Neidio i'r cynnwys

Mae enw Crist i bawb o'r saint

Oddi ar Wicidestun
Na foed i'm henaid euog trist Mae enw Crist i bawb o'r saint

gan James Hughes (Iago Trichrug)

Sancteiddrwydd im yw'r Oen di-nam
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

123[1] Enw Grasol Iesu.
M. S.



1 MAE enw Crist i bawb o'r saint
Fel ennaint tywalltedig,
Ac yn adfywiol iawn ei rin
I'r enaid blin lluddedig.

2 Pan fyddo f'enaid yn y llwch,
A thwllwch fel y fagddu,
Mae dawn a nerth i'm dwyn yn ôl
Yn enw grasol Iesu.

3 Gobeithiwch ynddo, bawb o'r saint,
Er cymaint yw eich gofid,
Gan wybod bod eich Priod gwiw
Yn ffyddlon i'w addewid.

—James Hughes (Iago Trichrug)

Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 123, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930