Marwnad Llywelyn ap Gruffudd

Oddi ar Wicidestun

gan Gruffudd ab yr Ynad Coch

Oer gallon dan vron o vraw allwynin
am vrenhin derwin dor Aberffraw.
Eur dilyf yn a elit oe law,
eur daleith oed deilwng idaw.
Eurgryn eur deyrn nym daw llewenyd
Llywelyn, nyt ryd ym rwyd wisgaw.
Gwae vi am arglwyd, gwalch di waratwyd,
gwae vi or aflwyd y dramgwydaw.
Gwae vi or gollet, gwae vi or dynghet,
gwae vi or clywet vot clwyf arnaw.
Gwersyll Katwaladyr, gwaessaf llif daradyr,
gwas rud y baladyr, balawc eur llaw,
gwascarawd alaf, gwascawd bop gaeaf
gwisgoed ymdanaf y ymdanaw.
Bucheslaw arglwyd, nyn llwyd yn llaw;
buched dragywyd a dric iadw.


Ys meu lit wrth Seis am vyn treisiaw;
ys meu rac angeu angen gwynaw;
ys meu gan deunyd ymdiuanw a Duw
am edewis heddaw.
Ys meu ganmawl heb dawl, heb daw,
ys meu vyth bellach y veith bwyllaw.
Ys meu ym dyonedyl amdanaw alar;
canys meu alar ys meu wylaw.
Arglwyd a golleis, gallaf hir vraw;
arglwyd teyrnblas a las o law.
Arglwyd kywir gwyr gwarandaw arnaf
Uchet y kwynaf: och or kwynaw!
Arglwyd llywd kyn llad y deunaw,
Arglwyd llary neut llawr y ystaw.
Arglwyd glew val llew yn llysyaw eluyd,
arglwyd aflonyd y alunyaw.
Arglwyd kanatlwyd kynn adaw ewreis
ny lyfasei Seis y ogleissyaw.
Arglwyd neut maendo man daw Kymry,
or llin a dyly daly Aberffraw.
Arglwyd Grist mor wyf drist drostaw!
arglwyd gwir gwaret y ganthaw.
O gledyfawt trwm tramgwyd arnaw,
o gledyfeu hir yn y diriaw,
o glwyd am vy rwyfyssy mrwyfaw,
o glywet lludet llyw Bodvaeaw.
Kwbyl o was a las o law ysgereint,
kwbyl vreint y hyneint oed ohonaw;
kannwyll teyrrned, kadarnllew Gwyned,
kadeir arnyded rreit oed wrthaw.


O leith Prydein veith, kynllwith kanllaw,
o lad llew Nancoel, lluryc Nancaw.
Llawer deigyr hylithyr yn hwylaw ar rud,
llawer ystlys rud a rwyc araw;
llawer gwaet am draet wedy ymdreidyaw,
llawer gweddw a gwaed y amdanaw,
llawer medwl trwn yn tonnwyaw,
llawer mab heb dat gwedy y adaw,
llawer henderf vreith gwedy llwybyr fodeith
a llawer diffeith drwy arneith draw;
llawer llef druan ual ban vu Gamlan,
llawer deigyr dros rann gwedyr greinyaw.


O leas gwanas gwanar eurllaw,
o leith Llywelyn cof dyn nym daw.
Oeruelawc callon dan vronn o vraw,
rewyd val crinwyd yssys crinaw.


Pony welwch chwi hynt y gwynt ar glaw?
Pony welwch chwi r drei yn ymdaraw?
Pony welwch chwi r mor yn merwinaw yr tir?
Pony welwch chwi r gwir yn ymgyweiaw?
Pony welwch chwi r heul yn hwylaw r awyr?
Pony welwch chwi r syr wedyr syrthiaw?
Pony chredwch chwi y Duw, dynyadon ynvyt?
Pony welwch chwi r byt wdyr dydyaw?
Och yt attat ti Duw na daw mor tros dir!
Pas beth yn gedir y ohiriaw?


Nyt oes le y kyrcher rac carchar braw,
nyt oes le y trigyer:och or trigyaw!
Nyt oes na chyngor, na chlo nac egor
Unfford y escor brwyn gyngor braw.


Pob teulu teilwng oed idaw,
pob kedwyr kedwynt adanaw.
Pob dengyn a dyngynt oe law,
pob gwledic, pob gwalt oed eidaw.
Pob cantref, pob tref ynt yn treidyaw,
pob tylwyth, pob llwyth yssyn llithraw.
Pob gwann, pob kadarn kadwet oe law,
pob mab yn y grut yssyn udaw.


Bychan lles oed ym am vyn twyllaw,
gadel penn arnaf heb penn araw.
Penn pan las ny oed lessach peidyaw;
penn pas las oedd lessach peidyaw;
penn milwr, penn molyant rac llaw,
penn dragon, penn dreic oed arnaw;
penn Llywelyn dec dygyn a vraw byt
bot pawl heaarn trwydaw;
penn varglwyd, poen dygyngwyd am daw,
pan veneit heb vanac aranw;
penn a vu berchen a barch naw canwlat
a naw canwled idaw;
penn teyrn, heyrn heeit oe law,
penn teyrn, walch balch bwlch y geifnaw;
penn teyrneid vleid vlaengar ganthaw,
penn teyrnef, nef y nawd arnaw!


Gwyndeyrn orthyrn wrthaw gwendoryf
Gorof gorvynt hynt hyt Lydaw.
Gwir vreinyawl vrenhin Aberffraw,
Gwenwlat nef boet adef idaw!