Mabinogion J M Edwards Cyf 1/Math Fab Mathonwy

Oddi ar Wicidestun
Manawyddan Fab Llyr Mabinogion J M Edwards Cyf 1

gan John Morgan Edwards



Math Fab Mathonwy

—————♦♦—————

HON YW Y BEDWAREDD GAINC O'R MABINOGI

MATH fab Mathonwy oedd arglwydd ar Wynedd, a Phryderi fab Pwyll oedd arglwydd ar un cantref ar hugain yn y Deheu, sef oedd y rhai hynny, saith gantref Dyfed, a saith gantref Morgannwg, pedwar cantref Ceredigion, a thri Ystrad Tywi. Ac yn yr amser hwnnw, Math fab Mathonwy ni fyddai byw namyn tra byddai morwyn yn gweini arno, onid cynnwrf rhyfel a'i llesteiriai.

A'r forwyn oedd gydag ef oedd Goewin ferch Pebin, o Ddôl Pebin yn Arfon,—a honno oedd y forwyn decaf yn ei hoes, am a wyddid yno. Ac yng Fel y Pruddhaodd Gilfaethwy fab DonNghaer Dathyl, yn Arfon, yr oedd Math yn wastadol. Ac ni allai gylchu ei wlad; namyn Gilfaethwy fab Don, ac Efeydd fab Don, ei neiaint feibion ei chwaer, a'r teulu gyda hwy gylchu y wlad drosto. Ac yr oedd Goewin gyda Math yn wastadol, ac yntau, Gilfaethwy fab Don, a ddodes ei fryd ar y forwyn, a'i charu hyd na wyddai beth a wnai am dani. Ac am hynny, wele, ei liw a'i wedd a'i ansawdd yn adfeilio o'i chariad, hyd nad oedd hawdd ei adnabod. Un diwrnod, sylwodd Gwydion, ei frawd, yn graff arno.

"Ha was," ebe ef, "beth a ddigwyddodd i ti?"

"Paham?" ebe yntau. "Beth a weli arnaf?"

"Gwelaf golli o honot dy bryd a'th liw,—a pha beth a ddigwyddodd iti?"

"Arglwydd frawd," ebe ef, "ni ffrwytha i mi addef i neb yr hyn a ddigwyddodd i mi."

"Beth yw, frawd?" ebe yntau.

"Ti a wyddost," ebe ef, gynneddf Math fab Mathonwy, pa sibrwd bynnag, er bychaned a fo rhwng dynion, os cyfarfyddo y gwynt âg ef, efe a'i gwybydd."

"Ie," ebe Gwydion, "taw di bellach. Mi a wn dy feddwl di,—caru Goewin yr wyt ti."

A phan wybu Gilfaethwy wybod o'i frawd ei feddwl, dododd ochenaid drymaf yn y byd.

"Taw, enaid, a'th ocheneidio," ebe ef, "nid felly y gorfyddir. Minnau a baraf, canys ni ellir heb hynny, gynnull Gwynedd, a Phowys a'r Deheubarth, i geisio y forwyn. A bydd lawen di, a mi a'i paraf iti."

Wedi hynny, aethant at Fath fab Mathonwy. "Arglwydd," ebe Gwydion, "mi a glywais ddyfod i'r Deheu ryw bryfed na fu yn yr ynys hon erioed."

"Beth yw eu henw hwy?" ebe ef.

"Hobeu, arglwydd."

"Pa fath anifeiliaid yw y rhai hynny?"

"Anifeiliaid bychain, gwell eu cig na chig eidion. Bychain ydynt, ac y mae arnynt fwy nag un enw,— moch y gelwir hwy weithiau."

Pwy piau hwy?"

Pryderi fab Pwyll. Anfonwyd hwy iddo o Annwn, gan Arawn, brenin Annwn." (Ac yr ydym eto yn cadw o'r enw hwnnw hanner hwch, hanner hob).

"Ie," ebe ef, "pa fodd y ceir hwy ganddo?"

"Mi a af yn un o ddeuddeg, arglwydd, yn rhith beirdd, i erchi y moch." "Fe eill eich nacau," ebe yntau.

"Nid drwg im fyned, arglwydd," ebe ef, "ni ddeuaf oddiyno heb y moch."

Fel y daeth y moch i Wynedd"Cerdda rhagot, yn llawen," ebe Math. Ac aeth ef a Gilfaethwy a deg o wyr gyda hwynt hyd y fan a elwir yn awr Rhuddlan Teifi, yng Ngheredigion, lle yr oedd llys Pryderi. Aethant i fewn yn rhith beirdd, a llawen fuwyd wrthynt. A'r nos honno eisteddai Gwydion wrth ochr Pryderi.

"Ie," ebe Pryderi, da fuasai gennym gael chwedl gan rai o'r gwŷr ieuainc acw."

"Moes yw gennym ni, arglwydd," ebe Gwydion, "y nos gyntaf y deler at ŵr mawr, i'r pencerdd ddywedyd. A mi a ddywedaf chwedl yn llawen."

A'r goreu yn y byd am ddweyd chwedl oedd Gwydion.

A'r nos honno diddanodd y llys âg ymddiddanion digrif a chwedlau nes oedd hoff gan bawb yn y llys, a diddan oedd gan Bryderi ymddiddan âg ef. Ac wedi hynny gofynnodd Gwydion,—

"Arglwydd, a ofyn neb fy neges gennyt yn well na myfi fy hun?"

"Na wna," ebe yntau, "tafod rwydd yw dy un di."

Dyma fy neges innau, arglwydd," ebe ef. Erfyn gennyt yr anifeiliaid anfonwyd iti o Annwn."

"Ie," ebe yntau, "hawddaf yn y byd fuasai hynny oni bai fod amod rhyngof â'm gwlad am danynt, sef yw hynny, nad elo y moch oddi wrthyf oni hiliont eu rhif ddwywaith yn y wlad."

Arglwydd," ebe yntau, gallaf dy ryddhau o'r amod yna.

Ac fel hyn y gallaf. Na ddyro y moch im' heno, ac na naca fi ohonynt, ac yfory danghosaf gyfnewid i ti am danynt."

A'r nos honno aeth ef a'i gydymdeithion i'r llety i gymryd cyngor.

