Marwnad Siôn Eos
Gwedd
gan Dafydd ab Edmwnd
- Drwg i neb a drigo’ n ôi
- cost am un cas damweiniol;
- y drwg lleia o’r drygwaith
- yn orau oll yn yr iaith.
- O wŷr, pam na bai orau,
- o lleddid un na lladd dau?
- Dwyn ein gelynwaed a wnaeth,
- dial ein dwy elyniaeth.
- Oedd oer ladd y ddeuwr lân
- heb achos ond un bychan
- Er briwio’r gŵr, heb air gwad,
- o’I farw ni bu fwriad.
- Yr oedd y diffyg ar rai
- am adladd mewn siawns medlai;
- ymrysonam yr oesau
- a’r ing a ddaeth rhwng y ddau.
- Odd yna lladd y naill ŵr
- a’i ddial, lladd y ddeuwr.
- Y corff deros y corff os caid,
- yr iawn oedd well i’r enaid.
- Oedd, wedi, addedidion,
- ei bwys o aur er byw Siôn.
- Sorrais wrth gyfraith sarrug;
- Swydd y Waun Eos a ddug.
- Y swydd, pam na roit dan sêl
- i’th Eos gyfraith Hywel?
- Ar hwn wedi cael o rhain
- ffrwythlonder cyfraith Lundain,
- ni mynnen am ei einioes
- noethu crair na thorri croes.
- Y gŵr oedd dad y gerrd dant
- yn oeswr ni barnasant;
- dueddeg yn un oeddyn,
- Duw deg, ar fywyd y dyn.
- Wedi Siôn nid oes synnwyr
- aa i gerdd na dyn a’i gŵyr;
- torres braich tŵr eos brig,
- torred mesur troed miwsig,
- torred ysgol tŷ’r desgant,
- torred dysg fal torri tant.
- Oes mwyr ehwng Eaus a Môn
- o’r dysg abl i’r disgyblion?
- Rheinallt nis gŵyr ei hunan,
- rhan gŵr er hynny a gân.
- Fe aeth dy gymar yn fud,
- yn dortwll delyn Deirtud.
- Ti y sy’n twei â sôn,
- telyn aur y telynorion.
- Bu’n dwyn dan bob ewin dant,
- bysedd llef gŵr neu basdant;
- myfyrdawd rhwng bawd a bys,
- main a thebl mwyn â thribys.
- Oes dyn wedi’r Eos deg
- yn gystal a gân gosteg
- a phrofiad neu ganiad gŵr,
- a chwlwm ger bron uchelwr?
- Pwy’r awron mewn puroriaeth,
- pe na bai a wnâi, a wnaeth?
- Ag atgas ni wn gytgerdd,
- eisieu gwawd eos y gerrd.
- nid oes nac angel na dyn
- nad ŵyl pan gano delyn.
- Och henu rhag ei chanu,
- wedi’r farn ar awdur fu.
- Eu barn ym mhoreth nef ni bydd,
- Wŷr y Waun, ar awenydd.
- Os iawn farn a fu arno,
- yr un farn aenyn a fo.
- fô a gaiff ei fywyd,
- nid o’u barn newidio byd.
- Oes fy nyn y sy yn nos,
- oes fy Nuw i Siôn Eos!