Mae'r dydd yn dod i'r had brenhinol

Oddi ar Wicidestun
gan Ann Griffiths
Mae'r dydd yn dod i'r had brenhinol
Gael mordwyo tua'u gwlad
O gaethiwed y priddfeini
I deyrnasu gyda'u Tad;
Eu ffydd tu draw a dry yn olwg,
A'u gobaith eiddil yn fwynhad,
Annherfynol fydd yr anthem,
Dyrchafu rhinwedd gwerthfawr waed.


Mae fy nghalon am ymadael
 phob rhyw eilunod mwy,
Am fod arni'n sgrifenedig
Ddelw gwrthrych llawer mwy –
Anfeidrol deilwng i'w addoli,
Ei garu, a'i barchu, yn y byd;
Bywyd myrdd o safn marwolaeth
A gafwyd yn ei angau drud.


Arogli'n beraidd mae fy nardus
Wrth wledda ar y cariad rhad;
Sêl yn tanio yn erbyn pechod,
Caru delw sancteiddhad;
Torri ymaith law a llygad
Ynghyd ag uchel drem i lawr;
Neb yn deilwng o'i ddyrchafu
Onid Iesu, 'r Brenin mawr.


O! am fywyd o sancteiddio
Sanctaidd enw pur fy Nuw
Ac ymostwng i'w ewyllys
A'i lywodraeth tra fwyf byw;
Byw dan addunedu a thalu,
Byw dan ymnerthu yn y gras
Sydd yng Nghrist yn drysoredig
I orchfygu ar y maes.


Addurna'm henaid ar dy ddelw,
Gwna fi'n ddychryn yn dy law,
I uffern, llygredd, annuwioldeb,
Wrth edrych arnaf i gael braw;
O! am gymdeithasu â'r Enw,
Ennaint tywalltedig yw,
Yn hallt i'r byd, gan bêr aroglau
O hawddgar ddoniau eglwys Dduw.

Tarddiadau[golygu]