"Ha wŷr," ebe ef, "ni chawn ni y moch er eu herchi."

"Wel," ebe hwythau, "drwy ba fedr y ceir hwy?"

"Mi a baraf eu cael," ebe Gwydion.

Yna yr aeth ef at ei gelfyddydau, a dechreuodd ddangos ei hud, a hudodd ddeuddeg march rhyfel; a deuddeg milgi bronwyn du, pob un ohonynt a deuddeg torch a deuddeg cadwyn wrthynt, a'r neb ar a'u gwelai ni wyddent na baent aur; a deuddeg cyfrwy ar y meirch, ac ymhob lle y dylai fod haearn arnynt yr oedd aur i gyd; a ffrwynau o'r un defnydd. Ac aeth a'r cŵn a'r meirch at Pryderi.

"Dydd da iti, arglwydd," ebe ef.

"Duw a roddo dda iti," ebe yntau, a chroesaw iti.' Arglwydd," ebe ef, "dyma ryddid i ti am y gair a ddywedaist neithiwr am y moch, na roddet ac na werthet hwy. Ti a elli eu cyfnewid er a fo gwell. Minnau a roddaf iti y deuddeg march yma fel y maent yn gywir, a'u cyfrwyau a'u ffrwynau; a'r deuddeg milgi, a'u coleri a'u cadwynau fel y gweli; a'r deuddeg tarian euraidd a weli di acw."

Y rhai hynny a rithiasai ef o fwyd llyffant.

"Ie," ebe ef, "ni a gymerwn gyngor."

Ac yn y cyngor penderfynwyd rhoddi'r moch i Gwydion, a chymryd y meirch a'r cŵn a'r tariannau ganddo yntau. Yna y cymerasant hwythau gennad, a dechreuasant gerdded â'r moch.

"Ha, gyd-deithwyr," ebe Gwydion, "rhaid i ni gerdded yn brysur, ni phery yr hud ond diwrnod."

A'r nos honno y cerddasant hyd yng ngwarthaf Ceredigion, y lle a elwir eto o achos hynny Mochdref.

Trannoeth cymerasant eu hynt dros Elenydd, a'r nos honno y buont rhwng Ceri ac Arwystli, yn y dref a elwir hefyd am hynny Mochdref. Ac oddiyno cerddasant rhagddynt, a'r nos honno daethant i gwmwd ym Mhowys, a elwir ar ol hynny Mochnant. buont y nos honno. Ac oddi yno cerddasant hyd yng nghantref Rhos, ac yno y buont y nos honno mewn tref a elwir eto Mochdref.

"Ha wŷr," ebe Gwydion, "ni a gyrchwn gadernid Gwynedd â'r anifeiliaid hyn. Mae un yn ymfyddino yn ein hol." A chyrchasant y dref uchaf yn Arllechwedd. Ac yno y gwnaethant greu i'r moch, ac ar ol hynny y galwyd y dref Creuwyrion. Ac wedi gwneuthur y creu i'r moch, aethant i Gaer Dathl, at Fath fab Mathonwy. A phan ddaethant yno, yr oeddis yn cynnull y wlad.

"Pa newyddion sydd yma?" ebe Gwydion.

"Cynnull y mae Pryderi," ebe hwy, "ar eich hol chwi un cantref ar hugain. Rhyfedd i chwi fod mor hir yn cerdded."

"Pa le mae'r anifeiliaid yr aethoch yn eu cylch?" ebe Math.

"Y maent wedi gwneuthur creu iddynt yn y cantref arall isod," ebe Gwydion.

Ar hynny, clywent yr utgyrn a'r ymgynnull yn y wlad. Yna gwisgasant hwythau eu harfau ac aethant hyd ym Mhennardd, yn Arfon. A'r nos honno dychwelodd Gwydion, fab Don, a Chilfaethwy ei frawd, i Gaer Dathl, at Goewin. A gwnaeth Gwydion i Goewin briodi Gilfaethwy y noson honno.

Pan welsant y dydd drannoeth, aethant i'r lle yr oedd Math fab Mathonwy a'i lu. Ac yr oedd y gwŷr hynny yn myned i gymryd cyngor pa du yr arhosent Pryderi a gwŷr y Deheu; ac i'r cyngor yr aethant hwythau. Ac yn y cyngor penderfynasant aros yng nghadernid Gwynedd, yn Arfon. Ac ynghanol y ddwy faenor yr aroshasant, maenor Pennar, a maenor Coed Alun. Pryderi a ddaeth i'w herbyn hwy, ac yno y bu brwydr, a lladdwyd nifer fawr o bob ochr, a bu raid i wyr y Deheu encilio. Ac enciliasant hyd y lle a elwir eto Nantcoll. Hyd yno yr ymlidiwyd hwy, lle bu lladdfa ddifesur ei maint. Yna y ciliasant hyd y lle a elwir Dolbenmaen, yno y rhoddasant eu harfau i lawr gan geisio heddwch, a gwystl a roddodd Pryderi i gadw'r heddwch, sef Gwrgi Gwastra yn un o bedwar ar hugain o feibion gwŷr—da.

Yna cerddasant mewn heddwch hyd y Traeth Mawr, ond wedi cyrraedd Melenryd, ni ellid atal y gwŷr traed Fel y bu farw Pryderi ymsaethu. Gyrrodd Pryderi genhadon at Fath fab Mathonwy, i ofyn iddo wahardd ei wŷr saethu, a gadael y mater rhyngddo ef a Gwydion fab Don, canys ef achosodd yr ymladd. Aeth y cenhadau at Fath.

"Ie," ebe Math, yn wir, os da gan Gwydion fab Don hyn, mi a'i caniataf yn llawen. Ni chymhellaf finnau neb fyned i ymladd heb wneuthur o honom ninnau ein gallu."

"Yn wir," ebe'r cenhadau, "teg, medd Pryderi, yw i'r gŵr barodd hyn o gam iddo ddodi ei gorff yn erbyn ei gorff yntau, a gadael ei deulu yn segur."

"Yn wir," ebe Gwydion, "ni archaf i wŷr Gwynedd ymladd droswyf fi, a minnau fy hun yn cael ymladd â Phryderi,—mi a ddodaf fy nghorff yn erbyn ei gorff yntau yn llawen."

