Allt Fadog er ys 6 wythnos neu 7.—Gobeithio fod pawb yn iach yno. Byddwch siongc.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 12.

At WILLIAM MORRIS.


Salop, April 19, 1753.

DEAR SIR,

I TAKE this opportunity to return you thanks for the favour you did me in procuring me a curacy that is much better than my former, and to let you know that Mr. Brooke is willing to allow me £35 per annum according to my expectation. I do accept of it, and am engaged by promise to be at Walton before Low—Easter Sunday, and hope this exchange will be for my good. I am now in Salop, where I came to buy some few necessaries for rigging, &c. for I would not willingly appear very ill accoutred in a strange place on my first arrival. I forgot to bring a frank with me from home, and am loath to miss this Post, so beg you will pardon my putting you to a great expence this one time; as soon as I arrive at Walton I shall write to you again and then the frank will be of service. If Sion Dafydd Rhys is not already set out, I beg you would stop him till I am fixed at Walton. My compliments to Mr. Ellis, with abundance of thanks for 8. D. Rhys. My neighbouring ministers have promised to officiate for me here till a successor be provided, so my present patron can't think himself ill—used. The worst that I have to fear from this affair is, that I shall have some difficulty in removing my family. As soon as I am fixed you shall hear from me. I've no leisure to add any more, but that I am, Dear Sir, your most obliged humble servant,

GORONWY OWEN.

O.S.—Gwae fi na wyddwn pa un ai bod Llewelyn yn Nghallt Fadog ai ynte yn Llundain; yr wyf ar dorri fy nghalon o eisiau clywed oddiwrtho fo.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 13.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, Ebrill 24, 1753.

FY ANWYL GAREDIG GYDWLADWR,

DYMA fi yn Walton o'r diwedd, ar ol hir ludded yn fy nhaith. Mi gyrhaeddais yma bore ddoe, ynghylch dwy awr cyn pryd gwasanaeth; a'r Person a'm derbyniodd yn groesawus ddigon. Ond er maint fy lludded, fe orfu arnaf ddarllen y gwasanaeth a phregethu fy hun y bore, a darllen gosper yn y prydnawn, ac yntau a bregethodd. Y mae y gwr yn edrych yn wr o'r mwynaf; ond yr wyf yn deall fod yn rhaid ei gymmeryd ef yn ei ffordd. Mae y gwas a'r forwyn (yr hyn yw yr holl deulu a fedd) yn dywedyd mai cidwm cyrrith, anynad drwg—anwydus aruthr yw: ond pa beth yw hynny i mi? Bid rhyngddynt hwy ac yntau am ei gampau teuluaidd; nid oes i mi ond gwneyd fy nyledswydd, ac yno draen yn ei gap. Hyn a allaf ei ddywedyd yn hy am dano, na chlywais erioed haiach well pregethwr, na mwynach ymgomiwr. Climmach o ddyn amrosgo ydyw— garan anfaintunaidd—afluniaidd yn ei ddillad, o hyd a lled aruthr, anhygoel, ac wynebpryd llew, neu ryw faint erchyll- ach, a'i ddrem arwguch yn tolcio ym mhen pob chwedl ddigrif, yn ddigon er noddi llygod yn y dyblygion; ac yn cnoi dail yr India hyd oni red dwy ffrwd felyngoch hyd ei ên. Ond ni waeth i chwi hynny na phregeth, y mae yn un o'r creaduriaid anferthaf a welwyd erioed y tu yma i'r Affric. Yr oedd yn 'swil gennyf ddoe wrth fyned i'r Eglwys yn ein gynau duon fy ngweled fy hun yn ei ymyl ef, fel båd ar ol llong.

Bellach e fyddai gymmwys rhoi i chwi ryw gyfrif o'r wlad o'm hamgylch; ond ni's gwn etto ddim oddi wrthi, ond mai lle drud anial ydyw ar bob ymborth: etto fe gynnygiwyd i mi le i fyrddio (hyd oni chaffwyf gyfle i ddwyn fy nheulu attaf) yn ol wyth bunt y flwyddyn; a pha faint rhattach y byrddiwn ym Môn? Nid yw y bobl y ffordd yma, hyd y gwelaf fi, ond un radd uwchlaw Hottentots; rhyw greadur- iaid anfoesol, didoriad. Pan gyfarfyddir & hwy, ni wnant onid llygadrythu yn llechwrus, heb ddywedyd pwmp mwy na buwch; etto yr wyf yn clywed mae llwynogod henffel, cyfrwys-ddrwg, dichellgar ydynt: ond yr achlod iddynt, ni'm dawr i o ba ryw y b'ont.

Pymtheg punt ar hugain yw yr hyn a addawodd fy Mhatron i mi; ond yr wyf yn deall y bydd yn beth gwell na'i air. Ni rydd i mi ffyrling chwaneg o'i bocced; ond y mae yma Ysgol råd, yr hon a gafodd pob Curad o'r blaen, ac a gaf finnau oni feth ganddo: hi dâl dair punt ar ddeg yn y flwyddyn. Fel hyn y mae: pan fu farw y Curad diweddaf, fe ddarfu i'r plwyfolion roi yr Ysgol i'r clochydd; ac yn wir, y clochydd a fyddai yn ei chadw o'r blaen, ond bod y Curad yn rhoi iddo bum punt o'r tair ar ddeg am ei boen. Ond nid oes, erbyn edrych, gan y plwyfolion ddim awdurdod i'w rhoi hi i neb; ond i'r Person y perthyn hynny; ac y mae efe yn dwrdio gwario 300 neu 400 o bunnau cyn y cyll ei hawl. Felly yr wyf yn o led sicr o'i chael hi; ac oni chaf, nis gwn yn mha le y caf dŷ i fyw ynddo; odid i mi ei chael hithau gryn dro etto, tu a'r Mehefin neu y Gorphenaf, ysgatfydd, pan ddel yr Esgob i'r wlâd.

Os yw J. D. Rhys heb gychwyn, gyrrwch ef yma gyd A'r llong nesaf; a byddwch sicr o lwybreiddio ef, a'ch holl lythyrau, at Rev. G. Owen, in Walton, to be left at Mr. Fleetwood's, Bookseller, near the Exchange, Liverpool. Mi a welais yn Liverpool yma heddyw rai llongwyr o Gymru, ie, o Gybi, y rhai a adwaenwn gynt, er na's adwaenent hwy mohono fi, ac na's tynnais gydnabyddiaeth yn y byd arnynt, amgen na dywedyd mai Cymro oeddwn o Groesoswallt (lle na's adwaenent hwy,) ac felly yr wyf yn dyall fod yn hawdd cael y peth a fynnir o Fôn yma. Ond drwg iawn gennyf glywed fod Mr. Ellis anwyl yn glaf. Er mwyn Duw rhowch fy ngwasanaeth atto, a chann ddiolch am y Dr. Davies.

Nid oes gennyf ddim ychwaneg i'w ddywedyd yn awr, ond bod y genawes gan yr awen wedi naghau dyfod un cam gyda myfi y tu yma i'r Wrekin (the Shropshire Parnassus,) and that as far as I can see, there is not one hill in Lancashire that will feed a muse; however we will try whether a muse (like a Welsh horse) may not grow fat in a plain level country. If that experiment will not do, I know not what will. I beg to hear from you by the return of the Post, and let me know if Mr. Ellis is any thing better; his death, I am sure, would be an irretrievable loss, not only to Holyhead and Anglesea, but to all Wales. Don't fail to let me hear from you as soon as possible, and how my dear poetry tutor, Llewelyn, does. I have no time to write more,. but that I am, Dear Sir, Your most obliged humble servant,

GRONWY DDU O FON.
Calanmai Newydd yn Nhref Lerpwl.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 14.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, June 2, 1753.

ANWYL GYDWLADWR,

LLYMA'CH caredig lythyrau o'm blaen o fesur y cwpl. Digrif iawn oedd cael ail afael yn yr hen gydymaith diofal gan. Walchmai, aiê, aiê?

Gorloes rydiau a gorddyar caws? O'r goreu, gadewch iddo. Yn wir hen gorph go anhawdd ei ddeall yw Gwalchmai. Yet I doubt not, if I had the advantage of perusing him and some others, but I could find out the meaning of every word in him. As I have neither Dictionary nor any other help by me at present, I can't pretend to understand one half of what you sent me; I do, however understand too much [of it to think it has no beauties, and too little] to be able to point 'em all out. This I may say, that the part of Gorhoffedd which you now sent me, has fully confirmed me in the opinion I had of "Mochddwyreawg huan haf," &c. I observe that the word gorhoffedd itself signifies the same thing as we now call cynsêt, i.e. conceit, as cynset yr Arglwyddes Owen (hen gainc ar y delyn) &c. And certainly this was Gwalchmai's conceit, i.e. a liberty he indulg'd himself of making a poetical gasconade, or brag of his feats. Dyffestin is certainly the same as the Latian festino, perhaps derived from it, or rather festino from dyffestin, and that again from ffèst, which is the more simple word, and therefore to be look'd upon as the original. You know Monsieur Pezron's Rule. I wish some able hand would endeavour to improve the etymological knowledge of our language, by reducing the compound words into their simples, and derivatives into their primitives; it would open a wide door to the thorough understanding of our language, and the establishing of the critical parts of ancient and modern orthography. Edward Llwyd in displaying his vast treasure of European languages, has rather confounded than settled the etymology of ours. If the thing was once judiciously done we should view our fine language in a quite different light, and find it to be (as I am persuaded it is) more independent of all European languages than has been hitherto ever imagined. I question whether we have one single word in the language, but what may be fairly derived of some monosyllable of our own. Dyffestin from ffest I have mentioned. I never saw any etymon offered of the word dechreu, yet I think it is as visible as the summer's sun, that it is compounded of dy and creu (to create,) e & y being promiscuously used by the antients, and what can more properly signify to begin, than a verb derived of another that denotes the beginning of the universe? And what is diweddu but a metaphor taken from unyoking a team, and compound of di and gwedd? But more of this by and by. I know no better way of conveying to you my notion of this piece of poetry than by rendering it into modern Welsh, without any regard to metre, or writing down the original, which you have by you:—

Haul haf boreu ei godiad, brysia,
Peraidd (yw) pynciau adar, teg (yw'r) araul hin dawel;
Myfi sydd wych fy nghynnedfau, yn ddiarswyd mewn brwydr;
Myfi sydd (megys) Hew rhag (y) llu a ruthrasant ar fy nghaerau;

Ie'n siwr. Dyn gwych o Gwalchmai, medd Goronwy.

Bu'm yn effro drwy'r nos yn cadw (y) terfyn
(Wrth) rydau wedi eu harloesi, dŵr a dyn y cèn (the covering)
oddiar wreiddyn;
Glas (yw) gwellt (y) lle anghyfanedd, diau mai hyfryd y dŵr,
Trydar eos (sydd) ganiad gynhefin,
Gwylanod yn chwareu ar wely o lifeiriant
Lleithion eu plu, pleidiau hydrin, i. e. ciwed ymladdgar, or hawdd
eu trin. q. which of the two?

N. B. The words within parentheses are what I myself put in to explain the original sense.

I doubt not but you'll think this explanation very odd, therefore I think I had best give my reasons for it, without meddling with the other parts of the Awdl at present. First then I observe that every compound word has it's beauty, expressing something more, or else expressing it otherwise than the simple word does. Thus gorwylais y nôs, is equivalent to gwiliais trwy'r nôs, and enhances the sense; as pervigilo in Latin does that of vigilo taken simply. Achadw likewise signifies more than the bare word cadw, it means to keep diligently, to be a good centinel, and is equivalent to our go—ar—chadw or gwarchod. Ffin is the same with the Latin finis, (which is but a derivative from it with a Latin termin— ation,) hence cyffin, &c.; it signifies the border of a country, and is near a kin to min, whence the Latin terminus and our terfyn, which is no more than tir min and tir fin. Gorloes I take to be compound of gor and lloes (not gloes,) or put contractedly for go—ar—lloes. There was certainly sometime in use such a monosyllable as lloes, whence our modern arlloesi, or arloesi. Now if this conjecture of mine be allowed to be right, we may easily understand what he means by gorloes rydiau or rydau as we call fords now. Then because of the gor, they should be very clear fords. Dygen, I own, is one of the hardest words in the piece to me, but I take it to be compounded of di and cenn, if not, I know not what it is. Gorlas gwellt didryf, I think is so easy as to need no explanation, only didryf is (according to Dr. Davies,) compounded of di and tref, and signifies an unfrequented or uninhabited place. Dwfr neud iesin, neud is the same as diau, truly. The next thing worth notice is gwylein, which is a plural formed in the same manner as cigfran, plural cigfrain. In Llŷn they call them at this day gwylyn; and certainly ei and y were of equal use with the antients; witness the plural eirf and yrf, from the sing. arf. As the transcribers of these pieces from age to age did not pretend to an infallibility, I am inclined to think that lleithyryon is no less than a mistake of theirs for lleithion, which was perhaps written lleithyyon (the antients being frequently too liberal of their 's and y's in their orthography,) and so the r might possibly creep in between the y—y thro' their oscitancy. As to pluawr I can't think it to be the same as pluor (dust), which indeed is itself but a corruption of pylor, which is a derivative or rather the primitive of the Latin pulver; but I take pluawr to be whimsically put for plu; and my reason for so thinking you'll see in the following rhyme, "Haul yn Ionawr ni mad welawr, Mawrth a Chwefrawr a'i dialawr."—Prov. What can be more whimsical than welawr and dialawr? And why may not pluawr be of the same stamp? You'll undoubtedly think it high time for me to conclude this insignificant piece of criticism, and truly I think so too, but can't do it without observing in general that the whole piece turns upon feats of arms, as the first two verses plainly shew, and llachar fy nghleddau, llewychedig our ar fy nghylchwy, and in the subsequent parts, and I can't help thinking the scene to be in Montgomeryshire or Shropshire (rather the latter), which was for many centuries the seat of War, the ffin (barrier or frontier) of the Cambrian dominions. What leads me to this opinion is, I find mention made of Evernwy (a River that I very well know,) which, a little above Llan y Myneich in Shropshire, divides Shropshire from Montgomeryshire, and falls into the Severn between Llan y Myneich and Melverly. This river is (to this day) called by the Welsh Y Fernwy, and writ by the English Vernaise (after the French fashion,) but pronounced the Verny. Add to this, that says to Owain, "Pell o fon fain wyt ti, dwythwal werin," &c. And truly, if he was on the banks of the Verny, he was a pretty distance from Anglesey, no less than the whole breadth of Wales. And as the scene is the Banks of the Vernwy, so the time is a Summer's morning before sunrising, to which the Poet addresses himself, and wishes his speedy appearance after his fatigue of lying under arms all night in the camp, yn achadw fin, guarding the pass. of the Fernwy against the English. There is something very beautiful and extraordinary in the pleasant description he gives of the place and the objects of delight that presented themselves to him, as gorddyar eos, &c., which none but a poet could have received any delight from in such a dangerous situation as that of lying under arms to wait the approach of powerful and bloody enemy, But it seems that our ancestors (noble souls) were so far diofn yn nhrin as to be able to attend equally to the warbling of the nightingale and the motion of an enemy, and that even the danger of life itself could make them lose their relish of the pleasures of it. What can be a greater argument of an unrestrained and resolute courage, of an extraordinary firmness and constancy of mind? Wele bellach ddigon ar y lol bottes yma, ac weithian am hanes y llew. Y mae'r hen deigr a minnau yn dygymmod yn burion hyd yn hyn, a pha raid amgen o hyn allan? Ni thybia'r hen lew ddim yn rhy dda i mi am fy mod yn medru ymddwyn mewn cwmni yn beth amgenach na'r lleill, ac am fy mod yn ddyn go led sobr, heb arfer llymeitian hyd y sucandai mân bryntion yma. Os chwennychwn bot a phibell, y mae i mi groeso y prydnhawn a fynwyf, gyda'r hen lew ei hun, lle cawn botio yn rhad, ac ysmocio cetyn lawlaw, ac yno hwre bawb a'i chwedl digrif, a dwndro wrth ein pwys oni flinom. Dyn garw ydoedd y Curad diweddaf! Nid âi un amser ond prin i olwg yr hên gorph, ac os âi ni ddywedai bwmp onda ofynid iddo, ac fyth ar y drain am ddiane i ffordd, oblegyd hoffach oedd ganddo gwmni rhyw garpiau budron o gryddionach, cigyddion, &c., ac yn nghwmni y cyfryw ffardial yr arhosai o Sul i Sul yn cnocio'r gareg, a chwareu pitch and toss, ysgwyd yr het, meddwi, chwareu cardiau, a chwffio, rhedeg yn noeth lymmyn hyd ystrydoedd Le'rpwl i ymbaffio. A'r cigyddion, a'r rheiny a'u cleavers, a'u marrow bones yn soundio alarm o'i ddeutu, myned i'r Eglwys ar fore Sul yn chwilgorn feddw, &c. Unwaith y gwnaeth gast y ci (fel y dywedant,) fe gymmerth het un o'r gwŷr penna'r plwy ac a bisodd ynddi, ac yno fe'i llanwodd â marwor tanllyd, ac a'i taflodd yn nannedd ei pherchenog; fe fu agos i hynny a gwneud i mi y mawr—ddrwg, oblegyd y gwr hwnnw a gawsai'r anmharch gan y curate a wnaeth ei achwyn ar holl wyrda y plwyf, ac a gafodd ganddynt gyttuno na chai curate byth rhag llaw mo'r Ysgol, na dim arall arall a allont hwy eu llestair. This was a mad resolution of his (for theirs[11]) for a man is not accountable or answerable for the miscarriage and folly of another; but however, it cost me a great deal of trouble and arguing to bring them to a better temper, which by a little art and winning behaviour, I've at last effected. Yr ydwyf wedi cael myned yn ben Meistr i'r Ysgol, ond nad rhaid i mi wneuthur dim yn y byd oni ddigwydd i rai ddyfod i ddysgu Lladin. Y mae gennyf un arall danaf i ddysgu Saesneg, i'r hwn yr ydwyf yn rhoddi wyth bunt yn y flwyddyn am ei boen. Ac felly y cwbl wyf fi yn ei gael ydyw yn nghylch chwe' phunt neu saith yn y flwyddyn heblaw'r Ty'n y fynwent. Ac y mae hynny yn ddigon am wnenthur dim.—Y mae'r fargen wedi ei chloi, canys y mae'r articlau cytundeb wedi eu tynu a'u seinio rhyngof fi ac Edward Stockley (fy Usher a'm Clochydd) i'r hwn y rhoesai'r plwyfolion yr Ysgol o'r blaen. Felly, fy holl gyflog i sydd yn nghylch £44 yn y flwyddyn rhwng y ty a'r cwbl. Wel dyna i chwi fy hanes i, hanes go dda ydyw i Duw a chwithau bo'r diolch. Mae'r wraig a'r plant wedi dyfod yma er's pythefnos, ac yr ydym oll wrth ein bodd, onid eisiau dodrefn i fyned i fyw i'r Ty'n y fynwent. Fe orfu arnaf werthu pob peth yn Dennington, i dalu i bawb yr eiddo, ac i gael arian i ddwyn ein cost yma; felly llwm iawn a fydd arnom y chwarter cyntaf. Nid oes arnom eisiau dim yn fawr ond gwely neu ddau; am gypyrddau, silffiau, &c., mae y rhai'n yn perthyn i'r tŷ. Mae genym ddigonedd o burion llenlleiniau, lleiniau bwyd, &c., heb eu gwerthu. Yn nghylch pum' punt a'm gosodai i fyny yn bin yrwan. Ac o'r pum' punt (y welwch. chwi!) dyma Dduw a haelioni Llewelyn wedi taflu i mi ddwy heb eu disgwyl. Duw a dalo iddo'n ganplyg.—Anrheg i'm dau lanc ydynt.—Ni welais mo'r Captain Foulkes eto, ni che's mo'r amser gan bensyfrdanu yn nghylch yr Ysgol yma. Mi glywais son ei fod yn myned i voyage i Guinea yr haf yma. Ni's gwn pe crogid fi pa fodd i gael rhodd Mr. L Morris yma; os medrwch chwi ddyfeisio rhyw ffordd, da fydd eich gwaith. Rhowch fy annerch yn garedig at Mr. Ellis, a gobeithio ar Dduw ei fod yn dechreu myned yn gefnog. Mi gefais ddau lythyr oddiwrth Mr. L. Morris o Lundain er pan ddaethym yma, ac yr oedd yn dywedyd ei fod wedi gorchfygu ei elynion yn lew. Mi ges un oddiwrth Mr. R. Morris i ddywedyd y cawn fod yn un o'r Corresponding Members o'r Cymmrodorion. As to Mr. Owen of Prysaddfed if he should happen to write to me, (as I suppose he never will) I'll thank him in the most thankful manner imaginable, but will decline his intended favours, as I may very well do, for I can hardly throw up £40 to accept £20.—The Lord be with you and bless you.—My service to your father. I am, dear sir, your most obliged servant, GORONWY OWEN. P.S.—I have not the Cywydd Sior by me, therefore I beg you would send it Coch Twrkelyn, with my compliments, and let him know he should have had it long ago if it had not been for my hurry in removing. Tell him I send it to you in a frank, and desired you to send it him, without the needless expence of a letter.

Mawl i Dduw, nid oes arnaf un ffyrling o ddyled i neb, fel y bu o fewn ychydig flynyddoedd.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 15.

At RICHARD MORRIS.


WALTON, Ebrill 24, 1753.

DEAR SIR,

It is a very light thing with me, that my performances should be criticised upon: it is but what I must have expected, had they been really (as you would perswade me, and in this only I presume to 'question your Judgment,) the best that ever the world saw in that Language. How just their criticisms are I have no time to enquire; neither indeed could I, if I had time, because I have only above one or two of my Poems with me, or any where else in my possession; having I fear burnt them in haste among some old Letters and Papers at my parting from Donnington. But I verily believe that they may find all the variety of Cynghaneddau in most of them, especially Cywydd y Calan. But supposing, what they alledge, to be true in the main, viz. that llusg and Sain are oftner to be met with than any other Cynghanedd; I am not able to apprehend how that comes to be a fault. In every Latin Heroick or Hexameter verse there are four feet, that may be either Spondees or Dactyls, or some of both indifferently, at the pleasure of the Poet: but all the Critics on Virgil, that ever I saw, never enquired, whether he was more inclinable to one or the other, so that that he excluded neither; and I am perswaded had any one taken it in his head to carry on such a piece of criticism on one of his Eclogues in Mr. Pope's days, he should have had an honourable place in his Dunciad for it. But be that as it will, you might have told Mr. Wynne[12] how very little I know of those little niceties as yet, and then perhaps he would have been less severe. The few Essays that I have hitherto composed were never designed for publick view; neither do I think they are fit to appear in Publick: they are my Schoolboy's task, the mere foetus of uninstructed Nature without any the least assistance of Art. Whilst others have had their several learned Grammarians, their Davieses, their Middletons, their Gambolds, &c to consult I had no other Guide, but Nature uncultivated, no Critic but my own ear, no rule or Scale, but my own fingers end: 'till you out of mere pity were pleased to give me some usefull hints, which were far from being in folio; and tho' your instructions are far more valuable, than all our Grammarians put together, Yet at the great distance we were asunder I was obliged to be (as I am still) uninformed, unsatisfied, as to many of the most material points and most essential properties of our Poetry. Mr. Ellis indeed, by Mr. Wm Morris's recommendation was pleased to make me a present of Dr. John Dafydd Rhys's Grammar, but it was unforntunately sent to Shropshire, after I was come from thence hither, and by that means never came yet into my hands and perhaps never will. But if it comes with the rest of my Books, (which I shall endeavour to get hither as soon as possible) I fully intend to aim at something out of the common road, and try whether our Language will bear a Heroick Poem. I know owr Critics will have neither patience nor mercy with me; they will think it a rash and mad attempt, but what care I for that? I don't write for them, but for rational creatures such I mean as have sense enough to form a right judgment of things and candour enough to pass an impartial one. Ond beth a dâl bygwth! If I live, it shall be so. I can't discern that I have any natural inclination to llusg and Sain, any more than to Croes and Traws I flatter myself, that I am Master of a fluency of words, and purity of diction; and, if so, be the Poetical vein ever so slender, all the Cynghaneddau must be equall, if equally understood.—Cornelia, the Mother of the Gracchi, is commended in History for having taught her Sons, in their infancy the purity of the Latin Tongue. And I may say in Justice to the memory of my Mother, I never knew a Mother, nor even a Master, more carefull to correct an uncouth, inelegant phrase or vicious pronunciation; and that I must own, has been of infinite service to me

Wyf eich ufuddaf Wasanaethwr
Gronwy Ddû gynt o Fôn.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 16.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, Gorphenaf 21, 1753.

DEAR SIR,

THE Papist I know, reckon sloth among these sins which they term mortal. And I doubt not (if you were one of the persuasion) but you would think me in a very desperate state, and advise me out of mere charity, to confess and be absolv'd (if possible) tho' it should cost me the price of a bill of twenty years penance, or even a barefoot pilgrimage to the Holy Land. Well, to be sure, it is an heinous sin to be lazy, and perhaps I might confess something, were I but sure of a mild penance and speedy absolution. Pa fodd bynnag, nid oes gennych yna yr un Pâb, am hynny ni wiw cyffesu, gwell, gwell ymdaeru peth, and say I am guilty of nothing but what is venial. If you knew how busy I've been some weeks past, you would, I am persuaded, easily pardon my dilatoriness. Tra thrafferthus y gwelaf fi hel ychydig ddodrefnach yn nghyd, a hyny oedd raid i mi wneuthur mewn byr o amser, oni fyddai well genyf werthu fy hun am a dynai fy nannedd. Hawdd yw cadw un pen; ond y mae pedwar pen yn gofyn gryn lafur. Pa fodd bynnag, dyma fi, i Dduw b'or diolch, yn y Tŷ yn y fynwent, a'm teulu gyda myfi, ac ar ddarparu byw yn ddigon taclus, os Duw rydd hoedl ac iechyd. Mi yrais i chwi o'r blaen hanes. yr ymgomio a fu rhyngof â'r Alderman Prisiart, mi a'i gwelais unwaith neu ddwy wedi hyny. Gwr mwynaidd iawn ydyw. Mi gefais y dydd arall lythyr oddiwrth Llewelyn o Llundain; yr oedd o a'i frawd yn siongc, ac wedi agos drechu ei elynion, ac yn dwrdio bod gartref yn Ngallt Fadog yn mhen y pythefnos. Mi atebais ei lyther o yn union; ond nid wyf yn disgwyl yr un arall oddiwrtho hyd oni elo adref. I have waited impatiently for a long time for my books from Shropshire, and with them, Dr. J. Davy Rhys's Grammar, but have hitherto waited in vain. If I had my books here I would endeavour to paraphrase all the Gorhoffedd as I did the first two stanzas. I beg you would from time to time, favour me with the remaining part of that excellent Poem, or any other that is equally ancient. I'm persuaded the main difficulty in the Gorhoffedd is, if the stanza be as intelligible as any modern piece, and the next perhaps as uncouth and unintelligible as the Pictish language or that of Utopia, that very few MSS in any language have escaped being corrupted from time to time by some means or other, sometimes by the negligence and, oscitancy, but most frequently by the ignorance of the transcribers. And I can't see by what privilege our language above all others. can plead for an exemption [from the common] fate? Besides, all books of value in most other languages (except Irish and few besides) have been preserved in print for several centuries past, but in ours they have not. So that upon the whole, I think if the true reading could be restored the rest would be easy. 'Rydych bellach, nid oes ammeu, yn disgwyl dau neu dri o Gywyddau yn iawn am fy esgusodion, ac achos da paham. Ond os coeliwch y gwir, ni fedrais unwaith ystwytho at Gywydd nac Englyn er pan ddaethym i'r fangre yma. Nid oes genyf lyfr yn y byd na Chymraeg na Saes'naeg, ond y Bardd Cwsg yn unig; ond gobeithio y caf fy llyfrau ataf cyn y b'o hir. Mae rhyw achos yn fy llestair i mi fyned yn nghyd a dim Prydyddiaeth nes y catwyf fy llyfrau yma, a hyny yw, because Llangynhafal and Evan Brydydd Hir have made some objections against my Cywyddau, viz., that they had not a sufficient variety of Cynghaneddau. This Mr L. Morris informs me of, and as I have never a one of 'em by me at present, nor a Grammar to consult, I can't answer that objection, but am resolv'd to write no more till I am better assur'd of the truth of their criticism, and better guarded from a slip for the future. How should a man use all the vast variety of Cynghaneddau that knows not one of 'em all? Another reason that suspends my muse is, that I intend, when I have the J. D. Rhys's Grammar, to try whether our language will bear a Heroic Poem, and so am loath to exhaust any good subject or jade my muse before I undertake it. If I have any spare time no man's ill-nature or criticising humour shall hinder me from writing. But I'll see what I do write. One would not willingly be holden to every rifraff pedant for mending a hole in one's stocking. After all, I know not whether their charge be true or no, neither can I examine into it, till I have the Graminar. I believe it is not true: and if it is, it hinders not but mine may be as good or even perhaps preferable to any of theirs with all their variety; for, as I take it, no poet ever thought himself bound to write a set number of lines in a Cywydd, of each kind of cynghanedd, but rather at liberty to use what cynghanedd he pleased, arbitrarily and indifferently, as his case and inclination led him. But enough of this; I beg you would be so good as to keep (at least copies of) all my Cywyddau that you have by you; for I'm afraid I burnt 'em in my hurry among sonie loose papers when I left Donnington. I thought I had safely put 'em up in my bags, with my Sermons, &c, but can't find one of 'em all. I hope Mr. Ellis recovers stoutly; please to present him my humble service and hearty thanks, and accept of the same to yourself from, Dear Sir, Your most humble servant,

GORONWY OWEN.

