Marwnad Ifor a Nest

Oddi ar Wicidestun

gan Dafydd ap Gwilym

Henaint anghywraint a hiraeth, - a phoen
a phenyd fal blaen saeth,
marw Ifor, nid rhagoriaeth,
marw nest, y mae Cymry'n waeth.


Maen'n waeth am dadmaeth ; mae dôr - rhof ac ef
yn gyfyng ym mlaen côr;
marw Nest, mae f'arwest yn fôr,
morwyn nef ; marw iawn Ifor.


Gorau oedd Ifor â'i gorff syth, - ein rhi,
yn rhoi Deifr ar esyth,
ar a fu, gu gwehelyth,
ar y sydd ac a fydd fyth.


Nid af byth o'm nyth gan wµd - i gerddor
a gerddodd cylch y byd;
ni chân fy neufraich ennyd,
ni chaf, ni feddaf hawdd fyd.


Hawdd fyd a gyfyd digofaint - calon,
a hiraeth i'r fron hon, a henaint.
Herwydd wylaw glaw, glas ennaint - orchest,
am Ifor a Nest, mwyfwy yw'r naint.
Hael Ddofydd, tremydd, hwyl trymaint - a'm pair,
gweled Nest ni chair, crair, gair gwyraint.
Rhaglyw afael yw, neu ofeiliaint - poen,
ceinlliw haf oroen, caen llifeiriaint,
wrth weled ciried cariad saint - am fudd,
ac anwylyd prudd a gynheiliaint,
nest wengoeth, winddoeth, wenddaint, - ac Ifor
â mwy no rhagor y'm anrhegaint.
â lluchwin o wydr y'm llochaint - ar hail,
A medd o fuail mwy ddifeiaint.
A rhuddaur a main a'm rhoddaint - bob awr,
â hebogau mawr y'm hebygaint.
Hir ddoniau i'r ddau, hwyr ydd aint - dan gŵl
i gyd i ochel 'n eu godechaint;
ac undyn ydyn' ni'm oedaint - am fudd,
ac un dadannudd am fudd fyddaint.
Llyw llygrgaer yn aer ni wnaint - yn eiddil,
anturiai nawmil mewn twrneimaint.
Llys Fasaleg deg dygaint - hawddamawr,
a gwawr ei heurllawr, lle mawr meddwaint,
lle bydd lleferydd, llifeiriaint - gwinllestr
a golau fenestr ac ael-feiniaint.
Llafnfriw, llwrw iawnwiw Llµr ennaint - Einglgrwydr,
a llew ysigfrwydr lluosogfraint.
Llorf llu, lled garu, lledw geraint - ym mro;
Llywio naf huno nef i henaint.