Mynegwyd hynny i Pryderi.

"Ie," ebe Pryderi, "ni archaf finnau neb ofyn fy iawn namyn fy hun."

Y gwŷr hynny a neilltuwyd, a dechreuodd y ddau wisgo eu harfau. Ac ymladd a wnaethant. Ac o nerth grym, a llid, a hud, a lledrith Gwydion, lladdwyd Pryderi. Ac ym Maen Tyfiawg, uwch Melenryd, y claddwyd ef, ac yno y mae ei fedd.

Gwyr y Deheu a gerddasant yn drist eu gwedd tua'u gwlad, ac nid rhyfedd hynny,—eu harglwydd gollasant, a llawer o'u goreu-wŷr, a'u meirch a'u harfau gan mwyaf. Ond yn llawen a gorfoleddus y dychwelodd gwŷr Gwynedd.

Arglwydd," ebe Gwydion wrth Fath, onid yw iawn i ni ollwng i wyr y Deheu eu gwystlon a wystlasant i ni er tangnefedd, ac ni ddylem eu carcharu?"

Rhyddhaer hwy," ebe Math.

A'r gwas hwnnw, a'r gwystlon oedd gydag ef, a ollyng- wyd ar ol gwŷr y Deheu.

Yntau Math a aeth tua Chaer Dathyl.

Gilfaethwy fab Don, a'r gwŷr fu gydag ef, gyrchasant i gylchu Gwynedd yn ol eu harfer, a heb fyned i'r llys. Yntau Math a gyrchodd ei ystafell, ac a barodd i Goewin weini arno fel cynt.

'Arglwydd," ebe Goewin, "cais forwyn i weini arnat, gwraig wyf fi."

Pa ystyr yw hynny ? ebe ef.

Dy neiaint, arglwydd, feibion dy chwaer Gwydion ab Don a Gilfaethwy ab Don, a ddaethant; a phriodasant fi â Gilfaethwy drwy drais."

Fel y cosbwyd Gwydion ab Don Mynnaf iawn ganddynt," ebe Math.

Ac yn hynny ni ddaethant hwy yng nghyfyl y llys, ond trigo o gylch y wlad a wnaethant hyd nes y gwaharddwyd rhoddi bwyd a diod iddynt. Ni ddaethant yn ei gyfyl ef i ddechreu; ac yna daethant hwy ato ef. "Arglwydd," ebe hwynt, "dydd da it." "Ie," ebe yntau, "ai i wneuthur iawn i mi y daethoch chwi?"

Arglwydd, i'th ewyllys yr ydym."

"Pe fy ewyllys, ni chollwn a gollais o wyr ac arfau, ni fuasai cywilydd i mi o briodi'r forwyn drwy drais yn fy llys, heb son am angau Pryderi. A chan y daethoch i'm hewyllys, mi a ddechreuaf bennyd arnoch."

Ac yna y cymerth ei hudlath ac y tarawodd Gilfaethwy nes oedd yn garw. A mynnai y llall ddianc, ond nis gallai; tarawodd Math ef â'r un hudlath nes oedd yntau hefyd yn garw.

"Yn rhwymedigaeth i chwi, mi a wnaf i chwi gerdded ynghyd, ac yn un anian â'r gwylltfilod yr ydych yn eu rhith. A blwyddyn i heddyw dowch yma ataf fi." Ymhen y flwyddyn i'r undydd, clywai sŵn dan bared yr ystafell, a chyfarthfa cŵn y llys am ben y sŵn.

"Edrych," ebe yntau, "beth sydd allan."

Arglwydd," ebe un, "mi a edrychais, y mae yno ddau garw."

Ac ar hynny cyfodi wnaeth yntau, a dyfod allan. A gwelai'r ddau garw. Cododd yr hud oddiarnynt.

Bydd di faedd coed eleni," ebe fe wrth bob un ohonynt. Ac ar hynny eu taro â'r hudlath a wnaeth. "A'r anian a fo i'r moch coed, bydded i chwithau. A blwyddyn i heddyw byddwch yma dan y pared."

Ymhen y flwyddyn clywent gyfarthfa cŵn dan bared yr ystafell, a'r llys yn ymgynnull at ei gilydd. Ar hynny, cyfodi a wnaeth yntau, Math, a dyfod allan. A phan ddaeth allan, gwelodd ddau fochyn coed.

Byddwch fleiddiaid eleni," ebe ef.

Ac ar hynny taro â'r hudlath a wnaeth.

Ac anian yr anifeiliaid yr ydych yn eu rhith, boed i chwithau. A byddwch yma flwyddyn i'r dydd heddyw dan y pared hwn."

Yr undydd ymhen y flwyddyn, clywai ymgynnull a chyfarthfa cŵn dan bared yr ystafell. Cododd yntau allan, a gwelai ddau flaidd. Ac ar hynny tarawodd y ddau â'r hudlath hyd nes oeddynt yn eu cnawd eu hunain.

"Ha wyr," ebe ef, " os gwnaethoch gam i mi, digon y buoch dan eich pennyd, a chywilydd mawr a gawsoch. Perwch enaint i'r gwŷr," ebe ef, a golchi eu pennau a'u cyweirio."

A hynny a barwyd iddynt. Ac wedi ymgyweirio ohonynt, ato ef y cyrchasant.

"Ha wŷr," ebe ef, "tangnefedd a gawsoch, a chared— igrwydd a gewch."

"Ha wŷr," ebe Math wrth Wydion fab Don a Gilfaethwy fab Don, a roddwch im gyngor pa forwyn a geisiaf i weini i mi yn lle Goewin?"

'Arglwydd," ebe Gwydion fab Don, "hawdd yw dy gynghori, Aranrod, ferch Don, dy nith, ferch dy chwaer."

A honno a gyrchwyd ato. Ond yr oedd Aranrod yn briod yn ddirgel, ac yr oedd iddi ddau fab. Trwy hud Math, daeth ei mab a'i baban newydd eni i'r llys. Mab brasfelyn mawr oedd y mab, ond cymerth Gwydion y baban cyn i neb weled yr ail olwg arno, ac a droes len o bali yn ei gylch, ac a'i cuddiodd ef. A'r lle y cuddiodd ef oedd mewn llawr cist îs traed ei wely.