P.S.-Mae genyf ddarpar bardd arall etto, ond nas gwn pa sut i'w alw, oddigerth Cynddelw Brydydd Mawr, neu Lywarch

Brydydd y Moch

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 17

At RICHARD MORRIS.


WALTON, Awst 10, 1753.

DEAR SIR,

MAE cyhyd amser er pan ysgrifennais attoch, na's gwn yr awrhon pa sutt i ddechreu, na pha afael a gymmeraf i esgusodi fy annibendod. Trafferthus oeddwn yn ceisio cynnull ynghyd ryw faint o ddodrefnach at gadw Tŷ. Ffei! Ffei! Esgus gwag yw hwn, ni thâl ddraen. Wele gadewch iddo. Llwyr ddigalon oeddwn o eisieu fy Llyfrau, ac ni fedrwn ystwytho at ddim o hiraeth am danynt. Ni thyccia hynny 'chwaith. 'Rwyf yn ofni y gorfydd cyfaddef y caswir a dywedyd, Rhyw huppynt o ddiogi a syrthni a ddaeth trosof, a phwy a allai wrtho?—Pa ddelw bynnag ni's gwn pa'r un wiriaf o'r tri esgus: cymmerwch eich dewis o honynt, neu'r cwbl ynghyd os mynnwch, am y rhoddwch i mi faddeuant. Bellach am eich caredig Lythyr diweddaf. Ie fi'n Esgob Bangor! Llwyr y darfu iw'ch gamgymeryd Llyfr y Daroganau. A ydych yn disgwyl weled yno Gymro'n y byd yn Esgob? Cynt y rhown goel ar y Brut sy'n addaw dyfodiad Owain Lawgoch, a'i orfodawglu, nag y disgwyliwn. weled byth Gymro uwch bawd na sawdl mewn unrhyw ragor barch gwledig nag Eglwysig. Am danaf fy hun, mi fum Wyth mlynedd bellach yn ymddygnu am gael rhyw fath o Offeiriadaeth Ynghymru, ac nis cefais. Ond yr wyf weithion wedi rhoi fy Nghalon mewn esmwythdra; per cynnygid i mi le ym Môn heddyw, ni fynnwn mo honaw, oni byddai'n werth 50£ o leiaf, h. y., oni byddai ddegpunt gwell na hwn sy gennyf. Mae gennyf yma lawn 40£ a Thy, a gwr mwyn, boneddigaidd yn Batron imi. Gwaethaf peth yw, yr wyf yn wastadol ar fy llawn hwde, rhwng yr Eglwys a'r Ysgol; a drud anferthol yw pob ymborth, o achos ein bod mor agos i Dref Lerpwl. Ond ofer disgwyl pob peth wrth ein bodd yn y byd yma.—I am charmed with the account you give me of your Society of Antient Britons, and hope it may flourish for the honour and preservation. of our Language. If your Body of Laws are printed I should be obliged to you for the perusal of them. Nothing can be more agreeable to me than the honour you design. me, in electing me for one of your Corresponding Members; but being conscious of my want of proper qualifications, and knowing how very little service I can do your Society in return, I know not how to accept of your kind favour. Were I as able as I am willing, something might be hoped for: but it were a piece of imprudence (to say no worse) to let my ambition carry me beyond my abilities. If I durst make any pretensions to your favour it should be entirely on the score of Poetry and Philology; (for I pretend not to any skill in History, Philosophy, &c.) But I am too well aware of my inconsiderableness, even in those, to expect to be honoured with such a distinguishing mark of the esteem of your honourable and learned Society. If being. merely a well-wisher to our Nation and Language were sufficient to recommend me to a Membership, my title would be indisputable, for none can be more so, (I speak with sincerity) than myself. And I conceive some hopes of the possibility of retrieving the antient splendour of our Language, which cannot possibly be better done, than by the methods pointed out by your Society, viz., laying open its worth and beauty to Strangers, and publishing something in it that is curious, and will bear perusing in succeeding ages. Such performances cannot fail of drawing on them the Eyes, and exciting the curiosity, of Strangers. Strangers! did I say? Good God what if we find our own Countrymen the greatest strangers to it? I blush even to think it, but am afraid the reflection will be found but too just on Cambria's ungratefull, undutifull Sons. An egregious instance of this I met with last week at my own house. For having been invited sometime ago to an afternoon's drinking at a neighbouring Clergyman's house, (according to the custom of this Country) I invited him again to my house, and desired he would bring a Countryman and name—sake of mine, that is Curate of a neighbouring Parish, along with him;[13] for I was desirous of creating and cultivating an acquaintance with him, as he was a Welshman and a man of very good Character for learning and Morals. My desire was accomplished; the Gentleman came, and, to compleat the happiness of the Day, Mr. Brook, my Patron, made me a Present of some rum, &c, and honoured us with his company. When we were set, the pleasure I expressed in seeing a Countryman at this first interview, turned the topick of discourse upon. Wales, and the Welsh Tongue. Mr. Owen, (like an honest. Welshman) readily owned, he was a Native of MontgomeryShire, which pleased me well enough, but being asked by my Patron (who tho' an Englishman, has a few Welsh words which he is fond of) whether he could speak or read Welsh, I found the young Urchin was shy to own either, tho' I was afterwards, that same day, convinced of the contrary. Then, when they alledged it was a dying Lan- guage not worth cultivating, &c., which I stiffly denied, the wicked Imp, with an Air of complacency and satisfaction. said, There was nothing in it worth reading, and that to his certain knowledge the English daily got ground of it, and he doubted not but in a 100 years it would be quite lost. This was matter of triumph to my Antagonists; but to me it was such a confounding overthrowing blow, as would certainly have utterly ruined and destroyed me out of the way, but that I have a queer turn of mind that disposes me to laugh heartily at an absurdity, and to despise ignorance and conceitedness. But he is not the first I met with of that. Stamp. Let them say so, and wish it so, if they will; but be not you discouraged in your laudable undertaking; and be sure, if I can contribute my mite towards it, it shall not be wanting. I shall always think it my duty, and greatest pleasure so to do. Llyma Lythyr neu ddau oddiwrth Wilym Ddu o Gybi yn deisyf arnaf ysgrifennu Notes and Explanations ar Gywydd y Farn, ac ar Gywydd Bonedd yr Awen, a'u gyrru yna i Lundain at y Gymdeithas i'w hargraphu. I have at present never a Book by me, neither a Dictionary, or any other, (tho' they are at Chester, and will be, I hope, at Liverpool this Week,) so I cannot find in my heart to take that work in hand without them, as they are so near coming. And besides, I don't think so proper to write Notes, and point out beauties (if there are any) or criticize on the faults in my own work. The former is by no means proper for me to do, and the latter (I'll uphold it) will be done. for me faster perhaps than I could wish. All that is proper for me to do, I will willingly and readily set about. (if you shall think proper, and acquaint me with your pleasure. in the next) which I take to be no more than barely expounding the hard words by some of more common use, and put a few Scriptural proofs and allusions, &c., in the margin. This I will do, if you please, and correct the copies as well as I can, and send them to you correctly written, (inclosed in a Frank) with large blank margins for any Critick to fill with Notes —To go any further would bear too hard upon modesty and decency.

As for poor plodding Richards, you have said more of him. than ever I intended to do myself: but say what you will, you cannot injure him much. I have so much Charity for him as to believe he undertook it with a view to the publick Good; but can by no means allow that the Book will be useful to the next Compiler or indeed to anybody else. When Virgil gathered gold out of Ennius's ordure, I presume the former bore a proportion as one to ten to the latter, but here is not an ounce to a tun weight, so not worth raking for. I wish he had nothing to do with Moses. Williams, H. Salisbury, and Baxter. I am sure it had been better; but especially his own Glam: what has Glam. words to do with Welsh? I had rather he had made use of any Gibberish, and authorised it with an Hottentotice; that would never mislead Posterity; but we may be easy, for I dare say his Dictionary never will. The Dictionaries, Glossaries, &c., that he compiled from, might have been useful to a Judicious man, that could have picked and culled with Judgment and discretion. But I have no patience when I see H. Salisbury, or the late unaccountable Mr. M Williams quoted to justify a blunder or to legitimate and authorise the uncouthest Gibberish. He must be superstitiously bigoted to H. Salisbury &c., or else very injudicious with a witness to swell his Book needlessly with the same word three or four times over, where but one reading is true, and all the rest to be rejected as corruptions v. g. Myrddyn. H. S. See Murddyn, and so on to Merddyn, Murddun, &c. Dictionaries are or should be, made to understand Authors by, and to teach us to write correctly in imitation of them, and not to acquaint us with the different corruptions that words may be perverted to by the lisping prattle of Nurses and Children, and vicious phraseology and pronunciation of Clowns and Rusticks. The word addfed is pronounced afddyd by the greatest part of Denbighshire People. What then? Were I to compile a Dictionary, would it be commendable or even sufferable in me to write afddyd or afdded (tho' I should find it in a MS. Collection of words) and then add, see addfed? You will say, why not? Because it is not so found in any approved Writer, (and what ought to have more weight) because Etymology is against it the word being compounded of add and Medi. Most of the Writers and Collectors of those Glossaries and Collections of words for additions to Dr. Davies, are not to be depended upon, because they took all uncommon words, as they found them, and that commonly out of the mouths of illiterate. People; well or ill pronounced made no matter; their being New to their ears and understanding gave them a sufficient title to a place in the collection; Witness Tat a Swine in Llwyd's Archæl: Brit: and many more that I could quote, had I Books. And as most of them are not to be depended upon, so they are all to be suspected; for Most or all have an itch for establishing and propagating their own whims and conceits, (as flies have to blow Maggots) which it is every body else's interest to destroy. A Glossary writer had rather turn a Language topsy turvy, than quit a few etymologicial conjectures, the productions of his own dear brains and a bad Poet had rather write and pronounce fifty words wrong to secure his Cynghanedd than be obliged to alter one favourite faulty line.—It is a specious Ornament to a Title page to promise several Thousands of words, more than are in Dr. Davies's; but perhaps all those Thousands by the time they are well sifted and cleaned, will scarce amount to a Hundred. One of them I remember is Iet a Country-Gate, that is, the old (Yet still common) English word Yate. Is this adding to Dr. Davies? Is this enriching the Welsh Language? By the very same rule it may be made the general, universal, catholick Language of the universe. It is but making all words in the World free denizens of our Language; and call them our own, and the Jobb is done. Yet after all, it should seem that the Publick is in some sort obliged to an Author that writes for their pleasure or profit, for his good. intentions at least; but still we think it no injustice to see a bad actor (tho' he has nothing more at heart than to please us) hissed off the Stage. Let every one consider his own. ability.—My complts. to Llewelyn Ddû (os yw yna) and favour me with a line as soon as conveniency permits, and you'll greatly oblige your most hble. Servt.

GRONWY OWEN.

Rhyfedd gennyf na chlywswn oddiwrth Mr. Lewis Morris cyn hyn; mae'n debyg ei fod bellach yn Gallt Fadawg.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 18.

At MR WILLIAM MORRIS.


WALTON, Awst 12, 1753.

DEAR SIR,

DYMA ddau lythyr o'r eiddoch wedi dyfod i'm dwylaw yn llwyddiannus; a rhyfedd genyf pa fodd y tycciodd fy llythyr cyntaf innau, yr hwn a yrrais tu ag yna er ys chwech wythnos neu well. Un peth sydd dda, nid oedd ynddo ddim y bai waeth pwy a'i gwelai: cryn dipyn o glod i'r Aldramon ac i'm Patron, Mr. Brooke, oedd y rhan fwyaf o hono, a hynny yn Gymraeg loyw lân, chwedl Sion Lodwig.—Gwr mwyn, hael, bonheddig, yw'r hen Lew i'r sawl a fedro dynnu'r bara drwy'r drybedd iddo. Pa beth dybygech a gefais ganddo eisoes, mewn un chwarter blwyddyn? dim llai na chwech o gadeiriau tacclus, ac un easy chair i'w groesawu ef ei hun pan ddel i'm hymweled; ac yn nghylch ugain o bictiwrau mewn fframes duon.

My BOB is a very great favourite of his, and greatly admired for being such a dapper little fellow in breeches. The Vicar can never see him without smiling, and said one day, that if himself could be cut as they do corks, he would make at least a gross of Bobs. And being willing in some sort to try the experiment, he gave him a very good waistcoat of what they call silk camblet, to make him a suit of clothes, which it really did, and somewhat above. And the other day, when I had a couple of neighbouring Clergymen come to see me, he sent me a bottle of rum, and was pleased to favour me with his company, tho' he very seldom strays abroad to any friend's house. Whenever he goes to visit a friend (which he has done three or four times this summer,) he always desires my company and lends me a horse. Campau yw y rhai'n nad oes mon'ynt yn perthyn i bob Patron.

Beth, mor galetted a chigydded oedd yr Ysgottyn brwnt hwnnw gan Ddouglas? Mae'r gwalch hwnnw yn cynnyg yn awr 30ain punt, a'r tŷ, a'r ardd, &c. yn Donnington, ac er hynny yn methu cael Curad: byth na chaffo! pe rhoisai hynny i mi, nid aethwn led fy nhroed oddiyno, Amheuthyn iawn i mi y troiad yma ar fyd; Duw a gadwo ac a gynhalio i mi fy hen batron Brooke am y bawai gan Ddouglas gyrith, draen yn ei gap a hoel helyg. 'Rwy'n gweled yr awrhon, mai y goreu a gair oren (fel y dywedai fy mam,) mai hyspys y dengys y dyn, &c. Am y Cywyddau ni's gwn yn iawn beth i wneuthur o honynt; you know very well that authors never write notes on their own works. What notes should I write upon mine? To point out the beauties, (if there are any,) would bear too. hard upon my modesty, and even transgress the rules of common decency. On the other hand, to play the critic, and point out the faults would be unnatural, and indeed needless, for I am well aware there are a set of gentlemen that will do that for me, and faster perhaps than I would desire. All therefore that I can do with decency is, to correct the originals, and write them fairly and correctly over, and add in the margin an explanation of hard words, with Scripture proofs, allusions, &c. This I told Mr. Richard Morris, in my last, I was willing to do; and to go any further would be improper and indecent for an author. I wish any candid and fair critic would spare me even that trouble. The copies you sent me. are most strangely metamorphosed, so sorrily handled, (poor things,) that I scarcely know them; I am sure, if I could not restore them to their primitive state, I would be tempted to disown them. As to the Society, I suppose I would have been an unworthy member of it by this time if I had not been. dilatory in answering Mr. Richard Morris's letter, wherein that honour was intended me.

Mi gaf fy llyfrau yr wythnos yma 'rwy'n gobeithio, ac yno mi dorraf waith iddynt mewn barddoniaeth oreu y medrwyf, ac nid yw hynny ond digon sal o w'rantu. Mae gennyf yma gryn waith ar fy nwylaw, mwy nag yn Donnington; etto mi gaf weithiau ystlys odfa i weu rhywfaint wrth fy mawd, yn enwedig pan él y nos yn beth hŵy; oblegid gwell gan yr Awen hirnos gauaf (er oered yr hin) na moeldes ysplennydd hirddydd haf;-ac un cysur sydd gennyf, er oered yr hin yn y wlad oerllwm yma, ni bydd arnaf ddim diffyg am danwydd; oblegid mae gennyf eisoes ddau lwyth certwyn o lô a rowd i mi gan rai o'm plwyfolion; ac oddeutu Gwyl Fihangel fe fydd coal-pence plant yr ysgol yn dyfod i mi, yr hyn a fydd fwy na digon i'm bwrw dros flwyddyn; ac, ystgatfydd, mi gaf beth arian i'w poccedu, o herwydd fod rhifedi'r llangciau yn nghylch 60, neu 70, a phob un ei swllt a fyddant arferol a thalu. Os digwydd i chwi fod yn gydnabyddus â neb cyfrifol yn y wlad yna a ewyllysiai yrru ei blentyn i'r ysgol i Loegr er mwyn dysgu Saesoneg, mae fel y byddwch cyn fwyned a'i gyfarwyddo ef yma. I can undertake to board half a dozen as reasonably as any body else in this County, and no care or diligence shall be wanting. If I had ever so many boarders. they are entitled to Writing and Arithmetic gratis, which is taught to a good degree of perfection by my assistant, Edward Stokeley.

Gadewch wybod yn y nesaf pa amser o'r flwyddyn y bydd y cig moch a'r ymenyn rataf yn Môn. Well, to be sure, "Cynt y daw dau ddyn na dau fynydd." Dyma fi heddyw wedi taro wrth beth o'ch prydyddiaeth chwithau. You sent me in both your last letters some of my poetry that I had lost, and now, probably, I may be even with you. This very day was given me a book that was once yours, and may be again if you please. It is John Rhydderch's Dictionary, printed at Salop in 1725, on the title page is written by your own hand, "William Morris his Book, 1728." On the white leaves before it is a comparative list of Welsh and French words. In the white leaves after it are additions of some words omitted in the body of the book, all your own MSS; then follows the watch word, in eight different languages, viz., Welsh, English, French and Spanish, &c., as, Pwy sy yna? Who is there? Qui est la ? Qui a si? &c., &c.; then comes an Englyn, dated Chester, June, 1731, which is as follows—

Anrhydedd a mawredd i mi,—i'w goffa
Oedd gaffael ei gwmni,
Sion Rhydderch y sy'n rhoddi,
Diosg a wneiff, dysg i ni.
Wm. Morris, i'r Awdwr.

The Book was given me by one Tom Brownbill, a Roman Catholic gentleman that now lives at Kirkdale, alias Kerto, who knows you very well, and thinks the book was left at his mother's house at Liverpool by Mr. Fortunatus Wright. My compliments to Mr. Ellis kindly, and I hope he recovers apace. I beg I may have a line at your leisure, and am, Dear Sir, your most humble servant,

GRONWY OWEN.

N. B.—I am glad you are a Poet if you will, and hope to see more of your work.

O.S.—Gan gael ohonof gyfle i sybergymmeryd gyda'm gwenllaw gynffon awr rhwng fy mhregeth a'm ciniaw, dyma i chwi hyn o mending neu sarrit. You seem disposed to be a proselyte to the doctrine of a possibility at least, of accommodating our language to an epic poem. This is more than I care to insist upon as yet; but I am confident it is not impracticable. For our language, I am certain, is not inferior for copiousness, pithiness, and significancy, to any other, ancient or modern, that I havo any knowledge of. Where then lies the mighty difficulty of writing such a poem in it? Truly, I cannot see, unless it be in finding a man of genius, that sufficiently understands it, to undertake such a work. That, indeed, is a real difficulty; but all others that I can think of, or ever heard alleged, are but mere bugbears. Our metres, it is true, are but short; not above nine or ten sylables to a line at the longest; mostly seven or eight; but what then? Is it not possible to alter that length, and so remove the inconvenience? or else to join two metres, a longer and a shorter, together? Twenty—four metres, surely, are plenty enough to pick out of. But you will say, "Any innovation in our poetry will not be suffered, much less generally received and imitated." Why so, I pray? Was there not a time when Epic poetry, nay, all poetry, was but a new thing amongst the Greeks and Romans, especially the latter? And how ancient is the date. of Epic poetry amongst our neighbours, the English and French? Not many centuries, I ween! You will say, "We had a poetry amongst us before either of them was a people, or their languages were even formed to what they now are, and therefore we ought not for shame to become imitators of such novices in poetry!" I own we were poets before they were a settled people; so we were Christians too, what then? These novices in Christianity, as well as in poetry, began to reform the errors of their forefathers; and we were not-and I hope are not at all ashamed to follow their example. Why should we not do the same in poetry? or what shame were it, if we did? For my part I think it a greater shame for a people that boast of having had poetry among them so long, to suffer such novices to bring poetry to its perfection so long before them. But we certainly are still Druids in our hearts, and envy posterity and grudge them the benefit of our labours. I have often thought that the freer and less confined to cynghanedd the metre is, the better a poem must be. All my reasons I have no room to give you; but I will just observe. that the Greek mode of versification is much freer from being confined to a number of syllables than that of the Romans; and the English more unconfined than either-it having neither a fixed number, nor quantity of syllables, nor even a rhyme. at the end, much less the letters of cynghanedd, which our language groans under, and which no other was ever acquainted with. In consequence of which, Homer is preferred to Virgil, and Milton to both.

But I would not adopt any metre to the English, nor any other language I know. I would have some resemblance of our present metres, but longer than any of them. I am always longer in laying my schemes how a thing should be done, than in doing it when a plan is laid. I have thought of several methods of settling and adjusting a proper metre for Epic poetry, but have not as yet fixed on one; and I am resolved not to fix till I receive my "Dr. John David Rhys."

Byddwch wych. Dyma'r gloch Osper yn canu.

Wyf eich Gwasanaethwr a'ch Gwladwr,

G. DDU.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 19.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, September 5, 1753.

DEAR SIR,

YOURS of the 17th (or rather 19th) ult. I received. yesterday. I am exceedingly obliged to you for your care in acquainting Mr. L. Morris with the Δεαθ of περσον[14] B——, tho I am almost sure that all is to no purpose. Indeed I was the other day almost persuaded to believe that there might be something in it, but since you mentioned to me the D. of B——, I am quite easy about it; what alarmed me into such false hopes at first was as follows:—Wythnos i heddyw fe yrrodd yr Aldramon air attaf i ddyfod i'r dref, fod gwr bonheddig o Gymru yn deisyf fy ngweled. Yr oedd hi ynghylch tri o'r gloch prydnawn pan gefais y gennad, felly i'r dref yr aethum, ond ni's medrwn gael gafael ar na'r Aldramon na neb arall; ond o'r diwedd mi glywn eu bod yn dwrdio dyfod i Walton; yna mi a gymmerais wib adref yn fy ol, rhag digwydd iddynt fyned yn fy ngwrthgefn; er hynny ni welais neb tan ddydd Gwener y boreu, pan ddaeth Mr. Vaughan o Gors-y-Gedol yn lanaf gwr i Walton. Ar ol ymgomio ynghylch awr ar amryw bethau, mi a'i clywn yn dywedyd, I wish you joy, &c. Chwi ellwch wybod am ba beth, er na's gwyddwn i ddim y pryd hynny. Mi ofynais iddo, ac yntau a ddywedodd, glywed o hono yn y Duwmaris (cyn marw y P——n O——n, oblegyd ni chlywsai efe mo'i farw etto) fod un wedi myned i ofyn y lle dros Eglwyswr o Gymru, a chaffael o hono atteb, fod y lle wedi ei addaw i Iarll L——n; and then to be sure who must have it but • • •? Newydd da oedd hwn, ac o ben da hefyd, chwedl y bobl; ond erbyn y ceffir y carn, nid hwyrach na thal mo'r draen crin. Fe fu yn hir cyn medru cofio ei garn; ond o'r diwedd fe gofiodd, mae Andro Edds, fy hen feistr gynt, sef yn awr Person Llangefni, a ddywedasai wrtho. Andro ei hun sydd ag arno ddialedd o eisiau y lle, yn lle Llangefni, a'i frawd yn nghyfraith Richard Edds, Mr. in Chan——ry, a aethai i'w ofyn, ac a gawsai ei naccau. Gwir yw hyn yma o'r 'stori; ond pa gan wiried yw'r llall, ni's gwn i pe'm crogid, ac nid gwaeth gennyf. Possibly it was told him that the place was promised a N—bl—m—n for a W—lsh Cl—g—m—n now in England, and he with his brother might guess the rest.—Nid oes dim chwareu ffwl pan welir P——n unwaith yn dechreu geran, chwi welwch eraill yn piccio i'r lle cyn i'r gwaed fferru yn y gwythi. And I wish any one that prescribes me confidence and assurance, instead of modesty, &c. would give me a good example by taking a good dose himself. Mae y lle arall yn llaw yr Eagob, a mil i un pwy bynnag a'i caffo, na theifl i fynny ryw beth salach: ac am y lecsiwn, nis gwn i amcan daear pa ddrwg eill honno wneuthur. For if one wishes a man well, and is able to do him a good turn, he thereby strengthens his own party, which (by the bye) is likely to be wanted in many places: ac am danaf fi, oni wyddoch, gwybyddwch,

Daliaf un amcan dilyth,
Addoli Baal i Dd—l byth.

However it be, I am almost sure, I shall never come into Wales, unless Mr. Vaughan and I should happen to survive old N——of P——. Y mae Mr. Fychan yn addaw y gwnai i mi gymmwynas, os daw byth ar ei law;—but it is an old saying, and a true one, that those that wait for dead men's shoes, may go a great while barefoot; and I am very sure, that these kind of things are not engaged before they fall vacant, it is then too late to think of it. And such a proceeding is, in fact, not injurious to any one; for the thing must be disposed of some time or other; and if so, what matters it when it be engaged, or by whom? Somebody must have it; and if one won't, another will: and in this (of all other cases) modesty is least commendable, I had almost said, most inexcusable. You know the way of the world.—Am yr ysgol, ni's gwn yn iawn pa beth i'w ddywedyd: pe gwyddwn yn sicr mai gorfydd aros, fe fyddai wiw gennyf gymmeryd poen; ond y mae Mr. Fychan yn tyngu ac yn rhegu, ac yn crach boeri (chwedl y bobl) na chaf aros yma un flwyddyn ychwaneg. Dyd, dyd! dyma un Risiart Huws, a llythyr bychan yn ei law, yn yr ysgol; felly yr wyf yn deall fod i mi alwyn o ymenyn yn Nerpwl: rhodd gymmeradwy iawn yw hon, a bendith Duw am dani, ar bwy bynnag y mae'r gost, ai chwi eich hun, ai y person a chwithau; Duw a dalo i chwi eich dau, daed eich ewyllys. Ni welais i olwg etto ar yr hen Physygwr Ioan Dafydd Rhys, ac ni's gwn pa un a gaf ei weled byth ai peidio. Er mwyn dyn, gadewch wybod gyda phwy y gyrrwyd ef, ac yn nwylaw pwy y rhoddwyd yn Nghaerlleon. Rhowch fy ngwasanaeth, a chann diolch i Mr. Ellis fwyn; Duw a wnelo iddo gael personoliaeth Rhosgolyn; nis gwn pwy a wna fwy o ddaioni â hi. Os bydd ar neb awydd i yrru ei blentyn yma, y pris yw deuddeg punt yn y flwyddyn, s'i ddysg am ddim: a llai na hynny a'm rhydd mewn colled. Na phoenwch y tro nesaf yn gyrru i mi ffranc, oblegid mi a gefais ynghylch 24 gan Mr. Fychan, ac un o lyfrau Survey Mr. L. Morris. Er mwyn dyn, gadewch wybod a ydyw Mr. L. Morris yn Ngallt-Fadog ai yn Llundain, a gadewch imi wybod gynta' bo modd, oblegid y mae arnaf ddialedd o eisiau ysgrifennu atto. Duw fo gyda chwi oll, a diolch trosof.

I am, Dear Sir, Yours most sincerely and cordially,

GORONWY DDU.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 20.

At Richard MORRIS.


WALTON, Rhagfyr y 17eg, 1753.

