Mae sŵn y clychau'n chwarae
Mae Mae sŵn y clychau'n chwarae yn Emyn gan w:Ann Griffiths
Mae sŵn y clychau'n chwarae
Wrth odrau Iesu mawr
Ac arogl y pomgranadau
I'w clywed ar y llawr;
Maddeuant i bechadur
Yn effeithio i fwynhad,
Er mwyn yr aberth difai
A lwyr fodlonai'r Tad.
Cofia ddilyn y medelwyr,
Plith 'r ysgubau treulia d'oes;
Pan fo'r gwres yn fwya' tanbaid,
Gwlych dy damaid wrth y groes;
Lloffa yn maes yr ysgrythyrau,
Lle mae tywysenau addfed llawn,
Hael fendithion y cyfmod
Sydd yn dyfod trwy yr iawn.
Pan oedd Sinai gynt yn danllyd,
Ar gyhoeddiad cyfraith Duw,
A'r troseddwyr yn ddychrynllyd,
Ac yn ammheu a gaent fyw;
Yn nirgelwch rym y daran,
Codwyd allor wrth ei droed;
Ebyrth oedd yn rhagddangosiad
O'r aberthiad mwya' erioed.
O na b'ai fy mhen yn ddyfroedd,
Fel yr wylwn yn ddilai
Am fod Seion lu banerog
'Ngwres y dydd yn llwfrhau;
Mae llwynogod ynddi'n rhodio,
I ddifwyno'r egin grawn,
A'r Secena yn ymado
O foreu dydd hyd prydnawn.
Y mae dyfroedd iachawdwriaeth,
A'u rhinweddau mewn parhad;
Y mae ynddynt feddyginiaeth
Anffaeledig ac yn rhad:
Deuwch gleifion codwm Eden
I ddefnyddio'r dyfroedd hyn;
Ni bydd diwedd byth ar rinwedd
Sylwedd mawr Bethesda lyn.
A raid i'm sêl oedd farwor tanllyd
Unwaith at d'ogoniant gwiw,
Caredigrwydd fy ieuenctid
Fyn'd yn oerach at fy Nuw?
Preswylydd mawr yr uchelderau,
Datguddia wedd dy wyneb llon,
Nes dyrchafy fy serchiadau
Oddiar bethau'r ddaear hon.
Deffro, Arglwydd, gwna rymusder,
Cofia lŵ'r cyfammod hedd,
Gwel dy enw mawr dan orchudd,
Tystion sydd yn wael ei gwedd;
Dywed air a'i cwyd i fyny,
Ti yw'r atgyfodiad mawr,
Argraffiadau'th enw newydd
Ddisgleirio arnynt fel y wawr.
Mi gerdda'n ara' ddyddiau f'oes
Dan gysgod haeddiant gwaed y groes,
A'r yrfa redaf yr un wedd,
Ac wrth ei rhedeg sefyll wnaf,
Gwel'd iachawdwriaeth lawn a gaf,
Wrth fynd i orphwys yn y bedd.