"Ie," ebe Math fab Mathonwy, wrth y mab brasfelyn, "mi a baraf fedyddio hwn, sef enw a baraf arno,— Dylan."

Bedyddio y mab a wnaethpwyd; ac fel y bedyddiwyd ef y môr a gyrchodd. A chydag y daeth i'r môr, anian y môr a gafodd, a chystal y nofiai a'r pysg goreu yn y môr. Ac oherwydd hynny y gelwid ef Dylan Eilton. Ni thorres ton dano erioed. A'r ergyd y daeth ei angau o honi a fwriodd Gofannon, ei ewythr, a honno a fu drydedd anfad ergyd."

Fel yr oedd Gwydion un diwrnod yn ei wely, ac yn deffroi, ef a glywai lef yn y gist is ei draed; ac er nad oedd yn uchel, cyfuwch oedd ag y clywai Fel y gwelwyd Llew Llaw Gyffes gyntaf ef. Sef a wnaeth yntau cyfodi yn gyflym ac agor y gist, ac fel yr agorai hi, ef a welai fab bychan yn rhwyfo ei freichiau o blyg y llen ac yn ei gwasgaru. Ac ef a gymerodd y mab rhwng ei ddwylaw, ac a gyrchodd âg ef i dref, lle y gwyddai fod gwraig a bronnau ganddi, a chytunodd â'r wraig feithrin y mab. A'r mab a fagwyd y flwyddyn honno; ac ymhen y flwyddyn rhyfedd oedd ganddynt ei fod gymaint a phe bai ddwyflwydd. A'r ail flwyddyn mab mawr oedd, ac yn gallu cerdded i'r llys ei hun. Yntau ei hun, Gwydion, wedi dyfod i'r llys a sylwodd arno, a'r mab a ymgynefinodd âg ef, ac a'i carodd yn fwy nag undyn. Yna y magwyd y mab yn y llys hyd oni fu bedair blwydd. A rhyfedd oedd i fab wyth mlwydd fod gymaint ag ef. Un diwrnod efe a gerddodd yn ol Gwydion i orymdeithio allan. Sef a wnaeth Gwydion cyrchu Caer Aranrod, a'r mab gydag ef. Wedi ei ddyfod i'r llys, cyfodi a wnaeth Aranrod i'w gyfarfod, a'i groesawu a chyfarch gwell iddo.

"Duw a roddo dda it," ebe efe.

"Pa fab sydd o'th ol di?" ebe hi.

"Y mab hwn, mab i ti yw," ebe ef.

"Ha ŵr, pam y doi arnat ti fy nghywilydd i,—a dilyn fy nghywilydd, a'i gadw cyhyd a hyn?"

Oni bydd arnat ti gywilydd mwy na meithrin o honwyf fi fab cystal a hwn, bychan o beth fydd dy gywilydd."

Pwy enw fedd dy fab di?" ebe hi.

"Yn wir," ebe ef, "nid oes arno un enw eto."

"Ie," ebe hithau, "mi a dyngaf dynged iddo na chaffo ef enw oni chaffo gennyf fi."

"Myn fy nghyffes," ebe ef, "gwraig ddiriaid wyt, a'r mab a gaiff enw, er fod hynny'n ddrwg gennyt ti."

Ac ar hynny cerdded ymaith drwy ei lid a wnaeth, a chyrchu Caer Dathyl. Ac yno y bu y nos honno. A thrannoeth cyfodi a wnaeth, a chymryd y mab gydag ef, ' a myned i orymdaith gyda glan y weilgi, rhwng hynny ac Aber Menai. A phan welodd hesg a môr-wiail, rhithio llongau a wnaeth. Ac o'r gwymon a'r hesg rhithiodd lawer o gordwal, gan ei fritho hyd na welodd neb ledr tecach nag ef. Ac ar hynny cyweirio hwyl ar y llong a wnaeth, gan ddyfod i ddrws porth Caer Aranrod, ef a'r mab yn y llong, a dechreu llunio esgidiau a'u gwnio. Ac yna canfyddwyd hwy o'r gaer, a phan wybu yntau eu darganfod o'r gaer, newid ei ffurf ef a'r mab a wnaeth, a dodi ffurf arall, fel nad adnabid hwy.

Pa ddynion sydd yn y llong?" ebe Aranrod.

Cryddion," ebe hwy.

"Ewch i edrych pa ryw ledr sydd ganddynt, a pha ryw waith a wnant."

Yna yr aethpwyd atynt, a phan ddaethpwyd, yr oedd Gwydion yn britho cordwal, a hynny'n euraidd. Yna y daeth y cenhadau a mynegi iddi hi hynny.

"Ie," ebe hi, "dygwch fesur fy nhroed, ac erchwch i'r crydd wneuthur esgid im."

Fel y cafodd Llew Llaw Gyffes enwYntau a luniodd yr esgidiau, ac nid wrth y mesur, namyn yn fwy.

Rhy fawr yw y rhai hyn," ebe hi. "Ef a gaiff werth y rhai hyn; gwnaed hefyd rai a fo llai na hwynt."

Sef a wnaeth yntau gwneuthur rhai eraill yn llai lawer na'i throed, a'u hanfon iddi.

Hynny a ddywedwyd wrthi.

"Ie," ebe hi, " mi a af hyd ato ef."

Dywedwch wrtho nid da i mi y rhai hyn," ebe hi. Ac fe a ddywedwyd hynny iddo.

"Ie," ebe yntau, "ni luniaf fi esgidiau iddi oni welwyf ei throed."

Ac yna y daeth hi hyd y llong; a phan ddaeth, yr oedd ef yn ilunio a'r mab yn gwnio.

"Ie, arglwyddes," ebe ef, "dydd da it."

"Duw a roddo dda it," ebe hithau. "Rhyfedd yw gennyf na fedri gymedroli ar wneuthur esgidiau wrth fesur."

"Ni fedrais," ebe yntau, "mi a fedraf yn awr."

Ac ar hynny, dyma ddryw yn sefyll ar fwrdd y llong.

Sef a wnaeth y mab, bwrw ergyd, a'i daraw rhwng gewyn ei goes a'r asgwrn.