YR ANWYL GYDWLADWR,

LLYMA 'ch caredig Lythyr o'r 17eg o Dachwedd, neu'n hytrach o'r 8d o Ragfyr, wedi dyfod i'm dwylo, er y 12d o'r Mis presennol. Fe fu'n ddrwg anaele gennyf na allaswn yrru y Cywyddau a'r Nodau arnynt attoch yn gynt, on'd bod achos. da i'm rhwystro, yr hwn na feddyliaswn o'r blaen ddim am dano. 'Rwyf yn cofio grybwyll o honof gynt wrthych, nad oedd ysgrifennu Nodau ar y ddau Gywydd amgen na gwaith dwyawr neu dair o amser; ond, Duw yn fy rhan, camgyfri o'r mwyaf oedd hynny. Nid gwaith dwy neu dair o oriau ydoedd darllen Homer a Virgil trostynt, a hynny a orfu arnaf wneuthur, heb fod mor llawer gwell er fy ngwaith. Nis coeliai'ch Calon byth leied oedd yno i'w gael tuag at Nodau na dim arall. Meddwl yr oeddwn nad oedd neb a ddichon ysgrifennu dim mewn Prydyddiaeth na cheid rhyw gyffelybiaeth (neu Parallel) iddo yn y ddau Fardd godidog hynny; ac felly yr oeddwn yn disgwyl cael cryn fyrdd o debygleoedd o honynt, yn enwedig o Homer, i addurno fy mhapiryn; ond, och fi! erbyn rhoi tro neu ddau ymmysg y Penaethiaid y Groegiaid beilchion, a chlywed yr ymddiddanion oedd arferedig gan amlaf, ym mysg y rhai Campusaf o honynt, hyd yn oed Πόδας ώκύς[15] ei hun a Agamemnon ac Ulysses, a llawer Arwr Milwraidd arall, mi ddyellais yn y man, nad oedd un o honynt yn meddwl unwaith am ddim o'r fath beth a Dydd y Farn; ac felly na wnai ddim ar a dd'wedant harddwch yn y byd i'm Cywydd i; ac am a welais, nid oedd. Hector foesachus ynteu, a Blaenoriaid a Phendefigion Troia fawr, ddim gwell; Pius Æneas ynteu, er maint y Glôd a roe Virgil iddo am ei Dduwolder, ni choeliaf nad y gwaethaf oedd o Genedl Troia, wrth ei waith yn dianc oddiyno yn lledradaidd heb wybod i'w Wraig, ar hyder, (mae'n debyg) taro wrth ryw Globen arall i'w ganlyn. A pheth mae'r cast a wnaeth y Diffeithwr dau wynebog â Dido druan? Ai gwiw disgwyl ynteu i'r ffalswr hwnnw feddwl am Ddydd y Farn? Ond o ddifrif, nid oedd i'w gael yn y llyfrau hynny hanner yr oeddwn i'n ei ddisgwyl; ac nid rhyfedd, oblegid pan oeddwn yn gwneuthur y Cywyddau, nis gwn edrych o honof unwaith yn Homer na Virgil, ond y ddau Destament yn fynych. Daccw. Gywydd y Farn fal y mae, (a Nodau arno, gorau a fedrais i eu casglu) wedi myn'd i Allt Fadawg i edrych beth dalo, e oddiyno fe ddaw attoch chwithau i Lundain o nerth y arnau, os caiff gynhwysiad o dan law Llywelyn, ac onid è ni wiw mo'i ddisgwyl. Ac os bydd hwnnw'n boddio, fe giff Bonedd yr Awen ynteu ei arlwy'n yr un modd a'i yrru i chwi allan o law. Os rhaid dywedyd y gwir, chwi a gawsech y Ddau'n llawer cynt oni buasai Mr. Vaughan o Gors y Gedol, yr hwn, pan oedd yma yn nechreu Mis Medi, a ddywaid wrthyf, (trwy ofyn o honof iddo) nad gweddus oedd imi sgrifennu ar fy Ngwaith fy hun. A hynny a rwystrodd beth arnaf; ond yn ddiweddar, sef, ynghylch Wythnos a aeth heibio, 'roedd gennyf ddigon o rwystr arall. gartref. O fewn y pum wythnos neu chwech yma, fel ddigwyddodd i'r Wraig Elin ryuriog olau syrthio'n ddwy Elin, a byd anghysurus iawn, a llawer dychryn, a thrwm. galon, ddydd a Nos, a gawsom oblegyd yr Elin icfangc (er bod ei Mam, i Dduw bo'r diolch, yn swrn iach) tros hir amser, am ei bod yn dra chwannog i'r llesmeiriau a elwir Convulsions; ond gobeithio 'rým ei bod o'r diwedd, (gyd â Duw) wedi eu gorchfygu hwynt. Yr oedd ein dychryn. ni o'r achos yn fwyfwy byth, am na welsom wrth fagu'r lleill ddim o'r fath beth erioed; canys Llangciau cryfion iachus oedd pob un o'r ddau fachgen, i Dduw bo'r mawl, ac ynt etto. Dyna i chwi y rhan fwyaf o achosion fy annibendod; ac oni thyccia hyn yna, ni thyccia dim. Gwych. o'r newydd a glywaf gennych ynghylch Iarll Powys; Duw a dalo'n Ganplyg i chwi oll trosof; nid oes dim a ofynno'r Iarll gan nag Esgob, na nemmawr o undyn arall, na chaiff yn rhwydd, a gresyn ofyn o honaw ryw waelbeth. Pa beth debygwch chwi ? Mae fy meddwl i wedi troi'n rhyfedda' peth a fu erioed; canwaith y dymunais fyned i Fôn i fyw, ond weithion (er na ewyllysiwn ddim gwaeth i'm Gwlad nag i'm Cydwladwyr) ni fynnwn, er dim, fyned iddi fyth, ond ar fy Nhrô; a gwell a fyddai genyf fyw ymmysg Cythreuliaid Ceredigion, gyda Llywelyn, er gwaethed eu moesau, nag ym Môn. Ond a fynno Duw a fydd.—Nid yw awyr y Wlad yma ddim yn dygymmod a'r Awen cystal ag Awyr Gwlad y Mwythig; etto, hi wasanaetha, 'rwyf yn deall, canys mi fum yn ddiweddar yn profi peth arni, i edrych a oedd wedi rhydu ai peidio. Mi gefais ganddi yn rhywsut rygnu imi ryw lun ar Briodasgerdd i'ch Nith, Mrs. Elin Morris, yr hon. a yrrais i Allt Fadawg gyda Chywydd y Farn. Tra phrysur wyf yr wythnos yma yn darparu Pregethau erbyn y Nadolig, ac heblaw hynny 'rwyf ar fedr mynd ar ferch i'r Eglwys i'w bedyddio'n gyhoedd Ddy'gwyl Domas ac onid è chwi gawsech y Briodasgerdd y tro yma; ond chwi a'i cewch y tro nesaf yn ddisomiant. Ydd wyf yn disgwyl clywed o Allt Fadawg cyn y bo hir, ac yno mi a gâf wybod a dal y Briodasgerdd i'w dangos ai peidio. Nid wyf yn ammau na bydd Cywydd y Farn gyd â chwi o flaen hwn, os tybia Llewelyn y tal ei yrru. Pendrist iawn ydwyf yn y fann yma, o eisiau Llyfrau; fe orfu arnaf brynnu Homer a benthycca Virgil i gasglu Nodau. I delivered what was inclosed, in your last save one, to Tom Edwards of the London City in Red Cross Street Liverpool & rec'd of him 1s 5d, which shall be dispos'd of as you shall order, As I know not what the inclos'd contain'd I ask'd no more. questions about it. I hope you have met with a proper Person for your Secratary, & that the Rules, &c of your (our I should say) Society will soon be made publick. I intend you should hear from me again soon after Christmas, if God give me life and health, I remain in the mean time Dear Sir your most obliged humble Servant

GRONWY DDU O FON.

P.S. In your last, you ask'd what was the Welsh for a Corresponding Member. Pa beth a ddywedwch am—Aelod

anghyttrig.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 21.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, December 18, 1753.

GAREDICAF SYR,

LLYMA'CH llythyr o'r ugeinfed o Dachwedd wedi cyrraedd Walton. Y mae hi, yn wir, yn gryn ennyd er pan yrrais attoch ddiweddaf, ond nid cyhyd ag yr ych chwi yn yn ei haeru, mi a'i profaf. Ni welais i olwg etto ar "Sion Dafydd Rhys," ac felly nid gwiw bwrw'r bai ar y truan hwnw am fy llestair i ysgrifenu. Nage. Nage. Prysur iawn a fum yn croesawu dieithriaid. Fe aeth y wraig Elin yn ddwy Elin o fewn y pum wythnos yma; a gwae a gaffo eneth, meddaf fi. Ni fu yma ddim gwastadfyd ar ddim er pan. welwyd eu hwyneb hi. Codi ddengwaith yn y nos, a dihuno'r cymydogion o'u gorphwysfa i'w hedrych, disgwyl iddi drengu bob pen awr, ac wylofain a nadu o'i phlegid, y fu'r gwaith penaf yma, er pan anwyd hi, hyd o fewn yr wythnos neu naw diwrnod, a llawer dychryn, ac oer galon, o'i hachos hi, ddydd a nos. Mi a'i bedyddais hi fy hun y noswaith y ganwyd hi; ac yr wyf yn gobeithio bellach ei bod, gyda. Duw, wedi gorchfygu y Convulsion Fits, ac y deil i fyned. i'r Eglwys i gael bedydd public; yr hyn a gaiff, os bydd byw, Dyddgwyl Domas; oblegid ni chair dim bedyddio yma ond naill ai ar y Sul neu Wyl. Ac y mae'r Vicar yn addo o hono ei hun, ei bedyddio a chymmeryd rhan o'm ciniaw, a rhoi imi alwyn o hen Rum i fod yn llawen gyda'r Tad Bedydd ac ynteu. Dyna hen wr gwiw!

Y mae "Cywydd y Farn," a'r nodau goreu a fedrwn wneuthur, wedi myned i Allt Fadawg er Dydd Mercher diweddaf, i gael barn Llewelyn arnaw, ac oddi yno yn union i Lundain. Ac os bydd y nodau hyny yn boddio, mi arlwyaf "Fonedd yr Awen" â'r un fath saig. Mi yrrais hefyd yr un pryd "Briodasgerdd" i'ch nith, Mrs. Elin Morris, i Allt Fadawg, yr hon gerdd a yrraswn i chwithau hefyd oni bai fod yr amser yn rhy brin weithion. Chwi a'i cewch, ysgatfydd, ryw dro arall, pan gaffwyf wybod a dâl ei dangos ai peidiaw. Gwych yr newyddion a glywaf o Allt Fadog, a Llundain, a Chaer Gybi Sant yn nhylch Iarll Powys. Duw a dalo i'r tri brawd yn dri dyblyg am eu caredigrwydd, pe na ddigwyddai dim amgen nag wyf fi yn ei ddysgwyl. Gwychach genyf fi na dim yr anrhydedd a wnaed imi o'm dewis yn Aelod anwiw o Gymdeithas y Cymmrodorion. Oni chaf rent, fe allai y caf fod naill ai'n "Gadeirfardd " neu'n "Gyff Cler" i'r Gymdeithas. Nid oes arnaf faint yn y byd o eisiau swmbwl, pe cawn lonyddwch ac amser. Yr archlodi Ieuan Brydydd Hir, na chaid gweled rhyw faint o'i waith ynteu! Dyna'r swmbwl goreu a'm gyrrai fi 'mlaen. Paham i mi'n wastadol

'Ganu pennill mwyn i'm nain,
Oni chân fy nain i minnau'

(chwedl y bobl)? Ond tawant hwy os mynnant, ni thaw mo'm gafn i, hyd oni bo arnaf ddiffyg testun, yr hyn ni ddigwydd yrhawg etto, oni ddaw rhyw droiad chwith ar fyd. I am under no manner of concern about my Works. It is equal to me whether they are printed or continue, as I have written them, for eighty or a hundred years longer. Let them take their chance, and shift for themselves, and share the common fate of all sublunary things. If I have not a better immortality than they can procure me, I had even as good have none. Yet they, amongst others, may help to preserve our language to posterity; and so far, and no further, a wise man and a lover of his country ought to regard them. Y mae'n resynol (chwedl chwithau) weled mor ddigydwybod y mae poblach yn llurguniaw ac yn sychmurniaw gwaith yr hen Ddafydd ap Gwilym druan. Let everybody say what they please, I can hardly forbear thinking that the word tyg is genuine and right. I take tyg to be nothing else but the masculine gender of teg. And the analogy it bears to other. words of the same sort, seems to me a sufficient ground for this opinion. Does not the masculine hysp make hesp in feminine? So sych, sech; gwlyb, gwleb; gwyn, gwen; tyn, ten; llyfn. llefn; etc.; and why not tyg, teg? though the former is now disused. To these may be added gwyrdd, crych, brych, and innumerably more. Neither do I make any doubt but that Dafydd ap Gwilym, or Gruffydd Grug, could have heard one say merch wech or gafr wellt without any offence to their ears. though feminines are now no more used than the masculine tyg. What do you imagine gave a little island, or rather rock, not far from your Holy Head, the name of Ynys Wellt? What! because it was a straw island? or abounding in straw? Nothing more unlikely. Was it not rather, because it was a barren and wild island? What if we do not understand some words in this age? Must we therefore banish them from the works of those that did understand them? and foist others out of our own noddles in their place? It is cruel. I wish people were once so far in their right minds as to think they could not mend Dafydd ap Gwilym's work; then they would certainly never mar them. Dafydd ap Gwilym, it is true, had his foibles, as well as other mortals. He was extravagantly fond of filching an English word now and then, and inserting them in his works, which makes me wonder what should induce the judicious Dr. Davies to pitch upon him as the standard of pure Welsh. Whereas he, of all others of that age, seems least deserving of the honour. I know that that babbler, Theophilus Evans, author of Drych y Prif Oesoedd, pretends to say that 'Davy' understood never a word of English; but the way he goes about to prove his barefaced assertion, is a sufficient confutation of it, and enough to make the bold assertor ridiculous to boot. How many English words are there to be met with, in those fragments of his only, that are quoted by Dr. Davies? Mutlai is one of them; and what is that else but the English word 'mottley'? Is lifrai a pure Welsh word? And what can you make of habrsiwn, mên, and threbl, and a great many more? I think 'livery,' 'habergeon,' 'mean', and 'trebble', are but indifferent Welsh words for purity. But, all that notwithstanding, I think it would be a notable piece of service to our language, to have his works printed; though it would give to the English a pleasure they have long wanted; I mean of making it appear that we borrow as many words at least from them, as they did from us, which yet would be true of no one else but Dafydd ap Gwilym himself; for I do not think he made many proselytes to his fond way of blending Welsh and English together; else our language had long before now been a most horrid gibberish.

Digon yw hyn ynghylch Dafydd. Ond ni ddarfu mi a chwychwi etto. Yn rhodd, a fyddwch cyn fwyned yn y nesaf a gadael i mi wybod, pa newydd annghysurus a glywsoch o Gaer Nerpwl; oblegid ni chlywais i ddim rhyfedd sydd nes atti. Gwir yw nis bum yno er ys ennyd. Ond odid i ddim a dalo i son am dano ddigwydd yno na chlywyf mewn amser. Ac am eich gweddi" Duw o'i drugaredd a ystyrio wrth ein gwendidau," yr wyf yn dywedyd "Amen" o ewyllys fy nghalon, er nas gwn ar ba achos yr ystwythwyd y weddi.

Give my compliments to Mr. Ellis, if he is come home; God send him his health for the good of his charge! But I am afraid this going so often to seek it in Ireland bodes no good.

Annerchwch bawb a ofyno am danaf; ac mae yn debyg nad anhawdd. Duw gyda chwi, a chan diolch am bob

cymmwynas.

Wyf eich ufuddaf, wirddiolchgar a rhwymedig Wasanaethwr,

GRONWY OWEN.
P.S.—Llyma Wyddel wedi myned i Hirgaer i garchar, am briodi dwy wraig o fewn llai na dwy filldir at eu gilydd. Mae'n debyg y caiff ymystyn; ac ni haeddai amgen, am fod mor ryfygus a chynyg boddio dwy, lle mae digonedd o rai eraill yn methu boddloni un. Byddwch wych etto. Duw gyda chwi a'r eiddoch. Gyrrwch lythyr gyda'r post nesaf, da chwithau.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 22.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, Ionawr yr ail ddydd, 1754.

ANWYL SYR,

MI addewais, yn y diweddaf, ysgrifennu attoch eilchwyl gyntaf ag y gallwn ar ol y Nadolig; ac yn awr dyma fi'n cywiro. Mae'n debyg gennyf dderbyn ohonoch Gywydd y Farn cyn hyn, ac nid wyf yn ammau na byddwch heno yn ei ddarllain ar osteg i'r Gymdeithas; a llwyr y dymunaswn fod hyn o Lythyr hefyd yn eich dwylaw 'run modd; on'd nid oedd modd i hynny mor bod, oblegid fy mod yn rhy brysur trwy'r Gwyliau, heb neb i'm cynhorthwyo mewn un darn o ddyledswydd y Plwyf mawr yma. Dyma fy hên Gyfaill anwylaf Mr. Huw Williams (yn awr) Periglor Aberffraw ym Môn, wedi gyrru imi Ramadeg Sion Rydderch i'm hyfforddio yn yr hên Gelfyddyd. Nid yw'r Grammadeg hwnw (e ŵyr Daw) ond un o'r fath waelaf; etto y mae'n well na bod heb yr un, canys y mae ynddo Engraphau o'r pedwar mesur ar hugain; ac y mae hynny yn fwy nag a welswn i erioed o'r blaen. Disgwyl yr oeddwn weled rhyw odidog Ragoriaeth o Gywreindeb orchestol rhwng gwaith y Beirdd o'r oesoedd diweddaraf (sef D. ap Gwilym ac eraill) a gwaith trwsgl yr Hên Feirdd gynt yn amser Taliesin, Llywarch Hên, Cynddelw, a'r cyffelyb; ond i'm mawr syndod, nid oedd hynny ond sommedigaeth.—I find that all the old Metres (despised & antiquated as they are) were really what all compositions of that nature should be, viz Lyrick verses, adapted to the Tunes & Musick then in use. Of this sort were the several kinds of Englynion, Cywyddau, Odlau, Gwawdodyn, Toddaid, Trybedd y Myneich, & Clogyrnach, &c which to any one person of understanding & genius that way inclined, will appear to have in their composition the authentick Stamp of genuine Lyrick Poetry, and of true primitive Antiquity. As to the rest, I mean Gorchest y Beirdd, Huppynt Hir a Byrr, and the newest (falsely thought the most ingenious & accurate) kind of all the other Metres; I look upon them to be rather depravations than improvements in our Poetry, being really invented by a set of conceited fellows, void of all taste in Poetry, at a time when the Tunes of the Antient Metres were no more known than those of the Odes of Horace are now. What a cursed groveling, low thing that Gorchest y Beirdd is, I leave you to judge; & I would at the same time have an impartial answer, whether the old despised, exterminated, &, (I had almost said) persecuted Englyn Milwr hath not something of antique Majesty in its composition. Now, for goodness' sake, when I have a mind to write good sense in such a Metre as Gorchest y Beirdd, and so begin, the Language itself does not afford words that will come in to finish with sense & Cynghanedd too, what must I do? Why, to keep Cynghanedd, I must talk nonsense to the end of the Metre, as my Predecessors in Poetry were used to do, to their immortal Shame; & cramp & fetter good sense, while the Dictionary is all overturned & tormented to find out words of alike ending, sense or nonsense. And besides, suppose our Language was more short, comprehensive and significant, than it is, (which we have neither reason, nor room to wish) what abundance of mysterious sense is such a jingling Metre of such a length able to contain! An Iliad in a Nut—Shell, as they say. In short, as I understand that it & its fellows were introduced by the Authority of an Eisteddfod, I wish we had an Eisteddfod again to give them a Dimmittus to some peaceable acrostick Land to sport and converse with the spirits of deceased Puns, Quibbles, & Conundrums, of Pious Memory. Then could I gladly see the true primitive Metres reinstated in their antient Dignity, & sense regarded more than a hideous jingle of words which hardly bear sense. —But where would I be a going? I must not expect to see these things till the Antiquated Crwth a Thelyn Rawn are in fashion again; which I much fear is not likely to be within this century.—Dyma i chwi ryw fath ar ddynwared Caniad ar 24 mesur i'ch Cymdeithas a'ch Iaith, a chan mai nhw yw'r cynnyg cyntaf a rois erioed ar ganu ar y 24 Mesur, nid wyf yn disgwyl amgen nâ bo rai beiau a gwallau ynddo; etto os yw Gramadeg Sion Rhydderch yn gywir, yr wyf yn tybio nad oes nemawr o feiau anafus yn y Gerdd ychwaith; pan ddêl Ioan Dafydd Rhŷs i'm dwylaw, mi a ganaf yn gywreiniach. Ni yrrais mo hwn i Allt Fadawg etto, ond mi ai gyrraf pan gaffwyf amser, ac yno mi gâf wybod beth a dalo. Chwi ellwch weled na bydd mo'r lle i'r Gwynn nag i'r Hir[16] i achwyn bod gormod o Lusga Sain, yn hwn, a bychan o'r Groes a'r Draws oblegid ni's gwn fod ynddo un Gynghanedd ond y Groes Rywiog yn unig, os yw hono well nag eraill, eithr nid wyf fi'n medru canfod Gorchest yn y byd ar un Gynghanedd mwy na'r llall; yr orau yn fy nhyb i, yw'r hon a ddelo Naturiolaf.—I have hardly room to tell you how much I am yours

GRONWY DDU GYNT O FON.

Dear Sir I must beg of you to excuse the inaccuracy & bad writing that you meet with, impute it to the very great hurry that I am in. A line at your leisure will be exceedingly agreeable.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 23.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, ......

DEAR SIR,

WEL! Dyna ichwi'r Farwnad,' fal y mae; eithr nid gwiw genyf fyned i roi'r 'Briodasgerdd' ar lawr ar hyn o bapur; canys da y gwn nad oes mo'r digon o le i'w chynnwys. Prin y tâl i'w gyrru i neb, oblegid nis meddwn un Gramadeg pan wnaethpwyd hi; ac nid oes ynddi namyn dau fesur yn unig, sef 'Cywydd deuair hirion' a Chywydd deuair fyrion'; ond bod y rhei'ny wedi eu gwau a'u plethu groes ymgroes trwy eu gilydd, ac nis gwyddwny pryd hyny nenmawr o fesur arall. Yr oeddwn wedi llwyr ddiflasu ar rygnu yr un peth ganwaith trosodd; a braidd na roeswn ddiofryd byth wneuthur un braich o bennill hyd oni chawn Ramadeg. A phe cawswn. Ramadeg yn gynt, e fuasai gant o bethau wedi eu gwneuthur cyn hyn. Nid oedd arnaf fi eisiau (a pha raid?) yr un Gramadeg i ddysgu'r iaith. Cymmaint a oedd yn ol oedd engraphau o'r 'Pedwar mesur ar hugain.' Ac nid er bost na bocsach yr wyf yn dywedyd, ond yr wyf yn ammeu fod fy mhen a'm hymenydd fy hun cystal am yr iaith, neu well, a'r Grammadeg gorau a wnaethpwyd etto. Os bydd genyf yn y man awr i'w hepgor, mi a darawaf y 'Briodasgerdd' i lawr ar haner llen arall o bapur. Mi glywais y dydd arall o Allt Fadawg, ac yr oedd pawb yn iach; ond achwyn yn dost yr oeddid ar greulondeb a dichellion yr hwyntwyr.' Nid oedd y llythyr ond byr; a hyny i ofyn cennad i newid gair neu ddau yn Nghywydd y Farn,' i gael ei yrru i Lundain allan o law. Ac fe ddywaid y gwnai rai nodau ychwaneg arno, heblaw a wnaethum i fy hun; yr hyn a ddymunais arno ei wneuthur. Duw gyda chwi! Wyf yr eiddoch,

GRO. DDU.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 24.

At . . . .


WALTON, January 8th, 1754.

DEAR SIR.

I BEG you would write as soon as you conveniently can, and in answer you shall have Awdl y Gymdeithas ar y 24. Mesur. Pray answer my queries about Taliesin, Elphin, &c. You see how ignorant I am with regard to our Welsh Antiquities and Writers, and how could I be otherwise, seeing I never saw any of the Welsh MSS? Fe gai Enaid rhyw Ddŷn a yrrai imi fenthyg un neu ddau ohonynt. Nis gwn i pe bai am fy hoedl, pa fodd y gwnaethym fath yn y byd o brydyddiaeth a minnau heb wybod na gweled ond lleied o'r fath beth. Cymmaint ag oedd o'm tu, oedd, fy mod yn medru'r Iaith yn dda, a chennyf gryn dippyn o dueddiad naturiol at y fath bethau; ac er hynny i gyd, 'rwy'n meddwl nad yw'r peth ddim llai na rhyfeddod. Byddwch wych. Mae arnaf agos. gywilydd gweled yr Awdl wirionffol yma, ac mi amcenais. beidio ai gyrru wedi ei hysgrifennu. Da chwithau na ymheliwch ddangos mo'ni i neb.—You ask whether I have seen Cyfraith Hywel Ddå of Wotton's, & Notes, Williams's Edition or Translation. Ni welais i erioed ddim o'r fath beth, na dim arall yn Gymraeg a dalai ddim ond y Beibl, a'r Bardd Cwsg. Gwyn eich byd chwi ac eraill sy'n cael gweled eich gwala o hên MSS, &c. Rhof a Duw, cedwch yr hên MS, tros undydd a blwyddyn, ac yno odid nad ellwch hepcor y copi i ddiddanu Gronwy Ddû druan, na welodd erioed y fath beth. Da chwi, byddwch cyn fwyned a gyrru imi weithiau ambell Glogyrnach llithryg, neu ryw hên fesur mwyn arall allan o waith Gwalchmai, Cynddelw, Prydydd y Môch, neu'r cyffelyb; ac nid yw ludded mawr yn y byd i daro un (o'r lleiaf) ymhob Llythyr. You see I grumble not to write whole sheets full of Poetry, such as it is. Dymunaf arnoch, os medrwch, roi imi ryw faint o hanes Taliesin; pa beth ydoedd ef, ac yn enwedig pwy ydoedd Elphin, yr hwn y mae'n sôn am dano cyn fynyched? pwy hefyd oedd fy Nghâr Gronwy ddû o Fôn; ai yr un ydyw a Gronwy Ddů ap Tudur ap Heilyn? ac os nid è, pa'r un o honynt oedd piau Breuddwyd Gronw? Eich atteb yn y nesa, da chithau. Nodau ar y Briodasgerdd uchod—"Llemmynt," &c Alluding to the old custom of dancing a Morris—dance at a wedding—O Bott llawn &c. The common health on these. occasions is, "Luck & a Lad."—"A fedro, rhoed trwy Fodrwy" &c. Mae'n debyg y gwyddoch hynny o gast, a pha ddefnydd i wneud o'r deisen a dyner trwy'r Fodrwy.—

"Y Nôs wrth daflu'r Hosan, Cais glol y Llancesi glân." Mae'n gyffelyb y gwyddoch hyn hefyd, ond rhag na's gwyddoch fel hyn y mae trin y Dreth; sef, pan dděl y Nos, y Briodferch å i'w gwely, a chryn gant o Fenywaid gyd â'i chynffon, yn esgus law—forwynion, i'w helpu i ymddiosg; a phan dynno ei hosan, hi ai teifl dros ei hysgwydd, ac ar bwy bynnag y disgynno, honno gaiff Wr gynta. Probatum est. Ac felly yn y ddarn deisen, os choir hi dan y gobennydd, a breuddwydio, pwy bynnag a welir 'ped fai yr Arglwydd Bwclai) hwnnw a gai er gwaetha'r gwynt. Probatum est etto. Dyma ffordd Lloegr; ni wn i a ydyw'r inffordd Ynghymru ai peidio, ac nis gwaeth genyf.

GORONWY DDU O FON.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 25.

At RICHARD MORRIS.


WALTON, Ionr 24in, 1754.

