Neidio i'r cynnwys

Mae brodyr imi aeth ymlaen

Oddi ar Wicidestun
Mae brodyr imi aeth ymlaen

gan Dafydd Morris, Twrgwyn

Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

80[1] Undeb y Gwaredigion.
M. C.

1 MAE brodyr imi aeth ymlaen
Yn holliach a chytûn;
Deng mil o filoedd yw eu cân,
Er hyn nid yw ond un.

2 Mae pawb o'r brodyr yno'n un,
Heb neb yn tynnu'n groes,
Yn moli'r Duwdod yn y dyn,
A chofio'r angau loes.


3 Ni theimlir yno unrhyw boen,
Na chŵyno gan un clwy';
Ond pawb mewn hwyl yn moli'r Oen
I dragwyddoldeb mwy.

4 Daw'r holl dduwiolion yno 'nghyd,
O'r gogledd, de, heb ri',
A'u holl gadwynau'n chwilfriw mân,
A'u cân am Galfari.
—Dafydd Morris, Twrgwyn,

Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 651Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930