Sef a wnaeth hithau chwerthin,—

"Yn wir," ebe hi, "â llaw gyffes y tarawodd y llew ef."

"Ie," ebe yntau, "aniolch Duw iti, fe gafodd y mab enw, a da ddigon yw'r enw. Llew Llaw Gyffes yw bellach."

Ac yna diflannodd y gwaith, yn hesg ac yn wymon, ac ni chanlynodd efe y gwaith yn hwy na hynny. Ac o achos hynny y gelwid ef yn drydydd eurgrydd.

"Yn wir," ebe hi, "ni byddi di well o fod yn ddrwg wrthyf fi."

"Ni fum ddrwg eto wrthyt ti," ebe ef.

Ac yna y gollyngodd ef y mab i fod yn ei bryd ei hun.

"Ie," ebe hithau, "minnau a dyngaf dynged i'r mab hwn,—na chaffo arfau byth oni wisgwyf fi am dano." "Yn wir," ebe ef, "er a ddêl o'th ddireidi, efe a gaiff arfau."

Yna y daethant hwy parth a Dinas Dinllef. Ac yno meithrinwyd Llew Llaw Gyffes oni allai farchogaeth Fel y cafodd Llew Llaw Gyffes arfaupob march, ac onid oedd gyflawn o bryd, a thwf a maint. Ac yna adnabu Gwydion arno ei fod yn dihoeni o eisiau meirch ac arfau; a galwodd ef ato.

"Ha was," ebe ef, "ni awn, fi a thi, i neges yfory; a bydd lawenach nag ydwyt." "A hynny a wnaf innau," ebe y gwas.

Ac yn ieuenctid y dydd drannoeth cyfodi a wnaethant, a chymryd yr arfordir i fyny tua Bryn Arien; ac yn y pen uchaf i Gefn Clydno ymgyweirio ar feirch a wnaethant, a dyfod parth a Chaer Aranrod. Ac yna newid eu pryd a wnaethant, a chyrchu y porth yn rhith dau was ieuanc, eithr fod yn bruddach bryd Gwydion nag un y gwas.

"Y porthor," ebe ef, "dos i fewn, a dywed fod yma feirdd o Forgannwg."

Y porthor a aeth.

"Croesaw calon iddynt. Gollwng hwy i mewn,' ebe hi.

A dirfawr lawenydd a gawsant, y neuadd a gyweiriwyd, ac i fwyta yr aethant. Wedi darfod bwyta, ymddiddan a wnaeth hi a Gwydion am chwedlau ac ystorïau. A chwedleuwr da oedd Gwydion. Pan ddaeth yn amser ymadael â'r gyfeddach, ystafell a gyweiriwyd iddynt hwy, ac i gysgu yr aethant. Ar hir blygain Gwydion a gyfododd, ac a alwodd ato ei hud a'i allu. Erbyn pan oedd y dydd yn goleuo, yr oedd cyniwair ac utgyrn a llefain yn y wlad i gyd. Pan ydoedd y dydd yn dyfod, hwy a glywent daro drws yr ystafell, ac ar hynny Aranrod yn erchi iddynt agor. Cyfodi a wnaeth y gwas ieuanc, ac agor. Hithau a ddaeth i mewn, a morwyn gyda hi.

"Ha, wyr-da," ebe hi, "mewn lle drwg yr ydym."

"Ie," ebe yntau, "ni a glywn utgyrn a llefain. Beth a debygi di o hynny?" "> "Yn wir," ebe hi, ni chawn weled lliw y weilgi gan bob llong ar dor ei gilydd. Ac y maent yn cyrchu y tir gyntaf y gallant. A pha beth a wnawn ni? ebe hi.


Arglwyddes," ebe Gwydion, "nid oes un cyngor ond cau y gaer arnom, a'i chynnal goreu gallom."

"Ie," ebe hithau, "Duw a dalo i'ch, a chynheliwch chwithau. Ac yma y cewch ddigon o arfau."

Ac ar hynny, yn ol yr arfau yr aeth hi. A dyma hi yn dyfod, a dwy forwyn gyda hi, ac arfau dau ŵr ganddynt.


"Arglwyddes," ebe ef, "gwisg am y gŵr ieuanc hwn; a minnau, fi a'r morynion, a wisgaf am danaf finnau. Mi a glywaf dwrf y gwŷr yn dyfod."

"Hynny a wnaf yn llawen."

A gwisgo a wnaeth hi amdano ef yn llawen ac yn gwbl.

"A ddarfu i ti wisgo am y gŵr ieuanc hwn?"

"Darfum."

"Fe ddarfum innau," ebe ef.

"Diosgwn ein harfau weithion, ni raid i ni wrthynt."

"Och," ebe hithau, "paham ? Dyma y llynges o gylch y tŷ."

"Na, wraig, nid oes yma un lynges."

"Och," ebe hithau, " pa ryw gynnull a fu arni?"

"Dygynnull," ebe yntau, "i dorri dy dynghedfen am dy fab, ac i geisio arfau iddo; ac fe gafodd ef arfau heb ddiolch i ti."

"Yn wir, yn wir," ebe hithau, "gŵr drwg wyt ti, ac feallai i lawer mab golli ei fywyd am y dygynnull a beraist ti yn y c'antref hwn heddyw. A mi a dyngaf dynged i'r mab," ebe hi, na chaffo wraig byth o'r genedl y sydd ar y ddaear hon yr awr hon."

"Ie," ebe yntau, gwraig anfwyn fuost erioed, ac ni ddylai neb fod yn borth iti; a gwraig a gaiff ef fel cynt."

Hwythau a ddaethant at Fath fab Mathonwy, a chwyno yn drist rhag Aranrod a wnaethant, a mynegi fel y parasai yr arfau iddo.

Fel y cafodd Llew Llaw gyffes wraig"Ie," ebe Math, "ceisiwn ninnau, fi a Fel y thi, â'n hud a lledrith, rithio gwraig iddo cafodd yntau o'r blodau. Ac yntau a maint gŵr Llew Llaw ynddo, ac yn harddaf gwas a welodd Gyffes wraig. dyn erioed."