Y CAREDIG GYDWLADWR,

ECHDOE y derbyniais yr eiddoch, o'r namyn un ugeinfed o'r Mis sy'n cerdded. Drwg iawn gennyf glywed ynghylch y Peswch brwnt sy'n eich blino, a meddwl yr wyf nad oes nemmawr o'r Gwyr a faccer yn y wlad a all oddef mygfeydd gwenwyneg y Ddinas fawr, fwrllwch yna. Mi adwaen lawer a gollasant eu hiechyd yna mewn llai nag ugeinfed ran yr amser y buoch chwi'n preswylio ynddi. Duw piau llywodraethu a rhannu'r bywyd a'r iechyd; ac os mynnai Efe, llwyr y dylai Gymru erfyn arno ganiadhau ichwi yn hir bob un o'r ddau; oblegid pe angen, nis gwn pa beth a ddelai o'n Cymdeithas na'n Hiaith ychwaith; am ein Cennhedl, honno a ymdarawai trosti ei hun, gan ddirywio ac ymollwng yn ei chrynswth i fod yn un a chennedl fawr yr Eingl. Ac yno y gwirud Geiriau'n drwg Ewyllyswyr, sef na pharaai ein Hiaith oddiar 100 mlynedd ar wyneb y Ddaiar. Telid Duw iddynt am hynawsed eu Darogan! Dyma fy hên Athraw a'm Cydwladwr Sion Dafydd Rhys wedi dyfod i'm dwylaw, 'rhwn a roisai Mr. Ellis o Gaergybi imi er's naw Mis; ac och! fi! mae'n dywedyd fod bai anafus yn y Ganiad a yrrais i chwi ar y 24 Mesur. Yn y Tawddgyrch cadwynog y mae'r bai, oblegid fe ddylasai'r sillaf gyntaf oll o honaw fod yn un ar Brif Odl; sef yw (O'ch) y Brifodl. Ac am hynny (cyn y danghosoch i'r Gymdeithas) dymunaf arnoch ei ddiwigiaw fal y canlyn; sef, yn lle "Gu flaenoriaid gyflawn eiriol-yn hoff uno! iawn y ffynnoch, dywedwch "O'ch arfeddyd, &c. &c. ac yno nid oes mor anaf na bai arno. Ac hefyd os mynnwch, chwi ellwch roi yn y Cadwyn ferr "Gwymp, &c. &c. yn lle "a'r Dilysion Wyr da lesol," a thybio 'rwyf fod hynny'n well. Nis medraf weithion feddwl am un bai arall, a gobeithio 'ddwyf nad oes yr un ynddi. Dyma i chwi Ganiad arall ar y 24 Mesur a wnaethym wedi'ch un chwi, a thybio'r wyf ei bod yn beth cywreiniach. Marwnad yw i Mr. John Owen o'r Plâs yn Gheidio yn Llŷn, hên Gyfaill anwyl Gennyf fi gynt, ac er nad adwaenoch chwi mohono, etto, tra bo hoff gennych y Prydydd, chwi a hoffwch ei waith, ar ba destyn bynnag y bo. But let me tell you that whatever I have said of him does really and in strict truth fall short of doing justice to his character. He was one of the brightest patterns of all Christian Virtues (that were consistent with his Station in life, which was but a Gentleman Farmer) that ever adorned his Country. His strict probity, temperance, modesty & humanity, were singularly eminent and conspicuous. But above all, his charity to the Poor was particularly remarkable. Yn y blynyddoedd tostion hynny pan oedd yr ymborth cyn brinned a chyn ddrutted, hyd nad oedd yn gorfod ar lawer werthu eu gwelyau o danynt i brynnu lluniaeth, a phawb a feddai Yd yn ymryson am y druttaf a'r calettaf; yr oedd y pryd hynny Galon John Owen yn agored, cystal a'i ysguboriau, ac yn y Plas-yngGheidio y câi y rhan fwyaf o Dlodion Llŷn eu lluniaeth; yn enwedig y trueiniaid llymion gan Bysgodwyr Nefyn. Nid oedd yno ddim nag am ŷd, bid arian, bid peidio; talent os gallent pan lenwai Dduw y rhwydau; ac onid ê fal y dywedai ynteu, mi a'i clywais yn aml Doed a ddel rhaid i bob genau gael ymborth."—Ai ê meddwch nid oes gennych neb yn eich Cymdeithas onid chwi eich hun a fedr wneuthur ymadferth nag ystum yn y byd tuag at ddangos eich amcanion buddiol i'r Byd. Och! fi gresyndod mawr yw hynny! gwae fi na bawn yn eich mysg na chai fod arnoch ddim diffyg Ysgrifennydd na dim arall o fewn fy ngallu fi Ceisied yr Aelodau gwasgaredig o'ch Cymdeithas, eich cynnorthwyo orau gallont tuag at y tippyn Llyfryn hwnnw os oes modd. Rhoed Gwilym Cybi ei law i mewn am Lysiau Blodau Garddwriaeth, canys nid oes mo'i well am hynny. Rhoed Llywelyn ynteu ei ran am Hynafiaeth, Hanesion, ac Historiau, Philosophyddiaeth anianol, a'r cyffelyb, yr hyn bethau a ŵyr oddiwrthynt orau yn Ghymru (pe câi amser); ond nis gwn i ddim oddiwrthynt. Minnau ac (Ieuan Brydydd Hir agatfydd) a rôf fy nwy Hatling tuag at Farddoniaeth, Philology, a'r cyffelyb; a thros benn. hynny nid ymdderchafaf oblegid nas meddaf nag amser na Llyfrau cyfaddas i'r fath bethau. Wrth sôn am Lyfrau, diolch i chwi am eich cynnyg; ond nid Llyfrau Lladin a Groeg sy arnaf fi fwyaf eisiau, ond Llyfrau Cymraeg sef, Hên MSS, ac eisiau yw hwnnw na chair mo'i dorri hyd onid elwyf i Gymru. Pe medrech daro wrth y Minor Poets, sef Hesiod, a Theocritus, a Horas, e fyddai da gennyf. They are very common. Y peth sy'n peri imi ddeisyf Horas Minellius, yw fod yn ei ddechreu daflen o holl Fesurau Horas. Meddwl yr wyf mai 24 sy o honynt fal yn Gymraeg. Ac amcanu'r oeddwn weithio Awdl ar y 24 yn y ddwy iaith i'r Twysawg erbyn. Gwyl Ddewi. But this I leave to you; perhaps it would be better to pitch upon some one of the measures in each Language, and follow it to the end of the Ode. Gwawdodyn Hir or Byrr, a Thoddaid, &c in Welsh; & Sapphic, Alcaic or the like in Latin.

GRONWY DDU.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 26.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, Chwefror 17, 1754.

DEAR SIR, I RECEIVED yours of the 4th of (January according to your date) February, and am exceedingly obliged to you for the sheet Almanack. You need not trouble yourself to send over another unless you have it ready by you, and can send it along with the MSS by ship to Liverpool. You could not possibly send me any thing more agreeable than that copy (unless it were £100 in cash,) for I never saw any thing of that kind in my life that was worth seeing. I beg therefore you would not fail to send it by the first ship that comes, and I do solemnly promise to return it whenever you shall require in case the original should be called for, &c. Rhowch fy annerchion yn llawn parch at Mr. Ellis, a dywedwch y cofiaf am y new style pan gaffwyf hamdden, ond fy mod yn awr yn dra phrysur yn ceisio clytio rhyw fath ar Ddyri i Siors Tywysawg Cymru erbyn Gwyl Ddewi, ar ddymuniad ein Cymdeithas o Gymmrodorion. Gwyr yw y rhai hynny na fynnant mo'u siomi, onid ê ni wnant lai na gwneuthur botasau o'm croen, fal y dywedai yr hen bobl gynt. Rhyfedd iawn o chwerwed yw'r hen Ddoctor Sion Dafydd Rhys yn ei Ragymadrodd. Pwy a allai'r "brynteion sothachlyd, a'r burgunieit gog- leddig, (sef yw hyny camweddawg anfeidrol,) o'r gwaethaf ar a aned erioed o wraig " fod? ai tybaid mai Ysgottiaid oeddynt? Os ê, cennad i'm crogi, onid yw Douglas fy hen feistr yn un o'u heppil hwy, neu'n tarddu o'r un grifft? Nid oes bosibl fod yr hen ŵr mor giaidd a galw pobl Gwynedd yn ddynionach dieithr gogleddig, ac yntef ei hun yn ŵr o Ogledd Môn, y lle gogleddaf agos yn Nghymru. 'Rwyf fi yr un feddwl ag yntef am y rhai a wadant neu a ddirmygant yr iaith Gymraeg, sef nad y'nt ond cachadyddion a brynteion eu gwlad, ac o'm plegid i cachadyddion a phibadyddion y cant hwy fod, ie, a chrachyddion a chachaduriaid, a chwcwalltiaid, os mynir; ie, ac os gwaeth hyny, mi glywn arnaf eu galw yn anifail cors, yr enw mwyaf tafod-ddrwg a glywais erioed o ben fy mam. Digrif eich dywediad nad oes gan y Teifisiaid ddim bodiau. Gwych a fyddai fod bawd-fys rhyw hanner cant o'r brynteion dihiraf o naddynt yn nhwll y chwil, a gwrth-hoel den arno, tros dro. Mi glywaf fyned Cywydd y Farn i Lundain, ond mae'n debyg na ddaw byth oddiyno, oblegid ni phrintir byth mo'no ei hun, ac nid wyf yn deall fod ganddynt etto faint yn y byd o'r pethau eraill, sef Natural Philosophy, History, &c. yn barod i'w printio gyd ag ef. Nid oes gan y Mynglwyd neb i'w helpu, ac ni ddichon iddo ef ei hunan ddyfod byth i ben ag ysgrifennu a chasglu y cwbl, ac yntau a'i ddwylaw yn llawn gwaith eisoes. Yn ol a glywaf ganddo, ni fyddai waeth gyrru pastynod i Lundain na rhai aelodau o'r Gymdeithas; pechod na b'ai ganddynt ddau neu dri o ddynion celfyddgar, a'u dwylaw yn ddidrafferth i ysgrifennu iddynt.

Now I shall have a little more time, for evening prayers are over; all the rest (excepting the Awdl) was written before, and in a very great hurry, for fear of missing this post; which you may see by the badness of the writing. Pa beth (yn rhodd) oedd Bustl y Beirdd a gânt yr Hen Dalcen Têg yn llys Maelgwn Gwynedd? A pha ham y gelwid yn Fustl y Beirdd? Ai rhyw Dduchan i'r Beirdd ydoedd? Some satire on 'em? Or challenger or defiance to them? Be so good as inform me in your next. Well, here my neighbour Whatton is just going to set out for town, and I must shut shop in spite of me. Byddwch wych. Your very humble servant,

GORONWY OWEN.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 27.

At JOHN ROWLANDS, clegir Mawr, Môn


WALTON, March 18, 1754.

DEAR COUSIN,

I HAVE lately received a letter from Cousin Jack Owen, of Cefn Esgob, in the parish of Llanfihangel Tre'r Beirdd; who is in the same degree related to you as I am; for his mother and mine were two sisters; wherein he gave me to understand that you had left Bryn Mawr a good while ago, and that you lived at Lleiniog, near Beaumaris. Somebody had told me long since—and I think it was my brother that told me that your father lived at a place called Trecastell; but as I did not know in what part of Anglesey Trecastell was, I would not venture to write to you for fear the letter should miscarry. I hope my uncle and aunt are well and hearty, and beg you would be so obliging as to make my compliments to them both, and let me have a line from you at your leisure, to let me know how you all do. I have heard that Cousin Morris of the Coffee—house at Beaumaris, is married again, and made but an unfortunate match of it. God help her! I am sorry to hear it. My compliments to her when you see her. I suppose you have heard that I am married, as I have been some seven years past, and have now three children, two lads and one wench. Their names are Robert, Goronwy, and Elin; they are, I thank God, all well, but never had the small—pox amongst them, though it is very rife in our neighbourhood. I can send you no news from hence, because you are but a stranger to the place. Every manner of provision for man and beast is very dear, occasioned by the extreme severity of the winter, which was harder than the winter of the hard frost; but that the hard weather did not last so long. Yr ydwyf fi yn talu yma bum swllt a chwecheiniog y mesur am y gwenith, Winchester measure. Y mae'r gwair yn wyth geiniog yr Stone; hyny yw, ugain pwys y cwyr am wyth geiniog. Yr haidd yn ddeuswllt a deg ceiniog, a thriswllt y Winchester measure; a phob peth arall yn ol yr un bris. Mi glywaf farw Mr. Owen o Bresaddfed. Pwy sy'n debyg o gael ei le fo yn y Parliament? Gadewch wybod pa beth a wnaed i'r dynionach anhappus a spoiliasant yr Ysgottyn ar Draeth y Lavan. Mae'n debyg fod y porthwys wedi ei grogi cyn hyn. Ond am y lleill, gresyn iddynt golli eu bywyd, a hwythau heb ladd neb am a glywais. Gadewch wybod hefyd pa fodd y mae'r farchnad yn myned yn y Dref yna; a phob newydd arall a dalo ei ddywedyd. Mae hi'n awr yn hir amser er pan fu'm yn Mon; ac yr wyf agos wedi bwrw fy hiraeth am dani. Etto pe cawn le wrth fy modd ynddi, mi ddeuwn iddi etto, er mwyn dysgu Cymraeg i'r plant; onide hwy fyddant cyn y bo hir yn rhy hen i ddysgu; oblegid y mae'r hynaf yn tynnu at chwe' blwydd oed, heb fedru etto un gair o Gymraeg; ac yn fy myw ni chawn gantho ddysgu; oni bai ei fod yn mysg plant Cymreig i chware; ac ni fedr ei fam ddim Cymraeg a dâl son am dano, ond tipyn a ddysgais i iddi hi. Y mae Sir y Mwythig yn llawer hyfryttach a rhattach gwlad na hon; ac mae'n lled edifar genyf ddyfod yma. Ond etto mae'r cyflog yma'n fwy o gryn swm. 'Rwyf yn cael yma yn nghylch dau ugain punt yn y flwyddyn, a llawn lonaid fy nwylaw o waith i wneuthur am danynt. Mae yma gryn farwolaeth yn ein plith. Mi fyddaf weithiau'n claddu pobl o fesur tri a phedwar yn y dydd. Dyma alwad arnaf i ymweled â'r claf y munudyn yma; felly ffarwel. Fy ngwasanaeth at fy Ewythr a Modryb; and accept of the same to yourself from, Dear Jack, Your affectionate Cousin,

GRONOW OWEN.

N.B.-Ni chyst y llythyr yma ddim i chwi, oblegid ei fod mewn ffranc. Ni feddaf yn awr yr un ychwaneg; ac onide mi a'i rhoiswn yn hwn; ac yno mi gawswn atteb yn rhad. Ond na hidia mo hyny; ni chyst yr atteb ond grôt imi; ac felly gad glywed oddi wrthych gynta galloch.

Mae fy mrawd Owen ynteu wedi priodi er ys rhwng chwech a saith o flynyddoedd, ac yn byw o hyd yn Nghroes Oswallt, yn Sir y Mwythig, a chanddo naill ai pedwar ai pump o blant. Ond ni welais i mono fo na hwythau er yn nghylch dwy flynedd a haner neu well. Byddwch wych; a gadewch glywed oddi wrthych pan gyntaf y galloch.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 28.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, Ebrill 1, 1754.

DYMA hi'n well na phum wythnos er pan yrrais i Gaer Gybi; ond etto heb glywed na siw na miw oddi yna; pa beth a allai fod yr achos? yr wyf yn llwyr ofni y gorfydd arnaf roi yn y papur newydd eich bod wedi marw er ys mis o'r lleiaf; ac yno ddarparu naill ai awdl neu gywydd marwnad o goffadwriaeth barchus i'ch enw. Dacw hefyd ddau lythyr wedi myned rhyngddynt a Gallt Fadog, er ys ennyd o amser; ond (am a welaf) ni fuasai waeth gyrru Brân i geisio tir. Ai tybied ddarfod i'r tri brawd gydsynio â'u gilydd i farw bob y pen ar unwaith, o wirwaith goddef i dorri asgwrn cefn un Awen dinlesgethan, a hithau yn ddigon llibyn eisus o wrantu? Och fi, wrth sôn am yr Awen, y mae hithau wedi marw hefyd, neu o'r lleiaf ar ei marw-ysgafn, ac ni's bydd byw chwaith yn hir.—Hi a'm cywilyddiodd dros byth, gan fethu ohoni wneuthur Cywydd nag Awdl i'r Tywysog, Wyl Ddewi ddiweddaf; ond paham i mi ar yr Awen? oerfel yr hin, a noethni y wlad oerllom yma oedd ar y bai: dyna'r pethau a fagasant, a'r peswch oedd mam y pigin, a'r ddau hynny rhyngddynt a'm lladdasent yn ddifeth, oni bai borth Duw, a chyfferiau meddygon. Y mae yma farwolaeth fawr ym mysg pobl o bob oedran; tybio yr wyf o fewn y ddeufis aeth heibio na chleddais ddim llai na deugain corph; nid oes nemawr o ddiwyrnod na chleddwyf un, ac weithiau ddau, weithiau tri yn y dydd a'r cleiflon mor aml nad wyf yn cael gorphwys namyn eu gofwyaw; ac ni ddichon dyn fyth fod yn rhy ddiwyd a gofalus yn ei swydd yn y wlad yma; o herwydd fod yr offerynwyr Pabaidd yn rhy barod i ymwthio i fewn ar bob achlysur. Yr oeddwn wedi dechreu Awdl i'r Tywysog ar fesur Gwawdodyn hir, ond ni orphenais oddiar 3 neu 4 o benillion o hono, ac yn anorphen y caiff fod byth bellach. Ac felly ymlaen yr aethai, hyd ddeuddeg neu ddeunaw pennill, pe cawswn hawnt a hamdden; ond, Och fi ni chefais; am hynny hi a fethodd. Oni chaf glywed oddi wrthych yn o fuan, ni wiw i chwi ddisgwyl llythyr arall oddi yma o hyn i Galanmai; oblegyd nid oes gennyf un ffrencyn ond hwn a darewais wrtho ar ddamwain: ni's gwyddwn fod mo hono gennyf y'mysg papurau, onidê mi a'i gyrraswn yna, neu i Lundain y'mhell cyn hyn. Yr wyf yn disgwyl gweled Mr. Fychan yn Nerpwl o hyn i ddiwedd y mis yma; ac os digwydd i hynny fod, nid wyf yn ammeu na rydd i mi ddwsin neu ddau, fal y tro o'r blaen, ond eu gofyn mewn rhigwm. Gwaethaf peth yw, nad ellir ymddiried i gymmeryd llawer o ffrancod neb, hyd onid el y Lecsiwn heibio; Beth, mor ddisymwth y bu farw Mr. Owen, o Bresaddfed? Yr oedd gennyf dri neu bedwar o'i ffrancod ef yn fy ymyl pan glywais y newydd o'i farw. Pa beth a ddaeth o Ned Foulkes, Person Llan Sadwrn, oblegid mi glywaf fod ei le fo yn wag? Er mwyn dyn, gadewch gael benthyg y copi os oes modd yn y byd. Rhowch fy annerch yn garedig at Mr. Ellis, a gadewch wybod pa sut y mae'n cael ei iechyd. Mi dderbyniais yn ddiweddar Destament Arabaeg, o Allt Fadog, a yrrasai Mr. R. Morris i mi er ys gwell na blwyddyn; ac er na's meddwn gymmaint a'r egwyddor yn yr iaith honno, mi ddysgais ei ddarllen mewn byr amser; ac yn wir nid anhawdd ei ddeall am ei bod yn swrn debyg i'r Hebraeg. Gwyn ei fyd a feddai Ramadeg neu Eirlyfr o'r Arabaeg, fal y mae gennyf o'r Hebraeg; yna mi drinwn y naill gystal a'r llall; ond beth a dal i mi sôn am ddysgu dim? nid oes gennyf mo'r amser nac i ddysgu nac i brydyddu, nac i ddim arall; dyma'r holl drysor o hen bregethau Sir y Mwythig agos a darfod; rhaid taro atti hi yn fywiog i weithio rhai newyddion, a phrin y down i ben a chael dwy bob Sul trwy'r flwyddyn, er gwneuthur fy ngorau. Nid oes yma le i segura; pan gaffo amser i edrych o'i ddeutu, mae Mr. Lewis Morris yn bygwth gyrru i mi ryw lyfrau, ond ni ddywed pa lyfrau; gobeithio mae Cymraeg loyw a fyddant, o ysgrifeniadau rhyw hen gorph sydd wedi pydru er ys tri chan mlynedd. Yr wyf yn ceisio clytio rhyw fath ar nodau ar Gywydd Bonedd yr Awen; a thrwsio rhyw fân wallau ynddo, fel y gellir ei gael yn barod erbyn dechreu'r hâf. Nid oes yma rith o newydd, ond fod yr Alderman yn dwrdio dyfod i Fôn cyn bo hir; nis gwn a ddaw i Gybi ai peidio. Mae'r teulu yno ac yma i gyd yn iach, ac i'ch annerch. Byddwch wych. Ydwyf eich ufudd wasanaethwr,

GORONWY OWEN.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 29.

At RICHARD MORRIS.

WALTON, Eprill y 9d, 1754.

ANWYL SYR,

Nid wyf yn ammau nad ydych bellach yn tybio fy mod wedi marw yn gelain gegoer. Ac yn wir fe fu agos i'r peswch a'r pigyn a'm lladd. Nid wyf yn cofio weled ermoed gethinach a garwach Gauaf; nid yw'r Wlad oerllom yma ddim yn dygymmod â mi yn iawn; llawer clyttach Swydd y Mwythig. Dyma ddauddydd o Hîn wych yn ol yr amser o'r flwyddyn. Nid oes dim yn fy mlino cymaint a darfod i'r Pigyn brwnt a rhyw drafferthion eraill lestair imi yrru i chwi Ganiad erbyn Gwyl Ddewi; ni ddylai undyn, a ystyrio mor ansicer yw'n bywyd a'n hiechyd a'n hamser (yn enwedig y sawl a fo megis Gweinidog tan arall, fal 'rwyf fi) addaw dim yn sicer ac yn ddifeth i neb, oblegid na's gwyddom o'r naill awr i'r llall pa beth a ddigwydd i'n rhwystro. Yr oeddwn wedi dechreu Caniad i'r Tywysawg ar y mesur a elwir Gwawdodyn Hîr, ond nid orphennais onid tri phenill o honi, ac bellach yn anorphen y caiff fod tros byth am a wn i. Ni wiw genyf yrru y darn yna i chwi. I lately took a fancy to my old acquaintance Anacreon; & as he had some hand in teaching me Greek, I have endeavoured to teach him to talk a little Welsh & that in Metre too. Ode 47th "Hoff ar hên &c." Observe that there is but the very same number of Syllables, in the Welsh, as are in the Greek, & I think the Welsh Englyn Prost fully answers the scope & meaning of the Ode, & that in an almost verbatim Translation. The more I know of the Welsh Language, the more I love and admire it; & think in my heart, if we had some men, of genius and abilities, of my way of thinking, we should have no need to despair of seeing it in as flourishing a condition, as any other Antient or Modern.—Nid oes yma faint yn y byd o newydd gymmaint a marw Gwrach y caid Grôt ar ei hôl er marw'n ddiweddar ryw wrâdd O Wrachiod. Rwyf yn bur anesmwyth o eisiau clywed o Allt Fadawg; mi yrrais yno ddwy waith, ond nid oes dim atteb. Dyma gyd a'm bŷs o Lythyr o Gaer Gybi, yn dywedyd fod pawb yn siongc ym Môn ac yn Gallt Fadawg. Nid gwiw sôn am Ffrangcod bellach, hyd oni lenwir y Senedddy o newydd. Mi dderbyniais y Testament Arabaeg o Allt Fadawg yn ddiweddar; a chàn mîl diolch i chwi am dano ; ni chefais etto mo'r Llyfr Hebraeg a yrrasoch gydag ef. Er na welswn erioed mo'r Egwyddor yn Arabaeg, etto trwy ddyfal [astudio] y gyntaf o Fathew, y 3dd o Luc, &c, mi ddysgais ei ddarllain yn lew iawn, ac nid anhawdd ei ddyall i'r sawl a ddyallo Hebraeg, oblegid nid oes nemmor o ragoriaeth rhyngddynt, prin gymmaint mewn rhai pethau ag sydd rhwng Iaith Gwynedd, a Iaith yr Hwyntwyr. Cryn gynnorthwy a gefais wrth fyned tros y Dengair Deddf yn yr Arabaeg a'r Hebraeg ynghyd, oblegid y mae'r Deg Gorchymyn genny yn y Testament, &c.—Wyf eich &c

GRO DDU gynt o Fôn.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 30.

At RICHARD MORRIS.

WALTON, May the 18th, 1754.

DEAR SIR,

As you are fond of any piece of Antiquity, I here send you one which I look upon to be somewhat curious. The MSS it was copied from was so much defaced, that the title was almost illegible; but what is most to be regretted is that the date of this curious piece of History as well as Poetry, cannot be ascertained. You will please to observe that where the characters were illegible I put dots with the Pen thus ...... &c. The title runs thus, Kyggor i...... vap Hywel, & then as follows. Y Bart du a gant yr Awdyl hon yn y Lluyt y llas...... vap Hywel. In the margin there was a note in another hand to this purpose, viz. Eraill a ddywaid mai yr Bardd Glas or Gadair a'i cânt anno Domini..... 54. But whoever was the Author, the piece is of undoubted antiquity; & the want of a date to a Poem amongst us Antiquarians, you know, is no more than the want of a head to a Statue of Venus, or legs & arms to one of Hercules; that is, such a defect does not lessen, but greatly enhance the value of either. If every antient Medal was as legible as a King George's halfpenny, what room would be left for our learned conjectures? And I doubt not but the date of the present Poem will afford matter of profound speculation to our posterity in the faculty for many future generations. Et natis natorum, et qui nascentur ab illis. I cannot find, in my Davies's Dictionary in what century either of the above Bards flourished; & in vain have I turned over my Caradog of Llangarfan, & my. Geoffry of Monmouth, to find out when the memorable battle therein mentioned was fought. Camden knows nothing of it, & Carte is very far from being precise in point of time. What time Sibli lived, or where, is to me a mystery; & whether that venerable personage were Man, Woman, or hermaphrodite, would have been as great a one, but for this Poem. But then if this vast treasure of knowledge could have been gain'd by reading, I should have been deprived of the pleasure of making the conjecture which I am now going to offer; viz, that this Poem was written somewhere within that dark period of time that passed between Anno 600 & 1000. Ha! I smell you out Brother Antiquarians, you say. I care not a fig if you do, tho' methinks at that distance ....... My design, Sir is honest as ever entered into any Antiquarian pate; & if it does but take effect, I am persuaded it will be of infinite benefit to Posterity. Time, you know, is the grand enemy of our tribe, with whom our predecessors of everlasting memory have waged perpetual (or to speak more poetically, a never discontinued) war. What He hides we endeavour to find; what he would bury in eternal oblivion, we as strenously register in the eternal records of Fame. The success of this war has always been various; but to the immortal honour of the present age we have gained numberless advantages of the enemy. You know how our army sacked his Capital of Herculaneum ; & (to give merit its due praise) I myself received some glorious wounds in the brains at the Battle of Uriconium in Shropshire, when we retook from the enemy three Roman Officers whom he had kept close prisoners since the time of Claudius Caesar.[17] Why should we then, after such singular advantages, leave the enemy in quiet possession of (at least) three Centuries & a half? I mean from the time of Merddin Wyllt to that of Meilir Brydydd. My project then is to throw this present Poem, like a bomb, into the midst of that wide chasm, & so retake from the enemy (at least) one whole Century. One thing more I have to advise you of, viz. that in the copying I have not scrupulously kept the old orthography, because I thought it would be too puzzling even to an Antiquarian. Besides, what modern could remmember always to write t for dd, u for f, ss for s, gg for ng, &c. I have illustrated it with a few necessary notes out of my own critical headpiece, & every now & then put such a word in the Margin, in the original orthography with a Sic legitur in Mso; & all this to show my profound knowledge in Criticism. I should likewise let the courteous reader know that the Measure is the true genuine Audolical metre used by all the Ancients; but it concerneth neither him nor me to know how this Metre was called. The Cynghanedd is the old Braidd gyfwrdd, & in those times it made no great Matter, whether there was any Cynghanedd at all, if the number of Syllables were right, the words poetical, & the Prifodl kept inviolable. Braidd gyfwrdd is thus:

Arddwyreaf Hael o hil Yago.

Now hael & hil made a most exquisite delightfull jingle & harmony to primitive ears. Vale de fruere. Danghoswch hwn i'r Llew da chithau, a gofynnwch iddo pa faint gwaeth Cymraeg sydd yn Lloegr heddyw nag oedd ynGhymru saith gan mlynedd i heddyw? I'r Gwr o'r dollfa, sef Gwilym Cybi, y mae diolch am y pattrwm. Efe a yrrodd yma'n ddiweddar Lyfr yn cynnwys 58 o Awdlau, o waith amryw o'r hên Feirdd gorau yn y Blynyddoedd 1100, ag oddi-yno hyd 1300; a'r Llyfr hwnnw a ysgrifennasai yntau ai law ei hun allan o Lyfr Gwernygron. Gobeithio na elwir byth am hwnnw adref ac ni eilw yntau byth am hwn, oblegid dyna'r ammod mae'n addo benthyg ei Delyn Ledr yr hâf yma os byw a fyddwn. Afraid imi esponio yr Awdl i chwi; chwi ganfyddwch ei thueddiad hi ar y golwg cyntaf. Dywedwch i'r Llew fod fy ngweddi fi'n ddwys ag yn ddygn oi dy ef ddydd a nos, a gobeithio mai gwir Brut Sibli. Gadewch glywed, er mwyn Duw, yn union deg ar ol darfod y Gåd. Yr wyf agos a gwirioni rhwng ofn a gobaith—Am yr Horace Minelli, ni gawn siarad am hwnnw pan êl y mwstr heibio. Nid wyf i'n prisio draen mewn Arabaeg na dim arall weithion, oddigerth y medrwn ddyfod o hyd i Fold i wneud arian; felly na phoenwch am Eirlyfr na dim arall o hyn o dro. Y cebyst i'r Byd brwnt yma, a melldith eu mammau i'r Rhufeiniaid cybyddlyd a ddaeth ag Arian gynta i Frydain. Nid oes yma newydd yn y Byd, a dâl ei grybwyll.—Wyf yr eiddoch yn garedicaf.

Y DU O HIRGAER.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 31.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, Mehefin 4, 1754.

