Mae ffrydiau 'ngorfoledd yn tarddu

Oddi ar Wicidestun
Mae ffrydiau 'ngorfoledd yn tarddu

gan David Charles (1762-1834)

O! Salem, fy annwyl gartrefle

701[1] Ffrydiau Gorfoledd y Gwaredigion.

98. 98. D.

1 MAE ffrydiau 'ngorfoledd yn tarddu
O ddisglair orseddfainc y ne';
Ac yno'r esgynnodd fy Iesu,
Ac yno yr eiriol Efe:
Y gwaed a fodlonodd gyfiawnder,
Daenellwyd ar orsedd ein Duw,
Sydd yno yn beraidd yn erfyn
I ni, y troseddwyr, gael byw.

2 Cawn esgyn o'r dyrys anialwch
I'r beraidd Baradwys i fyw ;
Ein henaid lluddedig gaiff orffwys
Yn dawel ar fynwes ein Duw :
Dihangfa dragwyddol geir yno
Ar bechod, cystuddiau a phoen,
A gwledda i oesoedd diderfyn
Ar gariad anhraethol yr Oen.

3 O fryniau Caersalem ceir gweled
Holl daith yr anialwch i gyd ;
Pryd hyn y daw troeon yr yrfa
Yn felys i lanw ein bryd ;
Cawn edrych ar stormydd ac ofnau,
Ac angau dychrynllyd, a'r bedd,
A ninnau'n ddihangol o'u cyrraedd
Yn nofio mewn cariad a hedd.

David Charles (1762-1834)


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 701 yn Llyfr Emynau Y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930