Ac yna y cymerasant hwy flodau y deri, blodau y banadl, a blodau yr erwain; ac o'r rhai hynny ffurfio, drwy swyn, y forwyn decaf a thlysaf a welodd dyn erioed, a'i bedyddio o'r bedydd a wnaent yr adeg honno, a dodi Blodeuwedd yn enw arni.

Wedi y briodas a'r wledd, "Nid hawdd," ebe Gwydion. "i ŵr heb deyrnas ganddo ymdeithio."

"Ie," ebe Math, mi a roddaf iddo yr un cantref goreu i was ieuanc ei gael."

Arglwydd," ebe ef, "pa gantref yw hwnnw?" "Cantref Dinodig," ebe ef (a hwnnw a elwir yr awr hon Eifionnydd ac Ardudwy). A'r lle ar y cantref y cyfaneddwyd llys iddo yw y lle elwir Mur y Castell, yng ngwrthdir Ardudwy. Ac yno y cyfaneddodd efe ac y gwladychodd, a phawb a fu foddlawn iddo a'i arglwyddiaeth.

Ac yna ar ei dro cyrchu a wnaeth Llew Llaw Gyffes tua Chaer Dathyl, i ymweled â Math fab Mathonwy. Y dydd yr aeth ef tua Chaer Dathyl, cerdded o fewn y llys a wnaeth Blodeuwedd. A hi a glywai lef corn, ac wedi llef y corn dyma hydd blin yn myned heibio, a chŵn a helwyr yn ei ol; ac yn ol y cŵn a'r helwyr bagad o wyr ar draed yn dyfod.

"Danfonwch was," ebe hi, "i wybod pwy yw y nifer acw."

Y gwas a aeth, gan ofyn pwy oeddynt.

"Gronw Pebyr yw hwn," ebe hwy, "y gŵr y sydd arglwydd ar Benllyn."

Hynny ddywedodd y gwas iddi hithau. Yntau a gerddodd yn ol yr hydd, ac ar afon Gynfael goddiweddodd a lladdodd yr hydd. Ac yn blingo yr hydd a llithio ei gŵn y bu oni wasgodd y nos arno. A phan ydoedd y dydd yn adfeilio a'r nos yn neshau, efe a ddaeth at borth y llys.

"Yn wir," ebe Blodeuwedd, "ni a gawn ein goganu gan yr unben, os gadawn iddo fyned i le arall ar awr fel hon, onis gwahoddwn ef."

"Yn wir arglwyddes," ebe hwy, "iawnaf yw ei wahodd"

Yna yr aeth cenhadau i'w gyfarfod i'w wahodd. Ac yna cymerodd ef y gwahoddiad yn llawen, ac a aeth i'r llys, ac aeth hithau i'w gyfarfod i'w groesawu, ac i gyfarch gwell iddo.

"Arglwyddes," ebe ef, "Duw a dalo i hela. iti dy garedigrwydd."

Wedi iddo ddiosg ei arfwisg, myned i eistedd a wnaethant. Sef a wnaeth Blodeuwedd edrych arno, ac o'r awr yr edrychodd nid oedd gyfair arni hi na bai llawn o gariad ato ef. Ac yntau a fyfyriodd arni hithau, a'r un meddwl a ddaeth iddo ef ac a ddaeth iddi hithau. Ni allai ymgelu ei fod yn ei charu, a'i fynegi iddi a wnaeth. Hithau a gymerth ddirfawr lawenydd, ac o achos y serch a'r cariad a roddasai pob un ohonynt ar ei gilydd y bu eu hymddiddan y nos honno. A thrannoeth son a wnaeth am fyned ymaith.

"Yn wir," ebe hi, "nid ei oddi wrthyf fi heno."

A'r noson honno y bu ymgyngor ganddynt pa ffurf y gallent fod gyda'i gilydd.

"Nid oes gyngor," ebe ef, "ond un,—ceisio cael gwybod ganddo ymha ffurf y dêl ei angau, a hynny yn rhith ymgeledd am dano."

Trannoeth, son am fyned ymaith wnaeth.

"Yn wir, ni chynghoraf it heddyw fyned oddi wrthyf fi."

"Yn wir, gan na chynghori dithau, nid af finnau," ebe ef. "Mi a ddywedaf hefyd fod yn berigl i'r unben biau y llys ddyfod adref." "Ie," ebe hi, "yfory mi a'th ganiataf di i fyned ymaith"

Trannoeth, son am fyned ymaith a wnaeth, ac ni luddiodd hithau ef.

"Ie," ebe yntau, "coffa a ddywedais wrthyt, ac ymddiddan yn ddwys âg ef, a hynny yn rhith ysmaldod cariad ag ef, a dysg oddiwrtho pa ffordd y gallai ddyfod ei angau."

Yntau a ddaeth adref y nos honno. Treulio y dydd a wnaethant trwy ymddiddan a cherdd a chyfeddach. Ac efe a ddywedodd barabl wrthi, ac er hynny parabl nis cafodd ef ganddi.

"Pa beth a ddarfu iti?" ebe ef. "A wyt iach di?"

"Meddwl yr wyf," ebe hi, " yr hyn ni feddyliet di am danaf fi; sef yw hynny," ebe hi, "gofalu am dy angau di, os eli yn gynt na myfi."

"Ie," ebe ef, "Duw a dalo it dy ymgeledd. Oni ladd Duw fi, nid hawdd fy lladd i." . "A wnei dithau, er Duw ac erof finnau, fynegi i mi pa ffurf y galler dy ladd di? Canys gwell yw fy nghof i na'th un di i'w ochelyd."

"Dywedaf yn llawen," ebe ef. "Nid hawdd fy lladd i ond âg ergyd. A rhaid bod blwyddyn yn gwneuthur y bar y'm tarewid ag ef, ac heb wneuthur dim ohono namyn pan fyddid ar yr aberth ddydd Sul."

"Ai diogel hynny?" ebe hi.

"Diogel yn wir," ebe ef. "Ni ellir fy lladd i mewn tŷ," ebe ef, "ni ellir allan, ni ellir fy lladd i ar farch, ni ellir ar fy nhroed."

"Ie," ebe hithau, "pa ddelw y gellir dy ladd di?"