YR ANWYL WILYM,

DYMA'ch dau lythyr wedi dyfod, ac un oddiwrth bob un o'r ddeufrawd eraill, a phob un yn unair yn dywedyd yr un newydd cysurus yng nghylch y fuddugoliaeth a gafas y Llew, ie yn wir. Ni choeliech chwi mo Sibli; oni wyddoch chwi (chwedl Joseph gynt wrth ei frodyr) y medr gwr fel myfi ddewiniaeth? Etto er hyn yr oedd Sibli, wrth holi ac ymofyn, wedi cael gwybod o dan din pa ddiwrnod y byddai'r gad, onid nis gallasai (mwy nag Alis y ddewines,) mo'r dywedyd yn bendant, "cyn nos Wener, " &c.,a "chyn terfyn Mai," &c. For those things are not, cannot be revealed to modern prophets without their being at the trouble of pumping for 'em, which is an art they have a good knack at. Y cebystr i'r llythyrau, beth mae'r cast sydd ganddynt o fyned a dyfod yn ngwrthgefn eu gilydd. Doe y cefais eich diweddaf, gan ddigwydd o honof farchogaeth i Gaer Nerpwl cyn gwasanaeth (i edrych am gynhinion i'm teilwriaid,) a galw efo Aldramon ar ffrwst wrth fyned heibio. Ac yr wyf yn gyrru hwn yna ar ffwdan, i edrych a gyrraedd yna cyn i'r llall gychwyn. Ni yrrwys yr un o'r ddeufrawd i mi gymmaint ag un ffrencyn, ac ofni. yr wyf mai yn eich cost y byddwch am hyn o furgyn. Ni thal mo'r dimai Werddonig, ac nis meddaf mo'r amser i yrru ei well y tro yma. Er dim a fo gadewch i mi gael benthyg y Delyn Ledr y cyfleustra cyntaf, i gael i mi rygnu ambell gaingc arni, tra bo'r dydd yn hir a'r hin yn deg. Odid na bydd rhyw beth ynddi a wna i mi geisiaw ei ddynwared, neu o'r hyn lleiaf mi bigaf rai geiriau tu ag at helaethu fy Ngeirlyfr, fal yr wyf yn gwneuthur beunydd o'r hen Walchmai, &c., &c. I am exceedingly surprised to see how Dr. Davies has passed by abundance of good words without taking any notice of 'em, and that he should put a query to others that are as plain as pikestaff, amongst those are gwerthefin. Now what man that has seen or heard the word gwarthaf can be at a loss for the meaning of gwerthefin! Does not cyntefin come from cyntaf? Yes surely, and so does gwerthefin, from gwarthaf. He has properly enough rendered gwarthaf by vertex, fastigium, summitas; and so he should have rendered gwerthefin by, summus, supremus, &c, or in English, chief, principal, supreme, sovereign, &c. The like I could observe to you on some dozens of words more. And the sense tells you the same. What is Brenhin Gwerthefin (as Hywel fab Owain Gwynedd has it) but Sovereign King; and the translators of the Common Prayer Book might with much more propriety have said Ein Grasusaf Werthefin Arglwydd Frenhin George, than Grasusaf ddaionus, &c. I had made some few remarks on these things. in my Davies' Dictionary before I received Gwalchmai, &c., but now shall be enabled to augment them considerably in my Richards' which I've got interleaved and neatly bound in two Vol. for that purpose. My compliment to Mr. Ellis; kindly accept of the same to yourself. Gadewch gael pwt o lythyr gynta' galloch. Wyf eich eiddoch fal yr wyf.

Y BARDD DU.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 32

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, Mehefin 25, 1754.

YR ANWYL WILYM,

DYMA'R eiddoch o'r 14 o'r presennol wedi dyfod i'm llaw heddyw; garw o gyd y maent yn cadw llythyrau pobl druain naill ai yn Nghaergybi neu yn Nghaer Nerpwl! Yr achlod iddynt, a diddaned cael gafael ar gwr tipyn o epistol. Bendith Duw a ffyno iwch', am fenthyg y Delyn Ledr; na thybiwch y byddaf mor greulawn anghristnogol a'i chadw yn hir rhag eich nychu o hiraeth. Och fi! onid gwych fyddai cael tipyn ychwaneg o'r Barddoniaeth yna? Ni flinwn i byth bythoedd arno. Ac os gyrrwch yma rai eraill yn gyfan mi a'u copiaf (os mynwch) yn y llyfr gyd a'u brodyr yn y llaw oreu a fedrwyf. Ond dywedwch a ddywetoch, ni wnewch byth i mi hoffi eich car D. ap Gwilym yn fwy na'r hen gyrff. Er hyny i gyd ni ddywedais i erioed (fel yr y'ch yn haeru) fod Gwalchmai wedi gwneuthur i mi ffieiddio ar Ddeian; ond ar Gywyddau, pwy bynag a'u gwnelsynt. Anacreon amongst the Greeks, and Ovid amongst the Latins give some people (of particular complexions) the most exquisite pleasure and delight. I don't condemn those people's taste; but give me Homer and Virgil, and in my poor opinion so much does Gwalchmai excel D. ap Gwilym and his class as Homer does Anacreon. But every man to his own taste, I claim no sovereignty over any one's judgement, but would be glad to have the liberty to judge for myself. Dyna ben am hyny. Ai ê, Cymro oedd Emrys Phylib? fe allai mai ê. Ond mi a adwaenwn frawd iddo oedd yn werthwr llyfrau yn Nghroesoswallt, na's mynasai er dim ei gyfri'n Gymro. Pa ddelw bynag, ni wnaeth yr hen Ddeon mo'r llawer o gamwri ag ef. He did but expose and ridicule the infantine style for fear it should get in vogue as the taste of the age, and that we should have Iliads written in it, which is no more than I would have done, had I lived in D. ap Iemwnt's time, pan gaethiwodd y Braidd Gyfwrdd, ac y dychymygawdd Orchest y Beirdd. I own with you, that the Distress'd Mother (my favourite Tragedy) &c. are in esteem to this day, and that deservedly, and will venture further to say they will continue so while the English Language is esteemed; but as to the preference given him to Pope by Mr. Addison, I can by no means agree with you, that being altogether a genteel sneer and satire upon his pastorals. Can you read Mr. Ph——s' pastorals especially where he quotes a passage with a "How agreeable to nature, &c." without discovering the sneer? For my part, when I compare the passage commended with the commendation, methinks I see before my eyes the wry face and the grin. And if he had pleas'd he might have said as much of Mr. Pope's; for in truth I could heartily wish that neither of them had ever attempted pastoral, their geniuses being much better adapted to greater things. They should have left pastoral to Gentle Gay, who (nothwithstanding all his fustian as it is called) is the only Englishman that deserves the name of a pastoral writer. Nid yw yr Hwyntwyr (chwedl chithau) onid hanner Cymry, gan eu bod gan mwyaf, yn hanfodi o had pobl Fflandrys a Normandi, a rhyfedd yw allu o naddynt gadw maint yn y byd o'r hên iaith, ac o'r achos hwnnw yn bendifaddeu mi fynwn iddynt adael ymgeleddu'r iaith i'r sawl a fedrant yn oreu wneuthur hynny, sef pobl Wynedd; ac os ewyllysiant ddangos. eu serch i'r iaith cymerant arnynt ran fawr o'r gost, ond na feiddiant roddi na llaw na throed yn y gwaith, rhag ei ddiwyno Allediaith ffiaidd. Ettwaith, lle bai'n y Deheudir ddyn a chanddo ddawn (neu a dybiai fod ganddo) ddawn Awenyddiaeth, bid rydd i hwnw (o'm rhan i) ganu ei wala, oblegid odid i ddyn awenyddgar gyfeiliorni'n gywilyddus; a diau fod gwaed Cymroaidd yn drechaf yn mhob un o'r cyfryw, o ethryb mai dawn arbenig ein cenedl ni yw Awen, megys y mae dawn yr eil—drem (i.e. second sight) yn perthyn i fyneich ucheldir yr Alban. Ac oddiwrth y cyffredin hynafiaid, y Derwyddon, yr hanyw pob un o'r ddeuddawn. Y Derwyddon, yn ddiddadl, oedd hynafiaid ein cenedl ni, ond pa un a'i hanfod o honom o waed Troia ni's gwn; anhawdd yw genyf goelio hynny, hyd oni welwyf ychwaneg o eglurdeb nag a welais eto. Diau gennyf nad yw'n anrhydedd na pharch i neb hanfod o'r fath wibiaid a chrwydriaid; eto bid i'r gwir gael ei le, ped faem oll yn feibion i Sion Moi, neu Loli Gydau Duon, na ato Duw i ni wadu ein rhieni. But when you say, "Dyweded Camder a fyno, ni buasai'n henafiaid byth yn dyfeisio'r fath chwedl heb na lliw na llun, &c." I can't forbear smiling (I beg pardon for being so rude,) if we have no better proof of our Trojan extraction than the bare veracity of our ancestors, I fear we may drop the argument, for I'm afraid, if we say our forefathers neither could or would fib upon occasion, we may be reckon'd very great fibbers ourselves.. Yet I can't see what they could propose to themselves by inventing such a thumper, unless it were to ingratiate themselves with the Romans by laying claim to the same common ancestors, and indeed that was temptation enough of conscience. But admitting the story of Brutus to be true, and allowing Geoffrey of Monnmouth all the authority of authenticity he can desire and every other advantage, but infallibility, and I care not much if he had that too, yet it were absurd and even ridiculous to imagine the main bulk of one nation to be his descendants. What would you say were I to affirm that the good people of England were all descended from William the Conquerer, or that they are all Hanoverians because his present Majesty is one? Brutus was hero (and was king, if you please) but still he and I are nothing akin.

Oedd, oedd, yr hen Dr. Davies o Fallwyd yn deall yr iaith Gymraeg yn bur dda, heb law llaweroedd o ieithoedd eraill. Ac nid eisiau deall a wnaeth iddo adael allan o'i Eirlyfr gymmaint o eiriau ; ond brys a blys ei weled wedi dyfod i ben cyn ei farw. Mae'n ddigon er peri i galon o gallestr wylo'n hidl ddagrau wrth weled fal yr oedd yr hen gorff druan yn cwyno yn ei Ragymadrodd rhag byrred yw hoedl dŷn! ac yn mynegi pa sawl cynnyg a roesai lawer o wyr dysgedig ar wneuthur Geirlyfr Cymraeg, ond fod Duw wedi tori edau'r einioes cyn i'r un o honynt, oddigerth un, gael amser i gwblhau ei waith. Ac yntef ei hun yn ennyd fawr o oedran, gwell oedd ganddo yrru ei lyfr i'r byd heb ei gwbl orphen, na'i adael megys erthyl ar ei ol, yn nwylaw rhyw rai, agatfydd, na adawsent byth iddo weled goleu haul. A diamau mai diolchgar y dylem oll fod iddo, a mi yn anad neb, oblegid efe a ddysgodd i mi fy Nghymraeg, neu o'r lleiaf, a'm cadwodd rhag ei cholli yn nhir estron genedl.

Nac ydyw Marwnad Owen Gwynedd o waith Cynddelw ddim yn y llyfr yma, fel y gellwch weled wrth y Fynegai Nid wyf yn meddwl fod y darn a yrrasoch ohoni yma chwaith yn anhawdd ei ddirnad. It is a very pretty passage sure enough, and 'tis a pity if it is imperfect in your book. I'm almost certain that most of these Odes have been corrnpted by the ignorance or carelessness of transcribers, which has been the common fate of all authors before the invention of printing, and which at present can no otherwise be remedied than by the comparing of various readings, and fixing on that which carries in it the best sense, and is most agreeable to the context. I read this piece as follows in the modern orthography.

Gwyrdd heli Teifi tewychai;
The green water of Tivi grew thick.

Gwaedlanw gwyr a llyr a'i llenwai;
Being filled with the streaming blood of men.

Gwyach rudd gorfudd goralwai;
The brown Diver[18] called it the greatest happiness.

Ar doniar gwyar gonofiai;
And waded o'er planks of clotted blood.

Gwyddfeirch tòn torent yn ertai;
The wild sea horses were broken at low water.

Gwychr ei naws fel traws a'i treisiai;
The stout hearted (i.e. O.G.) like a tyrant seiz'd or oppress'd 'em.

Gwyddfaau Eingl ynghladd a'u trychai;
Heaps of English buried (in the sand, wreck'd 'em.

Gwydd-gwn coed collwyd a'u porthai;
The wild dogs of the woods lost their provider.

Gwyddwal dyfnwal dyfnasai fy medd;
The deep thickets were wont (viz.) to find 'em meat.

Fy modd, fy meddiant a gaffai;
And wanted neither my consent or assistance.


If that be not meaning of it, I don't know what it means, or whether it has any meaning at all; as I never had the honour of Mr. Wily Wawch's acquaintance, I can't tell whether he and gwyach be the same or not. Ai rhudd yw lliw Wil y Wawch? Os ê, mi dybiwn mai yr un peth yw Wil y Wawch a Wil y Wyach ond ei fod heb ei fedyddiaw yn Wil yn amser Cynddelw. But as to your observation, "nid hwyrach nad am gig y dug yr hen fardd o i mewn, &c." It is very just. It would have given you a very odd idea if he had introduced a parcel of ducks as picking out the eyes of the slain on the field of battle, instead of crows and ravens; but as queer as that would have been, we are very sure that ducks (both wild and tame) will greedily devour both blood and guts, &c. when they meet with 'em in the water, gobbets of clotted blood, pieces of lights and livers, milts, &c., being our usual way of baiting wild ducks on the River Severn. And why might not Wil Wawch delight in such things as well as they, tho' he should not care to eat raw flesh. Gyrrwch y delyn gynta' galloch, da chwithau, yr wyf ar y drain am ei gweled hi. Dyma fi wedi cael llythyr o Allt Fadawg yn ddiweddar; mae yno bawb yn iach, ond bod y Llew yn drafferthus; mi gaf glywed etto'n fuan. Iê, llongau yw gwyddfeirch tòn, a Saison yw Eingl; ond oddiwrth y gair ongl, am eu bod gynt yn byw mewn ongl, i.e congl o'r deyrnas fel y mynnai'r Dr. Davies. The plural ongl would be yngl or onglau as from corph, cyrph, from môr, myr, &c. But the plural of Angl is Eingl, as from arf, eirf, carr, ceir, &c.; and who knows not that they formerly called themselves Angles, which in the singular number is Angle, or in our orthography Angl. Wele Duw a'm helpo, dyma fi yn myn'd i'm rhwymo fy hun i aros yn mysg yr Eingl tra b'wyf byw ysgatfydd. Mae'r Esgob Caer yn dyfod i gadw ei ymolygiad cynthefin yn Nerpwl yr 22 o'r mis yma, sef Gorphenaf, ac yno fe gyst i mi ymddangos a thalu'r mawr-bris am Leisians, a da os dihangaf heb gymmeryd dwy, un am y Guradiaeth a'r llall am yr Ysgol. Nid wyf yn amau na wna yr Esgob eithaf cnafeidd-dra â mi, oblegid na all yr un ohonynt aros gweled dŷn yn dyfod o'r naill esgobaeth i'r llall. Ond gwnaed a fyno yr wyf fi'n barod, a saeth (debygaf) gennyf i bob nod, oddigerth nod y bocced lydan hono sŷ wrth ei glôs ef, a saeth i hono hefyd os happia. You make a query whether fferis should be written offeris? No, say I, for it comes from the Latin word ferrum, iron or steel; but whether it be an English word or a Welsh one I can't tell; for they have no other name for it in this county or that of Chester but ferris or ferice, and I have not heard it so call'd in any part of England or Wales but in Anglesey. When I heard 'em here talk of ferris, I expected to have heard of yster bwch too, but never did. We have here many other words that are familiar to Anglesey folks, but unknown to all the rest of England and Wales, except they are used in the North of England; and I shrewdly suspect they are, and were originally borrow'd of the Scots. Gonofio is not to duck or dive, but the same as llednofio, i.e, rhwng cerdded a nofiaw, to wade or snudge, oblegid mai gwaith anhawdd yw nofiaw mewn gwaed. I wish with all my heart that the Dictionaries of the Tri-brawd should be compared and printed; as for me, I've not had mine long enough to do any wonders with it, yet I've some good words, and some good number of them. If I was a man of fortune, I would with all my heart bestow any labour in preparing Mr. L. Morris's for the press, or any thing else that would contribute to the making it public. But I've not time to do any thing but preaching, &c. for a livelihood. Wele rhaid cadw noswyl bellach. Byddwch wych, ac annherchwch Mr. Ellis. Wyf yr eiddoch (rhyngoch) yn ddiran,

Y BARDD DU.
O.S.—Chwi welwch fy mod wedi bod wythnos gyfan yn disgwyl am y Delyn Ledr, ac etto heb hanes o honi. Mae'n debyg na feiddia'r llongau ddangos eu pigau gan y gwynt uchel yma. Dyma'r Llew wrth ffawd wedi gyrru i mi ddau ffrencyn.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 33.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, Gorffennaf 12, 1754.

Y DIWYD GELFYDDGAR GYDWLADWR,

DYMA'R Delyn Ledr wedi dyfod i Walton o'r diwedd, mewn cywair odidawg hefyd; diau, er pan fu farw Gwgan fawd newydd, na fedrasai neb arall ei chyweirio fal hyn, namun chwychwi. Wele! Cann hawddammor i Wastrawd y dollfa! Braidd y mae gennyf synwyr i ddiolch am y gymmwynas, gan synu a thysmwyo rhag ei godidoced! Iê, ië, gwyn eich byd chwi ac eraill, meddaf fi etto, wrthyf fi a'm bath! Mwy yw hyn nag a welais er ymhoed o'r blaen, ond mae'n debyg nad yw draian a welsoch chwi o gywreinwaith ein hynafiaid ardderchog. Mae genyf yma yn fy meddiant fy hun, garp o hen lyfr MS. o Gywyddau a darewais wrtho yn Nghroes Oswallt, ac a yrraf yna i chwi, os nad yw'r Cywyddau genych eisoes. Chwi gewch daflen o honynt yn gyntaf i edrych a feddwch yr un o honynt ai peidio. Nid oes yn y Delyn Ledr (am a welaf) ond un o honynt, sef Cywydd "Y Llong dan y fantell hir," o waith Robin Ddu. Braidd y medraf fi darllen y llaw, gan ei bod hi o'r hen ddull, a spelio hynod o ddrwg. It was written by one that calls himself Edward ab Dafydd in the year 1639. It seems to have been afterwards in the hands of his son who writes himself, not John ab David (or ab Edward) as the old fellow did, but John Davies, and his name I find written in 1671 and 1672, but with no additions worth notice. By this I conclude him to have been—a Shropshire Welshman, and indeed his llediaith and bwnglerdra sufficiently shew it!! Er hynny ammor iddo am ei ewyllys da a'i gariad i'r iaith; er carnbyled oedd ei waith arni. Yr oedd genyf un arall o gymmar i hwn; ond fe aeth hwnnw i law ddrwg, sef y lleidr o deiliwr gan fy mrawd Owen, ac yno y trigodd, a deg i un nad yw bellach gan faned ag usa waith y gwellaif, a'r pen diweddaf o honno yn eirionyn mesur o'r culaf, ac yn barod i'w droi heibio rhag na ddalio un nic yn ychwaneg. Nid ydwyf yn cofio pa bethau oedd yn hwnnw, am nad oeddwn y pryd hynny'n bwrw'n ol y barddoniaeth gorau oll, mwy nag a wnaethai Sion Tomas Tudur y Taeliwr gynt am y Delyn Ledr. Dyma daflen o'r cynhwysiadau. [Ni roddir mo'r daflen hon yn y copiau.]

Dyna'r cyfan oll ond fod aneirif o Englynion go drwsgl yma a thraw ar bob congl wåg o'r dalenau. Cywyddau Pabaidd yw y rhan fwyaf o'r Cywyddau, sef i Dduw, i'r Epystyl, i'r Byd, i Anna, &c, Gresyn oedd! Mae canu gwych mewn rhai o naddynt, ond ni ddarllenais i erioed o'r cwbl. Cywydd y Llwynog yw un o'r rhai gorau a gyfarfum i erioed yn ddiamau. Mae'r hen Edward ab Dafydd, yn dyweyd "Nid oes wybod pwy a'i gwnaeth." Ond y mae'r mab, neu ryw un arall wedi ei dadu o ar Hugh Llwyd, Cynfel, Hugh Llwyd Cynwal, mae'n debyg. Os caf hamdden a chyfleusdra i yrru hwn i chwi megys tamaid prawf, i edrych a fyanoch ddim ychwaneg o'r ffar sy yma, mi a'i hysgrifenaf ar bapur arall, rhag ofn y gwaethaf. Mae'n debyg fod yn rhy dda gan fy mrawd brydyddiaeth i ddistrywio yr hen lyfr hwnnw, ac os ydyw heb ei ddifrodi, mi fynnaf ei gael cyn diwedd yr hâf. There are more curious old books of our language to be met with in some parts of Shropshire than there are in most parts of Wales, and that plainly shews that the people some generations ago valued themselves upon being Welsh, and loved their native country and language. But now those books are not understood, and consequently are not valued. I bought at a Bookseller's Shop at Oswestry, a Drych y Prif Ocsoedd (1st edition,) Dadseiniad Meibion y Daran, or a translation of Bishop Jewel's Apology, (by one Morrys Kyffin, o Glascoed, in the parish of Llansilin, in Shropshire, and formerly a fellow of a College, Oxon.,) into excellent Welsh, and Bp. Davies's Llythyr at y Cembry, prefixed to Salisbury's New Testament in Queen Eliza's time, and Prifannau Sanctaidd, &c., by Dr. Brough, Dean of Gloucester, and translated into very bad Welsh by Rowland Vychan of Caer Gai, and all for 8 pence! The first translation of the New Testament I met with in a certain man's hands in that town, and had in exchange for a silly, simple English book of God's Judgment against Murder, &c. Wrth hynny chwi ellwch weled nad oes nemawr o fri ar ein hen iaith ni yn y wlad honno. Mi gefais yno hefyd Eirlyfr y Dr. Davies, nid llawer gwaeth na newydd am chwe'swllt. Had I, when I I lived in Oswestry, been as nice a critic in valuable old books as I was in valuable young women, I might have furnished myself pretty moderately; but who can put an old head upon young shoulders?

Nid oedd genyf yr amser hwnnw ddim blas ar Gymraeg na phrydyddiaeth, na dealldwriaeth, na chelfyddyd yn y byd ynddynt 'chwaith. Dyma i chwi damaid prawf arall ar iaith odidog y wlad fendigedig yma. Iaith yw hon yn curo holl ieithoedd Twr Babel! Iaith na's deall dyn nac anifail nac adar y coed, ond a enir ac a fegir yn y wlad. "Tis said of the Chinese that they have in their language some sounds that no European is capable of pronouncing; but I defy the Chinese themselves or any body else, but Lancasterians, to pronounce. bout, thout, (for bought, thought) cont, &c., according to the genuine Lancasterian pronunciation. The o in such words. must have its genuine sound as if it were a Welsh word. Hai hai, dyma lythyr oddiwrth y Llew Du o Geredigion newydd ddyfod i'm dwylaw, dated at Aberdovey, July 3. Wfft iddo fo? am fod 9 diwrnod yn dyfod hyd yma. Mae Huw Roberts. yn haeru y myn ef gael 12 o Gywyddau am ei boen yn llusgo'r Delyn Ledr hyd yma! Fe geiff un, ac odid na bydd hwnnw yn ddigon ganddo. Aiê, rhaid talu iddo fo am bob peth a gludo in specie? Pa beth pe ceisid ganto gywain llwyth o lancesau hyd yma? Bellach bellach, chwedl y Barcut, rhaid troi hwn heibio ac ysgrifenu at y Llew i Lundain, ac i gant o fanau eraill. I have added a good number of words to the Glossary, as you'll find. Now my youngest son talks this language as well as any body, but Robert is too much & Salopian to learn it, and very often corrects his brother for using such ugly words as he calls them. When Gronwy says tean, coult, keaw, steel, &c., Robert says, you must not say these naughty words, you should say town, colt, cow, stile, &c. Gronwy could not speak when he came over hither, but Robert could; so the Lancashire Dialect is natural to Gronwy, being the first that he learned; which makes me fear that neither of them will ever learn Welsh to any perfection. Digon yw hyn o nonsense, Duw gyda chwi; annerchwch Mr. Ellis yn garedig. Wyf eich rhwymedig wasanaethwr,

Y BARDD DU O SWYDD GAER HIRFRYN.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 34.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, Hydref 16, 1754.

YR ANWYL GYFAILL,

DYMA'R eiddoch o'r 11eg wedi dyfod i'm llaw ddoe, ac yn wir rhaid yw addef fy mod wedi bod yn lled ddiog yn ddiweddar, am na buaswn yn gyrru yna ryw awgrym, i ddangos fy mod yn fyw cyn hyn; ond bellach, dyma fi yn ei rhoi hi ar dô, ac mi orphennaf fy llythyr y foru, oddigerth i'r cywion personiaid yma fy hudo i allan i ganlyn llosgyrnau cŵn, ac i wylltio ceinachod. Maent ar dynnu fy llygaid i ddwywaith bob wythnos o'r lleiaf, a phrin y llyfasaf eu naccau. However, a little exercise does no hurt, and the young gents are very civil. Mi fum yn brysur ynghylch diwedd y Gorphenaf yn parottoi i gyfarfod yr Esgob i geisio ei dadawl ganiattad i bregethu, &c. yr hyn a gefais yn ddigon rhwydd am fy arian; ond ni's gorfu arnaf gymmeryd yr un licence am yr ysgol. Ac er pan glywais y newydd o'r Castell Coch, mi fum yn dal wrthi ddygna' y gallwn i barottoi ychydig o bregethau tra bae'r dydd yn hir, fel y gallwn gael y gauaf. i brydyddu wrth olau'r tân y nos, fel arferol. Nid gwaith i'w wneuthur wrth ganwyll ddimai yw prydyddu; ac nid mewn undydd unnos yr adeiledir y Castell Coch. Dyma'r Llew wedi gyrru i mi rai defnyddiau tu ag at yr adeilad orchestol honno, ac y mae'n dymuno ei fod yn agos attaf i gludo morter, ond am y rhelyw ei fod yn cwbl ymddiried i gelfyddyd yr adeiladwr. Ie, ië, ond bychan a ŵyr o fod yr adeiladwr yn rhydd ac yn freinniawg o'r gelfyddyd. How do you translate a free and accepted Mason? Ie, ac yn un o'r penmeistriaid hefyd. Wele, wfft i'r dyn! meddwch, paham hynny? Odid bwngc yn y byd o ddysgeidiaeth y bydd dyn gwaeth erddo, os paid ai gam-arferu. Fe haeddai'r gelfyddyd glod, pe na bai ddim rhinwedd arni, ond medru cadw cyfrinach; ac fel y dywaid y dysgedig awdwr, Mr. John Locke, am dani, "Pe hyn fai'r holl gyfrinach sydd ynddi sef, nad oes ynddi gyfrinach yn y byd, etto nid camp fach yn y byd yw cadw hynny yn gyfrinach;" ond y peth pennaf a'm hannogodd i 'spio i'r ddirgel gelfyddyd hon ydoedd fy mod yn llwyr gredu mai caingc ydoedd o gelfyddyd fy hen hynafiaid y Derwyddon gynt, ac nid drwg y dyfelais. Ond dyd! dyd! fe fu agos i mi anghofio pwy, a pha beth ydwyf, am hynny rhaid attal fy llaw? ond f'allai'ch bod chwi'ch hun yn un o'r freinniawl frawdoliaeth.

