Neidio i'r cynnwys

Mae Eglwys Dduw fel dinas wych

Oddi ar Wicidestun

Mae Mae Eglwys Dduw fel dinas wych yn emyn gan Benjamin Francis (1734 – 14 Rhagfyr 1799)

Mae Eglwys Dduw fel dinas wych
yn deg i edrych arni:
ei sail sydd berl odidog werth
a’i mur o brydferth feini.


Llawenydd yr holl ddaear hon
yw Mynydd Seion sanctaidd;
preswylfa annwyl Brenin nef
yw Salem efengylaidd.


Gwyn fyd y dinasyddion sydd
yn rhodio’n rhydd ar hyd-ddi;
y nefol fraint i minnau rho,
O Dduw, i drigo ynddi.