"Gwneuthur enaint im ar lan afon; a gwneuthur cromglwyd uwchben y gerwyn, a'i thoi yn dda ac yn ddiddos wedi hynny. A dwyn bwch," ebe ef, a'i ddodi gerllaw y gerwyn, a dodi o honof finnau y naill droed ar gefn y bwch, a'r llall ar ymyl y gerwyn. Pwy bynnag a'm tarawai i felly a barai fy angau."

"Ie," ebe hithau, " diolchaf i Dduw hynny. Gellir dianc rhag hynny yn hawdd."

Nid cynt nag y cafodd hi yr ymadrodd nag y danfonodd at Gronw Pebyr. Gronw a lafuriodd waith y waew, a'r un dydd ymhen y flwyddyn y bu barod. A'r dydd hwnnw y parodd ef i Flodeuwedd wybod hynny.

"Arglwydd," ebe hi, meddwl yr wyf pa ddelw y gall fod yn wir a ddywedaist di gynt wrthyf fi. Ac a ddanghosi di i mi pa ffurf y safit ti ar ymyl y gerwyn a'r bwch, os paraf fi yr enaint?

"Danghosaf," ebe ef.

Hithau a anfonodd at Ronw, ac a archodd iddo fod yng nghysgod y bryn a elwir yn awr Bryn Cyfergyr, yng nglan afon Gynfael.

A hi a barodd gynnull a ellid gael o eifr yn y cantref, a'u dwyn i'r parth draw i'r afon, gyfer—wyneb á Bryn Cyfergyr.

A thrannoeth hi a ddywedodd,—

"Arglwydd," ebe hi, "mi a berais gyweirio y glwyd a'r enaint,— maent yn barod."

"Ie," ebe ef, awn i'w hedrych yn llawen".

Hwy a ddaethant drannoeth i edrych yr enaint.

"Ti a ei i'r enaint, arglwydd?" ebe hi.

Af yn llawen," ebe ef. Ac efe a aeth i'r enaint, ac ymeneinio a wnaeth.

Arglwydd," ebe hi, "dyma'r anifeiliaid a ddywedaist di fod bwch ynddynt."

"Ie," ebe ef, "par ddal un ohonynt, a phar ei ddwyn yma."

Fel y tarawyd Llew Llaw GyffessA'r bwch a ddygwyd. Yna y cyfododd ef o'r enaint, a gwisgodd ei lodrau am dano; a dodi ei naill droed ar ymyl y gerwyn, a'r llall ar gefn y bwch. Yntau Gronw a gyfododd i fyny o'r bryn a elwir Bryn Cyfergyr. Ac ar ben y naill lin y cyfododd, ac â'r waew wenwynig y bwriodd ac y tarawodd Llew Llaw Gyffes yn ei ystlys oni neidiodd y paladyr ohoni, a glynu o'r pen ynddo. A dodi gwaedd anhygar a wnaeth Llew, gan ddechreu ehedeg yn rhith eryr, ac ni welwyd ef o hynny allan. Cyn gyflymed yr aeth ef ymaith y cyrchasant hwythau y llys. A'r noson honno priodi a wnaethant. A thrannoeth cyfodi a wnaeth Gronw, a goresgyn Ardudwy. Wedi goresgyn y wlad, ei gwladychu a wnaeth hyd onid oedd yn eiddo iddo Ardudwy a Phenilyn.

Yna y chwedl a aeth at Math fab Mathonwy. Trymfryd a phryder a gymerodd Math, a Gwydion lawer mwy nag yntau.

Arglwydd," ebe Gwydion, ni orfiwysaf fyth oni chaffwyf hanes am fy nai."

"Ie," ebe Math, "Duw a fo nerth it."

Ac yna cychwyn a wnaeth ef, a dechreu rhodio rhagddo. A rhodio Gwynedd a wnaeth, a Phowys i'w therfyn. Wedi darfod iddo rodio felly, Fel y chwiliodd Gwydion fab Don am ei naiefe a ddaeth hyd yn Arfon, ac a ddaeth i dŷ mab aillt ym maenor Pennardd. Disgyn wrth y tŷ a wnaeth, a thrigo yno y nos honno. Gŵr y tŷ a'i dylwyth a ddaeth i mewn, ac yn ddiweddaf y daeth gwas y moch. A gŵr y tŷ a ddywedodd wrth was y moch,—

"Ha was," ebe ef, "a ddaeth dy hwch di heno i mewn?"

"Daeth," ebe yntau, "yr awr hon y daeth at y moch." "Pa ryw gerdded," ebe Gwydion, "y sydd ar yr hwch honno?"

"Pan agorir y creu, beunydd yr a allan. Ni cheir craff arni, ac ni wybyddir pa ffordd yr a mwy na phe'r elai i'r ddaear."

A wnei di," ebe Gwydion, "erof fi, nad agorych y creu oni fyddwyf fi yn y naill ben i'r creu gyda thi?"

"Gwnaf yn llawen," ebe ef.

I gysgu yr aethant y nos honno, a phan welodd gwas y moch liw dydd, efe a ddeffrôdd Gwydion. A chyfodi a wnaeth Gwydion a gwisgo am dano, a dyfod gyda gwas y moch a sefyll wrth y creu, a chydag iddo ei agor, dyma hithau yn bwrw naid allan, a cherdded yn gyflym a wnaeth. A Gwydion a'i canlynodd. A chymryd gwrthwyneb afon a wnaeth, a chyrchu nant a elwir yn awr Nant y Llew. Ac yno gwastadhau a wnaeth a phori. Yntau Gwydion a ddaeth dan y pren, ac a edrychodd pa beth yr oedd yr hwch yn ei bori, ac ef a welai yr hwch yn pori cîg pwdr a chynron. Sef a wnaeth yntau edrych i frig y pren; a phan edrychodd, ef a welai eryr ym mrig y pren; a phan yr ymysgydwai yr eryr y syrthiai y pryfed a'r cîg pwdr ohono, a'r hwch yn ysu y rhai hynny. Sef a wnaeth yntau meddwl mai Llew oedd yr eryr, a chanu englyn,—

"Dar a dyf y rwng deu lenn.
Gorduwrych awyr a glen.
Ony dywetaf i eu ovlodeu.—
Llew pan yw hynn."