Aiê, mae Elisa Gowper wedi derio dannedd y Monwysion llesgethan? Och o druan! Drwg yw'r byd fod yr Awen cyn brined yn Môn nad ellid gwneuthur i'r carp safnrwth tafodddrwg wastrodu. Ond gwir sydd dda, ni thal i ddifetha prydyddiaeth wrtho, oddigerth y ceid rhyw lipryn cynysgaeddol o'r un dawn ag Ellis ei hun, sef yw hynny, nid dawn awenydd, ond dawn ymdafodi, ac ymserthu'n fustlaidd ddrewedig anaele. Fe debygai ddyn wrth dafod ac araith Elisa mai ar laeth gâst y magasid ef yn nghymysg ag album græcum, ac mai swydd ei dafod, cyn dysgu iddo siarad oedd llyfu t-n-a, ac onide na buasai bosibl iddo oddef blas ac archwaeth budreddi ei ymadroddion ei hun. Mi fum i un waith ynghwmni Elisa yn Llanrwst, er's ynghylch 14 blynedd i rywan, yn ymryson prydyddu extempore, ac fe ddywed fy mod yn barota bachgen a welsai erioed, ac eto er hyn cyn y diwedd, ni wasanaethai dim oni chai o a lleban arall o Sîr Fôn oedd yn ffrind iddo, fy lainio i; a hyny a wnaethent oni buasai Clochydd Caernarfon oedd gyda mi. Tybio 'rwyf mai prifio yn rhy dôst o rychor iddo a wnaethym yn ei arfau ei hun, sef dychanu a galw enwau drwg ar gân. One would expect that a person so very fond of giving affronts, should be as willing (or at least able) to bear them in his turn, but he is not. One would scorn to be the aggressor, but if I'm attacked, I may and must repel force by force; & se defendo is a good plea whate'er be the event. That was my case then, and I've many times afterwards blam'd my curiosity for taking notice of such an empty fellow. However send me his Englynion, and I promise you, upon the word of a Mason, I'll never answer 'em, unless by a fictitious name, and hardly SO. Wel! dyma hi yn 19 o'r mis a'r llythyr yn anorphen. Yr andras i'r milgwn! Ond ar fy ngair, gwych y canodd Gwalchmai i Rodri, ped fai genyf amser mi rown gais ar eglurhau rhyw faint arno; ond rhaid i mi adael hyny heibio tan y tro nesaf. Gwrda Einion ab Gwalchmai! Dyn glew iawn yn wir, a dyn o Fôn hefyd, debygaf. Na bo byth ddiffyg o'i fath yn Môn rhagllaw. Ond pwy oedd Nest ych Hywel ? Nid geneth i Hywel ab Owen Gwynedd, y prydydd, oedd moni, mae'n debyg; e fyddai hyny yn ormod anachronism debygwn i. But I doubt Dr. Davies's Chronology in his. list of Authors is but guesswork for the most part. And supposing any remains of me should have the fortune to be extant 3 or 4 Centuries hence, 'tis as likely I should be placed at 1705 as at 1755, or perhaps I should face 1795, unless a Caniad Wyl Ddewi should ascertain the time. The Dr. generally put some twenty years between father and son : and if the time when my eldest lived should be computed by that rule, he must be a poet at six years before he was born, and some future son of mine (yet unborn and unthought of) would be still a much forwarder youth, and perhaps a cotemporary with his grandfather. But where do I ramble? My sons never will be poets unless I come to live in Wales while they are young, which I see no great likelihood of. My poor Bob Owen is in Anglesey with Twm Sion Twm, of Red Wharf, and has been there since the 1st of September; but what progress he has made in the language I can't learn. If he can once learn it, I will take care he shall not forget it; I expect him home very soon, because the piece of goods that I have in exchange is a little unmanageable, and therefore must be sent home by the first opportunity. Thomas's son is too great a fighter to live in Lancashire; that mischievous word taffy makes his Welsh blood to caper. Ces rhyw ganiad yn myned ym mlaen i ryw Iarll meddwch? Oes, oes; a phan gyntaf y gorphennir chwi a'i cewch. Ni nacceais i mo honnoch o'r Odlau Anacreonaidd; na wnewch mo'r cam â mi; ofni yr wyf mai drwg fu fy nghof y pryd hynny; ond am Frut Sibli yn Saesoneg, nid wyf yn cofio i chwi erioed ei gofyn gennyf. Ydyw, y mae Offeiriad Walton yn cyweirio croen y delyn ledr bob mynyd o seibiant a gaffo, ond chwi a'i cewch adref cyn bo hir, rhag eich marw o hiraeth. Er mwyn dyn, a gaed fyth afael ar yr hen farcutiaid a soniasoch am danynt gynt.? Gwaith Edmwnt Prys, &c. Mi a welais er ystalm o flynyddoedd, pan oeddwn yn Lleyn, holl ymrysonion a gorchestion Edmwnt Prys, a William Cynwal, gan yr hen berson Price o Edeyrn, (Price Pentraeth gynt, a pherson Llanfair, yn Mhwll Gwymbill, neu, Pwll Gwyn—gyll,) yr hwn oedd orŵyr i'r Archdiacon, tho' full unworthy of such an ancestor; but those poems were monstrously mangl'd and mis—spell'd. I suppose they might have been copied by old Price of Edern (or perhaps his father, Price of Celynog,) in his younger years, before he understood Welsh, (and indeed he never understood it well,) and kept for a family piece in memory of the learned progenitor. Nid hen ddyn dwl oedd yr Archdiacon, ac ystyried yr amser yr oedd yn byw ynddo; etto yr wyf yn cyfrif Wm. Cynwal yn well bardd, o ran naturiol anian ac athrylith, ond bod Emwnt yn rhagori mewn dysg. Nid oedd Cynwal druan (ysgolhaig bol clawdd) ond megis yn ymladd a'r dyrnau moelion yn erbyn tarian a llurig—

"A'r gwanna ddyn â gwain ddur,
A dyrr nerth a dwrn Arthur."

chwedl yr hen fardd gynt. E ddigwydd weithiau i natur ei hunan (heb gynnorthwy dysg) wneuthur rhyfeddodau; etto nid yw hynny ond damwain tra anghyffredin: ac er mai prydferthwch dawn Duw yw naturiol athrylith, ac mai perffeithrwydd natur yw dysg, etto dewisach a fyddai (genyf fi) feddu rhan gymhedrol o bob un o'r ddwy, na rhagori hyd yr eithaf yn yr un o'r ddwy yn unig, heb gyfran o'r llall. Mi glywais hen chwedl a ddywedir yn gyffredin ar Ddafydd ab Gwilym—

"Gwell yw Awen i ganu,
Na phen doeth ac na phin du."

Gwir yw am brydydd; ac felly y dywedai y Lladinwyr, "Poeta nascitur non fit;" hynny yw, Prydydd a enir, ond ni's gwneir mal pe dywedid, nid ellir prydydd o'r doethaf a'r dysgediccaf tan haul, oni bydd wrth natur yn dueddol i hynny, a chwedi ei gynnysgaeddu gan Dduw âg awenydd naturiol yn ei enedigaeth. Os bydd i ddyn synwyr cyffredin, a chyda hynny astudrwydd, parhad ac ewyllysgarwch, fe ellir o hono eglwyswr, cyfreithiwr, gwladwr, neu philosophydd; ond pe rhoech yr holl gyfferiau hynny ynghyd, a chant o'r fath, ni wnaech byth hanner prydydd. Nid oes a wna brydydd ond Duw a natur; ni cheisiaf amgen tyst ar hyn na M. T. Cicero; pwy ffraethach areithydd? pwy well a gwyliadwrusach gwladwr? pwy ragorach cyfreithiwr? pwy ddyfnach a doethach philosophydd? ar air, pwy fwy ei ysfa a'i ddingc a'i awydd i brydyddu, ac etto, pwy waeth prydydd? Trwstan o fardd yn ddiammau ydoedd, ac odid ei gymhar, o ŵr o ddysg, oddigerth yr hen Ddr. Davies o Fallwyd. Etto, er argymhennu ac ymresymmu o honof fal hyn, nis mynwn i neb dybio mai afraid i brydydd fod yn ŵr o ddysg; nagê, nid felly y mae chwaith; er na ddichon dysg wneuthur prydydd, eto hi a ddichon ei wellhau. Cymmerwch ddau frawd o'r un anian, ac o'r un galluoedd o gorph a synwyr, ac o'r un awenyddol dueddiad, a rhowch i'r naill ddysg, a gommeddwch i'r llall, ac yno gwelir y rhagoriaeth. Er na ddichon y saer maen wneuthur maint y mymryn o faen mynor, etto fe ddichon ei 'sgythru a'i gaboli, ei lunio a'i ffurfio, a gwneuthur delw brydferth o honnaw, yr hyn ni ddichon byth ei wneuthur o'r grut brâs a'r gwenithfaen.

Huzza! Huzza! mae Mr. Mosson yn ddyn da; Dyma lythyr oddi wrtho yn mynegi fod Dr. Wynne o Ddolgelleu wedi marw yn gelain. Rhaid taflu hwn o'm llaw, a'i yrru i ffordd i gael amser i ysgrifenu i Allt Fadog, ac at yr Iarll, &c. Nid allaf gymmeryd mo'r amser i ddywedyd dim ychwaneg; ond bendith Dduw i chwi, am roi Mr Mosson ar waith, ac ildo yntau am ysgrifenu cyn gynted ;—it is dated, Beaumaris, 19th instant, and I received it this minute, viz. 22nd. I am, dear Sir, &c.

GORONWY OWEN.
P.S. Let me have from you some Poetry this time, but I must not miss this Post; as it is post day, I hope you'll forgive me. My compliments to Mr. Ellis.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 35.

At RICHARD MORRIS.


WALTON, November 9, 1754.

DEAR SIR,

It is an unspeakable disadvantage to me, no doubt, to live in so remote a corner; ond y peth a fo'n rhan Dyn, ni chaiff Ceffyl. Gwyn ei fyd a fae ynGhymru; ni waeth pa gwrr! Ni welaf ddim o'm gwynn ar y Saeson, mewn gwlad yn y Byd, oni ddigwydd i Ddŷn fod yn Ymerodr o gywaeth. As for the Cymmrodorion Articles, &c., if you please to send them hither, I will translate them in the best manner I can; & as badly as I want money, shall desire nothing for my trouble. The three Latin Prefaces shall likewise be done. into English, if you think proper: but I have only that before John Dafydd Rhys's Grammar in my own possession. Dr. Davies's Dictionary I have it is true, but the Preface is lost, & as to his Grammar, I have it not. I have no Frank, or else would send you Arwyrain Owain Gwynedd with Notes, &c., which I think would be a very good thing to be inserted, because it is exceeding beautifull. But no Translation can possibly come up to it. 'Rych yn gofyn pa'm yr wyf yn gadael i'r Awen rydu? Rhôf a Duw pe cawn brês gweddol am dani, mi a'i gwerthwn hi. Beth a dâl Awen, lle bo dyn mewn llymdra, a thlodi? a phwy gaiff hamdden i fyfyrio, tra bo o'r naill wasgfa i'r llall mewn blinder ysbrydol a Chorphorol? The Old & true saying "as poor as a Poet" is enough to make one forsware it with all its appurtenances. Etto os byw a fyddaf chwi gewch Awdl i'r Twysawg Wyl Ddewi yn ddiffael. Ond pa'r un a fynnwch ai Cywydd, ai Awdl ar Arwyrain Owain neu Frut y Sibli? neu ynteu Hir a Thoddaid, neu Wawdodyn neu un arall o'r hwyaf o'r pedwar Mesur ar hugain canys na thal Byrr ddim? Mi ydwyf eich ufudd ddiolchgar Wasanaethydd,

GRONWY OWEN.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 36.

At RICHARD MORRIS.


WALTON, Tachwedd 26, 1754.

GAREDIG GYFAILL,

GYRRWCH hyn o garp o Gywydd i Mr. Vaughan o Gors y Gedol i edrych a fydd gan fwyned a rhoi i Ddyn truan ychydig Ffrangeud; viz (Franks). Ni fu yma ermoed gymaint o newyn a llymdra am danynt. Ni feddaf un rhag llw drwg, ac ni feddais er ys talm o amser. Dyma'r Cywydd yn canlyn, ond ni feiddiaf roi dim annerch pendant atto ef uwch ben y Cywydd, rhag gwneuthur hwn yn ddau Lythyr &c. A fyddai anhawdd cael lle ar fwrdd Llong o Ryfel? oblegid fe fyddai ddewisaf gennyf i ymladd ar Ffrangcod a gweddio tros. y Saeson, tra baent yn eu rhegu eu hunain, na byw yn y fangre. lom felldigaid yna. Gwyn ei fyd a gâai 30 punt yn rhyw gwrr o Gymru! Duw gyda chwi. Eich rhwymedig Wasanaethwr

GRONWY DDU O FON.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 37.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, December 2, 1754.

DEAR SIR,

YOUR favour of the 21st I received by Mr. Mosson, whom I had the pleasure to see at Walton, if it could be a pleasure to see a person where you can't pretend to give him a suitable entertainment. As to your Vaughans, and they might, upon a pinch, take up with a dish of Cywyddau, or any other literary collation, and think it no disagreeable repast for the time; but I am not qualified to draw a bill of fare for an English palate. It was on last Wednesday I saw Mr. Mosson, and he told me he should not set out from Liverpool before Sunday, and now, Sunday being past, I don't know whether I can send this by him or no. If not, it must come by Post, for I have not a frank to swear by.

Wele, wele, mi welaf nad oes dim siawns am ddyfod i Gymru; nid oes mo'r help; there is no crying after shed milk; I never was so sanguine as to promise myself any success, and therefore can have no disappointment. Yr ydwyf yn gwbl foddlon i'm tynghedfen, doed a ddêl, a gwell o lawer i mi na feddyliwyf byth am Gymru; ond rhoi fy llwyr egni i ollwng y Gymraeg dros gof, fel y mae y rhan fwyaf o'm cydwladwyr hyd Loegr yn ceisio gwneuthur, hyd onid yw 'swil ganddynt glywed son am Gymru, a Chymry, a Chymraeg. Etto, fal y dywed y philosophydd paganaidd, (pan oedd yn methu dygymmod â Christnogaeth, o herwydd ei symlrwydd a'i hawsdra, ac annysgeidiaeth yr athrawon,) Sit anima mea cum philosophis, h.y. Bid fy enaid i gyda'r philosophyddion, felly, "Bid fy ngorff innau gyda'r Cymry,' ie, a'm rhandir, a'm coelbren, a'm hetifeddiaeth yn y byd yma, os gwel Duw'n dda. Pe medrwn unwaith gael y goreu arnaf fy hun, a threchu'r naturiol hoffder sydd gennyf i'm iaith a'm gwlad, dyn a fyddwn. Ond beth dâl siarad? A fo da gan Dduw ys dir? Ai ê, crefft go ddiystyr yw'r eiddo'r seiri cerrig yn eich tyb chwi ? Gadewch iddi. I do verily believe that (as it is now practis'd) it has lost a great deal of its primitive beauty, but still I don't think it quite so insignificnt as your friend represented it. Whoever your friend was, I wish he had been more his own friend, if he was a real Mason of any degree above an apprentice. Gwae a lygro ei gydwybod heb ennill dim. But as to associating with those you don't like, that neither is, nor can be any objection of the craft; for surely, to shake hands and give a Howd'y, are but acts of common civility, and may be done to any acquaintance, Mason or no Mason, and to any more the craft does not bind you. But you'll say, you sit in the same room on lodge nights; true, and so do you and many a wicked vile fellow every Sunday; and yet, whatever these do out of doors, you are not afraid to be tainted by their presence at that place, and the reason is, because they are not there at liberty to play any of their dog-tricks. We are here (as to nation) Welsh, English, Irish, Scots, and Manks; and (as to religion) Protestants and Papists, and (as to politics) high and low fliers, but all Georgites (within doors at least,) and yet, so far are we from national reflections, that the only appellation is brother, and, as I have the honour to be Chaplain, I can assure you our form of prayer (which is in English, as being the common language) is such as no Christian would refuse to join in, of what persuasion soever he should be. And as to politics, our whole contention consists in this, viz., who shall be the best man, the best subject, and the best Mason. In short, if there is ever a brother that is not as good as we could wish him, I am sure, he could not have been better, but worse without Masonry. But don't think I intend this as an apology for the craft. No, no, as it is a mystery it can't be apologised for to those that are strangers to it, and to those who know it, it needs no apology. A dyna ben am hyny o ymgommio.

Ffei o honaw! Ni thal Elisa Gowper i ganu iddo, ac onid ê, pa ddelw bynnag, moeswch yma'r Englynion. Ie, sach gwlan ydyw Elis yn ddiamau; nid oes dim a eill gyrraedd ei groen ef oddigerth haiarn poeth.

Ni waeth amcan merch i bwy Hywel oedd Nest, 'rwy'n tybied nad oedd gan Hywel ab Owen Fardd ddim plant ond bastardiaid fel fo ei hun, oblegyd nad oedd ond iefanc pan ga'dd ei ladd gan ei frawd Dafydd. Ond rhyfedd i Hywel, ac yntau yn fab i Wyddeles, fod cystal bardd. Ni chlybum ermoed sôn am ddim o waith Dafydd ab Owain Gwynedd, er ei fod yn Gymro cynhwynol o dad a mam. Diddan o gorphyn ydoedd Hywel druan, yr achlod i Ddafydd ei ladd! Yr wyf fi yn lled ammau y byddai Hywel ambell waith mewn Awdyl yn taro i mewn air neu ddau o iaith ei fam, ac mai dyma'r achos fod ei iaith o'n dywyllach na iaith y beirdd eraill, er ei fod yn dra ail yn byw yn nghanol Môn. But to this you put a quære, beth arall ond Gwyddeleg yw asswsiwn, &c. But perhaps the transcribers wrong him; but then how come they to do justice to Taliesin, Llywarch Hen, and others, long before his time? However if our language was not copious enough of itself, Hywel had the best right of any to enrich it, being a very good poet, and well versed in the British language, and another considerable branch of the same stock, viz. the Irish. And borrowing from the Irish is in a manner no more than Holi Tir o ddadanudd. It is, in reality, but reviving and recalling a British word, that had grown obsolete, into use again. And that surely is much more natural than borrowing from any exotic language that is not of the same original, as we now too frequently do of the English, French, &c.

Na ddo, ni ddaeth Bob Owen i'r cyrrau yma etto, am a wn i; Duw o'r nef a'i dycco yn ddihangol, mae fy nghalon yn gofidio drosto bob munud, gan arwed yr hin, i'r mordwywr bychan. Fe fu gefnder i mi yma'n ddiweddar o Barth a Mynydd Bodafon, ac yn ol yr hanes a ge's gan hwnnw, nid yw Bob gyffelyb i wneuthur Cymraeg Môn fawr brinach er a ddycco yma o honi. He tells me they are very fond of learning English of him, &c; so never trouble their heads about teaching him Welsh. He said he would take him home with him for a week or a fortnight to my aunt's Agnes Gronw; if so, I'm sure he will be very much made of, and shall have plenty of Welsh, while he has time to stay. God. send him a fair wind, and good passage. I don't care how soon I see my little baby. Er mwyn dyn, gadewch gael ystori y Maen gyd a'r efengyl yn gyfan o'i phen. Mae'n debyg mai ci brathog oedd y ci, a'r Monach yn rhoi prawf ar wyrthiau'r efengyl i'w wastrodedd o. Ond pwy oedd y dyn a feddyliodd am wyrthiau'r maen?

Garddwriaeth meddwch yw'r genuine exercise; f'allai mai ê. Gwyn eich byd chwi sy'n perchen gardd; nid oes genyf fi ddim o'r gwaith hwnw i'w wneuthur yma ysywaeth! Ond ni chlywais i son fod Selyf yn ymhel à rhaw bål erioed, ac os gorfu Adda ryforio, nid oes genyf nemawr o gŵyn iddo,-ei fai ei hun oedd.

Ai ê? prinion iawn ydyw'r ffrancod yna? Garw o'r newyn am danynt sydd yma hefyd. Mi yrrais ryw fath ar negeseuwr llesg i Lundain i ymofyn am rai yn ddiweddar; mi a'i gyrrais â chwedl parod ganddo, ac a erchais iddo ddywedyd ei neges. fel hyn.[19] Och fi! Pa fodd yr aeth Llanrhaiadr nesaf i Ddinbych heibio heb wybod i neb? Y rhent oreu yn Esgobawt Bangor. Dyma'r Aldramon yn d'wedyd ei bod yn ddigon o hyd yn wâg, a bod Mr. J. Ellis o Fangor wedi ei gwrthod hi. Mae hi yn 150 per annum medd o. Gwych a fasai gael gafael arni hi." Pa sut y disgwyliwch gael Odlau (meddwch) tra bo'ch i'm naca o Gywydd?" Wele, dyma Gywydd i chwi o ryw fath, ac os ysgrifenwch yma'n brysur, chwi a gewch Awdyl. Pa beth a fynnech gael? A'i tybaid y gyrr y gŵr o'r Gors rai ffrancod i mi? Dyma fi yn myn'd i ddechreu Cywydd y Castell Coch; e fydd hwnw'n barod cyn y Nadolig, os byddaf byw ac iach.

Iê, dywedyd y mae Gwalchmai, na welir neb yn debyg i Fadawg ab Meredydd yn y byd hwn, hyd oni ddel Cynan a Chadwaladr yn fyw drachefn, h.y. hyd ddydd brawd, and that (with regard to the qualities he commends him for) is, to all intents and purposes never. Pray give your opinion of what I say of Hywel ab Owen and his language.—Dyma fi yn ymroi i yrru hwn gyda'r post; rhowch chwithau'r gost ar gefn Glyw Prydain, os oes modd, y mae'n ddigon abl i dalu. Ai ê, prydyddiaeth esmwyth a chwennychai Mr. Ellis? As much as to say my numbers don't glide smoothly enough. Os ynteu y peth a all plentyn ei amgyffred sydd esmwyth, gwell i mi wneuthur ambell Ddyri, ond gan gofio, onid yw Llyfr y Vicar a'r Cerddlyfr yn ddigon helaeth yn eich plith? Etto ni ddeall plentyn deuddeg oed un penill o ddim hyd yn un o'r ddau. This is talking to no purpose, I never wrote any thing (designedly) for children, no, nor fools, nor old women, and while my brains are sound, never shall. Gwaed llosgwrn y gath! Ai nid oes gan fardd ddim i'w wneuthur ond clytio mân Ddyrïau duwiol i hoglanciau a llancesi i'w dysgu, i ysgafnhau baich yr Offeiriaid? A phe bai un gan ffoled a gwneuthur hynny, odid y ceid gan y llanciau tywod, a'r merched nyddu fod mor fwyn a chymmeryd y rheiny yn gyfnewid, yn lle eu hen ddyrïau anwylion a ddysgasent er's llawer blwyddyn, "A'i hela hi a'i thynu, a'i dyblu hi a'i dodi," &c., a "Hai lw lian faban fab, yr ydwy'n feichiog fawr ar fab," &c. Whatever I wrote was designed for men, and for men of sense and ingenuity, such as love their country and language, and can relish pithy and nervous Welsh. As for those squeamish stomachs that can digest nothing without English sauce, I would direct them to Wil Goch y Sign, or Evan Ellis, where, for the value of a single penny, they may be supplied with the gibberish á la mode of the best and most eminent rhyme jaggers of the age. As to my preferring hard words to market Welsh, you must know, Sir, that there is a design in it, and a deep one too. And if you'll but speak me

You know, Sir, if there was fair, I will let you into the plot. a man that had a poetical genius, and would ever so fain learn good Welsh, and use significant words, it is but a very dry study to turn over the leaves of a Dictionary to hunt for 'em, and I question whether Elisa Gowper could afford time to do it, or if he could, whether he or one out of a hundred besides, has ever a Dictionary. But give him Cywydd y Farn, or any other of mine, and he'll be tempted to read it, if it were but in order to criticize, and in reading, his sense (if he has any) will tell him the meaning of the difficult words, or (if he has none) the notes will, and so those words will be riveted in his memory. And then, when he understands them, he'll take a pride in using 'em in a Dyri, from thence he'll chop 'em out (every now and then) in common speech, and then write them, and so they'll insensibly, creep into the knowledge of others, and so stand a fair chance of becoming common in a century or two, or perhaps sooner, and then we shall shortly have good Welsh, if not good poetry. This is far from being unlikely, for as mine is the work of a modern, none will think it impossible to imitate it. I am Sir, &c., Farewell,

GORONWY OWEN.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 38.

At WILLIAM MORRIS.


WALTON, Super Montem, Jan. 1st, 1755

DEAR SIR,

Mi dderbyniais yr eiddoch o'r 4ydd, ond, Duw a'm cysuro, digon prin y medrwn ei ddarllen gan glafed oeddwn. I Dduw y bo'r diolch, dyma fi ar fy nhraed unwaith etto, ond yn ddigon egwan a llesg, e wyr Duw. Yr oeddwn ar y 10fed wedi myned i Crosby i edrych am f'anwyl gyfaill a'm cydwladwr, a'm cyfenw Mr. Edward Owen, offeiriad y lle, ac yno yr arhosais y noson honno, yn fawr fy nghroesaw yn nhŷ Mr. Malsall, patron fy nghyfaill, ac aethym i'm gwely yn iach lawen gyda Mr. Owen, ond cyn y bore, yr oeddwn yn drymglaf o ffefer, ond tybio'r oeddwn mai'r acsus ydoedd; ac felly, ymaith a mi adref drannoeth, a digon o waith a gefais i drigo ar gefn fy ngheffyl. A dydd Sul fe ddaeth Mr. Owens yma, o hono ei hun, i bregethu drosof, ac a yrrodd yn union i gyrchu'r Dr. Robinson, a Mr. Gerard yr Apothecary ataf, a thrwy help Duw fe ffynnodd ganddynt fedru gwastrodedd ac ymlid y cryd a'r pigyn, ond y mae'r peswch yn glynu yma eto. Mi wylais lawer hidl ddeigryn hallt wrth feddwl am fy Robin fychan sydd yn Môn. Ond beth a dal wylo! gwell cadw fy nagrau i beth angenrheidiach. A body and mind harass'd and worn out with cares and afflictions can't hold out. any long while. Gwnaed Duw a fynno. Ni bum yn glaf Galan ermoed o'r blaen, am hyny, mi wnaethym ryw fath ar Gywydd i hwn, sef y Calan o'r O.S., Ionawr 12fed.[20]

Tân am twymno, onid digrif o gorphyn yw Elisa Gowper. Mae'n sicr genyf ped fuasai'r hychgrug arnaf, yn lle'r cryd poeth, na buasai raid i mi wrth amgen meddyginiaeth nag Englynion Elis. Dyn glew iawn yw Dafydd Sion Dafydd o Drefriw, ond ei fod yn brin o wybodaeth; mi welaf nas gŵyr amcan daiar pa beth yw Toddaid, oblegid ei fod yn galw y Gadwyn hannerog yn ei Englynion yn Doddaid. 'Rwy'n dyall wrth Elisa ei fod wedi canu o'r blaen, ac wedi cael rhyw atteb gan y Côch, neu ryw un arall drosto. Mawr nad ellid cael golwg ar y cyfan. Dyma'r Englynion diniweidiaf a wnaeth Elisa erioed o'r blaen: rhyfedd fedru o hono gymmeryd y fath ortho. 'Roeddwn yn disgwyl gweled rhyw eiriau ceg—ddu, megis "Hen hwr gwthwr gast," fel y byddai'n arfer gyrru at fab clochydd o Landyfrydog. Brwnt a fyddai canu yn hyll i Elis, ag yntau ei hun mor dda ei foes a'i araith. Mae fel y dyfeisiech ryw ffordd ddirgel i yrru hyn o Englynion i Elisa: 'rwy'n tybio mai y ffordd oreu fyddai eu rhoi i ryw faledwr i'w hargraffu, ac yno fe'u cyhoeddid yn y man, heb wybod of ba le y daethant, a gwych a fyddai gan Wil Goch y Sign, neu Evan Elis eu caffael. Bid y Rhagymadrodd fal hyn:—Atteb, annerch, a chyngor y Bardd Coch o Fôn i Elisa Gowper, pastynfardd, Llanrwst, yn cynnwys athrawiaeth arbennig i ganu'n ddincerddiawl gymmeradwy, yn ol rheol ac arfer y Gofeirdd godidoccaf o'r oes; yn nghyd a thaflen o enwau yr holl drecc, cêr, offer, a pheiriannau angenrheidiol i'r gelfyddyd, na cheir mo'r fath mewn un Grammadeg a argraphwyd erioed; a'r cwbl wedi ei ddychymmygu a'i gyfansoddi mewn modd eglur, hawdd ei amgyffred gan y gwanaf ei ddysg a'i ddeall.[21]

Wela, dyna'r Englynion, byddwch chwithau sicr o'u gyrru iddo, ond ymgroeswch yn gadarn rhag son am fy enw i, oblegid. fe fydd Elis allan o faes merion ei gof, ac mi a'i gwrantaf fe gân yn fustlaidd i rywun, ac yno fe fydd agos i ddigon o ddrwg, ond goreu pe mwyaf o'r fath ddrwg a hwnnw. Os cân Elis i'r Coch, mi safaf wrth gefn fy nghydwladwr (o dan din fal y dywedant) hyd nas blino Elis a Dafydd o Drefriw, a phawb. But I would not be known or seen as an ally, much less a principal yn y fath ffrwgwd. Chwi a gewch yr Awdyl a addewais yn y nesaf.

Mae f'ewythr Robert Owen o Benrhos Llugwy yn dyfod drosodd yn o fuan i fyned i Manchester, ac fe ddaw a'm Robin Owen inau gyd ag ef, a phan elo'n ôl adref mi yrraf y Delyn Ledr gyd ag ef. That will be a safe way. Mi ge's lythyr oddiwrth y Llew yr un diwrnod a'ch un chwithau; yr oedd pawb yn iach yno, ac yntau ar gychwyn i Lundain. Yr oedd yn peri i mi gymmeryd calon (not to be disheartened), ond hawdd yw dywedyd, Dacw'r Wyddfa; etto 'rwyf yn tybio fod fy nghalon i yn ddur neu o ryw ddefnydd rhy wydn a pharhaus i dori. Yr wyf ar bendroni yn disgwyl am lythyr oddiwrth y Mynglwyd, ac yn enwedig oddiwrth y pendefig o'r Gors i atteb Cywydd y Ffrancod. Surely my letter miscarried for want of knowing the Cross Post. I directed to William Vaughan, Esq., Member, &c., at Gors, in Merionethshire, N. Wales. Ai tybed nad oedd hyny yn ddigon? Ond nis gwn i ar fy nghrogi pa le mae'r Post yn croesi i'r fangre anghysbell honno. Mae fel y byddwch gan fwynod ag ymwrando am offeiriadaeth i mi erbyn Calanmai, oblegid mi roddais warning i'm hen feistr er ys mis neu well, drwy ryw yngom a fuasai rhyngof a'r Mynglwyd yn nghylch bod yn offeiriad Cymreig yn Llundain; a chan nad wyf yn clywed gair oddiwrtho, I mistrust the scheme has miscarried, and almost repent of my lash warning here. My circumstances will not allow me to be idle for one week. Dyma ffrencyn a ge's gan y Du o Allt Falog yn nghylch hwn; nis gwa beth a geir i wisgo am y nesaf oni chlywir o'r Gors. Fy annerch caredig at Mr. Ellis a phawb a garoch. Nid oes genyf ddim ychwaneg i w ddywedyd, ond fy mod ar farw ac ar fygu gan y peswch. Duw a'ch cadwo'n iach. Wyf yr eiddoch yn ddiffuant.

