Marwysgafn

Oddi ar Wicidestun

gan Meilyr Brydydd

Rex regwm, Rebyt rwyt voli,
ym arglwyt uchaf archaf weti.
Gwledic gwlad oruod goruchel wenrod,
gwrda, gwna gymod gryghod a mi!
adureu, aduant cof dy rygoti
erof, ac ediuar y digoni;
digoneis geryt yg gwyt Duw Douyt,
vy yawn greuyt heb y weini.
Gweiniuiu, hagen, y’m Reen Ri
kyn bwyf deyerin diuenynhy. 10
Diheu darogant y Adaf a’e blant
y ry draethyssant y proffwydi:
Bod Yessu ym mru Meir (merch y Ri!),
meir, mad ymborthes y beichogi!
Beich rygynilleis o bechaud an noueis
Ry dy ergryneis oe gymhelri
Rwyf pobua mor da wrth dy yoli
Ath yolwyf ry purwyf kyn nom poeni
Brenhin holl riet am Gwyr nam gomet
am y drugraret om drygioni
keueis y liaws awr eur a phalli
gan ureuawl rieu yr eu hoffi
ac wedy dawn awen amgen ynni
Amdlawd uyn tauawd ar vyn twei
mi veilyr brydyt beryerin y bedyr
porthawr a gymedyr gymhes deithi
pryd y bo kyfnod yn kyuodi
a ssawl y ssy met ar maa ui
As bwyf yn adef yn arhos y llef
y lloc a achef aches wrthi
ac yssi ditrif didreul ebri
ac am y mynwent mynwes heli
ynys veir uirein ynys glan y glein
gwrthrych dadwrrein y kein yndi
Krist croes darogan am gwyr am gwarchan
rac uffern affan wahan westi
kreawdyr am crewys am kynnwys I
ym plith plwyf gwirin gwerin enlli.