Mae bod yn fyw o fawr ryfeddod
Gwedd
- gan Categori:Ann Griffiths
- Mae bod yn fyw o fawr ryfeddod
- O fewn ffwrneisiau sydd mor boeth,
- Ond mwy rhyfedd, wedi 'mhrofi,
- Y dof i'r canol fel aur coeth;
- Amser cannu, diwrnod nithio,
- Eto'n dawel, heb ddim braw;
- Y Gwr a fydd i mi'n ymguddfa
- Y sydd â'r wyntyll yn ei law.
- Blin yw 'mywyd gan elynion
- Am eu bod yn amal iawn;
- Fy amgylchu maent fel gwenyn
- O foreddydd hyd brynhawn;
- A'r rhai o'm tŷ fy hun yn benna'
- Yn blaenori uffernol gad;
- Trwy gymorth gras yr wyf am bara
- I ryfela hyd at waed.