GRONWY DDU.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 39.

At RICHARD MORRIS.


WALTON, March 18, 1755.

DEAR SIR,

I RECEIVED your kind Letter of the 6th inst., as also Mr. Lewis Morris of the 27th ult., both of which were very agreeable, & gave me a great dale of pleasure, you may think, at a time when my weak condition rendered me incapable of any other amusement. The conversation of a Friend (tho' only upon paper) is the best cordial for low spirits. I thank God I am now much better tho' still but weak, which, I bless God, I can bear with patience & contentment; for the worse of it (as I am free from pain) is, that it will not suffer me to apply closely to any business, but requires frequent intervals of rest. As the Duty is very great in this Parish, I am forced to stir out as soon as I am able to crawl, tho' at the hazard of my life; & that was actually the cause of my relapse. Please to make my Compliments to Mr. Llewelyn ddû & tell him, when he talks of low Spirits, he seems to take the effect for the cause; as if lowness of spirits was the cause of my illness, & not vice versa, which I can assure him is wrong in the main; for while God grant me health, it is not a little thing that can cast down my Spirits; & without Health the highest Spirits must droop & sink. I am however infinitely obliged to you both for your kind concern for me, & it gives me a very great concern to hear of the prejudicial effects of the Town the fog & Smoke have upon Mr. L. Morris's health. However I sincerely wish & hope he may be able to bear up under those inconveniences, 'till his business there is over. I have been, sometime after my illness, troubled with a shortness of Breath, & am still with a sort of involuntary sighing, which comes upon me unawares, very frequently & suddenly. I would have answered your last Letter sooner, but that I had a good part of the Cymmrodorion paper to translate, & all to write fair over, which is now done in the best manner I could do. I hope it will please the Cymmrodorion in general, & Mr. L. Morris, & yourself in particular. I gave it a free translation on purpose to avoid that crampt stiffness that is unavoidable in a verbatim translation. I need not observe to you the inconveniency of. verbatim translations; I make no doubt but you, as well as myself, have observed the shamefull barbarisms, and harsh metaphors, &c, that are but too visible in some illtranslated Acts of Parliament, &c, and can be attributed to no other cause. You know there are many Metaphors, Phrases, &c, that are familiar enough, and not without their beauty in English, which in Welsh, would make a monstrous & shocking figure, and so on the contrary. For instance, a Field of Knowledge, does well enough in the English; but he must have more than common knack at guessing, that could find out the sense or meaning of Maes (or Cae) o Wybodaeth; & I don't think that Ager, &c. Scientia would sound much better. Cynt y gwyddid pa beth yw Gardd o Foron yn y Lladin cystal ar Gymraeg. I hope however that this present Translation is intelligible to all that understand the Language, & that there is nothing in it, that is not agreeable to the property of the British Idiom. I am not so vain as to think it has any merit; but I dare affirm that if I had recourse to my Dictionary for every word, it would have been worse; as a proof of this I would recommend the experiment, to be made on one Paragraph only. There may be other Orthographical faults in it notwithstanding all my care which I beg you would be so good as to correct in the perusal. My invariable rule in that respect was, never to double a Consonant, when I thought a single one would do as well, as in genym, cymeryd, &c: for I think we have already too many double ones, which we must use unavoidably, as long as we make use of the present Characters & Orthography.—Bellach am yr Enwau dyrys chwedl y Bobl. Mae Hynafiaeth yn ddiddadl cystal gair am Antiquity, nad rhaid mo'i well; ac am hynny, minnau a gymerais gennad i alw Antiquary yn Hynafiaethydd, a gobeithio na bu'm yn rhy hy. Mi allaswn ei alw'n Anticwariad, ond, pe gwnaethwn, pa sut a fuasai i mi wynebu i atteb am yr hyn a ddywedpwyd yna, sef "Bod yr Iaith, heb gymmorth dim geiriau dieithr, yn adrodd yn gyflawn holl ddychymmygiadau 'r meddwl?" Dyna'r ffordd i Sais ein dal mewn celwydd yn yr hyn na atto Duw. Am y Gair Barbariad a'r cyffelyb, mae ini gystal hawl arnynt a'r gorau: nid yw Barbariad ddim gair yn y byd o'r dechreuad, ond rhai o Gym'dogion y Groegiad (y Phrygiaid neu'r Troiaid mae'n debyg) oedd a chanddynt ryw air go anhepgor, megis Bar, Bar; a'r Groegiaid, yn ddig fod neb yn siarad heb iddynt hwy eu dyall, a'u galwasant Barbariaid bôd y pen, o wir ddial ac atgasrwydd, fal y geilw'r Gwyndyd Wyr y Deheudir Hwynthwy fach yn awr. Ac fal y geilw'r Cymry i gyd bob peth na ddyallont Sisial, a Sibrwd, a Sio, a Sisyful, &c., heb achos yn y byd, ar a wn i, ond bod y Llythyren S yn rhy fynych yn Iaith y Saeson, ac yr wyf yn cofio Dyn yn yn y Mwythig a arferai ddywedyd rhywbeth yn Saesonaeg, (yr hon oedd yr unig Iaith a ddyallai,) ond gan roi ch yn nhîn pob gair, fe fynnai ei fod yn ddifai Cymraeg, a hynny am fod y Llythyren ch yn tra mynychu yn yr Iaith Gymraeg.—Am y Galli, chwi ellwch eu galw yn Galliaid neu Geltau, neu fal y mynnoch. Dyma ystori Iwl Caisar ynghylch yr enw; sef mai Celta y gelwid hwy yn eu hiaith eu hunain, ond yn y Lladin, Galli. Yn wir wedi i Iwl eu curo hwynt, fe allai gymeryd rhyddid a rhwysg i'w llysenwi fal y mynnai; ond hysbys agos yw gennyf mai camgymeryd yr oedd Iwl yn yr Enw arall, ac na alwodd y Bobl erioed monynt eu hunain—Celta. Yr wyf yn ffyddlon a sicer gredu mai Gallau neu Galluau, y galwai'r Bobl eu hunain, (& by the by, they had had a better title to that appelation than their present High Mightinesses) ond na fedrai Iwl na'i bobl ystumio mo'u tafodau i ddywedyd y Llythyren mwy nâ charn Sais.—You know that even our latter Ancestors pronounced the Letters D & G much harder than we do, almost as hard as our T & C. Then consider how they would pronounce Gallau, & ask an Englishman to to say Callau, and I marvel if he does not say Calthai or Caltay; as they nickname Llangollen and Llanfyllin, Clangothlin and Lan or Clan Vothlin, or Votling. Add to this, that it is more than probable that the Vulgar of the latter Romans did (as it is certain the old Romans did, witness Aurai, Pictai, &c &c.) pronounce their Diphthong æ or œ, as we do au, or the Greeks their αι; for it is certain they never joined the two vowels æ thus, but as we do in the same words in traed, gwaed, &c. If so what difference is between their Celta & the Κελται of the Greeks? Which (bating the mis— pronunciation of ll as I said above) comes near enough to our Gallau to fix and determine the Original of the Word— Myfi ydwyf, Yr eiddoch,

GRONWY DDU GYNT o Fôn.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 40.

At WILLIAM MORRIS.


LLUNDAIN, Mehefin 7, 1755.

Y CAREDICAF GYFAILL,

Y MAE'N gryn gywilydd gennyf na 'scrifenaswn atoch yn gynt; Wala hai (meddwch chwithau,) dyna esgus pob dyn diog. Ond yn mhell y b'wyf os oes gennyf rith dim i'w 'scrifenu weithion, ac oni bai ofn bod yn ddau eiriog, mi ddywedwn ei bod hi yn rhy fuan i 'scrifenu etto. Mi fum yn hir yn lluddedig ar ol fy maith ymdaith o'r Gogledd, ac nid oes etto ddim gwastadfod na threfn arnaf, ond yr wyf yn gobeithio na byddaf chwaith hir heb sefydlu mewn rhyw le, oblegid fod y Cymmrodorion i gyd yn gyffredinol, y ddau frawd yn enwedig, yn ymwrando ac yn ymofyn am le i mi. Wele, dyma fi wedi myned yn un o'r Cymmrodorion yn y cyfarfod diweddaf, ond ni welaf etto fawr obaith cael Eglwys Gymreig. Pobl wychion odidog, mi ro'f i chwi fy ngair, yw'r Cymmrodorion, dynion wyneb lawen, glan eu calonau oll. Mae'n debyg y gyr y Penllywydd Mynglwyd i chwi lyfr y Gesodedigaethau, &c., oni yrrodd eisus. Gwych o hardded yw arfau Llywelyn ab Gruffydd, llun Dewi Sant, a Derwydd, &c, sydd o flaen y llyfr, wedi ei dorri ar gopr yn gelfyddgar ddigon. Ni welwyd yn Nghymru erioed debyg i'r llyfr hwn. Y mae pawb yma yn rhwydd iachus, fel yr y'ch yn clywed mae'n debyg yn o fynych. Mae fy holl dylwyth i yma bod y pen, ond fy merch fach a fynnai aros yn monwent Walton, o fewn deurwd neu dri at y fan y ganwyd hi; mi wneuthum rhyw ddarn o Farwnad iddi hi, yr hon mae'n debyg, a welsoch cyn hyn. Rhowch fy ngwasanaeth at Mr. Ellis yn garedig, a gadewch gael rhyw swm o newyddion o Fôn gynta' galloch. Chwi a welwch na fedraf ond rhy brin ymodi fy mhin na'm bysedd i ysgrifenu, ac yn wir, nid oes arnaf na llun na threfn iawn o eisiau sefydlu mewn rhyw wastadfod fy hun. Gyrrwch gyhyd a'ch bys o lythyr yma gyntaf ag y galloch, er cariad ar Dduw, ac yno odid na fyddaf mewn gwell cyflwr i'ch atteb y tro nesaf. Dyma Mr. John Owen yn rho'i llythyr at ei fab yn yr un ffrencyn. Ein gwasanaeth at bawb a'n caro yn ein cefnau, a byddwch wych.

GRONWY DDU.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 41.

At WILLIAM MORRIS.


LLUNDAIN, Gorphenaf 8, 1755.

Y CREGYNYDD ADDFWYN

GWAE finnau fyth! mae'n chwedl chwith glywed yr hanes yna! Aiê, nid oes blas yn y byd mwyach ar na Chywydd nac Englyn, gan ddaed blas cregyn gwynion a gleision, a llygaid meheryn y Traeth Coch a Phenllech Elidr yn Mon? E ddywaid rhyw hen gorph er ys talm (Rhys ap Meredydd y pysgodwr o Faelor, hyd yr wyf yn cofio) mae

"Gwell bod yn wraig pysgodwr
Nag i rai nad âi i'r dwr."

Eithr anhawdd gennyf goelio ddywedyd o neb erioed (ond y merched) fod yn well i GYFAILL Pysgodur na CHYFAILL Prydydd. Ac yn ol y byd sydd o honi y dyddiau hyn, fe allai fod prydydd cystal wrth fenyw a physgodwr. Ond beth yw pysgodwr i gregynwr, meddwch? Câr agos, fe weddai, wrth eich gwaith chwi yn dewis swrwd o weddillion ei bysg meirwon ef o flaen Cywydd ac Englyn. Wele, wele, fe allai. y parha y gregynfa yna, er hynny i gyd, yn llawer hwy na gwaith un prydydd o'r to sydd, ac nid wyf, o ddifrif yn ammau llai. Pa ddelw bynag y digwyddo hyny, odid na welsoch fod modd i brydyddu rhyw faint yn Llundain, a chwi a gewch, os byw fyddwch, ychwaneg o ddangosiad o hynny etto. Ni phoenaf yn gyrru i chwi ddim rhimynau oddiyma, gan fy mod yn tybio fod Mr. John Owen yn hepgor i mi hynny o boen. Dyma hwn yn dyfod yn ffrangc y Llew, gyrrwch chwithau'r eiddoch yr un ffordd. Nid rhaid i mi yrru dim newydd; canys chwi gewch y cwbl, ond cymmaint yr wyf yn eiddoch,

GRONWY DDU.

O.S.—Fy ngwasanaeth yn garedig at Mr. Ellis; a brysiwch yrru i mi ryw newydd o farw gwrach neu berson, os ceir grod oddi wrtho.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 42.

At RICHARD MORRIS.


NHOLT, Hydref 7, 1755.

EIN TAD YR HWN WYT YN Y NAFI!

ARHOWCH beth! nid oeddwn i'n meddwl am na Phader, na Chredo, ond meddwl yr oeddwn eich clywed yn son y byddai dda gennych gael offrwm o Gywion Colomennod; a chan na feddwn nag Oen na Mynn Gafr, mi a'i gyrrais i chwi 'n anrheg o'r gorau oedd ar fy llaw, a phoed teilwng genych eu derbyn. Eu nifer yw chwech, ac yr wyf yn lled ofni y cyst i chwi dalu i Borter am eu cludo ar ei ysbawd o Holborn hyd attoch; ond am y cerbydwr (Smith o Uxbridge) mi a dalaf iddo hyd at y Gloch yn Holborn. Os digwydd iwch weled y Llew chwi ellwch ddywedyd wrtho yn hydr ddigon, nad â na Phregeth na Phregowthen ymlaen yma nes darfod Cywydd Llwdlo; fod y Lladin agos yn barod ar y mesur a elwir y Sapphick, a'm bod yn dra anewyllysgar i'r Gymraeg fod yn Gywydd Deuair hirion, canys mai hwnnw yw'r mesur atcasaf oll; rhigwm diflas ydyw, fel y gwyddoch chwi a phawb agos. Beth meddwch am Gywydd Llosgwrn, yr hwn sydd yn union yr un ddull a Sapphick? Etto bid Ewyllys y Llew ar y Ddaear, megis y mae (weithiau) tan y Ddaear. Ond chwedl yn eich Clust. Dyma guro wrth fy nrws i am hanner blwyddyn o Dreth y Goleuad, a chwarter o Poor's & Church Rate. 'Rwy'n dyall rhaid talu neu wrido tua Duw llun nesaf; pa beth a wneir? ni ddaeth mo'r Dydd tâl etto hyd yma: a ellech ystyn o 20 i 30 Swllt mewn tippyn o barsel hyd yn Southall gyd â Smith o Urbridge, ac onid è, Duw a ŵyr, rhaid gofyn cêd gan Ddeithraid Mae genyf ychydig tan ewin, gwir yw; ond pa fodd y prynnir Potatws heb ddimeiau? Pan ddelo Mr. Tal yma, mi a'i hebryngaf hyd attoch gyd âg annerch. Gofynwch i Sion Owain pa bryd y daw i'm hymweled. Mi gefais hanes. fy Llyfrau, a gobeithio eu bod bellach hanner y ffordd i Lundain.—Fy ngwasanaeth at bawb a'm carant (a chwi ym mlaenaf oddiwrth eich Bachgen a'ch Bardd,

GRONWY DDU.

Ond gwrandewch etto; ple mae'r Delyn o Bentre Eirianell? Dyma Robert, er pan glybu sôn am dani, wedi troi'r llall heibio, ac yn dywedyd fod yn o fustlaidd gantho ganu Telyn Bapir. 'Roedd yn dra hoff gantho hon o'r blaen, ond weithon, mae'n o how gantho'i gweled, ac ni chair mono atti o hyd pigfforch a rhaff rawn mwy na D. ap Gwilym gynt at y Delyn Ledr. Da iawn gan y Llangc Delyn, ond nid Telyn Bapir. Telyn like that he saw in Wales (i.e. at Pentre Eirianallt) a fynn y Dŷn. Ac os fi fydd byw, fe gaiff ddysgu ei chanu hefyd, oblegid "Telyn i bob Dŷn doniawl, " &c. Nos da'wch. Wele hai! (meddwch) ai o'i hŵyl yr aeth y Dŷn? I ba beth y mae'n rhoi negeseuon arnaf! Byddwch amyneddgar, da chwi, ni chlywsoch hanner negesau etto. Os chwi fydd ystig, ni bydd arnoch byth brinder swyddau, tra bwyf yn agos attoch.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 43.

At WILLIAM MORRIS.


NORTHOLT, Rhagfyr y 29, 1755.

YR ANWYL GYDWLADWR, A'M HEN GYFAILL GYNT,

YN wir y mae arnaf gryn gywilydd gyfaddef eich bod erioed wedi bod yn nifer y cyfeillion, gan ddihired a fu'm wrthych; mi a ewyllysiwn dynnu llen-gudd dros yr amser a aeth heibio, a thaeru mai dyma y llythyr cyntaf erioed a ysgrifennais attoch. Ond y gwir a fynn ei le; a minnau pia'r gwarth a'r gwaradwydd am fod mor esgeulus; a phe gwyddwn fod rhithyn o obaith am faddeuant, mi wnawn aneirif addunedau i fod yn fwy gofalus a diwyd i ysgrifennu o hyn rhagllaw. Beth meddwch? (canys ni fynaf yn hyn o beth un Pab ond chwychwi,) a ellid cael cymmod trwy ddwyn penyd? neu ynte a gyst myn'd hyn a hyn o flynyddoedd i'r purdan? Os penyd. a wna'r gwaith, wele ddigon eisoes, fod cyhyd heb glywed. oddiwrthych, a thra diddaned im' gynt eich epistolau. Tra bum yn Llundain, un achos arbennig na ysgrifennwn attoch ydoedd, fy mod yn gwybod yn hysbys, os byddai gennyf gymmaint ag Englyn newydd, y byddai yna, trwy ddwylaw fy nghyfaill John Owen, cyn y medrwn i a'm bath roi pin ar bapur; wele, dyna un darn o'm hesgus; ond pa beth a dâl ymgesgusodi? ond haws maddeuant er cyffes. Yr oedd hefyd, heblaw hyn oll, arnaf ofn o'r mwyaf oblegyd y Delyn Ledr; canys mewn brys a ffwdan o'r mwyaf y cychwynais o'r fangre gythreulig yn y Gogledd accw, a chan nad allwn gludo dim ar fy nghefn, nid oedd gennyf ond rhoi'r Delyn gyd â'r llyfrau eraill, a'u gorchymyn oll i law gwr a dybiwn yn bur ac yn onest i'w gyrru ar fy ol; gwir yw ni ysgrifennais ddim an danynt, hyd nad oeddwn ar ymadael o Lundain, ac yno mi gefais atteb, eu bod yn barod i ddyfod mewn wythnos neu bythefnos o amser; ond mae'r pymthegnos hynny wedi myned heibio er ys mis neu well; pa beth a wnaf ynte? nid oes gennyf ddim i'w wneuthur ond ysgrifennu etto yn ffyrnig atto ef i erchi arno yrru'r llyfrau. Os cyll y Delyn, bid sicr i mi golli ei gwerth ddengwaith o lyfrau o amryw ieithoedd, ond yn enwedig yn y Gymraeg. Fe fydd hynny yn bechod—ond gwaeth gennyf fi y Delyn na dim, am nad oedd ond benthyg; ac am fy mod yn hysbys ei bod yn cynnwys eich llafur, a'ch difyrwch, dros amryw flynyddoedd; ond byddwch esmwyth, a chymmerwch gysur; nid wyf fi mewn ofnau yn y byd yn eu cylch, ac nid oes gennyf ddim anobaith, na gwan—galon, na byddant yma cyn pen mis; ac os byddant, bid sicr i chwi gaffael y Delyn pan gyntaf y bo modd i'w gyrru hi. Dyma i chwi holl hanes y trwstan, a chymmaint ag a wn i o hanes y Delyn.

Dacew'r Llew wedi myned adref er ys ennyd, fal y gwyddoch, ac ni chlywais air oddiwrtho fo na'i nai etto. Mae caniad Arglwydd Llwydlo, yn Lladin, yn barod er ys mis, a'r Gymraeg agos wedi ei gorphen, a phan orphenir chwi a'i cewch, os gwiw fydd gennych eu derbyn.—Doe y cefais lythyr o'r Navy Office: y mae y Llywydd Mynglwyd yn iach lawen, ac yn dywedyd i mi fod y Penllywydd o Gors y Gedol wedi dyfod i Lundain, ac y bydd yn un llabi y'nghadair y Cymmrodorion y seithfed o Ionawr nesaf; ac y mae i minnau ddyfyn i ymddangos o'i flaen, dan boen dioddef fy niraddio o freintiau ein hardderchog Gymdeithas, oblegid ein bod i ddewis swyddogion y diwrnod hwnnw am y flwyddyn rhagllaw; ac oni bai fy mod yn rhy bell, sef 10 neu 12 milltir, odid na byddwn ysgrifennydd annwiw i'r Gymdeithas. Ond bellach gadawch i mi roi i chwi ryw fesur o'm hanes presennol. Yr wyf yn byw mewn lle (fal y gwelsoch) a elwir Northolt, yn Offeiriad tan Dr. Nichols, Meistr y Deml (Master of the Temple) yn Llundain. Mae'n rhoi i mi 50 punt yn y flwyddyn; lle digon esmwyth ydyw'r lle am nad oes gennyf ond un bregeth bob Sul, na dim ond 8 neu 9 o ddyddiau gwylion i'w cadw drwy'r flwyddyn, a chan nad ydyw'r plwyf ond bychan, nid yw pob rhan o'r ddyledswydd ond bychan bach; am hynny mwyaf fyth a gaf o amser i ysgrifennu i'm Cymdeithas, a phrydyddu, &c. &c., yr hyn hefyd a ddechreuais er ys ennyd, er na chant hwy weled dim nes ei berffeithio.

Our general heads of enquiry are, you know, very extensive. Yr wyf yn awr yn prysur astudio Gwyddelig, ac yn ei chymharu â'r Gymraeg, ei mam; ac y'mhell y bwyf onid yw agos yn rhyfedd gennyf na ddeallem bob Gwyddel a ddoe o'r Iwerddon; ond gormod o dro sydd yn eu tafodau hwy wrth ymarfer âg iaith yr Ellmyn gynt, nid Saesoneg ond high German; ranys dywedant hwy a fynnont yng nghylch ei gwreiddyn, a dygant eu tadau o 'Spaen, Melisia, gwlad Roeg, neu'r Aipht neu'r man y mynnont, nid y'nt ond cymmysg o Ellmyn a Brython, yn eu hiaith o'r lleiaf. Mi dybiais ganwaith gynt fod y Wyddelig yn famiaith, ond cangymmeriad oedd hynny, fal y danghosaf os byddaf byw. Mae yma yn fy nghymydogaeth ddyn penigamp o arddwr o'n gwlad, un a adwaenech yn dda gynt, a'i enw Owain Williams, ond Adda yr wyf fi ambell dro yn ei alw; mi a'i gwelais ddoe, ac yr oedd yn dymuno ei wasanaeth attoch. Gan fod gennyf ardd o'r oreu (oreu o ran tir) mi fum yn cethru arno yn dost am ychydig hadau a gwreiddiach i'w haddurno, ac ni's medrodd gael i mi y leni oddiar ddyrnaid o snow drops a chrocus, oblegid y mae yn achwyn yn dost nad oes na hâd na gwraidd i'w cael trwy deg na hagr gan waethed a fu'r hîn i'w cynhauafa; ni wn i beth a geir flwyddyn nesaf. Lle iachus ddigon yw'r lle hwn, ac yn dygymmod yn burion â mi ac â'm holl deulu. Os byddwch faddeugar am a aeth heibio, ac mor fwyn a gyrru hyd bys o lythyr, llwybreiddiwch ef fel hyn :—To me at Northolt, near Southall, Middlesex, near London,

Duw ro i chwi iechyd, a blwyddyn newydd well na'r hen, ac well well byth o hyn allan. Annerchwch fi at Mr. Ellis a'r holl ffrindiau. Ydwyf, Syr, eich ufudd wasanaethwr tra b'wyf,

GORONWY DDU

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 44.

At RICHARD MORRIS.


NORTHOLT Chwefror 18, 1756.

SYR

AIE, gwaeddi am Ddyri i'w Delyn y mae Robert? Ple mae Telyn bach fy Machgen i bellach gan lwyth y Cortyn; Ond yw'n beth diflas fod bwyd y Cŵn yn chwarae migmars, ac yn naccau Dŷn o honi cŷd a chŷd o amser? Rhyfedd na bai ar felldith ei fam ofn gael Dyri iddo ei hûn, oblegid fe all feddwl yr haeddai yn dda gael tafod na lyfai Gi mono, am ei faweidd-dra. Ond er hynny, fe gawsai Ddyri i'w Delyn, oni buasai imi ollwng yn anghof y Mesur, hynny yw, hyd y llinellau, a pha sawl llinell ymhob Pennill; a hynny sy raid i mi ei wybod cyn y gwnelwyf y Ddyri. Ple mae'r Gwlangroen gan Sion Owain ddiog? A ydyw'r Ewinor ar ei fysnidd? Ow'r Cancr! Lle da i ddisgwyl dim daioni gan Sion Baentiwr ond rhyw wên Ci marw; gresyn na chawsai ei grogi er ys talm, y llygaid. Diawl tan garreg. Ffei o hono, gingroen! Ond gwrandewch, yr wyf ar fedr bod yna Wyl Ddewi, a'n holl Deulu bôd y pen gyda mi, oblegid ni cheid ganthynt aros Gartref, pe cusenid eu tineu. Attebwch gan hynny i'r ymofynion hyn. Pa un ai yn eu Gynau duon ai yn eu Sippogau y bydd y Personiaid Cymreig y dwthwn hwnnw? Ymha'r Eglwys y bydd y Bregeth? Pwy a dderllyn wasanaeth? Pwy a bregetha? Pa le y ceir Cennin prydferth? Beth yw pris Cenhinen? A eill dynyn truan ddangos ei big megys llanw mewn llu? A geir dim dirmyg gan Blant Alis, heblaw gwaeddi Taffy, neu re...in rhyng'om a'r gwynt ? Dyna'r cwbl a fynnwn ei wybod. Yr ym ni yma bod y goppa wedi cael dillad newydd, ac yn ymloywi'n rhyfeddol i gael ymddangos i Ddewi yn ein glandrwsiad ni welodd un o honom erioed gadw'r dydd mor barchedig, ac fallai na welwn byth rhag llaw. Os trwy Cheapside y byddwch yn myned, fe fydd fy Nheulu fi yn nhy eu hewythyr Rhys ab Rhys y Twccawr, yn ysbio trwy'r ffenestri arnoch. Nid ych (fe weddai) ddim ar fedr annerch y Tywysawg y leni; pa sut y bu hynny arnoch? Byddwch mor fwyn a hyfforddi Caniad Lludlo at Mr. Humphreys o'r Tŵr, i gael ei farn arni. Fy ngwasanaeth at bawb a'm caro yn y cwrr yna, ac odid y bydd hynny chwaith anhawdd. Wyf eich Gwasanaethwr ufuddaf, neu'n hytrach eich Gormeswr anoddef,

GRONWY DDU O FON

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 45.

At RICHARD MORRIS.


NORTHOLT, Mai 20, 1756.