[1]

Sef a wnaeth yntau, yr eryr, ymollwng onid oedd ynghanol y pren. Sef a wnaeth yntau, Gwydion, canu englyn arall,[2]

"Dar a dyf yn ardd-vaes.
Nys gwlych glaw, nys mwytawdd.
Naw ugain angerdd a borthes.
Yn y blaen Llew Llaw Gyffes."

Yna yr ymollyngodd yntau onid oedd ar gainc isaf y pren. Canu englyn a wnaeth yntau iddo,[3]

"Dar a dyf dan anwaeret.
Mirein medur ym ywet.
Ony dywedaf i ef.
Dyddaw Llew ym harffet."

A disgynnodd yntau ar lin Gwydion, ac yna y tarawodd Gwydion yntau â hud—lath onid oedd yn ei rith ei hun.

Ni welsai neb olwg druanach yn wir nag oedd arno ef,— nid oedd ddim ond croen ac asgwrn. Yna cyrchu Caer Dathyl a wnaeth ef, ac yno y dygwyd a geffid o feddygon yng Ngwynedd ato, a chyn cyfyl y flwyddyn yr oedd yn holliach.

Arglwydd," ebe Llew Llaw Gyffes wrth Fath fab Mathonwy, "mad oedd i mi gael iawn gan y gŵr y cefais ofid ganddo."

"Yn ddiau," ebe math, "ni all ef ymgynnal a'th iawn di ganddo."

"TI," ebe yntau, "goreu gennyf fi po gyntaf y caffwyf iawn ganddo."

Yna dygyfor Gwynedd a wnaethant, a chyrchu Ardudwy. Gwydion a gerddodd yn ei flaen, a chyrchu Mur Castell a wnaeth. Sef a wnaeth Blodeuwedd clywed eu bod yn dyfod; cymryd ei morynion gyda hi a chyrchu Fel y cosbwyd Bloeuwedd i'r mynydd, a thrwy afon Cynfael, a chyrchu llys a oedd ar y mynydd. Ac ni allent gerdded rhag ofn namyn drach eu cefn; a cherddasant heb wybod oni syrthiasant yn y llyn, a boddasant oll eithr Blodeuwedd ei hunan. Ac yna goddiweddodd Gwydion hithau, ac a ddywedodd wrthi,—

Ni laddaf di; mi a wnaf sydd waeth â thi; sef yw hynny, dy ollwng yn rhith aderyn. Ac o achos y cywilydd a wnaethost di i Lew Llaw Gyffes, na feiddia dithau ddangos dy wyneb liw dydd byth. A hynny rhag ofn yr holl adar. A bydd yn anian iddynt dy faeddu a'th amharchu y lle y'th gaffont. Ni cholli dy enw, namyn dy alw fyth,—Blodeuwedd."

Sef yw Blodeuwedd, dylluan yn iaith yr awr hon; ac o achos hynny y mae digaswch yr adar at y dylluan.

A gelwir eto y ddylluan yn Flodeuwedd.

Yntau Gronw Pebyr a gyrchodd Benllyn, ac oddiyno ymgenhadu a wnaeth. Sef cenadwri a anfonodd,— gofyn a wnaeth i Lew Llaw Gyffes a fynnai ai tir ai daear ai aur ai arian am y sarhad.

"Na chymeraf, i Dduw y dygaf fy nghyffes," ebe ef, a dyma y peth lleiaf a gymeraf ganddo,—myned ohono ef i'r lle yr oeddwn i pan y'm tarawyd â'r bar, a minnau i'r lle yr oedd yntau, a gadael i minnau ei daro ef â'r bar. A hynny yw y lleiaf peth a gymeraf ganddo."

Hynny a fynegwyd i Ronw Pebyr.

'Ie," ebe yntau," teg yw i mi wneuthur hynny. Fy ngwŷr—da cywir a'm teulu a'm brodyr maeth, a oes ohonoch chwi a gymero yr ergyd drosof fi?"

"Nag oes, yn ddiau," ebe hwythau.

Ac o achos gomedd ohonynt hwy ddioddef un ergyd dros eu harglwydd, y gelwir hwythau er hynny hyd heddyw, "Trydydd Aniwair Deulu."

"Ie," ebe ef, "mi a'i cymeraf."

Ac yna y daethant ill dau hyd ar lan yr afon Gynfael, ac yna y safodd Cronw yn y lle yr oedd Llew Llaw Gyffes pan y tarawyd ef, a Llew yn y lle yr oedd yntau. Ac yna y dywedodd Fel y cosbwyd Gronw Pebyr Gronw Pebyr wrth Llew,—

Arglwydd," ebe ef, "gan mai o ddrwg ystryw gwraig y gwnaethum i iti a wnaethum, minnau a archaf i ti, er Duw, llech a welaf ar lan yr afon, adael im ddodi honno rhyngof a'r ddyrnod ?

"Yn ddiau," ebe Llew, ni'th omeddaf o hynny."

"Ie," ebe ef, "Duw a dalo it."

Ac yna y cymerth Gronw y llech, ac a'i dodes rhyngddo â'r ergyd. Ac yna y tarawodd Llew ef â'r bar, gan wanu y llech drwyddi, ac yntau drwyddo oni thorrodd ei gefn. Ac yna y lladdwyd Gronw Pebyr.

Ac yno y mae y llech ar lan afon Gynfael yn Ardudwy a'r twll drwyddi, ac o achos hynny y gelwir hi eto Llech Gronw.

Yntau, Llew Llaw Gyffes, eilwaith a oresgynnodd y wlad, ac a'i gwladychodd yn llwyddiannus. A dywed y chwedl iddo ef fod wedi hynny yn arglwydd ar Wynedd.

Ac felly y terfyna y gainc hon o'r Mabinogi.

DIWEDD

Nodiadau[golygu]

  1. "Derwen a dŷf rhwng dau lyn,
    Gorddu-wrych yw awyr a glyn ;
    Oni ddywedaf am ei blodau,—
    Llew yw y rhai hyn?"

  2. "Derwen a dyf yn arddfaes,
    Nis gwlych glaw, nis mwydodd;
    Naw ugain ystorom a safodd,—
    Yn ei brig Llew Llaw Gyffes."

  3. "Derwen a dyf tan oriwaered,
    Mirain a medrus im ei wedd;
    Oni ddywedaf fi wrtho,—
    Y daw Llew im harffed ?"