YR ANWYL DAD,

MI a dderbyniais eich Epistol torrog, ac ni's gwn yn iawn pa un fwyaf ei gymeriad yma, a'i'r Cyw, a'i'r Fam. Da oedd gweled pob un, ac amheuthun iawn oedd cael un o Gybi. Digrif o'i gof yw'r hen Fardd Coch; mae Gwilym Cybi'n taeru ei fod gwedi hurtiaw, ond yn wir glew iawn y tybiwn i yr hen Gorphyn, ne ystyried y cwbl, sef, nad oes gantho neb yn Ghymru i hogi ei hen Awen rydlyd, na neb i ddarllen a brydo, nag i'w ganmol, na'i oganu; ac o chaiff, o ddamwain, a'i darllenno, odid gael ai deallo, ac a farno yn gywir ac yn gelfydd arno. Dyna fy ngyflwr fy hun gynt, a gwir yw'r hên chwedl "Gwraig a ŵyr orau gyflwr Gwraig." Ond siccr yw genyf mai dyma'r Cywydd gorau a welais i erioed o waith y Côch, (ac, fe fu agos i'm a dywedyd o waith neb sy'n fyw heddyw, ond da'r atteliais) ac fe gaiff atteb ryw bryd, fal yr haeddai. Nid am ei fod yn Arwyrain i mi yr wyf yn canmol y Cywydd (oblegid mi gefais fwy o ryw fudr-glod gan yr un Awdwr dro arall, er na feddyliais. y talai i'w atteb) ond am fod ynddo fwy o Synwyr, llai o eiriau segur, ac ymadrodd anghyfiaith, gwagsaw, amhriod, a gwell Cymraeg. Ei Gynghanedd y tro o'r blaen oedd Croes rwyiog ddychweledig, i'w chanu wyneb a gwrthwyneb, na bond ei grybwyll! Ond heth a dâl Cynghanedd heb synwyr cymmesurdeb a phriodoledd? Ai è tybio a wnaech fy mod yn glâf, neu'n torri fy nghalon ar ol y Blwch Tybacco? Nid ych chwi Ddewin yn y Byd, mi welaf, er eich bod yn Benneth ar holl Dderwyddon, a Doethion, a Dewinion Prydain Fawr. Beth meddech am wers ddiogi, &c. &c. a llawer o fan ddamweiniau eraill a all ddigwydd i Ddŷn? Ond un peth (os rhaid cyfaddef) sydd i'm digalonni'n gethin, sef na chlywais o Allt Fadawg oddiwrth y Llew na'i Nai. Rhyfedd. na chlywid oddiwrth Ieuan Owain fwynwr, o's yw'n fyw; am y Llew, 'rwyf agos a chanu'n iach iddo oblegid fod lle i ofni ei fod wedi digio tros byth bythoedd, o ran na chefais gantho ond sen, y llythyr diwaethaf byth a welais. oddiwrtho. Y matter sy fel hyn, (a matter garw yw hefyd). Digwydd a wnaeth y Llew ddal sulw arnaf yn ysmoccio fy nghettyn ynghyfarfod y Cymmrodorion, ac uthr oedd gantho weled Bardd (fal Iar mewn mŵg), a'r niwl gwynn yn droellau o amgylch ei ben ("like Glory in a Picture"). Dyna'i air ond am Foulkes, &c. nid oedd ryfedd gantho. Yr oedd yn taeru'r un amser, fy mod wedi hanner crapio; ac yn wir mae'n atgof genyf yfed o honof ran o phiolaid o Bwins yn nhŷ y Car II. Prys cyn dyfod yno. Ond gadewch i hyny fod: nid aml y bydd y gwendid hwnnw arnaf, (a goreu fyth po'r. anamlaf) a diau yw fod maddeuant i fwy troseddau nå hyny, er ei gymaint. Senn iachus, er fy llès i, oedd y senn, a diolchgar ydwyf am dani; ond etto nid arwydd då ar neb fod yn anfaddeugar. Nis gwn i achos arall yn y byd iddo ddigio, a bid mor dynn. Mae genyf yma'n f'ymyl brophwyd- oliaeth, a 'sgrifenwyd cyn gweled o honof Lundain erioed, sy'n dywedyd: "Mai o's fi (pan ddown yna) a fethwn, yn yr hyn lleiaf, ddal y ddysgl yn wastad i'r Llew, na wnâi ond fy nirmygu, a'm cablu, a'm coegi, ar air a gweithred tros byth, heb obaith, na chymmod, na hawddgarwch, na mwynder, yn oes oesoedd, Amen." Nid hawdd genyf i goelio'r gwaethaf am neb, yn enwedig am un yr oedd imi le i dybio'n well o honaw; a phe gwyddwn pa le y mae, mi yrrwn atto unwaith etto i edrych beth a ddywedai. Dygaswn eich bod yn ei ddisgwyl yna cyn hyn, ond ni chlywaf monoch yn sôn gair ei ddyfod. Drwg clywed ei fod yn y Drain pa le bynnag y mae; Duw a'i rhyddhao o honynt Amen.—Am Gân Arwyrein y Cyw Arglwydd i.e. (Lord Powis) ni thybiais fod neb yn absen y Llew a'i cyflawnai i wneuthur dim lles â hi, oblegid fod y Llew wedi bod o'r blaen yn sôn am danaf wrth yr Iarll, yr hyn na bu neb arall, ar a wyddwn i, ac odid y cofiai'r Iarll mai fi y grybwyllasai'r Llew wrtho, oni bai iddo fo ei hun ei chyflwyno, a dwyn ar gôf i'r Iarll yr ymgom a fuasai yn fy nghylch. Mae hi etto heb ei llawn orphen. yn Gymraeg; ond bellach atti hi yn nerth braich ac ysgwydd Ond yn y cyfamser, dyma i chwi ryw Erthyl o Gywydd i'r Diawl tra boch yn aros am dani hi.—

A glywch chwithau'r Gŵr bonheddig yr ŷch yn cwyno i'ch Peswch, ac yn dwrdio myn'd i ryw le i'r Wlad i roi tro, pa waeth ynteu fyddai ichwi yma na lle arall ? Chwi gaech groeso calon i'r peth sydd yma, a diolch mawr am eich cymdeithas; chwi gaech wely rhwydd esmwyth, a dillad glân, tymhoraidd (ond heb ddim Curtains), ac chwi allech wneud eich Ystafell cyn dywylled a'r fagddu os mynnech. Chwi gaech ambell foliad o Bastai G'lomennod ar droeau, ac ymgomio gyda'r Doctor weithiau, os gwelech yn dda. A chymerwch hyn yn lle gwahawdd, neu beidiwch. Ple mae Mr. Parry o'r Fint? ond oedd y gwr da hwnnw wedi addaw bod yma cyn hyn? Beth sy'n ei ddal yna? Mi fuaswn i (yn wirionedd) wedi gyrru yna ymhell cyn hyn o amser, ond fy mod yn ei ddisgwyl beunydd tra fu wiw. Cofiwch fi atto, ac yn rhodd gofynnwch iddo, i ba beth. y mae'n chwareu priesien, yn addo dyfod ac etto'n naghau; ac os cewch y gwr talog yn gloff yn ei esgus, mae fel y rhowch iddo wers, a dau dro a hanner ar ei arddwrn, neu wasgu'r fegg arno mal y gwelo 'ch doethineb yn oreu, a'i yrru unwaith o fwg y Dref hyd yn y 'Pren dioddef ac odid na ddaw yma. Ond yn ddigellwair mae'n rhyfedd genyf beth sy'n ei lestair. Os medr ddygymmod a'r fywoliaeth sy yma, e fydd iddo gymaint croesaw a phed faai Dywysog Cymru; a hynny a ddywedais wrtho lawer gwaith, ac nis dywedwn yn fy myw ddim ychwaneg. Dyma'r Llythyr y talasoch am dano wyth geiniog wedi ei gael. Ai'n llythyr dwbl y darfu iddynt ei gyfrif? nid yw ond sengl, ac nid oes nemor o dda ynddo chwaith. Mae'n dyfod oddiwrth Rhobert Owen, Gŵr fy modryb Agnes Gronw, ac yn rhoi hanes o ryw heldrin rhwng Proctorion Llanfair a f'Ewythr Rhobert Gronw, ynghylch yr hên Dŷ, lle ganed fy Nhâd, a'm Taid, a'm Hêndaid, a'm Gorhendaid, &c. &c., a phed fawn yno, myfi a rown ben ar yr ymryson, oblegid fi y piau'r Ty, a'r Gerddi, ac oll sy'n perthyn iddo, er na waeth gennyf mo'r llawer pe caai'r cigfrain ef; ond gwell fyddai genyf i rai o'm gwaed ei gael nâg estron genedl yn enwedig y Deiniols ffeilsion. Onid yw'n ddigon i'r Bannington's fod wedi llygru'n Cenedl trwy ymgymharu ac ymgyfathrachu â phob caingc (agos) o honi? a fynnent fwrw'r unig Gyw digymysg diledryw tros y Nyth? Mi fynnaf weled hynny, ac a fynnaf wybod beth a dalo fy hawl i'r lle, ped fai ond cutt mochyn. Nid rhaid ond rhoi'r peth yn llwyr, yn gywir, ac yn eglur o flaen y Dr. Nicolls, ac fe geir atteb yn rhad o'r Deml gan Wŷr a ŵyr bob cryglyn o'r Gyfraith. Ni fu erioed osod nag ernes ar y lle yn amser Tad na Thaid, na neb sy'n fyw heddyw, na thaledigaeth am dano onid 4s 6d i Eglwys Lanfair bob blwyddyn; ac fe dal y lle deirpunt, o'r lleiaf, yn ol y prisiau sydd ym Môn. Pwy piau bob Commons ym Môn? nid yr Eglwys mae'n debyg—Wele hai Dyma lythyr oddiwrth y Brawd Owen ap Owen o Groes Oswallt, yn dywedyd farw fy Mam ynghyfraith; mi gaf y grasbil yn dyhuddo'r Wraig Elin am ei Mam. Bellach fe gair gweled a gywirodd fy hen Chwegr ei geiriau. Hi fyddai'n addaw y caid rhyw wmbreth o bethau pan fyddai hi farw; ond yr wyf yn tybio nad oedd yn ei bryd, y pryd hyny, farw byth. Mae ystâd y Brithdir yn Glyn Ceiriog, a addawodd i Robin? Dyna i chwi gymaint o newydd a marw Gwrach; ond nid wyf i'n disgwyl cymaint a Grôt oddiwrthi. Etto mi ddisgwyliaf lythyr cyn bo hir oddiwrth y Brawd John Hughes, ac yno fe gair gwybod pa sutt a fu. Er mwyn Dŷn a oes modd yn y byd i gael dwsin o Frainge; ni buont erioed brinnach yma, na mwy angen am danynt. Ni feddaf gymaint ag un i'w yrru i Gybi; felly, pa beth a wneir, meddwch chwi?—Mi wnaethym Fablyfr o Lyfryn y Penllywydd er ys talm mawr o amser, ac ai dygaf yna pan ddelwyf; ond Heb y Gronwy Ddů, pa bryd a fydd hynny? Nid y cyfarfod nesaf, oblegid yr wyf yn ofni nad allaf pe'm direddyd. Dyma Gornelius ap Adda wedi dyfod i'm hedrych, ac yn eich annerch yn fawr. Mae'n dywedyd i mi fod yn beth cywilyddus i'r Tew o Gybi ddisgwyl dim ychwaneg o Lythyrau oddiwrtho fo, nes atteb y rhai a gafodd; a bod yno bedwar eisus yn crio yn ei wyneb ddydd a nos am attebion. Gwae fi na wyddwn pa le mae Miltwn o Gastell y Waun yn byw yn y Dref yna, i edrych a geid rhyw fesur o ffraingc gantho. Ni naghasai monof ddydd a fu, eithr cywilydd yw crugo Pobl foneddigion am ryw oferedd; ond myn Derfel mae arnaf gymaint angen ffraingc, nas gwn beth yw wneuthur. Dyma'r diwaethaf yn dyfod yna attoch. Peidiwch ag esgeuluso gyrru yr Parry yma da chithau; dywedwch wrtho am ddyfod yma ddydd Sadwrn nesaf gyda'i Gerbyd; ac mi a'i cyfarfyddaf yn Chevy Chace, rhwng Hanwell a Southall, canys dyna'r torriad nesaf o'r ffordd i Northolt. Mi fynwn iddo ddyfod y Sadwrn, o achos fod genym Ffair yma Ddydd Llûn, a phob. digrifwch ynddi, megis rhedeg, neidiaw, ymbastynu, neu dorri Cloliau & Llawffyn; a phob math arall o ddifyrrwch gwladaidd, megis y peth a welsom y llynedd ym Mheckam Rye, pan ennillws y Gymraes y Crys meinllin. Rhyw Wylmabsant, mi debygwn, yw'r peth, o herwydd na chedwir mono ond unwaith yn y flwyddyn; ac er eu bod yma yn ei alw 'n ffair, ni bydd ddim ar werth yno ond teis- ennau, bara melys, a theganau, a Chwrw, &c. &c. Beth a fyddai i chwi biccio hyd yma gyda Pharry? Nid rhaid ichwi ddim ofn prinder o fwyd a Diod, na lle i orwedd. Onid ellir eich cynwys yn ein gwelyau ni, fe ellir cael eu gwell mewn Tŷ private wrth y Fonwent, lle bu lawer un a ddeuai i'm gweled. yn cysgu cyn bod genyf le fy hun i'w croesawu. Gwir yw mi fyddwn yn talu i Mrs. Hart am y gwely, ond beth a brisiwn yn hyny? yn enwedig gan fod y lle mor gyfleus, yn union wrth fy nrws. Felly goreu ichwi gipio'ch cippyn a'ch cappan a dyfod, ac oni bydd modd i chwi aros dim hwy, chwi ellwch aros o'r Sadwrn hyd y bore ddydd Mawrth; ond am y Parry, fe eill aros mis neu ddau er dim sydd gantho i'w wneud gartref. Cymerwch fy nghyngor, am hyn o dro, a dowch yma; ac oni ddowch, gadewch gael gweled bropred esgus a geir genych; ond na chynygiwch wynebu monof heb bentwr mawr o ffraingc yn eich coden. A chofiwch y Blwch Tybacco er dim fo, oblegid fod yr Argraph sydd arno'n sefyll yn lle Cronicl o ryw beth go hynod a ddigwyddws yn amser Gronwy Ddû. Rhowch fy annerch yn garedig at Wilym o'r Twr gwyn, y Person ap Wmphre, a phawb oll a'm caro, neu a garwy (os gwyddoch pwy ydynt); a chredwch fy môd, o galon ddiffuant, i'ch caru a'ch parchu, fal y gweddai, Ich Gwasanaethwr gostyngedigeiddiaf,

GRONWY DDU GYNT O FON.

O.S.-Pan yrroch i Fon, cofiwch fi at eich Tad, a'r Athraw Ysgol Rhisiart ap Harri o Lannerch y Meddwon.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 46.

At RICHARD MORRIS.


YN niwedd llythyr go ddigllon a sgrifennodd 27 Fedi, 1756, medd ef: "Am eich Llyfrau chwi a fenthycciais; chwi a'u cewch pan fynnoch: ni bu'm erioed ar gyngyd, na'u bwyta na'u hyfed, na'u gwerthu na gwneuthur ffagl o honynt. Ac am y Dafis yna, mae iddo groeso i'r dodrefn (sydd heb dalu am danynt) pan fynno; nid oes arnynt nemmor o geiniog- werth. A phan ddelo amser cyfaddas, mi ddiolchaf i'r wyneb lleuen gadach, am ei gastiau llechwraidd. 'Roedd y llechgi brwnt yn ddiswydd ddigon ddyfod yma gyda'r cynrhonyn coesgam hwnnw o fachgen i hel chwedlau; ac yn cydgoethi a chablu arnaf gyda'r dafarnwraig biglas yma, fal y mae hi yn addef yn awr, wedi cymmodi o honom.

Y BARDD GWYLLT,'

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 47.

At WILLIAM MORRIS.


NORTHOLT, Mai 25, 1757.

Y CYDWLADWR MWYN.

DOE y bu'm yn Llundain yn ymweled â'ch brawd, ac yn rhyw sut fe ffynodd gennym fod yr un feddwl yng nghylch argraphu barddoniaeth Gronwy Ddu, ac yr ydis yn amcanu dwyn y gwaith i ben gyntaf byth ag y gellir. Odid yn wir fuasai i mi byth fod yn ewyllysgar i'r peth (nes cael y saith gymaint o honynt o'r lleiaf) oni bai fy mod wedi rhoi llwyr ddiofryd yr awen ac ymwrthod â hi dros byth, ac na'm dawr (o'r plegyd) pa beth a ddel o ddim o'r eiddi, namun cael tal am y boen a dreuliais arni eisus, a phoed iach. Fy nymuniad gan hynny arnoch chwi yw, bod mor hynaws, (os rhynga'ch bodd) a gyrru i mi Ddychymyg Cryfion Byd ar ganiad Lladin i'r Cadben Ffwgs, Quid crepat, &c., ac od oes dim arall o'm gwaith nad yw gennyf eusus. And above all to take in sub- scriptions for me in your part of the country, which favour (I suppose) will be begg'd in my name by your brother, and some of the proposals sent you for that purpose as soon as they are ready. The towns he mention'd for fixing a corre- 'spondence in to get subscriptions are Holyhead, Aberffraw, Carnarvon, Denbigh, Wrexham, Salop, Carmarthen, &c.; in some of which I have a couple of town booksellers, viz., Dodd, and William Owen of Temple Bar, besides your brother. I beg you would excuse the shortness of my letter, because I'm busy in raising new correspondents, reviving old ones, &c., and have not a frank in the world. Owen Williams is well, and desires to be remember'd to you. I beg your answer by the first conveniency, and am, Dear Sir, your most obedient. servant,

GRONOVIUS.

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 48.

At yr anrhydeddus a'r hybarch Gymdeithas o Gymmrodorion, Gronwy Ddû eu Cyfaill a'u Bardd gynt, a'u Gwasanaethwr, a'u Câr hyd angau, yn anfon Annerch-

Y PENDEFIGION URDDASOL,

"Yn gymaint a'm bod eisus yn dra rhwymedig i'ch hybarch Gymdeithas, a'm bod yn myned yn ddiattreg (Duw ro fordwy dda) yn rhy bell i ddisgwyl byth weled un wyneb Dŷn. o honoch; mi dybiais nad anghymmwys imi (neu'n hytrach fod yn ddyledus arnaf) gymeryd cennad teg gennych oll cyn fy nghychwyn. Ac, fal y mynnai Dduw dyma'r adeg oreu oll o'm blaen, sef ar noswaith eich Cyfarfod, pryd y mae rhan fawr o honoch wedi ymgynnyll trwy Undeb a Brawdgarwch (yn ol eich Arf-sgrif) i gyd synniaw ar wir lês eich Gwlad, ac i hwylio 'mlaen amryw eraill o ddibenion canmoladwy i'ch Cymdeithas. Gweddus a Christionogol iawn eich gwaith, boddlawn gan Dduw a chysurus i amryw o'i Aelodau anghenawg, a chlodfawr yngolwg holl Ddynol ryw a sicer a fydd eich gwobrwy (ddydd a ddaw) gan yr hwn a ddywed, "Gwyn ei fyd a dosturio wrth y tlawd a'r anghenus." Am danaf fy hun, nid allaf ymhonni o ddim rhan o'r fendith yma (er bod yn aelod o'ch urddasol Gymdeithas) gan na roes y Goruchaf im' mor Gallu, er y gallaf yn hyderus ddywedyd na bu arnaf erioed ddiffyg ewyllys, ac (os Duw a'm llwydda) na bydd byth. Dyn wyf i (fal y gŵyr amryw o honoch) a welodd lawer tro ar fyd, er na welais nemmor o dro da, ac mi allaf ddywedyd wrthych (fal y Patriarch Jacob i Pharaoh gynt) Ychydig a blin fu dyddiau'ch Gwas hyd yn hyn; ond yn awr yr wyf yn gobeithio fod Nef yn dechreu gwenu arnaf, ac y bydd wiw gan yr Hollalluog, sy'n porthi Cywion y Gigfran pan lefont arno, roi i minnau fodd i fagu fy Mhlant yn ddiwall, ddiangen. Er eu mwyn hwy'n unig y cymmerais yn llaw y Fordaith hirfaith hon, heb ammeu gennyf nad galwad Rhagluniaeth ydyw. Hir a maith yn ddiau yw'r daith i Virginia; ond etto mae'n gysur (pan elir yno) gael dau ganpunt yn y flwyddyn at fagu'r Plant. Mae hyn yn fwy nag a ddisgwyliais erioed ym Mhrydain na'r Iwerddon; a pha fodd yr attebwn i'm teulu, pe gwrthodwn y fath gynnyg trwy lyfrdra a difrafwch? Er eu mwyn hwy ynteu, mi deflais y Dis, gan roi f'einioes yn fy llaw, a diystyru pob perygl a allai 'ngoddiwes; a hynny nid yn fyrbwyll ond o hîr ystyried ac ymgynghori a'm carai. O..d er hynny wedi 'styried ol a blaen, mi welaf yn awr lawer anghaffael na fedrais graffu arnynt nes bod yn rhywyr. Erbyn. eyttuno & Pherchenog y Llong, mi welaf nad yw'r holl arian a gaf at fy Nhaith, ac oll a feddaf fy hun (wedi talu i bawb yr eiddo), ond prin ddigon i ddwyn fy nghôst hyd yno; ac erbyn y caffwyf fy nhroed ar Dir yr Addewid, y byddaf cyn llymmed o arian a phan ddaethum o grôth fy Mam. Gwaith tost yw i bump o Pobl fyned (nid i Deyrnas ond) i Fyd arall, heb ffyrling at eu hymborth! A gwaethaf oll yw, nad a'n Llong ni o fewn 30 milltir i Williamsburgh; ac (och! Dduw) pa fodd yr ymlusgir yno hyd Fôr na Thir heb arian? Fe ŵyr Duw mor llwm ac annrhwsiadus hefyd ydym oll i fyned i'r cyfryw le; ond nid yw hynny ddim os ceir Bara-

Dyna'r achosion (anwyl Gydwladwyr) a barodd i'm ryfygn gofyn eich Cymmorth ar hyn o dro, gan wybod yn ddilys na flinaf un o honoch byth rhagllaw; ond os Duw rydd Einioes, mi gyd unaf & chwi'n llawen i gymmorth eraill o'n Gwlad. Rhowch hefyd i'm gennad, ar hyn o achlysur, i dalu diffuant Diolch i chwi am eich parodrwydd i'm cymmorth dro arall, pryd yr oedd llai fy angen, er nad llai eich Ewyllys da chwi, na'm Diolchgarwch innau; er na cheisiais ac na chefais y pryd hynny ddim o'ch haelioni, o fai rhyw Aelod blin terfysgus. oedd yn eich plith. Ond yn awr yr wyf yn attolwg arnoch, y rhai oeddych mor barod im Cymmorth (ped fussai raid) fy ngymmorth ychydig wrth fy llwyr angenrhaid. Nid wyf yn ammeu Ewyllys da yr un o honoch ar y cyfryw achos; Ond pa un bynnag a wneloch ai ystyried fy ngyflwr ai peidio, Myfi a weddiaf ar Dduw roi ichwi lwyddiant yn y Byd hwn, a'r hwn sydd i ddyfod; yr hyn (y pryd yma) yw'r cwbl a cill eich ufuddaf wasanaethwr,

GRONWY DDU
Tachwedd yr Ail, 1750,

𝔏𝔩𝔶𝔱𝔥𝔶𝔯 49.

At WILLIAM MORRIS.


BRUNSWICK (America) gorphenaf 23, 1767.

FY ANWYL GYFAILL,

Ar ol cydalaru â chwi am farwolaeth eich dau Frawd godidog, y nesaf peth a ddylwn ei wneuthur yw mynegi iwch pa fodd y digwyddws im glywed y trist newyddion. Ar fyrr eiriau, fal hyn y bu: chwi fe weddai a ysgrifennachos at ryw Wm. Parry yn Middlesex yn y wlad yma, tros saith ugain milltir, o'r lle 'rwyf i'n preswylio, ac ynteu ymhen hir a hwyr a scrifennodd yma. Minnau a'i hattebais ynteu drachefn, ond byth gwedi ni chlywais siw na miw oddiwrtho. Ofni 'rwyf fod rhyw chwiwgi wedi dyfrodi fy llythyr cyn ei roi i'r Parry. Nid oes yma ddim Pôst yn myned trwy'r wlad fal yna, dim ond ymddiried i'r cyntaf a welir yn myned yn gyfagos i'r lle, ac weithiau fe fydd Llythyr naw mis neu flwyddyn yn ymlwybro 30 milltir o ffordd, ac yn aml ni chyrraedd byth mo'i bennod, Hiliogaeth Lladron o bob gwlad yw'r rhan fwyaf o drigolion y fangre hon, ac y mae ysfa diawledig ar eu dwylaw i fod yn ymyrreth â phethau pobl eraill, ac i wybod pob ysmicc a fo rhwng Sais geni a'i gydwladwyr yn Lloegr. Dialedd a chwant sydd arnynt gael gwybod helyntion Gwyr o Brydain a pha un a wnelont ai rhoi gair da i'r Wlad a'r bobl yn eu llythyrau ai peidio. Fe gyst i mi fyn'd drugain milltir neu gwell i roi hwn i ryw Gadpen ar fwrdd Llong; onid e ni ddeusi byth hyd yna, os daw er hynny. Mi 'scrifennais attoch liaws o lythyrau ynghylch wyth mlynedd i'r awrhon; nis gwn a gawsoch ddim o honynt. Y mae yma o fewn deugain milltir attaf, un Sion ap Huw, Cymro o Feirionydd, yn Berson mewn plwyf.[22] Hwnnw a ddywed i mi fod fy Nghyfaill Lewis Morys wedi cael ei daflu yn y gyfraith, ai ddiswyddo ai ddifetha, cyn iddo adael Cymru; ond nis clywai mo'i farw. Fe ddywed hefyd fod peth o'm Gwaith i yn argraphedig, a gwaith y Llew gyda hwynt. Gwych a fyddai ei gweled. Do hefyd a gwaith Ieuan Fardd yn argraphedig. A ellid byth ei weled y tu yma i'r Mor? Ni chaf na lle nag amser i ddywedyd i chwi ddim o'm helyntion ar hyn o dro; pan weloch yn dda 'scrifennu, chwi gewch wybod y maint y fynoch. Yr unig beth sydd i'm i'w daer ddeisyf gennyf yw, rhoi imi lawn gyfrif pwy rai o'm Cydnabyddiaeth sy'n fyw, a pha le y maent, rhag i mi sgrifennu at bobl yn eu beddau. Ple mae'ch nai Sion Owain fwynwr Mae'r Parry o'r Mint? Mae'r Person Mr. Humphreys? Ai byw Tom Willms y Druggist o Lân y Bais? Os è, ai yna y mae fyth? Ai byw Huwcyn Williams, Person Aberffraw? Ai byw'ch Tad? a'm Chwaer Sian innau ym Mynydd Bodafon? Mi ges y newydd farw 'Mhrawd Owen Ynghroes Oswallt. Yr wyf i (i Dduw bo'r diolch) yn iach heinif, a'r wlad yn dygymmod a mi'n burion. Nid oes un o'm teulu Seisnig yn fyw, ond fy Mab Rhobert. Yr wyf yn briod a'm trydydd Wraig, a chennyf dri o blant a aned yma. Ond nawdd Duw a'i Saint rhag y trigolion, oddigerth y sawl o honynt sydd Saeson; ac nid da mohonynt hwythau oll. Annerchwch fy Nghyfaill Parri o'r Fint, a Pherson y Twr gwyn, a Sion Owen fwynwr, ie ac Andrew Jones, a phob wyneb Dŷn a'm hadwaeno. Duw gyda chwi oll. Mi fyddaf yn disgwyl Llythyr ymhen chwech mis. Mi wyf yr eiddoch &c.,

GRONOW OWEN.

Nodiadau

[golygu]
  1. Quo angustius apud hominem (hominis sensu) eo largius liberius) Apud Deum,
  2. Lewis Morris, Esqr. of Cardiganshire.
  3. Dr. Douglas, late Bishop of Carlisle, now Bishop of Salisbury.
  4. Yn y llawysgrif "extensiveness" wedi ei gywiro i "extent,"
  5. Yma y dilynai'r Cywydd. Dywed y llawysgrif rhwng cromfachau Gwelwch y Cywydd yn Diddanwch Teuluaidd."
  6. Poetica, non erunt consentientes duo Cambri.
  7. Ychwanega'r llawysgrif yma rhwng cromfachau—"viz., Revd Evan Evans.
  8. Nid yw'r frawddeg sy rhwng cromfachau yn argraffiad R. Jones. Cymerir hi o argraffiad Llanrwst.
  9. Ychwanga'r llawysgrif—"Gwelwch y Cywydd yn Diddanwch Teuluaidd.
  10. Gwel tudal 71 Bardd. Gor., arg. Lerpwl.
  11. Yn arg. Llundain, "of theirs; " yn arg. Llanrwst, "of (his fortheirs). Tebyg felly mai "of his " ysgrifenwyd gan Oronwy.
  12. Ychwanega'r llawysgrif rhwng romfachan Inte Rector of Llangynhafal
  13. Ar waelod y ddalen yn y Llawysgrif—"The Revd. Mr. Edwd.Owen then Curate of Crosby, now Rector of Warrington, afterwards a great friend to Gronwy. He translated Juvenal and Persius."
  14. Trawslythrennu'r geiriau Death (of) person i'r wyddor Roeg
  15. H.y., "y Buan ei Droed," sef Achilles, yn ol fel y galwai Homer ef.
  16. Wynne of Llangynhafal & Evans of Llanfair.
  17. Meaning the three Roman Monuments, I should imagine that Poor Gronwy found in the Parish of Wroxeter near Salop, one being for Caius Mannius a Prætorian Legate of the 20th Legion, & another for Marous Patronius a Standard bearer of the 19th Legion.
  18. "The bloodstained grebe called aloud for a glut of food; on a swelling wave of gore she swam with toil."
  19. Gweler y "Cywydd i ofyn Ffrancod," Bardd. Gor., arg. Lerpwl, tud. 95.
  20. Gwel tudal 50 Bardd Gor., arg. Lerpwl
  21. Gweler Gwaith Gor. Arg. Llanrwst, tud. 114, Arg. Llundain, eyf. i., tud. 144.
  22. Ychwanega'r Llawysgrif rhwng cromfachau.—"One John Pugh Son of David Pugh of Ty Newydd in Dolgelley, he was Curate of Llanddoget A.D. 1763, from whence he took trip to America."

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.